Hanes Cymru O M Edwards Cyf II/Brycheiniog a Morgannwg
← Dau Dywysog | Hanes Cymru O M Edwards Cyf II Brycheiniog a Morgannwg gan Owen Morgan Edwards Brycheiniog a Morgannwg |
Caethiwed Gruffydd ab Cynan → |
Hanes Cymru O. M. Edwards - Cyfrol II
PENNOD IV.
BRYCHEINIOG A MORGANNWG.
“ |
|
” |
Roedd rhyw Sieffre yn Normandi, wedi para'n ffyddlon i Wilym Orchfygwr drwy'r tew a'r tenau. Yr oedd ganddo ddau fab, Bernard a Dreux.
Gadawodd y ddau eu treftadaeth yn Neuf Manché, y naill a'i wyneb ar y byd ysbrydol a'r llall a'i wyneb yn eiddgar ar y byd hwn. Tra'r oedd Dreux yn breuddwydio mewn mynachlog, daeth Bernard i Loegr i ofyn gwpan ffyddlondeb ei dadau. Dangosodd y brenin Gymru iddo, a pharodd iddo gymeryd ei wobr yna. Cyfeiriodd yntau i fyny'r Gwy hyd ddyffryn tlws Brycheiniog.
Tua 1088 yr oedd Bernard wedi ymsefydlu mewn llecyn dymunol ymysg bryniau hyfryd Brycheiniog. Y mae'r llecyn hwn yn enwog yn hanes Cymru oherwydd yr hyn gymerodd lle ynddo ganrifoedd wedi i Bernard o Neuf Manche beidio â'i gyffro,? pan welwyd Hywel Harris yn codi ynddo i agor byd tragwyddol o flaen gwerin dlawd ac anwybodus. Bro dawel a thlws ydyw, - bro lle na welir ond ffermwr araf neu fyfyriwr yn cerdded lle bu'r barwn traws gynt. Oddi amgylch Talgarth y mae bryniau'n gylch mawreddog. Rhwng y dyffryn hardd a Lloegr y mae Mynydd Troed, gyda mil o ddefaid yn pori ar ei lethrau llwm. A rhwng y dyffryn a'r rhannau eraill o Gymru y mae godreon Mynydd Epynt, dan ymylwisg a pherllannau a chaeau gwenith. Yma, rhwng Cymru a Lloegr, rhwng y Gwy a'r Wysg, y gwnaeth Bernard gastell iddo ei hun, fel nas gellid ei ymlid ef ymaith o'n fro doreithiog oedd wedi trawsfeddiannu. A chododd eglwys yno hefyd, gan ei chyflwyno i nawdd Ioan yr efengylydd. Tybed a edrychodd y disgybl annwyl ar eglwys y lleidr tir? Yno, ymhen saith gant o flynyddoedd, y clywodd Williams Pant y Celyn llais Hywel Harris; yno y dihunwyd awen y per ganiedydd wnaeth efengyl Ioan yn rhan o feddwl Cymru am byth.
Wedi cael ei hun mewn castell, ac wedi meddiannu bro mor ddymunol, ac wedi cael eglwys iddo ei hun, dechreuodd Bernard ymosod ar ei gymdogion. Ar Loegr yr ymosododd gyntaf. Draw dros Fynydd Troed yr oedd eglwys gadeiriol Caerwrangon yn codi a'r dref ar lan yr Hafren. Yr oedd Caerwrangon yn hynod am ei theyrngarwch i'r brenin, ac am wladgarwch ei thrigolion. Esgob y lle oedd Wulfstan, un annwyl gan bob Sais oherwydd ei bod yn esgob Seisnig ymysg cynifer a Normaniaid oedd yng nghadeiriau esgobol y wlad. Penderfynodd Bernard ymosod ar Gaerwrangon, a chasglodd lu ynghyd. Gydag ef yr oedd ei dad yng nghyfraith Osbern, a Roger de Laci, a thrawsfeddianwyr eraill. Casglwyd yn un fyddin yr holl ddihirod oedd yn chwilio am ysglyfaeth yn nyffryn yr Hafren. Gyda'r Normaniaid a'r Saeson oedd yn y llu gwrthryfelgar hyll, yr oedd llaweroedd o Gymry. Yr oedd Bernard ar hanner y ffordd i fod yn dywysog Cymreig, ac yr oedd llu o wŷr Brycheiniog yn ei ganlyn i ymosod ar Loegr fel cynt.
Tra'r oedd Bernard yn paratoi ei fyddin, yr oedd mynach crynedig yng Nghaerwrangon wedi clywed ei bod yn dyfod, ac yn paratoi ei bluen ysgrifennu i ddweud ei hanes.
Tra'r oedd y barwniaid yn gwrthryfela ac yn dinistrio mewn rhannau eraill, rhuthrodd Bernard o Neuf Marche i ardal Caerwrangon, gyda llu o Saeson a Normaniaid a Cymry, gan ddweud y llosgent dre Caerwrangon, yr ysbeilient eglwys Mair, ac y dialent yn ddiseremoni ar y trefwyr am eu teyrngarwch i'r brenin. Yr oedd Wulfstan, yr esgob, yn ŵr o dduwioldeb mawr ac yn ddiniwed fel y golomen, yn annwyl gan Dduw a'i bobl a phan glywodd y bygwth, yr oedd mewn galar mawr. Ond buan, trwy drugaredd Duw, yr adfeddiannodd ei hun; a gwnaeth ei hun yn barod, fel rhyw Foses newydd, i sefyll yn wrol dros ei bobl a'i dref. Tra'r oedd y milwyr yn ymarfogi yn erbyn y gelyn, tywalltodd yntau weddďau ar gyfer y perygl oedd yn ymyl, gan beri i'r bobl beidio anobeithio am gymorth oddi wrth Dduw. Wedi peth siarad yn eu mysg eu hunain, erfyniodd y milwyr Normanaidd ar yr esgob ddod o'r eglwys i'r castell, gan ddweud y byddai ei bresenoldeb yn amddiffyn iddynt os deuai cyfyngder mawr, oherwydd yr oedd eu cariad tuag ato'n fawr. A chymaint oedd caredigrwydd ei galon fel yr aeth atynt i'r castell.
"Ar hyn penderfynodd milwyr yr esgob yr ymladdent gyda dewrder mawr; a dywedodd y gwarchodlu a'r dinaswyr yr aent allan i gyfarfod y gelyn, yr ochr arall i'r Hafren, os rhoddai'r esgob gennad iddynt. Cymerasant eu harfau, a gwelodd yr esgob hwy, wrth fynd i'r castell, yn barod i'r frwydr. 'Ewch fy meibion,' meddai, 'ewch mewn heddwch a hyder, dan fendith Duw a'm bendith innau. Dan gredu yn Nuw, yr wyf yn addaw i chwi na ddryga cleddyf chwi, nac anffawd, na gelyn. Byddwch ffyddlon i'r brenin, a gwnewch wrhydri dros ddiogelwch y dref a'i phobi.' Wedi dweud y geiriau hyn, croesasant y bont, a gwelent y gelyn yn dynesu draw. Yr oedd cynddaredd rhyfel i'w weled yn tanio rhengoedd y gelyn yn barod, ac yr oeddynt wedi dechrau rhoddi'r wlad ar dân. Wrth weled hyn, a gweled eu bod yn tlodi'r eglwys ymofidiodd yr esgob. Wedi cadw cyngor, gofynnodd y trefwyr i'r esgob a felltithiai yr esgob y gelyn. (A melltithiodd yr esgob y gelyn.)
"Ac wele wyrth. Dangosodd y wyrth allu Duw a haeddiant yr esgob. Oherwydd trawyd y gelyn, oedd wedi ymwasgaru ar hyd y caeau, a rhyw wendid yn eu haelodau a choll golwg, fel nas gallent gludo eu harfau nac adnabod eu cymdeithion na gweled y rhai oedd yn ymdaith yn eu herbyn. Pan oeddynt hwy'n methu gwybod beth i'w wneud yn eu dallineb, yr oedd hyder yn Nuw a bendith yr esgob yn rhoddi grym i'n byddin ni. Yr oedd y gelynion wedi colli cymaint arnynt eu hunain fel nas gallent gilio nac ymladd trwy farn Duw rhoddwyd hwy i fyny i dynged yr annuwiol, a syrthiasant i ddwylaw eu dinistrwyr. Lladdwyd y gŵyr traed â'r cleddyf; cymerwyd y marchogion, gyda'u canlynwyr Normanaidd a Seisnig a Chymreig, yn garcharorion; ac o'r braidd y dihangodd y gweddill yn eu gwendid. Daeth milwyr y brenin a'r esgob yn eu holau heb golli un dyn, gan ddiolch i Dduw am achub eiddo'r eglwys, ac i'r esgob am ei gyngor."
Dyna'r hanes rhydd mynach ofergoelus am ymosodiad Bernard o Dalgarth, gyda llu a Normaniaid a Chymry, ar Gaerwrangon. Gyda phob dyledus barch i'r mynach duwiol, dymunwn awgrymu gwirionedd amlwg, sef bod y llu ymosodol dan felltith gryfach hyd yn oed na melltith esgob. Yr oeddynt, yn ddiamau, wedi meddwi. Yr oeddynt wedi croesi'r mynydd, ac wedi dod yn newynog a sychedig i wlad fras, llawn a ysbail. A chwrw cryf oedd yn nhai deiliaid yr esgob, ar yr afon a Chaerwrangon. A dyma dynged gywilyddus y llu cyntaf o Normaniaid a Chymry ymosododd ar drefydd Lloegr.
Ychydig wedi'r ymgais hwn daeth gwrthryfel y barwniaid yn erbyn brenin Lloegr i ben, a gwelodd Bernard fod gwell gobaith o ymladd a brenin y Deheubarth. Symudodd ymlaen, a phenderfynodd godi castell yn nes i mewn i Gymru, ar y fan lle'n ymuna'r Honddu â'r Wysg. Cafodd gerrig mewn hen gaer Gymreig ac a hwy cododd furiau a thyrau castell Aberhonddu. Tra'r oedd deg twn Aberhonddu, rhai'n grynion a rhai'n ysgwâr, yn codi yn nyffryn yr Wysg, gwelid bod Bernard yn paratoi i feddiannu ychwaneg o'r wlad, Elfael a Buallt tua'r gogledd, neu hwyrach y Deheubarth ei hun.
Gwelodd Rhys ap Tewdwr y perygl; pan glywodd bod y Normaniaid yn codi castell Aberhonddu, gwisgoedd ei arfau ac arweiniodd ei fyddin dros fynydd Epynt yn eu herbyn. Yn 1091 bu brwydr rhyngddo a Bernard, ac ar y frwydr honno yr oedd hanes Brycheiniog am ganrifoedd yn troi. Collodd Rhys ei fywyd wrth golli'r frwydr hon. Yr oedd ei gwymp yn golled wnaeth i'r Cymry anobeithio gallu gwrthsefyll eu gelynion. Os medrai'r Norman orchfygu'r hwn a enillodd frwydau Mynydd Carn a Llwch Crei a Llandudoch, pwy fedrai sefyll o'i flaen? A chododd Bernard eglwys arall i Ioan yr efengylwr.
Pan welsant y castell, gwybu'r Cymry iddynt golli Brycheiniog am byth. Awd a chorff Rhys ap Tewdwr i'w gladdu yn naear gysegredig Tyddewi, ac aeth gobaith y Deheudir gydag ef i'w fedd. Wedi dweud am gwymp y tywysog, ebe'r croniclydd Cymreig, ym mhrudd-der y foment, - " Ac yna daeth diwedd i deyrnas y Brutaniaid." Ac y mae mynach Seisnig yn rhoddi adlais llon i'w eiriau prudd,-" Lladdwyd Rhys, brenin Cymru, mewn brwydr yn ystod wythnos y Pasg, ger castell Aberhonddu. O'r diwrnod hwnnw, ni fu brenhinoedd yng Nghymru."
Wedi marw Rhys ap Tewdwr, nid oedd neb i arwain byddinoedd gwyr y De yn erbyn y Normaniaid, a chawn weled na fedrai Gruffydd ap Cynan anfon cymorth o'r Gogledd. Ac yr oedd cestyll cerrig y Normaniaid yn codi hyd y wlad megis tai unnos.
Y mae dyfodiad y Normaniaid yn un o'r digwyddiadau pwysicaf yn hanes Cymru, yn enwedig yn hanes Morgannwg. Y mae eu cestyll eto'n britho'r wlad, o lannau'r Gwy i lan môr Dyfed, yn adfeilion duon ar fryniau ac ar lannau afonydd. Y mae olion ardderchog eu mynachlogydd, - Tintern a Margam a Llanthoni a Chastell Nedd, eto'n dangos mor hael oeddynt i'r mynachod oedd yn ysgrifennu eu hanes ac yn gweddďo drostynt, yn ceisio eu cyfiawnhau ger bron Duw a ger bron dyn. Ond nid ydyw'r croniclwyr mynachaidd yn dweud hanes concwest y Normaniaid ym Morgannwg ; nid yw croniclwyr Margam, er esiampl yn adrodd dim nas gallasid ei dynnu a haneswyr Seisnig oedd yn byw'ymhell cyn sefydlu eu mynachlog.
Ond y mae dychymyg Morgannwg wedi gwau rhamant o'r traddodiadau oedd wedi byw. Rhof fraslun o'r rhamant, rhamant y bu llawer oes yn edrych arni fel hanes manwl cywir am goncwest Morgannwg.
Pan enillodd Rhys ap Tewdwr y frwydr yn Llandudoch, gan lethu'r gwrthryfel yn Nyfed, dihangodd y gŵr yn achos y gwrthryfel hwnnw, sef Einion ap Collwyn. Yr oedd y gŵr hwnnw, fel y gwelsom, wedi gadael Dyfed gyda brenin Lloegr, pan ddaeth hwnnw i weddďo i Dyddewi. Bu Einion yn rhyfeloedd Ffrainc, a gwyddai'n dda am frad y Normaniaid ac am eu gwanc am dir pobl eraill. A thybiodd y gallai, drwy ddilyn eu camau, gael ysglyfaeth yng Nghymru ei hun. Nis gallai gael dim tra yr oedd teyrnwialen Rhys ap Tewdwr dros y Deheudir. Ffodd at un nad oedd yn hoff erioed o iau Rhys, un oedd yn dyheu am ei thaflu oddi ar ei war, - Iestyn, tywysog Morgannwg. Gwyddai Iestyn am brofiad Einion mewn rhyfeloedd ymysg y Normaniaid, ac addawodd iddo law ei ferch os medrai gael cymorth o Loegr i ryfela yn erbyn Rhys ap Tewdwr.
Aeth Einion i Lundain at ei hen gyd- filwyr, a hawdd oedd darbwyllo capteiniaid anturiaethus, Fitz Hamon yn eu mysg, i gynnig am gyfoeth mewn gwlad mor dda. Cyfarfyddodd Rhys, - ar derfyn ei yrfa, - hwy ym mrwydr Hirwaen Wrgant, ym Mrycheiniog, a chollodd y frwydr. Dalwyd ef a thorrwyd ei ben mewn lle a alwyd wedi hynny yn Ben Rhys. Daliwyd ei mab Goronwy hefyd, a lladdwyd yntau. Ni adawyd yn Ninefwr ond merch a mab bychan, - Nest a Gruffydd ap Rhys.
Talwyd i Fitz Hamon a'i filwyr hynny o aur a ddymunent, mewn llecyn ger Caer Dydd a gelwir yn Filltir Fawr, a gwelwyd eu cefnau'n troi tua Lloegr. Cyn iddynt fynd nepell, cofiodd Einion ei addewid i Iestyn. Ond ni fynnai Iestyn roddi ei ferch iddo, ac ni chadwai ei addewid mewn un modd. Wrth weled hynny aeth Einion ar ôl y Normaniaid, a daeth o hyd iddynt, oherwydd buan y rhed un yrrir gan ferch neu ddiafol, a gyrrid Einion gan y ddau. Dywedodd wrth y Normaniaid mor gyfoethog ac mor hyfryd oedd y wlad y troesent eu cefnau arni. Yr oedd yr estroniaid yn fodlon iawn i droi'n ôl. Nis gallai Iestyn eu gwrthsefyll, gorchfygwyd ef mewn brwydr ger Caer Dydd, diorseddwyd ef, a rhannwyd Morgannwg yn ysbail rhwng y bradwr a'r Normaniaid. Miscin gafodd Einion, a Nest, merch Iestyn, gyda hi. Hyn oedd Iestyn wedi addo iddo. Blaenor y Normaniaid oedd Fitz Hamon; ac efe, medd yr hanes, a rannodd Forgannwg rhwng ei wŷr ei hun a'r tywysogion Cymreig. Gallem feddwl mai efe oedd yn rhannu oddi wrth ei ran gyfoethog ef,ardaloedd Caer Dydd a Chynffig a Phont Faen. i'r rhan ogleddol fynyddig y gyrrwyd y man dywysogion Cymreig, ac ni wyddent ddim am y cyfoeth dihysbydd oedd dan eu traed.
Dyna, yn ôl traddodiad, ddull concwest Morgannwg. O hyn yr ydym yn sicr,fod Morgannwg wedi ei gorchfygu, a bod Normaniaid wedi ymsefydlu ynddi. Pan syrthiodd Rhys ap Tewdwr mewn brwydr ym Mrycheiniog tua 1091, yr oedd Deheudir Cymru'n agored i'r Normaniaid ysglyfaethus. Yr oedd lle wrth eu bodd i ymyrryd yng nghwerylon y man dywysogion, ac i feddiannu tir trwy briodas neu fargen neu ladrad. Ond cyn edrych ar eu cestyll yn codi hyd draeth y de, o Gaer Dydd i Benfro, gadewch i ni droi ein golwg am ennyd tua'r gogledd, i weled pa fodd yr oedd Gruffydd ap Cynan yn ymdaro.