Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog/Talsarn
← Bwlan | Hanes Methodistiaeth Arfon-Clynnog gan William Hobley |
Rhostryfan → |
TALSARN.[1]
EGLWYS Talsarn ydoedd yr ail gangen o Lanllyfni, sef y nesaf ar ol Brynrodyn. Yn rhyw ystyr y mae gwreiddiau eglwys Talsarn yn yr ysgolion a ymganghennent o ysgol Llanllyfni. Aelodau yn Llanllyfni oedd y proffeswyr, ac yn yr ystyr hwnnw fe hanodd Talsarn o Lanllyfni. Y mae math ar goed y tŷf eu canghennau at i lawr, gan wreiddio yn y ddaear, a thyfu drachefn i wreiddio o'u canghennau eto, ac felly am ymhell o ffordd, nes ymestyn yn fath ar bontydd coediog, hardd, dros dir lawer. Ac yn y dull hwnnw yr ymganghenodd, yr ymwreiddiodd, ac y tyfodd drachefn Achos yr Arglwydd ymhlith y Methodistiaid yn y fro hon.
Saif pentref Talsarn yn Nant Nantlle. Y pentref a rydd ei enw i'r capel. Y mae'r pentref a'r capel yn gysegredig, nid mewn enw, ond yn nheimlad Cymru oll, i goffadwriaeth John Jones, y blaenaf o'r holl wyr a ddug yr enw hwnnw. Mae'r glyn yn ychwaneg na phum milltir o hyd, ac yn cynnwys rhannau o bedwar o blwyfi, sef Beddgelert, Llanllyfni, Llandwrog a Chlynnog. Y pen agosaf i Beddgelert sydd is esgeiriau gorllewinol y Wyddfa. Pentref Talsarn sydd oddeutu saith milltir o Gaernarvon. Fe gynwysai yn 1861 oddeutu 250 o dai, a phoblogaeth o 1160. Pan symudodd John Jones yma fe ddaeth o ganol clogwyni i ganol clogwyni, a'i fangre bellach ydoedd "brenines dyffrynoedd gwlad Cymru."
Cyn sefydlu eglwys yma byddid yn cael pregeth ar nos Sadwrn yn y Gelli ffrydau, ac yn y Ffridd fore Sul, yn fwy neu lai cyson. Arweinid y pregethwr fore Sul o Lanllyfni gan Robert Griffith Bryn Coch. Daeth yr awydd yn gryf am gapel i'r ardal hon. Nid hawdd oedd cael tir i'r perwyl hwnnw. Catrin Roberts Coedmadoc, nain Griffith Williams, y goruchwyliwr ar chwarel Talsarn, gymhellodd ei mab i eiriol am dir, a chafwyd ef ar brydles o 99 mlynedd am gini y flwyddyn. Adeiladwyd y capel ar lanerch ddymunol yngolwg y naill ben a'r llall o'r Nant. Erbyn hyn mae'r lle y safai'r capel a'r tŷ capel arno, ynghyd â siop John Jones, wedi ei gladdu dan y domen rwbel.
Deuddeg llath wrth naw oedd mesur y capel. Cafwyd y llechi toi gan Griffith Jones. Adeg farwaidd ydoedd ar y fasnach lechi, y cyflogau yn fychain, a'r trethi yn drymion, ar ol tymor y rhyfel- oedd. Erbyn 1826 yr oedd y ddyled yn £300 eto, ar ol pob ymdrech i'w dileu.
Awst, 1821, yr agorwyd y capel, ac y ffurfiwyd yr eglwys. Pregethwyd ar yr agoriad gan John Roberts Llangwm, James Hughes Lleyn, Thomas Pritchard Nant, Robert Dafydd Brynengan, a Richard Williams Brynengan. Yr oedd y bregeth gyntaf yn y capel eisoes wedi ei thraddodi gan Emanuel Evans Môn. Dyma restr y rhai a aethant o Lanllyfni i Dalsarn: Richard a Mary Davies Gelli, Mary Griffith Nantlle, Jane Griffith Ffridd, Gwen Griffith Tŷ coch, Elinor Owen Gwernor, Robert ac Ann Jones Tanrallt, William Roberts Cae engan, Owen a Jane Rowland Brynmadoc, Catrin Roberts Coedmadoc, Elin Jones Hafodlas, Thomas Owen Coedgerddan, Robert a Catrin Owen Tan y graig (Ty'nyfawnog), Mary Roberts Cilgwyn, Catrin Roberts Penycae, John a Lowri Morris Penrhiw, yn saith o feibion a thair arddeg o ferched. Fe ymunodd hefyd rai ag oedd eisoes wedi ymuno â'r Anibynwyr ar gyfrif pellter Llanllyfni oddiwrthynt.
Yn 1822 daeth Robert Griffith Bryn coch i fyw i'r tŷ capel. Bu'n arweinydd am gyfnod maith yn y Ffridd. Yr oedd efe yn un o flaenoriaid Llanllyfni, ac ar ei ddyfodiad yma efe yn unig a lanwai'r swydd.
Yn 1823 y daeth John Jones yma o Ddolyddelen. Symudodd er mwyn cael mwy o ryddid i fyned a dod gyda phregethu, a bod yn nes i'w gyhoeddiadau. Am hanner dydd, Rhagfyr 30, 1822, fe bregethodd yn Nhalsarn am y tro cyntaf oddiar Rhufeiniaid viii. 4. Yn niwedd yr wythnos ganlynol yr ymsefydlodd yma. Y Sul wedyn, sef Ionawr 12, yr oedd yn pregethu yn Nhalsarn y bore oddiar Rhufeiniaid viii. 2. (Cofiant, t. 100). Efe a ymroes i lafur crefyddol yma. Sefydlodd gyfarfodydd canu yma, fel yn Llanllyfni, a gyffrodd holl ieuenctid yr ardal gyda'r gangen hon o'r gwasanaeth. Yn y cyfarfodydd hyn y daeth efe dan ddylanwad cyfareddol Fanny Edwards, "Fanny" ei bregethau yn y man.
Yn 1825 y cychwynnwyd ysgol Sul yn y Gelli ffrydau, yr hon a barhaodd am ddeng mlynedd. Robert Dafydd y Fron oedd y prif offeryn yn y symudiad hwnnw.
Yn 1826 fe roddwyd llofft ar y capel. Fe ymddengys fod cyfnod o lwyddiant ar yr achos yn union o flaen hyn, a dywedir ddarfod ychwanegu 24 at yr eglwys mewn byrr amser. Yr un flwyddyn y daeth William Jones yma o Ddolyddelen, sef brawd John Jones. Y flwyddyn hon hefyd fe gychwynnwyd cynnal cyf- arfodydd gweddi fore Sul yn y tai ar gylch, yr hyn a barhaodd yn ol hynny yn ddifwlch am chwarter canrif. Yn nhymor prinder capelau, pan yr oedd rhai teuluoedd yn anghyfleus o bell oddiwrth bob capel, yr oedd yr angen am hynny yn fwy. Wedi i'r arfer honno gael ei rhoi i fyny, yr oedd cyfarfod gweddi fore Sul i'r bobl ieuainc yn cael ei gynnal yn y capel ar hyd y blynyddoedd.
Yn 1829 y symudodd William Jones oddiyma i Ryd-ddu.
Robert Dafydd oedd y cyntaf i'w osod yn y swydd o flaenor gan yr eglwys ei hun, a hynny ddigwyddodd yn 1830, wedi bod o Robert Griffith yn y swydd arno'i hun am wyth mlynedd. Elai ef i'r swydd yn naturiol yn rhinwedd ei swyddogaeth flaenorol cystal ag yn rhinwedd hir wasanaeth.
Yn amser y cyffro cyntaf gyda dirwest yr oedd awydd cyff- redinol yn yr ardal am gyfarfod cyhoeddus, sef un o gyfarfodydd mawr y dyddiau hynny, pan fyddai'r gwahanol enwadau yn ymuno i'r amcan. Fe gafwyd y cyfarfod ar Tachwedd 1, 1836. Yr oedd pleidwyr grymus i'r achos yn y gymdogaeth, sef John Jones, Owen Thomas (ar ol hynny o Brynmawr) a Robert Jones Llanllyfni. Byddai John Jones yn cymell yr egwyddor ddirwestol mewn pregethau gyda grym argyhoeddiadol a hyawdledd ysgubol. Yr oedd rhif aelodau y Gymdeithas yn Nhalsarn erbyn Ionawr 13, 1837, yn 354.
Cychwynnwyd cangen-ysgol Cesarea yn ystod 1837-8.
Yn 1838 fe ddaeth Talsarn a Nebo yn daith.
Torrodd diwygiad y flwyddyn 1840 allan yma yng nghyfarfod gweddi y merched a gynhelid ddydd gwaith. Yr oedd rhai o'r merched hynny yn meddu ar radd o hynodrwydd mewn dawn a chymeriad, sef, ymhlith eraill, Mary Watkyn, Marged Williams, priod John Hughes, y ddau o'r Waenfawr, Marged Roberts, gwraig Robert Griffith Tŷ'r Capel, Ann Morris Tanrallt a Catrin Michael.
Yn 1841 y sefydlwyd y Gymdeithas Rechabaidd yn y lle. Mae mymryn o hanes cyfarfod trimisol Talsarn am Hydref 3 a 4, 1842, sef y Cyfarfod Misol arbennig a gynhelid bob chwarter, wedi ei ddanfon i Drysorfa Tachwedd o'r flwyddyn honno. Ym mhrinder cofnodion cyffelyb yn y cyfnod hwnnw, fe deifl yr adroddiad fyrr-lygedyn ar bethau. Nid yw ond am ddiwrnod y pregethu. Am 10, dechreuwyd gan Evan Williams Pentre ucha, a phregethwyd gan G. Hughes Edeyrn (Iago i. 2-4) a John Jones Tremadoc (Hebreaid xii. 28-9). Am 2, dechreuwyd gan W. Roberts Clynnog, a phregethwyd gan O. Thomas Bangor (Luc xxi. 32) a James Hughes Lleyn (Salm xlvi. 5). Am 6, pregethodd Robert Hughes Uwchlaw'r ffynnon (Datguddiad xx. 12) a D. Jones Llanllechid (Eseciel ix. 4). Dywed John Hughes Penygroes, y gwr a ddanfonodd yr adroddiad, fod yr hin yn gysurus y diwrnod hwnnw, y torfeydd yn lliosog, a'r nef yn gwenu.
Oddeutu 1842 y sefydlwyd cangen-eglwys Cesarea, ac yr ymadawodd tua deuddeg o'r aelodau oddiyma yno.
Hen gono, fel y dywedai Daniel Owen a phobl sir Fflint, oedd tad Robert Owen Tŷ draw, yntau y tad o'r un enw a'r mab. Yr oedd yn well gan Frances, geneth John Jones (yn fyw o hyd o dan yr enw Mrs. Jones Machynlleth), fyned drwy'r drws isel i Dan y fawnog, lle preswyliai ef, nag i unlle arall braidd. Un peth roe awch ar fwynhad Frances oedd, fod ar bobl ieuainc eraill ofn yr hen grasbil tawedog, aflonydd, chwimwth ei symudiadau. Ni feiddiai ungwr gellwair yn ei ŵydd. Eithr fe ollyngai heb yn wybod iddo ddywediadau cramp a wnelai i bobl eraill chwerthin heb yn waethaf iddynt. Meistr corn yn ei dŷ, a rhaid fyddai i bawb fyned i'r capel bob tywydd, er myned. yno ar hyd ffordd beryglus yn y nos. "Dowch hogia," eb efe, a dyna'r bechgyn yn ei ddilyn i'r ysgol Sul fel rhes o ddefaid ar hyd y llwybr caregog. Yn ei ddosbarth, dyna glewtan yn diaspedain dros y capel i ryw hogyn direidus. Ebwch ar ol ebwch oedd ei ganu, â'i law dan ochr ei ben. Amen grasboeth, ebe Frances, pan fyddai hwyl yn y seiat, a'i ddagrau yn tywallt i lawr ei ruddiau. Gwnelai bopeth ofynnid iddo. Dyma fo'n gadeirydd cyfarfod dirwest. Ei hogiau ef ei hun wedi dod i mewn yn hwyr, ar ol troi i mewn i'r siop. Golwg guchiog arno pan welodd hwy yn dod i Codi ei aeliau yn fwäau mawrion, ac yn galw ar Owen ei fab i siarad. "'Does gin i ddim byd neilltuol i'w ddweyd heno," ebe Owen. "Wel a hai," ebe'r tad, "nag oes mi wn, wedi bod tua'r siop yna yn plevio. Gwael iawn, gwael iawn, Owan." "Wel, Robin," wrth y mab arall, "treia di hi, i weld a oes gin ti rwbeth i ddeyd." Robert yn o isel. "Be' wyt i yn i ddeud, dwad? Pwy all dy glywad di? Dywed yn uwch, wnei di." Robert yn codi ei lais, ac yn dweyd ychydig. "Tipyn gwell nag Owan," ebe'r tad, "ond wfft i chi ill dau." Codi'n sydyn ar ei draed, awgrymu troi y cyfarfod yn gyfarfod gweddi, gan nad oedd gan yr hogiau ddim i'w ddweyd. Galw ar Hugh Roberts y Ffridd, brawd ieuengaf Robert Roberts Clynnog, i weddio: "Yr hen frawd, dos ar dy liniau." Hugh Roberts yn myned, ond dim gair i'w glywed. Galw allan ar yr hen frawd, "Dywad rwbeth, dywad rwbeth." "Wel, gyfeillion," ebe Hugh Roberts, oddiar ei liniau, "mae'n dda gin i fod yma, ac yr ydw i yn hoff o ddirwest." Hugh Roberts yn cael pwniad, "Gweddïa, gweddïa." Hugh Roberts ar hynny yn gweddio yn syml a gostyngedig a gafaelgar. Pan gododd ar ei draed, Robert Owen yn gofyn iddo, "Beth oedd arnat i, yr hen lob, yn areithio ar dy liniau ?" "Wel," ebe'r diniwed, " be wyddwn i nad rhyw ddull newydd o gadw cyfarfod dirwest oedd ganddochi? Waeth sut i ddweyd!" "Gwaeth," ebe Robert Owen, "Gwaeth, yr hen greadur rhyfedd!" Brysiodd Owen a Robert adref, ac yr oeddynt yn eu gwelyau cyn fod cadeirydd y cyfarfod wedi cyrraedd y tŷ. Wedi i John Jones fod yn hir yn traethu wrtho, o bryd i bryd, am ragoriaethau yr America, aeth Robert Owen yno o'r diwedd, a dau o'i feibion gydag ef, sef yn y flwyddyn 1843. (Cofiant Robert Owen, t. 4-14).
Yn 1843 y dewiswyd Robert Jones Tanrallt yn flaenor, ac y daeth William Hughes yma o Lanllyfni, lle bu'n flaenor am bedair blynedd. Galwyd ef i'r swydd yma, a'r flwyddyn nesaf dechreuodd bregethu.
Yn 1846 dewiswyd yn flaenoriaid, Robert Owen, Tŷ draw wedyn, ac Edward William.
Yn 1849 sefydlwyd cangen-ysgol ar fynydd Cilgwyn mewn tŷ. Y rhai fu'n ymdrechgar yn y gorchwyl oedd, Robert Griffith Bala, John Morris Penrhiwiau, Hugh Roberts Talynant, Hugh Davies yr efail, John Jones Bryntirion, ynghyda bechgyn Ty newydd ac eraill. Codwyd dadl yma ymherthynas â hawl enwadol i'r lle, a gollyngwyd gafael o'r ysgol, ac erbyn hyn fe geir yno eglwys Anibynnol.
Oddeutu 1850 fe sefydlwyd y Clwb Du yn yr ardal yma, fel yn ardaloedd y chwareli yn gyffredin. Cymdeithas ar gyfer medd— won diwygiedig.
Ar y 23 o Fehefin, 1852, yr agorwyd yr ail gapel. Adeiladwyd ar safle y capel presennol ar Gloddfa'r coed, lle a fernid allan o berygl cael ei gladdu o'r golwg dan y tomenau rwbel. Trigolion Talymignedd yn dadleu yn erbyn symud y capel ymhellach oddiwrthynt, ond dadl John Jones a Hugh Jones Coedmadoc a orfu, o blaid lle diogel. I'r ddau hyn hefyd yr ymddiriedwyd cynllun ac adeiladwaith y capel. Maintioli, 14 llath wrth 14. Eisteddleoedd i 350. Y draul, £700. Drwy offerynoliaeth Fanny Jones, fe sicrhawyd yr arian am lôg y banc gan amrywiol bersonau. Pregethwyd ar yr agoriad gan Edward Morgan a Richard Humphreys Dyffryn, John Phillips, William Morris Tŷ Ddewi, David Charles Môn, David Jones Caernarvon. John Jones a draddododd y bregeth gyntaf ynddo ar Mehefin 20, oddiar 1 Brenhinoedd viii. 23. Yr oedd y bregeth olaf yn yr hên gapel wedi ei rhoi gan D. Davies Trecastell, oddiar Barnwyr v. 23. Rhoddwyd y capel newydd yn destyn englyn mewn cyfarfod llenyddol yn yr ardal, un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf, a gynhaliwyd yma, gydag Eben Fardd yn arweinydd. Lliaws o gystadleuwyr; neb yn deilwng. Dyma'r rhai a gyfrifid yn oreu:
Wele ein capel newydd—hylaw,
Helaeth a chelfydd.
Tŷ mawl i'r Oen, Teml rydd
Dwyfol feddyg Tŷ Dafydd.
Yr eglwys fo'n perarogli—o'i fewn
Gwna'r fach yn aneiri.
Yn hwn, Dad, dihuna di
Elynion i'w hail—eni.
William Hughes Ty'nyweirglodd.
Ystafell hwylus a helaeth—a ennyn
A chynnal ddysgeidiaeth,
A lle'r addoli daeth,
Digon i'r holl gymdogaeth.
William Owen Hafodlas.
Lluniwyd cael goruwch-ystafell yn y capel, a chodwyd ysgol. ddyddiol yno am flwyddyn cyn bod rheolaeth bwrdd na chynorthwy treth.
Yr un flwyddyn y daeth John Robinson yma o Garmel, a Thomas Morris o'r Tŷ mawr, y naill a'r llall yn flaenoriaid eisoes cyn eu hail-ddewis yma.
Oddeutu'r flwyddyn hon y dechreuodd Robert Owen bregethu, ac yntau yn flaenor eisoes er 1846.
Yn 1853 y bu farw Robert Griffith, sef y blaenor cyntaf, a ddaeth yma i'r tŷ capel o Fryn coch, ac a arweiniai yma wedi bod yn flaenor yn Llanllyfni er 1813. Aeth i drigiannu o'r tŷ capel i Ben yr yrfa, a byddai'n cerdded filltiroedd i'r moddion ar y Sul ar ol myned i wth o oedran. Yn wr cywir, ffyddlawn, selog, ac yn ofn i weithredwyr drwg. Pan yn byw yn y tŷ capel, yr hwn, ebe Mrs. Jones Machynlleth oedd o dan yr untô a'r capel, byddai Fanny Jones, Mrs. Jones Coedmadoc, a hithau Frances a rhai o'r plant eraill yn troi i mewn ar ol oedfa, ynghyda'r blaenoriaid. Llawer ymgom ddifyr a glywodd Frances yno o bryd i bryd, weithiau gyda William Morris Cilgeran a'i gyfaill, weithiau gyda John Jones Blaenanerch a'i gyfaill, neu gawr arall a'i gor, yr hyn a bâr i Mrs. Jones Machynlleth dorri allan yn yr adgof am danynt, "O, hen ystafell gysegredig !" Robert Griffith fyddai'n gofalu am y ceffylau, a Lowri ei ferch yn paratoi bwyd, a Marged Thomas yn gweini wrth y bwrdd. Gwr tawedog oedd gwr y tŷ capel, ac fel yr hen Angell Jones y Wyddgrug, yn Galfin i'r gwraidd, neu'n is na hynny braidd, ys dywed Glan Alun am dano. Yr oedd Frances yn gwrando ar ei thad yn pregethu yn y capel ar un tro, ac a aeth gydag ef yn ei law i barlwr y tŷ capel. Dyma Robert Griffith ar eu hôl, ac ebe fe, "John Jones, cadwed fy Nhad nefol fi rhag credu yr athrawiaeth a bregethasoch heno." Wel," ebe John Jones, gan drin ei bibell yn hamddenol, "beth ddeudais i, Robert Griffith ?" "Wel, ni ddarfu i chwi ddim crybwyll yr un gair am waith yr Ysbryd." "Wel, feallai naddo, ond nid dyna fater fy mhregeth i heno. Ni ddarfu i mi ei wadu, ai do, Robert Griffith ?" "O, naddo siwr." Gorffennai'r cwbl gyda gwên ysgafn yn chware dros wyneb John Jones. (Cofiant Robert Owen, 17-8).
Symudodd Robert Owen i Gader Elwa yn Eifionydd yn 1856. Ei dad ydoedd ef, wedi ei ddiwyllio, a chyda mwy o gallineb y sarff na feddai'r hen wr, ond nid heb rywbeth o'i ddull agored yntau. Wyneb sir Gaernarvon, fel y gwelir yn ei lun yn y Cofiant, ynghydag aeliau bwaog ei dad. Pwyslais yr hen wr, sef pwyslais sir Gaer- narvon, ys dywedai Daniel Owen am dano ef, a phendantrwydd yr hen wr, ynghyda rhywbeth o'i ddisgyblaeth yn y tŷ. Yr ydoedd efe yn enghraifft o ddyn a ddaeth yn deg o dan ddylanwad John Jones, heb nemor fanteision addysg. Efe a arferai ddweyd fod pob dyn ieuanc yn ardal Talsarn a feddyliai am ddod yn rhywbeth mwy na'i gilydd, yn unrhyw ffordd, yn ffurfio'i hunan hyd y gallai ar gynllun John Jones. A dyma'r achos, eb efe, pam nad ymroes efe ei hun i ddysgu Saesneg. Ni wnaeth John Jones mo hynny, ac nid oedd eisieu iddo yntau wneud ynte. Yr oedd yr un ysbryd o ymddiried mewn cynneddf naturiol, heb ofalu cymaint am ddysg reolaidd, yn John Lloyd Jones. Eithr fe newidiodd Robert Owen ei syniad yn hynny, er parhau ohono i roddi'r pwys yn bennaf ar rym cynhenid dyn. Yr oedd esampl John Jones, pa ddelw bynnag, ymhlaid ymboeni yn y gair a'r athrawiaeth, a sylw ar y byd, ac i hynny yr ymroes Robert Owen hefyd ar hyd ei oes, ynghanol gofalon bydol. Yr oedd dylanwad John Jones yn amlwg arno, yn peri iddo ymryddhau oddiwrth hualau cyfundrefn, ac mewn gadael ei feddwl yn agored i oleuni newydd, tra, ar yr un pryd, yn gryf a phendant ei olygiad ar yr athrawiaeth sylfaenol. Fe gariodd y meddwl gydag ef ar hyd ei oes am John Jones, mai efe oedd y mwyaf ei ddawn naturiol i bregethu a glywodd efe erioed, a'i fod yn un o'r dynion cryfaf ei garictor a adwaenodd efe. Dodai ef o ran grym cymeriad yn gyfochrog â'r Dr. Lewis Edwards. At ddiwedd ei oes fe'i clywyd yn dweyd nad oedd John Jones ddim wedi gwneud nemor erddo ef yn bersonol, a llai na ddylasai wneud. Ond os na wnaeth efe lawer iddo yn fwriadol, fe wnaeth lawer yn anfwriadol.
Bu'r Parch. D. D. Jones Bangor yma am oddeutu deng mis yn ystod 1856-7, yn cadw'r ysgol yn llofft y capel. Llywodraethid yr ysgol gan bwyllgor apwyntiedig gan yr eglwys. Aeth y cais am gynorthwy y llywodraeth yn fethiant ar gyfrif anghyfleustra'r lle. Y Parch. William Hughes ydoedd y prif ysgogydd gydag addysg yn y Dyffryn. Elias Jones y siop ydoedd trysorydd yr ysgol. Plant yr ardal y pryd hwnnw braidd yn ol mewn dysg. Cynaliai Mr. Jones ysgol nos i rai mewn oedran. Elis Walter Jones, pregethwr a aeth yn ol hynny i'r America, a fu gydag ef yn y naill ysgol a'r llall, a brawd iddo a fu yn flaenor ym Mhenygroes yn yr ysgol nos. Ymhlith y rhai a fu yn yr ysgol ddyddiol gydag ef, enwir gan Mr. Jones, Mr. Evan Roberts Beatrice, Tanrallt, a'i frawd; Thomas Jones y siop, sef mab Elias Jones; plant Hugh Jones Coedmadoc; Mrs. Thomas Levi a brawd iddi a fu yn feddyg ym Mhorthmadoc. Byrr-olwg oedd gan yr athraw, a chwynai rhywun am hynny. Yr oedd y bachgen a aeth yn feddyg yn gwrando'r gwyn, ac eb efe, "Os ydi i olwg o yn fyrr, y mae o yn gweld tucefn cystled ag o'i flaen!" Elai Mr. Jones i'r un dosbarth yn yr ysgol Sul a John Lloyd Jones, mab hynaf John Jones, a dywed ddarfod iddo y pryd hwnnw dderbyn argraff oddiwrtho ei fod yn ddyn galluog. Am un seiat yn unig y mae gan Mr. Jones ddim cof neilltuol. Yr oedd John Jones yno yn myned dros yr hyn oedd wedi ei adrodd iddo yn flaenorol, yn ei deulu, debygir, o bregethau y Sul. Adroddai yn helaeth iawn, fel y synnai Mr. Jones at ei gof. Traethai hefyd yn helaeth ei hun i'r un cyfeiriad gyda grym a newydd-deb ac effeithiolrwydd, y cyfryw fel y synnai Mr. Jones drachefn yn fwy at ei allu meddwl a'i ddawn nag at ei gof. Efe a gafodd gyfle hefyd i ymddiddan â John Jones rai gweithiau. Cof ganddo am un ymddiddan. Adroddai John Jones am dano'i hun yn dychwelyd o Gapel Curig ar un nos Sul, a'i fod ar gopa y ffordd sy'n troi ar y chwith i Lanberis, lle mae tŷ tafarn, pryd y disgynnodd i lawr oddiar gefn ei geffyl, ac ar y wàl yn y fan honno fe ysgrifennodd un o'i donau, ag oedd yn ystod y munydau blaenorol wedi rhedeg drwy ei feddwl. Ysgrifennu y prif lais yn unig a wnae efe, a gadael i rywun arall cyfarwydd yn ol hynny ddodi i mewn y lleisiau eraill. Yn yr un ymddiddan, fe feiai John Jones y Parch. David Hughes Tredegar am fod â llaw ganddo yng nghyfieithiad Addysg Chambers i'r Bobl, am y cyfrifai efe fod tuedd atheistaidd yn y gwaith hwnnw. Wrth ei weled ef yn cael ei ddyrnodio yn o drwm, dywedodd Mr. Jones rhywbeth ymhlaid David Hughes, gan ychwanegu mai Arthur Jones Bangor oedd wedi ei gymell ef i bregethu. Ebe John Jones, "Mi wnae Arthur Jones y diafol yn bregethwr, pe buasai côt ddu am dano !" Cŵyn Mr. Jones ydyw nad oedd llawer o ysbryd ymchwil i bethau cyffredin yn yr ardal y pryd hwnnw. Methu ganddo er ceisio a sefydlu cymdeithas lenyddol yn y lle. Cyhoeddwyd Mr. Jones i roi darlith ar ddaeareg ar un achlysur. Pump neu chwech yn unig a ddaeth ynghyd. Nid oedd dim cefnogaeth i'w gael gan neb i amcanion o'r fath, oddigerth yn unig gan William Hughes. Bu yn yr ardal eisteddfod yn amser Mr. Jones, pryd y gweithredai ef fel cadeirydd yn y bore. Tanymarian oedd y llywydd. Yn Nhalsarn y cafodd Mr. Jones y syniad cyntaf erioed i'w feddwl am fyned yn bregethwr. Yr oedd ganddo ef y pryd hwnnw ddosbarth dan ei ofal, a llanc yn y dosbarth a awgrymodd hynny iddo, heb fod y fath feddwl erioed o'r blaen wedi gwibio ar draws ei ddychymyg.
Yn ystod 1857 y sefydlwyd cangen-ysgol Baladeulyn, gyda John Lloyd Jones yn brif offeryn.
Fe ddaeth Evan Owen yma yn 1857. Bu am dymor maith, yn ol hynny, yn y Baladeulyn, ond fe ddychwelodd yn ol yma i aros am weddill ei oes.
Edward Davies, yn ddiweddarach o'r Porthmadoc, a alwyd yn flaenor ac ar ol hynny yn bregethwr yn eglwys Pennant. Bu yma am ysbaid cyn ymadael ohono i'r Porthmadoc yn 1857, lle bu farw, Mawrth 11, 1895. Gwr hynaws a'i bregethu yn gymeradwy.
Bu John Jones farw Awst 16, 1857, yn 60 mlwydd oed, wedi dechre pregethu er 1821, wedi ei ordeinio yn 1829, ac wedi bod yn aelod o'r eglwys hon er 1823. Am Awst 16, sef y Sul, y mae Robert Ellis Ysgoldy wedi ysgrifennu yn ei ddyddiadur, "John Jones Talsarn yn marw." Yna ar y Llun canlynol, "Ow! Ow! gwr mawr wedi cwympo. Syrthiodd y goron oddiar ein pen. Chwith i Gymru fydd bod heb John Jones." Ar hyd ymyl y ddalen am Awst 16—23, y mae'n ysgrifenedig ganddo, "Wythnos dywell: John Jones yn gorff!" Yr oedd Robert Ellis y Sul dilynol yn pregethu yn Nhalsarn yr hwyr, wedi bod ym Mhenygroes y bore a Cesarea y prynhawn. Ei destyn yn Nhalsarn, Actau xiii. 36, "Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun drwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau." Y mae enw John Jones yn yr ardaloedd hyn yn anwahanol gysylltiedig âg enw Fanny Jones ei wraig. Yn Fanny Jones fe gafodd un cwbl gymwys i gymeryd gofal eu masnach arni ei hun, ac i'w ryddhau yntau yn o lwyr i waith ysbrydol. Defnyddiodd yntau ei gyfleustra. Cerddai ol a blaen ar yr allt goediog gerllaw y tŷ â'i ddwylaw ar ei gefn mewn myfyr fel mewn hun. Rhoir enghreifftiau yn ei Gofiant o'i allu i anghofio'i hun mewn dwys-fyfyrdod. Arferai Robert Owen Tŷ draw ag adrodd am dano yn sefyll â'i gefn ar dalcen y tŷ, a rhywun yn ei gyfarch, ac yntau am ennyd fel heb ddihuno o'i ddwys fyfyr, ac yna yn torri allan,—"Hy !" fel un heb sylweddoli yn iawn beth oedd yn bod. Yr oedd ei feddwl cryf wedi ei ieuo â chorff cryf; ond ar ei oreu y byddai'r corff cryf hwnnw yn gwasanaethu ar ruthr-gyrchoedd ei grebwyll i diriogaethau'r anweledig. Teithiodd lawer er gwasanaethu ei genedl, ymroes i fyfyrdod, pregethodd bregethau meithion, llafurfawr, yn fynych deirgwaith y dydd, gydag ynni ac ymroddiad a difrifwch diball, diesgeulus. Cysegrodd ei ddawn ddihafal i wasanaeth yr Efengyl. O ran dawn ac o ran ynni yr oedd ymhlith y rhai hynotaf. Yr oedd, ym marn y rhai cymhwysaf i farnu, yn ddieithriad, yn un o wŷr mwyaf athrylithgar y bedwaredd ganrif arbymtheg yng Nghymru, cystal ag yn un o'r areithwyr pennaf, ac yn y cyfuniad o'r ddau allu heb ei gyffelyb braidd. Yr oedd, hefyd, yn wr o feddylfryd dyrchafedig, yn ymgymeryd yn naturiol â'r wedd ysbrydol i bethau. Y mae ei lun yn arwyddo nid yn unig fod celloedd hyawdledd tucefn i'w lygaid, ond fod y llygaid hynny yn cyfeirio yn naturiol fel eiddo'r eryr at ffynonnell goleuni y bywyd. Mewn pymtheng mlynedd arhugain o bregethu didor, Sul, gŵyl a gwaith, i gynulleidfaoedd llawnion, gyda phobl fwyaf deallgar yr ardaloedd yn gyffredin yn gwrando arno, fe adawodd ei argraff yn ddofn ar Gymru. Erys yr argraff honno eto ymhen dros hanner canrif ar ol ei farw, a hi erys yn hir yn ol hyn. Nid mwy amlwg delw Cesar a'i argraff ef ar y geiniog y rhoes yr Iesu her i'w wrthwynebwyr i'w dangos, na delw John Jones a'i bregeth ar Arfon Fethodistaidd am gyfnod go faith pan ydoedd efe fyw, ac ar ol ei farw. Efe o bawb ydoedd Ioan Aurenau Arfon. Creodd gyfnod newydd hefyd ym mhregethu ei enwad ei hun. Dygodd drefn iachawdwriaeth, yn y cyhoeddiad ohoni yn ei weinidogaeth ei hun, a thrwy ei ddy- lanwad ar eraill, yn eu gweinidogaeth hwythau, yn ei eiriau ef ei hun, "o Jupiter neu rywle i weithredu ymhlith dynion ar y ddaear." Rhoes gychwyniad ym meddyliau lliaws mawr yng nghyfeiriad y byd ysbrydol, a hynny ym meddyliau lliaws mawr o bobl feddylgar. Gan iddo droi llawer at gyfiawnder, fel y mae lle i gredu ddarfod iddo wneud, fe ddisgleiria yntau fel y ser fyth ac yn dragywydd. Y gwr hwn, a safodd allan gyhyd yngolwg Cymru fel un o'r dis- gleiriaf o'i meibion, oedd dra hoffus yn ei deulu ei hun, ac yn ei gylchoedd mwy cyfyngedig eraill. Ei ddylanwad, hefyd, oedd ddymunol a daionus ym mhob cylch. Craffer ar adroddiadau y gwŷr a fu'n cyd-deithio âg ef i bregethu, fel y ceir hwy yn ei Gofiant. Penderfynodd ar y cychwyn fod yn gyson gydag addoliad teuluaidd. Dywedai ei briod ar ei ol na fethodd ganddo gymaint ag unwaith gadw'r ddyledswydd deuluaidd, er y gorfyddai arno gychwyn oddicartref weithiau yn blygeiniol iawn. Ni oddefid y plant fyth i fyned i orffwys y nos heb y weddi deuluaidd. Deuai rhai o'i gymdogion ar brydiau i'r gwasanaeth hwnnw. Disgwylid i bob un o'r plant, wedi tyfu ohonynt i fyny, fod a'i adnod newydd ganddo yn yr addoliad teuluaidd. Gwelodd y cyffelyb ar aelwyd ei dad ei hun. Coginid y bwyd ar y Sadwrn ar gyfer y Sul. Ceuid y siop yn adeg seiat. Ymdrechodd yn deg gyda chymorth ei briod i feithrin ei blant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Amcanodd at welliant cymdeithasol. Ymroes i lafur ynglyn â'r cyfarfodydd ysgolion. Gweithiodd gyda dirwest, pregethodd ar burdeb, tarannodd yn erbyn drygau cymdeithas. Edrydd Mr. Evan Jones Caernarvon mai'r peth mwyaf ofnadwy a glywodd efe erioed mewn pregeth oedd disgrifiad John Jones o edliwiad merch i'r sawl a'i darostyngodd wrth gyfarfod ohoni âg ef mewn byd arall. Pregethodd lawer ar berthynas yr Efengyl â buchedd dyn, â'i arferion personol, teuluol a chymdeithasol. Heblaw fod swyn mawr yn ei ddawn, yr oedd naws iachus yn ei faterion. Nid difyrru oedd mewn golwg ganddo, ond argyhoeddi. Yn ei afael gref ar yr ymarferol, fe gadwai olwg ar gynysgaeth fydol iddo'i hun a'i deulu. E fu'n darllen a meddwl a siarad o bryd i bryd am flynyddoedd am ymfudo i'r America, oblegid manteision y wlad honno mewn casglu ynghyd gynysgaeth fydol, yr hyn oedd mewn golwg ganddo ar gyfer ei liaws plant. Wrth siarad â gwraig y lletyai gyda hi unwaith ynghylch cael fferm yn yr America, ebe hi, "Cymru ydyw eich fferm chwi, John Jones." Er ysbrydolrwydd ei feddwl, yr oedd ei afael yn o gref ar glawr daear. Rhoes ddwy flynedd o'i oes yn anterth ei boblogrwydd a'i ddylanwad fel pregethwr i arolygu chwarel y disgwyliasid iddi droi yn enillfawr. Siomi y disgwyliad hwnnw a wnawd ar y pryd, a chyfyngai yntau braidd yn fawr ar gyflogau y gweithwyr. Yn y cyfnod hwn fe ddirywiodd ei bregethu lawer. Y mae ei gofiannydd yn hytrach yn amddiffyn ei bregethu yn y cyfnod hwnnw yn wyneb barn gwlad am dano. Yr oedd y wlad, pa ddelw bynnag, yn unfarn ei llais am y dirywiad amlwg. Am bum mlynedd yr estynwyd ei weinidogaeth yn ol hynny. Barn bendant Robert Owen Tŷ draw, un o'i edmygwyr pennaf, am dano, ar ol cyfnod arolygiaeth y chwarel, ydoedd, na fu efe fyth wedyn. "yr un un." A thraethai ei farn ei hun mai dyna'r achos o'r tywyllwch ar ei feddwl ef yn ystod ei waeledd diweddaf. Rhaid peidio cymeryd y dystiolaeth hon mewn gwedd rhy eithafol. Nid hwyrach y cytunasai ei gofiannydd ef, hefyd, i raddau, gan y geilw efe'r cyfnod o flaen cyfnod arolygiaeth y chwarel yn "flynyddoedd cyflawnder ei nerth." Yng nghymeriad John Jones yr oedd haen ar haen, a dodai'r haen o wenithfaen caled oedd ynddo rym ym mhob cynneddf. Yn ei orbryder i sicrhau magwraeth deilwng i'w deulu lliosog, fe daflwyd y wenithfaen i fyny i'r wyneb, pan mai gwell fuasai fod ohoni yn aros yn ddwfn-guddiedig yng nghrombil daear, yn sylfaen yn unig i'w amrywiol ragoriaethau a'i ddoniau godidog. Eithr yn ei natur ef fe welwyd ryw gyfuniad ardderchog. Fe orweddai'r natur gref a throm honno fel rhyw deml fawr ar glawr daear, â ffurf betryal iddi, yn dangos wyneb llawn a chy- mesur i bedwar cwrr byd, ac oddiar y gwaelod hwnnw yn ymgodi yn fawreddus, gyda'r llinellau yn araf dynhau tuag at eu gilydd, nes ymgyfarfod ohonynt mewn pinacl yn ymddyrchafu oddiarnodd, ac yn cyfeirio yn unionsyth i entrych awyr, gan ddal tywyniadau cyntaf glasiad dydd, a'u hadlewyrchu yn chwareuaeth o oleuni yn yr ystafell ddirgel oddifewn, sef y lle sanctaidd, ag y mae y Secina yn ol ei wahanlen. Ac yn y natur gref, amryfath, eneiniedig honno, megys mewn teml, fel gwas yr Arglwydd e fu'n gweini am oes gyfan mewn pethau sanctaidd, megys yr archoffeiriad gynt ar ddydd y cymod; ac megys yntau, nid heb waed yn y cawg, a chyda'r clychau ar ymylon ei wisgoedd yn tincian bywyd ynghlyw holl. lwythau Israel. (Am restr testynau John Jones, edrycher Llanllyfni, at y diwedd).
Ychydig o flaen y diwygiad, fe gafodd Gwen, merch i John Jones, Mrs. Davies Nerpwl yn awr, freuddwyd, pryd y gwelai hi ei hun yn sefyll yn nrws y tŷ, gyda'r capel ar y dde. Gwelai yr awyr yn ddugoch, a thonnau porfforaidd yn ymdaflu drosto. Teimlai arswyd yn ei meddiannu, megys wrth ddyfodiad y farn. Ar hynny, dyna ganu yn yr awyr, ac yn y man floedd soniarus yn ateb allan o'r capel. Ac felly am ennyd, cân a bloedd gorfoledd yn cydateb ei gilydd. A hi yn crynu dan ddylanwad yr amlygiadau rhyfedd, wele'r Arglwydd Iesu yn sefyll ar y mur isel o flaen y drws. Angylion a chwim ehedent o'i amgylch. Methu ganddi godi ei llygaid i edrych ar ei wynepryd. Hi a welai y gwefusau, ond atelid golwg ei lygaid oddiwrthi. Ar hynny, wele lew cryf yn sefyll wrth ei ymyl ef. Codai ei ddwy bawen, megys am larpio y Gwr. Yntau heb gymeryd arno'i weled, a barodd i'w rith ef ddiflannu âg amnaid ei law. Ar amrantiad, dyna gôr y wybr a chôr y capel yn cyd-daro mewn bloedd gorfoledd,-" Had y Wraig a ddrylliodd ben y sarff." Wele fam Gwen yn nrws y tŷ cyn i'r cwmwl goleu dderbyn yr Iesu, ac fel yr esgynai ef, gwelai Gwen ei wyneb yn llawn, a chyfryw olwg arno nas gellid ei thraethu. Ac meddai ei mam yr un pryd, "Dacw y Duw y gobeithiais ynddo." Pan oedd Henry Prichard, tad David Prichard, goruchwyliwr ym Methesda, yn dechreu'r cyfarfod am wyth y bore ar ddydd diolchgarwch yn Hydref, fe ddisgynnodd rhyw ddylanwad dieithr arno ar y weddi. Gwr syml, diniwed, ond duwiolfrydig y cyfrifid ef. Dan y dylanwad anarferol, fe gododd oddiar ei liniau fel ar naid, gan gyfarch y Nefoedd, a thywallt allan eiriau mawl a gweddi. Yr oedd megys olwyn o dân yn godd- eithio'r lle. Dywedir ddarfod iddo barhau yn yr agwedd honno am awr o amser hyd onid oedd wedi llwyr lesgau o ran ei gorff. Teimlai rhai megys ped agorid y ffenestri, a bod awelon yn chwythu drwy'r lle. Gwelid tri o bersonau mewn un sêt megys yn gwneud gwarr yn erbyn y gwynt a chwythai â'r fath nerth, ac felly y profodd yn eu hanes dilynol, gan iddynt wrthod ymostwng i'r diwedd. Ni weddiodd neb arall yn y cyfarfod y bore. Am weddill ei oes, heb fod yn dymor maith, fe godwyd Henry Prichard i dir uchel o brofiad. Yr oedd mab iddo yn gwasanaethu yn siop John Jones, a dywedai ef fod ei dad wedi treulio y noswaith flaenorol ar ei hyd yn y beudy, mewn gweddi debygid. Erbyn nos Wener, Tachwedd 11, yr oedd Dafydd Morgan yma. Yr oedd hen wraig dros 80 oed ymhlith y dychweledigion. Dywedai y teimlai hi'n ddigalon i feddwl troi at Dduw yn yr oedran hwnnw. Atebai'r diwygiwr drwy ddweyd y gallai ef ei gwisgo hi eto âg ieuenctid tragwyddol. "Fe fyddwch yn chware yn blentyn canmlwydd ar heolydd y Jerusalem newydd mor ieuanc a Gabriel." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 453).
Rhif yr eglwys yn 1854 ydoedd 168; yn 1858, 195; yn 1860, 284; yn 1862, 244; yn 1866, 206; yn 1868, 220. Ymadawodd 60 o'r aelodau oddiyma yn 1866 i ffurfio eglwys Hyfrydle, onite fe welsid cynnydd o 22 yn ystod 1863-6.
Medi 1859, John Griffith, mab y Parch. William Griffith, yn dechre pregethu.
Rhagfyr, 1860, D. Lloyd Jones yn dechre pregethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1863.
Ffurfio cangen-eglwys Baladeulyn yn 1862.
Yn 1862 y gwnawd T. Lloyd Jones yn flaenor.
Yn 1863 y cychwynnwyd cangen-ysgol Tanrallt. Robert Jones Tanrallt yn brif offeryn.
Yn 1863 yr ymadawodd William Griffith oddiyma i Engedi, wedi bod yn y lle er 1859, pryd y daeth yma o Bwllheli. Efe a wnaeth iddo'i hun le cynnes yn nheimlad y frawdoliaeth.
Yn 1865 y daeth Henry Hughes Ty'nyweirglodd yma o Lanllyfni, lle yr oedd eisoes yn flaenor, a dewiswyd ef yma. Yr un modd am Owen Jones a ddaeth yma o Bwllheli.
Yn 1866 y sefydlwyd cangen-eglwys Hyfrydle, pryd yr ym- adawodd 60 o'r aelodau oddiyma. Rhoes y fam-eglwys £300 i eglwys Hyfrydle ar yr achlysur. Ymadawodd y Parch. William Hughes i Hyfrydle y pryd yma. Daeth ef yma ar achlysur ei briodas â Catherine Hughes, merch William Hughes Ty'nyweirglodd, ar Mawrth 4, 1843, a'r flwyddyn nesaf, ac yntau eisoes yn flaenor, y cymhellwyd ef i bregethu. Bu o wasanaeth yma mewn amgylchiadau dyrus, a danghosai fedr yn y cyfarfodydd eglwysig.
Fe geisir crynhoi yma gofiant y Parch. John Jones Brynrodyn i John Robinson yn y Drysorfa (1869, t. 356, 391). Mab hynaf teulu Glanrafon, Llandwrog uchaf, ydoedd ef. Pan o ddeunaw i ugain oed o fuchedd wyllt, ac yn ben ymladdwr yn yr ardal. Cyn cyrraedd 21 oed fe newidiodd ei fuchedd, ond heb benderfynu eto arddel crefydd. Yn 1828, pan yn 24 oed, yr oedd yn athraw yn yr ysgol Sul. Ym mis Ionawr, 1828, y dechreuodd efe weddio, meddai ef ei hun mewn cyfarfod athrawon yng Ngharmel. Yr oedd William Ifan Rhostryfan, Brynrodyn gynt, yn cynnal cyfarfod athrawon un nos Sul yng Ngharmel, ac yn adrodd y materion dan sylw yng Nghymdeithasfa Llanrwst, sef y dylai athrawon yr ysgol neilltuo cyfran o bob dydd i weddio dros eu dosbarthiadau. Wrth fyned adref oddiyno, aeth John Robinson drwy bangfa o argyhoeddiad, oddiar yr ystyriaeth nad oedd efe ddim yn gweddïo drosto'i hun chwaithach ei ddosbarth. Dyna'r pryd y dechreuodd efe weddio. Mewn Sasiwn yng Nghaernarvon, dan bregeth John Elias ar y geiriau, "Dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth," yr argyhoeddwyd ef, er bod ohono wedi teimlo yn ddwys yn flaenorol. Aeth i'r seiat nesaf yng Ngharmel dan deimlad. Yr oedd John Jones Talsarn yno y noswaith honno, y tro cyntaf i'r ddau ddod i gyfarfyddiad â'u gilydd. Efe a adroddodd wrth John Jones yr adnod honno, "Heddyw, ar ol cymaint o amser, os gwrandewch ar ei leferydd ef." Ymhen pedair blynedd yr oedd efe yn flaenor yno. Wedi ei wneud yn oruchwyliwr chwarel Dorothea, efe oedd wrth wraidd yr ysgogiad am gapel i Baladeulyn, ac arosodd yno ysbaid. Yn wr hyddysg yn yr Ysgrythyr. O ddawn hylithr ac ysbryd gwresog, ac er yn wresog, yn dangnefeddwr. Yr oedd ganddo ffordd o ddangos anwyldeb at y neb a ddeuai dan gerydd yn yr eglwys, fel ag i beri teimlad o gywilydd ac edifeirwch yn y cyfryw. Gweddiwr cyhoedd- us anghyffredin. Gweddi o'i eiddo y noswaith ar ol marw ei frawd, a'i weddi gyntaf ar ol dod i Fodhyfryd, yn bethau hynod yn nheimlad pawb a'i clywodd. Ar ol cystudd, unwaith, fe fynegodd ei brofiad ddarfod iddo gael golygiadau newyddion ar ogoniant yr Arglwydd Iesu, ac y byddai'n well ganddo na dim a welodd ar y ddaear pe cawsai fod yn offeryn i droi un pechadur o gyfeiliorni ei ffordd. Pan gollai gweithiwr yn y chwarel ei amser o achos meddwdod, elai ef ato i ymliw âg ef, gan geisio yn y man dynnu ei feddwl at y Gwaredwr. A'i iechyd yn gwanychu yn amlwg, fe draethodd ei brofiad yn y seiat i'r perwyl fod arno awydd mawr am y nefoedd, ac oni bae am Margaret ei wraig (merch y Parch. Owen Jones Plasgwyn) a'i ddau fachgen bach y dymunasai fod yno cyn y bore. Ymliwiodd ei wraig âg ef, wedi dod ohonynt adref. Ebe yntau wrthi, "Margaret bach, fe fydd gofal yr Arglwydd am danoch wedi i chwi fy ngholli i, yn llenwi pob bwlch." Ni bu yn hir ar y ddaear yn ol hynny. Bu farw yn y flwyddyn 1867.
Tuag 1870 y cychwynnwyd Temlyddiaeth Dda yn yr ardal. Wedi hynny, dan nawdd y gwahanol enwadau, Cymdeithas Ddirwestol Lenyddol. Ymhen blynyddoedd wedyn ail-gychwynnwyd gyda Themlyddiaeth Dda, yr hon sy'n parhau o hyd. Gweithir hefyd gyda'r Gobeithlu.
Yn 1870 y dechreuodd William Williams Cae'rengan bregethu. Efe a aeth oddiyma yn fugail i Riwlas a Chefncanol, sir Drefaldwyn.
Yn 1871 dewiswyd yn flaenoriaid, Elias Jones, David Prichard Tŷ mawr, Owen Thomas Owen. Symudodd David Prichard Bethesda.
Yn 1873 fe agorwyd ystafell yng Nghefncoed, Gloddfa'r Coed, i gadw ysgol Sul i blant bychain tlodion, lle cyferfydd 30 neu ragor. Symudwyd gyda hyn gan Owen Jones Mount-pleasant.
Yn 1874 y symudodd Henry Hughes Ty'nyweirglodd i Frynrodyn, wedi bod yn flaenor yma er 1865. Gofalai am drefn. Siarad yn fyrr ar ryw adnod, fel sail i'w ymadroddion. Fel mewn mannau eraill, fe'i cyfrifid ef yn weddiwr hynod yma hefyd, a mawr hoffid ef fel dyn.
Mae T. Lloyd Jones yn cymharu yr ysgol y pryd hwn â'r hyn ydoedd, dyweder 30 mlynedd cyn hynny. Gwell trefn yn awr, ac ychwaneg o ryw wybodaeth. Yn ol rhai, llai o wybodaeth bynciol. Llai o ddysgu ar yr Hyfforddwr. Mwy o ryw falchder yn peri i rai wrthod cymeryd eu dysgu. Llai o ddifrifwch, llai o hunanymwadiad. Mwy o holi er mwyn cywreinrwydd yn awr, llai o gymhwyso ar y gwirionedd. Diffyg yn awr o ddosbarth i baratoi athrawon.
Yn 1875 y derbyniodd y Parch. John Pryce Davies alwad yma. Ymadawodd i Gaerlleon ymhen ychydig gyda blwyddyn. Rhoes symbyliad gyda chychwyn addoldy newydd. David Prichard Tŷ mawr yn symud oddiyma i Jerusalem, Bethesda, wedi gwasanaethu ei swydd fel blaenor er 1871. William Herbert Jones a wnawd yn flaenor y flwyddyn hon. Symudodd i'r Bala- deulyn, ac oddiyno i Bethel.
Awst 13, 1877, y bu farw Fanny Jones, gweddw John Jones, yn 72 oed. Y mae hanes y modd y syrthiodd hi a'i gwr mewn cariad â'i gilydd wedi ei adrodd yn helaethach nag y gwnaed yn hanes neb pregethwr a fu yng Nghymru, debygir, yng nghofiant ei gwr, a thrachefn yn ei chofiant hithau. Fe ymddengys hefyd ddarfod i'r serch hwnnw fod yn un parhaol. Bu hi yn ymgeledd gymwys i'w gwr ar lawer ystyr. Soniodd yntau lawer am ei "Fanny" yn ei bregethau. Ymddiriedodd ei gwr yn fawr ynddi hi; edmygodd hithau ei gwr yn fawr. Fe ddengys ei llun yn ei chofiant mai nid dynes gyffredin ydoedd hithau. Mae'r llygaid lledlonydd, go fawrion, yn cymeryd llawer o bethau i mewn, pethau y byd hwn cystal a phethau y byd hwnnw. Mae gwaelod y pen, o dan y llygaid, yn llydan iawn, fel gwaelod pyramid, ac yn arwyddo dawn arbennig i drin y byd. Nid yw y llygaid yn cyfeirio tuag i fyny fel eiddo'r gwr, ac nid oes yma dywyniad ysbrydolrwydd uchel o'r fath a welir yn ei wyneb ef. Yr oedd ynddi hi gyfuniad o deimlad crefyddol a chyfrwystra bydol, y naill a'r llall i'r graddau eithaf, cyfuniad y dywedir ei fod yn perthyn i lawer o'r hen Buritaniaid. Yr ydoedd yn hollol gyfaddas i ofalon masnachol, ac yn feistres o fewn ei thŷ, ac yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn holl helynt yr eglwys. Yr oedd ei Hamen gyhoeddus yn fynych ac yn uchel, ac weithiau hi a dorrai allan mewn gorfoledd, megys pan y cododd ei llaw, gan ddangos y fodrwy, dan bregeth Thomas John ar y Cyfamod, ac y gwaeddodd allan fod y cyfamod hwnnw wedi ei dorri, gan ei bod hi y pryd hynny yn weddw, ond fod Cyfamod Gras yn dal o hyd. Y mae gan ei mab, T. Lloyd Jones, gofiant iddi yn y Drysorfa am 1878 (t. 470). Rhoir rhai o'r prif bethau yma. Yr oedd gan ei thad, Thomas Edwards, law yn adeiladiad y capel cyntaf. Ei mam oedd wraig o synwyr cryf a pharod, ac yn meddu ar lais swynol. Yr oedd Fanny Jones yn hynod am ei pharch i'r Saboth er yn blentyn. Clywodd ei mab hi yn dweyd lawer gwaith nad oedd yn cofio'r adeg pryd nad oedd ganddi gariad at Iesu Grist. Byddai Ann Parry, yr un a gadwai dŷ capel Llanllyfni, yn cymeryd sylw mawr o Fanny fach, ac yn ei hyfforddi a'i dysgu. Erbyn blwyddyn o amser ar ol priodi, yr ydoedd yn gallu rhyddhau ei gwr yn hollol oddiwrth ofal masnach, yr hyn fu'n achos o lawenydd iddi bob amser. Pan fyddai ei gwr oddicartref, hi a ofalai am y ddyledswydd deuluaidd ei hunan, a dygai ei bechgyn i fyny i gymeryd rhan ynddi. Ymdrechodd ddysgu lliaws o bobl dlodion pa sut i fyw i gyfarfod eu gofynion. Rhoes lawer i deuluoedd tlodion mewn amseroedd celyd heb obaith tâl. Mathew Henry oedd ei phrif lyfr yn nesaf at y Beibl. Rhoes oreu i'w masnach dair blynedd arddeg cyn y diwedd, a threuliai ei hamser lawer mwy mewn darllen ac ymweled â'r cleifion. Yn Llandinam gyda'i mab yr ydoedd pan fu hi farw.
Yn 1877 yr adeiladwyd y capel newydd ar sylfaeni yr hen gapel, ac ar ran o'i furiau. Chwarter canrif y safodd yr hen gapel. Y capel newydd hwn ydoedd y trydydd. Gwnaed ef yn gapel hardd a chyfleus. Eisteddleoedd i 700. Y draul, £3,046. Talwyd o'r ddyled ar flwyddyn yr agoriad, £1,134. Agorwyd ef yn ffurfiol drwy'r Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yma, Chwefror 11 a 12, 1878. Dywedwyd yn y Cyfarfod Misol fod swm y casgliadau y flwyddyn cynt dros £1,000. Mater seiat bore ddydd Mawrth, "Y perygl of fod yn rhagrithiol gyda chrefydd." Pregethwyd gan y Parchn. Evan Jones a John Griffith Caernarvon, Dr. Hughes a Dr. Thomas Nerpwl.
Mehefin 4, 1880, y bu farw Edward William, yn 81 oed i'r mis, ac yn flaenor er 1846. Brodor o Rostryfan. Pan yn hogyn mewn gwasanaeth ym Mhontnewydd, gwnaeth pregeth Michael Roberts. ym Moriah argraff ddwys arno am y pryd. Dywedai y clywai ei lais hirllaes ef yn ei glustiau ar y ffordd adref bob cam a gerddai, a bod ofn diwedd byd yn llanw ei galon. Gwrandawodd bregeth fawr Ebenezer Morris yng Nghaernarvon yn 1818, a dywedai nad oedd gof ganddo am unrhyw bregeth a chymaint effaith yn ei dilyn. Ymollyngodd yn ol hynny am ryw dair blynedd o amser i rodio yn oferedd ei feddwl. Yn 1826 y daeth efe i ardal Talsarn. Deffrowyd ei feddwl yn fawr gan bregeth Owen Williams Tywyn Meirionydd yng nghapel Llanllyfni, ar y geiriau, "Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd." Ymaelododd yn Nhalsarn ymhen ysbaid, sef ym Mawrth, 1827. Cyson ym mhob moddion yn y capel, yn tai, ac yn ei dŷ ei hun. Yn ddechreuwr canu dros ystod yr ugain mlynedd cyntaf ar ol ymaelodi â'r eglwys. Wedi ei ddewis yn flaenor, mynnai mai'r amcan oedd ei gael i ofalu "am y pedwar carnolion." Cywirdeb a gonestrwydd diffuant oedd ei brif nodwedd. Yr oedd gradd o hynodrwydd arno yn hynny ymhlith dynion cywir eraill. Yr oedd yn ddigon cywir i fod yn ddidderbynwyneb. Go led graff i adnabod dynion. Sylw byrr yn unig yn y seiat. Heb ddawn neilltuol, ond yn ddwys mewn gweddi. Dywed Mrs. Jones Machynlle'h yng Nghofiant Robert Owen mai gwylio'r ddisgybl- aeth ydoedd swydd Edward William. Byddai'n crafu yn o dôst weithiau. "Llai o ryw liwiau o'ch cwmpas, enethod bach." "Y gwragedd yma sydd yn myned i edrych am eich gilydd, peidiwch a thrafod achosion eich cymdogion: heb dderbyn enllib yn erbyn dy gymydog." "A chwithau sy'n masnachu, bydded eich cloriannau yn gywir. Y mae llygaid yr Arglwydd yn gweled, ac yn ffieiddio'r rhai sy'n cymeryd gwobr yn erbyn y gwirion. Peidiwch â chanmol eich nwyddau yn ormodol." Fe fyddai ei thad yn cael difyrrwch wrth wrando, ebe Mrs. Jones, am nad oedd ond un siop a berchenogid gan aelod o'r eglwys, a honno oedd siop ei wraig. 'Wel, Fanny Jones," eb efe, "chwi gawsoch gynghorion da heno.' Do," ebe hithau yn swta, "ond 'doedd dim o'u heisieu arnaf fi, oblegid y mae y tyst yn byw yn fy mynwes fy hun bob amser." (Cofiant R. Owen, t. 21). Fe fyddai Robert Owen Tŷ draw, pa fodd bynnag, yn adrodd, yn anaml hwyrach, am un dywediad o eiddo Edward William mewn seiat unwaith, nad oedd mor gwbl ddifyr gan John Jones ei glywed ychwaith. (Cofiant Edward Williams gan W. Williams [Glyndyfrdwy], 1882).
Yn 1881 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Owen Williams Talarfor, Owen Thomas Owen, David Davies, Owen Hughes Brynafon. Yr oedd Owen Williams yn flaenor yn Efailnewydd cyn dod yma.
Yn 1882 fe ymadawodd 43 o'r aelodau i ymffurfio yn gangen-eglwys yn Nhanrallt. Am dymor bu Tanrallt yn daith â Thalsarn. Rhif yr eglwys yma yn 1881, 318; yn 1883, 284.
Yn 1882 y dechreuodd Owen Morton Jones bregethu.
Hydref 31, 1882, y bu farw Thomas Morris Bodhyfryd. Daeth i'r gymdogaeth yn 1852 o'r Sarn, wedi gwasanaethu fel blaenor yn y Tŷ mawr, a galwyd ef i'r un swydd yma. Bu dan addysg Ieuan Lleyn yn ieuanc; ar ol hynny yn ysgol Botwnog; ac wedi hynny gyda John Hughes yn Wrexham. Yn gydysgolheigion âg ef yn Wrexham yr oedd Roger Edwards, Thomas Gee a Dafydd Rolant. Bu'r graddau o ysgolheigtod a gyrhaeddodd yn help i'w wneud yn wr o ddylanwad yn ei ddydd a'i gymdogaeth. Yr oedd ei ym- ddanghosiad allanol hefyd yn fanteisiol iddo. Yn dalach braidd na'r cyffredin, yr ydoedd hefyd o gorff trwchus, gyda wyneb llawn, talcen go lydan a llygaid gloewon. Ei ddull yn hynaws a boneddig- aidd. Hynodid ef gan synwyr ymarferol cryf. Yn wr dichlynaidd, ni ymunodd â chrefydd hyd y flwyddyn 1841. Yn union wedyn fe'i gwnawd ef yn flaenor. Nodweddid ef fel blaenor gan farm bwyllog a thynerwch. Cydweithiai â'i gydswyddogion. Yn athrawiaethwr cryf, ac yn wr o wybodaeth gyffredinol, ac yn meddu hefyd ar fuchedd ddilychwin, fe enillodd radd dda yn ei swydd. Cyfrifid ef y cerddor goreu yn ardal Bryncroes yn ei amser. Darllennai y bennod yn gyhoeddus yn gelfyddgar. Adroddir am dano yn darllen y bedwaredd arbymtheg o Ioan gyda'r fath arddeliad nes fod lliaws yn torri allan i wylo.
Rhaid yw dweyd na roed i dwrr
Daear Ĺlan well darllenwr. (Berw)
John Jones Talsarn, pan yn oruchwyliwr yn y Dorothea, a'i cyrchodd ef yno. Wedi bod yno am dymor yn weithiwr, fe'i dyrchafwyd ef i swydd. Gan gadw ei lygaid ar fuddiannau y meistr, fe enillodd yr un pryd serch y dynion. Llafuriodd gyda dynion ieuainc ardal Talsarn. Cododd yma ddosbarth Beiblaidd. Pan ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd llenyddol yn Arfon, bu cryn alw am ei wasanaeth ef fel beirniad. Yn yr adeg hon y datblygwyd ei ddoniau llenyddol yn bennaf. Yng nghwmni Eben Fardd fe wnaeth lawer i alw sylw ieuenctid Arfon at ragoriaeth yr iaith Gymraeg. Yr oedd yr elfen lenyddol a nodweddai chwarelwyr Arfon ar un cyfnod yn ddyledus i ryw fesur i'w symbyliad ef. Mab iddo ef ydoedd M. T. Morris Caernarvon. (Cymru, 1905, Mai).
Bu Richard Owen yma o'r nos Lun hyd y Sul, Gorffennaf 23- 29, 1883. Hon oedd y drydedd wythnos iddo yn yr ardaloedd hyn, ar ol bod ohono yn Llanllyfni a Phenygroes yr wythnosau blaenorol. Yr oedd y llanw yn codi gydag ef o'r naill wythnos i'r llall. Yr oedd y gwahanol enwadau yn dod fwyfwy o dan y dylanwad. Oedfa nos Sul, fe ymddengys, oedd yr hynotaf iddo yma. Rhoed yr odfeuon i fyny mewn amryw o'r capelau cylchynol, a chyrchai pawb, yn bregethwyr a gwrandawyr, i Dalsarn. Nid oedd y tywydd yn caniatau cynnal y moddion allan yn yr awyr agored, fel y bwriedid. Y dylanwad yn nerthol ac anorchfygol. Yr effeithiau ar y pregethwyr yn enwedig yn anghyffredin. Ymunodd 20 â'r eglwys yma fel ffrwyth yr ymweliad. Yn ol tystiolaeth Mr. W. Williams, yr oedd nifer o'r rhai hyn yn hen wrandawyr, a buont yn aelodau ffyddlawn, a dywed ddarfod deffro'r eglwys y pryd hwnnw. (Cofiant Richard Owen, t. 155).
Bu Elias Jones farw yn 1883, yn flaenor er 1871. Ffyddlon i'r moddion ganol wythnos, er yn fasnachwr wrth ei alwedigaeth. Nid oedd dim yn rhy fawr nac yn rhy fychan ganddo'i wneud er mwyn yr achos. Ffyddlon a medrus ynglyn â'r ysgol. Arferai ddweyd fod disgyblaeth gref yr oes y magwyd ef ynddi wedi gadael argraff ddofn ar ei gymeriad. Medr neilltuol i ddweyd ar gasgl.
Yr un flwyddyn y bu farw Robert Jones Tanrallt, blaenor er 1843. Galwyd ef yn flaenor yn Nhanrallt, ar agoriad yr eglwys yno yn 1882. (Gweler Tanrallt). Ffyddlon yn y gwaith, ac o gymeriad diwymi. Dywed Mrs. Jones Machynlleth mai cyhoeddi oedd ei waith priodolaf, a'i fod yn mawrhau ei swydd. Gwnawd cais am iddo roi y swydd i fyny. Dywedodd Robert Ellis Ysgoldy wrtho am wneud hynny ar unwaith. "Yr ydych yn achosi ysgafnder," eb efe. "Yr oeddych yn cyhoeddi heddyw, a minnau yn rhoi pennill allan yr un pryd. Y mae eich clyw yn eich gwneud yn anghymwys i gyhoeddi." Dal ei afael yn ei swydd wnae Robert Jones er pob dweyd. Aeth Mrs. Jones i'w weled ef a'i wraig, Ann Morris, yn eu hên ddyddiau. Ar ganol y scwrs, ebe fe, "Fe ddechreuodd Dafydd bregethu yr un fath yn union a'ch tad: yr oedd y dinc nefol honno yn ei lais; ond fe aeth i'r hen ysgolion yna, a'r colegau mawr yna, ac y mae gormod o ddysg wedi ei andwyo fo." Aeth ymlaen yn y man: "Mi fum i yn y nefoedd er pan fuoch i yma o'r blaen. Mi fum yno mor wirioneddol ag y bu Paul yr Apostol yno. Do, fe aethum yno, welwchi, ac O! y lle gogoneddus a welais i!-a'r canu; ac fel yr oeddwn yn myned ymlaen ym- hellach, yr oeddwn yn edrych i gael golwg arno Fo ei hunan, welwchi, a dyma rhyw angel gwyn yn dod ataf, ac yn dweyd wrthyf, 'Ni chewchi ddim aros yma yn awr, rhaid i chwi ddychwelyd i wlad y ddaear am ychydig amser, Robert Jones; ac O! fel y teimlais wrth droi yn ol !" Elai yr hen frawd ymlaen i adrodd ddarfod iddo weled Robert Jones Rhoslan yno, hên gydnabod ill dau, a chyf— archai Robert Jones Rhoslan ef yn hamddenol, heb y gradd lleiaf o synedigaeth na chyffro yn ei ddull, fel yr arferai Robert Owen Tŷ draw adrodd,—"Wel, Robert Jones!" Efe a welodd Edward William hefyd yn ymyl, sef ei hen gydflaenor. "O!'r siomedigaeth pan ddeffroais yr ochr yma i'r afon!" (Cofiant Robert Owen, t. 18—21).
Yn 1885 y dechreuodd H. E. Griffith bregethu, athraw ar ol hynny yn ysgol baratoawl y Bala, ac wedi hynny, bugail yng Nghroesoswallt.
Yn 1888 y daeth y Parch. W. Williams yma fel bugail o Corris.
Rhagfyr 29, 1888, bu farw T. Lloyd Jones, yn 51 oed, yn flaenor er 1862. Efe oedd trydydd mab ac wythfed plentyn John Jones, allan o ddeuddeg o blant a anwyd iddo ef a Fanny Jones. Gadawodd addysg yr aelwyd ei hôl arno ef. Bu'n gyd-oruchwyliwr chwarel Dorothea â John Robinson yn ystod y blynyddoedd 1858— 67. Yn dyner at y gweithwyr, ni ddanghosodd allu neilltuol yn y ffordd o ddatblygu adnoddau y gwaith. Yna fe ymgymerodd â changen o fasnach rhwng Nerpwl ac Affrica, ond aflwyddiannus y troes yr anturiaeth allan. Ynglyn â'r fasnach hon y dechreuodd deithio mewn amryw wledydd. Ysgrifennodd a darlithiodd ar ei deithiau, yn ddifyrrus yn niffyg gwybodaeth yn y wlad y pryd hwnnw am y lleoedd y sonid am danynt. Danghosai ddeheurwydd fel blaenor ac fel cadeirydd y Cyfarfod Misol. Cymerodd ddyddordeb neilltuol yn hanes Methodistiaeth yn yr ardal, a chyhoeddodd lyfryn ar yr hanes hwnnw. Dug allan ail gyfrol o bregethau ei dad, cyfrol na wnaeth unrhyw farc ar feddwl yr oes. Dywedai Robert Owen Tŷ draw ei fod, yn yr ymdrech i adgynyrchu pregethau ei dad allan o'i gof, fel ag i lenwi allan yr hyn oedd ysgrifenedig ohonynt, wedi ei lithio i ysgrifennu cynnyrch ei feddwl ei hun yn hytrach nag eiddo'i dad mewn lliaws o fannau. Dywedai Robert Owen yn bendant y buasai yn medru nodi allan. y mannau yn y gyfrol nad oeddynt yn eiddo'r tad o gwbl. Teg yw dweyd, pa wedd bynnag, fod y golygydd ei hun yn tystio yn bendant i'r gwrthwyneb yn y rhagymadrodd i'r gyfrol. Fe adewir tystiolaeth Robert Owen i sefyll, am ei bod yn dangos yr argraff wahanol ar feddwl craff a diragfarn wrth ddarllen y pregethau ragor wrth wrando arnynt. Bu'n wr defnyddiol yng ngwahanol gylchoedd yr eglwys, ac ynglyn â'r ysgol Sul, ac agorodd feddyliau lliaws am y byd yn gyffredinol drwy hanes ei deithiau oddiar y llwyfan a thrwy'r wasg. Yn wr dymunol, nawsaidd a chrefyddol. Cyflwynwyd iddo'r radd o F.R.G.S. (Cofiant, gan y Parch. W. Williams, 1895.)
Yn 1890 y dechreuodd W. Griffith Jones bregethu. Derbyniodd alwad o Bonterwyd sir Aberteifi.
Bu Evan Owen farw Gorffennaf 5, 1891, yn 68 oed, wedi dechre pregethu oddeutu 1853, pryd yr adwaenid ef fel Evan Owen Seion, Clynnog. Brodor o Garn Fadryn, Lleyn. Yn Nhalsarn a Baladeulyn er 1857. Bu yn yr ysgol am dymor gydag Eben Fardd. Edmygydd mawr o'r bardd. Yn gymeradwy gan liaws fel pregethwr. Yn wr o ysbryd crefyddol, a naws y diwygiadau a brofodd yn aros ynddo. Yn rhagori yn enwedig yn ei weddiau cyhoeddus, pryd y teimlid ef yn wr o rym ysbrydol. Cadwodd ei le yn y chwarel fel pwyswr, ebe Mr. W. Williams, a'i law ar aradr y weini- dogaeth yr un pryd. A dywed ef ymhellach ddarfod iddo brofi ei hun yn ffyddlon fel cydweithiwr â'r gwr a alwyd yn fugail ar yr eglwys ym mlynyddoedd olaf ei oes ef. Gryn drafferth a gafodd efe i gychwyn pregethu, ond fe brofodd ei hunan yn wr anfonedig yng nghydwybodau llawer. Yn yr ystyr hwnnw y mae cymhwyster yng ngeiriau Hywel Cefni am dano,
Ac fe lŷn eco ei floedd
Yn arosawl i'r oesoedd.
Yn blentyn rhwng saith a dengmlwydd oed fe ddringodd lethrau y Garn Fadryn, ac mewn llecyn anghysbell ym Mwlch y ddwygarn, yng nghongl hen gorlan, fe dywalltodd ei galon gerbron Duw. Wedi myned yn ddyn, fe ddywedai ddarfod iddo droi allan o'i ffordd lawer gwaith, a myned i mewn i'r hen gorlan, ac na bu efe yno erioed heb golli dagrau. Yng nghystudd diweddaf Margaret Williams Glan- beuno, Bontnewydd, un o'r rhai cryfaf ei chynneddf o ferched John Jones, a hithau wedi gadael y cyfundeb y dygwyd hi i fyny ynddo, a myned o honi i eglwys Loegr, ni fynnai o'i bodd mo neb i weini arni mewn pethau ysbrydol namyn Evan Owen. (Goleuad, 1891, Gorff. 16, t. 7; 23, t. 5. Drysorfa, 1891, t. 308.)
Yn 1893 dewiswyd yn flaenoriaid, Owen O. Jones Frondirion a Hugh E. Jones Cefni. Daeth Owen O. Jones yma o Garmel yn 1889, lle yr oedd yn yr un swydd. Efe oedd arweinydd y gân yma cyn cael ei alw i'r flaenoriaeth.
Hydref 29, 1893, y bu farw Owen Thomas Owen, yn 49 oed, yn flaenor er 1871. Yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd o'r blaenoriaid yn ei amser ef yn yr eglwys. Yn gyflym ei symudiadau, yn fywiog ei feddwl, ac yn wir weithgar. Yn adnabod dynion, ac yn meddu ar allu naturiol i arwain. Ar y blaen gyda symudiadau cyhoeddus, ac yn allu yn y gwahanol gylchoedd.
Yn 1894 y dechreuodd Morgan W. Griffith bregethu. Derbyniodd alwad gan eglwysi Seisnig y Bermo ac Arthog.
Yn 1895 y dechreuodd Owen J. Griffith bregethu, brawd i H. E. Griffith a M. W. Griffith.
Ebrill 19, 1896, y bu farw Owen Morton Jones, wedi dechre pregethu yn 1882, ac yn 36 oed. Cymeriad pur. Gwnaeth ddefnydd da o fanteision dysg. Pregethwr sylweddol. Gadawodd waith y chwarel i bregethu pan oedd yr enillion yn fawr. (Goleuad, 1895, Mai 8, t. 4.)
Yn 1898 y dechreuodd Morris Thomas bregethu, ac yn 1899, O. J. Griffith.
Yn 1899 yr adeiladwyd tŷ y gweinidog. Rhoir traul y tŷ ynghyda gwerth yr organ a rowd yn y capel yn 1901, fel yn £1,244.
Fe geisir crynhoi yma rai o'r pethau a ddywedir am Griffith Ellis Jones gan Mr. O. Ll. Owain. Yr oedd efe yn ŵyr i Sian Ellis Clynnog, a'i dad ef, sef Ellis Jones, ydoedd y maban y darfu i Siani unwaith pan ar ganol gorfoleddu ei ollwng o'i breichiau yn ddiarwybod iddi ei hun. Troes Ellis allan yn grefyddwr teilwng o'r bedydd tân hwnnw. Fe ymddengys fod crefydd yn y teulu hwn, megys yn etifeddol, gan fod tad Sian Ellis, Ellis Jones yntau hefyd, yn grefyddwr profiadol a thanbaid. Yn wr ieuanc, fe ymroes Griffith Ellis Jones gyda nifer o rai eraill i efrydu gramadeg a cherddoriaeth. Nid esgeulusodd lyfrau ychwaith. Gwr diniwed, diwyd a da. Athraw ysgol deheuig er yn ddeunaw oed. Gan faint ei awydd i'w gweled yn rhagori mewn gwybodaeth a daioni, fe wahoddai ei ddisgyblion ar brydiau i'w dŷ ar nosweithiau yr wythnos, er mwyn y cyfle o'u hyfforddi ymhellach. Bu am amser yn gofalu am ysgol i blant tlodion mewn tŷ ar ochr y Cilgwyn. Gyda'i ddosbarth Solffa y daeth efe yn fwyaf enwog, a bu pob copa walltog braidd ymhlith plant Talsarn ar un adeg dan ei addysg. Dilynydd ydoedd ef yn hyn i Joseph Owen, ysgolfeistr llofft y capel. Elai Griffith Ellis Jones gyda rhyw ddwsin o'r plant yma ac acw drwy'r Dyffryn i hyfforddi'r ardal yn y wyddor newydd. Ymhen ysbaid, sef yn y flwyddyn 1868, daeth Ieuan Gwyllt yno i'w harholi, ac enillwyd tystysgrifau y Solffa yma y pryd hwnnw am y tro cyntaf. Rhoddai'r athraw wobrwyon ei hunan hefyd. Penodwyd ef gan Goleg y Solffa yn arholydd am y dystysgrif elfennol, a glynodd wrth y gwaith am weddill ei oes. Danghosodd ddeheurwydd fel addysgwr plant, ac ymroes i lafur yn y ffordd hon yn wyneb anfanteision. Gwnaeth y gwaith hwn nid yn unig heb elw arianol iddo'i hun, ond ar gryn draul. Yr oedd ei hunan yn ddiffygiol mewn llais, er iddo fod am gyfnod yn cynorthwyo gyda'r arweiniad yn y canu cynulleidfaol. Dethol y dôn fyddai ei brif orchwyl y pryd hwnnw. Yn ddirwestwr selog, fe lafuriodd gyda'r Gobeithlu, y Clwb du a Themlyddiaeth dda. Bu'n ffyddlon dros ben mewn ŵylnosau a chyfarfodydd gweddi fore Sul yn y tai. Bu achos Iesu Grist yn yr ardal yn fawr ofal calon arno. Ganwyd ef ar y Nadolig, 1833, a bu farw ar y Nadolig, 1899.
Dyma restr y dechreuwyr canu, yn ol Mr. Williams: Robert Griffith Tŷ Capel, Edward William yr Offis, Thomas Jones y crydd, Hugh Owen Bryncoed, William Hughes Ty'nyweirglodd, William Owen Jones Gwernor, Edward Owen Brynteg, Griffith Ellis Jones Brynhyfryd, Edward Jones Brynteg, John H. Jones Plasmadoc, John William Jones Bro dawel, Hugh Owen Jones Tan y dderwen, John Jones Owen Bryncoed.
Dyma adroddiad ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgol Sul (1885): "Ysgol gyfoethog o adnoddau, a'r rhai hynny yn cael eu dwyn i weithrediad cyfatebol effeithiol. Ystafell ragorol i'r plant ieuengaf, ac ystafell arall i blant tlodion, gyda lliaws o'r cyfryw yn derbyn addysg gan athrawon da a hunan-ymwadol. Arolygwr y flwyddyn cynt yn ysgol Talsarn yn parhau y flwyddyn ddilynol fel ymwelwr â'r dosbarthiadau, gyda'r amcan, yn un peth, o gadw i fyny gyfartaledd y presenoldeb. Credwn fod ei le i'r fath swyddog mewn ysgolion lliosog fel hon. Caem arwyddion o fedr, ymdrech a haelioni yma, yn derbyn eu gwobr haeddiannol yn y llu mawr o ddosbarthiadau o ieuenctid ag y rhyfeddem at eu gwybodaeth ysgrythyrol. Sylwem ar rai athrawon, er hynny, yn gollwng o'u gafael eu hunain y gwaith o holi rhai rhy ieuainc i wneud hynny drostynt eu hunain; a dyna'r dosbarthiadau a ystyriem fwyaf ar ol."
Rhif yr eglwys yn 1887, 306; yn 1900, 365.
Nodiadau
golygu- ↑ Ysgrif y Parch. W. Williams. Ysgrif T. Lloyd Jones, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1883. Cofiannau John Jones, 1874 Fanny Jones, gan O. Ll. Owain, 1907; T. Lloyd Jones, gan W. Williams, 1895; D. Lloyd Jones, 1909; Edward Williams, gan W. Williams (Glyndyfrdwy), 1882; R. Owen, Ty Draw, 1907; Griffith Ellis Jones (llawysgrif), gan O. Ll. Owain. Ym- ddiddan a'r Parch. D. D. Jones, Bangor.