Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo/Wedi'r fyddin

Ei gyfnod milwrol Hanes Bywyd Thomas Williams, Capelulo
Bywgofiant
gan Thomas Williams, Capelulo

Bywgofiant
Sobri


Daeth heddwch cyffredinol drwy holl Ewrop, a chefais inau ryddad oddiwrth y fyddin; ond nid oedd pension i neb a ryddheid y pryd hwnw . Yr oedd genyf bedair punt a phedwar swllt yn fy mhoced pan laniais yn Plymouth. Troais i mewn i un o'r tafarndai yno a gwerias oddeutu pedwar swllt a meddwais, ac aethum i gysgu y noswaith hono i dy drwg. Erbyn i mi sobri a deffro yn y bore, yr oedd rhywun wedi fy yspeilio o fy arian a fy holl ddillad. Pan welais hyn tarewais y ddynes ddrwg yn fy ngwylltineb nes oedd ei gwaed yn pistyllio hyd y lloft, gan feddwl mai hi oedd wedi gwneud. Aethum allan hyd y dref y dydd canlynol yn ddigalon iawn; a daethum yn ol i'r un tŷ ag y collais fy arian, a gofynais i ŵr y tŷ am lety y noswaith hono, a chefais le ganddo. A rhywbryd yn y nos daeth a dyn du mawr (Black) o longwr i gysgu i'r un ystafell a mi, a chlöodd y drws arnom ein dau.

Aethum o Plymouth i Bridgewater. Yr oedd yn y lle hwn long o Casnewydd wedi dyfod a glo yno hyd y gamlas (canal;) a chefais ddyfod gyda hono i Casnewydd, trwy weithio arni i dalu am fy nghludiad. Daethum oddiyno yn mlaen i Merthyr Tydfil, gan fegio hyd y wlad at fy nghynaliaeth. Cefais wyth swllt a llawer o fwydydd mewn un palas oedd ar fin fy ffordd, gan foneddigion oedd wedi dyfod yno, trwy gwyno wrthynt, a dywedyd fy mod yn filwr, wedi bod yn Affrica ac America, a bod rhywun wedi fy yspeilio yn Plymouth o'r hyn oll a feddwn .

Cerddais o’r Merthyr dros fynyddau mawrion a thrwy lawer o drefi y Deheudir hyd at Gorwen , ac i Gapel Curig, lle y cefais groesaw mawr gan Mr. Hughes, un anrhydeddus am ei groesaw i'r tylawd, a chan ereill oedd yn fy adnabod i yno. Daethum adref dranoeth o Gapel Curig i Lanrwst; ac ar y ffordd troais i fegio i'r Glynllugwy, a dywedodd gwraig y tŷ fod fy nhad yn glaf iawn — fod gweddi gydag ef yn Eglwys y plwyf y Sul o'r blaen. Daethum yn mlaen dros Nant Bwlch yr heiyrn, a throais i dŷ James Harker, i aros nes deuai yn nos, oblegid yroedd arnaf gywilydd dyfod i'r dref yn y dydd, an fod golwg lled lwm a thruenus arnaf. Pan gyraeddais y dref, aethum i dŷ cefnder i mi, ac aeth y wraig i dŷ fy nhad mewn mumnd i ddweud fy mod yno; daeth fy chwaer gyda hi yn ol, a phan welodd hi fi, dywedodd, "Nid Twm fy mrawd ydyw hwn!" "Ie, chwaer bach, dy frawd ydwyf," ebe finau, gan wylo. Yna aethum gyda hi adref i'r tŷ, lle yr ydoddd fy nhad yn ei wely yn bur sal, a gof. ynais iddo, "Nhad bach, ai sal iawn ydych chwi, — Twm ydwyf fi." "Ai Twm wyt ti, machgen bach i!" ebe yntau. "Ie, nhad bach," ebe finau, dan wylo. "O b'le doist ti?" meddai, "O Plymouth, drwy y Deheudir," ebe finau. "Yr wyt ti yn edrych yn llwm iawn," medd drachefr "Ydwyf, yr wyf fi felly, —cefais fy yspeilio o fy holl ddillad, a llawer o arian; ond y mae genyf ychydig eto wedi eu casglu trwy fegio hyd y ffordd adref." Wel, Beti bach," meddai wrth fy chwaer, "yr wyf yn ewyllgsio i Twm gael yr holl ddillad a roddais i Jack ei frawd. Daeth Owen fy mrawd o Gaergybi i edrych am dano yn mhen y ddeuddydd wedi i ini ddyfod adref, ac aeth yn ei ol dranoeth; a bu fy nhad farw y dydd canlynol. Yr oedd fy mam wedi marw er's blynyddau cyn hyny.

Ar ol claddu fy nhad aethum i weithio ar y ffordd newydd oedd yn cael ei gwneud o'r Amwythig i Gapel Curig a Chaergybi; a byddwn yn byw gyda fy chwaer yn Llanrwst. Wedi gorphen y ffordd uchod arferwn wneud negesau i foneddigion o gylch y dref, a gyru gwartheg i Loegr. Pan oeddwn gartref cyn myned at y fyddin, yr oeddwn yn caru merch ieuanc o Eglwysfach: ond erbyn i mi ddyfod yn ol yr oedd hi yn wraig weddw a chwech o blant ganddi. A phan oeddwn yn gweithio yn Ngwydyr priodais hi, a bu farw yn mhen chwe' blynedd. Rhoddais y plentyn a gawsom i Beti fy chwaer i orphen ei fagu, a gwasgarwyd y plant oedd ganddi o'i gwr cyntaf i leoedd i wasanaethu.

Ar ol claddu fy ngwraig, troais yn grwydryn ac yn feddwyn gwaeth nag erioed. Aethum gyda gyr o wartheg i Brentwood, tu draw i Lundain. Can gynted ag y derbyniais fy nghyflog, dechreuais yfed yn y tafarndai, a meddwais yn drwm: ac yspeiliwyd hyny o arian oedd yn fy mhocedau. Gwynebais tua Chymru, gan fegio yn mhob man y meddyliwn y byddai rhywbeth i'w gael .

Wedi cyraedd Llundain, a lletya noswaith yn Whitechapel Street, deuais yn mlaen hyd Barnet Road, gan gyfeirio tua hon troais i dŷ tafarn mawr, a dywedais fy hanes wrth ŵr y tŷ, gan gwyno nad oedd genyf ddim arian — fy mod yn hen yriedydd (driver) o Gymru; a gofynais iddo am gael lle i gysgu yn yr ystabl. "Beth, a ydych yn meddwl y gadawaf fi i ddyn dyeithr fel chwi fyned i'r ystabl lle mae cymaint o ffrwyni a chyfrwyon, a phethau gwerthfawr ereill?" meddai wrthyf yn ddifrifol, "Wel, yn wir, pe bai yno fwy ganwath o bethau gwerthfawr, ni chymeraf fi ddim oddiyno," ebe finau yn gwynfanus. Yna gofynodd i'r ffarmwr oedd yn dygwydd bod yno yn yfed , "Beth ydych chwi yn ei feddwl o'r hen Gymro hwn?" Wel, fe allai ei fod yn dweud y gwir, a'i fod yn onest — gwell genyf ti Gymro na Gwyddel." Yna gorchymynodd gwr y tŷ i'r Ostler wneud lle i mi yn yr ystabl Rhoddodd fwyd i mi hefyd, a chefais lawer o ddiod a phres gan y ffarmwyr oedd yno yn eistedd. Cefais wydraid o gin ganddo wrth gychwyn oddiyno bore dranoeth. Wedi dyfod drwy dref Barnet, ar y ffordd i Northampton, troais at Balas mawr, a daeth y gwr boneddig i'm cyfarfod yn ymyl y Palas. Dywedais fy nghwyn wrtho, gofynodd yntau o ba le yr oeddwn yn dyfod, dywedais inau mai Cymro o Lanrwst, Sir Ddinbych, oeddwn. Yna gofynodd a adwaenwn i rai o foneddwyr Sir Ddinbych . "Ad waen Syr, yr ydwyf yn adnabod Syr Watkin Williams Wynn," ebe finau. Yn mha le y mae efe yn byw? " " Yn Wynnstay, wrth Rhuabon," ebe finau. "Ie, yr ydych yn dweud y gwir," ebe yntau . Aeth i'w bwrs ac estynodd haner coron i mi. Yr oeddwn wedi clywed fod cefnder i mi yn byw yn Northampton, a phan gyraeddais yno, holais am dano gyda gwas gwr boneddig oedd yn fy adnabod yno. Deuais o hyd i'r shop lle yr ydoedd yn aros, a gofynais a oedd yno un Mr Williams? A daeth dyn pur debyg i mi yn ei wynebpryd i'r drws, a dywedodd fod yno un o'r enw hwnw — mai Williams oedd ei enw ef ei hun. "Wel, Syr, cefnder i chwi ydwyf fi," ebe finau, — yr oedd fy nhad i a'ch tad chwi yn ddau frawd; a throais heibio i chwi i edrych ani danoch wrth fyned adref i Gymru." "O , ai ê — A ydych chwi yn fab i f’ewyrthr Thomas, Llanrwst?" meddai wrthyf. "Ydwyf, Syr," ebe finau. Derbyniodd fi yn groesawus iawn, chwiliodd am lety cysurus i mi i fwrw y Sabbath. Er ei fod mewn sefyllfa uchel, daeth gyda mi i brif dafarndai y dref, ac arddelai fi yn gefnder iddo yn ngwydd pawb o'i gydnabod. Ac wrth ymadael rhoddodd i mi bâr o hosanau a het, ac un swllt ar ddeg o arian . Daethum i Coventry, a thrwy Sir Amwythig adref i Lanrwst.

Ar ol dyfod adref aethum i aros i Plasmadog, a byddwn yn myned i'r dref i negeseua dros fy meistr, Un diwrnod ymdroais yn y tafarndai i yfed. Ac fel yr oeddwn yn cyd yfed gydag ereill mewn un dŷ tafarn, cynygiodd un o'r cwmpeini sovereign i oferddyn a elwid Ifan y Gof, os aethai allan drwy y dref yn noeth; ond nacaodd hwnw fyned .

A chynygiodd yr un gwr ddau swllt i minau os awn, dywed ais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Fawr oddiamgylch yr Hall yn nghanol y dref yn noeth lymun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweled, nes yr aeth yn sal. Gyda'r nos yr un dydd, wedi myned yn ychydig meddwach, rhedais yr un modd o ben isaf y dref, at y Bont Fawr, am swllt; a rhedodd Mr. Lewis Thomas, Druggist, ar fy ol gyda chwip y tro hwn, gan feddwl fy nghuro, a fy nhroi i fewn i rhywle, cyn dangos ychwaneg o'm digwilydd-dra ; ond meihodd a fy nghyraedd. Yr wythnos ganlynol aethum i ddanfon fy meistr i Gerig y Druidion; ac wrth ddyfod yn ol gyda' ceffyl, troais i dafarndy oedd ar y ffordd, a meddwais yn drwm a syrthiais oddiar ei gefn lawer gwaith cyn cyraedd y dref: aeth rhywun arall a'r ceffyl adref o'r dref, oblegid yr oeddwn i yn rhy feddw i allu symud.

Ymadawais o'r Plasmadog, ac aethum gyda gyr o wartheg o Sir Fon i'r Eglwys wen, yn Sir Amwythig. Ac with ddyfod yn fy ol adref, dechreu ais yfed a meddwi yu Nghaerlleon, a tharewais wrth ddynes ddrwg, a chysgais allan yn fy meddw. dod. Pan sobrais yn y bore canlynol, cefais fy hun yn gorwedd yn mhlith pentwr o gerig yn nghwr Heol у Bont, wedi fy yspeilio o hyny o arian oedd genyf. Y noson ganlynol aethum i dafarndy bach afreolus, a meddwais yno, a darfu rhyw ddyhirod baentio fy ngwyneb a'm dillad â phaent coch a gwyn a du. Aethum allan i'r heolydd gan ganu a bloeddio, a thyrfa fawr o blant a llanciau o fy amgylch yn chwerthin ac yn fy maeddu. Daeth yr Hedd-geidwad ataf i fy nghymeryd i'r carchar am feddwi a pheri cynwrf ac aflonyddwch yn y dref: ac wrth i mi nacâu myned gydag ef yn rhwydd, a cheisio ei wrthwynebu, aeth fy mraich o'i lle . Bum yn y carchar mewn gofid mawr drwy y nos. Bore dranoeth dygwyd fi i'r llys o flaen Maer y dref, i fy mhrofi am fy nghamymddygiad y noswaith flaen orol. Gofynodd y Maer i mi. "O ba le y daeth och chwir" "O Lanrwst, fy arglwydd," meddwn inau . "I ba beth y daethoch i'r dref yma?" "Myned drosodd tuag adref yr ydwyf, wedi bod yn danfon gwartheg i Sir Amwythig," ebe finau. Gofynodd yntau, "Pa fodd y bu i chwi feddwi fel hyn?" "Wel, fy arglwydd, cymeryd llymaid go helaeth a wnaethum yn y Gwyliau (Nadolig) yma rywfodd," meddwn inau. O , ai ê,"meddai yntau, -a ydyw Iesu Grist yn caniatau i chwi gymeryd mwy o ddiodydd meddwol yn y Gwyliau nag amser arall?—mi a'ch cosbat' chwi am hyn." "Nag ydyw, fy arglwydd," ebe finau - maddeuwch i mi, os gwel eich arglwyddiaeth yn dda — yr ydwyf yn un digon diniwaid a gonest." "A ewch chwi ymaith o'r dref os maddeuaf i chwi?" meddai yntau, "Af, my lord," meddwn inau, gan ddiolch iddo am ei diriondeb. Ar ol ystyried ychydig, a gweled fy mraich mewn cadach, ac wedi cael fy maeddu gymaint gyda'r paent oedd hyd fy ngwyneb, gorchymynodd ei arglwyddiaeth i'r Hedd-geidwad fy anfon allan o'r dref.

Daethum yn fy mlaen oddiwrth Gaer dan fegio . i bentref bychan, ac aethum at dŷ Offeiriad o Gymru (y Parch E. Evans, neu Ieuan Glan Geironydd,) i erfyn arno ar fy ngliniau am iddo roddi ychydig o bres neu ryw elusen arall i mi.

Dywenodd yntau, a rhoddodd ychydig o fara i mi; (o herwydd ni chredai nad yn dweyd celwydd oeddwn yn nghylch fy mraich, er mwyn cael arian i'w rhoddi am ddiodydd. Daethum yn mlaen i Dreffynon, dan fegio yo mhob man, a byddwn yn cael llawer hefyd, trwy ddangos fod fy mraich o'i lle—nas gallwn weithio, &c. Pan oeddwn yn un o dafarndai Treffynon cynygiodd Dr. Bevan roddi fy mraich yn ei lle am ddeunaw ceiniog, ac yr oedd genyf finau gymaint a hyny o bres hefyd; ond gwrthodais ei gynygiad er mwyn cael chwaneg o ddiodydd. Daethum yn mlaen mewn gofid mawr drwy Lanelwy a Llanfair i Lanrwst. Can gynted ay y cyraeddais adref, aethum at yr Offeiriad, yr hwn oedd hefyd yn Ustus Heddwch, i ofyn am gymorth o'r Plwyf tuag at fyw, ac i roddi fy mraich yn ei lle. Gorchymynodd yntau i'r Plwyf wneud fy nghais, a rhoddodd chwe' cheiniog yn fy llaw: a gweriais inau ef am ddiodydd meddwol, a meddwais y diwrnod hwnw hefyd. Rhoddodd meddygon y dref fy mraich yn ei lle dranoeth, heb unrhyw ystyriaeth arianol.

Wedi bod gartref am yspaid o amser yn gwneud mân swyddau hyd y dref, aethum gyda gyr o foch i'r Amwythig. Pan dderbyniais fy nghyflog, aethum i'r tafarndai gyda rhai o yriedyddion y dref ag oeddyn fy adnabod, a meddwais yno. Ac wrth y Welsh Bridge cyfarfyddais â dynes ddrwg, yr hon a'm hudodd gyda hi. A gwelodd yn mha le yr oeddwn yn cadw fy arian, ac yspeiliodd fi o'r cwbl , —yr oeddwn yn rhy feddw i'w rhwystro. Wrth ddyfod o'r Amwythig arosais ychydig yn Ngwrexham, a meddwais yno a chysgais allan, ac yspeiliodd rhywun fi cyn y bore. Y noswaith ganlynol gofynais am lety i ddynes lled ieuanc oedd yn sefyll yn nws ei thy, a dywedodd nad oedd yno ddim ond un gwely - y cawn gysgu yno am swllt os dewiswn. Rhoddais inau swllt iddi gyda'r nos , gan feddwl myned yno y noswaith hono, ac aethum allan hyd y dref; ond yn mhen ychydig oriau edifarheais ei roddi iddi, ac aethum ati yn fy meddwdod i ofyn am fy swllt yn oly deuwn yno drachefn; rhoddodd hithau y swllt i mi yn ddigon ewyllysgar . Ond wrth dalu am wydraid o gwrw mewn rhyw dŷ tafarn, gwelais mai swllt drwg ydoedd! Rhedais yn fy ol i chwilio am dani; ond erbyn i mi fyned at ei thy, yr oedd wedi cloi y drws a dianc i rywle .

Daethum o Wrexham yn ol i Lanrwst, ac i lawr i ffair Llansantffraid, gan ddysgwyl cael rhyw orchwyl i'w wneud yno. A thranoeth ar ol y ffair cefais gryn lawer o ddiod gan hwn a'r llall oedd yn fy adnabod, yn nghyd a ffarmwyr y gymydogaeth . Yr oeddynt wedi clywed fy mod wedi myned drwy dref Llairwst yn noeth ryw dro yn ol, a chynygiasant roi chwartiau o gwrw i mi os gwnawn yr un peth yno. Derbyniais eu cynygiad yn llawen, tynais am danaf ac aethum allan yn noeth lymun drwy y pentref oddiwrth yr Efail at y Wheat Sheaf ac yn ol, a rhedodd Mr. Thomas Williams, Masnachydd, ar fy ol gyda chwip fawr ; ond methodd a fy nal.

Aethum o Lansantffraid i Ddinbych, ac oddiyno i Ruthyn, lle y dygwyddais daraw wrth ddynes ddrwg, yr hon a ddaeth i fegio at yr un tŷ a mi. A thranoeth deuais o hyd iddi ar y ffordd at Langollen . Ar ol siarad ychydig am bethau amgylchiadol, dywedodd mai gwraig weddw dlawd o Wyddeles oedd hi. Dywedais inau mai gwr gweddw tlawd o Gymro oeddwn inau—ein bod yn ddau gymhariaid cymwysiawn i fyw gyda'n gilydd. Nid oedd yn hollol foddlawn i fy nghanlyn, rhag ofn fod yno rywun yn ein hadnabod; ond addawodd wneud fy nghais pan elun yn mhellach yn mlaen. Telais am ei llety y noswaith hono; ac aethum i lety arall oddiwrthi. "Bore dranoeth cychwynasom ein dau tuag at Groesoswallt, gan fegio arian a bwydydd hyd y wlad. Ac yn y Waen (Chirk,) pentref bychan oedd ar y ffordd, troisom i mewn i dŷ tafarn, a chydyfasomi yno yn hir, a rhoddais fy arian i gyd iddi i'w cadw. Aethum yn mlaen i Groesoswallt, lle y cawsom lety yn ddidrafferth, ac nid oedd neb yn ameu nad gwr a gwraig oeddym. Aethom oddi yno i Aberystwyth: ac yr oeddwn wedi hel oddeutu pymtheg swllt o arian a bwyd ar hyd y ffordd, a rhoddi y cwbl iddi i'w cadw. Pan oeddwn allan yn begio hyd y Gymydogaeth, diangodd o'r tŷ llety oedd genym, ac aeth i'r tafarndai wario fy arian i gyd am ddiodydd. Bum ddeuddydd neu dri hyd y dref yn methu cael hyd iddi; ond o'r diwedd cefais wybod lle yr ydoedd yn lletya, ac aethum yno ati, a chefais hinn llechu tu draw i'r gwely. Tynais hi i'r llawr a dechreuais ei churo a rhwygo ei dillad yn fy ngwylltineb, rhedodd hithau allan o fy nwylaw, pan y gallodd , ac aeth i'r tŷ yr oeddym yn aros ar y cyntaf. Meddyliodd gwragedd y tai nesaf mai fy ngwraig oedd, a rhwystrasant fi i fyned i'r tŷ ati, rhag i mi ei niweidio. Gadawais hi yno, ac ni welais hi byth mwyach.


Aethum o Aberystwyth drosodd i Aberdyfi, ac oddiyno i'r Tywyn Meirionydd; ac yn mlaen i bentref o'r enw Llwyngwril, lle y byddai Nannau Wynn, Ysw ., Llanrwst, yn arfer myned i hela bob blwyddyn. Nid oedd genyf ddim arian i dalu am lety y noswaith hono. Yr oedd yno westy, neu dŷ tafarn pur fawr, lle yr arferai y boneddwr hwnw ddisgyn; a dywedais wrth wraig y tŷ hwn mai gwas i Mr. Nannau oeddwn — fy mod wedi dyfod yno i ddanfon y cŵn hela, a fy mod wedi eu gadael yn Abermaw—eu bod wedi blino gormod i gyraedd Llwyngwril y noswaith hono. Credodd y wraig da fy mod yn dweyd y gwir; rhoddodd swper a diodydd a lle i gysgu i mi. Cefais foreufwyd hefyd dranoeth gan foneddwr oedd yn byw yn ymyl y gwesty hwn, ac yn gyfaill mawr i Mr. Nannau; gofynais iddo am fenthyg swlli nes deuai fy Meistr yno; rhoddodd yn ddigon rhwydd. Yna diengais at Abermaw can gynted ag y gallwn.

Aethum o'r Abermaw ar draws y wlad i Wrexham, a chefais afael ar hen ferch led ffol yn y tŷ yr oeddwn yn lletya yno, yr hon a amododd i ddyfod i fy nghanlyn fel gwraig i mi. Aethom o Wrexham i Sir Drefaldwyn, dan fegio ein dau hyd y wlad tuag thay at fyw. Cawsom waith i godi pytatws yn Llanidloes;— yr oedd hi yn cael deg ceiniog, a minau swllt yn y dydd am oddeutu wythnos o amser. Daethum o'r Deheudir trwy Machynlleth, Dolgellau a Harlech, ac i Gaerynarfon, a throsodd i Sir Fon. Troisom i dŷ tafarn yn y Gaerwen, yn ymyl Llangefni, a meddwais i y noswaith y daethom yno. Bum yno ar fy nherm am dri neu bedwar diwrnod, nes gweriais yr holl arian oeddym wedi gasglu i feddwl priodi. Daethom o Sir Fon i Fangor, a thrwy Gonwy i Mochdre, lle yr ymadawsom â'n gilydd; oblegid yr oedd yn ormod trafferth genym ail hel arian tuag at fedru priodi a chadw tŷ. Aeth hi yn ei hol at Wrexham, a deuais inau i Lanrwst.

Yr oeddwn wedi cael trousers cryf a hardd, dim gwaeth na newydd, gan wr boneddig yn Mangor; a phan oeddwn ar fy nherm yn Llanrwst, a fy arian wedi darfod, ac yn methu dyfeisio pa fodd i gael chwaneg o gwrw, gwerthais ef am bymtheg ceiniog a hen drousers gwael a charpiog. Wrth weled yr hen drousers hwn mor fudr a thyllog, tynais ef oddi am danaf, a theflais ef ymaith, ac aethum at Bettws y coed yn haner noeth, heb ddim ond coat a chrys am danaf; gan feddwl y buaswn felly yn fwy o wrth ddrych tosturi. Aethum yn gyntaf at y Royal Oak ; ond ni chefais yno ond gwydraid o gwrw. Aethum oddiyno at Hendrerhysgethin, ac ni chefais ddim yno, oherwydd nid oedd Mr. Price yn dygwydd bod gartref. A phan oeddwn ar gychwyn oddiwrth y tŷ tywalltodd rhai o'r morwynion biseraid o ddwfr o'r lloft i lawr am fy mhen. Aethum oddiyno i Gapel Curig, a threais i'r Inn: ond ni lwyddais i gael dim yno heblaw ychydig o bres a diod. Aethum ychydig yn mlaen i dŷ ffarm a elwir Dyffryn Mymbyr a dywedais wrth wry tŷ, "Harri Roberts bach , byddwch gystal a rhoi hen "drowser" neu ryw beth i greadur llwm ac anffodus — y mae rhywun wedi fy yspeilio o fy nhrousers a'r arian oedd yn ei bocedau pan oeddwn yn cysgu allan yn ymyl Llanrwst." "Wel yn wir, Twm bach," meddai yntau, "wn i ddim,—fe allai fod gan y mab yma un a wna y tro i ti; tyred i fewn." Ac estynodd y mab glôs pen glin da i mi; a chefais fwyd a lle i gysgu y noswaith yno. Daethum adref yn fy ol ac aethum i ffair Llanbedr i ddanfon dau fystach dros un o gigyddion Llanrwst, a meddwais yno yn gynar ar y diwrnod. Dygwyddais fyned i ardd oedd tu cefn i dŷ tafarn yno, lle yr ydoedd Stewardiaid Gwydyr, a mân foneddigion eraill o Lanrwst yn cydyfed cwrw. Gwaeddasant arnaf a dywedasant y cawn chwart o gwrw os gorweddwn ar lawr, ac iddynt hwythau gael ei dywallt i fy safn. Caniateais inau iddynt wneuthur felly, a mi gorweddais ar wastad fy nghefn ar lawr, a chymer dasant y chwart cwrw a chodasant ef i fynu, a thywalltasant y cwbl, yn nghyd a llawer ychwaneg , i lawr i fy ngwddf, fel i bwll o ddwfr. Ond cyn iddynt gael yr hyn a ddymunent o sport gyda mi, cododd rhyw ffarmwr fi i fynu ar fy nhraed, a symudodd fi ymaith. Cychwynais at Lanrwst yn yr hwyr yn feddw iawn, a syrthiais wrth bont Dolgarog, a chysgais yno hyd y bore.

Ar ol hyn aethum i ffair Porth Aethwy, a chefais waith yno i ddanfon bustachiad i Sarnfollteyrn, dros rhyw borthmon o Leyn; a chefais bum swllt o gyflog ganddo. Aethum yn mlaen i Bwllheli, a dechreuais wario yr arian a dderbyniais y dydd o'r blaen, a meddwais yn arswydus, a chefais gysgu am noswaith neu ddwy yn y tŷ tafarn lle yr oeddwn. Ond pan ddarfyddodd fy arian, dywedodd gwraig y tŷ fod rhyw werthwr tea wedi dyfod yno—nad vel oedd ganddi ddim lle i mi i gysgu mwyach. Pa fodd bynag, trwy ei bod yn llawer o'r nos, a minau yn feddw , dywedodd y gallwn gael myned i lofft yr ystabl. Nid oedd genyi ddim i'w wneud ond myned yno. A phan oeddwn yn myned allan drwy ddrws y cefn at yr ystabl, gwelais ddau bot a llechi . ar eu gwynebau mewn rhyw gornel yn y cefn. Ar ol cysgu yn y gwair am rai orian, daeth syched mawr arnaf, a deffroais, ac ni wyddwn beth i'w wneud i dori fy syched. Ond o'r diwedd cofiais i mi weled rhyw botiau yn y cefn wrth ddyfod yno. Codais ac aethum allan i chwilio am danynt, gan ddysgwyl fod dwfr ynddynt. Deuais o hyd iddynt; ac yr oedd cwpan ar lawr yn eu hymyl, a chodais gwpanaid i'w yfed ar frys; ac wrth ei archwaethu yn egr a sharp, meddyliais mai diod fain ydoedd, a chymerais lwnc pur fawr o hono. Ond cyn pen haner munud daeth cyfog mawr arnaf. Ac erbyn edrych yn fanwl, deallais mai golch sur ydoedd! Daethum yn ol i Lanrwst drachefn, lle yr arosais am yspaid o amser.

Un diwrnod pan oeddwn yn feddw iawn, cyfarfyddais â dynes ddrwg ar y dref, ac ymddygais yn bur warthus gyda hi ganol dydd goleu; ac yr oedd tyrfa fawr o blant, ac eraill, oedd yn dygwydd myned heibio ar y pryd, yn gylch o'm deutu yn edrych arnaf. Cymerodd Mr. Williams, yr Exciseman chwip a chwipiodd ni, nes ein gwahanu oddiwrth ein gilydd. Prin yr wyf yn cofio yr amgylchiad gwarthus hwn, oblegid yr oeddwn mor feddw fel, na wyddwn pa beth oeddwn yn ei wneuthur; ond yr oedd yno ddigon o edrychwyr sobr yn fy ngweled allant dystio yn fy ngwyneb heddyw er cywilydd i mi. Ond rhaid addef pe buasai dynion moesgar y dref yn fy ngweled y buasent yn fy fllangellu yn dost.