Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XLIV a XLV
← Cerdd XLIII | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd XLVI → |
XLIV. A wnaed pan ddaeth Mr. Pugh a'r efail bedoli, i hoelio a sicrhau pedolau y ceffyl wrth Mathafarn, Llanwrin.
Profi pedoli pedwar carn—gwineu,
Yfed gwin o fasarn;
Fyth y fo llwydd ar Fathafarn—
Llwydd a fydd hyd ddydd y farn.
—ROBYN DDU DDEWIN.[1]
XLV.Arall, Wrth weld Mr. Pugh a'r efail bedoli chwarddodd y merched, pryd y mdwedwyd ymhellach,―
Y ty lle mae merched teg,
Yn wir a welir yn wag,—
Draenen wen lle mae y mwg,
A nyth brân yn eitha'i brig.
—ROBYN DDU DDEWIN.
Nodiadau
golygu- ↑ Pwy oedd yr hen gono yma mewn difrif, a pha bryd yn iawn yr oesai? Gwelais mai brodor o Fon ydoedd. Gelwid Robert Hughes, Ceint Bâch, yr hwn a huna yn Heneglwys yn "Robyn Ddu o Fon," ond nid efe oedd y dewin hwn, fel y ceisia rhai hysbysu. Pwy oedd y Robyn Cludro hwnnw o Langefni?