Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LV

Cerdd Cerdd LIV Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd LVI LVII a LVIII

LV. Ochenaid y bardd claf.[1]

Digonwyd fi ar deganau—y byd,
Aed ei barch ac yntau
I ryw ddyn a gâr y ddau,—
Mynwent a nef i minau.
—D. PRICE (Dewi Dinorwig).[2]


Nodiadau

golygu
  1. Dyma hoffus englyn y Parch. Thomas Hughes (Machynlleth), yn ei ddyddiau olaf, ond nid efe a'i cyfansoddodd fel y tystiwyd yn y newyddiaduron adeg ei farwolaeth.
  2. Bu yn weinidog yn Ninbych yn hir. Yna symudodd i'r Amerig. Mewn penhillion tlysion a wnaeth pan yn wael yn 1867 dywed,―
    "'Rwyf yn foddlawn iawn i farw,
    Ond yn gyntaf roddi tro
    Unwaith eto drwy hen Walia,―
    Anwyl enedigol fro;
    Carwn sengyd ar y llanerch
    Lle dechreuais gerdded cam,
    Carwn weled Llanddeiniolen
    Lle mae bedd fy nhad a mam !"
    Cafodd wella. Yn 1870 yr oedd yn Williamsburg, Iowa; yno y lluniodd y penhillion "Ddaw henaint ddim ei hunan," gwel CYMRU, Mawrth, 1902. Ym mhle y ganwyd ef yn Llanddeiniolen? Pryd y bu farw?