Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XV

Cerdd XIV Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog

gan Richard Griffith (Carneddog)

Cerdd XVI

XV. Wrth glywed y Bytheiaid yn hela.

Clywais fawl argais fal organ—beraidd,
Y more'r eis allan;
Pob mân—lais, pibau mwynlan
Hyd y coed, huaid a'u cân.

Cydlais yw'r adlais...[1] —yn cweirio
Carol pryfes feindroed;
Llais mwyn, glan-gais mewn glyngoed,
Cainc hydd cwm, cân cywydd coed.

Melus-lais cu-adlais cwn,—y bore
Sy' beraidd ar wyndwn;
A chorn sydd yn chwyrnu swn
Yn ganiad,—awn ac unwn.
—EDWARD MORUS, Perthi Llwydion.


Nodiadau

golygu
  1. Methais a deongli y gair synwyrol. P'run ydyw?