Hanes Cymru O M Edwards Cyf I/Yr Hen Grefydd
← Dau Frenin Galluog | Hanes Cymru O M Edwards Cyf I Yr Hen Grefydd gan Owen Morgan Edwards Yr Hen Grefydd |
Y Grefydd Newydd → |
CROMLECH YN NYFED
PENNOD XI - YR HEN GREFYDD
YN hanes rhyfeloedd Iwl Cesar, a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun, rhoddir darluniad o grefydd Celtiaid y cyfandir, a gallwn ei gymeryd, hefyd, fel darlun o grefydd Cymru. Yr oedd y bobl dan awdurdod dau fath o lywodraethwyr, - y tywysogion, yn meddu gallu'r byd hwn; a'r derwyddon, yn meddu gallu dieithr ac ofnadwy y byd arall. Gwaith y derwyddon oedd arolygu pob peth crefyddol, gofalu am yr aberthau wneid ar ran gwlad neu ŵr, ac esbonio egwyddorion crefydd. Hwy oedd athrawon yr ieuanc, ac ymdyrrai gwŷr ieuainc y gwledydd i'w hysgolion. Hawdd ydyw gweled oddi wrth hyn eu bod yn uchel ym meddyliau'r bobl, ac mewn anrhydedd mawr. Hwy oedd barnwyr y wlad; os cyflawnai rhywun drosedd, os llofruddid neb, os byddai ymrafael am etifeddiaeth neu am derfynau, - y derwyddon fyddai'n cyhoeddi'r gyfraith ac yn dyfarnu'r gosb. Os gwrthodai neb dderbyn eu cosb neu eu cerydd, boed ef un enwog neu un dinod, un cyhoeddus neu anghyhoedd, gwaharddent iddo ddod i'r aberthau. Yr ysgymundod hwn oedd eu penyd eithaf; a buan y teimlai'r ysgymunedig mai penyd annioddefol oedd, - cyfrifid ef ymysg yr euog ar annuwiol, gochelai ei gyfaill gorau ef fel un heintus, nid oedd cyfraith a'i hamddiffynnai, ac ni ddisgynnai un anrhydedd i'w ran. Eisteddai'r derwyddon mewn man canolog, mewn llecyn cysegredig, a doi'r rhai oedd a chŵyn atynt o bob cyfeiriad.
Yr oedd yr offeiriaid hyn yn un dosbarth annibynnol, dan lywodraeth un archdderwydd. Y derwydd pwysicaf ymysg y derwyddon oedd yr archdderwydd. Weithiau cymerai un ei le yn naturiol fel archdderwydd ar farwolaeth y llall, dro arall byddai etholiad cynhyrfus, ac weithiau ymleddid âg arfau am y lywyddiaeth bwysig hon.
Yr oedd gan y derwyddon lawer o freintiau. Ni ofynnid iddynt ymladd mewn rhyfel, ni osodid treth arnynt, a medrent ymgadw, os mynnent, oddi wrth bob dyletswydd gwladol. Yr oedd eu breintiau'n tynnu llawer atynt, o'u gwirfodd neu drwy gymhelliad eu rhieni, i dreulio eu dyddiau wrth draed athrawon, yn lle mentro eu bywydau yn rhyfeloedd aml a ffyrnig yr amseroedd hynny. Eisteddai rhai wrth draed y derwydd am ugain mlynedd. Defnyddid ysgrifen mewn materion gwladol; ond mewn materion crefyddol, nid oedd lyfr i fod ond y cof. Dysgid miloedd o adnodau a phenillion. Tybient y collent eu gafael ar y bobl os gadawent i'w dysg fynd o'u dwylaw trwy ei roddi ar ysgrif: a pheth arall, tybient fod rhoddi gwybodaeth mewn ysgrif yn magu diogi yn y meddwl trwy arbed llafur. Un o'u prif ddaliadau, - daliad dynnai sylw Iwl Cesar mewn modd neilltuol, - oedd eu cred yn nhrawsfudiad eneidiau. Dalient nad oedd yr enaid yn marw, ond ei fod yn mudo o'r naill i'r llall. Hyn oedd un rheswm am wroldeb y rhyfelwyr, - yr oedd ofn marw wedi ei dynnu o'u meddwl. Dysgent eu disgyblion, hefyd, y peth wyddent am y sęr a'u troeon, am faint y byd, am natur pethau, ac am allu a grym y duwiau anfarwol.
Teyrnasent ar bobl dra chrefyddol. i'w meddwl hwy, y duwiau oedd yn rheoli pob peth. Pan flinid hwy gan afiechydon hynod boenus, neu pan oedd raid wynebu perygl mewn brwydr, gwnaent i'r derwyddon aberthu bodau dynol yn aberth. Tybient na fedrid achub un dyn heb aberthu un arall yn ei le i'r duwiau. Yr oedd gan y genedl gyfan ei haberthau. Llenwid delw wiail anferthol â dynion byw; rhoddid hi ar dân, a llosgid y dynion yn aberth. Tybient mai yr aberth mwyaf dymunol gan y duwiau oedd llofruddion a lladron,-ond os na byddai digon o'r rhain, llenwid y ddelw â rhai diniwed.
Ar awr claddu, taflent bob peth oedd annwyl gan yr ymadawedig i'r tân, - hyd yn oed creaduriaid byw. Ac ychydig cyn amser Iwl Cesar, pan fyddai'r seremonďau claddu drosodd, llosgid y caethion a'r gweision anwylaf gan y marw, fel y dilynent ef i'r byd arall yr oedd y derwydd yn ceisio tremio iddo trwy'r tywyllwch mawr.
Y mae olion aberthu adeg gwneud adeilad neu bont yng Nghymru eto. Yn un o lecynnau mwyaf anghysbell Ceredigion y mae un bont yn cael ei galw eto ar enw un o'r duwiau y tybid ei fod yn gofalu am bontydd, - Pont y Cwr Drwg. Dywed yr hanes mai efe ei hun a'i cododd. a'i fod wedi gofyn aberth i'r hen wraig y cododd hi er ei mwyn. Yr aberth oedd y peth byw cyntaf groesai. Yr oedd yn meddwl yn sicr mai'r hen wraig fyddair peth byw hwnnw. Ond anfonodd hi ei chi o'i blaen, ac - nad oedd hwnnw'n aberth gwerth trafferth yr ysbryd drwg. Traddodiad ydyw'r hanes hwn, mae'n sicr, am yr aberthu bywyd fu wrth osod sylfeini pontydd.
Allor yr Iberiad oedd yr allor waedlyd honno. Ei grefydd ef oedd derwyddiaeth. Yr oedd crefydd ac addoli yn ei natur, ac yr oedd ofn byd arall ym ei wneud yn wasaidd i'r offeiriaid oedd yn gwybod meddwl y duwiauo.Ond yr oedd gan y Celt fwy o nerth corff, a llai o ddychymyg. Nid oedd rhyw lawer o wahaniaeth rhwng ei dduwiau ef a dynion, mwy nag oedd rhwng duwiau'r Teutoniaid a dynion.
Ymffrostiai yn ei nerth ei hun, wrth hela'r baedd ar arth, ac wrth gyfarfod ei elyn mewn brwydr ffyrnig. Y parch a dalai o gwbl, fei talai'i ysbrydion ei gyndadau, ac nid oedd ei dduwiau ond ei hynafiaid ef ei hun.
Y mae'r gromlech ar lun y tŷ. Yn aml y mae cylch o gerrig geirwon ar eu pennau yn y ddaear, a dwy res o gerrig eraill yn myned tuag atynt. A'i y rhain, un waith, yr oedd to o bridd. Dyna dŷ cyntefig y llwyth. Gwnaed y bedd ar lun y tŷ ,- preswylfa'r marw oedd. Ym mhlith rhai llwythau paganaidd, hyd y dydd hwn, gadewir yr hen dŷ i gorff marw'r pen teulu, a thry'r teulu allan i chwilio am dŷ newydd. A oedd y llwythau'n addoli wrth y gromlech, wrth fedd eu pennaeth? Maen ddiamau eu bod; nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng dal cymundeb â'u hynafiad a'i addoli. Yn y gromlech yr oedd eu pennaeth coll yn byw, a chyda pharch y dynesent at y lle. Ceidwadol iawn ydyw dyn, ymhob oes, gyda seremonďau claddu. Yr oedd y gromlech, - tŷ'r marw, ar lun ei adeiladau cyntaf, ogofeydd yn , y ddaear hwyrach; Tra'r oedd tŷ'r byw ar gynllun mwy cyfaddas at anghenion newyddion y bobl.
Ond, wedi dod i gyffyrddiad â'r Iberiad, cafodd y Celt syniadau eraill am fyd y bedd. Dysgodd grefydd newydd, - sef derwyddiaeth. Y mae'n ddi ddadl mai o'r Iberiad gorchfygedig y cafodd Celtiaid Ffrainc a Phrydain y grefydd hon. Ymysg yr Iberiaid, yn eithafion gorllewinol Cymru, yr oedd ei dysgawdwyr gorau. Oddi yno, sylwai dieithriaid, yr adnewyddid derwyddiaeth; oddi yno y deuai ei hoffeiriaid.
Y mae'n amlwg beth oedd effeithiau'r grefydd dywyll hon. Yn un peth, gwnâi i ddynion gofio fod duwiau creulon eiddigus yn gwylio symudiadau eu bywyd; a pheth arall, rhoddai ddylanwad anarferol i'r offeiriaid. Ei drwg oedd, - gwnâi fywyd dynion yn anhapus, dan gysgodion tywyll o hyd; a rhoddai allu dirfawr yn nwylaw offeiriaid wyddent ba fodd i orthrymu. Ei da oedd, - rhoddai atalfa ar nwydau hunanol yr anwar; a rhoddai allu yn llaw rhywun heblaw'r Celtiaid trahaus.
Lludd Law Arian oedd duw trafnidiaeth ar fôr a thir, perchennog a rhoddwr diadelloedd a llongau. Y mae olion ei deml i'w gweled eto ar lan yr Hafren, mewn lle yn dwyn ei enw, - Lydney. Y mae Lydstep yn neheudir Penfro. Yr oedd teml i'r un duw,. mae'n ddiamau, yn y lle y deuai llongau i fyny'r afon Tafwys, - lle mae Llundain yn awr. Dyna ystyr yr enw Cymreig am y brifddinas, - Caer Ludd; a dyna ystyr enw Ludgate Hill hefyd. Cofid am Ludd fel gwaredwr ei wlad oddi wrth dair gormes.[1]
Hen dduw diddorol arall oedd Myrddin. Syrthiodd hwn mewn serch, a dangosodd i'w gariad pa fodd y medrai wneud plasdy hud, plasdy na fedrai carcharor ddod o honno byth. Gwnaeth hithau blasdy felly o gwmpas Myrddin pan oedd yn cysgu, ac yn y tŷ gwydr hwnnw y mae Myrddin byth.
Y mae Llyr wedi dod yn enw adnabyddus oherwydd ei fod yn destun un o ddramâu gorau Shakespeare, ac y mae Coel wedi aros mewn hwiangerdd. Duwies fu mewn bri mawr oedd Elen Luyddawg. Y mae darluniad prydferth o honni ym Mreuddwyd Macsen Wledig. Gwelodd Macsen hi mewn breuddwyd, yn eistedd mewn cader aur, ac yr oedd mor anodd edrych ar ei thegwch disglair ag ar haul pan fydd decaf. Mewn amser anwylwyd ei henw trwy ei gysylltu ag enw'r ymerawdwr Rhufeinig cyntaf gofleidiodd Gristionogaeth. Gelwir yr hen ffyrdd syn croesi ein mynyddoedd ar ei henw hi.
Clywai Mâth Hen beth a ddywedid mewn unrhyw bellder; ond yr oedd llawer o dduwiau a rhyw anaf corfforol neu arwydd henaint arnynt, megis Tegid Foel a Dyfnwal Moelmud. Gwydion ab Don ydyw'r mwyaf prydyddol a difyr o'r holl hen dduwiau, - efe greodd Flodeuwedd o wahanol flodau, efe ddaeth a moch o'r de, efe oedd yr hanesydd huawdl a'r adroddwr ystraeon difyr. Gwyn oedd brenin y Tylwyth Teg a'r marw, Cai oedd duw'r tân, Beli Mawr oedd duw rhyfel, Pwyll fedrodd reoli uffern drwy rym a doethineb. Yr oedd Owen a'i frain yno hefyd, a Pheredur, a llu o dduwiau eraill. Nid Elen oedd yr unig dduwies ychwaith; yr oedd Ceridwen ymysg duwiesau hen Gymru, yn paratoi defnynnau doethineb yn ei phair ger Llyn Tegid; yr oedd Dwynwen yno hefyd, duwies cariad, a'i ffynnon yn datguddio cyfrinion serch.
Mae enwau llawer o'r hen dduwiau, mae'n ddiamau, wedi diflannu. Erys rhai fel enwau ar ysbrydion drwg, megis Ellyll. Meddiannwyd eraill gan Gristionogaeth, megis Naf. Erys rhai mewn enwau lleoedd, megis Tegid. Ond erys y rhan fwyaf fel arwyr hanner dynol, megis Cai, Bran.
Y mae llawer llecyn yng Nghymru fu'n gysegredig gynt i'r hen dduwiau. Y mae llyn du trist yn Eryri o'r enw Dulyn. Aberthid ar ei gerrig unwaith aberthau i dduw'r gwlaw. Dechrau'r ganrif hon, ceid gwlaw drwy daflu dŵr ar y garreg bellaf yn y llyn, a elwid yn allor goch. Y mae llawer crug a thomen a gorsedd fu'n gysegr i ryw dduw a ofnid gynt. Ni feiddiai neb fynd i orsedd Arberth heb orfod dioddef poen corfforol am ei ryfyg:[2] ni fedr neb gysgu ar ben Cader Idris heb fod yn barod i dderbyn un o dri pheth a gynhigid iddo,- athrylith, gwallgofrwydd, neu farwolaeth. Y mae llawer pen bryn nas gellir cloddio ynddo heb dynnu ystorm o fellt a tharanau, - y mae ofn yr hen dduwiau wedi aros eto yng ngreddf gwlad.
Lle'r arhosodd gallu'r hen dduwiau hwyaf oedd o gylch ffynhonnau. Yr oedd ugeiniau o ffynhonnau hyd Gymru, ac yr oedd ugeiniau o fân dduwiau'n warcheidwaid i'r rhain, duwiau fedrai daro â chlefyd, neu iachau. Gwaith cymharol hawdd i Gristionogaeth oedd gorchfygu'r duwiau pwysicaf; ond gwaith anodd iawn oedd gorchfygu'r mân dduwiau hyn. Arosasant hyd ein dyddiau ni. Y peth wnaeth y cenhadon Cristionogol oedd cymeryd lle'r hen dduwiau, a chymeryd meddiant o'r ffynhonnau eu hunain. Daeth sant at y ffynnon, yn lle'r hen dduw, a daeth y bobl a'u hafiechydon at y dyfroedd yr un fath. Wrth odreu Carn Bentyrch yr oedd ffynnon rinweddol, a delw duw, - mae'n debyg, - yn ei gwylio yn agen y graig wrth ben. Daeth Cybi sant, ebe'r hanes, i Langybi; galwyd y ffynnon yn ffynnon Gybi, a rhowd y sant i eistedd yn gysurus yn y graig yng nghader yr hen dduw. Rhoddwyd sant yn lle hen dduw i warchod dyfroedd iachaol ffynnon Degla hefyd. Yr oedd y claf i orwedd dan allor yr eglwys drwy'r nos, a gollyngai aderyn i ehedeg o gwmpas yr eglwys wag. Os byddai'r aderyn wedi marw erbyn y bore, byddai afiechyd y pererin wedi myned iddo ef, a'r pererin ei hun yn holliach. Ac felly y gwnaeth saint eraill gydag hen dduwiau eraill.
Cenid clodydd ffynnon Gwenffrewi gan Iolo Goch, bardd Owen Glyn Dŵr, ac un o feirdd mwyaf y canol oesoedd. Cadwodd llawer ffynnon ei rhin tan ein dyddiau ni; ac aberthir pin neu ddernyn o frethyn eto ger ffynhonnau gâi ragorach aberth gynt.
Er wedi ei darostwng i grefydd y goleuni, cadwodd hen grefydd dywyll y mynyddoedd ei gorsedd mewn llawer modd. Aeth ei haberthau a'i duwiau, i raddau pell, yn rhan o grefydd newydd.
Cyfeiriadau
golygu