Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Llwyngwril
← Aberdyfi | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Horeb, Arthog → |
LLWYNGWRIL.
Mae enw y lle bychan hwn yn adnabyddus iawn yn Nghymru, yn nglyn a'r hen bregethwr parchus Richard Jones, Llwyngwril, ac y mae hanes cychwyniad yr achos yma yn gymhlethedig a'i hanes personol ef. Yr oedd Richard Jones wedi bod yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond oblegid i'w frawd William wneyd rhywbeth, fel y tybid, yn galw am gerydd, tramgwyddodd y teulu ac ymadawsant a'r enwad. Dywed Lewis Morris, yr hwn oedd yn adwaen Richard Jones o'i febyd, nad oedd dim amgen na da i'w ddyweyd am dano, ond iddo deimlo oblegid y tybiai fod ei frawd yn cael cam. Ar ol hyn gwahoddodd Richard Jones Mr. H. Pugh, o'r Brithdir, i ddyfod yma i bregethu, a dyna gychwyniad yr achos yn y lle. Ffurfiwyd yma eglwys yn y flwyddyn 1805, a chadwyd y cymundeb cyntaf gan Mr. W. Hughes, Dinas. Nid oedd nifer y rhai a ymunent ond chwech, ac yr oedd Richard Jones, a Lewis Evans, Bwlchgwyn, a'i wraig, (tad a mam Mr. Evans, Llangollen,) yn eu plith. Daeth Lewis Pugh, Llanwrin yma i gadw ysgol yn fuan, a bu hyny yn gynorthwy i'r achos yn ei wendid. Ar sefydliad Mr. James Griffith yn weinidog yn Machynlleth, cymerodd ef ofal y gangen fechan yma, ac yn ei amser ef yn 1810, y codwyd yma gapel bychan. Nid oedd ganddynt hyd yn hyn ond ystafell wael at addoli. Bu y lle yma wedi hyny dan yr un weinidogaeth a'r Towyn yn amser Mr. Morgan a Mr. Lloyd, ond pan y gwelodd Mr. Lloyd fod y maes yn rhy eang iddo, unodd Llwyngwril, Llanegryn, a Llanfihangel i roddi galwad i Mr. Evan Griffith, yr hwn a urddwyd Ionawr 3ydd, 1836, a bu yma hyd nes y penderfynodd ymfudo i America. Dilynwyd ef gan Mr. John Owen, ac wedi hyny, gan Mr. Robert P. Jones, ac yn nhymor gweinidogaeth yr olaf a enwyd, addrefnwyd a phrydferthwyd y capel, fel y mae yn awr yn wahanol iawn i'r peth y gwelwyd ef. Rhoddodd Mr. Jones y lle i fyny yn ddiweddar, gan anog yr eglwys yma i uno ag Arthog i gael gweinidog iddynt eu hunain, a rhoddwyd galwad i Mr. Peter Davies, myfyriwr o athrofa y Bala, yr hwn a urddwyd Mai 9fed, 1871. Ni bu yr achos yma erioed yn gryf, ond y mae cryn dipyn o adfywiad wedi bod ar fasnach, a chynydd ar y boblogaeth yma wedi agoriad y ffordd haiarn, ac nid yw hyny wedi bod yn anfantais i'r achos. Bu teulu Bwlchgwyn yn gefn cryf i'r achos yma am flynyddau lawer, ac er fod ganddynt bedair milldir o ffordd, anaml y byddai cyfarfod yn y capel heb rai o'r teulu ynddo. Yr oedd Richard Jones yn gynorthwy mawr i'r achos yma yn y cyfeillachau crefyddol cyn iddo ddechreu teithio y wlad i efengylu, ond ar ol hyny nis gallesid dibynu arno, oblegid mai anfynych y byddai gartref. Bu Mr. H. Pugh, o Fostyn yma yn cadw ysgol pan yn ieuangc, ac oddiyma yr aeth i Bethel i gadw ysgol, ac i weinidogaethu, lle y llafuriodd am un-mlynedd-ar-ddeg.
RICHARD JONES, hyd y gwyddom, oedd yr unig un a godwyd yma i bregethu. Ganwyd ef yn y gymydogaeth yma, ac yr oedd ei rieni John a Gaynor Williams yn byw mewn tyddyn a elwir Tydu, ac fel Richard Jones, Tydu, yr adnabyddid ef yn ei wlad. Yr oedd rhyw hynodrwydd ynddo er yn fachgen, ond yr oedd yn hynod o anfedrus yn mhob gorchwyl yr ymaflai ynddo. Ni bu dyn erioed yn fwy dielfydd at bob gwaith. Gosodwyd ef gyda'i frawd i ddysgu bod yn grydd, a bu yn dilyn yr alwedigaeth hono am flynyddau, ac yn mynychu ffeiriau i werthu yr esgidiau a wnai, y rhai a gyfrifid yn wastad y rhai salaf ar y farchnad. Ond yr oedd gallu o fath arall yn Richard Jones—mewn egluro yr Ysgrythyrau—mewn cynghori a gweddïo mewn cyfeillachau a chyfarfodydd—ac mewn cof i ddal y pregethau a wrandawai, a medr i'w hadrodd, rhagorai ar ei holl gymydogion. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1817, ac o hyny allan, i bregethu y cwbl ymroddodd. Yr oedd wedi darllen pob llyfr Cymraeg a ddaeth i'w gyrhaedd, yn enwedig llyfrau Ysgrythyrol a duwinyddol, ac yr oedd yn mynu deall yr hyn a ddarllenai. Y pyngciau hyn fyddai prif destynau ei ymddiddanion lle bynag yr elai. Ni bu yr un pregethwr teithiol erioed yn Nghymru yn ymyraeth llai a materion rhai eraill, ac ofer hollol fuasai i neb ei holi gan ddisgwyl gwrachiaidd chwedlau ganddo. Nid angel newyddion drwg ydoedd yn myned trwy y wlad, ond un "yn efengylu pethau daionus." Yr oedd wedi myfyrio y "system newydd," fel ei gelwid, yn dda, a byddai yn wastad yn prophwydo yn ol "cysondeb y ffydd." Yr oedd ei dafod yn floesg, fel na allasai swnio rhai llythyrenau yn gywir, ac yr oedd hyny weithiau yn peri digrifwch mawr i rai pobl ysgafn a chellweirus. Ni theimlasom ni erioed wrth ei wrandaw fod ei dafod mor floesg ag y darlunir ef gan rai sydd yn ei adrodd, ond dichon fod hyny yn cyfodi oddiar fod ei bethau yn ein boddio mor fawr. Yr oedd ei bregethau yn llawn o feddwl, ac wedi eu parotoi yn gryno, a threfnus, gyda detholiad o eiriau chwaethus, ac ambell air digrifol ar brydiau. Traddodai yn fywiog a chyflym, ac yr oedd rhyw oslef dyner, swynol yn ei lais, ac erioed ni chwynwyd ei fod yn blino ei wrandawyr a meithder. Gan mai fel pregethwr teithiol y daeth Richard Jones yn adnabyddus i eglwysi Cymru, rhoddwn y difyniadau canlynol o'r benod ar ei gymeriad fel y cyfryw, yn y cofiant dyddorol iddo, a gyhoeddwyd gan ei hen gyfaill, Mr E. Evans, Llangollen. "Cyn cychwyn i'w daith, efe a ragofalai yn eithaf prydlawn am bod angenrheidiau iddi. Astudiai a chyfansoddai nifer digonol o bregethau, gan eu trysori yn dda yn ei gof mawr, ac yn gyffredin efe a'u traddodai yn gyntaf gartref, fel y byddent yn ddyfnach yn ei feddwl, ac yn rhwyddach ar ei dafod. Byddai yn lled hoff o'u traddodi cyn cychwyn mewn pentref bychan tlawd o'r enw Y Friog, o fewn dwy filldir i Lwyngwril, hen boblach druain na byddent yn myned i addoliad ond anfynych. Gofalai am wisg addas erbyn diwrnod y cychwyn, er na pharhraai hono ond ychydig yn ei harddwch. Gofalai hefyd am dynu cynllun o'i daith, ac anfon ei gyhoeddiadau i'w priodol leoedd. Ar y dydd penodol, dacw ef yn cychwyn i'w ffordd, a'i got fawr dan ei gesail, a'i ffon yn ei law, a chan sythed a phe buasai wedi bod yn sawdwr am ugain mlynedd, ac mor heinyf ar ei droed a llangc. Nid oedd ganddo na gwraig na phlant i ysbio yn hiraethlawn ar ei ol, nac achos bydol i'w ymddiried i ofal neb. Cyrhaeddai ben ei daith yn brydlawn a chysurus, ni chyhuddid of un amser o fod yn hwyr yn dyfod at ei gyhoeddiad. Ar ol cael ei luniaeth, eisteddai yn nghongl yr aelwyd gyda'r fath sirioldeb a boddlonrwydd meddwl, fel pe na wybuasai am ddim gofid yn ei oes, oddieithr, fe allai, y buasai wedi bod yn rhedeg y diwrnod hwnw am ei fywyd rhag ryw fuwch, gan dybied mai tarw ydoedd. Difyrai ei hun a rhagfyfyrdod ar y bregeth a fwriadai ei thraddodi. Mynai sicrwydd am yr amser y cyhoeddid fod y moddion i ddechreu. A phan y tybiai fod yr amser hwnw yn agosau, taflai ei olwg yn awr ac eilwaith ar yr awrlais, a phan ddeallai ei bod yn amser priodol gychwyn, dyma ef ar ei draed, ac ymaith ag ef. Aroswch, Richard Jones, aroswch dipyn etto, eisteddwch, y mae yn ddigon buan, ni ddaw yma ddim pobl y rhawg etto." Dyma fi yn myn'd,' meddai yntau, 'dewch chwi amther a fynoch chwi, dechddau 'naf fi yn yr amther.' Ofer fyddai ei berswadio aros wrth undyn - ffwrdd ag ef yn ddiymdroi. Wedi myned o hono i'r addoldy, eisteddai ronyn bach i gael ei anadl, oblegid yr oedd yn wr tew a chorphol. Codai ei' olwg ar yr areithfa, ac os digwyddai ei bod yn lled uchel, dywedai, "Daf fi ddim yna, ni dda gen i mo'dd pulpudau uchel yma, rhyw felldith ydyn' nhw; mae dynion yn gwiddioni wrth wneyd capeli - bydd fy mhen i yn tyddoi ynddyn' nhw, wfft iddynt. Tyr'd fachgian, ceithia y blocyn yna i mi dan fy nhraed."Dyna fo, Richard Jones.' Yna efe a safai arno a'r Bibl ar y bwrdd o'i flaen. Agorai ef, nid ar antur, eithr ar ryw fan benodol ynddo a ragfwriadasai efe ddarllen. Darllenai y benod neu y Salm gan ei hesbonio wrth fyned yn mlaen. Addefir mai darllenydd go anghelfydd ydoedd, fel y buasai yn hawdd blant yr Ysgol Sabbothol ganfod ei wallau yn hyn, a mynych y gwelid bechgyn ieuangc yn cilwenu ar eu gilydd wrth ei glywed yn darllen. Ond os nad oedd efe yn gampus am ddarllen, edryched pawb ati pan elai esbonio, oblegid buan iawn yr anghofid ei ffaeleddau yn darllen, gan eglurdeb a gwerth ei esboniad ar Air Duw. Pwy bynag ni byddai yno yn nechreu y cyfarfod, byddai yn dra sicr o fod yn golledwr, canys yr oedd cymaint o adeiladaeth yn fynych i'w gael yn ei esboniad ef ar yr hyn a ddarllenai, ac a geid yn ei bregeth. Ar ol myned trwy hyn, rhoddai benill allan. Ac os digwyddai na byddai y canwr yno yn brydlawn at ei waith, hwyliai ef y mesur ei hunan. Ar ol diweddiad y mawl, 'Yddwan,' meddai, 'ni awn ychydig at wrandawwdd gweddi.' Gweddiai yn ddifrifol, cynwysfawr, gwresog, ac yn fyr-eiriog. Byddai ganddo rhyw fater neillduol bob amser ynddi, a byddai yn hynod yn ei sylw o ryw amgylchiadau a fyddai yn fwy pwysig na chyffredin yn ngoruchwyliaethau Duw at y byd a'r eglwys. Byddai ei deimlad weithiau yn ei orchfygu. Ar ol hyn rhoddai benill drachefn, a phan y gorphenid ei ddatganu, eisteddai pawb gan ddisgwyl clywed y testyn. Hysbysai a darllenai ef, gan ddangos ei gysylltiadau, a'i egluro i'r gynnulleidfa. Yr oedd yn gampus am hyn. Medrai ef amlygu ei olygiad arno mewn ychydig eiriau, oblegid nid ydoedd un amser yn amleiriog. Yna drachefn crybwyllai y materion a gynwysid yn ei destyn, mewn modd eglur, dirodres, a naturiol iawn. Ei raniadau ar ei destyn oeddynt yn gyffredin yn dlysion a tharawiadol. Byddai ymddangosiad yn rhoddi argraff ar ei wrandawyr ei fod yn feistr ar bwngc, a'i fod yn teimlo hyfrydwch yn ei waith. Yr oedd ganddo ddull priodol iddo ei hun yn yr hyn oll a wnai, ac ni bu erioed yn amcanu at ddynwarediad o neb mewn dim. Yr oedd rhyw bethau yn ei ddull yn pregethu a barai weithiau i rai ysgeifn chwerthin wrth ei wrandaw, ac yn wir, gormod camp fyddai wyr go ddifrifol hefyd beidio gwenu wrth glywed yr hen Ddoctor ; ond pob un ystyriol a esgusodai yn rhwydd y diffygion diniwaid hyny, oherwydd yr adeiladaeth a'r hyfrydwch geid dan ei weinidogaeth. Wrth ddybenu ei bregeth, dywedai, gan symud y Bibl, a'i ddodi ar y faingc o'r tu ol iddo, 'Yddwan, ni nawn ychydig o gathgliadau,' y rhai bob amser fyddent yn naturiol ac i bwrpas. Edryched y canwr ato ei hun, oblegid gyda'i fod yn dyweyd y gair olaf yn bregeth, dyna'r penill allan yn ddisaib, oblegid ni byddai ganddo un saib rhwng ei Amen a'i benill, a phrin iawn y cai un synwyr ato i chwilio am fesur priodol ; ond yr oedd yn hawdd i'r canwr faddeu iddo ffaeleddau bach fel hyn, gan mor dda y pregethai."
Gwnai deithiau rheolaidd fel hyn trwy Dde a Gogledd, am ddeng-mlynedd-ar-hugain, ac yr oedd derbyniad croesawgar iddo ba le bynag yr elau. Ond daeth ei ddyddiau teithio i ben, a nesaodd ei awr yntau i farw, ac ni chafodd ond byr gystudd. Awgrymasai ychydig cyn ei farw, fod awr ei ymddatodiad yn ymyl, ond yr oedd yn gwbl foddlawn i ewyllys yr Arglwydd. Gofynai ei chwaer iddo pan yn agos angau, " Dic bach, leicet ti fyw dipyn etto gyda ni ?" "Dim o bwyth," ebe fe. "A fyddai yn well gen' ti farw?" "Wel y gwelo Fo'n dda," ebe yntau. Arswydai groesi rhyd fechan dros bontbren yn ei fywyd, ond aeth trwy lifeiriant afon angau heb fraw nac arswyd, a bu farw mewn tangnefedd, Chwefror 18fed, 1853, yn 73 oed.
"Hiraeth gyfyd wrth gofio
I ddu fedd ei guddio fo."