Hanes Bywyd Pio Nono/Pabaeth Pio Nono

Graddiad Giovanni Maria Mastai Ferretti Hanes Bywyd Pio Nono

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Afiechyd a Marwolaeth

PABAETH PIO NONO.

Wedi ei esgyniad i'r Babaeth bu mawr ddysgwyliad wrtho ac ymddiried ynddo y dangosai ei yspryd rhyddfrydol yn fwy amlwg, ac yr effeithiai fwy o ddaioni yn ei gylch dylanwadol newydd; ond er na chwbl siomwyd hwy yn hyn, eto ni bu o hir barhad, fel y profir yn mhellach. Pan gafodd Pio Nono y llywodraeth i'w ddwylaw, canfu ar unwaith fod cyllid y deyrnas dragywyddol wedi bod mewn dwylaw ofer, fod materion mewnol yr Eglwys fel gwê ddyrysedig, yn llawn annhrefn. Yr oedd swyddogaethau yn y Wladwriaeth a'r Eglwys i'w cael i'r uchaf ei bris, ac yr oedd pob rhan o honynt yn bwdr diwerth, oherwydd anallu y rhai mewn awdurdod, a llwgrwobrwyaeth. Yr oedd miloedd o oreuon ei deyrnas yn garcharwyr, a chyfanfrif ei ddeiliaid yn gwingo dan ormes crairdrethi a marweidd-dra trafnidiaeth. Dechreuodd teyrnasiad Pio drwy iddo ryddhau y caethion, glanhau y llywodraeth oddiwrth lwgrwobrwyaeth, a chaniatâu i'w ddeiliaid Iuddewig ffafrau annysgwyliedig. Dygodd drefn ar gyllid y wlad drwy sefydlu undeb cyllidol rhwng y gwahanol daleithiau, ynghyda diwygiadau eang yn y gwahanol ganghenau swyddogol, fel y tybiodd yr Eidaliaid a'r Rhufeiniaid fod gwawr goleuni rhyddid o'r diwedd wedi tori, ac yn prysur wasgar caddug caethiwed o'u gororau.

Bywiogodd masnach, cynyddodd gwybodaeth, a diflanodd i raddau effaith y llyffetheiriau a fu yn bwyta eu cnawd ac yn eu gorthrymu.

Ni pharhaodd rhyddid ond ychydig dros flwyddyn i daenu ei bendithion yn yr Eidal cyn i rwystr godi, a fu yn foddion i gadw ei lanw am flynyddau ar draeth amheuaeth ac ofn.

Cododd ymrafael rhwng Brenin Sardinia ac Ymerawdwr Awstria, hen noddwr y Babaeth, a chyhoeddwyd rhyfel rhyngddynt. Ar gais y Rhufeiniaid, gwrthododd Pio ymuno â'r Sardiniaid yn erbyn Awstria, yr hyn a barodd newidiad yn y weinyddiaeth, a dewiswyd Cardinal Antonelli yn brifweinidog, fel y cynorthwyai y Pab i rwyfo ei lestr wladol rhwng y creigiau politicaidd cylchynol. Creodd ei wrthodiad deimlad creulon a ffyrnig yn ei erbyn yn mynwesau ei ddeiliaid, ac uchel waeddent am hunanlywodraeth. Pe na buasai i'w lwfrdra ei orchfygu yn y cyfwng hwn, efallai na chawsem y fraint o weled rhwyg mor enfawr yn y deyrnas Babaidd, ond

"Meddwl dyn, Duw a'i terfyn,"

Yr oedd yr adeg wedi gwawrio i Dduw yn ei lid drywanu Pabyddiaeth yn un o'i manau tyneraf, ac y mae'r brathiad mor amlwg, ac yn ei gymeriad mor farwol, fel nas gall ffug anffaeledigrwydd yr holl babau sydd i olynu byth ei wella. Gweithia gwenwyn y llid drwy eu holl wythenau, a cheir gweled y nerth yr ymffrostiant ynddo yn llesmeirio ac yn diffrwytho dan ei effaith, a gwelir ein Harglwydd ni a'i Grist Ef yn teyrnasu, ac ar ei deyrnas ni bydd trangc.

Teimlodd yr Eidaliaid a'r Rhufeiniaid yn yr adeg byr o flwyddyn felusder rhyddid, ac yr oedd yr ysgafndra bywiol a'i meddiannent, wedi iddynt golli hualau caethiwed, mor hyfryd yn ei ganlyniadau fel y penderfynasant roddi eu galluoedd mewn gweithrediad i'w gadw. Pan etholwyd Count neu Iarl Rossi, un o dyraniaid y wlad, yn Weinidog Barnol, codasant mewn gwrthryfel, a bloeddiasant am iawnder, a llais gwlad yn newisiad swyddogion; galwasant ar eu tad, y Pab, i'w hamddiffyn a'u cefnogi, ond nid oedd yspryd ynddo i'w cynorthwyo, na digon o ddewrder i'w gwrthwynebu Pan welsant hyn, rhuthrasant ar Rossi, a llofruddiasant ef yn ystafell y Dirprwywyr yn Rhufain. Casglodd fflam gwrthryfel nerth, a daeth sefyllfa y Pab ei hunan yn beryglus. Amgylchynwyd ei balas gan y gwrthryfelwyr, a hawlient ganddo gyflawniad o'i addunedau iddynt, ond trodd glust fyddar atynt, a'r canlyniad fu, rhuthrasant ar y palas, ac yn y cythrwfl saethwyd un o'i Gardinaliaid, a dygwyd yntau i reswm drwy rym arfau. Ar yr 20fed o Dachwedd, 1848, cyhoeddwyd ffurflywodraeth gyfansoddol, a charcharwyd Pio Nono yn ei balas.

Yn garcharor! Syndod, onidê! fod un mor alluog wedi cael darostyngiad. Un fu unwaith yn gorchymyn byddinoedd i'w gymhorth yn analluog i reoli cynddaredil ei gydgenedl. Cynrychiolydd awdurdod fu ar un adeg yn hawlio ei ddegfed o gynyrch Prydeinig, ac heddyw yn amddifad bron o angenrheidiau bywyd. Un a raddiwyd yn gyfochrog drwy fraintebau seneddol a'n Brenines, ond yn awr wedi ei ddifrio gan ei blant ei hun.

EI FFOADIGAETH I GAETA.

Rhyw dridiau wedi y carchariad cafodd y Pab gyfle i ddiange, a ffödd o'r ddinas dragywyddol i dref Napolaidd a elwir Gaeta, ac anfonodd y Ffrangcod lu o filwyr yno i'w amddiffyn. Yn ystod ei arosiad yno ysgrifenodd ddeddfiad at y Llywodraeth newydd, yn yr hon y condemniai fel yn ddieffaith bob gweithred o'i heiddo, gan orchymyn sefydlu math o brwyadaeth wladol i reoleiddio y deyrnas. Chwarddodd y rhai mewn gallu am ben y fath gynygiad, ac yn y cyfamser cyfnerthasant eu llywodraeth drwy weithredu yn annibynol arno. Yn fuan wedi derbyniad y cylchddeddfiad uchod, cyhoeddasant Werinlywodraeth, a difeddiannasant y Pab o'i allu tymhorol. Ffromodd yn gymaint wrth hyn, fel y trodd at y gallu Ffrangcaidd am gymhorth arfau i'w ailorseddu; ac wedi brwydro caled ac amddiffyniad dewrfryd gan y Weriniaeth o dan Garibaldi, gorfuwyd hwy gan y fyddin Ffrangcaidd, ac enillwyd iddo yn ail waith agoriadau pyrth Rhufain. Bu am oddeutu deunaw mis cyn dychwelyd i'w wlad i ailgydio yn awenau y llywodraeth, a gweinyddai ereill o dan ei gyfarwyddyd yn ei absenoldeb. Ar flaenau bidogau estronol y cynelid ei orsedd, ac nid rhyfedd iddo ofni dyfod adref nes i deimladau ei ddeiliaid bylu o dan eu gorthrwm haiarnaidd. Nis gwyddom, yn y rhan dywyll yma o'i fywyd, beth a'i cymhellodd i weithredu fel y gwnaeth, os nad yr un ffawd anwyrthwynebol ag sydd yn dylyn y Babaeth yn ddiorphwys i'w dinystrio. Sicr ydyw iddo yn ei ebychiadau diweddaraf gyflawni yr hyn na ddaeth i feddwl, ac na feiddiasai yr un o'i flaenorwyr ymgynyg arno. Yr oedd ei allu tymhorol ar fachlud, a'i ddylanwad crefyddol yn prysur farweiddio; ymrafaelion a rhwygiadau mynych yn yr Eglwys, a gwelai, os ydoedd i barhau yn ei rwysg, fod yn rhaid troi allan o'r ffordd gyffredin i gadw dyddordeb ynddo ei hun a'i Eglwys. Cynlluniodd, a gweithredodd mewn canlyniad i hyny.

PENODI CARDINALIAID NEWYDD I BRYDAIN.

Ar y 30ain o Fai, 1850, mewn Eglwyslys yn Rhufain, pennodwyd ganddo bedwar ar ddeg o gardinaliaid newyddion, i wylio, rheoli, ac amddiffyn egwyddorion Pabaidd yn Mhrydain. Rhanodd ein gwlad yn esgobaethau, heb falio mewn cenad na chwyn, ac urddodd esgob i bob talaeth. Tynodd y rhyfyg awdurdodol hwn arno ŵg ein cenedl, a chynaliwyd cyfarfodydd gwrthdystiol drwy yr holl deyrnas, a dywedir fod y frenines o'r cyfarfodydd hyny wedi derbyn yn agos i 7,000 o ddeisebau arwyddedig yn apelio at ei mawrhydi am "ddeddf wrthebol" i rwystro unrhyw allu a feiddiai sarhau ein terfynau drwy honi awdurdod ynddynt. Mewn canlyniad i'r cynhyrfiadau uchod gwnaedy "Ddeddf i reoli Teitlau Eglwysig," yn yr hon y gwaherddid-dan ddirwy o £100 urddiadau esgobawl ar dalaethau dychymygol; ond ychydig o sylw a dalodd y Pab i'r gwaharddiad na'r cynhwrf yn ei gylch, a sefydlodd ei weision yn ol ei gynllun. Ofnodd Lord Russell a'i ddylynwyr roddi y ddeddf mewn grym yn erbyn fath allu; ac yn mhen ychydig flynyddoedd, sef yn Mai 1871, dirymwyd hi yn llwyr, a chafodd y Pab y pleser o weled buddugoliaeth gyflawn arnom yn dymhorol; yn ynghyda gwreiddiad eang a llwyddiannus ar ei gyfeiliornadau eulunaddolgar a llygredig. Gweithred beryglus i ni, fel cenedl wrthbabyddol, ydoedd plygu i fympwy y Bwystfil Rhufeinig yn hyn o beth, a gadael iddo ymnaturioli yn ein mysg heb gwtogi ei gyrn nai ewinedd; a chanfyddwn heddyw ein bod yn euog o groesawu un sydd yn troi allan gyda'r fath gyfrwysder a gallu, i ddifa ein coedwigoedd crefyddol, fel mae yn llawn bryd gwneyd un ymdrech nerthol, a chydegniol, i aneffeithioli ei ddylanwad ac i'w alltudio o'n gwlad a'n terfynau. Ond at yr hanes:—Fel y cryfhai yr anghen am fwy o newydd-deb i wneyd y grefydd babaidd yn gymeradwy, i'r un gradd y gwywai ei nerth tymhorol, ac nid yn hir wedi tynu Lloegr yn ei phen y bu i'r Pab wneyd ail ymgais drosto ei hun yn nghyhoeddiad y

CENEDLIAD DIHALOG.

Mor foreu a'r flwyddyn 1380, cawn fod gwyl wedi ei sefydlu er coffhau cenedliad dihalog Mair Forwyn, ond gadawyd yr anrhydedd (?) o gyhoeddi hyny fel un o erthyglau ffydd i Pio Nono: edrychid ammo gynt fel pwnce heb ei gwbl benderfynu, ac yr oedd amryw o brif ddynion yr Eglwys yn ymwrthod a'r athrawiaeth, ac ereill yn rhoddi iddi fath o gydsyniad hanerog, hyd nes cyhoeddodd Paul V. fod amheuaeth o honi neu wrthwynebiad iddi yn sicr o greu anghydfod, ac y dylid ei derbyn. Ni thalai y teimlad hwn i Pio Nono, mynai ef ie neu nage o berthynas i'r pwngc, ac wedi celgymanfa, yn mha un y cafodd gydsyniad ei Gardinaliaid, ar yr 8fed dydd o Dachwedd, 1854, y dydd gwyl pennodedig-tynodd allan bab-archiad, yn yr hwn yr hysbysai fod y Cenedliad Dihalog i gael ei dderbyn fel erthygl ffydd o dan boen esgymundod, a chondemniad fel hereticiaid, a chyfodwyd yn y fan gofadail ardderchog i ddathlu i'r oesau ddydd genedigaeth y penderfyniad athrawiaethol digymhar hwn. Yn fuan wedi hyn cymerodd ddull arall i ddallu cydwybodau dynion, ac i'w dwyn o dan ei iau haiarnaidd, a'i ewyllys orfeisiol. Yn Awst, 1855, ffurfiwyd cytundeb rhwng Awstria a Rhufain, yn mha un yr oedd rhyddid yr Eglwys yno yn cael ei gyfyngu, a luaws of breintiau yn cael eu cymeryd oddiarni. Condemniwyd ymddygiad y Pab yn hyn gan bob un o'r llywodraethau ereill, ac eithrio yr Yspaen; ac wedi canfod o Awstria, y teimlad, anfoddlonodd hithau yn fawr. Parhaodd y cytundeb mewn grym hyd 1868, pan y dirymwyd ef gan Senedd y wlad, a thafasant ran o'r iau pabaidd ymaith yr un adeg. Ffromodd y Pab yn fawr wrth y weithred, a chondemniodd hi; ond yr oedd gwleidyddwyr Awstria yn dechreu teimlo y gallent wneyd yn well heb ei gadwynau tymhorol ac ysprydol; a phrofwyd hyny drwy gynydd yn mhob ran o'r ymerodraeth. Dangos ei allu anffaeledig ydoedd amcan y ddwy ddyfais a grybwyllasom, a buont yn foddion, mae'n debyg, i gadw anrhydedd y babaeth i fyny os nad hefyd i dyogelu y goron am amser. Gwnaeth y Pab un symudiad, tua'r flwyddyn 1857, i ddwyn ynghyd ei ddeiliaid tymhorol, a chymerodd daith drwy ei diriogaethau i'r perwyl hwnw; ond yr oedd gwaed yr Eidal yn berwi gyda'r dymuniad a'r awydd o sylweddoli Unoliaeth Eidalaidd, fel mai croesaw oeraidd a dderbyniodd yn ei ymweliadau, ac ymddengys fod ei ymgais i enill eu calonau wedi troi yn fethiant. Gwelai y galluoedd cylchynol yn ei adael, a'u bod yn dechreu cydnabod y dylasai yr Eidal fod yn un prif-allu yn eu mysg, yn lle bod yn dalaethau ac yn rhaniadau bychain; ac yr oedd amgylchiadau yn crynhoi o'i gylch mor gyflym fel mai prin y gallai beidio canfod y diwedd yn neshau. Yn 1859 torodd rhyfel allan rhwng Brenin Sardinia ac Awstria, a chynorthwywyd Victor Emmanuel gan Ymerawdwr Ffraingc (asgwrn cefn y Pab,) a'r canlyniad fu i Lombardy gael ei rhoddi iddo, ac yn fuan drwy wrthryfel dylynodd Naples, Tuscany, Parma a Modena, a daeth Victor Emmanuel yn frenin ar yr holl Eidal bron. Dechreuodd y Pab erfyn y pryd hyn ar alluoedd Ewrop i'w gynorthwyo yn erbyn brenin Sardinia, tra yr oedd Garibaldi ar y llaw arall, yn cynhyrfu yr Eidaliaid i wrthryfel. Ni chymerwyd sylw o erfyniadau Pab gan y galluoedd hyny, ac oni buasai fod Ffraingc yn amddiffyn Rhufain a Civita Vecchia, buasai ei allu tymhorol wedi ei gwtogi ar yr adeg yma.

YN GWRTHOD CYDNABOD VICTOR EMMANUEL.

Cyhoeddwyd Victor Emmanuel yn frenin yr Eidal, ac anfonwyd at ei Sancteiddrwydd i'w gadarnhau; ond gwrthododd. Pa un bynag, cydnabyddwyd ef gan y galluoedd ereill, a gweithredodd yn annibynol arno. Bygythiai a fromai yntau, ac o'r diwedd condemniodd y brenin i esgymundod. Yn y flwyddyn 1862, cynhyrfwyd yspryd Garibaldi i ail ymddangos ar y maes; ac er gwaethaf rhybudd Victor Emmanuel, a'i wrthwynebiad iddo i godi gwrthryfel, cawn iddo godi byddin o wirfoddolwyr, a hwylio tua Rhufain i'w rhyddhau; a'i arwyddair ydoedd "Rhufain neu farwolaeth." Ond yn anffodus iddo, cyfarfuwyd ef gan y byddinoedd breninol, a chymerwyd ef yn garcharor, cyn iddo effeithio ei amcan. Wedi ychydig o garchariad, derbyniodd ei ryddid yn ddiamodol; ac y mae yn debyg fod Garibaldi a'r llywodraeth freninol i raddau yn deall eu gilydd ar y pryd; ac mai sicrhau Rhufain yn brifddinas drwy rhyw foddion ydoedd yr hyn mewn golwg. Tua diwedd yr un flwyddyn, dychrynwyd ef yn ddirfawr oherwydd cyhoeddiad wedi ei law-nodi gan y Tad Passaglia, a'i arwyddo gan oddeutu deng mil o offeiriaid Eidalaidd, yn yr hwn y gwrthodent gydnabod ei allu tymhorol; ac achosodd hyn ddiwygiad pwysicach yn y flwyddyn 1864, pan arwyddwyd gan Ffraingc a'r Eidal gytundeb cydweithredol Addawodd yr Eidaliaid, ar eu rhan hwy, beidio a chyffwrdd-na gadael i arall wneyd a'r Pab na'i ddinas, ac y cymerent ef dan eu nawdd, gan gyfranu at ddyled y talaethau Pabaidd. Amododd y Ffrangcod, ar eu rhan hwythau, alw adref y fyddin a amddiffynai y Ddinas Sanctaidd yn mhen dwy flynedd. Ni foddhai y telerau uchod y Tad Passaglia na'r offeiriaid a'i cynorthwyent ef, nac ychwaith deyrngarwyr y wlad a fynent ryddhau; ac ni feiddiai y freniniaeth ymgymeryd i gario eu cynllun allan drwy rym arfau, oherwydd fod cyllid y deyrnas yn annigonol i'w cyflenwi a'r awyddau anghenrheidio! i hyny; ac o ganlyniad cadwyd y Pab am beth amser wedi hyn yn siglo ar ei orsedd ddreiniog.

YN COLLFARNU Y MASONIAID.—GARIBALDI,

Nid rhyfedd i'w anesmwythyd yn y rhan yma o'i fywyd achosi iddo daflu ei lysnafedd a'i gabldraith ar bob ffurf o addoliad, a phyngciau athronyddol, ynghyd a chondemniad diamwys o Gyfrinfa y Masoniaid, aelod o'r hon gymdeithas ydoedd yntau—oblegyd gwelai fod ei gydgenedl yn penderfynu meddwl drostynt eu hunain; fod yr Awstriaid yn troi oddiwrtho, a'r Allmaen yn ferw drwyddi am ddiwygiadau; fod Ffraingc ar ben tynu ymaith ei nawdd, ac fod ei goron deir—plyg yntau ar gael ei rhoddi ar ben un o'i ddeiliaid esgymunedig. Er amddiffyn ei hun rhag y canlyniadau uchod, ceisiodd logi llu o Ffrangcod erbyn adeg cymeriad ymaith y milwyr Ffrengaidd rheolaidd a gedwid yn Rhufain gan yr ymerawdwr, ond drwy ystyfnigrwydd milwrol Garibaldi, yr hwn oedd eto ar y maes, cadwyd y milwyr cyntaf yno am amser hwy na'r cytundeb gyda Victor Emmanuel, a thrwy gydweithrediad y milwyr Pabaidd, gorthrechwyd y gwrol a'r teyrngar Garibaldi y drydedd waith cyn sicrhau ei amcan. Bendithiwyd arfau y Ffrangcod llwyddiannus gan y Pab, a chynyddwyd y fyddin amddiffynol i ddwbl y nifer; eto nid oedd llonyddwch iddo.

Wedi ei amgau gan fidogau milwyr estronol, wedi troi ffroenau ei fagnelau at ei bobl, wedi tynu llaw fendithiol dros blu eryr Ffraingc, tybiodd fod ychydig o heddwch ar wawrio; ond o'r tu cefn iddo gwelwn law tynged yn ei wthio, a'i bys yn ei gyfeirio at ei un weithred fawr; at yr hyn yr oedd ei uchelgais wedi osod iddo fel ei nod, ac at y maen ar yr hwn yr ymdorai.

Prif wrthddrych ei fywyd ydoedd cyflawni yr hyn nad amcanodd arall; ac os bu gwiriad erioed i'r ddiareb, "Yr hwn â fyn a orfydd," gwiriwyd hi yn mywyd Pio Nono. Dymunem awgrymu wrth fyned heibio, yn enwedig i'n darllenwyr ieuaingc, fod yr egwyddor hon, er yn llywodraethol ynddo, ac yn ngwyneb ei ryfyg a'i gyfeiliornadau, yn un y dylai pawb fod yn feddiannol arni, sydd a thuedd ynddo i edrych yn mlaen at fodoliant defnyddiol. Fe allai na ddangosodd y Pab fwy o benderfyniad yn ei oes na'r adeg y synodd y byd Cristionogol gyda'i gylchythyr enwog yn Medi 1868, pan wysiodd ynghyd i Rufain Gynghor Cyffredinol, yn gynwysedig o batriarchiaid, esgobion, a blaenoriaid eglwysi heblaw a berthynai i'w eiddo ei hun, gyda'r amcan o'u dwyn i uno mewn cyhoeddiad arbenig o'i anffaeledigrwydd. Gwrthododd Patriarch yr Eglwys Roegaidd ymuno âg ef, na rhoddi ei bresenoldeb yno. Dylynwyd ef gan luoedd ereill, ond er hyny ni bu y cyfartaledd o bresenolion, tra yn ymdrin a'r pwngc, yn llai na 740—mewn ffaith, dygwyd i'r ddinas sanctaidd drwy y cylchlythyr, 6 o dywysogion archesgobol, 50 o gardinaliaid, 10 batriarchiaid, yn agos i 700 o archesgobion ac esgobion, a thua 60 o abbadau a blaenorion urddonau. Yr oedd canfod fath nifer o fawrion eglwysig, hyd yn nod i ddadleu yr athrawiaeth, yn falm pereiddioli deimladau y Pab; ac nid oes amheuaeth nad ydoedd y gefnogaeth a dderbyniodd ganddynt yn gwneyd i fyny i raddau am gywilydd ei alltudiaeth, a phoen colled ei allu tymhorol.

Ni dderbyniod gadarnhadd uniongyrchol i'w ddymuniad; ac ar un pryd edrychai braidd yn dywyll oblegyd y gwrthwynebiad ystyfnig a roddal rhai iddo, ond llwyddodd i enilly Jesuitiaid o'i blaid, a chafodd, drwy eu cynorthwy, fwyafrif mawr; ac ar y 18fed o Orphenaf, 1869, penderfynwyd gan y Cynghor ar y ffurf ganlynol o hysbysiad, yn cynwys corphoriad o'u dysbwylliant ar yr athrawiaeth newydd o

ANFFAELEDIGRWYDD:

"Yr ydym ni, sydd yn cadarn ymlynu wrth y traddodiad a drosglwyddwyd i ni er dechreuad y Grefydd Gristionogol, er gogoniant Duw ein Iachawdwr, er dyrchafiad y grefydd hono, ac er Iachawdwriaeth Cristionogion, gydag arddeliad y Cynghor Cysegredig, yn dysgu yr Athrawiaeth fel ei datguddiwyd gan Dduw—Fod Pab Rhufain, pan yn llefaru yn swyddogol; hyny yw, pan yn nghyflawniad o'i ddyledswyddau bugeiliol, fel dysgawdwr yr holl Gristionogion; trwy rinwedd aruchel ei awdurdod apostolaidd, yn egluro yr athrawiaeth o berthynas i ffydd neu foesau sydd yn perthynu i'r Eglwys gyffredinol, ei fod, drwy gynorthwy Dwyfol, addawedig iddo yn yr Apostol Pedr, yn perchen Anffaeledigrwydd, gyda pha un yr ewyllysiodd ein Iachawdwr Dwyfol ddonio ei eglwys pan yn egluro ffydd a moesau; ac o ganlyniad fod egluriadau y Pab Rhufeinaidd ynddynt eu hunain, yr Eglwys, yn anghyfnewidiol. Os meiddio neb—na ato Duw ei fod—wrthwynebu ein gosodiadau bydded Anathema."

Dyna ris uchaf ei uchelgais; dyna glimax ei ryfyg; a pha beth bynag a ddysgwyl— iodd oddiwrthynt er lles ei grefydd neu ychwanegiad i'w hunan—ogoniant, neu pa beth bynag a fwynhaodd drwy eu cyflawniad, gallwn ddyweyd, mai ychydig o amser wedi hyny, yn Medi 1870, oddeutu mis wedi i'w haerllugrwydd ddyfod yn ffaith, wedi iddo afael yn ngwisg yr Archoffeiriad Mawr, a honi ei deyrnwialen, gwelodd ar unwaith "Na oddef nef ormod." Tynwyd ymaith y milwyr ffrengig—nid oedd eu hangen i amddiffyn anffaeledigrwydd—a marchogodd milwyr Victor Emmanuel yn fuddugoliaethus dros gaerau drylliedig y Ddinas Dragywyddol, a derbyniwyd y fyddin gyda banllefau o "ryddid" ac "i lawr gyda Thyraniaeth."

Protestiodd y Pab, wrth gwrs, yn erbyn yr awdurdod, ond cymerwyd pleidlais cyffredinol o berthynas i uniad Rhufain gyda'r Eidal o dan un brenin, a'r canlyniad fu, fod allan o 167,548 o bleidleisiau, 133,681 wedi eu rhoddi dros yr uniad.

YN GWRTHOD BLWYDD—DAL.—YN BYW FEL CARCHAROR YN Y VATICAN,

Cynygiwyd wedi hyn fod i'r Pab dderbyn oddiwrth y llywodraeth mewn gallu, fath o flwydd—dal tuagat gynal ei urddas, ond gwrthododd, a thybiodd ei bod yn fwy anrhydedd derbyn rhoddion a chardodau gan ei ddeiliaid ffyddlon na bod yn rhwymedig wrth ewyllys da yr Eidaliad a lawenychasai yn ei ddarostyngiad. Gwrthododd yn llwyr, a'i gynghorwyr hefyd, gydnabod unrhyw allu arall: ac ymddengys oddiwrth ei ewyllys er iddo dynu yn ol esgymundod Victor Emmanuel pan ar ei wely angeu—ei fod wedi gadael y felldith esgymunol ar ei fab Humbert ar ei esgyniad i'r orsedd yn lle ei dad. Wedi cymeriad Rhufain gan Victor Emmanuel, ymneillduodd y Pab o'i fodd i'w balas, y Vatican, a galwai ei hun yn garcharor a merthyr; ac yn ystod ei garchariad y terfynodd ei 25ain mlwydd o'i Babaeth. Gwnaeth lawer o bethau. rhyfedd a herfeiddiol tra yn ei neillduedd, ac yn eu mysg, gorchymynodd Jubili ar derfyniad ei 25ain o'r Babaeth, a derbyniodd longyfarchiadau gan yr holl benau coronog cylchynol. Anfonodd hefyd lythyr at Ymerawdwr yr Allmaen, yn yr hwn y cwynai fod y Pabyddion yn ei'deyrnas yn cael eu hymlid a'u gorthrymu, a'i fod ef yn hawlio rheolaeth arnynt, ac yn gorchymyn ufudd-dod i'w allu ysprydol gan bob un bedyddiedig, Atebodd yr Ymerawdwr ef drwy ddyweyd ei fod ef yn berffaith alluogi wylio ei deyrnas a'i threfniadau, ac nas gallai weled fod a wnelai y Pab â neb yn ysprydol, am nad oedd ond un "Cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu." Cofia pawb am ffrewyll y Tywysog Bismark wedi hyny ar Jesuitiaid yr Allmaen, yr hyn a brawf fod ymyraeth amhrydlon yr Anffaeledig wedi effeithio yn groes i'w ddysgwyliadau ymhongar.

Nodiadau golygu