Gwrid y Machlud/Tybed
← Yr Antur | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Hiraeth → |
II.
Cerddi Myfyr ac Ymson
TYBED
A MI yn loetran ar y trothwy oer
Rhwng byd a'r olaf ffin,
A'r angau cas yn mynnu chwythu ei boer
Ar f'enaid blin
Tybed a ddeil fy lamp rhag llosgi'n llwyr?
A ddiffy'r golau gwan
A'm gadael yn nhywyllwch niwl yr hwyr
Ymhell o'r lan?
A'm hesgyrn gwael yn pydru yn y gro
Yn un o feirw'r bedd,
Ac anweledig wynt y nos ar dro
Yn gwylio'm hedd.
Tybed a ddaw rhyw ffrind at fin y main
Yn erw dawel Duw,
I blannu blodau'r grug yn lle y drain
Roed imi'n fyw?