Gwrid y Machlud Gwrid y Machlud

gan Richard Jones (Ap Alun Mabon)

Cynnwys

RHAGAIR

Yn sicr, nid oherwydd bod yr awenydd hynaws hwn yn fy nyled o ddim y telir i mi'r anrhydedd o gyflwyno'i gyfrol goffa. Yn wir, prin y gallaf obeithio imi wneuthur rhagor efallai na'i arbed rhag ambell siwrnai seithug ym myd llen. Ni ddisgwylir traethiad ychwaith ar gelfyddyd barddoniaeth, oblegid rhwng CERDD DAFOD, John Morris Jones, ac ELFENNAU BARDDONIAETH T. H. Parry-Williams, a llyfrau gwych eraill, y mae gan y Cymro bellach gyfarwyddiadau digyfeiliorn ar y pwnc. Diau mai gwell imi ydyw ceisio rhoddi i'r darllenydd yr allwedd honno sy'n agor y porth ar fyd arbennig AP ALUN MABON, fel y caffo'r dieithr ychydig gymorth i'w weld fel rhan o ddarlun mwy.

Fodd bynnag, ni ddaw ond hiraeth pur o gofio am fy nhywys i'w fyfyrgell yn haf 1926. Yn y gongl yr oedd Cadair Eisteddfod Porthmadog, ac ar y bwrdd gwelid gweithiau prydyddol Crwys, Eifion Wyn, W. J. Gruffydd a Hedd Wyn. Yr oedd y rhain ar agor, a chyfrolau eraill fel eiddo R. Williams-Parry o fewn cyrraedd agos; beirdd y ganrif hon bron i gyd. Nid oedd Islwyn yn y golwg, ac ni welid Ceiriog heb graffu'n fanwl. Os nad oedd ei awduron yn hen eu cyfnod, yr oedd tras rhai ohonynt felly, ac o ddamwain, bu'n hynod ffodus ar ei batrymau.

Yno yn ei gynefin yr oedd gŵr ieuanc, gwylaidd, rhadlon, a thwymyn prydyddu yn ei waed. Yr oedd rhyw wrando yn ei edrych, fel un yn clywed llais o ddarlun, ac yn ymwybod â lliw geiriau. Yn ei ymyl safai ei briod hawddgar, Grace Hughes—merch lygat-ddu. Edrychent ill dau megis yn cychwyn ar fordaith, ac antur obeithgar y bore yn eu trem.

Ond cyn hir wele wyneb y bardd yn pruddhau a chyn iddo gael gafael ar gan ei galon daeth gwrid fel ffoadur brysiog ar dro dros ei ruddiau, a phesychu bradwrus gydag ef. Naturiol oedd gofyn, beth sy'n cerdded enfys eu gwynfyd? ai blaendywynion rhyw "Ddeffrobani" yr yfodd gymaint o'i swyn, neu ynten wrid y machlud cynnar? Ysywaeth, daw "caledi'r graig a'r hin" i siarad yn y man, oblegid, os oedd ei ebill ef yn gryfach na'r clogwyni, yr oedd eu llwch yn wenwyn marwol iddo.

Un o blant Glanypwell, Blaenau Ffestiniog, ydoedd. Yno, ym Mryntirion, y ganwyd ef, yn fab i Alun Mabon Jones a'i briod, a galwyd ef Richard. Derbyniodd ei addysg yn ysgolion dydd Glanypwll, a Phensarn, Amlwch. Aeth i Fon at ewythr iddo, a thra bu yno dechreuodd farddoni. Bu rhai o feirdd Amlwch yn rhywiog iawn wrtho, ac anogasant ef i ddal ati, yn enwedig gwyr fel David Jones a Dyfrydog. Enillodd glust a llygad y cylch pan gipiodd wobr bwysig am draethawd ar Forgan Llwyd o Wynedd.

Ar ôl dychwelyd i 'Stiniog, troes i weithio i'r chwarel, ond bu dilyn gorchwyl y "meinar" dan y ddaear yn ormod treth ar ei gorff iraidd, a thuag wyth mlynedd yn ôl pallodd ei iechyd yn llwyr. Rhoes gynnig ar waith ysgafnach, eithr, er brwydro am fyw, a threulio ysbeidiau maith ym Machynlleth a Thalgarth, nis adferwyd. Ar Ddydd y Cadoediad 1940, angau a orfu, a chafodd yntau yr "hir hedd" y canodd droeon amdano. Gwyddai o'r gorau fod awr yr ymddatod yn nesáu. Dywedodd wrth Olygydd y gyfrol hon am gymryd gofal o'i bapurau, a nododd y fan y carai huno yng nghalon wenithfaen Bethesda, ac fe'i cafodd.

Llais o ganol yr ymdrech ddibaid hon a glywir yn y llyfr. Cerddi cystudd ydynt, a gwyrth ymron ydyw bod un yn gallu canu mor ber a chysgod y bedd yn ei ddilyn ar hyd y ffordd, Daliodd i ennill cadeiriau lawer o'r dydd y barnodd Llwyd Eryri ef yn orau yn llanc ugain oed.

Efallai y cofir amdano fel un a afradodd lawer ar ei awen ar lwybrau galar, oherwydd prin yr hebryngid neb at Droed y Manod Bach" nad oedd ef a phennill neu englyn tyner fel pelydr yn y nos. Bid a fo, yr oedd ef yn marw beunydd, a gwyddom iddo ddrachtio hyfrydwch wrth rannu cydymdeimlad. Cadwodd enw'r teulu'n loyw ym myd athrylith, ac os yw "Perorfryn" ar gadw yn y cerddi hyn, y mae ei daid, Eos Mai, a'i ewythr, Pencerdd Ffestin, yn enwog o hyd ar gof gwlad.

Wrth gyflwyno'r Gyfrol Goffa, mi wn nad o ffafr y croesewir hi gan feirdd a llenorion Cymru, oblegid ceir ynddi ddarnau o wir farddoniaeth, a thelynegion lled anghyffredin. Uwchlaw popeth, dylid llongyfarch y cyfaill llengar J. W. Jones, am ddethol mor gytbwys. Nid yw ond un arall o'i fyrdd cymwynasau i lên ei Wlad. Rhwydd hynt i lafur dihalog hyrwyddwyr yr anturiaeth.

E. LEWIS EVANS.

Pontarddulais,

Mehefin 18, 1941.

Nodiadau

golygu