Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Pennal

Bryncrug Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Aberdyfi
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Pennal
ar Wicipedia




PENNAL.

Pentref bychan mewn dyffryn prydferth ar y ffordd o Fachynlleth i Aberdyfi ydyw Pennal, o fewn pedair milldir i'r lle blaenaf a enwyd. Megis y crybwyllasom yn hanes Machynlleth, y mae yn ymddangos i Mr. William Jones bregethu yma yn ystod y tymor byr y bu yno, ac wedi hyny, pregethwyd yma gan Mr. John Evans, a Mr. Edward Francis. Yr oedd yma un hen wraig o'r enw Jane Davies, yr hon a fu farw tua phymtheng mlynedd yn ol, ac wedi bod gyda chrefydd am dair blynedd-a-thriugain.[1]

Nid oedd yma eglwys wedi ei ffurfio y pryd hwnw, ac ychydig flynyddoedd cyn hyny yr oedd yr eglwys yn Machynlleth wedi ei chorpholi. Pregethid mewn gwahanol dai yn yr ardal, a choffeir yn arbenig y byddai pregethu weithiau yn Nantygwasanaeth, tŷ bychan ar dir y foneddiges ragorol, Mrs. Anwyl, Llugwy. Mae y tŷ y dechreuwyd pregethu yn sefydlog ynddo yn Mhennal yn sefyll etto yn nghanol y pentref. Dŷwedir y byddai yr Annibynwyr a'r Methodistiaid Calfinaidd yn cydaddoli ynddo, ac yn gwbl heddychlawn a brawdol. Elai yr aelodau oedd yma i'r Graig, Machynlleth, i gymundeb, ac arferai yr hen frodyr a'r chwiorydd sydd wedi blaenu, adrodd mor felus fyddai y gyfeillach ar y ffordd wrth fyned i a dychwelyd o Fachynlleth, ac yr elai y pedair milldir heibio bron heb yn wybod iddynt. Ar sefydliad Mr. James Griffith yn Machynlleth, yr 1807, y dechreuodd yr achos yma ymffurfio i ryw drefn, a dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd, er na ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Wedi ymadawiad Mr. Griffith, nid oedd y gangen yn Pennal, yn ol adroddiad un hen frawd o'r enw Hugh Dafydd, yn gwbl unol a Machynlleth ac Aberhosan, i roddi galwad i Mr. D. Morgan, ond ymddengys iddynt yn fuan syrthio i mewn ar dewisiad, ac ni bu un gangen o'r eglwys yn ffyddlonach i Mr. Morgan, nag y bu y gangen yn Pennal dros holl ystod ei arosiad yn y lle. Cafwyd tir at adeiladu capel yn y man lle y saif y capel presenol, ar brydles o gan' mlynedd, gan Mr. John Jones, siopwr, Machynlleth, am yr ardreth flynyddol o saith swllt. Dyddiad y weithred ydyw, Mawrth 9fed, 1816, a'r ymddiriedolwyr cyntaf oedd Meistri J. Roberts, Llanbrynmair, a D. Morgan, Machynlleth. Aeth traul adeiladiad y capel yn 120p. Agorwyd ef yn nechreu haf 1816, a phregethwyd gan Dr. Lewis, Llanfyllin, Meistri J. Roberts, Llanbrynmair; A. Shadrach, Talybont; M. Jones, Llanuwchllyn, a W. Morris, a J. Ridge, myfyrwyr yn Llanfyllin. Yn y flwyddyn 1833, helaethwyd y capel, a chostiodd hyny 92p., yr hyn a deimlid yn faich, gan fod yr hen ddyled heb ei chwbl dalu. Talwyd ychydig o'r ddyled cyn ymadawiad Mr. Morgan, ond yr oedd 90p. yn aros rhwng yr hen a'r newydd, pan symudodd ef yn niwedd 1836. Cafwyd ail brydles, gydag ymddiriedolwyr newyddion, a dyddiad hono ydyw, Tachwedd 9fed, 1836, a'r ymddiriedolwyr newyddion oedd Meistri D. Morgan, Machynlleth; Thomas Jones, Pumwern; Daniel Evans, Penmaenisaf; Morris Davies, Cefnllecoediog; John Harri, Cwrt; Samuel Roberts, a John Roberts, Llanbrynmair; John Williams, Dinas; Hugh Morgan, Sammah, ac Evan Griffith, Llanegryn. Bu gweinidogaeth Mr. Morgan o wasanaeth anmhrisiadwy i'r ardal hon am y ddwy-flynedd-ar-hugain y llafuriodd yma. Gwreiddiwyd yma lawer yn y gwirionedd trwy ei offerynoliaeth, ac y maent yn parhau i ddal dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.

Yn haf 1837, daeth Mr. John Parry, i fod yn weinidog yn Salem, Machynlleth, a chymerodd ofal yr eglwys yma, a bu yn egniol a gweithgar yma am fwy na blwyddyn. Talwyd 60p. o'r ddyled yn y cyfamser, ac ar gais Mr. Parry, y dechreuwyd myned trwy y gymydogaeth i gasglu at yr achos Cenhadol, ac y mae yr arfer yn parhau etto. Rhoddodd Mr. Parry yr eglwys hon a'r eglwys yn Rhiwgwreiddyn i fyny, oblegid fod y maes yn rhy eang iddo, a rhoddwyd galwad i Mr. William Roberts, myfyriwr yn Marton. Daeth yma y Sabboth cyntaf o Ionawr, 1839, a phregethodd oddiar y geiriau "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw?" gyda nerth mawr. Urddwyd ef Mehefin 15fed, 1839. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau; holwyd y gofyniadau gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; gweddiwyd gan Mr. H. Lloyd, Towyn; pregethodd Mr. J. Williams, Aberhosan, i'r gweinidog, a Mr. M. Jones, Llanuwchllyn, i'r eglwys. Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Meistri E. Hughes, Penmain; T. Griffith, Rhydlydan; H. Morgan, Sammah; O. Thomas, Talysarn; D. Price, Penybontfawr; M. Ellis, Talybont; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Jones, Ruthin; E. Griffith, Llanegryn; R. Jones, Llwyngwril; J. Humphreys, Towyn; H. James, Dinas, ac eraill.[2] Bu Mr. Roberts yma yn llwyddianus iawn, cynyddodd y gynnulleidfa, ac ychwanegwyd ugeiniau at rifedi yr eglwys. Cynhelid cyfarfodydd gweddio am chwech o'r gloch y boreu ddyddiau gwaith, a deuai dynion iddynt o fodd eu calon cyn myned at eu gorchwylion. Ymadawodd Mr. Roberts i Benybontfawr yn nechreu 1841.

nechreu 1841. Yr un flwyddyn ag yr ymadawodd Mr. Roberts, rhoddwyd galwad i Mr. Grey Evans, yr hwn a fuasai am dymor yn yr ysgol gyda Mr. R. P. Griffith, Pwllheli. Dechreuodd ei weinidogaeth yn Awst, ac urddwyd ef Hydref 15fed, 1841; ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. M. Jones, Llanuwchllyn; holwyd y gweinidog gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Davies, Trawsfynydd; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. R. P. Griffith, Pwllheli, ac i'r eglwys gan Mr. C. Jones, Dolgellau. Yr oedd yn bresenol hefyd Meistri E. Griffith, Llanegryn; J. Roberts, Llanbrynmair; J. Williams, Aberhosan; H Morgan, Sammah; J. Howes, Machynlleth; H. James, Brithdir; W. Davies, Talybont, ac eraill. Yr oedd brwdfrydedd yr eglwys wedi oeri pan ddaeth ef yma, fel y cafodd dymor lled galed yn nechreu ei weinidogaeth, ond gwelodd radd o lwyddiant cyn ei ddiwedd. Bu yn dra ymdrechgar, a llwyddodd i lwyr symud y ddyled oedd ar y capel. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, a bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Yn nechreu y flwyddyn ganlynol, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. David Evans, aelod o Hermon, Conwil, sir Gaerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 17eg, 1853. Ar yr achlysur, pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. W. Morgan, Caerfyrddin; holwyd y gofyniadau gan Mr. H. Lloyd, Towyn; dyrchafwyd yr urddweddi gan Mr. W. Davies, Machynlleth; pregethodd Mr. H. Lloyd, Towyn, i'r gweinidog, a Mr. H. Morgan, Sammah, i'r eglwys. Pregethwyd hefyd gan Meistri J. Owen, Llanegryn; E. Hughes, Penmain; I. Thomas, Towyn, ac O. Thomas, Talybont.[3] Ni bu Mr. Evans yma ond tua dwy flynedd, canys dychwelodd i sir Gaerfyrddin, ac er nad oes gofal gweinidogaethol arno, mae yn pregethu lle y gelwir am dano, ac yn aelod yn Siloam, Pontargothi. Bu yr eglwys yma am yn agos i ddeng mlynedd, wedi ymadawiad Mr. Evans, heb sefydlu ar weinidog. Am rai blynyddoedd byddai Mr. S. Edwards, Machynlleth, neu Mr. I. Thomas, Towyn, yn gofalu am y cymundeb yma, a bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol, yn enwedig yn y blynyddoedd 1858 a 1859, pryd yr ymwelodd yr Arglwydd a'r eglwys hon, fel y rhan fwyaf o eglwysi ein gwlad, a diwygiad nerthol, a dywed un o ddynion craffaf yr eglwys wrthym, mai y diwygiad mwyaf bendithiol a welodd yn ei oes ydoedd, yn enwedig yn ei ddylanwad ar grefyddwyr llesg a gweiniaid. Gwnaeth lawer o honynt yn well dynion dros eu hoes. Yn gynar yn y flwyddyn 1865, rhoddodd yr eglwys yma alwad i Mr. William Perkins, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, ac urddwyd ef Mehefin 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Ar yr achlysur pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. Josiah Jones, Machynlleth; holwyd y gweinidog gan Mr. D. Price, Aberdare; offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. S. Edwards, Machynlleth; pregethwyd i'r gweinidog gan Mr. J. Lewis, Henllan, ac i'r eglwys gan Mr. J. Jones, Machynlleth. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y dydd gan Meistri D. Rees, Talybont; I. Thomas, Towyn; R. Ellis, Brithdir; W. Rees, Corris, ac R. P. Jones, Llanegryn.[4] Mae Mr. Perkins yn parhau i lafurio yma gyda derbyniad mawr. Adeiledir yma yn awr gapel newydd hardd yn y fan lle y safai yr hen gapel. Rhoddwyd y gareg sylfaen ilawr Gorphenaf 12fed, 1870. Mae yn ddwy droedfedd a deugain a chwe moedfedd o hyd, ac yn ddeuddeg troedfedd ar hugain o led, yn cynwys eisteddleoedd i bedwar cant. Bernir na bydd y draul erbyn ei orphen yn ddim llai nag 1100p. Mae Mr. Morris Davies, un o ddiaconiaid yr eglwys wedi rhoddi y tir yn rhad, gwerth 107p., ac yn addaw 50p. mewn arian heblaw hyny. Mae golwg addawus ar yr achos yma yn ei holl ranau.

Mae yma amryw o bersonau wedi bod yn nglyn a'r eglwys hon, a adawodd ddylanwad er daioni ar y cylchoedd y buont yn troi ynddynt. Yr ydym eisioes wedi crybwyll am y foneddiges rinweddol, Mrs. Anwyl, Llugwy, yn nglyn a Machynlleth. Hugh Pugh, o'r Ynys, a'i deulu, a fuont hefyd yn golofnau o dan yr achos yma. Crybwyllir yn arbenig am John Lloyd, hefyd, fel dyn deallgar yn mhethau yr efengyl. Yr oedd wedi astudio golygiadau Dr. Edward Williams, gyda llawer o fanylwch, ac yn deall Penarglwyddiaeth a Dwyfol Lywodraeth yn well na'r rhan fwyaf. Crefyddwr gwastad ydoedd—rhedai yn gyffelyb bob amser. oedd brawd iddo o gyffelyb dymer, Thomas Lloyd, yn aelod a diacon yn eglwys y Towyn.

Codwyd y personau canlynol i bregethu yma.

William Rees. Un o gymydogaeth Aberhosan ydoedd. Dywedir iddo fyned i'r athrofa i Wrecsam, ond nis gallasom gael dim o'i hanes ar ol hyny.

Robert Edwards. Mab Cefncynafal fach. Ni bu nemawr o lwyddiant arno fel pregethwr. Ymadawodd at yr Eglwys Sefydledig, a bu yn ysgolfeistr, ac o'r diwedd ymfudodd i America.

Derbyniwyd yma amryw eraill yn aelodau, ond ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu—John Humphreys, Towyn; John Williams, Aberhosan; David Knowles, yn awr o Iowa, America, yr ydym yn deall mai yn Mhenybontfawr y dechreuodd ef bregethu pan yno yn cadw ysgol. David Edwards, Pilton Green, ac eraill, a dderbyniwyd yn aelodau yma, er mai ar ol myned oddiyma y dechreuasant bregethu. Diaconiaid presenol yr eglwys ydynt, Meistri Morris Davies, a J. Jones, Felinganol.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL

.

GREY EVANS. Ganwyd ef yn Llanerchymedd yn y flwyddyn 1815, ac yno y derbyniwyd ef yn aelod. Symudodd i sir Gaernarfon i ddilyn ei alwedigaeth, ac ymaelododd yn Mhenygroes, ac yno y dechreuodd bregethu. Bu am rai blynyddoedd yn pregethu yn gynorthwyol, heb fod neb yn meddwl yr ymgodai yn ddim uwch na hyny. Yn 1839, aeth ar daith trwy y Deheudir, ac ar ol dychwelyd, aeth i'r ysgol i Bwllheli, at Mr. R. P. Griffith, lle y bu dros ychydig, ond ni wnaeth ond ychydig gynydd mewn dysgeidiaeth. Yn 1841, cafodd alwad o Pennal, ac urddwyd ef Hydref 15fed, y flwyddyn hono. Bu yn ddiwyd a ffyddlon yn y weinidogaeth tra y parhaodd ei dymor. Yr oedd yn ddyn cywir a diddichell, unplyg iawn yn mhob peth. Er nad oedd ei ddarlleniad yn eang, na'i dalentau yn gryfion, etto yr oedd ganddo ddawn rhwydd, a rhyw dynerwch yn ei lais, a phregethai ar brydiau yn dra effeithiol. Yn ei amser ef y codwyd capel yn Aberdyfi, a bu yn dra ymdrechgar i gasglu ato, ac er i ryw anghydwelediad godi rhyngddo a rhai cyfeillion yn Aberdyfi, fel y barnodd yn oreu i ddatod ei gysylltiad a'r lle, etto yr oedd ei ofal yn fawr am dano, a dymunodd ar weinidogion Towyn i gymeryd ato. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo, ac ar ol ychydig fisoedd o gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar, bu farw Awst 3ydd, 1852, yn 37 oed. Cymerwyd ei weddillion marwol i fynwent Hen Gapel, Llanbrynmair, a chladdwyd ef yn barchus. Cyn cychwyn o Bennal, ac yn Llanbrynmair, gweinyddodd Meistri S. Roberts, Llanbrynmair; H. Morgan, Sammah; J. Owen, Llanegryn; H. Lloyd, ac I. Thomas, Towyn; O. Thomas, Talybont, ac S. Edwards, Machynlleth. Gadawodd weddw ac un plentyn ar ei ol, ac y mae y weddw wedi ei chladdu bellach er's blynyddau, ond y mae."Tad yr amddifaid" wedi gofalu am ei unig ferch.

Nodiadau

golygu
  1. Llythyr Mr. Morris Davies, Pennal.
  2. Dysgedydd, 1839. Tu dal. 256
  3. Dysgedydd, 1853. Tu dal. 316.
  4. Dysgedydd, 1865. Tu dal. 235.