Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1/Y Morfa
← Sardis, Farteg | Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1 gan Thomas Rees a John Thomas, Lerpwl |
Tabor, Maesycwmwr → |
Y MORFA.
Y Morfa y gelwir y rhan fwyaf o'r tir gwastad rhwng y Casnewydd a Chaerdydd. Mae y capel Annibynol, yr hwn a elwir capel Rhagluniaeth, yn mhlwyf Llansantffraid, rhwng cledrffordd Deheudir Cymru a'r môr, o dair i bedair milldir i'r de orllewin o'r Casnewydd. Yr oedd yn yr ardal hon rai Annibynwyr er's mwy na chwech ugain mlynedd yn ol, a byddai rhai o weinidogion yr enwad yn pregethu yn lled fynych yn eu tai. Yn Awst 1741, bu Mr. Henry Davies, o'r Cymar yn pregethu yn y Dreddu, yn mhlwyf Marshfield, ac yn nhy William John, yn mhlwyf Llansantffraid, ac y mae yn ymddangos fod pregethu lled gyson yn yr ardal y pryd hwnw. Wedi hyny collodd crefydd i raddau ei gafael yn y trigolion, oblegid pan gychwynwyd yr achos presenol yn y Morfa, yn 1826, nid oedd ond dau o aelodau gan yr Annibynwyr yn yr ardal, sef Mr. Isaac Harries, wedi hyny gweinidog y lle, a Mrs. James, gwraig Mr. Edward James, amaethwr cyfrifol, a thirfeddianwr. Bu ty Mr. James am flynyddau yn agored i gynal cyfarfodydd a lletya gweinidogion, a byddai Mr. Thomas, Penmain; Mr. Jones, Pontypool; Mr. Hughes, Groeswen, ac eraill, yn pregethu yn fynych yno flynyddau cyn adeiladu capel. Pan awd yn nghyd ag adeiladu, rhoddodd Mr. James ddarn cyfleus o dirdigon o le i'r capel a mynwent fechan, am bum' swllt y flwyddyn, dros 999 o flynyddau. Adeiladwyd addoldy bychan-digon mawr i ateb inifer y trigolion, am 230p., ac o'r swm hwn yr oedd 88p. 17s. 10c. wedi eu casglu erbyn dydd yr agoriad, Tachwedd 3ydd, 1826. O'r swm uchod yr oedd Mr. Edward James; Mr. Edmund James; Mr. Rees Davies, Casnewydd, ac eglwys y New Inn, wedi cyfranu 10p. yr un, a Mr. Isaac Harries, 6p. Pregethwyd yn agoriad y capel gan y Meistriaid E. Jones, Pontypool; D. Jones, Llanharan; W. James, Caerdydd; Evan Jones, Casnewydd; D. Davies, New Inn; Henry Jones, Llaneurwg, un o weinidogion y Methodistiaid; ac Evan Jones, Casbach, un o weinidogion y Bedyddwyr. Y Sabboth canlynol corffolwyd yno eglwys, gynwysedig o ddau aelod, sef Mr. Isaac Harries, a Mrs. James, ond yn mhen ychydig amser lluosogodd eu rhif i un-ar-ddeg. Wedi iddynt gynyddu i'r nifer hono, anogasant Mr. Isaac Harries i gymeryd ei urddo yn fugail arnynt. Cydsyniodd yntau a'u cais, ac urddwyd ef ar y 18fed o Fehefin, 1829. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Dr. Jenkin Lewis, Casnewydd; a'r Meistriaid E. Jones, Casnewydd; G. Hughes, Groeswen; D. Jones, Taihirion; T. Harries, Mynyddislwyn; D. Davies, New Inn; E. Rowlands, Pontypool; Rees Davies, Casnewydd, a Watkin Watkins, Pontypool. Parhaodd yn weinidog yma hyd derfyn ei oes, ac yr ydym yn sicr na chafodd un gweinidog mewn unrhyw oes na gwlad ei anwylo yn fwy gan ei bobl nag ef. Llwyddodd yr achos i gymaint o raddau dan ei weinidogaeth ag y gallesid disgwyl mewn ardal mor deneu a gwasgaredig ei thrigolion. Rhif yr aelodau yn nechreu y flwyddyn 1861 oedd 64, a'r gwrandawyr, mewn ychwanegiad at hyny yn 40, a'r ysgol Sabbothol yr un nifer. Yn 1862, yr oedd y cymunwyr yn 70 o rif.
Wedi marwolaeth Mr. Harries, dewiswyd Mr. Robert B. Williams, gynt o Aberafon, yn ganlyniedydd iddo, ac yno y mae efe hyd yn awr.
Nid ydym yn gwybod fod ychwaneg nag un o aelodau yr eglwys hon wedi cyfodi i bregethu, sef Mr. John Thomas, yr hwn a fu am rai blynyddau yn Awstralia, ac sydd yn awr newydd ddychwelyd i'r wlad hon.
COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.
ISAAC HARRIES, neu Isaac Morgan Harry, fel y galwai ei gymydogion ef, a anwyd mewn lle a elwir Twynycadnaw, yn mhlwyf Maesaleg, Mynwy, yn y flwyddyn 1782. Enw ei dad oedd Thomas Morgan Harry. Yr oedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon a defnyddiol yn Heol-y-felin, Casnewydd, er's mwy nag ugain mlynedd cyn geni eu mab Isaac. Bu farw y fam pryd nad oedd Isaac yn llawn dwy flwydd oed, ond bu fyw ei dad hyd 1829. Er yn blentyn i rieni duwiol, efe a dreuliodd y pum' mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd i rodio yn ol helynt y byd hwn, ond nid heb gael ei aflonyddu yn fynych gan ei gydwybod. Ar ol ymladd llawer ag argyhoeddiadau tueddwyd ef unwaith i fyned i wrandaw Mr. David Williams, o Ferthyr, yr hwn a gyhoeddasid i bregethu yn y gymydogaeth, a gafaelodd y gwirionedd yn achubol yn ei feddwl. Bu wedi hyn dros rai wythnosau mewn trallod meddwl dirfawr, ond o'r diwedd cafodd nerth i roddi ei hun i fyny i'r Arglwydd ac i'w bobl. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Heol-y-felin, Casnewydd, tua y flwyddyn 1807. Cyn gynted ag yr ymunodd a'r eglwys ymroddodd i fod yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei Arglwydd. Yn mhen rhai blynyddau ar ol ei dderbyn anogwyd ef gan yr eglwys i arfer ei ddawn fel pregethwr, a'r hyn y cydsyniodd ar ol llawer o ystyriaeth. Wedi bod am amryw flynyddau yn bregethwr cynnorthwyol derbyniol iawn yn ei fam-eglwys, a'r eglwysi cymydogaethol, cafodd ei urddo yn weinidog i'r gynnulleidfa fechan a gasglesid yn benaf trwy ei lafur ef ei hun ar y Morfa. Bu yn llafurio, fel y nodasom, yn y cylch hwn gyda derbyniad a llwyddiant hyd derfyn ei oes. Ni bu erioed yn ymddibynol ar yr hyn a dderbyniai oddiwrth yr eglwys am gynaliaeth ei deulu, ond dilynai ei orchwyl fel gweithiwr diwyd cyhyd ag y parhaodd ei nerth. Tra y gallodd ef ennill ei fara trwy chwys ei wyneb ni feddyliodd am gymell pobl ei ofal i gyfranu yn ol eu gallu at ei gynaliaeth, a dichon ei fod ef a hwythau wedi bod i raddau yn esgeulus ar y pen hwn, ac iddo gael teimlo mesur o anfantais yn ei henaint o herwydd yr esgeulusdod hwn. Pan yn deall fod ei amgylchiadau i raddau yn wasgedig, tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth darfu i ysgrifenydd y llinellau hyn, o hono ei hun, ysgrifenu at Drysorydd un o'r Funds i Lundain i ofyn am ychydig gymorth i'r gwr teilwng, a derbyniodd bedair punt iddo, a thyna yr unig arian a dderbyniodd yn ei fywyd o le o'r fath. Yr oedd y gwr da yn rhy wylaidd i son gair am ei anghenion with bobl ei ofal na neb arall. Pa fodd bynag trefnodd ei Dad nefol iddo gael digon i'w gario i ben ei daith, a bu farw heb fod yn nyled neb o ddim. Ar ol cael ei gyfyngu i'w wely, am rai wythnosau, bu farw, fel y bu fyw, mewn cymundeb hyfryd a'r Arglwydd, Awst 2il, 1862, yn 80 oed. Claddwyd ei gorff yn barchus wrth gapel y Morfa, a gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, New Inn; Mr. Daniel, Cefnerib; Mr. Jones, Rhydri, ac eraill.
Gorchwyl anhawdd iawn yw rhoddi darluniad cywir o gorff, meddwl, doniau, a nodwedd Isaac Harries i rai na welsant ac na chlywsant ef erioed. O gorff yr oedd yn lled dal-yn agos i chwe' troedfedd, teneu o gnawd, ond yn gadarn o wneuthuriad, o liw tywyll, ac o wynebpryd yn hytrach yn hagr, ond yr oedd y mwyneidd-der, y gwylder, a'r diniweidrwydd a ymddangosai yn ei ddau lygad yn gwneyd i fyny yn gyflawn am ddiffyg prydferthwch wyneb. Fel gweithiwr cyffredin, neu hen ffarmwr nodedig o wledig y gwisgai bob amser. Nid oedd dim yn offeiriadol yn ei ymddangosiad, ond yn gwbl i'r gwrthwyneb. O ran ei dymer yr oedd yn rhyfeddol o fwyn a charedig, ac or ddau yr oedd yn rhy wylaidd. Ni chafodd ddim manteision addysg yn moreu ei oes; dysgodd ddarllen ei Feibl a llyfrau Cymreig eraill, a thyna holl gyfanswm ei ddysgeidiaeth. Er iddo gael ei fagu yn agos i'r Casnewydd—tref sydd er's oesau yn fwy na haner Saesonaeg, ychydig neu ddim Saesonaeg a wyddai. Yr oedd yn gyfarwydd iawn yn ei Feibl, ac wedi yfed ei ysbryd, yn gystal a thrysori ei eiriau yn ei gof i raddau helaethach na nemawr a adwaenasom yn ein hoes. Fel pregethwr, yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun. Nid oedd yn debyg i neb yn ei ddawn, na neb yn debyg iddo yntau, ac etto nid oedd ei hynodrwydd yn tynu dim o sylw y gwrandawyr oddiwrth y gwirionedd a draddodai. Nid yn yr hyn a ddywedai yn gymaint ag yn yr eneiniad oedd ar ei eiriau yr oedd dylanwad mawr ei weinidogaeth yn gynwysedig. Byddai weithiau yn lled ddieffaith, ond brydiau eraill cariai y cwbl o'i flaen. Nid oedd un radd o fiwsig yn ei lais, ond byddai ar amserau yn ofnadwy o effeithiol. Mae yn anmhosibl rhoddi darlun byw o Isaac Morgan Harry ar bapur. Y rhai a'i gwelsant ac a'i clywsant yn unig a all ffurfio drychfeddwl cywir amdano. Bydd ei enw yn perarogli yn Mynwy, a rhanau o Forganwg, tra byddo y diweddaf o'i gydnabod yn fyw. Priododd yn y flwyddyn yr aeth at grefydd, a chafodd bedair o ferched, a bu tair o honynt fyw i weled claddu eu mam a'u tad. Yn awr, gorphenwn ein sylwadau ar hanes yr hen bererin hwn yn yr ychydig linellau a ysgrifenasom at Mr. Jones, awdwr ei gofiant, ychydig flynyddau yn ol: "Fel dyn, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diddrwg a anadlodd erioed; o ran galluoedd meddyliol, talp o ddiamond heb ei gaboli ydoedd; o ran ei dduwioldeb yr oedd yn seraph mewn corff dynol; fel pregethwr, yr oedd bob amser yn dderbyniol, ond rai prydiau llwyr amddifadai ei wrandawyr o'u hunanfeddiant; ac fel gweddiwr cyhoeddus, nid wyf yn cofio i mi erioed glywed neb yn gyffelyb iddo i gyfodi torf o ddynion i'r nefoedd, o ran teimlad, ac i dynu cawodydd o'r nefoedd i lawr ar ddynion."[1]