Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd/Y Traethawd
← Amseryddiaeth i'r Traethawd | Hanes Llangeitho a'i hamgylchoedd gan David Morgan, Llangeitho |
→ |
HANES
LLANGEITHO A'I HAMGYLCHOEDD.
Y MAE Eglwys Blwyfol Llangeitho yn sefyll yn nghantref Penarth, yn agos i ganol sir Aberteifi, mewn dyffryn tra phrydferth, yn Esgobaeth Ty-Ddewi, ac ar yr ochr ddëau i afon Aeron.
Yr ochr arall i'r afon y saif pentref Gwenfyl, a Chapel y Trefnyddion Calfinaidd, y rhai sydd yn mharcel Gwenfyl, plwyf Llanddewibrefi ; ond yr arferiad cyffredin yw galw yr Eglwys a'r pentref wrth yr un enw, sef LLANGEitho. Pellder Aberystwyth o Langeitho yw tuag 16 milltir i'r gogledd ; Trefgaron ar y tu dwyreiniol, oddeutu 4 milltir ; Llanbedr Pont Stephen ar y tu deheuol, tua 9 milltir ; ac Aberaeron ar y tu gorllewinol, tua 14 milltir. O'i hamgylch hefyd y mae amryw bentrefydd, megys Llanddewibrefi, Talysarn, Llanddewi Aberarth, Llannon, &c.
Llangeitho sydd air cyfansawdd, o Llan a Ceitho. Fe elwir Llan ar yr eglwys, yn nghyd â'r lle cysegredig (sef y fynwent) sydd o'i hamgylch; ond ystyr y gair Llan yw cauadle, fel per-llan, cor-lan, yd-lan, &c.
Sylfaenid lluaws o eglwysi yn foreu yn Nghymru, a rhoddid enwau eu sylfaenwyr arnynt, megys Llandeilo, oddiwrth Teilo; Llangeitho, oddiwrth Ceitho, &c. Yn ol tystiolaeth Bede, ymddengys mai eu dull o gysegru man i adeiladu eglwys arno oedd fel y canlyn:—Pa le bynag y bwriedid adeiladu lle i addoli arno, yr oedd person o dduwioldeb diamheuol yn cael ei ddewis i aros ar y fan hono am ddeugain niwrnod, yr hwn fyddai yn gweddio ac yn ymprydio dros yr amser a nodwyd;—yna yr oedd yn naturiol galw yr eglwys hono ar enw ei sylfaenydd.[1]
Cafodd eglwys Llangeitho ei sylfaenu a'i hadeiladu flyneddoedd lawer cyn iddi gael ei chyflwyno i Ceitho, oblegid yr oedd efe wedi marw flyneddoedd lawer cyn i hyny gymeryd lle; a phe buasai yn fyw, mae yn ddiamheu na fuasai yn foddlawn derbyn yr anrhydedd hwnw—nid chwennych clod yr oedd yr hen dduwiolion hyny, ond gwneuthur daioni oedd eu hamcan penaf.
Mab oedd Ceitho i Cynyr Farfdrwch, yr hwn a fu yn byw am amser yn Nghynwyl Caio, sir Gaerfyrddin. Mab oedd Cynyr i Gwron ab Cunedda Wledig, o hiliogaeth Beli Mawr, un o freninoedd yr hen Frutaniaid. Dywed Carnhuanawc mai enw gwraig Cynyr oedd Mechell, merch Brychan Brycheiniog. Yr oedd Ceitho yn un o chwech o frodyr, sef Gwyn, Gwyno, Gwynoro, Celynin, Ceitho, Y pump a Cai; a dywedir mai gefeiliaid oeddynt. blaenaf oeddynt seintiau, ac oddiwrthynt hwy y cafodd Pumsaint a Llanpumsaint eu henwau. Yr oedd Cai yn swyddog yn myddin Arthur, ac yr oedd hefyd yn frawdmaeth iddo. Un diwrnod, annghofiodd Cai ei gleddyf, ac aeth Arthur i'w geisio, ond methodd a'i gael; a'r canlyniad fu, iddo fyned a thynu y cleddyf o'r gareg, pan oedd pawb ereill wedi methu, a thrwy hyny iddo gael myned yn frenin.[2]
Yr oedd Ceitho yn byw rhwng y blyneddoedd 500 a 542. Dywedir ei fod yn y gymanfa hynod hono a gynaliwyd yn Llanddewibrefi yn 519, yn yr hon y pregethodd Dewi Sant yn erbyn Morganiaeth; ac iddo fyned oddiyno gyda St. Dyfrig i Ynys Ealli. Yr oedd Ceredig, brenin Ceredigion, yn frawd i Gwron, tadeu Ceitho, ac yr oedd yn gyfyrder i Dewi Sant. Yn fwy dealladwy, fe ddichon, fel y canlyn:—Ceitho ab Cynyr ab Gwron ab Canedda—Dewi ab Sandde ab Ceredig ab Cunedda. Ei gofwyl yw Awst 5.
Cafodd Eglwys Llangeitho ei chyflwyno i Ceitho rywbryd o fewn i'r seithfed ganrif; ond gan nas gwyddom pa bryd yn y ganrif hono, nís gallwn nodi pa frenin oedd yn teyrnasu ar Geredigion ar y pryd. Cawn enwau Seiriol a Brotheń yn teyrnasu o fewn y ganrif a nodwyd. Gellir gweled bellach fod cryn amser rhwng sylfaeniad yr eglwys gan Ceitho a'i chyflwyniad iddo.
Ar ganol y pentref, sef ar ben Parcel, y safai hen gapel Gwenfyl. Pa bryd y cafodd hwn ei adeiladu, nid yw yn hysbys; ond syrthiodd rywbryd yn yr 17eg ganrif. Dywedodd hen wraig wrthym, iddi hi glywed ei mam yn dywedyd fel y bu mewn priodasau ynddo. Rhaid ei fod wedi syrthio yn lled foreu yn yr 17eg ganrif, oblegid y mae yr hen wraig uchod wedi gweled tua 90 o flyneddau ar y ddaear. Y mae llawer yn fyw ag sydd yn cofio gweled cyfodi esgyrn dynol gerllaw i'r lle yr ydoedd, yr hyn sydd yn profi i gladdu fod yno,
Yn yr hen amser, gwelid nad oedd yr eglwysydd yn ddigon lluosog i gyfarfod ag angen y trigolion. Yr oedd rhai plwyfydd yn fawr, ac yn cyrhaedd hyd yn mhell, ac angenrhaid ddaeth i adeiladu capelau yn y cyrau pellaf. Cafodd amryw eu hadeiladu yn mhlwyf Llanddewibrefi, megys Gartheli, Betws Lleuci, Capel Gwenfyl, &c.
Fel y nodwyd, syrthiodd yr hen gapel rywbryd yn yr 17eg ganrif; ond nis gwyddom yn iawn paham nas cafodd ei adeiladu drachefn. Cafodd ei gyflwyno i Gwenfyl Santes,—nid yw yn hysbys pa bryd. Yr oedd Gwenfyl yn byw rhwng y blyneddoedd 433 a 464.[3] Yr oedd Gwenfyl hefyd yn un o bedwar o blant, sef Gwynau, Gwynws, Callwen, a Gwenfyl. Capel Gwynws yw Llanwnws, yn y Sir hon; a bernir mai efe oedd ei sylfaenydd. Y mae rhai o'r farn fod y ddau frawd a'r ddwy chwaer uchod yn blant neu yn wyrion i Brychan Brycheiniog; ond os nad oeddynt yn berthynasau mor agos, cyduna y rhan fwyaf eu bod wedi hanu o hono. Cofwyl Gwenfyl yw Tachwedd 1.
Nid ydym yn meddwl i Langeitho gael ei hynodi gan Dderwyddiaeth na Phabyddiaeth; ond os cafodd, gorwedd yr hanes mewn anghof. Sefyllfa y Mynachdy agosaf yma oedd tua 10 milltir i'r gogledd, yr hwn a elwid Ystrad Fflur; a'r Gwyryfdy agosaf oedd Llanllyr, tua 6 milltir i'r gorllewin, yr hon hefyd oedd gell o dan Ystrad Fflur, ac a berthynai i urdd y Lleianod Gwynion. Gan fod Llangeitho rhwng y ddau le a nodwyd, diamheu fod llawer o dramwy drwyddo o'r naill i'r llall.
Hefyd, nid oes genym hanes i Langeitho fod yn faes y gwaed pan fu y Rhufeiniaid yn ymladd â'r Cymry, neu pan fu y Cymry yn ymladd â'u gilydd. Er hyny, y mae yn hawdd genym feddwl fod ambell i Gymro twymgalon, pan yn amddiffyn ei wlad rhag gormes y gelynion, y rhai a adeiladent eu gwersylloedd ar hyd y wlad, yr hwn, wedi ei glwyfo, a chwiliai am loches ar y bryniau neu y bronydd gerllaw i dynu yr anadliad olaf. Ac os na ddeuwn o hyd i hanes am un gorchestwaith a gyflawnwyd yn y gymydogaeth hon, eto ni bu yn ol o ateb i'r ddiareb hono,
"Yn mhob gwlad y megir glew;"
oblegid dywed Aneurin, yn y Gododin, i "Ddeu gatki Aeron" ddianc o alanastra Cattraeth. Dywed, mewn lle arall, mai eu henwau oeddynt Cadreith a Chadlew.[4]
Oddeutu milltir a hanner i'r deau-ddwyrain o Langeitho y mae ffordd, yr hon a elwir Sarn Elen. Cyrhaeddai o Gaerfyrddin i Penallt, ger Machynlleth. Y mae ychydig olion o honi i'w gweled eto mewn amryw fanau. Yr oedd yn 80 o droedfeddi o led, a'i hechrau wedi eu gweithio o geryg, a'i chanol yn raean. Gelwid hi Sarn Elen, medd rhai, o barch i'r Frenines Elen, gwraig Cystenyn, 76 Amherawdwr Rhufain.[5] Ond gan fod gwersylloedd gan y Rhufeiniaid ar hyd y wlad, yn neillduol un ar y ffordd hon, y rhai a adeiladwyd ganddynt, a chan nas cafodd Cystenyn yr urddas amherodrol dan y flwyddyn 306, y mae yn hollol o le i feddwl iddi gael ei henw oddiwrth Elen. Barn ereill yw, mai llygriad yw Sarn Elen oddi wrth Sarn Lleon, neu Sarn y Lleng, oherwydd fod lleng Rufeinaidd yn aros yn Loventium. Beth bynag am hyna, mae yn amlwg ei bod o wneuthuriad Rhufeinaidd.
Fel y sylwyd, ar y ffordd uchod y safai yr hen dref Rufeinaidd Loventium, sef yn y fan lle saif y tyddynod Llanio Isaf a Llanio Uchaf yn bresenol. Mewn caeau perthynol iddynt cafwyd hen grochanau, arian, &c., oll o wneuthuriad Rhufeinaidd. Mewn cae cyfagos i'r lle blaenaf, yr hwn a elwir Caer Castell, deuwyd o hyd i ben adeilad, sylfaen yr hwn oedd yn mesur 150 troedfedd o hyd wrth 72 o led. Cafwyd yma hefyd dair o geryg; ar y gyntaf yr oedd y geiriau canlynol,—"Caii artis manibus primus;" ar yr ail, Overioni;" ac ar y drydedd, "Cohors secundæ Augusta fecit quinque passus . . . ."[6]
Tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, ac ar dyddyn a elwir Tymawr, yr oedd capel, yr hwn a elwid Capel Penrhiw. Y mae llawer o chwedlau yn cael eu dyweyd am dano, y rhai nid gwiw eu hadrodd heb brofion digonol iddynt; ond hyn sydd sicr, sef pan oeddid yn codi ceryg o'r hen fagwyr lle bu, cafwyd penglog mewn crochan yno, ac yr oedd y crochan o wneuthuriad hollol ddyeithr i'r edrychwyr. Dygwyddodd hyn er ys tua phymtheg mlynedd yn ol. Mae yn ddiamheu, pe buasid yn cloddio ychwaneg, y cawsid rhagor o bethau henafol. Dywedir iddo gael ei ddystrywio yn y flwyddyn 1106, gan Ithel a Madoc, y rhai oeddynt yn gwneyd y fath alanastra yn y sir hon y pryd hwnw. Cafodd Llanddewibrefi, yr hon sydd ar ei bwys, ei harbed ganddynt; a gallwn feddwl iddo yntau gael ei arbed hefyd.
Tua hanner milltir yn uwch i fyny, ar lan afon Teifi, y mae "Tomen Llanio." Gan nad oes son am dani fel castell Cymreig na Normanaidd, bernir iddi gael ei hadeiladu gan y Rhufeiniaid, oblegid yr oedd ganddynt lawer o'r cyfryw ar hyd lan Teifi, er gwilio neu gadw eu banifeiliaid.[7]
Yr oedd hefyd, tua hanner milltir i'r gogledd o Lan— geitho, gastell o'r enw Castell Odwyn; ac yn ol barn Meyrick,[8] yn mhlwyf Ceitho yr ydoedd. Yr oedd hwn yn un o brif gastelli'r sir, a cheir ei enw yn mhlith y 24 a nodir felly. Yn y 15fed ganrif, ei breswylwyr oeddynt Gruffydd Voel a Moythe, y rhai oeddynt arglwyddi. Y Gruffydd uchod oedd perchenog Gogerddan; ac o hono ef y mae y teulu presenol wedi hanu. Nis gwyddom pa bryd y cafodd y castell hwn ei adeiladu, na pha bryd y syrthiodd; ac nid oes dim o'i olion er profi pa le yr ydoedd.
Gerllaw i Gastell Odwyn y safai Glyn Aeron. Coffeir am dano fel hen drigle boreu. Ei breswylydd cyntaf oedd Ievan, mab i Gruffydd Voel o Gastell Odwyn; ac enwau y rhai canlynol oeddynt levan Lloyd, a Rhydderch, y bardd, yr hwn a briododd Maud, merch Gruffydd Grug. Yr oedd gan Rhydderch fab o'r enw Jenkin, yr hwn a briododd ferch Syr W. Clement, arglwydd Caron; ac yr oedd ganddo hefyd ferch a'i henw Llio, am yr hon canodd Dafydd Nanmor fel y canlyn:—
"Llio eurwallt, lliw arian,
Llewych mellt, ar y lluwch mån:
Mae ar ei phen seren serch,
Lliw rhuddaur, Llio Rhydderch,"[9] &c.
Tua thair milltir yn mhellach y mae Castell Ffiemys, yr hwn a adeiladwyd gan y Fflemingiaid, pan ar eu taith drwy y rhan hon o Gymru.
I'r gogledd-orllewin, drachefn, o Langeithio, y mae lle a elwir Crwnfryn, yr hwn sydd yn hen drigle. Cawn mai ei breswylydd cyntaf oedd Meyric Goch, a'r nesaf oedd Dafydd Llwyd Fongam.[10]. Yn hen amser yr oedd llawer o fynachdai ar hyd y wlad, a llawer o fynachod ynddynt. Yr oedd y cyfryw fynachod yn tra-arglwyddiaethu ar y trigolion, a chedwid y bobl mewn dygn anwybodaeth. Cymerai y mynachod hyn fantais ar eu hanwybodaeth; ac y mae llawer o bethau a luniwyd ganddynt heb lwyr ddiflanu hyd heddyw. Os credir llawer, y mae ysbryd neu fwbach ar ben pob heol, canwyllau cyrff yn ymlwybro tua'r fynwent bob amser o'r nos (ond paham na byddent y dydd felly?) Nis gall neb eu gweled ond y cyfryw a anwyd ar ryw amser penodol Clywir canu hefyd ac wylofain yn myned o dŷ cyn i un o'r teulu farw, a lloaws o bethau cyffelyb, y rhai nad oes ond ychydig iawn yn eu credu yn yr oes oleu hon.
Yr oedd rhywbeth yn hen eglwys Llangeitho yn dangos iddi fod yn lle o bwys unwaith. Yr oedd cysgodlen ddwbl yn gwahanu y ganghell oddiwrth gorff yr eglwys, y rhai oeddynt gynwysedig o dri bwa addurnedig bob un, a'r cyfan yn dangos cynllun manwl o'r gweithiau Gothaidd. Hefyd, yr oedd arnynt luniau adar ac ymlusgiaid digrifwedd. Yr oedd ar yr areithfa yr amseriad 1635.
Yn y flwyddyn 1819, adeiladwyd eglwys bresenol Llangeitho yn lle yr hen un,—y mae yn mesur tua 15 llath o hyd wrth tua 7 o led o fewn i'r muriau, ac yn y pen gorllewinol iddi y mae oriel. Oddi allan, ar y mur, y tu dwyreiniol, y mae beddfaen Mr. Rowlands, &c. Y beddfaen henaf a ganfyddwn yma sydd â'r dyddiad 1718 arno. Dengys cofres a gyhoeddwyd yn Nhy-Ddewi, yu y flwyddyn 1717, enwau gwahanol noddwyr eglwysi yr Esgobaeth, a gwelwn mai noddwyr eglwys Llangeitho ydynt rydd-ddeiliaid y plwyf.[11]
Enwau yr Offeiriaid diweddaraf a fuont yn gweinidogaethu yn eglwys Llangeitho, y rhai y deuwn o hyd iddynt, ydynt y rhai canlynol,—y Parchn. Daniel Rowlands, tad Daniel Rowlands y diwygiwr; yn nesaf, John Rowlands, mab y blaenaf, a brawd i'r olaf; eto, John Rowlands, mab Daniel Rowlands y diwygiwr; a Hugh Lloyd; Thomas Edwards; a Mr. Evans, yr Offeiriad presenol. Priodol sylwi yma, fe allai, na fu Daniel Rowlands y diwygiwr yn gwasanaethu ynddi fel Periglor, ond fel Curad yn unig, am 10 punt y flwyddyn.
Nid oedd yn mhentref Gwenfyl, er ys tua 70 o flyneddoedd yn ol, ond 4 o deuluoedd; ond erbyn heddyw y maent yn 35, ac oddeutu 150 o drigolion, yn grefyddol oll oddieithr rhyw 20 o honynt. Arweinia o'r pentref hefyd bedair o ffyrdd, un i Aberystwyth, y llall i Trefgaron, y llall i Lanbedr, a'r olaf i Aberaeron. Sefydlwyd ynddo hefyd Lythyrdy, Gorphenaf, 1853, yr hwn sydd yn llawer o gyfleusdra i'r pentrefwyr a'r wlad.
Y lle cyntaf y dechreuwyd addoli yn y pentref uchod gan y Trefnyddion Calfinaidd, (yr unig enwad sydd yma,) oedd mewn hen ysgubor perthynol i Meidrim, yr hwn oedd yn meddiant Mr. Rowlands y pryd hwnw. Yr oedd hyny yn y flwyddyn 1757. Yn y flwyddyn 1760, a thua thair blynedd cyn i Mr. Rowlands gael ei droi allan o'r Eglwys Sefydledig, yr adeiladwyd capel bychan o furiau pridd â thô gwellt, 10 llath o hyd wrth 6 o led. Aeth y capel blaenorol yn rhy fach; ac yn y flwyddyn 1764, adeiladwyd un drachefn 45 o droedfeddi ysgwâr o fewn i'r mariau. Yr oedd y capel diweddaf yn cyd-redeg a'r cyntaf yr oedd ei dalcen yn agos i'r ffenestr sydd rhwng y ddau ddrws i'r capel presenol. Yr oedd iddo hefyd ddwy nen, cyplau y rhai a orphwysent 'ar bedair o golofnau ceryg, a chafn plwm i gario'r dwfr rhwng y ddau dŷ. Yr oedd iddo hefyd bedwar o ddrysau, un yn mhob talcen i bob un o'r ddwy ran o'r tŷ. Gelwid y ddau ddosbarth o'r ty, "Y ty nesa'r pwlpud" a'r "tỷ nesa'r allor," oblegid yr oedd y pwlpud yn un, a sedd y cymundeb yn y llall. Gelwid y pedwar drws wrth yr enwau "Drws y defaid" a'r "Drws côch," y rhai oeddynt i'r tŷ nesaf i'r pwlpud, "a Drws yr allor" a Drws y geifr," y rhai oeddynt i'r tŷ nesaf i'r allor. Yr oedd drws bychan i fyned oddiallan i'r pwlpud, ac nid oedd un lle arall i fyned i'r pwlpud ond drwy hwnw. Pan orphenid pregethu ar Sabbath y cymundeb, deuai yr Offeiriad allan drwy y drws bychan hwnw, ac elai o gwmpas y tŷ drwy ddrws yr allor i'r "allor;" a byddai y cymunwyr, ar ol derbyn y cymun, yn cilio allan, er mwyn i ereill gael lle, ac elent adref, oherwydd fod eu ffyrdd yn mhell.
Adeiladwyd y capel presenol rhwng y blyneddoedd 1813 a 1815; y mae yn mesur tuag 20 llath o hyd wrth 12 o led, oddifewa i'r muriau, ac amgylchynir ef âg oriel, oddieithr y talcen dwyreiniol. Costiodd y capel ei hunan tua £2000—addawyd ato mewn un society, cyn gwahanu yr hen gapel, £864. Yn y flwyddyn 1848, adeiladwyd tŷ i'r capel, yr hwn sydd dy hardd. Priodol, fe allai, fyddai sylwi yma, fod llawer wedi gadael y capel hwn er y dyddiad uchod, a ffurfio eu hunain yn gangenau ar eu panau eu hunain, megys Bethania, Bwlchyllan, Penuwch, yn y rhai, rhyngddynt, y mae tua 600 o aelodau. Y nifer sydd yn bresenol ar ol yn yr hen gapel ydynt tua 500.
Yn y flwyddyn 1600, yr oedd nifer o Bresbyteriaid neu Annibynwyr yn ymgasglu i weddio a phregethu mewn tyddyn tua millir i'r dwyrain o Langeithio, o'r enw Llwynrhys, a hyny ar hyd nos, rhag ofn cael eu hyspeilio a'u carcharu. Yr oedd yn byw yno hefyd y pryd hwnw gynghorwr o'r enw Dafydd Jones, tad y Parch. Dafydd Jones, Llanbadarnfawr, un o'r ddwy fil Offeiriaid a drowyd allan o Eglwys Loegr yn amser Charles II.; ac yr oedd y diweddar Mr. Peter Davies, Glyn, yn y bumed llinach o Dafydd Jones, Llwynrhys. Yr oedd cyrchu i Llwynrhys o Rhydfendigaid, Cellan, Cilcenin, &c. Yn y flwyddyn 1689, daeth Deddf y Goddefiad; a'r pryd hwnw, mae'n debyg, yr helaethwyd tŷ Llwynrhys—y rhan hono o'r adeilad a elwir "y croes," a hyny ar draul y gynulleidfa; a pharhaodd yn lle o addoliad am oddeutu 60 mlynedd. Wrth helaethu y ffenestr, er ys ychydig o flyneddoedd yn ol, cafwyd bathodyn yn y waal, a dyddiad Charles II. arno. Tybir mai eiddo mab Dafydd Jones ydoedd, yr hwn oedd yn ngwasanaeth y Brenin ar y pryd hwnw fel milwr; ac oherwydd iddo enill ffafr y Brenin, iddo gael breinteb ganddo i'w dad bregethu, ar yr amod iddo bregethu yn ei dy ei hun yn unig.[12]
Wedi marw Mr. Jones, cododd Duw wr boneddig, perchenog llawer o dir, o'r enw Philip Pugh, i fod yn weinidog iddynt. Yn y flwyddyn 1753, adeiladwyd capel bychan, à thô brwyn iddo, o'r enw Llwynpiod, (cafodd ei enw oddiwrth y ffermdy y safai arno,) a symudwyd yr eglwys o Llwynrhys iddo. Adeiladwyd capel bychan arall yn Blaenpenal, cartrefle Mr. Pugh. Y ddau gapel a adeiladwyd ar draul Mr. Pugh ei hun. Safai capel Blaenpenal ger y ffermdy a elwir Hendref, ac yr oedd yn dŷ certi yn y flwyddyn 1823. Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr tanllyd iawn, yn ateb i'r oes yr oedd yn byw ynddi i'r tipyn; ond nid pregethu yn unig yr ydoedd,—yr oedd hefyd yn ymdrechgar i egwyddori yr ieuenctid—yn gweithio allan egwyddorion yr Ysgol Sabbathol, ond nid yn hollol yn y dull presenol, fe ddichon. Er ya tua o 40 i 45 o flyneddoedd yn ol, yr oedd dyn hen iawn o Gymro yn gorwedd mewn elusendy yn Llundain, a gweinidog o Gymru, oedd y pryd hwnw yn ieuanc, a'r hwn sydd eto yn fyw,[13] a aeth i ymweled åg ef. Cafodd yr hen wr yn hyddysg iawn yn y Bibl, ac yn deall pynciau athrawiaeth gras yn well na nemawr o'r werin. Gofynodd iddo, "pa fodd y daeth mor gyfarwydd yn y Bibl, ac yntau wedi cael ei fagu mewn oes pan nad oedd ond ychydig o Fiblau i'w cael?" "O!" meddai yntau, "Mr. Pugh anwyl a'm dysgodd, pan oeddwn ieuanc; ei hyfrydwch ef oedd cateceisio yr ieuenctid; a chydag ef yn Blaenpenal, sir Aberteifi, y dechreuais grefydda." Mae yn bur debyg mai yr hen bererin uchod oedd y diweddaf o ddysgyblion Mr. Pugh ar y ddaear.
Yn y flwyddyn 1718 y ganwyd y bythgofus Daniel Rowlands, yr hwn a fu yn fendith i filoedd. Yr oedd llawer o grefyddwyr gau Jones a Pugh, a lluawa wedi eu hegwyddori ganddynt cyn codi Mr. Rowlands; ond dylid cofio, er hyny, mai rhan fechan o'r trigolion oedd felly— yr oedd gwerin fawr y boblogaeth yn aros mewn tywyllwch, ofergoelion a gwag—chwareuon yn ffynu; ac ar y bryn uwchlaw eglwys Llangeitho y gwelid tyrfaoedd yn ymgasglu ar ol y gwasanaeth boreuol a gynelid yn y Llan ar foreu'r Sabbath, er traethu chwedlau, chwareu, &c. Yr oedd y wlad yn llawn drygioni,—cymylau duon anwybodaeth oedd yn fagwraeth i'r cyfan. Felly hynodwyd gweinidogaeth Rowlands, drwy fod yn offerynol i godi dosbeirth nad oedd Jones na Pugh wedi eu cychwyn o'u tai.
Ond fel y coffäwyd, yr oedd aml i hen bererin, ac ambell i hen gynghorwr yn y cyfnod blaenorol. Cof genym glywed adrodd am un wrth ddyfod adref o'i daith bregethwrol dros fynydd Llyn Aeddwen,—cyfarfu â lluaws o fechgyn, a gofynodd iddynt, "B'le buoch chwi, fechgyn, ar y Sabbath? "Buom," oedd yr ateb, "yn cyfarfod bechgyn
er ymgodymu, ond y diwedd fu ymladd." "A ddarfu i chwi gario'r battle, fechgyn?" (Gofynai yr hen wr y frawddeg olaf gydag arwydd yn ei wedd ei fod yn teimlo dawr yn eu llwyddiant.) "Do," oedd yr atebiad. Gyda'r gair, yr oedd gwedd yr hen wr yn cyfnewid ; ac fel pe buasai y Ilifddorau wedi eu cyfodi er gollwng y llifeiriant ffrochwyllt trwodd, gwaeddai, "Diolch !" nes oedd y bryniau cwmpasog yn diasbedain, a'r bryniau yn adsain drachefn, "diolch," fel pe buasai natur yn cyduno a'r hen wr yn llwyddiant y bechgyn, er mai y Sabbath ydoedd. Nid oedd neb, ar a wyddom ni, yn amheu duwioldeb yr hen bererin hwn, ond dengys yn mha oes yr oedd yn byw ynddi.Wedi teimlo nerth gweinidogaeth Rowlands gartref, y canlyniad fu i son mawr fyned am dano hyd yn mhell, nes codi cyffro mewn ardaloedd pellenig am gael ei glywed. Y pryd hwn yr oedd yn pregethu y ddeddf yn ei grym, fel y dywedodd un gwr, "Yr oedd yn pregethu fel yr oedd yn teimlo; ac yr oedd y pryd hwnw yn gruddfan o dan ofn deddf droseddedig—wedi ei glwyfo gań saethau arfogawl y Duw digiedig." Felly,
"Aeth y sŵn dros fryniau Dewi,
Megys Mam yn llosgi llin,
Nes dadseinio creigiau Towi,
A hen gapel Ystradffin."
Ni pharhaodd Mr. Rowlands i bregethu mor danllyd ag y mynegwyd ond tua dwy flynedd ar ol ei ddeffroad, oblegid cafodd ryddhad i'w enaid-cafodd drugaredd, a phregethodd hi i ereill.
Yr amser hwn y dechreuwyd cadw society yn hen eglwys Llangeitho. Ar ol diwedd y bregeth un tro, dywedodd Mr. Rowlands ei fod yn dymuno i holl benau teuluoedd ddyfod i'w gyfarfod ef i'r eglwys y Mercher canlynol, erbyn 12 o'r gloch. Yr oedd llawer o synu a dyfalu pa beth oedd yn ei wneuthur â hwynt; ond yno yr aethant, i gael gweled. Ar ol myned yno, ei neges yn benaf oedd eu hannog i godi addoliad teuluaidd. Llwyddodd gydag amryw i wneyd hyn, ond yr oedd yn beth mor ddyeithr, fel y galwent fyned ar ei gluniau "yn fyned ar eu traed a'u dwylaw." A mawr fu'r drafferth mewn ambell deulu i gael gan y plant a'r gwasanaethddynion i wneuthur felly, tra fyddai y pen-teulu yn gweddio. Cynghorodd hwynt i ddyfod yn nghyd y Mercher canlynol drachefn; a phan ddaethant, rhoddodd gynghorion cyffredinol iddynt mewn perthynas i fyw yn dduwiol. Dylid cofio mai i'r penau teuluoedd y dechreuwyd y society gyntaf; ond nid hir y bu cyn cael ei gwneyd yn agored i bawb a fyddent mewn trafferth am eu cyflwr.
Amgylchiad hynod mewn cysylltiad a Llangeitho oedd yr oedfa ryfedd hono y buwyd o 11 o'r gloch y boreu dan 5 o'r gloch y prydnawn yn yr eglwys. Yr oedd pawb wedi cael eu meddiannu gan ysbryd a nerth y gair, fel nad oeddynt yn deall iddynt fod yno dros awr. Pan orphenodd Mr. Rowlands, ac iddynt fyned allan, gwelent fod yr haul ar fachludo. Nid oedd dim gwaeddi a moliannu yn yr oedfa hon. Amgylchiad hynod arall oedd i'r oriel dori ar amser yr oedfa. Yr oedd yr oriel hono uwchben y ganghell, yn wastad fel llofft, ac yn un dra isel, fel nad oedd fawr uwch na phenau y rhai oeddynt dani. Yr oedd wedi ei gwneuthur o ddau hyd coed, a thrawst yn y canol. Un hyd coed, sef yr un nesaf allan, a dorodd; safodd y gweddill, a bu i fyny tra fu yr hen eglwys yn sefyll. Trwy fod drws yn myned allan o'r ganghell, ac i luaws fyned allan drwyddo, ac i ereill ymwasgu tua phen arall yr eglwys, diangodd pawb heb i neb gael rhyw lawer o niwed. Clywsom am un person oedd ar yr oriel ar y pryd, ac ar y rhaniad lle y torodd,—aeth y darn oedd o dan un droed i lawr, a safodd y darn oedd dan y llall, cafodd yntau afael â'i law mewn trawst o'r gronglwyd, a safodd i fyny ar un droed, gan afaelu â'i law. Bu tori yr oriel yn un o'r achwynion yn erbyn Mr. Rowlands, pan y'i tröwyd ef allan o Eglwys Loegr, a haerid mai afreoleidd—dra y bobl fu yr achos o hyny,— ond nid gwir hyny; hefyd, ei fod yn tynu y bobl yno o blwyfau ereill i neidio a dawnsio yn yr eglwys. Bu Mr. Rowlands yu hir yn yr eglwys wedi tori yr oriel.
Y pryd hwn hefyd byddent yn cyrchu o bob cŵr o Gymru i Langeitho. Byddent yn cychwyn o Forganwg nos Wener, a cherddent drwy'r nos i fod yma erbyn y "cwrdd parotoad" ddydd Sadwrn. Yr oeddynt yn dwyn bwyd gyda hwynt i'w fwyta wrth fyned a dyfod; ond tra fyddent yn Llangeitho, yr oeddynt yn cael eu bwyd a'u llety am ddim. Wedi bod yn y cymundeb boreu Sabbath, cychwynent yn lluoedd drwy Landdewibrefi i'r mynydd hyd y Post—gwyn, rhwng Bryacaregog a Bronbyrddau. Yn y fan hono, elai dau neu dri i weddi, ac ymwahanent dan ganu, rhai tua Phontrhydybere, ac ereill tua ffordd Cilycwm, a byddent gartref rywbryd boreu dydd Llun.
Deuent hefyd o sir Gaernarfon, &c., ar yn ail fis, oherwydd pellder y ffordd. Os byddai yr hin yn ffafriol, hurient gwch pysgota i'w trosglwyddo o Aberdyfl i Aberystwyth, a chychwynent ddydd Gwener. Ond os i'r gwrthwyneb y byddai, cychwynent ddydd Iau ar eu traed dros y tir drwy Abermawddwy[14], ac yr oedd cytundeb rhyngddynt ag ereill i gyfarfod erbyn 9 o'r gloch boreu dydd Sadwrn wrth ryw ffynon yn Llangwyryfon. Wedi iddynt fwyta bara a chaws, ac yfed o ddwfr y ffynon, ac i ddau neu dri fyned i weddi, cychwynent yn lluoedd i Langeitho erbyn canol dydd ddydd Sadwrn. Nid rhyfedd fod y fath bobl yn cael J fath wledd wedi gwneyd y fath aberth, gan eu bod mor llawn o grefydd ar hyd y daith.
Yn mhlith y lluaws ymwelwyr âg yma yn y flwyddyn 1748, canfyddwn enwau Iarlles Huntingdon a'i dwy ferch, yn nghyd â'r Arglwyddesau Anne a Frances Hastings.
Nid oedd oedfa yn cael ei chadw gan y Methodistiaid ar hyd y wlad o amgylch ar "Sabbath cwrdd mawr" ond yn Llangeitho yn unig. Buasai cynal cyfarfod gweddi ar yr awr hono yn sir Gaerfyrddin yn tynu cerydd eglwysig, os nad diarddeliad. Gweler hanes bywyd Mr. Rowlanda, gan y Parch. John Owen, a "Methodistiaeth Cymru,” gan y Parch. John Hughes.
Heblaw Mr. Rowlands, bu yn Llangeitho hefyd amryw o weinidogion ereill, yn nghyd â chynghorwyr. Wedi marwolaeth y Parch. Philip Pugh, daeth un o'r enw Thomas Gray i ofalu am eglwysi Abermeurig a Llwynpiod. Yr oedd hwn yn bregethwr call, ac yn ddyn duwiol iawn. Yr oedd yn Annibynwr pan ddaeth i'r gymydogaeth hon gyntaf; ond oherwydd ei serch neillduol at Mr. Rowlands, trodd ef a'r ddwy eglwys yn Fethodistiaid.[15] Hefyd, yma y bu Mr. Williams, Lledrod, yn llafurio am y rhan olaf o'i oes. Yr oedd yn llanw lle uchel yn meddyliau ei gyfeillion a phawb; a chwynai y digrefydd yn gystal a'r crefyddol oherwydd ei golli pan fu farw Enwau y cynghorwyr oeddynt William Richard Llwyd, John Williams, neu Shon 'Sgubor, John Jones, Thomas Jenkins, Evan Evansa, neu Evan Tanner, &c. Yr oedd y rhan fwyaf o'r hen gynghorwyr hyn yn danllyd iawn wrth bregethu, a gallesid ysgrifenu fel arwyddair ar eu talcenau, "Mynydd Sinai yn Arabia," oblegid pregethu y ddeddf y byddent y rhan amlaf.—Dechreuodd John Williams bregethu yn y dull canlynol, Aeth gyda W. R. Llwyd, os ydym yn cofio yn iawn, ar daith drwy un o siroedd y deau i ddechreu tipyn o'r cwrdd, fel y dywedir; ond oherwydd rhyw amgylchiad, gorfu ar W. R. Llwyd ddychwelyd ar hanner y daith, a dywedodd Shon yr âi ef i'w gorphen, i gael dyweyd nad oedd Mr. Llwyd yn dyfod. Y canlyniad fu, iddo esgyn grisiau'r pwlpud, a phregethu yn danllyd y gweddill o'r cyhoeddiad. Ac erbyn dychwelyd adref, nid Shon mohono mwyach, ond Mr. J. Williams.
Gofynwyd iddo unwaith pa fodd y pregethai ar y pwnc o gyfiawnhad. "Wel," meddai yntau, "fe ddywedaf wrthynt," sef wrth y bobl, "os na chânt eu cyfiawnhau, y cant eu damnio,—a shwt arall y pregethir arno?" Ar ddiwedd yr oedfa, pwy bynag fyddai'n pregethu, os byddai John Williams o hyd, efe roddai y gair hymn allan ar ddiwedd y bregeth. Un tro rhoddai y canlynol,
"Gadawn y byd ar ol,
Y byd y cawsom was," &c.
Ond wrth roi y darn olaf allan yr ailwaith, annghofiodd y gair, a'r pryd hwn aeth Mr. John Williams yn Shon y dyddiau gynt; ac yn hytrach na gadael y gair hymn heb ei orphen, penderfynodd roddi dernyn wrtho, cymhwys neu beidio, a dywedodd,
"A thyna oedd ei amcan ef,
Ein dwyn o'r byd i'w deyrnas nef."
Prif hynodrwydd John Williams oedd, ei fod yn weddiwr tra hynod. Unwaith, dywedai Mr. Williams, Lledrod, wrtho, am fyned i weddi. Dywedodd yntau, "Diolch yn fawr i chwi, Mr. Williams bach, at waith da yr ydych yn fy nanfon bob amser," —a chyda'r gair yr oedd yn y nefoedd, a'r nefoedd y fynyd nesaf yn gwlawio ar y dorf.
Yr oedd Evan Evans yn bregethwr tanllyd iawn hefyd. Pan y byddai Evan yn yr hwyl, byddai yn dra thueddol o godi ei law at ei dalcen, ac hefyd yn dra thueddol´o dywallt brawddegau Saesoneg yn ddiarbed ar ei wrandawyr. Nid oes genym reswm dros hyny, ond mai felly yr oedd. Un o'r rhai a ddefnyddiai yn aml oedd y canlynol,—"Compel them to come in." Dro arall, pan oedd un o'r hen gynghorwyr yn pregethu, ac yn gwneyd sylw mewn rhyw ymadrodd ar y pysgodyn a lyncodd Jonah, dywedai, "yr oedd ei ddannedd fel y mysedd i." "Na," meddai rhywun gerllaw, “pe dywedasai eu bod yn debyg i gamau cwpwl, buasai yn nes i'w le o lawer." Y mae coffadwriaeth yr hen gynghorwyr hyn yn anwyl iawn genym; er fod eu cyrff yn y ddaear, heddwch i'w llwch, y maent o ran eu heneidiau yn y nefoedd oll, mae'n ddiamheu genym.
Cafwyd yma hefyd lawer o ddiwygiadau crefyddol, o ba rai dygwyddodd saith yn amser y Parch. Daniel Rowlands. Y cyntaf a dorodd allan yn Eglwys Llangeitho, pan oedd Mr. Rowlands yn darllen y geiriau hyny, "Trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd," &c. Yr ail, mewn cyfarfod gweddi. Y trydydd, yn y flwyddyn 1781, yn y capel, a'r hwn a elwir "y diwygiad mawr." Ond heblaw rhai a gymerasant le yn ei amser ef, bu rhai ereill drachefn. Y cyntaf yn 1790, yn mhen tua mis ar ol marwolaeth Mr. Rowlands. Y llall yn 1796. Yn 1804, un drachefn. Tua'r Pasg, 1811, un eto. Un arall 1812. Yn 1824, un grymus iawn. Yn 1832, ar ddydd olaf y Gymdeithasfa, pan oedd y Parch. W. Evana, Tonyrefail, yn pregethu oddiar y geiriau hyny, "Gwyn fyd preswylwyr dy dy," &c., dechreuodd un drachefn.[16] Yn ngwanwyn y flwyddyn hon (1859) torodd diwygiad grymus allan yn y sir hon; a chlywir sain cân o fewn murian capel Llangeitho-y fan Ile bu tyrfaoedd Rowlands yn moliannu, clywir wylofain y genedlaeth hon. Ymunodd a'r eglwys yn y capel tus 200 yn y diwygiad hwn, heblaw y rhai sydd wedi ymuno yn yr Eglwys Sefydledig.
Bu y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cael ei ddarllen bob mis yn yr hen gapel, ac un o'r blaenoriaid, Dafydd Evan Hugh, yn llanw lle clochydd. Llwyddwyd i'w droi ymaith drwy roi bechgyn i adrodd pennodau o'r Testament Newydd yn ei le. Cyfnod pwysig arall yn ei gysylltiad â Llangeitho oedd, urddo gweinidogion heb fod yr urdd yn Esgobawl. Safodd yr hen bobl yn groes i hyny, a dyna oedd yr achos i'r Gymdeithaafa fyned i Landeilofawr y flwyddyn hono, sef 1811. Gwir iddynt daflu fel esgus y buasai lease y capel yn cael ei pheryglu, ond esgus yn unig oedd. Yr oedd y lease wreiddiol ar goll yr amser hwn, a gwnaed un newydd o 99 o flyneddau yn lle 999; ond cafwyd y wreiddiol cyn hir yn Llanymddyfri. Ar ol urddo, gwrthodai yr hen bobl drachefn gymeryd y cymun gan neb ond rhai o'r Urdd ESgoBawl. Daeth cyhoeddiad y Parchn. T. Charles, Bala, a Dafydd Rees, Llanfynydd, yno yr un Sabbath. Penderfynodd yr hen bobl i Mr. Charles gael cyfranu, oherwydd ei fod o'r urdd Esgobawl, ond na chai D. Rees; ond gwrthododd Mr. Charles, ac aeth â'r peth dan sylw y Gymanfa, a gorfu iddynt hwythau ymostwng. Y cyntaf a gyfranodd iddynt yn y drefn newydd oedd y Parch. E. Richard, Tregaron. Tywalltodd Duw ei Ysbryd mor nerthol y tro hwn, fel nad ynganasant un gair yn ei erbyn byth mwy.
Tua 1800, daeth Offeiriad i Cilpyll o Bristol, o'r enw John Williams, a dechreuodd sefydlu ysgol er dysgu darllen y Bibl ar hyd y gymydogaeth—dyna ddechreuad yr Ysgol Sabbathol yn y gymydogaeth hon. Bu Dafydd Evan Hugh hefyd yn llafurus iawn gyda'r ysgol. Ar ei al ef cymerodd Mr. D. Jones, Dolebach, y gorchwyl mewn llaw, yr hwn sydd yn fyw eto. Yr oedd Mr. Jones hefyd wedi bod yn yr ysgol gyda'r ddau flaenorol, ac oherwydd hyny gelwid ef yn Chaplain Dafydd Evan Hugh. Un dylanwadol iawn hefyd gyda'r Ysgol Sabbathol oedd y diweddar Mr. Davies, Glyn, a bu ei farwolaeth yn golled fawr i'r sir.
"LLANGEITHо—dyma lanarch hardd,
Gall bardd i dawel orphwys,
A gofyn gyda theimlad llon,
Ai hon yw gardd Paradwys?"
ARGRAFFWYD GAN P. WILLIAMS, ABERYSTWYTH.
Nodiadau
golygu- ↑ Rees's Welsh Saints, p. 21.
- ↑ Hanes Cymru, gan Cernhuanawc, t. d. 263.
- ↑ Rees's Welsh Saints, p. 153.
- ↑ Hanes Cymru, gan Carnhuanawc, t. d. 242.
- ↑ Meyrick's History of Cardiganshire, p. x.
- ↑ Meyrick's History of Cardiganshire, p. 272.
- ↑ Ibid, p. xii.
- ↑ Meyrick's History of Cardiganshire, p. 270.
- ↑ Ibid, p. 300.
- ↑ Ibid, p. 279
- ↑ Meyrick's History of Cardiganshire, p. 40.
- ↑ Gwel hanes mab D. Jones yn y Geiniogwerth, Cyf. IV., t. d. 256.
- ↑ Y Parch. E. Rowlands, gweinidog yr Annibynwyr yn Pontypool.
- ↑ Abermawddach / Abermaw
- ↑ Gwel hanes Mr. Gray yn y Gelniogwerth, CyL IV., t. d. 209.
- ↑ Methodistiaeth Cymru," Cyf, II., t, d. 17.