Gwrid y Machlud/Hydref
← Hiraeth | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Y Gwrthodedig → |
HYDREF
O GWYBUM heno gur
A phenyd blin Yr hydref garw,
Megis deilen grin Y cludir finnau
Gan y gwynt
Tu draw i'r ffiniau
Pellaf; diwedd hynt
A ddaw yn sgil yr hydre'
A'r gaeaf yn y coed
Yn galw'r crinddail adre'
Yn drwm ei droed.