Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Trawsfynydd
← Jerusalem | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Maentwrog → |
TRAWSFYNYDD.
Yn y flwyddyn 1839 y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn mhentref Trawsfynydd; ac yn y flwyddyn ganlynol, prynwyd darn o dir gan Mr. Ellis Jones, Ddolwen, i adeiladu capel arno. Cyflwynwyd y tir drosodd i Meistri Griffith Roberts, Tyddynbach; Edmund Evans, Dolymynach; John Jones, Dolwen; David Lloyd, y Cigydd; a John Morris, Bryncelynog, fel ymddiriedolwyr. Galwyd y capel yn Ebenezer. Mae wedi bod mewn cysylltiad a Penystryd o'r dechreuad, hyd 1869, pan y rhoddodd Mr. W. G. Williams i fyny ofal yr eglwys yno, ond parhaodd yn weinidog yma hyd y flwyddyn hon, pan y symudodd i Seion, Rhymney, Mynwy; ac y mae yr holl eglwysi Annibynol yn mhlwyf Trawsfynydd yn awr yn amddifaid o weinidog.