Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Rehoboth, Brynmawr

Tynewydd, Mynyddislwyn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1

gan Thomas Rees


a John Thomas, Lerpwl
Trefynwy
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Bryn-mawr, Blaenau Gwent
ar Wicipedia




REHOBOTH, BRYNMAWR.

Er fod yr addoldy hwn yn mhlwyf Llanelli, sir Frycheiniog, etto gan fod yr eglwys a gyferfydd ynddo, oddiar y dechreu, yn perthyn i gyfundeb eglwysi Annibynol Mynwy, ac mai yn mhlwyf Aberystruth y dechreuwyd yr achos, ac yr arferai y gynnulleidfa ymgynnull, hyd o fewn tair blynedd a deugain yn ol; yn nglyn a hanes eglwysi Mynwy y mae lle priodol hanes yr eglwys hon.

Fel y nodasom, yn mhlwyf Aberystruth y dechreuwyd yr achos hwn, ac ar ryw olwg gellir olrhain ei ddechreuad yn ol am fwy na dau cant o flynyddau, er nad yw yr eglwys bresenol ond cant a chwe' mlwydd oed. Yr oedd Ymneillduaeth wedi ymdaenu yn y plwyf hwn mor foreu ar flwyddyn 1646, os nad rai blynyddau yn foreuach. Nid oes genym un prawf pendant fod Mr. Wroth, Mr. Cradock, a'u cydlafurwyr wedi bod yn pregethu yma cyn y rhyfel cartrefol, ond y mae pob sail i dybied eu bod, ac y mae tystiolaeth Mr. Cradock fod yr efengyl wedi ymdaenu dros y mynyddoedd rhwng Brycheiniog a Mynwy "fel tân mewn tô gwellt,"[1] a bod yno tuag wyth cant o bobl wedi cael eu henill at yr Arglwydd, rhwng 1640 a 1646, yn profi tuhwnt i ddadl fod llawer o bobl grefyddol yn rhwym o fod y pryd hwnw yn y plwyf hwn, canys gwna i fynu ran fawr o'r "mynyddoedd rhwng Brycheiniog a Mynwy." Cafodd Aberystruth, a'r plwyfydd cymydogaethol, eu bendithio yn helaeth a gweinidogaeth rhai o brif bregethwyr Cymru, o derfyniad y rhyfel yn 1646, hyd adferiad Siarl II. yn 1660, megys Jenkin Jones, Ambrose Mostyn, Walter Cradock, Vavasor Powell, ac yn neillduol, Henry Walter.

Mae Mr. Edmund Jones, yn ei hanes o'r plwyf hwn, wedi cofnodi llawer o ffeithiau o berthynas i helynt Ymneillduaeth yma o'r dechreuad, ond gan ei fod mor boenus o ddisylw o amseriad y gwahanol ddigwyddiadau a grybwylla, a'i fod yn aml yn eu camamseru, mae yn anhawdd gwneyd defnydd o'r defnyddiau a gynwysa ei lyfr. A ganlyn yw y prif ffeithiau a gofnoda: Yn amser y werinlywodraeth yr oedd yma ryddid cyflawn i'r Ymneillduwyr, cyn belled ag yr oedd a fynai cyfraith y tir a hyny, ond o herwydd gelyniaeth y werin annuwiol, anfynych y goddefid i'r puritan- iaid bregethu yn eglwys y plwyf, o herwydd hyny arferent ymgynnull yn Gelligrug, yn Nghwm Tylerwy, sef ty John ap John. Cafodd Vavasor Powell unwaith lonyddwch i bregethu yn yr eglwys, ond pan ddarfu i Ambrose Mostyn gynyg pregethu yno gwrthodwyd agoryd y drws iddo. Yn wyneb hyny, safodd i fyny ar gamfa Ogleddol y fynwent, ac wedi iddo agoryd y Bibl, a darllen Ioan v. 25 yn destyn, dechreuodd rhai o'r gelynion waeddi, "Taw di, ni wyddem hynyna cyn dy weled di," yna tynasant ddraenogod meirw, oedd yn grogedig yn yr ywen, a thaflasant hwynt gyda chrechwen ddieflig at y pregethwr. Yn wyneb hyn y cauodd y llyfr, ac aeth ef, a chynifer o gyfeillion crefydd oedd yno, i lawr i Gelligrug, lle y cawsant lonyddwch i gynal yr addoliad. Cofnoda Edmund Jones ffaith nodedig arall, yr hon a ddylid gadw ar gof. Yr oedd dyn gwrol, creulon, ac annuwiol iawn, o'r enw John James, neu John James Watkin, yr hwn a fuasai yn filwr yn myddin y brenin, yn byw yn y plwyf hwn. Wedi i'r brenin a'i blaid gael eu gorchfygu daeth adref. Clywodd ryw dro fod Mr. Jenkin Jones, Llanddetty i bregethu yn Gelligrug. Gwyddai ei fod i fyned trwy Gwm yr Eglwys wrth fyned o Landdetty i Gelligrug, a chan gymaint ei lid at y "Pengryniaid," aeth, wedi ymarfogi a chleddyf, i ymyl y ffordd i ddisgwyl Mr. Jones i basio, gyda bwriad i ymosod arno a'i ladd. Yn mhen ychydig daeth y pregethwr yn mlaen ar ei anifail, a phan ganfu ddyn mewn gwisg filwraidd yn sefyll ar y ffordd, cyfarchodd ef yn foneddigaidd. Darfu i olwg urddasol Mr. Jones, a boneddigeiddrwydd ei foesgyfarchiad, lwyr orchfygu teimlad y dihyryn llofruddiog nes y methodd gael nerth i gyflawni ei fwriad. Dilynodd ef i lawr i Gelligrug, gwrandawodd y bregeth, ac effeithiodd y Gair yn achubol ar ei galon. O'r dydd hwnw allan, hyd derfyn ei oes, bu yn grefyddwr selog, ac yn ddyoddefydd diysgog yn achos ei grefydd yn nhymor yr erlidigaeth.

O adferiad Siarl II. hyd Ddeddf y Goddefiad, cafodd Ymneillduwyr y plwyf hwn, fel eu brodyr yn mhob man arall, ddwyn eu rhan o ddyoddefiadau. Dywedir i'r ynad Baker o Abergavenny, eu hyspeilio amryw weithiau o'u hanifeiliaid, i dalu y dirywon am gynal cyfarfodydd crefyddol, ac y mae yn ddigon tebygol i amryw o honynt gael eu carcharu. Annibynwyr gan mwyaf oedd Ymneillduwyr plwyf Aberystruth hyd yn agos i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ond yr oedd yn eu mysg ychydig o Fedyddwyr, o bosibl er y flwyddyn 1652, ac yn amser yr erlidigaeth byddai y ddwy blaid yn cydaddoli yn gariadus, hyd nes i ryw Jenkin John, neu John Jenkins, dyn unllygeidiog o Ferthyr Tydfil, ddyfod i'w plith a pherswadio y Bedyddwyr i ymneillduo o blith yr Annibynwyr, a gosod i fyny addoliad ar eu penau eu hunain yn nhy Nest John Rosser, gan adael yr Annibynwyr yn unig yn Gelligrug. Ni ddywedir wrthym pa flwyddyn y cymerodd hyn le. Yn y flwyddyn 1668 cymerodd Mr. Watkin Jones ofal bugeiliol y gangen hon o eglwys Mr. Henry Walter; nid ar ol marwolaeth Mr. Walter, fel y cam ddywed Mr. Edmund Jones, ond flynyddau cyn hyny, canys yr oedd Mr. Walter yn fyw yn 1675, a dichon am rai blynyddau ar ol hyny. Bu Mr. Jones yn gofalu am y gangen hon hyd ei farwolaeth tua y flwyddyn 1693.

Gallem gasglu oddiwrth adroddiad cymysglyd Mr. Edmund Jones, mai yn Gelligrug y bu yr Annibynwyr yn addoli o 1646 hyd farwolaeth Mr. Watkin Jones, pryd y symudasant i dy Edmund David o Abertylerwy, ond y mae cofrestr y trwyddedau yn swyddfa papurau y llywodraeth, yn ymddangos yn gwrthdaro hyny. Cafodd tai Llewellyn Rosser a John James, (y gwr a ddychwelwyd dan bregeth Mr. Jenkin Jones mae yn debygol), eu trwyddedu at gynal addoliad gan yr Annibynwyr Awst 10fed, 1672, ond nid oes son am Gelligrug na John Ap John o gwbl yn y rhestr hono, ac nid oes yno chwaith un crybwylliad fod unrhyw le yn y plwyf wedi cael ei drwyddedu gan y Bedyddwyr. Mae yn rhaid gan hyny mai ar ol 1672 y daeth y "dyn unllygeidiog" o Ferthyr Tydfil yno i beri ymraniad.

Yr ydym yn cael ein gogwydd i farnu mai yn amser y Werin-lywodraeth, a thrachefn ar ol cael nawdd Deddf y Goddefiad y cynelid yr addoliad yn Gelligrug, ac iddo gael ei symud oddi yno yn amser yr erlidigaeth rhwng 1662 a 1688, o herwydd ryw resymau anhysbys i ni. Cyn myned yn mhellach, rhoddwn gymaint o hanes y gwr nodedig John Ap John ag a allwn gasglu o lyfr Mr. Edmund Jones; ni welsom unrhyw grybwylliad am ei enw mewn un llyfr na llawysgrif arall. A ganlyn yw sylwedd yr hyn a gofnoda Edmund Jones am dano: Ganwyd ef yn Nghwmnant-y-llan, yn mhlwyf Llanhiddel, ond ni ddywedir wrthym pa flwyddyn. Ar ddechreu y rhyfel cartrefol aeth yn filwr i fyddin y Senedd, lle yr arhosodd hyd y flwyddyn 1646, pryd y dychwelodd i'w ardal enedigol, ac yr aeth i breswylio i Gelligrug. Gellir casglu oddiwrth adroddiad Edmund Jones ei fod yn grefyddol cyn ymuno a'r fyddin, ond ei fod wedi syrthio i fesur o wrthgiliad ysbryd, nes iddo ddygwydd myned i dy gweinidog Ymneillduol yn Kent neu Essex, yr hwn a bregethai yn ei dŷ i nifer fechan o bobl. Gofynodd John Ap John iddo pa ddyben oedd iddo bregethu i cyn lleied a hyny o bobl; atebodd yntau yn ngeiriau y proffwyd Habacuc, "Y gareg a lefa o'r mur a'r trawst a'i hetyb o'r gwaith coed, ac a dystiant yn erbyn y rhai ni wrandawant y gair, neu a'i gwrandawant heb ufuddhau iddo." Darfu i'r ateb hwn yn nghyd a'r bregeth a wrandawsai, fod yn foddion i adfywio teimladau crefyddol yn enaid y milwr Cymreig, ac o hyny allan hyd ddiwedd ei oes bu yn ddyn nodedig am ei dduwioldeb a'i ddefnyddioldeb. Cyn ymadael a'r fyddin priododd ag un Mary Pit, yn sir Gaerloew. Ar ol ymsefydlu yn Gelligrug, dechreuodd arfer ei ddoniau fel cynghorwr neu bregethwr achlysurol, a gwahoddai bawb a allai gael i'w dy i bregethu. Yr oedd yn ei ymarweddiad, ac yn ei ymddangosiad corfforol, yn hollol Buritanaidd; gwisgai ei farf yn hir fel y gwnelent hwythau, ac yn ei henaint yr oedd yr olwg arno yn nodedig o urddasol a phatriarchaidd. Yr oedd yn ddyn hynod o fwyn, tosturiol, a charedig, a phawb o'i gydnabod yn eu barchu, ac yn ei ystyried yn ddyn nodedig o dduwiol. Ychydig cyn ei farw symudodd i Gelligrug i drefdadaeth ei frawd henaf Rees Ap John, hwn hefyd oedd yn ddyn duwiol iawn. Bu farw John Ap John mewn oedran teg, yn dra disymwth a diboen, fel yr ymddengys. Un diwrnod yn amser y cynhauaf gwair daeth i'r tŷ at ei ferch, a chyn myned i'r llofft, i orphwys ychydig ar y gwely ganol dydd, fel yr arferai wneyd, dywedodd wrthi, "Fydda i ddim yn hir gyda chwi." Yna gorweddodd ar y gwely. Pan heb ei weled yn dyfod i lawr yn yr amser arferol, aeth un o'r teulu i'r llofft i edrych am dano, a chafodd ef yn farw ar y gwely, heb un arwydd ei fod wedi bod mewn unrhyw boenau wrth ymadael a'r corff. Yn anffodus ni ddarfu i Edmund Jones roddi amser ei farwolaeth, ond yr ydym yn casglu iddo farw yn agos i'r un amser a Mr. Watkin Jones, sef tua y flwyddyn 1693. Bu hiliogaeth y dyn da hwn am genedlaethau yn ddynion crefyddol iawn, ac o bosibl eu bod yn parhau felly hyd etto.

Ni fu un eglwys Annibynol erioed yn y plwyf hwn hyd 1764, pryd y corffolwyd un yn Mhenyllwyn yn agos i weithiau Nantyglo, gan Mr. Edmund Jones, ac y mae yr eglwys hono yn parhau hyd y dydd hwn yn Rehoboth, Brynmawr. Cangen o eglwys Mynyddislwyn neu Benmain, fu yn cyfarfod yn Gelligrug, Abertylerwy, Tynyfid, Tynyllwyn, a manau eraill o 1646 hyd 1780.[2] Bu addoliad hefyd yn cael ei gynal yn lled gyson o 1740 hyd 1764 mewn gwahanol anedd-dai, gan Mr. Edmund Jones, er budd i aelodau ei eglwys ef yn Mhontypool, y rhai a gyfaneddant yn y plwyf hwn.

Mae yn ymddangos fod y rhan fwyaf o'r Annibynwyr a breswylient yn y plwyf hwn tua y flwyddyn 1762 yn cyfaneddu yn Nghwm Ebbwy Fawr; canys yr oedd y Bedyddwyr, er's mwy na haner canrif wedi meddianu y rhan fwyaf o Gwm Ebbwy Fechan, neu Gwm yr Eglwys; ond tua y flwyddyn hono daeth John Thomas, myfyriwr yn athrofa Abergavenny, a phregethwr doniol annghyffredin, i bregethu yn lled gyson i Gwm yr Eglwys, i dŷ un Edward Jones, sef Penllwyn, a'r canlyniad fu i ddiwygiad nerthol dori allan yno, ac i amryw gael eu hennill at grefydd. Rhoddwn hanes ymweliadau John Thomas a'r Blaenau yn ei eiriau ef ei hun: "Daethum i Abergavenny yn niwedd y flwyddyn 1761, a phan ddaethum yma gyntaf i ymosod i ddysgu llyfrau Lladin, a gweled y fath annuwioldeb yn y dref, a'r fath glaiarwch yn y gynnulleidfa, yr oedd fel yn newid tywydd arnaf, ac ofn colli tir yn fy ysbryd; am hyny, byddwn yn arfer myned weithiau fy hun i blith y llwyni coed, ar lan yr afon Wysg, i weddio ganol dyddiau, lle y byddai yn felus arnaf, ac yn cadw fy enaid mewn hwyl nefol. Ar un tro, pan yr oeddwn ar weddi, daeth fel llais at fy ysbryd yn dyweyd wrthyf am edrych i'r lan y tu arall i'r afon, a myned y ffordd hono i'r mynyddau i bregethu, a bod gan yr Arglwydd waith i mi i'w wneuthur y ffordd hono. Yn mhen ychydig ar ol hyn daeth un ataf gan daer ddymuno arnaf i ddyfod i Flaenau Gwent, rhwng y mynyddau i bregethu. Gyda syndod addewais fyned, gan gredu alw o'r Arglwydd fi, ac felly yr aethum, a'r noswaith gyntaf y lleferais yn nhy Edward Jones, cefais flaenffrwyth; gwr y ty ac un arall a gawsant eu hargyhoeddi; a thros dalm o amser, yn agos bob tro y deuwn i'r parthau yma i bregethu byddwn yn clywed fod rhai o'r newydd yn cael eu deffroi. Rhyw gyffroad a dorodd allan trwy y gymydogaeth, a drysau newydd yn cael eu hagor i bregethu yr efengyl, a'r tai yn llawn o wrandawyr. Dymunwyd arnaf ddyfod i bregethu i dy cyfarfod y Bedyddwyr, a rhai a gawsent eu dihuno yma. Llawer noswaith y bu yn werthfawr arnaf yn y Blaenau, i ymddyddan a gweddio gyda fy mhlant ysbrydol. Yn mhen ychydig Mr. Jones, o Bontypool, a osododd yn nghyd eglwys yn nhy Edward Jones, i gyfranu yr ordinhadau yn eu plith, ac y mae yn y parthau hyny eglwys hyd heddyw."[3]

Dyma ddechreuad yr eglwys flodeuog yn Rehoboth, Brynmawr. Pan gorffolodd Edmund Jones hi yn 1764, nid oedd rhif yr aelodau ond un-ar-ddeg. Mae yn ddigon tebyg fod y Bedyddwyr wedi myned a niferi o ddychweledgion John Thomas, ac y mae yn bosibl fod rhai o honynt wedi ymuno a'r gangen o eglwys Penmain, yn Nghwm Ebbwy Fawr. Cynyddodd yr eglwys yn Mhenyllwyn yn raddol, fel nad oedd rhif yr aelodau fawr dan ddeg-ar-hugain yn 1779, pan gyhoeddwyd hanes plwyf Aberystruth. Ond tra yr oedd yr eglwys yn Ebbwy Fechan yn ennill tir, yr oedd y gangen o Benmain yn Ebbwy Fawr yn colli tir o flwyddyn i flwyddyn. Dywed Phillip Dafydd, wrth gofnodi claddedigaeth dwy o'r aelodau yn Nghorphenaf, 1777. "Yr oeddynt ill dwy yn perthyn i Ddyffryn Ebbwy. Mae y cyfarfodydd yn y lle hwnw yn debygol o gael eu rhoddi i fyny yn fuan, oblegid nid oes yno yn awr ond pedwar neu bump o aelodau sydd yn perthyn i Benmain." Parhaodd Mr. P. Dafydd fyned yno am tua dwy flynedd ar ol hyn, ac yna rhoddodd y lle i fyny.

Ar ol i'r eglwys yn Mhenyllwyn fod yn ymgynnull yno am ychydig o amser symudasant i Waengoodwin, neu "Ty Solomon," fel y gelwid ef yn

"fel gyffredin, ac yno y buont yn ymgynnull hyd nes yr adeiladwyd y capel cyntaf. Bu Mr. Edmund Jones yn gwasanaethu yr eglwys fechan hon unwaith yn y mis hyd yn agos i derfyn ei oes. Gweinyddid yma ar y Sabbothau eraill gan bregethwyr cynnorthwyol a'r mwyfyrwyr o athrofa Abergavenny, ac wedi hyny y myfyrwyr o athrofa Iarlles Huntingdon yn Nhrefecca.—Bu yr Iarlles yn garedig iawn i'r achos hwn yn ei wendid. Anfonodd wely ac awrlais i Dy Solomon at wasanaeth y pregethwyr a ymwelent a'r lle. Yr oedd yma bregethwr cynnorthwyol o'r enw David Thomas, yr hwn a adnabyddid yn gyffredin wrth yr enw "Dafydd Nantmelyn." Dyn lled fyr ei ddoniau, ond o fuchedd dda ydoedd. Yehydig amser cyn terfyn ei oes yr oedd Mr. Edmund Jones yma ar Sabboth gwlyb iawn yn cadw cyfarfod cymundeb; ac ar ddiwedd y gwasanaeth dywedodd, "Y mae hi yn gwlawio yn drwm iawn heddyw, ac os bydd hi fel hyn mis i heddyw ni byddaf fi yn alluog i ddyfod yma, a rhag i chwi fod heb neb i ranu yr ordinhad i chwi, mi a ordeiniaf Dafydd Nantmelyn yn awr," ac heb ymgynghori ychwaneg a neb gosododd ei ddwylaw yn y fan ar ben Dafydd, a gweddiodd ei urddweddi. Prin yr ydym yn credu i'r eglwys gydnabod Dafydd fel ei gweinidog, ond y mae yn ymddangos iddo lafurio yno yn ol ei allu hyd ei farwolaeth.[4] Yr oedd Mr. Thomas, Penmain, wedi cymeryd gofal yr achos cyn marwolaeth Mr. Edmund Jones, a bu yn ymweled a'r lle yn fisol hyd nes i Mr. Stephenson gael ei ddewis yn weinidog.

Pan gychwynwyd gweithiau haiarn Nantyglo, lluosogodd y boblogaeth, a daeth rhai dynion crefyddol i'r ardal oeddynt yn aelodau gyda'r Annibynwyr cyn dyfod yma. Bu y rhai hyny yn llawer o adgyfnerthiad i'r achos bychan. Rai blynyddau cyn adeiladu y capel teimlid fod angen am ysgol Sabbothol yn y lle. Y ddau fuont yn offerynol i gychwyn yr ysgol Sul oedd John Evans o ardal yr Aber, a John Price o Lanwrtyd. Mae Ꭹ ddau wedi cael eu casglu at eu tadau er's blynyddau bellach. Darfu i John Evans ysgrifenu ychydig o hanes ei lafur ef a'i gyfaill wrth gychwyn y sefydliad, ac y mae ei ysgrif yn awr ger ein bron, ond yn anffodus nid oes ynddi un amseriad o'r dechreu i'r diwedd, yr hyn sydd yn lleihau gwerth yr hanes yn fawr. Yr ydym yn barnu mai ryw amser o'r flwyddyn 1812 i 1815 y cychwynwyd yr ysgol Sul yma. Yr amser hwnw yr oedd offeiriad o'r enw Davies yn gwasanaethu plwyf Aberystruth. Yr oedd yn ddyn da, ac yn un o'r dynion mwyaf diddrwg a rodiodd y ddaear erioed, ond yr oedd yn hynod o ddidalent. Gwelsom ef amryw weithiau yn ei henaint. Aeth John Evans a John Price at yr offeiriad i fynegu eu bwriad i gychwyn ysgol Sul; cymeradwyodd yntau y peth, a dywedodd yn garedig wrthynt y cawsent gadw yr ysgol yn yr Eglwys, gan nad oedd un lle cyfleus arall yn yr ardal; ac felly y bu. Buont yn yr Eglwys dros yr haf cyntaf, ond pan ddaeth y gauaf, bu raid iddynt ranu eu hysgol i wahanol anedd-dai, o herwydd fod yr Eglwys yn rhy oer. Yr oedd erbyn hyn angen am lyfrau. Aeth John Evans i Ferthyr, lle y cafodd ychydig o lyfrau at ddysgu darllen, am y rhai y bu yn rhaid iddo dalu tair ceiniog yr un. Wedi hyny aeth i Abergavenny i edrych am Feiblau, ond ni lwyddodd i gael ychwaneg na dau, y rhai a gostiodd iddo ddeg swllt yr un. Yn mhen ychydig wedi hyny, cawsant bedwar Beibl yn rhad trwy Mr. Davies, yr offeiriad; ac yn fuan drachefn llwyddodd John Evans i gael deuddeg Beibl a chwech Testament; y Beiblau am bedwar swllt a chwecheiniog yr un, a'r Testamentau am ddau swllt a thair ceiniog yr un, gan Mr. Bevan, offeiriad Crughowell. Cariodd y baich llyfrau yn llawen ar ei gefn o Grughowell i'r Brynmawr. Wedi cael ychydig gopiau o Hyfforddwor Mr. Charles, dysgwyd ef yn awyddus, ac ar ol hyny aed trwy Gatecism Dr. Phillips, Neuaddlwyd. Erbyn hyn yr oedd yr ysgol wedi myned yn lluosog ac enwog, a thrwy ei llwyddiant aeth y gynnulleidfa yn rhy lucsog i "Dy Solomon" i'w chynnwys, ac felly penderfynwyd adeiladu capel yn ymyl ty a elwid y "Caban Gwyn," ar lechwedd y mynydd yn agos i waith Nantyglo. Galwyd y capel newydd yn Horeb. Agorwyd ef Gorphenaf 19eg a'r 20fed, 1820. Yr oedd trefn cyfarfodydd yr agoriad fel y canlyn: Nos Fercher, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni, (wedi hyny gweinidog y lle), a phregethodd Mr. J. Harrison, Aberdare, a Mr. B. Moses, New Inn, oddiwrth Mat. xxviii. 20; ac Esay xxvii. 3. Yr ail ddydd, am 10, gweddiodd Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr, a phregethodd Mr. D. Jones, Llanharan, Mr. E. Jones, Pontypool, (yn Saesoneg), a Mr. G. Hughes, Groeswen, oddiwrth 1 Ioan iv. 10; Act. xvi. 30, 31; a Salm lxxxiv. 2. Am 3, gweddiodd Mr. E. Davies, Hanover, a phregethodd Mr. T. Davies, Cymar, Mr. T. B. Evans, Ynysgau, (yn Saesoneg), a Mr. D. Lewis, Aber, oddiwrth Sal. cii. 16; Mat. xvi. 26; ac Esay lx. 7. Am 6, gweddiodd Mr. D. Stephenson, Rhymni, a phregethodd Mr. M. Jones, Bethesda, Merthyr, oddiwrth Ioan vi. 27. Felly yr agorwyd capel cyntaf eglwys Rehoboth.

Bu Mr. Thomas, Penmain, yn dyfod yma yn fisol am tua thair blynedd ar ol agoriad y capel, yna o herwydd gwaeledd ei iechyd, a'i awydd am i Mr. Stephenson sefydlu yn eu plith, rhoddodd eu gofal i fyny, ac anogodd hwy i roddi galwad i Mr. Stephenson, yr hyn a wnaethant, ac efe a ymsefydlodd yn eu plith yn y flwyddyn 1823, ond yr oedd wedi bod yn eu gwasanaethu yn fynych trwy ystod y pum' mlynedd blaenorol. Rhifyr aelododau pan yr ymgymerodd ef a'r weinidogaeth oedd dau-ar-hugain. Pan dderbyniodd yr alwad ni ddarfu iddo ar unwaith symud yno o Rhymni, ond deuai drosodd ddau Sul o bob mis. Cynyddodd yr eglwys a'r gynnulleidfa yn fuan i raddau mawr, fel cyn pen pedair blynedd yr oedd Horeb y Caban Gwyn wedi myned lawer yn rhy fychan i gynnwys y gwrandawyr, ac y bu raid edrych am le cyfleus i adeiladu capel helaethach. Ond ni chafwyd y llwyddiant hwn heb fesur o drallod yn gysylltiedig ag ef. Y gofid cyntaf a gafwyd yno oedd yn nglyn a dysgybliad dynes o gymmeriad amheus. Trodd rhai yn bleidiol i'r ddynes, ac ymneillduasant o'r eglwys, gan geisio gosod i fyny achos newydd yn agos i Bont Clydach. Mae yn ymddangos i'r terfysg hwn gyfodi yn fuan wedi i Mr. Stephenson ddechreu ei weinidogaeth, oblegid pasiwyd y penderfyniad canlynol yn nghymanfa Pontypool ar y 7fed o Awst, 1823, gyda golwg ar y terfysgwyr: "Na byddai i feibion rhwyg, neu Shismaticiaid Nantyglo, gael eu cefnogi gan neb a berthyn i'n cyfundeb ni; trwy drugaredd y mae genym ddigon o addoldai yn y gymydogaeth hono, nid oes arnom eisiau yn awr ond llenwi rhai hyny ag Israeliaid yn wir." Aeth achos y rhwygwyr hyn yn fuan i'r dim, ond yr oedd yr eglwys yn Horeb yn cynyddu yn gyflym. Bu ychydig o deimladau annymunol yn yr eglwys drachefn, o herwydd methu cydweled am y man mwyaf priodol i adeiladu y capel newydd. Mynai rhai aros yn y Caban Gwyn, er ei fod ar gongl annghyfleus o'r ardal, ac allan o ganol corff y boblogaeth; eraill a ddadleuent dros ei adeiladu ar y Brynmawr, tua milldir oddiwrth y Caban Gwyn, a chafodd y blaid hono y mwyafrif o'i hochr. Pa fodd bynag, anfoddlonodd rhai o'r aelodau ac ymadawsant a'r achos am flynyddau. "Wedi penderfynu ar y lle, yr anhawsder nesaf oedd cael modd at adeiladu, oblegid yr oedd aelodau y gynnulleidfa oll yn dlodion, fel nas gallent wneyd nemawr; ac nid hawdd ychwaith fuasai iddynt gaol neb i ymddiried arian ar lôg iddynt. Fel yr oedd Mr. Stephenson ryw dro yn adrodd ei gwyn yn nhy Mr. John Thomas, masnachydd, Brynmawr, dyna Mrs. Thomas yn troi at ei gwr, ac yn dyweyd, 'Jack, rhaid i ti gymeryd ato; nid oes dim arall i'w wneyd;' ac felly y bu. Yr oedd Mr. a Mrs. Thomas ill dau y pryd hwnw yn ddibroffes. Cymerodd Mr. T. yr holl faich arno ei hun: gofalodd am y gwaith, darparodd ddefnyddiau, a gosododd ei geffyl ei hun i lusgo y rhan fwyaf o'r ceryg ato yn ddidraul, edrychodd ar ol yr adeiladwyr, gofalodd am arian, talodd am y defnyddiau a chyflogau y gweithwyr, nes y gorphenwyd y capel eang a phrydferth am 700p., a galwyd ef Rehoboth, o herwydd fod yr Arglwydd yn eangu arnynt. Gofalwyd drachefn gan yr un gwr am y ddyled a'r llôg nes eu llwyr ddileu; a pha beth bynag oedd y llôg talodd Mr. Thomas y cwbl o'i logell ei hun heb ofyn dim i'r eglwys ond y corff."[5] Agorwyd y capel newydd ar y 7fed a'r 8fed o Dachwedd, 1827, pryd y gweinyddwyd gan y gweinidogion canlynol: J. Jones, Talgarth; D. Davies, New Inn; H. Jones, Tredegar; M. Jones, Merthyr; L. Powell, Caerdydd; D. Lewis, Aber; W. Lewis, Tredwstan; G. Hughes, Groeswen; J. Harrison, Aberdare, &c. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd 70. Er fod 700p. yn swm mawr i cyn lleied o bobl dlodion, etto trwy ddiwydrwydd diflino Mr. Stephenson yn casglu ar hyd a lled y wlad, ond yn benaf trwy haelioni cartrefol, talwyd y cwbl mewn dwy flynedd a deg mis.

Yr oedd diwygiad crefyddol wedi dechreu yn y Caban Gwyn cyn agoriad Rehoboth, ac wyth o bersonau yno yn ymgeiswyr am aelodaeth. Wrth dderbyn y rhai hyn ar y Sul cymundeb dywedai Mr. Stephenson wrth bob un o honynt, "Yr wyf yn rhoddi i chwi ddeheulaw cymdeithas yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân." Yn nghyffroad ei feddwl ar ol dyweyd felly wrth saith, trodd oddiwrthynt at y bwrdd gan annghofio yr wythfed; sisialodd un o'r diaconiaid wrtho ei fod wedi pasio heibio yr wythfed oedd i gael ei dderbyn; ar hyny trodd yn ol at hwnw, a chyd a theimladau drylliog, ymaflodd yn ei law a dywedodd, "Yr wyf yn dy dderbyn dithau yn enw y Drindod o bersonau." Ar hyny, torodd y dorf allan i floeddio. Yn y teimladau nefol hyny y symudwyd i'r capel newydd, a pharhaodd yr adfywiad yno am yn agos i dair blynedd. Byddid fynychuf bob mis yn derbyn o ddeg i ddeg-ar-hugain o bersonau.

Cyfnod pwysig yn hanes yr eglwys hon oedd dechreu y flwyddyn 1832. Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hono cafodd y brodyr William Rees, yn awr o Abertawy, D. Seys Lewis, Thomas Williams, Samuel Smith, a John Davies eu neillduo yn ddiaconiaid, heb i un teimlad gofidus gael ei achosi gan eu dewisiad. Yr oedd rhif yr aelodau yn awr yn 250, a chafodd y gweinidog gryfhad nodedig i'w ysbryd wrth gael y fath nifer o ddiaconiaid, a rhai o honynt yn anarferol o alluog a gweithgar i ddal ei freichiau i fyny.

Yn mhen tua deuddeng mlynedd aeth Rehoboth yn rhy gyfyng i gynwys y torfeydd a gyrchent yno, a bu raid ei ail adeiladu. Cafodd Tabor, capel y Bedyddwyr, ei roddi yn garedig at wasanaeth y gynnulleidfa tra y buwyd yn ail adeiladu y capel.

y capel. Tra yr oeddynt yn ymgynnull yno torodd diwygiad nerthol allan, yr hwn a barhaodd yn boeth iawn am tua blwyddyn ar ol i'r gynnulleidfa fyned i'r capel newydd. Ychwanegwyd at yr eglwys yn ystod yr adfywiad hwn o bedwar i bum' cant o aelodau.

Traul adeiladaeth y capel presenol oedd 1292p. 2s. 2c. Agorwyd ef ar yr 20fed a'r 21ain o Orphenaf, 1840, pryd y gweinyddwyd gan y Meistriaid Daniel, Pontypool; Stephens, Brychgoed; Protheroe, Llangynydr; Griffiths, Blaenafon; Ellis, Mynyddislwyn; Williams, Troedrhiwdalar; Rowlands, Pontypool; Jenkins, Salem, &c. "Ni wnaed un cynyg ar fyned oddiamgylch y wlad i gasglu at y capel gwych a chyfleus hwn, ond ymosodwyd o ddifrif, fel dynion mewn ysbryd gweithio, at gasglu yn gyson ac egniol gartref, a chesglid yn fisol wrth y drysau y symiau o 10p., 15p., 20p., ac weithiau 24p., ac uchod, heblaw yr ymdrechion ychwanegol a wneid ar ryw amserau ac achlysuron neillduol; fel yr oeddid erbyn canol yr haf 1847 wedi dileu yr holl ddyled anferth hono, a'r llôg yn nghyd a phob treuliau eraill, a swm o rai degau o bunoedd yn ngweddill mewn llaw."[6]

Er mor llwyddianus y bu y gweinidog da hwn i Iesu Grist yn nygiad yn mlaen bethau amgylchiadol yr achos, yr oedd ei lwyddiant yn y rhan ysbrydol o waith y weinidogaeth, sef ennill eneidiau at yr Arglwydd yn fwy. Tua chwe' mlynedd ar hugain y bu yn gweinidogaethu yn y Caban Gwyn a Rehoboth, ac yn ystod y tymhor hwnw ychwanegwyd o bymtheg cant i ddwy fil o bobl at yr eglwys. Nis gwyddom am un gweinidog mewn cyn lleied o amser, a dderbyniodd gynifer o aelodau. Cafodd dri adfywiad anarferol o nerthol yn nhymor ei weinidogaeth, ac ar ganol y diweddaf o honynt, pryd yr oedd o 400 i 500 yn y gyfeillach heb eu derbyn, cymerwyd ef i wlad well. Bu farw o'r geri marwol yn y flwyddyn 1849.

Yn mis Mawrth, 1850, rhoddodd yr eglwys alwad i un o'i meibion ei hun i ddyfod yn weinidog iddi, sef Mr. William Jenkins, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog yn Nghapel Iwan a Llwyn-yr-hwrdd, gerllaw Castellnewydd Emlyn. Bu Mr. Jenkins yn llafurio gyda pharch a llwyddiant mawr yn ei fam-eglwys o 1850 hyd 1866, pryd y derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Pentreestyll, Abertawy, ac y symudodd yno. Cadwodd Mr. Jenkins gyfrif manwl o'i gyflawniadau cyhoeddus fel gweinidog yn Rehoboth, o fis Mawrth 1850 hyd fis Awst 1861, yr hwn a ddengys iddo yn y tymor hwnw fod yn rhyfeddol o lafurus a llwyddianus. Mae y cyfrif fel y canlyn: Derbyniwyd 844 o aelodau i'r eglwys, claddwyd 226 gan Mr. Jenkins ei hun, heblaw y rhai a gladdwyd gan eraill pan fyddai ef oddicartref, derbyniwyd trwy lythyrau 192, gollyngwyd trwy lythyrau—183, diaelodwyd 267, heblaw y rhai a ymadawsant heb lythyrau. Claddwyd 186 o blant, bedyddiwyd 592, a phriodwyd 50. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Jenkins gosododd yr eglwys allan dros 1,000p. i adgyweirio y capel ac adeiladu ysgoldy, heblaw y draul fawr yr aethant iddi i adeiladu tŷ i'r gweinidog.

Yn y flwyddyn 1867, derbyniodd Mr. Edwin A. Jones, yr hwn oedd yn weinidog yn Tyrhos a Llandudoch, Penfro, alwad i sefydlu yma, a bu yma hyd ddechreu y flwyddyn hon (1870), pryd y rhoddodd ofal yr eglwys i fyny, ac felly y mae yn bresenol heb weinidog.

Mae eglwys Rehoboth er's mwy na deugain mlynedd bellach wedi bod yn un o'r rhai blaenaf yn mysg eglwysi y Dywysogaeth am ei llwyddiant, lluosogrwydd ei haelodau, ei doniau, ac yn neillduol ei gorchestion mewn casglu arian. Er nad yw yn bresenol yn agos mor lluosog ag y bu ar rai adegau yn nhymorau gweinidogaeth Mr. Stephenson a Mr. Jenkins, yr ydym yn gobeithio nad ydyw wedi gweled ei dyddiau goreu, ond fod etto o'i blaen adegau o lwyddiant a chysur cyfartal o leiaf i'r amserau goreu a welodd yn y blynyddau gynt.

Berea, y Blaenau, yw yr unig gangen a aeth allan yn uniongyrchol o Rehoboth, ond gellir ar lawer o gyfrifon ystyried yr achos Saesonig ar y Brynmawr, a Bethesda fel canghenau o'r fam-eglwys hon. Cawn sylwi yn mhellach ar hyn pan ddelom at hanes yr eglwysi hyny.

Cafodd y pregethwyr canlynol eu cyfodi yn yr eglwys hon:

Edmund Thomas. Dechreuodd bregethu yn Horeb, Caban Gwyn, ac yn 1825 ymadawodd a'r Annibynwyr, ac ymunodd a'r Bedyddwyr.

Morgan D. Morgan. Dechreuodd ef bregethu tua y flwyddyn 1826. Cafodd ei urddo yn Dudley Port yn 1852, cyn iddo ymfudo i'r America, lle y bu farw. Yr oedd yn frawd i Mr. H. Morgan, Sammah, Maldwyn.

Thomas Evans, Maesaleg. Gweler ychwaneg am dano yn nglyn a hanes yr eglwys yno.

Lemuel Smith. Daw ei hanes ef dan sylw yn nglyn ag eglwys y Tai-hirion.

Thomas Lloyd. Urddwyd ef yn Zoar, Maesteg, yn Medi 1843, ond bu raid iddo yn fuan roddi y weinidogaeth i fyny o herwydd gwaeledd ei iechyd. Y mae yn awr yn byw yn Ystradhafodog, Morganwg, yn pregethu yn achlysurol, ac yn dderbyniol a pharchus iawn gan bawb o'i gydnabod.

David Phillips. Yn hanes eglwys Carfan y cofnodir yr hyn a wyddom am dano ef.

John Thomas. Dechreuodd ef bregethu yn y flwyddyn 1840. mhen rhai blynyddau derbyniodd alwad oddiwrth eglwys Gymreig yn Mount Savage, America, ac ar gais yr eglwys hono urddwyd ef yn Saron Glyn Ebwy, cyn iddo gychwyn o'r wlad hon, "o herwydd" fel y dywed r gan yr eglwys yn Mount Savage, "eu bod yn ychydig mewn rhifedi, a gweinidogion Cymreig yn America yn preswylio yn mhell oddiwrthynt."

William Jenkins. Dechreuodd bregethu yn 1843. Urddwyd ef yn Capel Iwan a Llwyn-yr-hwrdd yn Mehefin 1846. Symudodd i fod yn weinidog i'w fam-eglwys yn 1850, ac yn 1866 ymadawodd oddiyno i Pentreestyll, Abertawy, lle y mae yn bresenol.

David Davies. Ar derfyniad ei amser yn y coleg yn 1849, urddwyd ef yn Siloa, Llanelli, sir Gaerfyrddin. Symudodd yn fuan oddiyno i Cardley, wedi hyny i East Grinstead, ac y mae yn awr yn Bromsgrove.

John Hughes. Dechreuodd bregethu yn 1847. Urddwyd ef yn Victoria, Mynwy, Mehefin 13eg, 1850. Mae yn awr ar symud o'r Aber, Brycheiniog, i Langadog, sir Gaerfyrddin.

John Jenkins. Yn awr o gapel Seion, Abertawy. Y mae efe yn frawd i Mr. William Jenkins.

Hugh E. Thomas, diweddar o Birkenhead, yn awr o Pittsburg, America. Yn Rehoboth y derbyniwyd ef ac y dechreuodd bregethu.

Joseph Farr. Yr hwn sydd newydd symud o Groesos wallt i Mount Stuart Square, Caerdydd.

Daniel Evans. Ar ol bod tua thair blynedd yn athrofa y Bala, ymfudodd i America yn 1867.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID STEPHENSON. Mab i gyfreithiwr o Gaerfyrddin, o'r enw Stephenson, o ddynes ieuangc o ardal Llandilofawr, oedd y gweinidog enwog a rhagorol hwn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784. Gan na fu ei dad a'i fam yn briod, cafodd ei roddi i ddieithriaid i'w fagu, ond gan ei fod yn llestr etholedig gan yr Arglwydd, i gario trysorau yr efengyl i filoedd o eneidiau, fe drefnodd Rhagluniaeth, nid yn unig fagwraeth dda i'w gorff, ond hefyd addysg grefyddol i'w feddwl o'i febyd. Cafodd ei ddwyn i fyny yn nhy un John Evans, neu "Shion Pencelli," fel y gelwid ef yn gyffredin. Yr oedd John Evans yn ddyn da a chrefyddol, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid yn Nghlos-y-graig, gerllaw Castellnewydd Emlyn. Ymddengys i John Evans wneyd ymdrech ffyddlon i blanu egwyddorion crefyddol yn meddwl ieuengaidd David Stephenson, ac i'w ymdrechion fod yn llwyddianus. Pan yn un-ar-bymtheg oed, o herwydd yr ofnai y buasai ei dad dideimlad yn ei anfon i ffwrdd i'r môr, ymadawodd David Stephenson a thy ei dad—maeth, ac aeth tua Merthyr i geisio ennill ei fara heb fod yn ymddibynol ar eraill. Cartrefodd ar Gefncoed-y-cymer, lle y bu am tua deng mlynedd. Yn fuan wedi iddo fyned i'r lle hwnw ymunodd ag eglwys y Methodistiaid yn Mhontmorlais, Merthyr. Bu yn ffyddlon iawn yn dilyn y moddion, ac yn neillduol yr Ysgol Sabbothol, ac ennillodd iddo ei hun air da gan bawb o'i gydnabod, fel bachgen ieuangc nodedig o ddiddrwg, pur ei ymarweddiad, a diwyd a chyson fel crefyddwr. Yn mhen ychydig flynyddau ymadawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd a'r eglwys Annibynol yn Zoar, Merthyr, a phan ymadawodd cangen o'r eglwys hono, i fyned i ddechreu yr achos sydd yn awr yn Bethesda, Merthyr, acth yntau gyda hwynt.

Tua y flwyddyn 1810 ymunodd mewn priodas a gwraig weddw o'r enw Mrs. Howells, yr hon fu yn gydymaith ffyddlon iddo hyd o fewn tair blynedd i derfyn ei oes. Cawsant lawer o siomedigaethau, croesau, a thlodi yn mlynyddau cyntaf eu bywyd priodasol, ond dygodd Rhagluniaeth hwy trwy y cwbl heb ddianrhydeddu crefydd. Tua y flwyddyn 1811 symudasant i Rymni. Yr oedd yno ychydig o ddynion crefyddol perthynol i'r tri phrif enwad Ymneillduol, yn cydaddoli mewn anedd-dai. Yn mysg yr ychydig bobl hyn y dechreuodd David Stephenson arfer ei ddoniau fel pregethwr, yn mis Ebrill 1813. Dywedir mai yn nhy Daniel Rees, yn Nhredegar, y traddododd ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Gyda chynydd y boblogaeth lluosogodd y crefyddwyr, ac aeth y gwahanol enwadau ar eu penau eu hunain. Yr oedd yr ychydig Annibynwyr yn Rymni yn cael eu hystyried yn gangen o eglwys Bethesda, Merthyr. Yn mhen ychydig flynyddau teimlent awydd am urddo Mr. Stephenson yn weinidog iddynt eu hunain, gan mai anfynych y gallasai Mr. Jones, Bethesda, ymweled a hwynt. Gwrthwynebwyd hyny dros amser gan weinidogion Merthyr, ac un o brif aelodau yr eglwys fechan yn Rymni, ond o'r diwedd torwyd trwy bob gwrthwynebiad, ac urddwyd ef ar y 27ain o Fehefin, 1821. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistriaid D. Thomas, Llanfaches; T. B. Evans, Ynysgau; D. Lewis, Aber; D. Davies, Penywaun; G. Hughes, Groeswen; E. Jones, Pontypool, ac eraill. Yn mhen dwy flynedd ar ol ei urddiad, cymerodd ofal yr eglwys yn Nantyglo, mewn cysylltiad a Rymni. Byddai yn myned ddau Sabboth o bob mis o Rymni i Nantyglo, ac yn fynych ar nosweithiau o'r wythnos, tra yr oedd bob dydd yn gorfod gweithio yn galed er cynal ei deulu. Tua y flwyddyn 1825, symudodd i Nantyglo, a rhoddodd ofal yr eglwys yn Rymni i fyny. Ymgysegrodd o hyny allan i waith y weinidogaeth, heb ddilyn unrhyw alwedigaeth fydol. Bu yn Nantyglo a'r Brynmawr o hyny hyd derfyn ei oes, ac fel y nodasom, yn annghyffredin o lafurus a llwyddianus.

Bu farw, ar ol ychydig ddyddiau o gystudd, o'r geri marwol, Awst 22ain, 1849. Ei destyn olaf yn y capel, nos Sul Awst 12fed, oedd "Fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd." Pregethodd ychydig drachefn mewn angladd y dydd Iau canlynol, a chymerwyd ef yn glaf y nos hono. Parhaodd mewn poenau mawr hyd y dydd Mercher canlynol, pryd y bu farw. Claddwyd ef dan fwrdd y cymundeb yn nghapel Rehoboth. Gweinyddwyd ar ei gladdedigaeth gan T. Rees, Cendl, y pryd hwnw, H. Daniel, Pontypool, a D. Davies, New Inn.

Fel dyn, yr oedd Mr. Stephenson yn nodedig o wylaidd, hynaws, a dirodres. Talp o ddiniweidrwydd ydoedd. Tynai bawb a'i hadwaenai i'w garu a'i barchu, ond nid oedd neb yn ei ofni. Yr oedd ei dynerwch a'i garedigrwydd yn ddiarhebol. Nid oedd dim yn drahaus, haerllug, ac anfwyn yn ei dymer, ei agwedd, na'i eiriau. Mae rhai dynion nodedig o wylaidd ac addfwyn yn wrthddrychau diystyrwch gan bobl anfoesgar; ond nid felly efe. Er na ddywedai air garw wrth neb, ac nad oedd dim yn ei ymddangosiad a arweiniai neb i dybied ei fod yn ddyn gwrol, diofn, a phenderfynol, etto yr oedd ganddo gymaint o ddylanwad dros y dihyrod mwyaf difoes a meddw yn y gymydogaeth ag unrhyw ddyn yn yr holl fro. Dystawai twrf meddwon pan wnelai ef ei ymddangosiad, a thalai pawb, gwar ac anwar, barch iddo.

Yr oedd yn Gristion o dduwioldeb diamheuol, ac o'r cymmeriad mwyaf difrycheulyd. Bu yn nechreuad ei grefydd dan wasgfauon dirfawr yn nghylch ei gyflwr, a pharhaodd trwy ei oes i ddal cymundeb agos a'r Arglwydd. Tynerwch cydwybod, a phurdeb ymarweddiad oedd ei brif nodweddau fel Cristion, ac nid prudd-der wynebpryd a gorawydd am wthio siarad crefyddol i bob ymddyddan. Yn mlynyddau cyntaf ei fywyd crefyddol arferai dreulio nosweithiau cyfain mewn gweddi, a byddai yn gwneyd hyny ar amserau yn agos hyd ddiwedd ei oes. I'r ffaith ei fod yn dywysog gyda Duw, yr ydym yn ddiau i briodoli y dylanwad rhyfeddol oedd ganddo dros ddynion.

Yr oedd ynddo ryw fawredd fel pregethwr a'i cyfodai yn mhell uwchlaw y cyffredin, er nad oedd mewn un wedd i'w resu gyda phrif bregethwyr ei oes. Yr oedd mwy o ol darllen dynion a'u harferion ar ei bregethau, nag oedd o ol darllen llyfrau. Iaith yr aelwyd a arferai, ac er ei fod trwy hyny, i raddau, yn iselhau urddas gwasanaeth crefyddol, yr oedd y cwbl a ddywedai yn berffaith ddealladwy i'w holl wrandawyr. Byddai fynychaf am yr haner awr gyntaf o'i bregeth yn siarad yn lled wasgarog a dibwynt, ond cyn y diweddai byddid yn lled sicr o gael ganddo ryw ergydion agos a nodedig o darawiadol, ac os cai ychydig o hwyl byddai yn anarferol o effeithiol. Er nad oedd yn ganwr yr oedd ei lais yn beraidd a dylanwadol iawn.

Nid ydym yn barnu fod Mr. Stephenson yn feddianol ar gymaint o fedr i drafod a llywodraethu dynion ag y mae llawer yn feddwl.

Yr oedd yn graftus i adnabod dynion, ond yr oedd lawer yn rhy wylaidd ac ofnus i fod yn lywodraethwr medrus, ac y mae yn sicr y buasai ef a'r eglwys lawer gwaith wedi cael gofidiau dirfawr oddiwrth ddynion anhywaith, oni buasai ei fod mor ddedwydd a chael ei gylchynu gan nifer o ddiaconiaid mor alluog a rhagorol, nad oes un gweinidog yn Nghymru wedi cael eu rhagorach.

Mae hanes y dyn da hwn, o'i enedigaeth i'w fedd, yn un o'r enghraifftiau rhyfeddaf o ddoethineb a gofal Rhagluniaeth. Cafodd ei fwrw i'r byd yn faban diymgeledd—magwyd ef gan estroniaid, ond rhai tyner, crefyddol, a gofalus; bu yn llengcyn dieithr a diberthynasau, am flynyddau yn nghanol profedigaethau ofnadwy y gweithfaoedd; ond ymgysylltodd a chrefydd, a daliodd ei afael ynddi trwy bob profedigaeth; cafodd ei droi a'i drybaeddu gan siomedigaethau a thlodi, a'i wrthwynebu yn chwerw, gan hyd yn oed ddynion crefyddol, ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus; ond trwy y cwbl gweithiodd ei ffordd rhagddo nes dyfod yn un o'r gweinidogion mwyaf llwyddianus yn y Dywysogaeth. Gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw ein golwg ni."

Yn 1851, cyhoeddwyd cofiant helaeth i Mr. Stephenson, gan ei fab, wedi ei ysgrifenu yn alluog gan Mr. Jenkins, yn awr o Bentreestyll, a Mr. Evan Evans, Nantyglo.

Nodiadau

golygu
  1. Timpson's Church History of Kent, tudalen 337
  2. Rees's History of Nonconformity in Wales, tudalen 213. P. Dafydd's MSS.
  3. Rhad ras, neu lyfr profiad John Thomas, tudalenau 86, 87. Abertawy argraffwyd yn y flwyddyn 1810.
  4. Ysgrif Mr. D. S. Lewis yn y Diwygiwr am 1842, tudalen 847.
  5. Cofiant Mr. Stephenson, tudalen 52, &c.
  6. Cofiant Mr. Stephenson, tudalen 69, &c.