Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Y Goncwest

Y Rhufeiniaid Hanes Cymru O M Edwards Cyf I
Y Rhufeiniaid
gan Owen Morgan Edwards

Y Rhufeiniaid
Y Rhufeneiddio

I. Y GONCWEST 43—78

Yn y flwyddyn 43 wedi geni Crist, anfonodd yr ymerawdwr Claudius, yn ei awydd am goncwest, ei gadfridog Aulus Plautius i orchfygu Prydain. Gydag ef yr oedd pedair lleng o filwyr,- tua hanner can mil

TREM GYNTAF Y RHUFEINIAID AR ERYRI.

o ddynion. Gydag ef hefyd, fel is-swyddogion, yr oedd tad a mab ddaethant yn ymerawdwyr ar ôl hynny,—y Vespasian a'r Titus ddinistriodd Jerusalem. Gorchfygodd Plautius ddeheudir Lloegr, - y wlad y tu de i'r Tafwys, - i ddechrau. Yr oedd un o'i brif gaerau, Caerloyw, yn nyffryn yr Hafren, ac yng ngolwg mynyddoedd Cymru. Cyn iddo groesi'r Tafwys, daeth yr ymerawdwr i'r fyddin, ac yna cychwynasant i dir Caradog, prif frenin y deyrnas, a'r wastadeddau'r dwyrain. Wedi ymladd deg brwydr ar hugain a gweled y Rhufeiniaid yn cymeryd Camalodunum drwy ruthr, dihangodd Caradog ar draws yr ynys i fynyddoedd y gorllewin, a galwodd ar Siluriaid rhyfelgar y mynyddoedd i baratoi ar gyfer dyfodiad y Rhufeiniaid.

Ar ôl Plautius daeth Ostorius Scapula, un o gadfridogion yr un ymerawdwr. Wedi gorchfygu pob gwrthryfel y tu dwyreiniol i'r Hafren, arweiniodd hwn fyddin yn erbyn y Cangi, llwyth breswyliai fynyddoedd Arfon, a daeth ymron hyd lannau môr Cymru. Cyn iddo orffen darostwng pobl Arfon, gorfod iddo droi i ymladd a'r Brigantes y tu ôl iddo.

Ond llwyth mwyaf anhyblyg Prydain oedd y Silures. Yr oeddynt yn rhyfelgar wrth natur, ac yn llawn hyder oherwydd fod Caradog, cadfridog dewraf y Prydeiniaid, yn eu mysg. Arweiniodd Caradog hwy i randir mwy mynyddig yr Ordovices, ac yno, yn rhywle ar odrau mynyddoedd Cymru, gyda milwyr yr holl lwythau, arhosodd Caradog i ddisgwyl Ostorius a'i Rufeiniaid, i ymdrechu'r ymdrech olaf am ryddid ei wlad. Yng Nghymru y mae pob hen achos yn marw, yno yr ymladd pawb ei frwydr olaf. Ni fu rhyfel ym Mhrydain, o amser y .Rhufeiniaid hyd y Rhyfel Mawr, nad yng Nghymru y ceid y milwr olaf neu'r castell olaf yn sefyll dros yr hwn orchfygwyd.

Rhydd Tacitus ddarluniad byw o'r frwydr rhwng Ostorius a Charadog. Er gwaethaf medr Caradog, ac er gwaethaf brwdfrydedd y Prydeiniaid, nid oedd bosibl sefyll o flaen disgyblaeth ac arfau dur y Rhufeiniaid. Collwyd y frwydr, a chyn hir syrthiodd Caradog ei hun i ddwylaw'r Rhufeiniaid. Arweiniwyd ef i Rufain, yr oedd pawb yn awyddus am weled un heriasai allu brenhines y byd cyhyd. Wrth gael ei arwain gyda charcharorion drwy'r ddinas i ddangos buddugoliaeth Rhufain, brenin oedd Caradog o hyd; o flaen gorsedd yr ymerawdwr ymddygodd fel brenin yn disgyn o hynafiaid anrhydeddus ac yn teyrnasu ar genhedloedd lawer.

Canmolwyd buddugoliaethau Ostorius yn Rhufain, ond nid oedd wedi llwyr orchfygu'r Silures. Ymladdasant yn ddewrach wedi colli Caradog, enillasant frwydrau, a dinistriasant lawer ysgwadron Rufeinig yn llwyr. Tybia'r hanesydd Rhufeinig fod y Rhufeiniaid wedi colli eu disgyblaeth pan yn sicr nad oedd Caradog ger llaw, neu fod y Silures wedi ymdynghedu y dialent ef. Yr oedd y llwyth diflino hwn, nid yn unig yn ymosod ar y Rhufeiniaid eu hunain bob cyfle gaent, ond yn codi'r llwythau eraill i wrthryfela ym mhob man. Bu Ostorius farw dan bwys ei bryder wrth ymladd yn eu herbyn; nid oedd profiad hir Aulus Didius yn ddigon i wneud mwy na'u rhwystro i ymddial ar y rhannau oedd y Rhufeiniaid wedi ennill; bu Veranius hefyd farw heb wneud dim ond ennill rhyw frwydrau bychain dibwys yn eu herbyn. Ni fedrai'r cadfridogion hyn wneud dim ond codi caerau i rwystro'r mynyddwyr ymosod ar daleithiau'r gwastadedd, rhes o gaerau ar hyd gororau Cymru ddaeth wedi hynny'n ddinasoedd ardderchog,— Uriconium, Caer Went, a Chaer Lleon ar Wysg.

Cyn marw, dywedodd Veranius y medrasai ennill Prydain i gyd i Nero pe cawsai fyw ddwy flynedd. Anfonodd Nero un ar ei ôl dreiodd wneud hyn,—Suetonius Paulinus alluog, uchelgeisiol, boblogaidd. Gwelodd ef mai Ynys Môn oedd dinas noddfa a chartref brwdfrydedd llwythau'r mynyddoedd, a phenderfynodd ymosod arni. Cludodd ei wŷr traed dros y Fenai mewn cychod, a nofiodd ceffylau'r gwŷr meirch a'r eu holau. Wedi glanio gwelodd y Rhufeiniaid olygfa nas gwelsent ei thebyg yn un o wledydd y byd,—byddin fawr, gwragedd mewn dillad duon a chyda thorchau fflamllyd yn eu dwylaw'n gwibio drwy'r fyddin, a Derwyddon yn tywallt y melltithion mwyaf ofnadwy. Ni pharhaodd dychryn y Rhufeiniaid ond am ennyd ; rhuthrasant ar y fyddin a'r Derwyddon, a llosgasant holI lwyni'r ynys,—lle'r aberthai'r Derwyddon aberthau dynol i'w duwiau creulon.

Er hynny, yr oedd Suetonius fel pe dan felltith byth wedyn. Gorfod iddo adael Môn oherwydd fod y gwastadeddau'n codi mewn gwrthryfel o'i ôl; ac er iddo orchfygu Buddug wedi'r galanastra ofnadwy wnaeth ar y Rhufeiniaid, gwelodd y Prydeiniaid ef yn gorfod ymostwng i un o gaethion Nero,—un o'r gwibed oddi ar domen fydd yn ehedeg yn uchel,—ac yn gorfod rhoddi ei allu i fyny i dywysog anfedrus. Pan ddechreuodd Vespasian deyrnasu, anfonodd gadfridogion grymus i Brydain, ac o'r diwedd medrodd Julius Frontinus orchfygu'r Silures. Erbyn y flwyddyn 78 yr oedd holl lwythau'r ynys wedi eu gorchfygu, yr oedd y llengoedd yn gwneud ffyrdd drwy'r ynys, ac ymysg caerau eraill gallasid gweled Caer Lleon Fawr ar lan y Ddyfrdwy.