Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog/Cerdd XXV
← Cerdd XXIV | Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog gan Richard Griffith (Carneddog) |
Cerdd XXVI → |
XXV. Ochenaid, wrth gladdu fy hen athraw anwyl Owen Gruffydd, o Lanystumdwy.
Rhoi'r bardd mwyn, cu-fardd mewn cist—dderw
I'r ddaearen athrist;
Edrych yr wyf yn odrist—
Yn bruddaidd, drumaidd drist.
WM. ELIAS.[1]
Nodiadau
golygu- ↑ Gefail, Plas Hen, Eifionnydd. "Disgybl y tafod" oedd, meddai efe ei hun i'r hen fardd-achyddwr toreithiog o Lanystumdwy. Englynion o'i waith ef sydd yn gerfiedig ar ei feddfaen. Symudodd i Blâs y Glyn, Mon, ac yr oedd yn gyfaill calon i Goronwy a Llew Mawr Mon. Yr oedd yn ei fri mwyaf tua 1746.