Gwyn fyd y rhai sy'n byw trwy ffydd
Mae Gwyn fyd y rhai sy'n byw trwy ffydd yn emyn gan Dr George Lewis DD (1763 – 1822).
- Gwyn fyd y rhai sy'n byw trwy ffydd
- Cant nerth o'r nef yn ol y dydd
- Mae Crist o'u plaid, bob dydd, bob nos
- Fe'u deil i'r lan, er dan y groes
- Ni all y ddraig, na'r cnawd, na'r byd
- Mo'u dal yn ol, er maint eu llid
- Mae'u pwys ar Grist, bob dydd, bob awr
- Pa le mae neb a'u teifl i lawr
- Er bod yn wan, ânt fawr a man
- I wlad yr hedd, trwy ddwfr a than,
- Cant fod dros byth, heb boen na chur,
- O fewn i'r nef, oll cyn bo hir.