Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Bethania, Ffestiniog

Talsarnau Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Llan, Ffestiniog
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Blaenau Ffestiniog
ar Wicipedia




BETHANIA, FFESTINIOG.

Nid ydyw plwyf Ffestiniog ond cymharol fychan o ran ei derfynau, a hyd yn ddiweddar nid oedd ond dinod yn mysg plwyfi y sir. Mae natur i'w gweled yma yn ei gwylltedd cyntefig, er fod celfyddyd wedi addurno y lle a lluaws o aneddau prydferth, y rhai a breswylir gan y gweithwyr sydd yn dymchwelyd y mynyddoedd o'u gwraidd. Yn nghof llawer sydd eto yn fyw, ac heb gyfrif eu hunain yn hen, nid oedd ond ychydig o dai llwyd, a chyffredin ddigon yr olwg arnynt, trwy yr holl blwyf, ac nid oedd gan y rhai a drigent ynddynt un dychymyg am gyfoeth y bryniau a'u cylchynent, ac ar hyd y rhai y gwylient eu defaid. Mae pentref Ffestiniog ar y ffordd o Faentwrog i'r Bala, tuag ugain milldir i'r gorllewin o'r lle olaf. Mae y lle a elwir Blaenau Ffestiniog, lle yr adeiladwyd y capel cyntaf gan yr Annibynwyr yma, mewn cesail rhwng moelydd noethlwm ar yr aswy wrth fyned i'r Bala, a hawdd deall ei fod cyn agoriad y cloddfeydd yn lle hollol ddiarffordd. Nid oedd ond un Annibynwr trwy yr holl blwyf bymtheng-mlynedd-a-deugain yn ol, nac un cynyg wedi ei wneyd ganddynt i bregethu yma yn rheolaidd. Yr oedd un John Hughes, yr hwn a dderbyniasid yn aelod gan Dr. George Lewis yn Nghaernarfon, wedi symud i fyw i Cefnfaes, ac ymaelododd yn Mhenstryd; a bu Dr. Lewis yn pregethu rai troion yn ei dŷ, er na chynygiwyd sefydlu achos yma y pryd hwnw.[1] Ryw bryd yn y flwyddyn 1816, ceisiodd un William Hughes, Talygwaunydd, (Fronlas wedi hyny,) yr hwn oedd wedi ei dderbyn yn aelod yn Nolyddelen—gan Mr. David Roberts, Bangor—wedi hyny o Ddinbych—ddyfod i'w dŷ ef i gadw oedfa ar brydnhawn Sabboth, ac i fedyddio merch iddo. Cydsyniodd Mr. Roberts a'r gwahoddiad, a dyma gychwyniad yr Annibynwyr yn Mlaenau Ffestiniog. Yr oedd William Griffith, Mynhadogisaf, plwyf Dolyddelen, a Lowry ei wraig, wedi eu derbyn yn aelodau yn Nolyddelen cyn hyny, a byddai pregethu achlysurol yn eu tŷ hwy, a buont yn gefn mawr i'r achos yno. Yr oedd gan Lowry Griffith frawd, o'r enw William Evans, yn byw yn Nghwmbywydd, Ffestiniog, a chymellai ei brawd i agor ei dŷ i'r efengyl. Amlygodd yntau ei barodrwydd i hyny, os cawsai bregethwr. Yn mhen pythefnos wedi i Mr. Roberts, Bangor, fod yn pregethu yn Nhaly waunydd, yr oedd Mr. Edward Davies, Rhoslan—Trawsfynydd yn awr—yn myned am Sabboth i Ddolyddelen, a nos Sadwrn gofynodd Lowry Griffith iddo, a wnai efe bregethu ar ei ddychweliad ddydd Llun yn nhŷ ei brawd yn Cwmbywydd. Addawodd Mr. Davies gyda'r parodrwydd mwyaf, ac anfonodd hithau yno i'w hysbysu y pregethai Mr. Davies yno ganol dydd Llun; ac felly bu. Nid oedd ond dau heblaw teulu y tŷ yn yr oedfa; ac Ellis Edwards, Penrhostad Mr. Edwards, Aberdare—oedd un o honynt. Daeth Meistri D. Griffith, Bethel; J. Lewis, Bala; W. Jones, Penstryd; J. Roberts, Capelgarmon; a J. Jones, Bancog, yn fuan i bregethu i Gwmbywydd, ac i dai eraill yn y gymydogaeth; a dechreuwyd cynal cyfeillachau crefyddol fel rhagddarpariaeth i gorpholiad eglwys yn y lle. Ar un prydnhawn Sabboth, yn y flwyddyn 1817, yr oedd Mr. Davies, Rhoslan, yn pregethu yn Maenofferen, ac ar ddiwedd yr oedfa ffurfiwyd yno eglwys, a gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Mae enwau y personau a ymffurfiodd yn eglwys yma yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth; dyma hwy—William Davies, Maenofferen; Jenet Morris, gweddw John Hughes, Cefnfaes, am yr hwn y crybwyllasom; Catherine Evans, Hafodfraith; Catherine Edwards, Penrhos, (mam Mr. Edwards, Aberdare); William Jones, brawd Catherine Edwards; William Evans, Cwmbywydd, a William Hughes, Fronlas. Er nad oeddynt ond saith o rifedi, etto, dyna flaguryn yr achos sydd erbyn heddyw wedi ymganghenu trwy yr holl blwyf; ac wedi myned yn bren mawr, a llawer saith yn nythu arno. Yn fuan wedi hyn darfu i Ellis Edwards, Penrhos, a David Williams, Maenofferen, a'i wraig, yn nghyd ag amryw eraill, ymuno a'r achos; a chyn pen nemawr o amser aeth y tai lle y cynhelid y moddion yn rhy gyfyng i gynwys y rhai a ddeuent yn nghyd. Yr un flwyddyn ag y corpholwyd yr eglwys, gwelwyd yn angenrheidiol cael capel, a chafwyd tir ar ystad Tanymanod, a chodwyd addoldy cyfleus arno, yr hwn a alwyd Bethania. Aeth yr achos rhagddo yn siriol iawn, ac yr oedd agoriad gweithiau y llechfeini yn peri fod cryn gynydd yn y boblogaeth, fel y codwyd nifer o dai newyddion. Bu hen weinidogion a phregethwyr y cyfnod hwnw yn nodedig o ffyddlon i'r achos; ond y maent oll erbyn hyn wedi myned ond Mr. Griffith, Bethel, a Mr. Davies, Trawsfynydd. Ond fel yr oedd yr achos yn myned rhagddo, teimlid fod angen gweinidogaeth mwy sefydlog. Yn fuan wedi codi y capel rhoddwyd galwad i Mr. Owen Jones, i ddyfod yma i bregethu a chadw ysgol; a bu yma am yn agos i ddwy flynedd. Yr oedd Owen Jones yn ddoniol iawn fel pregethwr, a phe buasai ei gymeriad yn cyfateb i'w ddoniau gallasai fod o ddefnydd mawr. Ymadawodd oddiyma i Lanaelhaiarn, lle yr urddwyd ef. Yn y flwyddyn 1820, daeth Mr. John Williams yma, yr hwn a fuasai am ddwy flynedd yn efrydydd dan addysg Dr. Phillips, Neuaddlwyd; ac wedi i'r eglwys gael boddlonrwydd ynddo, rhoddwyd galwad iddo, ac urddwyd ef Mai 30ain, 1821. Yr oedd amryw o weinidogion sir Feirionydd a sir Gaernarfon yn bresenol yn ei urddiad, yn nghyd a'i athraw, Dr. Phillips, yr hwn a bregethodd i'r gweinidog a'r eglwys. Ei destyn oedd, 1 Cor. iv. 1, 2, "Felly cyfrifed dyn nyni megis gweinidogion i Grist, a goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn yr ydys yn disgwyl mewn goruchwyliwr, gael un yn ffyddlon." Edrychai ar y geiriau fel darlun o'r peth y dylai y gweinidog fod, a'r cyfrif parchus a ddylasai yr eglwys wneyd o hono fel y cyfryw. Llafuriodd Mr. Williams yma yn ddiwyd am ddeng mlynedd. Bu yn Llundain yn casglu at gapel Bethania, a chasglodd gan' gini. Gwelodd y capel cyntaf yn rhydd o ddyled, ac wedi ei lenwi a gwrandawyr, fel y bu raid ei helaethu. Yr oedd Mr. Williams yn ŵr hynod barchus yma, er na chyfrifid ef yn bregethwr rhagorol, etto trwy ei ffyddlondeb a'i fuchedd dda, llwyddodd i roddi cychwyniad effeithiol i'r achos. Rhagorai yn fawr yn ei fedrusrwydd i holi yn yr ysgol, a llwyddodd trwy hyny i sefydlu yma Ysgol Sabbothol lewyrchus. Yn nechreu y flwyddyn 1831, symudodd i Lansilin, lle yr arosodd hyd ddechreu 1840, pan yr ymfudodd i America, ac yno y bu farw, fel y gwelir yn ein cofnodiad bywgraphyddol o hono yn nglyn a Llansilin. Wedi ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, Pentraeth, Mon. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn hynaws a charedig, yn siriol a diddichell, ac yn meddu dawn rhwydd a llais peraidd; ond nid oedd ond egwan ei alluoedd, a chyfyng ei wybodaeth, ac heb gael nemawr ddim manteision addysg yn moreu ei oes. Torodd diwygiad grymus allan yn fuan ar ol dyfodiad Mr. Davies i'r lle, a rhoddodd hyny fywyd a nerth newydd i'r achos. Yn y cyfnod hwn, cododd amryw ddynion ieuaingc selog a gweithgar yn yr eglwys, a daeth dylanwad yr achos er daioni i gael ei deimlo yn y lle. Yn yr adeg yma y dechreuodd Mr. Evan Griffith bregethu, a chyn hir dilynwyd ef gan Mr. William Edwards, ac yn fuan ar ol hyny gan Mr. John Isaac, a bu arosiad hir y ddau olaf, yn arbenig, yn yr ardal, yn gynorthwy mawr i'r achos. Fel yr oedd y lle yn cynyddu, a'r bobl ieuaingc yn dyfod yn fwy deallgar a myfyrgar, teimlai Mr. Davies ei hun nad oedd yn ateb i'r lle. Er hyny, bu yn ddefnyddiol a llwyddianus yma am yspaid, a choffeir gyda pharch gan amryw yn y lle hyd heddyw am ei lafurus gariad. Ymadawodd yn y flwyddyn 1839, ac wedi bod mewn amryw fanau, yn Arfon a Mon, aeth i fyw i Bodffordd, a gwasanaethai yn mha le bynag y byddai bwleh i'w lanw, hyd nes y rhoddodd angau ei law arno. Yn fuan wedi ymadawiad Mr. Davies, torodd diwygiad grymus iawn allan yn yr eglwys, yr hyn a fu yn foddion i luosogi ei rhif, ac ychwanegu ei chryfder. Er fod yr eglwys yn amddifad o weinidog, etto, yr oedd presenoldeb y ddau ŵr ieuangc gweithgar a diflino, Meistri W. Edwards, a J. Isaac, yn gaffaeliad gwerthfawr i'r achos ar y pryd. Yn ngwres y diwygiad yma aeth yr eglwys yn nghyd a chodi capel newydd helaeth, a throwyd yr hen gapel yn dai-anedd. Cafwyd tir drachefn ar ystad Tanymanod, a bu y personau canlynol yn mysg y rhai mwyaf blaenllaw gyda chodiad y capel newydd, sef Ellis Edwards, Penrhos; Lewis Thomas, Siop; Lewis Thomas, Frondirion; Pierce Jones, Penygelli; Hugh Williams, Fronlas, a David Jones, Cwmorthin. Bu y ddyled yn gwasgu drwm am dymor, ond trwy ddyfal barhad, cafwyd gwared llwyr o honi; ac y mae yr eglwys yn fwy dyledus am hyny i fedrusrwydd a ffyddlondeb y diweddar Mr. David Williams, Cwmbywydd, nag un dyn arall.

Yn y flwyddyn 1843, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Robert Fairclough, myfyriwr o athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef Mai y 3ydd a'r 4ydd, 1843. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. D. Morgan, Llanfyllin. Holwyd yr urddedig gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Gweddiwyd am fendith ar yr undeb gan Mr. A. Jones, Bangor. Pregethodd Mr. M. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. C. Jones, Dolgellau, i'r eglwys. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd hefyd gan Meistri W. Roberts, Penybontfawr; J. Griffith, Rhydywernen; S. Roberts, Llanbrynmair; J. H. Hughes, Llangollen; ac S. Jones, Maentwrog. Tua phedair blynedd y bu Mr. Fairclough yma, ac nid oedd yr eglwys ac yntau yn cyd-dynu yn rhy dda yn yr yspaid hwnw. Ymadawodd i Cornwall, lle y bu dros ychydig. Rhoddodd yr eglwys yma, a'r eglwys yn Saron, alwad i Mr. Richard Parry, Conwy, yn fuan wedi i Mr. Fairclough ymadael, ac er na chymerodd ofal yr eglwys y pryd hwnw, daeth yma ar ol hyny, a bu yn dra defnyddiol yma dros rai blynyddoedd, nes yn 1854, yr aeth yn ol i Gonwy, ac yr ymgymerodd a sefydlu achos, a chodi capel yn Llandudno, lle y mae yn aros etto. Yn niwedd 1857, rhoddodd yr eglwysi yn Bethania a Saron alwad i Mr. David Lloyd Jones, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef ar ddydd Nadolig y flwyddyn hono. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Thomas, Liverpool. Holwyd y gweinidog gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd. Dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. John Jones, Green, (tad yr urddedig). Pregethodd Mr. M. D. Jones, Bala, i'r gweinidog, a Mr. R. Parry, Conway, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri R. Ellis, Brithdir; W. Roberts, Penybontfawr; a J. Jones, Maentwrog.[2] Bu Mr. Jones yma yn llafurus iawn am yn agos i ddeuddeng mlynedd, a gwelodd ffrwyth i'w ymdrechiadau. Rhoddwyd oriel o gylch capel Bethania, ac ad-drefnwyd ef drwyddo, fel y mae yn gapel eang a chyfleus. Ymgymerodd Mr. Jones a bod yn oruchwyliwr i'r Wladychfa Gymreig, a rhoddodd y weinidogaeth i fyny er mwyn hyny; ond er hyny y mae wedi ailgymeryd a gofal gweinidogaethol, ac y mae yn awr yn Rhuthin. Mae yr eglwys er ymadawiad Mr. Jones heb weinidog, ond y mae yr achos yn myned rhagddo yn siriol iawn. Bu yma amryw bersonau mewn cysylltiad a'r eglwys er ei sefydliad, a ennillasant iddynt eu hunain radd dda. Coffeir yn barchus am hen bobl Cwmbywydd, y rhai a fuont yn nodedig o ymgeleddgar i'r achos yn ei wendid. Yr oedd William Evans yn nodedig am danbeidrwydd ei ddawn fel gweddiwr. Rhagorai William Hughes, Fronlas, fel cynghorwr doeth a phwrpasol. Meddai William Jones, Penygelli, ar gallineb mawr i drin dynion; a bu y lle am dymor hir yn gartref cysurus i'r pregethwyr a ddeuai heibio. Ellis Edwards, Penrhos, oedd bob amser yn barod i bob gweithred dda, ac yn ieuangc ei ysbryd hyd ei ddiwedd. Gwnaeth David Williams, Cwmbywydd, fwy na neb arall yma gydag amgylchiadau allanol yr achos, a chyda chaniadaeth y cysegr.

y cysegr. Gyda chodi y capel, a rhoddi oriel ynddo drachefn, a chynllunio i dalu y ddyled, nid oedd yma neb o gyffelyb feddwl iddo; a chyda chodiad capel newydd Fourcrosses, yr oedd mor dra awyddus am gael pob peth wedi ei orphen, a phe buasai yn gwybod fod amser ei ymadawiad yn ymyl. Nid oes yma yn aros o'r hen deulu ond yr hybarch Pierce Jones, Penygelli, yn unig, ac y mae efe yn parhau yn fywiog fel llange. Coffeir hefyd gyda hiraeth am rai gwragedd rhagorol a fu yma yn famau yn Israel, ac nid yn fuan yr anghofir caredigrwydd a llettygarwch teuluoedd Fronlas, Penrhos, a Chwmbywydd.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:—

Evan Griffith. Bu dan addysg gyda Dr. Jenkyn, yn Nghroesoswallt. Urddwyd ef yn Llanegryn. Ymfudodd i America er's mwy nag ugain mlynedd, ac y mae yn parhau yn gryf i wasanaethu Duw yn efengyl ei Fab.

William Edwards. Bu am dymor dan addysg yn Liverpool, ac wedi hyny treuliodd bedair blynedd yn fyfyriwr yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Ebenezer, Aberdare, er's saith-mlynedd-ar-hugain yn ol, ac y mae yn parhau yno, a gobeithiwn fod blynyddoedd lawer o ddefnyddioldeb yn ei aros.

John Isaac. Ganwyd ef yn yr ardal yma, yn y flwyddyn 1813. Ni chafodd nemawr ddim manteision crefyddol pan yn ieuangc, a threuliodd rai o flynyddoedd goreu ei oes i ddilyn rhysedd ac annuwioldeb ei gyfoedion gwyllt ac anystyriol. Daliwyd ef gan Dduw yn nghanol ei wylltineb, a dygodd arwyddion amlwg o gyfnewidiad cyflwr. Derbyniwyd ef yn aelod yn Bethania, pan yn 22 oed. Gwnaeth y fath gynydd mewn gwybodaeth, ac ymagorodd ei ddoniau, fel yr anogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu. Cyrhaeddodd boblogrwydd fel pregethwr ieuangc, y fath ag a barai i'w gyfeillion ddisgwyl pethau mawr oddiwrtho. Nid ydym yn meddwl ei fod yn gryf iawn o ran nerth meddyliol a galluoedd dealldwriaethol, ond yr oedd yn llawn iawn o ysbryd pregethu. Cyfansoddai yn drefnus, ac yr oedd ei ddrychfeddyliau yn gyffrous, a'i draddodiad yn hyawdl. Ystyriai rhai ef yn eithafol ei olygiadau, ac yr oedd felly i fesur, ond yr oedd yr eithafion hyny yn ddigon naturiol i ddyn o'i dymheredd ef mewn adeg fywiog ar grefydd, a phe cawsai fyw mae yn bur sicr y daethai allan o honynt, fel y daeth rhai oeddynt mor eithafol ag yntau. Bu am ychydig yn Marton dan addysg, ond buan y gwelwyd nas gallasai ddal i efrydu yn galed, oblegid yr oedd ei iechyd yn rhoi ffordd. Gan fod Bethania heb un gweinidog, anogwyd ef gan ei gyfeillion i aros gartref i'w cynorthwyo hwy. Ymaflodd y darfodedigaeth angeuol ynddo, a deallodd fod ei ddydd gwaith ar ben, ond nid ysigwyd ei hyder yn ei Waredwr. Bu farw Mawrth 19eg, 1841, yn 28 oed. Fel hyn y dywed y diweddar Mr. Samuel Jones, Maentwrog, wrth derfynu bywgraphiad byr iddo, yn Nysgedydd 1842, tu dal. 166.—" Fel yna syrthiodd milwr glew yn y frwydr, a'i arfau yn loywon, gwywodd rhosyn prydferth o ardd yr eglwys, cyn cyflawn agor i daenu arogl peraidd o'i gwmpas. Wrth weled ei haul yn codi mor foreu, ac yn tywynu mor ddysglaer, gallesid meddwl yr aethai yn fuan dan gwmwl. Bu ei farwolaeth yn alar i'w berthynasau, yn siomedigaeth i ddisgwyliadau ei gyfeillion, ac yn golled i eglwys Dduw am dalentau gwerthfawr a dysglaer, ond yn ennill bythol iddo ef."

John Morris. Bu yn efrydydd yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yn Bwlchyffridd, ond siomodd ddisgwyliadau ei gyfeillion goreu.

Griffith Griffith. Addysgwyd ef yn athrofa Hackney, Llundain, ond ar derfyniad ei amser yn yr athrofa, ymfudodd i'r America, ac y mae yno yn weinidog cymeradwy. Mae yn frawd i Mr. E. Griffith a enwyd gyntaf.

Richard Solomon Williams. Addysgwyd ef yn athrofau y Bala ac Aberhonddu. Urddwyd ef yn weinidog yn y lle olaf a enwyd, ac y mae yn aros yno yn dra derbyniol.

Isaac J. Evans. Bu yn fyfyriwr yn athrofa y Bala, ac y mae newydd gael ei urddo yn Penheolgerig, Merthyr Tydfil.

Nodiadau

golygu
  1. Llythyr Mr. W. Edwards, Aberdare.
  2. Dysgedydd, 1843. Tu dal. 286.