Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XLVII

Cerdd XLVI Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XLVIII

XLVII. Pwy sy'n Fardd?

Nid bardd pob clerfardd cul arfod—i'n plith,
Sy'n plethu rhimynod;
Nid oes un hardd fardd i fod
Da ei dwf a dau dafod.—

Dau lafn yn yr un safn sech,
Un o nef a'i enwi'n iach;
A'r llall yn chwith, brith a brych,
Ail i fardd, ac wele fwch.
—SION LLEYN, yn 1793.[1]


Nodiadau

golygu
  1. Bu farw yn 1819, oed 68 mlwydd. yn Denio, Pwllheli.