Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LI

Cerdd Cerdd L Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd LII

LI A adroddwyd yn y wledd wrth yfed y llwncdestyn "Parchus Goffadwriaeth Dewi Sant," ar adeg Eisteddfod fawr Caernarfon 1824.

Sant Dewi sy'n y tywod—yn llechu
Yn lloches y beddrod;
Hen Babydd[1] yn nydd ei nod,―
Ef er hyn fu orhynod.
—PETER EVANS, Caernarfon.[2]


Nodiadau

golygu
  1. Cynhyrfodd yr honiad yma lu o wyr llên yr Eglwys o dan arweiniad J. Blackwell (Alun) i gyhuddo yr awdwr o gabldraeth ofnadwy yn erbyn sant cenedl y Cymry. Bu gorfod iddo, druan, ymddiheuro, neu wynebu costau cyfraith.
  2. Dechreuodd argraffu yng Nghaernarfon yn 1816.