Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Bettws Gwerfil Goch
← Cynwyd | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Tre'rddol → |
BETTWS GWERFIL GOCH.
Yn y flwyddyn 1843, symudodd teulu o ardal Cynwyd i'r ardal yma. Gan eu bod yn aelodau gyda'r Annibynwyr, byddai Mr. T. Davies, Llandrillo, yn myned i bregethu yn achlysurol iddynt yn eu tŷ. Yn y flwyddyn 1850, daeth Mr. Robert Fairclough yma gan benderfynu pregethu yn rheolaidd, a chodi achos yn y lle. Cymerodd dŷ gwag oedd yn eiddo Mr. Griffith Evans, Bodynlliw, i bregethu ynddo, a'r tro cyntaf yr aeth i dalu yr ardreth am dano, dychwelodd Mr. Evans yr arian iddo, a gwerthodd ddarn o dir i adeiladu capel arno. Dyddiad y gwerthiad ydyw Mai, 1850. Agorwyd y capel cyn diwedd 1852, a thrwy ymdrech Mr. Fairclough, talwyd y ddyled, fel y mae y capel a'r tŷ perthynol iddo yn rhydd. Bu y brodyr Edward Wynne a Robert Evans, Derwen, yn ffyddlon iawn i gynorthwyo yr achos yma, ac y maent yn parhau i ymweled a'r lle. Ni bu Mr. Fairclough yma yn hir ar ol adeiladu y capel, ac y mae y lle wedi bod yn benaf er hyny dan ofal Mr. M. D. Jones, Bala, yr hwn sydd yn dyfod yma fynychaf bob mis i gadw cymundeb, ac ar y Sabbothau eraill pregethir gan fyfyrwyr yr athrofa, neu gan rai o'r pregethwyr cynorthwyol sydd yn yr eglwysi cylchynol. Yn nechreu y flwyddyn 1868, rhoddwyd galwad gan yr eglwys yma i Mr. John Williams, myfyriwr o athrofa y Bala, ac urddwyd ef Chwefror 10fed a'r 11eg; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. J. Peter, Bala; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Ellis, Llangwm; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. M. D. Jones, Bala; pregethodd Mr. D. M. Davies, Llanfyllin, i'r gweinidog, a Mr. R. Thomas, Bangor,[1] i'r eglwys. Ni bu arosiad Mr. Williams yma ond byr, canys symudodd cyn diwedd y flwyddyn ganlynol i Penygroes, sir Benfro, ac y mae gofal yr achos fel cynt ar Mr. M. D. Jones.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
ROBERT FAIRCLOUGH. Ganwyd ef yn Llandrillo. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys Annibynol yno gan Mr. Michael Jones, Llanuwchllyn. Wedi bod yn pregethu dros rai blynyddau, ac ar adegau yn yr ysgol, derbyniwyd ef i athrofa Aberhonddu, lle y treuliodd bedair blynedd. Ychydig o gynydd a wnaeth mewn dysg tra yno, ond cyfrifid ef yn ddyn da, ac awyddus am wneyd daioni. Urddwyd ef yn Bethania, Ffestiniog, lle y bu dros rai blynyddoedd. Ar ol hyny, aeth i Bettwsgwerfilgoch, lle bu yn ymdrechgar i godi capel a thalu am dano; a bu yn y Drefnewydd a Phenllys, ac o'r diwedd, daeth adref i Landrillo, lle y bu farw. Barnai llawer o'r rhai a'i hadwaenai ei fod yn ddyn da, ond ei fod yn annoeth, ac yn gyndyn dros fesur. Mewn casglu at gapeli y rhagorai, ac yn nglyn a hyny y tynodd arno ei hun, ac y rhoddodd i eraill, fwyaf o flinder. Yn y Bettws y gwnaeth fwyaf o ddaioni. Cododd gapel yno, a thalodd am dano agos yn gwbl trwy ei lafur personol.
Nodiadau
golygu- ↑ Dysgedydd, 1868. Tu dal. 104.