Gwroniaid y Ffydd/Safle Gymdeithasol
← Rhyddid Barn | Gwroniaid y Ffydd gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Ysbryd Rhyddid → |
PENNOD II.,
SAFLE GYMDEITHASOL.
YR ydym yn credu fod y rhyddid hwn yn eiddo i ddyn fel dyn, a hyny, yn un peth, annibynol ar safle gymdeithasol. Yr hyn sydd mewn dyn sydd yn ei gymhwyso i farnu, ac nid yr hyn sydd ganddo. Mae yn canlyn nad oes un dosbarth mewn cymdeithas wedi eu hordeinio i farnu dros y gweddill. Mae hawliau barn bersonol yn ymestyn o'r uchaf hyd yr isaf. Wrth gwrs, byddai yn ynfydrwydd dyweyd fod gan ddyn cyffredin gystal barn a'r dysgedig ar lawer o bethau. Ond mewn perthynas i'r materion hyny sydd yn dal cysylltiad â dyn fel dyn, nid yw rhyddid barn yn cydnabod terfynau dosbarth o gwbl. Ac un rheswm amlwg fod y llïaws heb allu dringo llawer hyd raddfa barn ydyw fod agoriad gwybodaeth wedi ei gadw oddiwrthynt am lawer oes. Gosodai mawrion byd eu hunain yn farnwyr ar ryddid y rhai oedd yn digwydd bod yn israddol iddynt o ran eu hamgylchiadau. "Y bobl hyn - melldigedig ydynt," oedd iaith y Phariseaid yn nyddiau yr Iachawdwr. A dyma gnewyllyn brwydrau rhyddid ymhob oes-dosbarth yn ceisio gorfaelu yr hyn sydd yn hawlfraint greadigol i ddyn fel y mae yn dwyn delw Duw. I'w Grewr yn unig y mae dyn yn gyfrifol am ei farn. Nid oes gan neb hawl i arglwyddiaethu ar gydwybod ond yr Hwn sydd yn Arglwydd arglwyddi, a Brenhin brenhinoedd. Dyma un o'r pethau penaf sydd yn cyfansoddi mawredd dyn: y mae yn fod rhydd ymhob cylch i ffurfio ac i feddu barn. Mae amddifadu y tlotaf yn y tir o'r rhyddid hwn yn gysegryspeiliad. Gall dyn fod yn dlawd, ond pe heb le i roddi ei ben i lawr, y mae yn ei feddiant un peth nas gall etifeddion daear ei brynu-rhyddid barn. Dylai geiriau yr Apostol suddo i ddyfnder calon pob dosbarth-"I ryddid y'ch galwyd chwi." Sefwch ynddo, na ddefnyddiwch ef yn achlysur i'r cnawd.
AWDURDOD A THRADDODIAD.
Y mae dyn yn meddu y rhyddid hwn hefyd yn annibynol ar awdurdod dynol neu draddodiad. Yr oedd traddodiad y tadau yn llyffetheirio yr Iuddewon i ffurfio barn drostynt eu hunain. Ac y mae awdurdod eglwysig wedi cyffio rhyddid barn yn y byd crefyddol am oesau maith. Dyma un o ddrygau y Babaeth. Y mae yn gosod awdurdod Cynghorau a Chynhadleddau yn wrthglawdd ar ffordd llanw barn a llafar. Mae y dyn unigol yn rhoddi ei farn i fyny, fel y gwnaeth Cardinal Newman, ac yn ymgrymu i farnau llwydion hen Gynghorau ar y pynciau pwysicaf i ddyn eu deall a'u credu. Ond wrth ymddwyn fel hyn, y mae yn aberthu y rhodd ddwyfol o ryddid ar allor traddodiad. Nis gellir gwadu nad ydyw "traddodiad" yn allu pwysig yn Nghymru. Ceir lluoedd yn coleddu syniadau gwleidyddol a chrefyddol ar gyfrif y ffaith fod eu henafiaid a'u perthynasau yn gwneyd yr un peth. Nid ydym yn dyweyd fod eisiau anmharchu awdurdod neu ddibrisio traddodiad; ond rhagorfraint y dylai pob dyn ei gwerthfawrogi ydyw—fod ganddo ryddid i ffurfio barn ar bynciau mawrion cred a buchedd, yn hollol fel pe mai efe fuasai y dyn cyntaf a anwyd i'r byd. Y mae un awdurdod ag yr ydym yn ystyried ei lleferydd yn oruchaf, ond y mae hono wedi deilliaw oddiwrth Ffynnon rhyddid a Thad y goleuni. Breinlen Fawr—Magna Charta—rhyddid ydyw y Beibl. Y mae yn werth cofio mai y llyfr hwn yr edrychir arno fel awdurdod derfynol gan ddyn sydd, hefyd, yn hawlio i ddyn y rhyddid mwyaf goruchel y gall ei feddu —rhyddid barn. Ond y mae i bob gwir ryddid ei derfynau, neu ei ddeddfau priodol, ac yr ydym yn credu hyny am ryddid barn. Y mae deffinio y terfynau hyn lawer pryd yn orchwyl anhawdd, ac yn aros yn gwestiwn agored hyd y dydd hwn.
YR "ORACL."
Ond nodwn ddau derfyn sydd eithaf amlwg:—Nid ydyw dyn i osod ei farn ei hun yn safon i eraill. "Rhydd i bawb ei farn." Gall barn y naill fod o wasanaeth i'r llall, ond ni ddylid ei gosod i fyny fel safon. Fe ddywedir am ambell i awdwr ei fod yn safon mewn chwaeth, neu mewn arddull; ond anfynych y sonir am ddyn fel safon mewn barn. Mae yn wir fod y gair judicious wedi ei gysylltu yn anwahanol â Hooker, awdwr yr Ecclesiastical Polity. Cysylltir dysg â Dr. Owen, cyfoeth arddull â John Howe; ond y "judicious Hooker" a ddywedir yn wastad. Eto y mae dynion yn gwahaniaethu oddiwrth Hooker. Dengys hyny nad ydyw yn safon derfynol, ac mae yn ddiau nad ydoedd yn ystyried ei hun felly. Safon barn ydyw gwirionedd ac egwyddor, ac y mae y rhai hyn yn bod yn annibynol ar farnau personol. Tra y bydd dyn yn feidrol, a gwirionedd, fel ei Awdwr, yn anfeidrol, nis gellir disgwyl unffurfiaeth mewn barn. Gan hyny yr ydym yn boddloni ar barchu barnau ein gilydd, ond ni fynem droi yn eilunaddolwyr. Dylai dyn ymladd dros ei farn, os bydd raid; ond ymgadwed rhag gwneyd ei hun yn oracl. Mae dyddiau y cyfryw wedi eu rhifo. Gwrthddrych tosturi i bob dyn call ydyw y cymeriad a ddesgrifir gan Shakespeare yn y Merchant of Venice::—
Dywedaf it', Antonio,
Dy garu'r wyf, a'm serch lefara hyn.—
Mae math o bobl i'w cael, a'u gwedd bob pryd
Yn sobr, difrifol, fel y llonydd lyn.
Ac yn fwriadol, cadw'n ddistaw wnant,
Er mwyn rhoi argraff ddofn ar feddwl byd
O bwyll, doethineb, synwyr di-ben-draw,
Ac fel yn dyweyd, "Syr Orael wyf,
A phan lefaraf na chyfarthed ci!"
O, fy Antonio, 'rwy'n eu hadwaen hwy,
Gyfrifir gan y byd yn hynod ddoeth
Am dd'wedyd dim!
BARNU AMCANION.
Nid yw y rhyddid hwn yn caniatau i ddyn farnu bwriadau neu amcanion ei gyd-ddynion. Barnwyr gweithredoedd ydym ni; i Un arall, y perthyn profi "bwriadau a meddyliau y galon." Yr ydym yn hynod barod i droseddu y ddeddf hon, ac i gamarfer ein rhyddid. Y duedd hon sydd yn rhoddi grym i'r anogaeth yn y bregeth ar y mynydd: "Na fernwch, fel na'ch barner." Y mae amcanion pobl yn private ground hyd nes y byddont wedi ymgnawdoli mewn actau gweledig. Nid ydym i fod yn "farnwyr meddyliau" da na drwg. Pan yn priodoli amcanion i eraill yr ydym yn croesi ffin rhyddid barn, ac yn sangu ar lanerch y mae yn ysgrifenedig ar ei therfynau eithaf, "Troseddwyr a gosbir."
Y DDAU GYFNOD.
Gellir rhanu bywyd dyn ynglŷn â'r pwne hwn i ddau gyfnod. Yn y cyntaf, y mae yn ffurfio ei farn, ac yn ceisio dadrys problems mawrion bywyd; wedi cyrhaedd yr ail, y mae ei farn ar bobpeth wedi ei sefydlu. Y mae ganddo ei farn, ac nid yw yn debyg o'i newid am un arall. Ychydig o ddynion, meddir, sydd yn newid eu barn wedi pasio 60 mlwydd oed. Yn awr, yr ydym yn cyfeirio at y rhai sydd yn y blaenaf, a'r pwysicaf mewn gwirionedd-cyfnod ffurfio barn. A thuag at hyny, meithriner y cariad dyfnaf at wirionedd. Sylwa doethawr Paganaidd fod Plato yn gyfaill iddo, a bod Socrates yn gyfaill, ond fod gwirionedd yn fwy o gyfaill iddo na'r ddau. Gall llu o oleuadau eraill fachlud, ond byth ni ddiffydd goleuni y gwir. Dilynwn hwnw i ba le bynag yr elo. Y mae dynion, wrth ganlyn y gwirionedd, wedi myned drwy y tân a'r dwfr; ond ni foddwyd eu hegwyddorion gan y dyfroedd, ac ni losgwyd eu crediniaeth gan y fflam. Yr oll a wnai tân merthyrdod oedd puro eu sothach, a'u gwneyd yn fwy o allu yn y byd fel amddiffynwyr gwirionedd. Cymerwn ninau Wirionedd yn golofn dân i'n harwain drwy anialwch amheuon i Ganaan sicrwydd cred a barn.
Y DDYLEDSWYDD O FEDDWL.
Meddyliwn drosom ein hunain. Gwendid mewn dyn ydyw meddwl llawer am dano ei hun; ond mawredd yn mhawb ydyw meddwl llawer drosto ei hun. Gochelwn fod yn Gibeoniaid meddyliol, gan dreulio ein hoes yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i eraill. Beiddiwn feddwl nes meddu ar syniadau y gellir dyweyd am danynt iddynt gael eu bôd “on the premises." "Ni raid i Arthur wrth ffyn baglau;" a rhagoriaeth meddyliwr ydyw medru cerdded drosto ei hun.
Nis gallwn derfynu heb grybwyll y ffaith fod yn bosibl, ac yn angenrheidiol i ddyn rai gweithiau newid ei farn. Yr oedd diweddar arweinydd Ty y Cyffredin yn hòni iddo ei hun yr hawlfraint hon, ac yn ymddangos yn benderfynol o'i hawlio mewn dull a gyfiawnhai sen ei gydlafurwr cariadus, Mr. Chaplin, fod rhai dynion yn newid eu barnau yn fuan iawn! Tra yn dadleu dros ddiysgogrwydd mewn barn, nid ydym am hòni iddi anffaeledigrwydd. Mae y dynion mwyaf wedi newid eu barn ar lawer pwnc. Fe ysgrifenodd Awstin gyfrol i alw yn ol sylwadau a wnaethai mewn blynyddau blaenorol ar faterion duwinyddol, am fod ei farn am danynt wedi cyfnewid. Ond ni ddylai hyn fod yn beth dibwys na byrbwyll ar unrhyw amgylchiad. Y mae barnau wedi cael eu cymharu i oriaduron. Nid oes dwy oriawr yn hollol yr un fath, ac eto y mae pawb, meddir, yn coelio ei oriawr ei hun. Yr un modd mewn perthynas i farnau a golygiadau. Ond gyda'r watch y mae dynion call yn myned â hi yn awr ac eilwaith i'w gosod yr un fath ag amser Greenwich, neu yn hytrach ag awrlais yr haul. Y mae eisiau gweithredu yr un fath gyda barn bersonol. Dylid ei dwyn yn fynych i "wyneb haul, llygad goleuni "-goleuni rheswm a goleuni ffeithiau. Y mae yr haul hwn yn codi yn uwch i'r làn o hyd. Un rheswm a roddid dros gael cyfieithiad diwygiedig o'r Beibl ydoedd fod llawysgrifau wedi eu darganfod oeddynt yn taflu goleuni pwysig ar y testun gwreiddiol. Ac fe ellir dyweyd fod rheswm tebyg yn bod dros i ddynion revisio eu barnau a'u syniadau. Dygir ffeithiau newyddion i oleuni, ac os na chydsaif y farn flaenorol â'r ffaith bresennol-dylid ei newid.
Y LLYS AGORED.
Llys agored ydyw llys barn bersonol i fod. Nid oes un dystiolaeth i gael ei gwrthod; ac, o'r tu arall, nid oes un syniad i gael ei gollfarnu cyn cael true bill yn ei erbyn. Ond y mae egwyddorion y llys yn aros yn ddigyfnewid. Yr un yw Gwirionedd ymhob oes. Y mae yn werth i ni gloddio a myned yn ddwfn i osod ein barn bersonol ar seiliau cedyrn egwyddorion, ac yna ni raid ofni unrhyw chwyldroad. Bydd pob cyfnewidiad yr awn drwyddo yn cydredeg â'r eiddo natur ei hun. Cyfnewid y byddwn fel y mae bywyd yn gwneyd,-o'r anmherffaith i'r perffaith, o'r rhan i'r oll, o'r wawr i'r dydd. Yn yr ystyr hwn gellir defnyddio geiriau prydferth y Salmydd, "Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd!"