Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Ebenezer, Maesaleg
← Salem, Trelyn | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Saron, Penycae → |
EBENEZER, MAESALEG
Trwy lafur Mr. John Armitage, o'r Casnewydd, yr adeiladwyd y capel, ac y dechreuwyd achos Annibynol yn y lle hwn. Capel bychan iawn, heb un oriel ynddo, oedd y capel cyntaf yma. Adeiladwyd ef yn 1831, a chafodd ei agor yn Chwefror 1832, pryd y pregethodd Mr. B. Byron, Casnewydd. Amcenid ef i fod yn achos Saesonaeg, a Sais, hollol anwybodus o'r Gymraeg, oedd Mr. Armitage, y gweinidog cyntaf. Ar ol tua dwy flynedd o brawf, gwelodd Mr. Armitage nad oedd un argoel iddo lwyddo i sefydlu achos Saesonaeg yn y lle, ac felly rhoddodd y capel i fyny i'r Annibynwyr Cymreig ar yr amod iddynt dalu iddo ef 25p., sef y gweddill o'r ddyled oedd yn aros arno. Cafodd yr eglwys Gymreig ei chorffoli yn Chwefror 1834. Ychydig oedd nifer yr aelodau, ond yr oeddynt yn rhai gweithgar a gwresog iawn. Yr ail ddydd o Ragfyr 1835, urddwyd Mr. Thomas Evans, aelod o eglwys Rehoboth, Brynmawr, yn weinidog yma. Bu yma am rai blynyddau yn llafurus ac i raddau yn llwyddianus. Ailadeiladodd a helaethodd y capel, ond yn mhen amser, aeth pethau yn annymunol rhyngddo a'r bobl, a bu yr achos ar gael ei lwyr ladd. Wedi cael meddiant o'r capel o afael Mr. Evans, gwellhaodd pethau drachefn. Ar ol hyn bu yr achos am rai blynyddau dan ofal unol Mr. Harries, o'r Morfa, a Mr. Griffiths, Casnewydd. Ebrill 24ain, 1860, cafodd Mr. Thomas Rowlands ei urddo yma, ond cyn pen tair blynedd pallodd ei iechyd, fel y bu raid iddo roddi ei swydd i fynu. Wedi ymadawiad Mr. Rowlands, bu y lle am ychydig dan ofal Mr. Ridge, gynt o Cendl. Gorfodwyd yntau gan lesgedd i roddi ei swydd i fyny, ac er y pryd hwnw y mae y ddeadell fechan yn ymddibynu ar weinidogion a phregethwyr cynnorthwyol am weinidogaeth. Mae y gwasanaeth er's dros ddeng mlynedd bellach wedi ei droi yn hollol Saesonig.
Yr oedd Mr. John Armitage, sylfaenydd yr achos hwn, yn fab i Mr. William Armitage, gweinidog enwog yn Nghaerlleongawr, ac yn llys-fab i Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd. Nid oedd ei ddoniau fel pregethwr ond cyffredin iawn, ond yr oedd yn ddyn da a gweithgar rhyfeddol, a bu o wasanaeth mawr i achos yr Annibynwyr yn Mynwy mewn amryw ffyrdd. Y mae wedi marw er's yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Am Mr. Thomas Evans, ei ganlyniedydd, yr ydym yn barnu mai y caredigrwydd mwyaf ag ef fyddai peidio ysgrifenu hanes ei fywyd.