Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Abergynolwyn

Llanfihangel Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Corris
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Abergynolwyn
ar Wicipedia




ABERGYNOLWYN,

"Nid oedd gan yr Annibynwyr yr un achos yn y lle yma hyd yn ddiweddar, a chydag agoriad y gweithfeydd yma, a chynydd poblogaeth y lle, symudiad llawer o Annibynwyr i'r ardal, teimlid y dylesid gwneyd cynyg ar sefydlu achos yma. Ymgymerodd y gweinidogion cymydogaethol, gyda chefnogaeth y cyfarfod chwarterol, a'r gorchwyl, a phrynwyd hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y Cwrt, lle sydd yn gydiol bron ag Abergynolwyn. Mae y capel yn rhyddfeddiant i'r enwad er Ionawr 25ain, 1868, ac y mae golwg addawol iawn ar yr achos ynddo. Y mae y lle dan ofal gweinidogaethol Mr. Jones, Llanegryn, a thrwy eu bod yn cael gweinidogaeth reolaidd, a'r eglwys fechan yn weithgar, ni bydd y ddyled sydd ar capel yn hir heb ei chwbl ddileu."

Nodiadau

golygu