Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd LXIX

Cerdd LVI LVII a LVIII Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd LX

LXIX. Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, Awst 1876, yr oedd Taliesin o Eifion, enillydd y gadair am yr awdl oreu i "Helen Llwyddawg, merch Coel Godebog," yn ei fedd. Cafwyd yno Gadair Ddu." Wedi i Madam Edith Wynne ganu "Dafydd y Gareg Wen" gyda theimladau drylliog,—cafwyd yr englynion a ganlyn,

Dai ymgais diamgen—"Eusebius"
Hybarch ar awdl-llen;
A da i'n bardd i'w godi'n ben
I drwyadl gadair awen.

Adwaedd iaith bedyddio yw,—rhoi mawredd
Ar y meirw heddyw;
Swydd odiaeth Gorsedd ydyw
Graddio'r bedd ag urddau'r byw.

Taliesin o fin ei fedd—ragorodd
Ar gewri'r gynghanedd;
A chael drwy gynrhychioledd
Barchus hawl i wobr ei sedd.
—GWALCHMAI.


Nodiadau

golygu