Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Abermaw
← Cutiau | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Dyffryn-Ardudwy → |
ABERMAW.
Llongborth bychan ydyw y lle hwn, ac y mae yn gyrchfa i filoedd o ddyeithriaid bob blwyddyn, i ymdrochi ac i yfed o ddwfr ac awelon iachus glan y mor, ac i ddringo y bryniau a'r mynyddoedd llawn o drysorau gwerthfawr oddifewn iddynt, sydd yn cysgodi y lle. Nis gallasom gael allan pwy oedd yr Ymneillduwr cyntaf fu yn pregethu yn y lle hwn, ond yn y flwyddyn 1846, dywedodd hen wraig o'r enw Catherine Roberts, o'r Hafodboeth, wrth Mr. James Jones, ei bod hi yn cofio Mr. Evans, o Lanuwchllyn, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn mharlwr y Siopfawr, i ŵr a gwraig y tŷ, ei mham hi, ac ychydig eraill oedd yn byw yn Abermaw, yn nghyd a rhyw bobl ddyeithr o'r wlad.
Wrth gydmaru oed yr hen wraig y pryd hwnw, atebai yn gywir i'r amser yr oedd Mr. Evans yn gweinidogaethu yn Llanuwchllyn, ac yn pregethu yn Maesyrafallen. Pan ymadawodd Mr. Evans o'r sir hon, rhoddodd yr Annibynwyr heibio lafurio yn y parth hwn o Feirion am dros ugain mlynedd, ond ni bu y trigolion er hyny heb glywed pregethu efengyl Crist gyda nerth a phurdeb, oblegid yn Hanes Methodistiaeth, Cyf. I. tu dal. 508, 509, a 520, cawn fod ambell i Fethodist yn myned i Maesyrafallen i bregethu, ac ychwanega "Yr oedd yr ychydig grefyddwyr oedd yn byw yn y dref (Bermo) ar y pryd yn cael mwynhau gweinidogaeth un B. Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yr hwn a fyddai yn arfer pregethu mewn ardal gyfagos." Adroddodd un o'r crefyddwragedd henaf yn y lle hwn yn ddiweddar, yr hanes difyr a dyddorol a ganlyn, yr hon a'i cawsai gan Catherine Roberts.[1] Yr oedd rhyw bregethwr,[2] nis gwyddai ei enw, wedi addaw pregethu wrth oleu dydd ar y gareg-farch, (horseblock,) yn ymyl drws y Siopfawr, a mawr oedd y son am y cwrdd disgwyliedig gan grefyddwyr, a chan elynion crefydd hefyd. Ar ryw ddiwrnod o flaen y cyfarfod, galwodd Mrs. Griffith, gwraig y Siop, ar un o'r meddwon a'r ymladdwr penaf y pryd hwnw yn y lle, pan yn myned heibio o flaen ei thy, "G. tyred yma, mae dyn neis iawn, gwas yr Arglwydd, yn dyfod yma i bregethu am Iesu Grist i ni, ac 'rwan G. bach, ni wn i am neb tebyg i ti am gadw chwareu teg iddo, a rhwystro pethau drwg i wneyd dim niwed iddo. Os gwnei G., mi rodda i jwgied o gwrw newydd 'rwan i ti, a chei un arall ar ol y cyfarfod, a wnei di G?" "Gwnaf," atebai G. gyda llŵ rhyfygus. Arferodd yr un moddion tuag at un neu ychwaneg o gyffelyb nodwedd yn y lle, a chafodd yr un cyffelyb ateb gan y rhai hyny. Yr oedd y gelynion hwythau yn parotoi at yr erlid, wedi crynhoi cryn lawer o bob peth aflanach na'u gilydd i fod wrth law i'w lluchio at y pregethwr. Ond dyma ddiwrnod yr oedfa wedi d'od, ac awr y dechreu yn nesu, eithr cyn i'r pregethwr ddyfod allan o'r tŷ, daeth y Cadben Dedwith, am yr hwn y crybwyllasom o'r blaen yn nglyn a'r Cutiau, allan, ac a llais clir nerthol, gwaeddodd "Gosteg, fy anwyl gymydogion, diwrnod pwysig iawn yw hwn yn y Bermo, fe fydd trin a chyfrif am bob peth a wneir yma heddyw yn y farn fawr, pan fyddo'r meirw yn dyfod allan yn fyw o'u beddau, a'r ddaear yn wenfflam bob modfedd o honi, ac yn awr mae gwas yr Arglwydd yn myned i ddyweyd wrthym ni pa fodd i fod yn ddiogel yn y diwrnod ofnadwy hwnw." Gyda hyny dyma'r pregethwr yn dechreu, a rhwng araeth y cadben, a dichell sanctaidd modryb Betti Pugh, fel y gelwid Mrs. Griffith, y Siopfawr, yn aml, cafodd y pregethwr lonydd i fyned yn ei flaen a gorphen y cyfarfod.
Ond nid ydym yn cael allan fod neb o'r Annibynwyr wedi bod yn pregethu yma gyda dim cysondeb, beth bynag, hyd nes y cofrestrwyd yma dŷ i bregethu, rhyw dro tua dechreu y ganrif bresenol, gan Mr. H. Pugh, o'r Brithdir, a chofrestrwyd amryw anedd-dai yma y naill ar ol y llall, a phregethai Mr. C. Jones, Dolgellau, a Mr. Davies, Cutiau, ac eraill yma. Yn y flwyddyn 1825, daeth Mr. Evan Evans, o'r Bwlchgwyn yma i gadw ysgol ddyddiol, ac i bregethu ar y Sabbothau yn y tri lle—Cutiau, Abermaw, a'r Dyffryn. Ychydig oedd nifer y cyfeillion ar y pryd—Griffith Griffiths, Bodgwilym, a'i wraig, Maria, (yr hon oedd ferch i Mr. John Roberts, o Lanbrynmair); Robert Sion, saer maen; Catrin Robert, Sian Sion, a Mrs. Jones, y Te, fel ei gelwid. Dyna oedd o honynt y pryd hwnw yn y dref. Addolent mewn ystafell berthynol i hen adeilad helaeth a fuasai gynt yn fath o balasdy, o thalent am dani dair punt yn y flwyddyn. Cadwodd Mr. Evans yr ysgol ddyddiol mewn rhan o'r hen adeilad grybwylledig am fwy na dwy flynedd, ac yn Mai, 1827, urddwyd ef i holl waith y weinidogaeth, fel y crybwyllasom yn hanes y Cutiau. Rhyngodd bodd i'r Arglwydd lwyddo llafur y gweinidog ieuangc a'r ychydig gyfeillion, gan ychwanegu eu rhifedi, fel y penderfynasant yn fuan gael capel newydd, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn 1828. Teithiodd Mr. Evans trwy Ogledd a Deheudir Cymru, ac i Lundain, ac amryw ranau eraill o Loegr i gasglu at dalu dyled y capel. Cyfarfu yr achos yma a chryn lawer o anhawsderau, ac yr oedd y dadleuon duwinyddol oedd yn yr adeg hono yn anfantais iddo, ond er y cwbl, gweithiodd ei ffordd yn raddol, ond yn sicr, a llwyddodd i ladd yr holl ragfarn oedd yn ei erbyn. Rhoddwn y difyniad a ganlyn o adroddiad a anfonwyd i ni gan Mr. Evans, Llangollen, o hanes yr achos yn y lle o'i sefydliad ef yno hyd ei ymadawiad. "Pan oedd yr achos yn Abermaw yn myned rhagddo yn lled gysurus, bu rhuthr o erledigaeth arno yn y flwyddyn 1829, o herwydd y Bil a ddygid ger bron y wlad i'w ddwyn yn llwyddianus, os gellid trwy y Senedd, sef Rhyddfreiniad y Pabyddion i gael breintiau gwladol fel deiliaid eraill y deyrnas. Yr oedd holl drigolion y dref, oddieithr ychydig bersonau, yn ffyrnig yn erbyn hyn, fel na feiddiai neb yngan gair o ochr y Bil, heb beryglu ei hun ryw ffordd neu gilydd. Safodd E. Evans, a rhyw ychydig o'i bobl rhag ochri gyda'r lluaws yn hyn. Ni ddadleuai ef na hwythau yn gyhoeddus o blaid y mater, ond amlygent eu rhesymau mewn ymddyddanion personol a'u cymydogion, dros beidio gwrthwynebu Rhyddfreiniad y Pabyddion, fel deiliaid eraill y deyrnas, er eu bod yn hollol yn erbyn y gyfundrefn Babaidd. Beuid ef yn dost gan yr holl dref, ac yn wir gan rai o'i gyfeillion ei hun hefyd, yr hyn oedd yn chwerwi ei brofedigaeth; a dywedai y dref ei fod yn pleidio Pabyddiaeth, Daroganid gan y rhan fwyaf y deuai y Pabyddion i losgi eu Beiblau. Ni chant, myn—— ebe un gwr mawr ag oedd yn swyddog yn y porthladd dan y llywodraeth, byth losgi fy Mibl i, mi cuddia i o yn rhywle na ddo nhw byth hyd iddo.' Ie, ie, gallai ef fforddio byw hebddo yn burion, ffordd bynag y troai y mater. Yr oedd y dref yn ferw drwyddi. Ond mewn gwirionedd, llawer gwell y gwyddai rhai o honynt y pryd hwnw pa fodd i hwylio llongau, a phentyru cyfoeth, ac eraill oedd dan eu hawdurdod, a wyddent yn well pa fodd i ddal pysgod, a chasglu cregin duon, a chregin cocos, nag y deallent beth oedd natur gwir ryddid gwladol a chrefyddol. Yn y cythrwfl hwn, ciliodd lluaws o'r gwrandawyr o gapel yr Annibynwyr, ac ni ddaethant iddo byth mwyach! Mynai un dyn mileinig, yr hwn oedd cyn ddyled a llô ar y pwngc, roddi barilad o bowdr yn y seler o dan y capel, a'i chwythu i'r cymylau! Oni buasai fod arno ofn y gyfraith efe a gyflawnasai ei ddymuniad, a mwy na thebyg yr yfasai efe yn deilwng o'i gymeriad cyffredin, farilaid o gwrw ar ol hyny gyda'i gymdeithion i gydorfoleddu a hwynt am ei orchestion, ond fel y dygwyddodd, trodd y fantol dros y Bil! Er hyny, effeithiodd hyn er niwaid dirfawr i'r achos Annibynol yn y dref hono am flynyddau lawer, ie, edrychid arno gan lawer gyda dirmyg. Cyhoeddwyd hanes yr helyntion hyn drwy y wasg Seisnig, er hysbysrwydd i luaws o Saeson a ddeuant i'r porthladd hwn yn yr haf, ac er amddiffyniad teg i'r achos, ac i'r gweinidog ieuangc. Dygwyddodd i Mr. T. W. Jenkyn, y pryd hwnw o Groesoswallt, (wedi hyny Dr. Jenkyn, awdwr y llyfr rhagorol ar yr Iawn,) ddyfod i Abermaw yn mhen rhyw dair blynedd ar ol y cythrwfl, yr hwn wedi gweled yr hanes blaenorol am dano, a chwiliodd i mewn i'w wirionedd, ac ar ol cael sicrwydd fod yr hanes a welsai yn berffaith gywir, a ysgrifenodd ei farn a'i dystiolaeth ar y pwngc, gan roddi caniatad i'r gweinidog a'i gyfeillion i wneyd y defnydd cyhoeddus a fynent o hyny. Er hyn oll yn mlaen yr elai yr achos yn y tri lle, yn enwedig yn yr Abermaw a'r Dyffryn. Ar nos Sabboth yr unfed-ar-bymtheg o fis Chwefror, 1840, ymwelodd yr Arglwydd a'i bobl mewn modd amlwg a nerthol iawn. Yr ydys yn cofio yn dda beth oedd y testyn y noson hono, sef Gen. iv. 3.,—"A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymryson fy ysbryd â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe." Nid oedd dim yn hynod gyffrous, yn fwy na chyffredin, yn ystod y rhan gyntaf o'r bregeth, ond gwelid rhyw ddifrifwch anarferol yn y gwrandawyr, a theimlai y gweinidog ei hun felly. Tua'r rhan olaf o'r bregeth gwelid y gynnulleidfa yn gwelwi yn awr ac eilwaith, a chlywid gruddfanau dystaw a dwysion, yn enwedig pan adroddid y gair "yn dragywydd," ddwy waith neu dair yn olynol. Wedi gwasgu atynt am iddynt roddi eu hymrysonfa âg Ysbryd Duw i fyny yn ddioed, terfynwyd y bregeth. Yna rhoddwyd penill i'w ganu, ond er mawr syndod i'r pregethwr, ni chyfodai y pen-canwr ar ei draed i gynyg y mesur. Ailadroddwyd y penill, ond ni wnai neb un osgo i godi ar ei draed, mwy na phe buasent wedi eu hoelio wrth eu heisteddleoedd! Cyfeiriai y gweinidog at un o'r brodyr oedd yn rhywle yn agos i'r pulpud, gan ddyweyd wrtho, "Rowland, codwch chwi y mesur." Cynygiodd agor ei enau, ond eisteddodd yn y fan. Yn hytrach nag i'r moddion derfynu felly, cynygiodd y gweinidog ei hun wneyd yr un peth, oblegid gwyddai yn dda pa dôn a wnelsai y tro. Seiniodd nodyn neu ddau, a dyna y cwbl. Ar hyny, ymollyngodd y gynnulleidfa i ruddfan ac wylo, ac amryw o honynt a weddient yn daerion, fel dynion ar ddarfod am danynt.
Aeth rhyw ychydig allan o'r addoldy, ond dychwelasent i mewn drachefn fel dynion wedi haner hurtio! Dywedir am un dyn a aeth allan, ac a aeth i ben pellaf y dref yn bennoeth, ac iddo redeg yn ei ol gan ddychryn i'r capel, ac iddo roddi naid uchel ar ganol y llawr, gan ddiolch i Dduw na buasai wedi ei daflu ef i uffern; ie, tybiodd fod yr Arglwydd ar wlawio arno dân a brwmstan o'r nefoedd! Yr oedd Duw yn wir yn y lle! Parhaodd yr ymweliad dwyfol hwnw yn Abermaw ac yn y Dyffryn hefyd am gryn amser, a daeth lluaws o bechaduriaid dychweledig i'r eglwysi; eithr parhaodd rhai o'r gwrandawyr yn ystyfnig drwy y cwbl, er maint o anesmwythder a brofasant yn eu meddwl yn yr adeg hono.
Bu y gymdeithas ddirwestol yn foddion i feithrin mwy o undeb a brawdgarwch rhwng enwadau crefyddol a'u gilydd. Gan y cynhelid cyfarfodydd i areithio ar yr achos yn y gwahanol gapeli ar gylch, yn enwedig yn y gauaf, pryd y byddai y morwyr gartref, yr oedd dynion crefyddol yn dyfod i fwy o gydnabyddiaeth a'u gilydd, ac i ymgymdeithasu yn amlach, a thrwy hyny caent gyfleusderau i glywed gwahanol ddoniau, ac felly dygid hwynt i feddwl yn well am eu gilydd. Crybwyllir etto un hanesyn er dangos gwrthuni cenfigen a dallbleidiaeth. Yr oedd person Seisonig, wedi dyfod i fyw i ymyl Abermaw, er mwyn ei iechyd yn benaf, yr hwn ar ei gychwyniad i Loegr, i dderbyn ei ddegymau gan ei blwyfolion, a ddywedodd wrth ei was am werthu ei ferlyn, erbyn y dychwelai efe adref o'i daith, gan benodi ei bris. Cyflawnodd y gwas ei archiad. Wedi i'r boneddwr ddychwelyd, ymofynodd cyn hir a'i was yn nghylch y merlyn. Dywedai yntau ei fod wedi ei werthu, a chael tâl am dano.
"I bwy, Robert ?" "I Mr. Evans," ebe yntau, "gweinidog yr Annibynwyr." Ar hyny ymwylltiodd y meistr, ac a fygythiodd ei was, gan ddyweyd wrtho, y troid ef allan o'i wasanaeth ef, oni cha'i efe y merlyn yn ei ol, a hyny yn ddioed hefyd, gan ddyweyd, "Ni chaiff fy merlyn i gario un Dissenting Minister byth! Ond druan o hono, yr oedd y merlyn wedi cael y fraint o gario Dissenting Minister eisioes! Daeth gwraig y gwas trallodedig at Mr. Evans, dan wylo i erfyn arno roddi y merlyn yn ei ol, er ei mwyn hi a'i phriod a'i phlant. O'r diwedd efe a wnaeth hyny. Beïd ef gan lawer o'i frodyr am na buasai yn fwy llewaidd na hyny, ond fodd bynag, y mae y merlyn erbyn hyn wedi darfod am dano er's blynyddau, a'r person yn nhragwyddoldeb er's talm mawr, a'r Dissenting Minister yn fyw, ac yn iach, ac yn diolch i'r Hwn a ofalodd am dano trwy ei oes hyd yr awr hon."
Yn y flwyddyn 1844, ymadawodd Mr. Evans i Maentwrog, ar ol llafurio yma am yn agos i ugain mlynedd. Cyn diwedd y flwyddyn hono, derbyniodd Mr. James Jones, Capelhelyg, alwad i ddyfod yn weinidog yma, ac wedi bod yma yn ddiwyd ac ymdrechgar am bum-mlynedd-ar-hugain, teimlai Mr. Jones nad oedd yn alluog fel cynt i gyflawni ei ddyledswyddau, ac wedi ei dderbyn yn flaenorol ar Drysorfa yr hen Weinidogion, ymryddhaodd o'i ofalon gweinidogaethol ar y Sabboth cyntaf yn Ionawr, 1869, ond y mae yn parhau i drigianu yma, ac yn pregethu yn rhywle bob Sabboth, ac yn hynod o gymeradwy gan bob enwad crefyddol. Ar Sabboth cyntaf yn Tachwedd, 1869, dechreuodd Mr. David Evans, Rhosymedre, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau yma, a'r achos ar y cyfan mewn gwedd gysurus. Mae y capel mewn lle pur anghyfleus, a theimlir er's blynyddoedd y dylasai fod yma gapel llawer rhagorach i ateb cynydd poblogaeth, a gwelliant adeiladau y lle, ond yr anhawsder oedd cael lle cyfleus i adeiladu arno. Chwiliodd Mr. Jones, y gweinidog, a'r diweddar Mr. David Jones, Fferyllydd, lawer am le, ond yn ofer, ond y mae yn dda genym ddeall fod darn o dir mewn safle fanteisiol wedi ei sicrhau, ac y bwriedir yn ddioed i godi arno addoldy prydferth. Bu teulu Bodwilym yn hynod o garedig i'r achos o'r dechreuad. Llettywyd ugeiniau o weinidogion o dan eu cronglwyd, ac yr oedd eu tŷ yn lletty fforddolion i bawb a ddeuai heibio. Yr oedd Mrs. Griffith, yn arbenig, yn wraig ddoeth a synwyrol, yn deall yr efengyl, ac yn meddu cydymdeimlad dwfn a'i gwirioneddau, ac yn ei thymer a'i hysbryd, yn deilwng o'i hybarch dad, y diweddar Mr. John Roberts, Llanbrynmair. Dylai "Y Gohebydd," ar bob cyfrif, ysgrifenu cofiant iddi, oblegid gwyddom y cydnebydd ei fod yn ddyledus i'r "brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo."
Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon.
Robert Roberts. Symudodd i Tanygrisiau, Ffestiniog, a bu farw yno.
John Roberts. Urddwyd ef yn Llanerchymedd, ac y mae yn awr yn Brymbo.
Robert Evans. Aelod o Danygrisiau ydoedd, ond ei fod yma yn yr ysgol. Addysgwyd ef yn athrofa y Bala, ac urddwyd ef yn Llanfair Caereinion, ac y mae yn awr yn Bethel, Aberdare.
Lewis Williams. Addysgwyd ef yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Llanarmon, ac y mae yn awr yn y Bontnewydd, gerllaw Caernarfon.
Nodiadau
golygu- ↑ Llythyr Mr. James Jones, yr hwn a roddodd i ni lawer o ddefnyddiau.
- ↑ Mae yn dra thebyg mai Mr. B. Evans oedd y pregethwr, gan ei fod yn gweinidogaethu yn y gymydogaeth, ac o ysbryd mor gyhoeddus a diofn, ac wedi bod yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn flaenorol yn mharlwr y Siop grybwylledig. Dywed awdwr Hanes Methodistiaeth, tu dal. 572, nad oedd yr un cynghorwr o Rhoslan, yn Arfon, hyd Machynlleth, yn Maldwyn, yn y flwyddyn 1783, sef yn mhen o gylch wyth mlynedd wedi ymadawiad Mr. Evans, o Lanuwchllyn. Yn mhellach wrth yr hanes dyddorol a roddai y diweddar Mr. Lewis Morris, yn Nhraethodydd, 1847, tu dal. 107, fod John Ellis, o Abermaw, wedi hyny, yn pregethu yn y cymydogaethau hyn yn y flwyddyn 1788, ac wedi iddo ef (L. M.) ei rwystro i bregethu yn Llwyngwril. Gwr genedigol o gwr mynydd Hiraethog, yn sir Ddinbych, yr hwn a ymunodd a chrefydd yn bur ieuangc yn Llanbrynmair, o dan weinidogaeth yr hybarch Richard Tibbot, oedd y dywededig John Ellis. Ar ol iddo fod yn aelod gloyw yn yr hen eglwys Ymneillduol hono am tua saith mlynedd, symudodd i sir Feirionydd, ac ymgymerodd a'r gwaith o gadw un o'r ysgolion Cymraeg ag oedd Mr. Charles, o'r Bala, newydd gychwyn yn y wlad, a chyda'r Methodistiaid y bu ef yn llafurio o hyny hyd derfyn ei oes. Adweinid ef wrth yr enw "John Ellis, Abermaw." Bu pregethwr arall tra llafurus yn ei ddydd gyda Chorph y Methodistiaid yn y parthau hyn, o'r enw "William Pugh, o Llanfihangel;" yr hwn, wedi clywed fod Mr. B. Evans, yn pregethu yn Maesyrafallen, a aeth yno ar un bore Sabboth, er fod ganddo o ddeuddeg i bymtheng milltir o ffordd dra mynyddig a chorsiog i'w cherdded, ac am na buasai erioed o'r blaen mewn addoliad Ymneillduol, rhyfeddodd yn fawr wrth weled mai cegin wael oedd ganddynt yn eglwys? a stôl yn bulpud! Testyn y bregeth oedd, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist." Teimlodd fod mwy yn yr efengyl nag a feddyliodd erioed o'r blaen. Crybwyllai W. Pugh, am yr oedfa hono fel cychywniad ei yrfa grefyddol. (Hanes Methodistiaeth. Cyf. I. Tu dal. 568.)