Hanes Bywyd Pio Nono/Rhagymadrodd

Hanes Bywyd Pio Nono Hanes Bywyd Pio Nono

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Graddiad Giovanni Maria Mastai Ferretti

RHUFAIN EGLWYS ST. PEDR A CHASTELL ANGELO.




HANES BYWYD PIO NONO,
DIWEDDAR BAB RHUFAIN.

TARDDA yr enw PAB oddiwrth y gair Groeg Pappas, neu Dad. Arddelid gan holl weinidogion boreuaf Cristionogaeth, ond ni ddaeth yn urddenw neillduol hyd amser Cyprian, Ambrose, Jerome, ac Awstin. Ymddengys fod ymdrafodaeth wedi cymeryd lle yn mhlith y dysgedigion o berthynas i addasrwydd y teitl yn nglŷn â swyddogaethau gweinidogion israddol: a chanfyddir, oddiwrth eu gwahanol ysgrifeniadau, mai yr esgobion, neu y gweinidogion uwchraddol, oedd y personau priodol i'w tadoli. Tua'r wythfed ganrif, cawn fod Cynghor Cyffredinol wedi ei gynal yn Nghaer Cystenyn, yn ystod pabaeth Leo III., yn mha un y penderfynwyd mai i Esgob Rhufain yn unig y perthynai yr urddas; ac anfonwyd cylchlythyr at y galluoedd cylchynol i'w hysbysu o'r penderfyniad. Ychydig o sylw a dalwyd i hyn ar y cyntaf, ac yr oedd yn rhaid cael yspryd di-ildio a llaw haiarnaidd Gregori VII, i gwblhau yr hyn oedd yn mryd ei ragflaenydd. Gwysiwyd ynghyd ganddo nifer o esgobion Eidalaidd i Rufain, yn y flwyddyn 1073, a ffurfiwyd o honynt Gynghor, yn yr hwn y cadarnhawyd cynygiad Leo III., ac y cyhoeddwyd dedfryd o esgymundod ar yr Ymerawdwr Harri, ac nad oedd ond Esgob y Ddinas Dragywyddol i gael ei gyfenwi y "Pab" o hyny allan. Wedi hawlio i benadur yr Eglwys Babaidd y rhan hon o uchafiaeth ac awdurdod, ac iddi gael math o flaenoriaeth gydnabyddol ar yr Eglwys Roegaidd ac eglwysi ereill, nid rhyfedd i'w hesgob ryfygu ychwanegu at ei ddylanwad, ac estyn ei gortynau i bob cyfeiriad; a chawn o ganrif i ganrif, er gwaethaf amgylchiadau chwyldroawl, mai arwydd-eiriau y Pabau oeddynt, "Peidio rhoddi i fyny y mymryn lleiaf o'u hawliau, ymestyn yn mlaen at awdurdod ychwanegol, a gwylio manteision amgylchiadau i wneyd hyny." Ychydig oedd gallu tymhorol y Babaeth hyd y ddeuddegfed ganrif, pan y cyflwynodd Innocent III. iddi Rufain a'r taleithiau cylchynol fel ei heiddo; dyma yr adeg y diflanodd y gallu ymerodrol tramorol a reoleiddiai etholiad y Pabau. Yr oedd amgylchiadau ffafriol wedi dwyn amryw o deyrnasoedd dan deyrnged iddi cyn hyn, ond ni chydnabyddwyd ei gallu tymhorol fel teyrn arnynt hyd y dygwyddiad a enwir uchod. Dyma y pryd y daeth Pabaeth Rhufain i gael edrych arni fel ymerodraeth gyffredinol. Yr oedd ei chardinaliaid yn dwyn y teitl o gynghorwyr, llysgen- adau y Pab yn y gwahanol deyrnasoedd yn fechdeyrn, yr archesgobion a'r esgobion yn rhaglawiaid, yr offeiriaid yn weinidogion ceidwadol, ac yn rheolwyr y cyllidau, a'r amrywiol urddau crefyddol yn filwyr sefydlog y Bugail Rhufeinig.

Dan y fath lywodraeth eang, pa syndod ydyw fod gwraidd Pabyddiaeth wedi ymledu dros bedwar ban y byd, ac fod ofergoeledd wedi llochesu yn mynwesau ein cyndadau yn yr oesoedd tywyll!

Er hyny, cafodd y grefydd Babaidd ei dyddiau tywyll o bryd i bryd, ac ysgydwyd hi i'w seiliau gan genadau y Diwygiad Protestanaidd o dro i dro, ond nid un adeg yn fwy na phan gododd Luther, Zuinglius a Chalvin, eu hudgyrn ymosodol yn ei herbyn, nes chwalu haner ei chaerau yn y gorllewin; ac o hyny hyd yn awr y mae gafael y gwreiddiau drwg yn pydru, ac y mae dylanwad upasaidd ei changeuau yn lleihau; a rhyw ddydd gwelir Rhufain anghristaidd yn cwympo, a'i heulunod a'i chreiriau yn cael eu taflu i'r wadd a'r ystlumo. Maddeued y darllenydd i ni am agor ein papur ar fywyd Pio Nono gydag ychydig o hanes amcan Pabyddiaeth, oblegyd gall ddeall yn well y cyfeiriadau a wneir ynddo, yn nglyn a'i weithredoedd i gadw i fyny ei eglwys ddrylliedig.

Yn ol rhestr hanesyddol y Pabyddion o'u holyniaeth apostolaidd, gwelwn mai yr Apostol Pedra ryfygant osod yn gyntaf o'u Pabau. Pa un bynag a fu Pedr yn Rhufain ai peidio, yr hyn sydd amheus, neu pwy bynag a wisgodd yr urddas gyntaf, sicr ydyw hyn, fod pob math o gymeriadau wedi ei arddel, ac na fu o'r cyntaf hyd y diweddaf sef gwrthddrych ein bywgraffiad—un o honynt wedi amcanu cymaint, ac yn mha un y cyfarfyddodd y fath amrywiaeth o gyferddoniau cyneddfol.

Nodweddid Pio Nono gan gyfrwysdra, hunanbarch, penderfyniad, lwfrdra, a rhyfyg, ac yr oedd yn berchen ewyllys a allai reoleiddio yr holl anianau cymysgryw hyn nes eu dwyn yn wasanaethgar iddo, a'u gwneyd yn esgynris ei uchelgais.

Hoffasem gael rhoddi bris—linelliad bywgraffyddol o'r Pabau mwyaf nodedig a lanwodd Gadair Pedr hyd heddyw, ond gan ein bod yn bwriadu rhoddi rhestr gyflawn o'u henwau ar ddiwedd yr erthygl hon, ni wnawn ond cyfeirio y darllenydd at unrhyw wyddoniadur Seisnig, a chaiff ei wala o'u gweithredoedd wedi eu croniclo ynddynt.

Nodiadau golygu