Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Aberllefeni

Corris Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Rhydywernen
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Aberllefenni
ar Wicipedia




ABERLLEFENI

Yn y flwyddyn 1852 y cychwynwyd yr achos yma, yn mhen tua blwyddyn ar ol symudiad yr achos o Riwgwreiddyn i Gorris. Yr oedd deg o aelodau Corris yn byw yn Aberllefeni, a chan rai o honynt bedair milldir o ffordd i fyned yno, ac wrth weled hyny, a bod y lle yma yn cynyddu, bernid y dylesid cynyg sefydlu achos yma. Yr oedd Richard Jones, Llwydiarth, a'i wraig, yn aelodau ffyddlon yn Achor. Byddent yn myned yno yn rheolaidd bob Sabboth, er fod ganddynt chwe' milldir o ffordd. Cychwynwyd Ysgol Sabbothol yn Llwydiarth, a chodwid hi weithiau mewn tai eraill yn yr ardal. Cedwid hefyd gyfarfod gweddi yn yr hwyr, fynychaf, os na buasai pregeth yn Nghorris. Ar un nos Sadwrn, daeth Mr S. Roberts, Llanbrynmair, i Lwydiarth bregethu, ac anogodd y cy- fillion yn y lle i edrych allan am dir i godi capel yn yr ardal. Cymerwyd yr awgrym i fyny o ddifrif, a chafwyd lle i adeladu gan berchenog chwarelau Aberllefeni, ar brydles o driugain mlynedd, am yr ardreth o bunt y flwyddyn. Mae y weithred wedi ei dyddio Mawrth 25ain, 1857, ond yr oedd y capel wedi godi ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw sefyllfan y mwyaf manteisiol, am ei fod mewn pant, ac ar lan afon. Yr oedd John Stephens yn weithgar iawn y pryd hwnw gydag adeiladu y capel. Trefnwyd i gyfarfod yr agoriad fod ddydd Gwener y Groglith, 1855, ond erbyn i'r amser ddyfod, nid oedd y capel yn barod, ac felly, bu raid cynal y cyfarfod yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Gweinyddwyd gan Meistri H. Morgan, Sammah; S. Edwards, Machynlleth; R. Ellis, Brithdir, a C. Jones, Dolgellau; ac yn fuan ar ol hyny, wedi cael y capel yn barod, daeth Meistri S. Roberts, Llanbrynmair, ac R. Ellis, Brithdir, yma bregethu am Sabboth, a ffurfiwyd eglwys yn y lle, ac o hyny allan, bu yma bregethu rheolaidd. Galwyd y capel yn Achor, yn ol enw yr hen gapel yn Rhiwgwreiddyn. Mae y lle wedi bod o'r dechreuad dan yr un weinidogaeth a Chorris, ac felly y mae yn parhau. Yn yr adegau y bu yr eglwys yn amddifad o weinidog, cafodd y gweinidogion cylchynol yn garedig iawn, a bu John Davies, Glasbwll, yn pregethu yma ac yn Corris yn rheolaidd bob mis hyd ei farwolaeth, a theimlir yn yr ardal barch diffuant i'w goffadwriaeth. Mae yr achos yma wedi myned trwy gryn lawer o gyfnewidiadau, ond er y cwbl y mae wedi myned rhagddo yn llwyddianus. Cynaliwyd Cymanfa sir Feirionydd yma Mehefin 8fed a'r 9fed, 1858, a gadawodd ddylanwad da ar yr holl wlad. Bu yn foddion i ladd y culni a'r rhagfarn yn erbyn yr enwad oedd hyd hyny yn aros mewn llawer o feddyliau.[1]

Yn nechreu Mehefin, 1870, tynwyd i lawr yr hen gapel, a gwnaed ef bron i gyd o newydd. Mae yn awr yn gapel hardd. Costiodd £600, ond bydd haner y draul wedi thalu yn fuan. Agorwyd ef Ebrill 7fed, 1871, pryd y pregethwyd gan Meistri E. Evans, Caernarfon, ac R. Williams, Llundain. Da genym ddeall fod yr eglwysi yn Aberllefeni a Chorris yn myned rhagddynt mor egniol, a'u bod hwy a'u gweinidog yn ymdeimlo mor fyw i anghenion yr ardaloedd pwysig a chynyddol hyn.

Nodiadau

golygu
  1. Llythyr Mr. J. C. Williams.