Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Bethlehem, Blaenafon

Saron, Tredegar Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Carmel, Cendl
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Blaenafon
ar Wicipedia




BETHLEHEM, BLAENAFON.

Mae Blaenafon yn mhen uchaf y cwm trwy yr hwn y rhed yr Afon Lwyd, heibio Abersychan a Phontypool i lawr i'r Casnewydd. Mae pump o blwyfydd yn cyfarfod yma, sef Trefethin, Llanover, Llanwenarth, Llanffoist, ac Aberystruth. Yn mhlwyf Llanover y mae y capel presenol. Ychydig iawn oedd nifer trigolion yr ardal cyn agoriad y gweithiau haiarn yn y flwyddyn 1786, o'r pryd hwnw cynyddodd y boblogaeth yn raddol, fel y maent yn bresenol dros 7,000. Ymddengys i'r enwog Edmund Jones, Pontypool, fod yn pregethu yma yn lled gyson rai blynyddau cyn hyny, fe ddichon oddiar y pryd yr ymsefydlodd yn Mhontypool. Dywedir iddo gymeryd trwydded ar amaethdy a elwir y Persondy, at bregethu ynddo, ond nid ydym wedi cael allan pa flwyddyn y bu hyny. Shon Lewis Shon oedd enw gwr y Persondy. Yr oedd Anne ei wraig yn aelod yn Ebenezer, ac yn ei henaint gwnaeth yntau broffes gyhoeddus o grefydd, ond gan ei fod yn rhy fethiedig i fyned i Ebenezer derbyniwyd ef yn aelod yn ei dy ei hun. Mae yn debygol ei fod yn ddyn crefyddol iawn. Mae Mr. John E. Williams, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am y rhan fwyaf o ddefnyddiau yr hanes yma, wedi cofnodi yr hanesyn canlynol am Shon Lewis Shon, o enau wyres iddo, yr hon a fagwyd yn ei dy: Pryd yr oedd hi tua saith mlwydd oed, sylwai fod ei thadcu yn myned allan o'r ty bob bore, ac yn aros cryn amser cyn dychwelyd. Cyffrowyd ei chywreinrwydd un bore i edrych ar ei ol, a chafodd mai i ganol llwyn tewfrig o gelyn yr elai, lle y byddai yn treulio yspaid o amser mewn gweddi. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1770. Nid ymddengys fod yma achos neu eglwys Annibynol o gwbl yn amser Edmund Jones, er fod gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal yn lled gyson yn y Persondy, er budd aelodau a gwrandawyr Ebenezer, a breswylient yn yr ardal hwn. Mae yn debyg i Edmund Jones yn ei flynyddau diweddaf ymddiried y gwaith o ofalu am yr ychydig ddefaid o gylch Blaenafon, yr un fath ag yn y Blaenau, i Dafydd Thomas, Nantmelyn. Byddai yr hen wr hwnw yn dyfod drosodd yn lled aml o'r Blaenau i bregethu yn y Persondy. Marchogai asen, yr hon a alwai Shoned. Nid ymddengys i'r hen wr da hwn wneyd fawr ddaioni yma trwy ei ymweliadau, oblegid mae yn debygol ei fod yn hynod o ddifedr fel pregethwr. Yr oedd yma un aelod eglwysig o'r enw William Lewis, yr hwn a fu farw ar y ffordd un bore Sabboth wrth ddychwelyd o'r cyfarfod cymundeb o Dy Solomon. Bu pregethu achlysurol am flynyddau lawer yn y Persondy. Adroddai Edward Williams iddo ef fod yn gwrandaw Mr. Davies, Llangattwg, yn pregethu yno yn 1794. Mae yn debygol fod y rhan fwyaf, os nad yr oll o hen aelodau yr Annibynwyr yn yr ardal hon wedi meirw erbyn yr amser y cychwynwyd y gwaith haiarn. Tua y flwyddyn 1789, pan yr oedd dwy ffwrnes wedi eu cynneu yma daeth amryw bobl i'r lle o wahanol ardaloedd, ac yn eu mysg rai crefyddwyr. Un o'r rhai cyntaf a ddaeth yma oedd Thomas Harry, aelod o eglwys y Mynyddbach, Abertawy, a dyn ieuangc nodedig o dalentog a chrefyddol; daeth yma hefyd ddyn mewn gwth o oedran, yr hwn a elwid "Siams o'r hewl;" aelod o'r Mynyddbach oedd yntau. Dyn crefyddol arall o'r enw Dafydd John, o Lanelli, sir Gaerfyrddin, a ddaeth tua yr un amser i'r lle. Dilynwyd y rhai hyn gan amryw eraill yn fuan. Ond yn anffodus ni ddarfu iddynt fabwysiadu y cynllun goreu at godi achos yn y lle. Ymunodd rhai o honynt yn Ebenezer, Pontypool, eraill yn Hanover, ac eraill yn Llangattwg, Crughowell. Elent i'r lleoedd pell hyny foreuau y Sabbothau, a dychwelent adref erbyn amser cysgu, ac felly nis gallent wneyd un daioni crefyddol i'w cymydogion. Yr oedd un William Francis, Bedyddiwr, yn yr ardal, yn cadw ei dy yn agored i bregethwyr o bob enwad; ac yr oedd wedi gosod pulpud bychan i fyny yn ei dy.

Cyn gynted ag y sefydlodd Mr. Ebenezer Jones yn Mhontypool, dechreuodd dalu ymweliadau lled fynych a Blaenafon, a bu ei weinidogaeth o fendith i lawer yma.

Yn mysg eraill ennillwyd Edward Williams at yr achos tua y flwyddyn 1796, a bu yn golofn gadarn dano hyd derfyn ei oes. Efe oedd tad Mr. E. Williams, Dinasmawddwy, a Mr. John E. Williams, Blaenafon. Yr oedd E. Williams yn enedigol o ardal y Mynyddbach, Abertawy, lle yr oedd ei rieni, a'r rhan fwyaf o'i berthynasau, yn aelodau. Un diwrnod pan yn son wrth "Siams o'r hewl" am ragoriaeth Davies, Mynyddbach, fel pregethwr, dywedodd Siams wrtho, "Mae gweinidog ieuangc i bregethu prydnawn dydd Sul nesaf yn nhy Aaron Brute, yn llawn mor ddoniol a Davies. A ddewch chwi i'w wrandaw?" Addawodd fyned. Y gweinidog ieuangc oedd Ebenezer Jones. Aeth Edward Williams i'w wrandaw, a chyrhaeddodd y gwirionedd ei galon. O hyny allan ymwasgodd at yr ychydig ddysgyblion yn yr ardal. Cydgerddai a hwynt o'r cyfarfodydd, a siaradai a hwynt am y pregethau, ond ni thorodd un o honynt ato i ddyweyd un gair wrtho am ei gyflwr. O'r diwedd, gorfu iddo ef dori atynt hwy, ac agor ei fynwes iddynt. Derbyniwyd ef yn aelod yn Ebenezer yn y flwyddyn 1797. Yn fuan ar ol E. Williams derbyniwyd amryw eraill o Flaenafon, megys William a Walter Phillips, dau frawd, John Morris, yn nghyd a nifer o wragedd. Erbyn hyn yr oedd golwg obeithiol iawn ar y gymdeithas fechan. Pe buasai ty addoliad yn cael ei gyfodi yma y pryd hwnw buasai yr enwad Annibynol, wrth bob tebygolrwydd, wedi meddianu yr holl ardal. O herwydd fod Mr. Ebenezer Jones yn rhanu ei lafur rhwng Ebenezer a Brynbiga, ac o bosibl am fod pobl Ebenezer yn anfoddlon gollwng eu gafael yn yr aelodau a breswylient yn Mlaenafon, esgeuluswyd y lle pwysig hwn nes oedd yr enwadau eraill wedi ei feddianu i raddau helaeth. Y pryd hwnw (1797) nid oedd gan un enwad addoldy yn y lle, ac er fod gan yr Annibynwyr fwy o aelodau yma na neb arall, y Methodistiaid gafodd yr anrhydedd o adeiladu y capel cyntaf yn yr ardal. Adeiladwyd eu capel hwy yn 1799. Wrth gasglu ato, addawid y buasai yn rhydd rhwng pob enwad, ond wrth wneyd y weithred, gwnaed ef yn feddiant i'r Methodistiaid yn unig. Yr oedd Thomas Harry, un o'r prif ddynion gyda'r Annibynwyr, wedi rhoddi gini ato, a phan ddeallodd mai capel i un enwad ydoedd, mynodd ei gini yn ol. Ond rhyw fodd cyn pen blwyddyn wedi hyny, aeth Thomas Harry a'i gini yn grynswth at y Methodistiaid, a bu yn bregethwr parchus yn eu mysg hyd derfyn ei oes. Bu ei ymadawiad yn achos o lawer o ddigalondid i'r Annibynwyr, gan ei fod yn un o'r rhai galluocaf a mwyaf dylanwadol yn eu mysg.

Tua yr amser hwn hefyd bu mesur o anhwylusdod yn y gweithiau, fel y gorfu i amryw ymadael ar lle, ac yn eu plith Edward Williams, yr hwn a aeth i Dowlais. Pan ddychwelodd ef o Dowlais, nid oedd yno fawr o'r ddeadell fechan yn aros heb eu gwasgaru, rhai wedi myned o'r ardal, ac eraill wedi oeri a gwrthgilio, a dim ond ychydig chwiorydd yn dal yn ffyddlon. Felly wrth ail gychwyn moddion crefyddol yno, bu pwys y gwaith yn gorphwys ar ysgwyddau E. Williams agos yn hollol am dymor. Yn 1804, derbyniwyd ei frawd, Thomas Williams, yn Ebenezer, a throdd allan yn grefyddwr gwerthfawr a defnyddiol. Yr oedd yn Gristion teilwng, yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn ddyn diofn, diddiogi, a chyson yn ei gyflawniad o holl ddyledswyddau crefydd. Yr oedd y ddau frawd, Edward a Thomas Williams, i'w rhifo yn mysg y dynion goreu y cawsom erioed y fraint o gyfeillachu a hwy. Edward oedd yr henaf, a Thomas yr ieuangaf o blant eu mham. Saith mlynedd oedd y naill yn hŷn na'r llall. Dechreuodd pob un o honynt grefydda yn saith ar hugain oed, a buont feirw yn yr un oed, sef triugain a dwy ar bymtheg. Felly buont ill dau haner can' mlynedd yn aelodau eglwysig, ni bu un o honynt trwy eu holl dymor dan gerydd eglwysig am unrhyw gamymddygiad. Maent ill dau er's llawer o flynyddoedd bellach wedi myned "i mewn i lawenydd eu Harglwydd."

Yn y flwyddyn 1804, daeth William Allgood, aelod ffyddlon yn Ebenezer, i fyw i'r ardal. Bu am haner can' mlynedd yn arddwr i brif arolygydd gwaith haiarn Blaenafon. Nodweddid ei gymmeriad crefyddol gan ffyddlondeb a gostyngeiddrwydd. Bu yn golofn hardd yn yr eglwys hyd derfyn ei oes. Tua yr un amser, daeth Henry Roberts, o Frynbiga yma. Yr oedd yntau yn Gristion enwog, ac yn ddoniol iawn i siarad a gweddio yn y ddwy iaith. Bu yn ddefnyddiol yma nes iddo ddychwelyd i Frynbiga yn 1828. Yn 1807, ymunodd Hopkin Jenkins (taid Mr. D. M. Jenkins, Drefnewydd) a'r achos, a derbyniwyd ef yn aelod Yr oedd yn Gristion goleu, cadarn yn yr athrawiaeth, ac yn ganwr rhagorol, yn ol yr hen ddull o ganu. Symudodd i ardal Pontypool yn 1810, a bu yn ddiacon yn Ebenezer am lawer o flynyddau. Tua yr amser yma hefyd y derbyniwyd Griffith Abraham, a Thomas James, nai fab chwaer i'r diweddar Dr. Jenkins o Hengoed. Yr oedd yma hefyd y pryd hwnw amryw wragedd ffyddlon a rhagorol iawn, megys Peggy Rees, Shan Lot, Mary James, Leah Williams, a Leah James. yn Ebenezer.

Teimlid erbyn hyn fawr angen am gapel, ond cyfodai rhyw rwystr neu gilydd beunydd ar eu ffordd. Bu y Bedyddwyr yn fwy ffodus. Cawsant hwy dir, ac adeiladasant gapel yn 1807. Rhoddid benthyg y capel hwn yn garedig i'r Annibynwyr pan fyddai ganddynt bregethwr. Cynhalient eu cyfarfodydd gweddio o dy-i-dy, a'u cyfeillachau yn nhy Edward Williams. Casglasant yn eu plith eu hunain 14p. at gapel y Bedyddwyr, a darfu i'r brodyr hyny yn onest ddychwelyd yr arian iddynt pan yr aethant yn nghyd ag adeiladu capel iddynt eu hunain.

Mae yn amlwg fod Annibynwyr Blaenafon wedi dyoddef cam mawr oddiar law Mr. Ebenezer Jones ac eglwys Ebenezer, oblegid dylasent eu hanog a'u cynnorthwyo i adeiladu capel, o leiaf ugain mlynedd cyn iddynt ei wneyd. Bu amryw o'r ffyddloniaid hyn yn cerdded bob boreu Sabboth o Flaenafon i Ebenezer—pum' milldir o ffordd arw—am tua phum' mlynedd ar hugain; ac yn dychwelyd adref erbyn yr hwyr i gynal cyfarfodydd gweddio a chyfeillachau. Mae yn rhaid eu bod yn ffyddlon iawn i egwyddorion eu henwad cyn iddynt ddal cyhyd wrthynt dan y fath anfanteision, ac yn enwedig, pan welent yr enwadau eraill yn cael eu hanog a'u cynnorthwyo gan gyfeillion o wahanol ardaloedd i sefydlu achosion yn eu hardal eu hunain.

Heblaw yr aelodau a berthynent i Ebenezer, yr oedd yma rai o aelodau Hanover a Llangattwg, megys David Lot a John Richmond, William Lewis a'i wraig, ac Edward James a'i wraig. Pan aed i adeiladu y capel, darfu i'r rhai hyn uno yn galonog a'r cyfeillion o Ebenezer.

Ar ol hir oediad, cafwyd tir gan Mr. E. James am ddwy geiniog y flwyddyn, os gofynid hwy, dros 999 o flynyddau. Rhoddodd yr un gwr hefyd y cerrig mewn rhan o'r un cae a'r capel yn rhad ar eu codi o'r chwarel. Bu y gwyr, y gwragedd, a'r plant yn gweithio yn galed trwy haf y flwyddyn 1820, i godi a chludo y cerrig at yr adeilad. Amseriad y Trust Deed yw Awst 6ed, 1820, ac enwau yr ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt John Sheppard, Ebenezer Jones, John Morgan, Lewis Evans, Isaac Evans, Edward Williams, Thomas Williams, William Allgood, Henry Roberts, Griffith Abraham, a Thomas James. Costiodd y capel 400p., heblaw llafur y bobl yn cludo defnyddiau ato. Agorwyd ef Rhagfyr 24ain a'r 25ain, 1820, a galwyd ei enw Bethlehem, o herwydd mai ar ddydd Nadolig yr agorwyd ef. Cymerodd y Meistriaid D. E. Evans, Nantyglo; D. Stephenson, Rhymni; D. Thomas, Nebo; D. Davies, Penywaun; D. Davies, Llangattwg; D. Thomas, Penmain; ac Ebenezer Jones, Pontypool, ran yn y gwasanaeth. Yn fuan ar ol agoriad y capel, awd i'r draul ychwanegol o 120p. i adeiladu anedd-dy, a chyfleusderau eraill yn ei ymyl, a thalwyd y cwbl mewn ychydig iawn o flynyddau. Rhif yr aelodau pan orphenwyd y capel oedd 33, ond yn fuan wedi hyny symudodd Edward James a'i deulu i Sirhowy. Corpholwyd yr eglwys y pryd hwn, a dewiswyd Edward Williams, a Thomas James yn ddiaconiaid, a Thomas Williams, a Henry Roberts yn Henuriaid. Yr oedd yr eglwys bellach yn Annibynol, ond etto dan weinidogaeth Mr. Ebenezer Jones, yr hwn, o herwydd ei ofalon yn Ebenezer a Brynbiga, ni allai ymweled a Blaenafon ond anfynych, a phan y deuai traddodai ran fawr o'i bregethau yn Saesonaeg, er mwyn rhyw ychydig Saeson a berthynent i'r gwaith. Byddai meistr y gwaith, ac amryw o'r prif oruchwylwyr yn dyfod yn fynych i'w wrando. Ond cwynfan yr oedd y Cymry uniaith fod eu heneidiau yn cael eu nychu trwy fod gormod o Saesonaeg yn cael ei arfer yn y gwasanaeth. Mae yn amlwg fod Mr. Jones, a rhai eraill o'i gydoeswyr, wedi gwneyd niwed mawr i achos Ymneillduaeth trwy wthio Saesonaeg i'r gwasanaeth crefyddol, pryd nad oedd galwad neillduol am dano, ac y mae mor amlwg a hyny fod amryw weinidogion yn yr oes hon yn cloddio dan sail Ymneillduaeth mewn llawer ardal trwy wrthwynebu, neu o leiaf trwy daflu dwfr oer ar bob ymdrech i sefydlu achosion Saesonaeg, lle y mae galwad am danynt. Peth pwysig iawn yw i weinidogion a phrif aelodau ein heglwysi fod fel meibion Issachar, "Yn rhai a fedrant ddeall yr amseroedd."

Bu yr achos yn y capel newydd yn lled ddilewyrch, o herwydd cymysg edd yr ieithoedd yn y gwasanaeth, ac anallu Mr. Jones i ymweled a'r lle mor fynych ag oedd angen iddo wneyd; ac oblegid ei fod yn gweled hyny rhoddodd yr eglwys i fyny yn 1823. Y diweddaf a dderbyniodd yma oedd William Davies. Ar ol ymadawiad Mr. Jones bu Mr. Davies, New Inn, yn gofalu am y lle am dymor; "a bu ei lafur yma yn foddion dan fendith yr Arglwydd i godi yr achos o'r iselder y buasai ynddo er pan gorpholwyd yr eglwys. Gwenodd y nefoedd ar lafur Mr. Davies: llanwyd y capel o wrandawyr, ac yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg yn eu plith, a gellir dyweyd fod gras mawr arnynt. 'Ychwanegwyd at yr eglwys beunydd y rhai a fydden't gadwedig.' Dau fis ar hugain y bu gofal yr eglwys ar Mr. Davies, a derbyniodd o 50 i 60 yn aelodau yn yr amser hwnw; ac nid rhyw ruthr disymwth ydoedd, ond cynydd graddol a chyson. Dau gymundeb fu yn amser llafur Mr. Davies heb i neb gael eu derbyn. Chwech dderbyniwyd fwyaf ar unwaith, ac ar un cymundeb un yn unig a dderbyniwyd, a'r un hwnw oedd Mr. J. B. Cook, yn awr o Danville, America. Bu ymuniad Mr. Cook yn fantais fawr i'r achos, gan ei fod, heblaw ei ragoriaethau eraill, yn ganwr rhagorol iawn. Darfu i'r rhan fwyaf o'r rhai a dderbyniodd Mr. Davies ddal eu ffordd yn ffyddlon hyd y diwedd. Nid oes ond dau o honynt yn awr ar dir y byw. Nid oedd ond un dan un-ar-bymtheg oed yn eu mysg. Dynion canol oed oeddynt gan mwyaf. Yr oedd yn arferiad gan y gwrandawyr y pryd hwnw i fyned allan ar ol y bregeth cyn y cymundeb. Cymhellodd Mr. Davies hwy yn daer ddau fis neu dri i aros, ond myned yr oeddynt o hyd. Un tro, wrth eu gweled yn myned allan, dywedodd gydag awdurdod, "Wel, os gelynion i Iesu Grist ydych, ewch allan," ar hyny safasant oll yn eu lleoedd, a throdd y rhai oedd wedi myned at y drws yn ol i'w heisteddleoedd, ac ni chynygiodd neb byth mwyach fyned allan cyn y cymundeb. Yr oedd y diffeithwch yn blodeuo fel rhosyn, a'r anialwch fel gardd yr Arglwydd yn Mlaenafon y pryd hwn."[1]

Arferai Mr. Davies hefyd, tra y bu yn gwasanaethu yr eglwys hon, bregethu bob nos Sadwrn cyn y cymundeb yn y Pwlldu, pentref bychan ar lechwedd y mynydd rhwng Blaenafon ac Abergavenny. Yn nhy David Thomas yr arferai bregethu. Bu ei weinidogaeth yno yn foddion i ennill James Davies a'i wraig at yr achos, y rhai fuont yn ffyddlon a defnyddiol iawn hyd derfyn eu hoes. Bu yr aelodau yn y lle hwnw yn cynal eu cyfeillach grefyddol yn nhy y ffyddloniaid hyn am ddeugain mlynedd. Bu y gwr farw yn 1864 a'r wraig yn 1867.

Yr oedd y rhag-grybwylledig David Thomas yn nai i'r nodedig Siencyn Penhydd. Mae ein cyfaill, Mr. J. E. Williams, yn rhoddi yr hanes canlynol am dano: "Tybiaf iddo fod yn aelod gyda'r Methodistiaid pan yn ieuangc, ond bu yn fachgen drwg wedi hyny. Tua chanol ei ddydd ymwelodd yr Arglwydd ag ef trwy weinidogaeth Mr. E. Jones, Pontypool, ac ymunodd ag eglwys Ebenezer, ond nid arosodd yno yn hir cyn symud i Lanelli, Brycheiniog, ac oddiyno i'r Pwlldu, lle y gorphenodd ei yrfa mewn llawn hyder ffydd, yn 1833. Yr oedd y pryd hwnw yn aelod yn Blaenafon, ac yn henuriad yn yr eglwys. Y dyn mwyaf ei ddawn a'i gymhwysder yn yr ysgol Sul a welais erioed ydoedd. Yr oedd ei sêl, ei ymroddiad, a'i serchawgrwydd yn sicrhau iddo ddylanwad ar ddeiliaid yr ysgol yn fwy na neb a adnabum erioed. Byddai bywgraffiad o'r dyn hynod hwn yn drysor i'r ysgol Sul, pe gwnai rhyw un o fedr a deheurwydd ei gymeryd mewn llaw."

Gan fod pobl y New Inn yn anfoddlon gollwng Mr. Davies mor aml i Flaenafon, a bod y bobl yma am ei gael ddau Sul o'r mis, a chan nad oedd nemawr o bregethwr cynnorthwyol yn agos i'r New Inn na Blaenafon i lenwi lle Mr. Davies yn ei absenoldeb, barnwyd y buasai yn well i eglwys Blaenafon edrych am weinidog iddi ei hun. Rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Hughes, o athrofa y Neuaddlwyd, yr hwn tua yr un amser a dderbyniasai alwad oddiwrth yr eglwys yn y Maendy, Bro Morganwg, ac er mawr siomedigaeth i bobl Blaenafon, y Maendy a ddewisodd.

Wedi hyn edrychwyd allan am un arall, ac ar gymeradwyaeth Mr. T. G. Jones, y pryd hwnw o Bethania, Dowlais, rhoddwyd galwad i Mr. W. Phillips, yr hwn a fuasai am tua blwyddyn neu ddwy ar brawf yn Ruthin. Gwyddid nad oedd wedi cael ei urddo yno, er cyhyd y buasai yn pregethu ar brawf, ond gan faint eu hawydd am gael gweinidog, rhoddasant alwad iddo yn unig ar gymeradwyaeth Mr. Jones, heb holi dim o berthynas i'w gymmeriad. Dichon pe buasent yn ymgynghori ag eglwys Ruthin y buasent yn cymeryd mwy o bwyll cyn ei urddo. Pa fodd bynag, urddwyd ef Gorphenaf 13eg a'r 14eg, 1826. Cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn ngwasanaeth yr urddiad: D. Griffiths, Castellnedd; D. Jones, Llanharan; G. Hughes, Groeswen; T. Powell, Aberhonddu; D. Lewis, Aber; D. Jenkins, Brychgoed; E. Jones, Pontypool; M. Jones, Merthyr; T. Rees, Llanfaple, &c.

Yr oedd Mr. Phillips yn bregethwr galluog, ac yn feddianol ar lawer o gymwysderau at waith y weinidogaeth, ond ei fod yn amddifad o'r prif gymwysder, sef cymmeriad teilwng o'r efengyl. Bu ychwanegiad mawr at yr eglwys am ychydig fisoedd wedi urddiad Mr. Phillips, yn benaf trwy i adfywiad y gweithiau dynu llawer o aelodau eglwysig o ardaloedd eraill i'r gymydogaeth i fyw; ond lleihawyd eu rhif yn fuan trwy i 35 o'r aelodau a breswylient yn ardal y Varteg fyned i ddechreu yr achos yn Sardis. Yr oedd hyny yn golled fawr i'r achos yn Mlaenafon, ond y peth a wasgodd waethaf arno oedd y si annymunol a ymdaenodd trwy yr ardal o berthynas i gymmeriad y gweinidog. Daeth y peth yn fuan yn fater eglwysig, a galwyd gweinidogion cymydogaethol yno i ystyried yr achos. Y gweinidogion a ddaethant yno oeddynt Mr. Jones, Pontypool; Mr. Skeel, Abergavenny; Mr. Rees, Llanfaple; a Mr. Davies, Aberteifi. Aelod o Aberteifi oedd Mr. Phillips. Cynghorodd y gweinidogion yr eglwys i'w adael i bregethu ei bregeth ymadawol y Sul canlynol, a'i ollwng ymaith heb ddwyn un cyhuddiad yn ei erbyn. Cydsyniwyd a hyny; ond yr wythnos ganlynol cafodd ef blaid o'r eglwys i fyned allan gydag ef, a dechreuodd bregethu iddynt o dy i dy. Yn ngwyneb hyny, penderfynwyd galw gweinidogion drachefn i ail ystyried yr achos. Pan glywodd Mr. Phillips enciliodd at y Bedyddwyr; ac ni pherthyn i ni gofnodi ychwaneg o'i hanes. Bu yr amgylchiad yn wanychiad mawr i'r achos. Ymadawodd rhai teuluoedd a'r capel, ac ni ddychwelasant mwyach. Aeth eraill i dir gwrthgiliad. Un o'r swyddogion yn unig a drodd gyda phleidwyr Mr. Phillips. Dychwelodd hwnw i'w le yn mhen amser.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Mr. Phillips, rhoddwyd galwad i ddyn gwir dda a duwiol, sef Mr. Morgan Morgans, aelod o eglwys Llanharan; yr hwn oedd y pryd hwnw yn fyfyriwr gyda Mr. Davies, Penywaun. Urddwyd Mr. Morgans Chwefror 6ed a'r 7fed, 1828. Gweinyddwyd yn y gwahanol gyfarfodydd yn y drefn ganlynol: Am 3, y dydd cyntaf, gweddiodd Mr. D. Davies, Penywaun; a phregethodd Mr. H. Morgans, Samah, oddiwrth Math. v. 3; a Mr. E. Jones, Neuaddlwyd, oddiwrth Rhuf. v. 8. Yn yr hwyr, gweddiodd Mr. W. Watkin, Pontypool; a phregethodd Mr. D. Stephenson, Nantyglo, oddiwrth Ioan xvi. 20; Mr. H. Jones, Tredegar, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xvi. 2; a Mr. J. Rowlands, Cwmllynfell, oddiwrth Luc i. 32. Am 7, yr ail ddydd, gweddiodd Mr. T. Williams, Cwmaman; a phregethodd Mr. E. Williams, Caerphili, oddiwrth Job i. 1; a Mr. E. Griffiths, Browyr, oddiwrth Salm cxxxix. 23, 24. Am 10, gweddiodd Mr. T. Evans, Aberhonddu; pregethodd Mr, D. Lewis, Aber, ar natur eglwys, oddiwrth Actau ii. 47; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Penywaun; gweddiwyd yr urddweddi, gydag arddodiad dwylaw, gan Mr. D. Stephenson; pregethwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth 1 Tim. iv. 14; ac i'r eglwys gan Mr. J. Rowlands, Cwmllynfell, oddiwrth Heb. xii. 22. Am 3, dechreuwyd gan Mr. Josuah Thomas, Penmain; a phregethodd Mr. D. Griffiths, Castellnedd, oddiwrth Actau xiv. 22; a Mr. J. Jones, Main, oddiwrth 2 Cor. iv. 18. Am 7, gweddiodd Mr. Thomas Thomas, Caerlleon-ar-wysg; a phregethodd Mr. D. E. Owens, Cendl, oddiwrth Ioan iii. 3; Mr. J. Hughes, Maendy, oddiwrth Salm viii. 4; a Mr. D. Jones, Llanharan, oddiwrth Ioan xvii. 1.

Cymharol fechan oedd yr eglwys y pryd hwn, ond ychwanegwyd llawer ati yn fuan, ac yn eu mysg amryw a droisant allan yn ddynion gwir ddefnyddiol. Y mae tri o honynt yn bresenol yn ddiaconiaid yn yr eglwys, sef David Jones, Isaac Evans, a James Cook, a bu yr olaf o'r tri yn flaenor y canu yn y gynnulleidfa am fwy nag ugain mlynedd. Bu Mr. Morgans yn barchus a defnyddiol iawn yma am yn agos naw mlynedd, ond yn Awst 1836, er mawr alar i'r eglwys a'r holl gymydogaeth, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys yn Bethesda-y-fro, Morganwg, a symudodd yno. Bu yma lawer o gyfnewidiadau pwysig yn nhymor ei weinidogaeth ef, yn neillduol trwy ymfudiaeth i America ac Awstralia. Rhoddodd ar unwaith lythyrau i bedwar-ar-ddeg o ieuengetyd yr eglwys i fyned i Awstralia, ac y mae perthynasau y rhai hyny yn myned ar eu hol o flwyddyn i flwyddyn. Mae y gweinidog presenol hefyd wedi gollwng llawer o ugeiniau trwy lythyrau i America, a gwledydd eraill. Cafodd amryw o'r aelodau eu symud trwy farwolaeth yn amser Mr. Morgans, ac yn eu plith un gwr ieuangc gobeithiol iawn, sef Thomas, mab Thomas Williams. Yr oedd wedi cael cymhelliad i ddechreu pregethu, ond ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, fel y bu raid iddo roddi heibio y meddwl am bregethu. Bu farw Awst 4ydd, 1829, a chladdwyd ef yn medd ei fam yn Ebenezer, Pontypool. Gweinyddodd Mr. Morgans yn ei gladdedigaeth.

Cyn pen dwy flynedd wedi ymadawiad Mr. Morgans, rhoddwyd galwad i Mr Thomas Griffiths, aelod o eglwys Zoar, Merthyr. Yr oedd Mr. Griffiths y pryd hwnw yn fyfyriwr yn Mhenywaun. Urddwyd ef Mehefin 5ed a'r 6ed, 1888, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth: D. Davies, Penywaun; D. Stephenson, Nantyglo; H. Jones, Tredegar; E. Rowlands, Pontypool; J. T. Jones, Merthyr; T. Rees, Craigyfargod; M. Jones, Varteg; J. Davies, Abersychan, &c. Mae Mr. Griffiths wedi gwasanaethu yr eglwys hon bellach am ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac er fod ei iechyd yn lled wanaidd er's blynyddau, y mae ei barch a'i ddefnyddioldeb yn parhau yn ddileihad.

"Yn nechreu 1840, gan fod yr hen gapel mewn lle anghyfleus, penderfynwyd cael capel newydd. Cafwyd darn helaeth o dir mewn man cyfleus iawn. Pris y tir yw 463p. 10s. Gan nad oedd arian yn gyfleus i dalu am dano, cytunwyd i dalu llôg yn ol 5p. y cant i'w berchenog, hyd nes y telid y corff. Mae y capel newydd yn mhlwyf Llanover. Ei enw yw Bethlehem, yr un fath ar hen dy. Adeiladwyd y capel cyn cael y gweithredoedd. Eu hamseriad yw Rhagfyr 24ain, 1841. Enwau yr ymddiriedolwyr ydynt, Thomas Griffiths, John James, James Cook, John Williams, William Davies, John Meredith, David Jones, Thomas Richards, Thomas Prossor, Edward Williams, James Davies, David Edwards, Llewellyn Evans, Isaac Evans, a John Prytheroe.

Agorwyd y capel newydd Tachwedd 21ain, 1840. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Meistriaid Ll. Powell, Hanover; W. Watkins, Rymni; M. Jones, Varteg; E. Rowlands, Pontypool; M. Ellis, Mynyddislwyn; H. Jones, Tredegar, a H. J. Bunn, Abergavenny. Costiodd y capel rhwng wyth a naw cant o bunnau. Bwriedid talu am y tir mor gynted ag y telid am y capel; ond erbyn gorphen talu am y capel, cafwyd fod yn rhaid adgyweirio llawer arno. Costiodd hyny rhwng pedwar a phum cant o bunnau, ac felly y mae yr arian am y tir, a thros ddau cant o'r ddyled ar y capel heb eu talu etto.

Yn y flwyddyn yr adeiladwyd y capel newydd, ac ychydig cyn ei agoriad, y derbyniwyd y brodyr anwyl E. Williams, Dinasmaddwy, a'r diweddar D. Milton Davies, Llanfyllin. Y mae yr Arglwydd wedi bod yn dda wrth yr eglwys yn y capel newydd, fel yn yr hen. Bu cyfnod dilewyrch iawn arni o'r flwyddyn 1851 hyd 1855. Ni dderbyniwyd nemawr yn y blynyddoedd hyny. Gyda'r eithriad hyn, nid oes un flwyddyn wedi myned heibio heb fod rhyw rai yn gofyn y ffordd tua Sion. Bu yma gynhyrfiadau bychain droion. Yn 1841, derbyniwyd 35; yn 1843, derbyniwyd 20; yn 1846, derbyniwyd 13; yn 1848, derbyniwyd dros 80; ac yn 1859, derbyniwyd 25. Edrychid ar hyn yn llawer mewn cynnulleidfa fechan; canys bychain yw y cynnulleidfaoedd Cymreig yn y lle hwn. Y mae yr eglwys a ffurfiwyd yn yr hen Bethlehem, yn awr wedi byw haner can' mlynedd. Mae wedi myned dan gyfnewidiadau mawrion. Y mae pawb a wnelent yr eglwys i fyny y pryd hwn, ond un hen chwaer, wedi myned i ffordd yr holl ddaear; ac y mae pob un o'r rhai a arwyddent alwad y gweinidog presenol, ond naw, wedi teithio yr un llwybr, neu wedi symud o'r ardal; ond y mae yr eglwys yn fyw, a phob arwyddion y bydd hi fyw am lawer o flynyddoedd etto. Mae dynion o wybodaeth ysgrythyrol helaeth, duwioldeb uchel, ffyddlondeb, ac haelioni mawr wedi bod yn perthyn i'r eglwys hon, a da genym allu dyweyd nad yw y pethau da hyn wedi eu llwyr golli o honi yn 1870."[2]

Yn 1863, ar gais Mr. Griffiths a'r eglwys, aeth amryw o'r aelodau, a ddeallent yr iaith Saesonaeg, allan i gychwyn achos Saesonaeg yn yr ardal. Daw yr achos ieuangc hwn dan ein sylw etto.

Yr ydym wedi arfer ymweled a Blaenafon er's yn agos ddeugain mlynedd bellach. Gwelsom gynnulleidfaoedd lluosocach mewn llawer man, ond ni welsom mewn un lle yn Nghymru na Lloegr eglwys fwy gwresog, siriol, a gwir garedig. Adwaenem yn dda y rhan fwyaf o'r personau teilwng y coffheir eu henwau yn y tudalenau blaenorol, ac y mae yn hyfrydwch genym gael cyfleusdra i drosglwyddo eu coffadwriaeth i'r oesau dyfodol. Pa beth bynag a ddygwyddo i'r eglwys yn Bethlehem, Blaenafon, na fydded iddi byth golli ysbryd gwresog, ffyddlon, a duwiolfrydig Edward a Thomas Williams, a'u cydoeswyr. Mae y tân santaidd ar allor yr eglwys hon wedi cael ei gadw heb lwyr ddiffoddi trwy y blynyddau. Cyneued etto yn danbeidiach nag erioed.

Nodiadau

golygu
  1. Llythyr Mr. J. E. Williams.
  2. Llythyr Mr. Griffiths, Mawrth 29, 1870.