Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Dock Street, Casnewydd

Llanfaple Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Penywaun
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanfable
ar Wicipedia




DOCK STREET, CASNEWYDD.

Yn 1801, nid oedd trigolion plwyf a thref y Casnewydd ond rhy brin bymtheg cant o bersonau, ac nid oedd ond dau dy addoliad yn y plwyf, sef yr Eglwys, a chapel Heol-y-felin. Mewn canlyniad i agoriad gweithiau glo, a sefydliad amryw weithfaoedd haiarn ar y mynyddau, yn nghyd a gwneuthuriad camlas, sir Fynwy, i gludo cynyrch y gweithfaoedd i borthladd y Casnewydd, cynyddodd y dref yn gyflym, fel yr oedd ynddi erbyn 1811, dros dair mil o drigolion; ac erbyn hyn y mae ei thrigolion yn tynu at ddeugain mil. Wrth weled y trigolion yn cynyddu mor gyflym, ac yn eu mysg niferi dirfawr o Saeson, darfu i Mr. William Thomas, un o ddiaconiaid yr eglwys yn Heol-y-felin, yn nghyd ag ychydig bersonau, a dueddent yn fwy at y Methodistiaid Calfinaidd nag at un enwad arall, ymuno yn gymdeithas grefyddol, ac adeiladu Hope Chapel. Nis gwydd om pa flwyddyn y gwnaed hyn, ond gallem feddwl mai rywbryd o 1810 1812 ydoedd. Daeth Mr. John Rees, pregethwr galluog perthynol i Methodistiaid i'r dref i fyw, a chan ei fod yn medru pregethu yn rhwyc yn yr iaith Saesonaeg, cymhellwyd ef i'r capel newydd i bregethu yn ddwy iaith. Arweiniodd hyny yn fuan i mewn destynau annghydfod i'r gymdeithas. Gan mai Methodistiaid oedd Mr. Rees a'r rhan fwyaf o'r eglwys, ni chaniatai y Corff iddo fod yn weinidog sefydlog yno; ac yr oedd y ddwy iaith yn llawer o rwystr i gydgordiad. Galwai rhai am ychwaneg o Saesonaeg, ac eraill am ychwaneg o Gymraeg. Diwedd y pethau hyn fu i Mr. Rees dderbyn galwad oddiwrth yr eglwys yn y Tabernacle, Rodborough, sir Gaerloew, ac i'r Gymdeithas yn Hope Chapel dori i fyny, gan adael y capel, yr hwn oedd wedi costio dros fil o bunau, a'r rhan fwyaf o'r ddyled arno, yn llaw un Henry Evans, yr hwn a fu dan yr angenrheidrwydd o'i gynyg ar werth. Prynwyd ef am 800p. gan nifer o bersonau, y rhai a chwenychent ffurfio yno eglwys Annibynol Saesonaeg. Agorwyd ef fel capel Annibynol Ebrill 1af, 1814. Un-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau pan ffurfiwyd yr eglwys, ar blaenaf o honynt oedd Mr. William Thomas, yr hwn a grybwyllasom yn barod. Erbyn diwedd y flwyddyn 1814, ychwanegwyd naw eraill atynt.

Ar ol bod yn cael eu gwasanaethu gan wahanol weinidogion hyd ddiwedd y flwyddyn 1814, llwyddasant i gael gan yr enwog Jenkin Lewis, yr hwn oedd y pryd hwnw yn cyfaneddu yn agos i Manchester, i addaw dyfod atynt am bump neu chwech Sabboth. Dechreuodd ei lafur ddydd Nadolig 1814, yr hwn oedd yn Sabboth y flwyddyn hono. Cyn iddo ymadael, cawsant ganddo dderbyn galwad i ddyfod yn weinidog iddynt, a dechreuodd ei weinidogaeth yn eu mysg Mawrth 8fed, 1815.

O'r pryd hwnw hyd ei farwolaeth yn 1831, bu yn myned i mewn ac allan o'u blaen, ac yn cael edrych arno gan bawb fel "Gwr Duw." Er na ddarfu iddo gasglu cynnulleidfa luosog iawn, llwyddodd i sefydlu achos ag yr oedd yr holl dref yn gorfod edrych yn barchus arno. Yr oedd y rhai a'i hadwaenai yn dda, ac a fedrent ddeall gwerth ei weinidogaeth, yn ei gyfrif yn un o'r dynion goreu ar y ddaear. Mae y rhaggrybwylledig Wm. Thomas, yr hwn a ellir ystyried fel tad yr achos hwn, wedi ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr, yn mhen blynyddau ar ol dechreuad gweinidogaeth Mr. Lewis yn eu plith, "Pe gofynid i mi, A gawsoch chwi eich siomi yn ngweinidogaeth Mr. Lewis? atebwn, Yn mhell, pell iawn i'r gwrthwyneb y bu. Mae wedi myned yn mhell tu hwnt i unrhyw ddisgwyliad a goleddwn i ar y dechreu, ac y mae yn myned well well o hyd. Yr wyf yn galaru na byddai yn cael ei derbyn yn well, ac na byddai mwy o arwyddion gweledig o lwyddiant arni. Ond yr wyf fi yn meddwl nad oes gan Mr. Lewis un achos i edifarhau iddo ddyfod i'r Casnewydd, ac yr wyf fi yn bendithio Duw am iddo ei ddwyn ef yma, ac am yr holl wirioneddau gogoneddus a wrandewais tra yn eistedd dan ei weinidogaeth." Ysgrifenai un arall o'r aelodau am dano yn mhen blynyddau ar ol hyn: "Mae fy adgofion am dano yn hyfryd iawn; ei ddull hynaws a serchus; ei ymddygiad mwyn at bawb, yn enwedigol yr ieuengctyd; yn nghyd a'i fywyd santaidd. Yr wyf fi yn barnu ei fod yn nes at berffeithrwydd nag un dyn a adnabum erioed." Ond er rhagored dyn oedd Mr. Lewis, cafodd ofid yn ei gysylltiad a'i eglwys yn y Casnewydd. Heb fod yn faith wedi iddo sefydlu yno, daeth rhyw destyn cynen i'r eglwys, ac ar ol cryn ystwr a gofid, ymadawodd nifer o'r aelodau; yr hyn yn mhen amser a arweiniodd i ddechreuad yr achos yn y Tabernacle. Nid oes genym unrhyw wybodaeth am achosion na natur y terfysg hwn. Y cwbl a wyddom ydyw iddo gymeryd lle.

Yn mhen ychydig fisoedd ar ol marwolaeth Mr. Lewis, rhoddwyd galwad i Mr. Benjamin Byron, o Lincoln. Ar y Sul cyntaf yn Hydref 1831, y pregethodd Mr. Byron yma gyntaf. Derbyniodd yr alwad, a sefydlodd yn y lle yn ddioed. Er fod Mr. Byron yn ddyn gwahanol iawn yn ei gorff, ei feddwl, ei ddull o bregethu, ac o ymwneyd a dynion, i'w ragflaenydd hynaws a boneddigaidd, etto, gan ei fod yn ddyn gwir dda, a nodedig o alluog a llafurus, perchid ef yn fawr gan ei bobl. Yr oedd i raddau yn fyrbwyll, ac anwyliadwrus ar ei eiriau, a thrwy hyny yn achlysurol yn cyfodi teimladau annymunol a thramgwyddus mewn rhai personau. Gan ei fod yn rhyddfrydwr brwdfrydig mewn pethau gwladol a chrefyddol, bu yn agos a thynu ei hun i ofid, a'r achos i warth, yn amser terfysg y Siartiaid, yn 1839. Yr oedd John Frost, blaenor y Siartiaid yn Mynwy, yn arfer gwrandaw Mr. Byron, a rhai o'i deulu yn aelodau ei eglwys. Rhwng y naill beth a'r llall, bu yr achos hwn dan fesur o gabledd y pryd hwnw, er nas gallwyd profi fod dim yn feius yn y gweinidog na'r eglwys. Mae yn ddigon hysbys fod gelynion Ymneillduaeth a rhyddid yn wastad, pan gaffont ryw gysgod o esgus, yn barod i dywallt eu llysnafedd ar y pregethwyr a'r capeli, ac ni fu toriaid ac ucheleglwyswyr y Casnewydd yn ol o wneyd eu rhan i dduo yr achos hwn y pryd hwnw.

Yr oedd Mr. Byron yn un rhagorol dros ben gyda yr ysgol Sabbothol; a Mrs. Byron yn selog a medrus iawn hefyd yn y rhan hon o waith crefydd; a chan nad oedd plant ganddynt, yr oedd ganddi fwy o amser i dalu sylw i'r gwaith. Yr oedd ysgol Sabbothol Hope Chapel, yn amser Mr. Byron, yr oreu o ddigon o holl ysgolion Sabbothol y dref. Bu y gweinidog llafurus hwn hefyd yn foddion i feithrin ysbryd cenhadol i raddau dymunol iawn yn ei bobl. Yn y flwyddyn 1835, nid oedd y casgliad cenhadol ond 16p., ond cyfododd, o flwyddyn i flwyddyn, nes yr oedd yn 1840 yn 51p. Bu Mr. Byron farw, er galar dirfawr i'w eglwys yn Mawrth 1841. Buwyd dros flwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Byron cyn gallu dewis canlynydd iddo. O'r diwedd rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Parry, o Blackburn, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma Gorphenaf 17eg, 1842. Ychydig fu ei arosiad ef yn y lle. Rhoddodd ei weinidogaeth i fyny Ionawr 23ain, 1844, a symudodd i Dover, lle y bu farw yn fuan wedi hyny.

Wedi ymadawiad Mr. Parry, buwyd dri mis ar ddeg heb daro wrth ganlyniedydd iddo. Rhoddwyd galwad i Mr. Thomas L. Bright, myfyriwr yn yr athrofa Orllewinol, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Chwef. 23ain, 1845. Yr oedd Mr. Bright yn dderbyniol fel pregethwr, a bu i fesur yn llwyddianus am y ddwy flynedd gyntaf, ond yn y drydedd flwyddyn deallwyd ei fod yn suddo mewn dyled, a thrwy hyny yn iselu ei gymmeriad a'i swydd. Bwriadai y diaconiaid fyned i siarad ag ef ar y mater, a phan ddeallodd yntau hyny, rhoddodd ei swydd i fyny, Mawrth 3ydd, 1848, ac ymfudodd i Awstralia. Nid ymddengys iddo wneyd dim a gwaith y weinidogaeth er y pryd hwnw.

Y gweinidog nesaf yma oedd Mr. John Barfield, B. A., o goleg Cheshunt, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth Mai 27ain, 1849. Bu yma am bum' mlynedd, ac ymadawodd yn dra disymwth, Mehefin 4ydd, 1854. Nid ymddengys iddo fod yn y weinidogaeth oddiar y pryd hwnw. Mae tymhor gweinidogaeth Mr. Barfield yn hynod yn hanes yr eglwys hon, am mai dyma y pryd yr adeiladwyd y capel prydferth sydd ganddi yn bresenol. Yr oedd Hope Chapel, lle yr oedd yr eglwys wedi bod yn ymgynnull oddiar ei ffurfiad, er ei fod yn agos i'r brif heol yn y dref, etto yn lled annghyfleus, o herwydd ei fod tu cefn i'r tai, yn hollol o'r golwg, a'r ffordd ato trwy fynedfa hir gul. Yr oedd hefyd yn rhy fychan i gynwys cynnulleidfa mewn tref fel Casnewydd. Felly, ar ol llawer o gydymgynghori, cydunwyd i adeiladu capel newydd mewn man mwy ysgafn ac amlwg na'r hen gapel. Cafwyd darn o dir cyfleus yn Great Dock Street, mewn lle glan ac agored, ond prin y gallwn ganfod y doethineb o adeiladu addoldy mor gostus ar dir heb fwy na 54 o flynyddau o amser arno. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd gan Mr. Joseph Corsbie, un o'r diaconiaid, yr hwn ei hun a roddasai 700p. at y draul, Gorphenaf 9fed, 1850, ac agorwyd ef dydd Gwener, Rhagfyr 5ed, 1851, pryd y pregethwyd yn y bore gan Dr. John Harries, Llundain, ac yn yr hwyr gan Mr. Tyndall, Rhydychain. Y Sabboth canlynol pregethodd Dr. Stowell, o goleg Cheshunt, fore a hwyr. Holl draul yr adeiladaeth, a chynwys y cyfnewidiadau a wnaed ynddo ar ol ei agoriad, yn nghyd a'r llôg a dalwyd tra y bu dyled yn aros, ydoedd 3891p. 5s. 10c., a thalwyd y cwbl cyn dechreu y flwyddyn 1862.

Yn fuan ar ol ymadawiad Mr. Barfield, rhoddwyd galwad i Mr. Frederick Pollard, o Saffron Walden, a dechreuodd ei weinidogaeth yma Medi 24ain, 1854. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Pollard, cynyddodd y gynnulleidfa yn fawr, ac ychwanegwyd amryw at yr eglwys. Nid hir y bu Mr. Pollard yma cyn i fesur o oerni fyned rhyngddo a'r diaconiaid. Er na fu yma unrhyw derfysg o'r dechreu i'r diwedd, terfynodd y diflasdod rhyngddynt yn ymadawiad Mr. Pollard, a thri ar ddeg ar hugain o'r aelodau gydag ef, i ddechreu achos newydd yn y dref. Cymerodd hyn le Rhagfyr 20fed, 1857. Daw yr achos a ddechreuwyd y pryd hwn gan Mr. Pollard dan ein sylw etto.

Y gweinidog nesaf yn Dock Street oedd Mr. Alexander McAuslane, o Dunfermline, Scotland. Dechreuodd ef ei weinidogaeth Medi 5ed, 1858. Enillodd Mr. McAuslane sylw y dref yn ddioed. Yr oedd ei weinidogaeth yn nodedig o boblogaidd a llwyddianus tra y bu yma. Bu galwad yn fuan am wneyd cyfnewidiadau y tu fewn i'r addoldy, er cael ychwaneg o eisteddleoedd. Yn Ionawr 1862, hysbysodd Mr. McAuslane ei fwriad i ymadael, i gymeryd gofal yr eglwys yn Finsbury Chapel, Llundain, ac ymadawodd Chwefror 11eg, er galar mawr i'r eglwys a'r gwrandawyr, a holl Ymneillduwyr y dref a'r gymydogaeth. Dyn o ysbryd cyhoedd, llawn sirioldeb a gweithgarwch ydyw, ac yr oedd ei ymadawiad yn golled i'r sir yn gyffredinol.

Dilynwyd Mr. McAuslane gan Mr. John H. Lochore, o Paisley, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma Medi 7fed, 1862. Bendithiwyd llafur Mr. Lochore a llwyddiant anghyffredin, fel yr oedd nifer y cymunwyr agos yn gymaint arall, ar derfyniad y drydedd flwyddyn o'i weinidogaeth, ag ydoedd ar y dechreu. Yn y flwyddyn 1867, gorfodwyd Mr. Lochore i roddi y weinidogaeth i fyny, gan gystudd blin iawn. Cymaint oedd serch yr eglwys a'r gynnulleidfa ato, fel y cyfranasant o dri i bedwar cant o bunau at dysteb iddo ar ei ymadawiad. Wedi cael ychydig dros flwyddyn o orphwysiad, adferodd ei iechyd i'r fath raddau fel yr ymgymerodd a'r weinidogaeth drachefn yn Llanelli, sir Gaerfyrddin.

Yn y flwyddyn 1869, rhoddwyd galwad i Mr. J. Kennedy, o Croydon, gerllaw Llundain, ac efe yw y gweinidog yma yn awr. Mae pob arwyddion yn bresenol y bydd Mr. Kennedy yn gysurus a llwyddianus yn y cylch pwysig hwn. Mae pob argoel hefyd ei fod yn ddyn gweithgar ac o ysbryd cyhoedd, ac felly nis gall lai na chael ei hoffi gan ei frodyr yn y weinidogaeth. Fel hyn yr ydym wedi olrain hanes yr eglwys o'i chychwyniad hyd yn bresenol. I hanes cyflawn o'r achos, yn llawysgrifen Thomas Jones, Ysw., un o'r diaconiaid, yr ydym yn ddyledus am y ffeithiau uchod.

Er nad oes ond 55 o flynyddau er pan ffurfiwyd yr eglwys hon, y mae yn awr dan ofal y nawfed gweinidog. Nis gwyddom yn iawn pa fodd i gyfrif am y cyfnewidiadau mynych hyn yn y weinidogaeth. Dichon mai y prif reswm ydyw fod yr eglwys ar ei chychwyniad wedi cael ei breintio a gwasanaeth un o'r gweinidogion uwchaf eu safle yn yr enwad, a'i bod o hyny allan yn awyddu am gael gwasanaeth gweinidogion o safle a thalentau uwch nag y mae pwysigrwydd y cylch a swm y gyflog yn ei deilyngu. Pa fodd bynag, anfantais i achos yw newid gweinidogion yn fynych, ac wrth ystyried mor aml y bu y cyfnewidiadau yma, mae yn syndod fod yr achos wedi myned rhagddo mor rhagorol. Mae yr aelodau yn bresenol yn rhifo tua dau gant neu ychwaneg, ac yn eu mysg amryw ddynion galluog ac o safle gymdeithasol barchus.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

JENKIN LEWIS, D.D. Ganwyd ef yn y Brithdir Uchaf, plwyf Gelligaer, Morganwg, Awst 12fed, 1760. Yr oedd ei rieni, Malachi a Cecilia Lewis, yn aelodau yn hen gapel Cefncoedycymer, Merthyr; y pryd hwnw dan ofal gweinidogaethol Mr. Phillip Charles. Er fod Mr. Charles, a'r rhan fwyaf, os nad pawb o'i eglwys, yn gogwyddo yn fawr at Arminiaeth, yr oedd yn eu mysg amryw ddynion gwir grefyddol, y rhai yr oedd eu Harminiaeth hyd etto heb sychu i fyny eu teimladau crefyddol a'u difrifoldeb Puritanaidd. Rhai felly, fel yr ymddengys, oedd rhieni Jenkin Lewis. Yr oeddynt yn selog dros grefydd deuluaidd, a byddai eu tri mab, o ba rai Jenkin oedd yr henaf, bob un yn ei dro yn gweddio yn y ddyledswydd deuluaidd. Ar ol bod rai blynyddau mewn ysgol yn Merthyr, lle y dechreuodd ddysgu Lladin a Groeg, aeth Jenkin Lewis pan yn ddwy-ar-bymtheg oed i'r athrofa Annibynol i Abergavenny, ar draul ei rieni. Nid hir y bu yno heb deimlo tuedd i fyned yn fyfyriwr rheolaidd i'r sefydliad, ond yr oedd ei olygiadau Arminaidd yn rhwystr iddo gael ei dderbyn, o herwydd fod y Bwrdd Cynnulleidfaol yn gofyn cyffes ffydd gan bob myfyriwr a dderbynid. Wedi dyweyd ei ofid meddyliol wrth rai o'i gydfyfyrwyr, yn enwedig Mr. B. Jones, wedi hyny o Bwllheli, ac wrth ei athraw hynaws, Dr. B. Davies, symudwyd o'i feddwl bob gwrthddadl yn erbyn Calfiniaeth, a chymeradwy wyd ef i sylw y Bwrdd Cynnulleidfaol. Cymeradwyid ei achos gan ei weinidog, Mr. P. Charles, a dau o ddiaconiaid yr eglwys, a chan Mr. Phillip Dafydd, Penmain, a Mr. Thomas Davies, Hanover, fel gweinidogion adnabyddus o'r gwr ieuangc. Derbyniwyd ef i'r athrofa yn Mawrth 1778. Ymroddodd a'i holl egni i fyfyrio tra y bu yn yr athrofa, ac ennillodd iddo ei hun air da ei athraw a phawb o'i gydfyfyrwyr. Tua phum' mis cyn fod ei amser yn yr athrofa i fyny, rhoddodd ei athraw ei swydd i fyny, ar ei symudiad i goleg Homerton. Dewiswyd Dr. E. Williams yn ganlyniedydd iddo, ond gan na symudai y Dr. o Groesoswallt, bu raid symud y sefydliad o Abergavenny i gartrefle yr athraw. Trwy gymellion taer llwyddodd y Dr. i gael gan Mr. Lewis fyned i Groesoswallt i fod yn is-athraw, fel y buasai yn flaenorol yn Abergavenny. Aeth yno yn Mehefin 1782, a bu yno hyd Tachwedd 1783, pryd y cydsyniodd a galwad oddi-wrth eglwys yn Wrexham. Ar ol bod yno yn pregethu ar brawf am flwyddyn, urddwyd ef Tachwedd 3ydd, 1784. Yr oedd y Meistriaid Scott, o Drayton; Armitage, o Gaer; Williams, o Groesoswallt; Lloyd, o Ddinbych; a Jones, o Bwllheli, yn gweinyddu yn yr urddiad. Parhaodd yn weinidog parchus yn yr eglwys hono hyd ei symudiad i Manchester yn Hydref 1811.

Wrth ysgrifenu at y Bwrdd Cynnulleidfaol, i roddi ei swydd i fyny fel athraw, yn Medi 1791, dywed Dr. Williams, "Yr wyf wedi gwneyd fy meddwl i fyny, yn gymaint ag i'r sefydliad gael ei symud i'r lle hwn ar fy nghais i, na bydd i mi roddi fy swydd i fyny nes y byddo golwg am ganlyniedydd i mi; ac os tueddir y Bwrdd i ofyn am wasanaeth y person sydd mewn golwg genyf fi, y mae genyf sail i gredu fod ei amgylchiadau ef y fath (os na rwystrir ef gan ei wyleidd-dra) fel y gall symud o'i gylch presenol. Y mae yn ddyn o oed a safle briodol yn y weinidogaeth; ac y mae wedi bod o'r blaen yn is-athraw yn Abergavenny a Chroesoswallt; nid oes ganddo deulu, ond gwraig yn unig; y mae o gymmeriad difai; ac mewn parch cyffredinol fel gweinidog cristionogol. Y boneddwr yr wyf yn cyfeirio ato yw y parchedig Mr. Jenkin Lewis o Wrexham." Mewn canlyniad i'r awgrymiad hwn oddiwrth Dr. Williams, ysgrifenodd y Bwrdd at Mr. Lewis, i gynyg y swydd iddo, a chydsyniodd yntau a'r cais ar y 14eg o Ragfyr 1791. Gan nad oedd ef yn ymdeimlo ag ymadael a'i eglwys yn Wrexham, i gymeryd gofal yr eglwys yn Nghroesoswallt, symudwyd yr athrofa o Groesoswallt yno yn 1792; a chyflawnodd yntau ddyledswyddau ei swydd, fel llywydd ac athraw y sefydliad, er boddlonrwydd hollol i bawb, am yr yspaid o ugain mlynedd. Dygwyd i fyny dan ei ofal yn y tymhor hwnw amryw o weinidogion enwocaf Cymru a Lloegr.

Yn y flwyddyn 1811, gwnaed cynygiad i sefydlu athrofa yn Leaf Square, Manchester, a chymerodd Mr. Lewis ei berswadio i roddi i fyny ei waith fel gweinidog ac athraw yn Wrexham, ac ymgymeryd a llywyddiaeth yr athrofa hono. Ei unig reswm dros ymadael o Wrexham ydoedd, nad oedd mor llwyddianus yn y weinidogaeth ag y dymunasai. Ond siomwyd ef yn ei ddisgwyliadau yn Manchester. Methodd yr athrofa yno a llwyddo, a thorwyd hi i fyny. Y pryd hwnw bu yr eglwys yn New Windsor, Manchester, yn daer iawn am iddo dderbyn galwad oddiwrthi, a bu ei hen eglwys yn Wrexham yn deisyf arno ddychwelyd yno, ond gwrthododd y ddau gynygiad, a derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys ieuangc yn Hope Chapel, Casnewydd. Symudodd yno, fel y gwelsom yn nechreu y flwyddyn 1815. Tua'r flwyddyn 1821, bu yr Arglwyddes Barham yn daer am iddo ymgymeryd ag arolygiaeth yr achosion Saesonaeg a gychwynasid ganddi hi yn Mrowyr, Morganwg, ond tueddwyd ef gan daerni ei bobl yn y Casnewydd i aros gyda hwy, ac felly y gwnaeth nes iddo gael galwad i wlad well. Cafodd ergyd ysgafn o'r parlys tua deng mlynedd cyn ei farwolaeth, ond nid effeithiodd ddim ar ei lafar. Parhaodd i bregethu yn fuddiol ac effeithiol iawn hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth, a dywedir fod ei bregethau yr wythnosau olaf o'i fywyd yn fwy toddedig a nefolaidd nag arferol. Ei destyn diweddaf oedd 1 Cron. xvii. 21., pregethodd oddiwrth y testyn hwnw nos Sul, Gorphenaf 24ain, 1831, yn anghyffredin o felus ac effeithiol. Bu yn fywiog iawn yn y cyfarfod gweddi nos dranoeth, a dydd Mawrth, bu mewn cyfeillach grefyddol gyda nifer o gyfeillion Cymreig. Aeth i'w wely y nos hono, ac ni chyfododd mwyach. Bernir iddo gael ergyd o'r apoplexy; ond ni chafodd un effaith ar ei synwyrau na'i lafar. Y Sul olaf y bu fyw, yr oedd ei gyfaill Mr. Davies, Penywaun, yn llenwi ei bwlpud. Aeth Mr. Davies rhwng y ddwy oedfa i'w weled, a phan ofynodd iddo pa fodd yr ydoedd, atebodd, "Nid wyf yn teimlo un poen yn fy nghorff, ac y mae fy meddwl yn berffaith dawel." "Mac yr Arglwydd yn dda iawn i chwi, Syr," ebe Mr. Davies; atebodd yntau, gyda phwyslais nodedig o effeithiol, "Ydyw, mae yr Arglwydd wedi bod yn dda iawn i mi, mae yr Arglwydd yn dda iawn i mi, ac fe fydd yr Arglwydd yn dda iawn i mi dros byth." Bu farw yn y teimlad nefolaidd hwn bore dydd Iau, Awst 11eg, 1881, yn 71 oed, a chladdwyd ef yn mynwent hen gapel Heol-y-felin. Y Sabboth, Awst 28ain, pregethodd ei hen gyfaill, Mr. Roberts, Llanbrynmair, ei bregeth angladdol i dorf fawr a galarus, oddiwrth Psalm cxvi. 15. Yr oedd Jenkin Lewis o ddechreuad ei fywyd cyhoeddus hyd ddydd ei farwolaeth yn sefyll yn uchel iawn yn ngolwg pawb o'i gydnabod. Mae yn ymddangos ei fod yn ddyn hynod o wylaidd ac addfwyn ei dymer, a nodedig o foneddigaidd yn ei ymddygiad at foneddig a gwreng.

Buom yn siarad a degau o ddynion a'i hadwaenent yn dda, ac ni ddygwyddodd i ni gyfarfod a neb nad oedd yn rhoddi gair da iddo. Yr oedd wedi gwneyd y defnydd goreu o'i amser yn yr ysgolion a'r athrofa, fel yr oedd yn ysgolhaig da; cyfrifid ef hefyd yn bregethwr cyflawn a difai; ac yr oedd ei dduwioldeb yn cael ei gydnabod gan bawb; ac mewn ychwanegiad at y pethau anhebgorol a gwerthfawr hyn, yr oedd rhywbeth yn ei ymddangosiad a'i ddull o ymddwyn, pa le bynag yr elai, yn gorfodi dynion o bob sefyllfa a chymmeriad i'w barchu.

Tua chwe' mis cyn ei farwolaeth derbyniodd y teitl o Athraw Duwinyddiaeth, o un o brif athrofau America. O herwydd ei wyleidd-dra gwaharddai ei gyfeillion i'w gyfarch fel doctor, ond ni bu neb erioed yn gwisgo y teitl hwnw oedd yn addasach i'w wisgo nag ef.

Bu Dr. Lewis yn briod ddwy waith. Ei wraig gyntaf oedd Miss Jones, o Goedyglyn, gerllaw Wrexham, yr hon a briododd Ebrill 24ain, 1785, ac a fu farw Mawrth 15fed, 1802. Ei ail wraig oedd Mrs. Armitage, gweddw Mr. W. Armitage, gweinidog Annibynol yn Nghaerlleon Gawr. Priododd hi ynTachwedd 1803, a bu farw Ionawr 21ain, 1818. Ni bu iddo blant o un o'i wragedd.

Ni ddeallasom fod Dr. Lewis, fel Mr. Thomas, Penmain, a rhai eraill o'i gydoeswyr, yn nodedig am ffraethineb ei attebion, ond clywsom un hanesyn am dano sydd yn werth ei gofnodi. Yr oedd amryw o'r hen grefyddwyr, yn ei oes ef, yn barnu mai rhyw fath o foethau meddyliol i ddynion y byd oedd papurau newyddion, ac nad oedd yn gweddu i broffeswyr crefydd eu darllen o gwbl. Un prydnawn daeth gwr o'r syniad hwnw i dŷ Dr. Lewis, a chafodd ef yn darllen ei bapur newydd. "Beth, Mr. Lewis!" ebe fe, "Ai darllen y papur newydd yr ydych chwi?" "Ie," ebe yntau, "yr wyf am wybod pa fodd y mae fy Nhad yn llywodraethu y byd."

BENJAMIN BYRON.Ganwyd ef yn y flwyddyn 1790, ond nis gwyddom yn mha le, ac y mae hanes boreu ei oes yn gwbl anhysbys i ni. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Hoxton, Llundain, a dechreuodd ei fywyd gweinidogaethol yn Lincoln, lle yr urddwyd ef tua y flwyddyn 1821. Yn 1831 symudodd oddiyno i'r Casnewydd, a bu farw yno, Mawrth 2il, 1841.

Yn ol tystiolaeth y rhai a'i hadwaenai, yr oedd Mr. Byron yn ddyn nodedig o gywir a diddichell. Yr oedd ei onestrwydd uwchlaw drwgdybiaeth, ond dichon y buasai mwy o fwyneidd-dra ac arafwch yn fanteisiol iddo rai prydiau. Yr oedd ei sel dros ryddid gwladol a chrefyddol, o bosibl, yn ei gario i eithafion weithiau. Fel y nodasom yn barod, bu ei frwdfrydedd fel gwleidiadwr (politician), yn mron a'i arwain i ofid yn amser y cyffroad Siartiaidd. Yr oedd yn bregethwr eglur a galluog iawn, ac ar amserau yn nodedig o hyawdl. Yr oedd ganddo ddylanwad diderfyn dros y rhai a'i hadwaenai yn drwyadl, ac a ddeallent ei gymmeriad. Ystyriai pobl ei ofal iddynt gael colled ddirfawr yn ei farwolaeth.

THOMAS PARRY. Ganwyd ef yn Abergele, yn sir Ddinbych, yn y flwyddyn 1811. Nid oedd un eglwys Annibynol yn Abergele y pryd hwnw, nac am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain ar ol hyny; ac nid ydym wedi cael allan pa fodd y gogwyddwyd meddwl Thomas Parry at yr Annibynwyr; ond y mae genym sicrwydd y byddai ef a'i frawd ieuangach John Lewis Parry, yr hwn wedi hyny a urddwyd yn weinidog yn East Cowes, yn arfer myned bob Sabboth i Moelfro i fwynhau gweinidogaeth Mr. Thomas Jones. Nid oedd y ddau ond egwan ac ciddil o gyrff, ac etto gwelid hwy bob Sabboth yn yr addoliad yn brydlawn, er fod ganddynt rai milldiroedd o ffordd a hono dros le uchel ac ystormus yn y gauaf. Dechreuodd Thomas Parry bregethu yn ieuangc, a phregethodd lawer yn Llansantsior, a Moelfro, a Cholwyn, a lleoedd eraill, a byddai ei frawd John yn myned gydag ef, ac yn dechreu yr oedfaon iddo. Derbyniodd ei addysg yn athrofa Wymondley, Coward College wedi hyny; ac ar derfyniad ei amser yno yn 1836, derbyniodd alwad o Blackburn, lle yr urddwyd ef. Gan ei fod yn wan ei gyfansoddiad, a'i iechyd yn anmharus, barnodd ei feddygon mai gwell fuasai iddo ddychwelyd i awyr ei wlad enedigol; a chan fod capel cynnulleidfaol Saesonaeg wedi ei godi yn Rhuthin; ond a elwid yn Eglwys Rydd, derbyniodd alwad oddiyno, a symudodd i gapel Brynhyfryd, Rhuthin, yn 1839. Yn ystod arosiad Mr. Parry yn Rhuthin, cyhoeddodd Mr. Lewis Edwards, M.A., Bala, (Dr. Edwards yn awr), ei.draethawd ar Natur eglwys, yr hwn oedd y cynyg cyntaf a wnaed trwy y wasg Gymreig i amddiffyn Henaduriaeth fel ffurflywodraeth eglwysig. Cyhoeddodd Mr. Parry attebiad iddo, ac y mae yn sicr genym fod pawb a'i darllenodd neu a'i darllena yn sicr o edmygu tegwch a boneddigeiddrwydd yr ysgrifenydd, beth bynag a all eu barn fod am gywirdeb y golygiadau a amddiffyna. Nid rhyw lawer o lwyddiant a fu ar ei weinidogaeth yn Rhuthin; ac nis gallesid disgwyl llawer. Tref fechan Gymreig ydyw; ac nid oedd Mr. Parry yn feddianol ar ddawn i swyno y lluaws, pe buasai yno luaws o Saeson i'w swyno; ond dichon fod y rhwystr mwyaf yn cyfodi oddiar fod y llywodraeth yn hollol yn llaw un dyn cyfoethog, yr hwn a gododd ac a ddaliai ei afael yn y capel. Ac nid yw eglwys gynnulleidfaol byth yn llwyddo heb i'r holl bobl gael llais yn ei gweithrediadau. Symudodd Mr. Parry oddiyno i Manchester, lle y llafuriodd dros ychydig mewn gwendid mawr, yna derbyniodd alwad o Casnewydd, lle y dechreuodd ei weinidogaeth Gorphenaf 1842. Nid oedd yn meddu digon o'r elfen boblogaidd i le gwerinol fel Casnewydd. Yn ei hanes ysgrifenedig o eglwys Dock Street, dywed Mr. Thomas Jones, "Yr oedd Mr. Parry yn ysgolhaig enwog; buasai yn llenwi cadair proffeswr mewn athrofa yn gampus, ond fel pregethwr i gynnulleidfa gyffredin nid oedd yn unwedd yn effeithiol." Pan yr achwynai rywun with Dr. McHall, o Manchester, arno fel pregethwr; methodd y Doctor a goddef, a dywedodd fod Mr. Parry yn un o'r meddylwyr galluocaf a fagodd Lloegr erioed; ac y mae y rhai a gafodd y fantais i'w adnabod yn barod i ddyweyd "y dystiolaeth hon sydd wir."

Symudodd o'r Casnewydd i Dover yn Chwef. 1844, ond ni bu ei dymhor yno ond byr iawn. Bu farw Mehefin 15fed, 1844, yn 33 oed. Dyn nodedig o siriol ac anwyl ydoedd, a diau pe cawsai fyw a mwynhau iechyd y cyrhaeddasai safle uchel yn yr enwad; ond "ei haul a fachludodd a hi yn ddydd."

Nodiadau golygu