Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Arweiniol: Ardal Beddgelert
← Tanycoed | Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr gan William Hobley |
Pentref Beddgelert → |
ARDAL BEDDGELERT.[1]
ARWEINIOL.
Y MAE hyd plwyf Beddgelert, o ddwyrain i orllewin, a'i led, hefyd, o ogledd i dde tua 10 milltir, a chynnwys dair o nentydd, sef Colwyn, Gwynant a Nantmor. Gorwedd yng nghantrefi Eifionnydd, Isgorfai ac Ardudwy. Ei derfynau a gyrraedd hyd drum y Wyddfa, a chynnwys ei ochr a'i waelod deheuol agos yn gyfan gwbl, ynghyda'r Foel Hebog, yr Aran, y Graig Goch a'r Mynyddfawr a chyfran o'r Siabod. Yr oedd y boblogaeth yn 1831 yn 777; bu wedi hynny yn gymaint a 1500; yr ydoedd yn 1230 yn 1901.
"Lle hynod o anhygyrch. Hyd o fewn ychydig ugeiniau o flynyddoedd yn ol, nid oedd ffyrdd i un cyfeiriad, oddigerth un rhibyn cul i gyfeiriad Caernarvon. Y mae'n amlwg mai un lled ddiweddar ydoedd honno. O'r herwydd, yr oedd pob math o glud yn hynod o drafferthus i'r trigolion. Yr oedd y llwybrau dros y bylchau yn hynod gulion, geirwon a serth. Nid oedd yn bosibl troi olwyn un math o fen i unrhyw gyfeiriad. Byddai weithiau gychod yn cludo ar lanw i fyny ac i lawr hyd y Traeth Mawr. Yr oedd y ffeiriau a'r marchnadoedd ymhell." (Ysgrif Gruffydd Prisiart).
Fe deifl George Borrow rywbeth o swyn cyfrin ei bersonoliaeth ei hun dros yr ardal. "Y mae Bethgelert wedi ei gyfleu mewn dyffryn amgylchynedig gan furiau enfawr, Moel Hebog a Cherrig Llan [Craig y Llan] yn hynotaf ohonynt; y blaenaf yn ei warchod ar y dde, a'r olaf, y sy'n eithaf du ac agos yn unionsyth, ar y dwyrain. Rhuthra ffrwd fechan drwy'r dyffryn a chyrch allan drwy fwlch yn ei ben de-ddwyreiniol. Dywed rhai fod y dyffryn yn dwyn ei enw, Beddgelert, oddiwrth fod yn fan claddu Celert, sant Prydeinig o'r chweched ganrif. [Cyfeirir hefyd at stori Gelert y ci. Dywed Pennant fod yn ei feddiant lun sel y priordy, wedi ei amseru 1531, a bod arno ffigyr y forwyn a'r plentyn, gyda'r gair Bethkele]. Ar ol crwydro o amgylch y dyffryn am beth amser a gweled ychydig o'i ryfeddodau, holais am fy ffordd i Ffestiniog a chychwynais tua'r lle hwnw. Y ffordd yno sy drwy'r bwlch ym mhen de-ddwyreiniol y dyffryn. Wedi cyrraedd dor y bwlch mi droais i edrych ar yr olygfa yr oeddwn yn ei gadael o'm hôl. Y weledigaeth a ymgyflwynai i'm llygaid oedd fawreddus a phrydferth dros ben. O'm blaen yr oedd dôl Gelert gyda'r afon yn llifo drwodd tua'r bwlch, tuhwnt i'r ddôl cadwen yr Eryri; ar y dde y cadarn Gerrig Llan, ar y chwith y cyfartal gadarn Hebog, ond nid mor serth hwnnw. Mewn gwirionedd, dyffryn Gelert sy ddyffryn rhyfeddol yn cydymgais am fawreddusrwydd a harddwch âg unrhyw ddyffryn naill ai yn yr Alpau neu'r Pyrenees. Ar ol hir a sefydlog olygiad mi droais o amgylch drachefn ac a aethum ar fy ffordd. Yn y man mi ddois at bont ar draws ffrwd, ag y dywedwyd wrthyf gan ryw wr y gelwid yn Aber Glas Lyn neu bont y bala y llyn llwydlas. Mi ddaethum yn fuan allan o'r bwlch, ac wedi myned beth o ffordd arhosais eto i edmygu'r olygfa. I'r gorllewin yr oedd y Wyddfa; yn deg i'r gogledd yr oedd cadwen aruthr o greigiau; o'r tu ol iddynt yr oedd pigyn blaenfain yn ymddangos yn cydymgais â'r Wyddfa ei hun mewn uchder; cydrhwng y creigiau a'r ffordd lle safwn i yr oedd golygfa hardd o goedwigoedd. Aethum ymlaen drachefn, gan fyned o amgylch ochr bryn gydag esgyniad arafdeg. Wedi tro bach arhosais drachefn i edrych o'm hamgylch. Dyna lle'r oedd yr olygfa gyfoethog ar goedwigoedd i'r gogledd, tu ol iddi yr oedd y creigiau, a thu ol i'r creigiau y cyfodai y bryn pigfain rhyfeddol yn polioni'r nef; ger ei fron i'r dde-ddwyrain yr oedd clamp o fynydd maith."
Dyfynnir yma o ysgrif Carneddog yn y Cymru: "Yn Aberglaslyn ceir y cyfuniad o'r golygfeydd mwyaf rhamantus a swynol yng Nghymru. . . . . Yr oedd Matthews Ewenni ar 'Wibdaith drwy Fon ac Arfon,' ac fel hyn y daeth tuag Aberglaslyn,—'Gydag ochr y Wyddfa yr aethum, gan ddisgyn yn raddol rhwng y bryniau mawrion, nes o'r diwedd suddo i mewn i Feddgelert—fel gorffwysfa oesol oddiwrth bob ystorm. Aethum i Aberglaslyn, tua milltir a hanner islaw y pentref hwn. Yr ydym yn myned rhwng y creigydd uchel,—yn unionsyth ymron bob ochr, ac yn ymestyn at ei gilydd gyda sarugrwydd anghymodadwy. Ar ochrau y creigydd, mewn man neu ddau, y mae ychydig o goed ffynidwydd wedi crymu eu pennau, ac yn llechu yn ddistaw a gwylaidd . . . fel mewn agwedd ostyngedig yn addoli . . . yn ymyl arwyddion o fawredd Duw tragwyddoldeb. Yr oedd ychydig eifr, un yma a'r llall draw, yn dringo'r creigydd serth, rhyngom a'r wybren fry . . . Gyda hyn, dyma y byd mawr fel pe buasai yn caead i fyny yn oes oesoedd o'n blaen . . . Ond gyda'n bod yn cyrraedd y bont, . . . wele fyd newydd yn agor o'n blaen ar un olwg . . . O! Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt, gwisgaist ogoniant a harddwch.' Ar lifogydd mawrion bydd yr olygfa ar yr afon yn gyffrous, a dwndwr y dwr wrth gorddi rhwng y meini yn fyddarol. Wele amrywion ei bywyd yn ol Eifion Wyn —
O fynyddfaen y Wyddfa—ei rhedlif
Afradlon gychwynna;
Tonni hyd Feddgelert wna
I lawr o'r pinacl eira.
Sïadol frysia wedyn—a gwynna
Geunant Aberglaslyn;
Rhed heibio godreu'r dibyn,
A'i mawr gorff fel marmor gwyn."
Rhwng ardal Llanberis ar y naill law i'r Wyddfa, ac ardal Beddgelert ar y llaw arall, ynghydag ardal Talysarn ychydig yn nes i'r môr, hithau hefyd yn cychwyn o fan nythle'r Eryr, fe geir nifer o ddyffrynoedd toredig, yn ymestyn ac yn ymagor mewn rhyw gyfuniad anrhaethol o weledigaethau o ramantedd a swyn a dirgelwch, mewn mynydd a bryn a chraig ysgythrog, mewn hafnau a cheunentydd a llechweddi caregog, mewn afon a llyn a rhaiadr, mewn coed a phrysglwyni a mwsogl. Allan o ganol y cyfoeth aneirif hwn o addurnedd amrywiol, fe geir y Wyddfa yn ymgodi fel rhyw binacl asgellog, yn ddiystyr megys o'r addurnedd o amgylch, gan ymestyn am berffeithrwydd uwch a dwyfolach, sef claer wyneb y nefoedd oddiarnodd. Wrth ymestyn felly, fe'i ceir hi gan amlaf yn uwch ei llaw na'r tymhestloedd a rhialtwch yr elfennau, ag y mae pob rhan arall o'r olygfa yn mynych deimlo oddiwrth rwysg eu hawdurdod, gan gael eu claddu o'r golwg ar brydiau dan fentyll eu tywyllni neu guwch eu digofaint ffrom. Ac nid gormod dweyd chwaith, ddarfod i rai o drigolion godreu'r Wyddfa, o bryd i bryd, godi i ryw gydymdeimlad â thawelwch a chlaerder difesur y cymundeb nefol ag y mae ei phinaclau hi yn fynych yn rhyw arwyddlun ohono.
Rhaid addef nad oedd lliaws yr hen bererinion yn rhyw agored iawn i ddylanwadau allanol natur. Eithr dir yw fod rhai ohonynt felly. Ac ynghanol y fath ryfeddod o amrywiaeth mewn lluniau a lliwiau, mewn mynydd a nant a llyn, tybed na ddywedodd ambell un ohonynt wrtho'i hun, ac yntau 'mewn myfyr fel mewn hun," eiriau Pantycelyn?—
O f'enaid, edrych arno'n awr,
Yn llanw'r nef, yn llanw'r llawr,
Yn holl ogoniant dwr a thir.
Mae'n ddiau fod myfyrdodau lliaws o'r hen bererinion wedi cymeryd cyfeiriad nid cwbl anhebyg i eiddo William Williams Llandegai, pan aeth efe drwodd yma am y tro cyntaf, sef ydoedd y rheiny: "Nid yw'r mynediad i mewn i'r dyffryn hwn [sef Nant Gwynant] o bentre Beddgelert ond lled lôn gul glonciog, hyd lan afon, a'r nad yw'n addo boddineb mawr i gywreinrwydd y teithiwr; ond mor hyfryd i'w deimlad weled ei hun yn ddirybudd ddiarwybod yn cael ei gludo megys i wlad swyn! Nis gallswn beidio tynnu gwers ar fy mynediad cyntaf i mewn, oddiwrth y dywediad hwnnw o eiddo'n Gwaredwr, 'Cul yw'r ffordd sy'n arwain i'r bywyd.' Eithr gwynfydedigrwydd y cyflwr hwnnw a wnelai eithaf daledigaeth am boen a blinder y mynediad i mewn iddo." (Observations on the Snowdon Mountains, 1802, t. 50).
Tŷb rhai nad yw pobl wedi treulio oes wrth odreu'r Wyddfa ddim yn teimlo dyddordeb neilltuol ynddi, ac nad yw crefydd chwaith yn tueddu i ddeffro cywreinrwydd yngwydd rhyfeddodau natur, o leiaf lle na byddis ddim wedi derbyn amaethiad uchel ar y galluoedd naturiol. Eithr cymerer yma enghraifft deg o ddull dyn o'r wlad o deimlo yn mhresenoldeb y Wyddfa, un a dreuliodd ei oes wrth ei godreu, llafurwr y ddaear yn nechre oes a mwnwr wedi hynny, ac un y deffrowyd ei natur gan y awyr" yn niwygiad mawr Beddgelert, ac un y digonnwyd ei anghenion dyfnaf â gras Efengyl Crist. Dyma fel yr ysgrifennodd Gruffydd Prisiart, un o hen flaenoriaid Beddgelert, ei fyfyrdodau am y Wyddfa: "O un cyfeiriad cyfyd fel colofn dair-onglog, fel y bidog canu yn yr yn meinhau tuag i fyny; o gyfeiriad arall ymddengys fel astell deneu, yn llydan yn y gwaelod, yn culhau oddiarnodd; o gyfeiriad arall edrych yn hanner cron, fel cynog neu ystên odro fawr, â chlust uchel wrthi; o gyfeiriad arall y mae fel yn cuddio'i phen, a dim ond y gwarr yn y golwg; o gyfeiriad arall ymddengys fel menyw yn ei heistedd a'i chlôg am dani, ei bronnau yn taflu allan yn uchel a'i phen ar led-ogwydd yn ol . . . . Dodwyd gorchuddlen drosti i amddiffyn ei hurddas, a wisg yn gyffredin haf a gaeaf, ac a amrywia yn ei liw, weithiau'n llwyd-ddu, bryd arall yn oleuwen, bryd arall yn rhuddgoch a gwyn. Ys dywed un o hen feirdd Cymru:
Eryri hardd oreurog.
Liwus, wych, lân, laes ei chlog,
Bur enwog, lwys, bron y glod,
Brenhines bryniau hynod.
Trwy'r hafddydd tywydd tês,
Yn bennoeth, byddi baunes;
A phob gaeaf oeraf fydd,
Tan awyr cei het newydd,
A mantell uwch cafell cwm,
Yn gwrlid fel gwyn garlwm;
Rhag fferdod a rhyndod rhew,
Hyll yw adrodd, a llwydrew.
Yr un orchudd-len sydd iddi, a wisgir ganddi ar wahanol brydiau mewn gwahanol ddulliau, ac a dywynna mewn gwahanol liwiau, ond gan y noda 'r bardd ei bod yn cael het a mantell newydd bob gaeaf, pa sawl het a mantell a gafodd er dechreu'r cread? A phwy roddodd yr enw Gwydd-fan iddi? A pha Sais a roes yr enw Snowdon iddi? Pwy a esgynnodd i'w phen gyntaf, ac o ba gwrr iddi yr esgynnodd ? Pwy a ysbiodd gyntaf drwy ddrych o wydr ar ei phen? Pwy gyntaf a welodd oddiami yr Ynys Werdd ac Ynys Manaw a chreigiau'r Alban a siroedd Lloegr ? Pwy oedd yr arweinydd cyntaf i'w phen, a phwy a arweiniwyd ganddo? Pa faint a gafodd am ei lafur? Pwy a farchogodd gyntaf i'w phen, ac o ba le ? Pa sawl boneddwr a boneddiges a fu ar ei phen? a pha sawl dyn a dynes o'r cyffredin bobl ? Pa sawl llwdn dafad fu'n pori arni? Pa sawl llwynog fu'n llochesu ynddi? Pa sawl cigfran fu'n nythu ynddi? Ac os gwyddost ei huchder, pa faint ydyw ei dyfnder? faint ei thryfesur? pa sawl troedfedd betryal ydyw ei chrynswth? pa'r faint ei phwysau? Beth yw'r achos fod cregin yn ei cherryg? A fu hi'n waelod i'r môr unwaith? Os bu, pa fodd yr aeth yn sychdir? Os gelli, ateb dithau!" Fe deimlir cyffyrddiad o'r un ysbrydiaeth yma ag a welir mewn hen farddoniaeth uchelryw. Ofer fuasai chwilio am y cyffelyb, nac o ran cywreinrwydd meddwl nac ychwaith o ran ysbryd crefyddol cuddiedig, yn y rhan fwyaf o lyfrau teithwyr Seisnig yng Nghymru. Ac er y gwyddis nad yw'r cyffelyb gywreinrwydd ysbryd wedi ei ddeffro yn y lliaws hyd yn oed o bobl grefyddol, eto rhaid ei fod mewn rhai ohonynt, a rhaid mai ysbryd crefydd ynddynt a'i deffrôdd yn rhai o honynt hwythau drachefn.
Y mae llawer wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ar draddodiadau, hynafiaethau a llen gwerin y lle hwn, ac y mae yn dra chyfoethog yn yr ystyr hwn. Tebyg fod y Diwygiad Methodistaidd wedi lleihau dylanwad traddodiadau a lledrithiau ar feddwl y werin, gan ddwyn i mewn draddodiadau a gweledigaethau amgenach yn eu lle. Eithr yr oedd, mewn amser a aeth heibio o leiaf, ryw hynodrwydd ar ardymer trigolion y lle yn eu gwahaniaethu i ryw radd oddiwrth eraill. Clywyd angylion yn canu yn amser yr hen ddiwygiadau yn yr ardaloedd hyn yn fwy mynych, feallai, nag yn unlle arall yng Ngogledd Cymru. Diwygiad Beddgelert (1817 ac ymlaen), fel y gelwid ef, ydoedd yr hynotaf a fu yng Nghymru o ran angerddoldeb ac o ran parhad yr effeithiau. Yr oedd rhyw arbenigrwydd o ran sel ac angerddoldeb ar grefyddwyr Beddgelert y pryd hwnnw a dynnai sylw ymhell ac agos. Dyma ddisgrifiad o amgylchiadau allanol yr amaethwyr gan Pennant (t. 169): "Nid yw'r llecyn mynyddig hwn yn ymyl y Wyddfa ond prin yn dwyn unrhyw ŷd. Y cynnyrch ydyw gwartheg a defaid, sydd yn ystod haf yn cadw yn uchel iawn i fyny ar y mynydd, yn cael eu dilyn gan eu perchenogion a'u teuluoedd, a aneddant y tymor hwnnw mewn hafod-dai neu laethdai, megys y gwna amaethwyr yr Alpau Swissaidd yn eu sennes. Cynwysa'r tai hyn ystafell hirgul isel, gyda thwll yn y naill ben i ollwng allan y mwg oddiwrth y tân a wneir odditanodd. Y dodrefn sydd syml iawn, cerryg yn lle stolion, a'r gwelyau gwellt wedi eu dodi yn gyfochrol i'w gilydd. Gwnelant eu brethyn eu hunain, gan ddefnyddio eu lliwiau eu hunain, wedi eu casglu oddiar y creigiau, sef pen du y cerryg neu lichenomphaloides a chen arall, sef y lichen carietinus. Yn ystod haf ymrydd y dynion i'r cynhaeaf neu ofalu am y praidd, a'r merched i odro neu wneud ymenyn a chaws i'w hangenraid eu hunain. Godrant ddefaid a geifr, gan wneud caws o'r llaeth i'w defnydd eu hunain. Ymborth y bobl fynyddig hyn sy'n blaen iawn, gan gynnwys ymenyn, caws a bara ceirch. Maidd ydyw eu diod; nid nad oes ganddynt ynghadw ychydig botelau o gwrw pur gryf, fel cordial ar gyfer gwaeledd. Y maent yn bobl o ddeall da, yn wagelog a ffelwych; yn gyffredin yn dal, teneu ac o gyfansoddiad da, oddiwrth eu dull o fyw. At y gaeaf disgynnant i'w hendref, neu hen annedd, lle'r arweiniant yn ystod gaeaf fywyd diofal," sef yn cribo gwlan, nyddu neu weu.
A dyma eto ddisgrifiad o'r un cyfnod, yn cynnwys y mewnol a'r allanol, o safle neilltuol yr ysgrifennydd, sef Williams Llandegai: "Y mae preswylwyr mynyddoedd Cymru mor agored a lletygar, fel y gallai dieithryn deithio yn eu plith heb fyned i unrhyw draul am fwyd a llety. Gallsai Sais alw eu ffâr yn arw; pa ddelw bynnag, mewn amaethdai yn gyffredin y mae ganddynt dri math o fara, sef gwenith, haidd a cheirch. Y ceirch a ddefnyddir fynychaf, a hwn ynghyda llaeth, ymenyn, caws a phytatws yw eu hymborth cynefin yn yr haf. Y mae ganddynt hefyd frithyll rhagorol, a fwyteir ganddynt yn ei adeg. Ac ar gyfer gaeaf y mae ganddynt gig eidion neu ddafad a choch yr wden, sef cig helfa neu gig gafr wedi ei hongian yn y simne ar wden, wedi ei gwneud o frigau helyg neu gyll. .. Y maent yn galed a bywiog, ond nid oes ganddynt mo'r ymroddiad a'r penderfyniad meddwl angenrheidiol i lafurwaith parhaus, a hwy o'u mabandod wedi eu harfer i gynywair y bryniau ar ol y praidd. Yn yr haf ânt yn droednoeth, ond anfynych yn goesnoeth, fel y dywedwyd yn ddiweddar gan deithiwr. Mewn bargeinion yn hirben a ffelgraff, mewn ymddiddan yn hoff o ddigrifwch, yn sobr, yn dra chynil, er fod teithydd diweddar wedi rhoi amgen gair iddynt. Ymddengys eu cyfarchiadau i rai braidd yn flinderus,—'Sut mae'r galon?' 'Sut mae'r wreigdda gartref, a'r plant, a'r gweddill o'r teulu?' a hynny yn cael ei fynych adrodd. Pan gyfarfyddant mewn tafarn yfant iechyd ei gilydd, neu iechyd y sawl yr el y siwg iddo ar bob tro. Y maent yn hynod o onest; ac os cyhuddir neb o ladrata dafad, edrychir arno yn ddyn digydwybod, ac hyd yn oed ei blant a goegir oblegid camymddygiad y tad, a theflir hynny i wyneb cymdogion pan wedi syrthio allan â'i gilydd Gydag ychydig eithriadau, y mae'r trigolion o'r grefydd sefydledig [cyfrifir y Methodistiaid yn perthyn i'r grefydd sefydledig, gan nad oeddynt eto wedi ymwahanu drwy alw gweinidogion o'u plith eu hunain]; ac ers pan y mae'r Methodistiaid wedi dod mor lluosog a phoblogaidd, y maent [sef y trigolion] wedi myned yn fanwl a gwresog iawn mewn materion crefyddol, ac yn hynod wybodus mewn daliadau Efengylaidd. Amlwg i bob meddwl diragfarn ydyw fod moesau'r werin bobl yng Nghymru wedi gwella yn fawr er pan y mae Methodistiaeth wedi dod yn beth cyffredin: tyngu, medd-dod, ymladd, etc. sydd lai mynych, a chedwir y Suliau yn fanwl. Ond wrth ollwng gafael o un eithaf, mynych y digwydd fod dynion o ddeall egwan yn rhedeg i'r eithaf cyferbyniol. Hunandyb, ofergoeledd, penboethni, rhagrith, etc., ar hyn o bryd yw gwendidau arglwyddaidd y werinos. Y rhai hyn sydd wedi dod i'r fath fri, fel ag i wneud i grefydd ymddangos yn warthus. Yn lle'r ymddygiad gweddeiddlwys a'r duwiolfryd tawel hwnnw a nodwedda'r grefydd Gristnogol, munudiau amhwyllus, neidio, canu, crïo, a'r cyffelyb, sydd wedi tyfu mewn arfer yng nghynulliadau y sectariaid hyn. Er dylanwadu ar y nwydau, ceir y pregethwyr yn bugunad rhyw orhelaethrwydd o ffregod carbwl, anghysylltiol, ac am yr achos hwnnw nid yn amhriodol y gelwir hwy yn Frygawthwyr (Ranters). Pobl y mynydd a geidw eu hunain i fesur mawr ar wahan oddiwrth bobl y dyffryn; anfynych y deuant i lawr i'r dyffryndir am wragedd, ac ni fynn pobl y dyffryn ddringo i fyny'r llethrau creigiog, a dwyn i lawr ddyweddi i'w bwthyn. Eu galwedigaethau sydd wahanol, ac angenrheidiol i'w cymheiriaid fod wedi eu haddasu i'w gwahanol ddulliau o fyw." (Observations, t. 7—17.) Yr oedd rhyw gymaint o bwynt i'r sylwadau olaf i gyd yn ardaloedd y chwarelau wrth droed y Wyddfa, lle preswylid y dyffryndir yn bennaf gan chwarelwyr. Ond ar y goreu, y mae'r sylwadau yn sawru o fymryn bach o ddiffyg cydnabyddiaeth o du yr awdur â'r 'werinos' y sonia am danynt, er trigiannu ohono yn eu plith. Ond a chymeryd y sylwadau fel y maent yn eu crynswth, fe'u ceir yn gadarnhad nodedig i'r hyn a honnir o blaid dylanwad Methodistiaeth ar arferion, moesau a chrefydd Cymru.
Traetha Gruffydd Prisiart ei lên ar arferion, defodau, ofergoeledd a chrefydd Eglwysig, o safle ychydig yn wahanol.—"Un o ddefodion y wylnos fyddai gosod cynfas wen grogedig yr ochr bellaf i'r arch, yna gosod dail gleision a brigau bychain, a llwyau piwtar neu bres os byddent i'w cael, yn groes-ymgroes dros y gynfas i gyd. Yna gosod canwyllau goleuedig, dwy neu dair, ar yr arch gerbron y gynfas, fel y byddai'r olwg yn hynod brydferth. Ar ol i'r clochydd ddarllen y gosber, elai un o'r teulu at y drws, rhag myned o neb allan heb dderbyn dogn o ymborth, yr hyn, pe cymerasai le, a ystyrrid yn sarhad ar y marw. Ac yn gysylltiedig â hyn yr oedd bendith-wers, i'w chyflwyno dros y byw a'r marw. Wedi hynny, ar ol rhyw ymddiddan neu gampau digrifol, ymadawent. Trannoeth, wedi dodi'r corff ar yr elor, byddai un o berthynasau y marw yn rhannu'r ddiodles' dros y corff, sef cypanaid o gwrw neu laeth a estynnid i ryw dlawd penodedig, ynghyda thorth dda, a dernyn o gaws â damn arian yn blanedig ynddo. Yna, wedi i'r tlawd hwnnw adrodd y fendith-wers dros y marw, a rhyw seremonïau eraill, cychwynnent tua'r llan. Wrth offrymu, os byddai y teulu o ryw barchedigaeth, deuai un o honynt ymlaen at yr allor i syllu beth a fyddai offrwm pawb. Os na byddai, yn ol ei feddwl ef, yn deilwng, ystyrrid ef yn sarhad ar y marw. Wedi gorffen y gwasanaeth, rhoi y corff i lawr, ac offrymu i'r clochydd, aent i 'hel y siot,' fel ei galwent. Byddai raid i hon, hefyd, fod i fyny â safon yr offrwm a'r barchedigaeth, neu ni thalai ddim. Ac yr oedd yn rhaid i'r yfed a'r gloddest a'r meddwi fod yn gwbl gyffelyb, fel erbyn y diwedd y byddai'r anhrefn wedi myned dros ben bob gweddeidd-dra ar y fath achlysur. Wedi gwasanaeth y priodasau, hefyd, aent yn uniongyrchol i'r tafarndai i yfed, canu a dawnsio hyd fore drannoeth, neu, os byddai gan y wraig ieuanc gartref lled dda, eid yn gynarach o'r dafarn er mwyn gorffen yn y tŷ. Y Saboth canlynol yr oedd y neithior. Ae y cwmpeini oll i'r llan i'r gwasanaeth y bore, yna aent gyda'i gilydd i'r tafarndai hyd yr hwyr neu drannoeth.
"Yr oedd gwr yn byw mewn tyddyn mynyddig (ni waeth heb ei enwi) yn y plwyf. Rhoes y gair allan ei fod wedi myned i gyfrinach y Tylwyth Teg, a'i fod yn derbyn arian ganddynt. A dyma wedd y gyfrinach. Yr oedd rhyw rai o'r tylwyth i ddod i'r tŷ rhwng pryd codi a boreubryd, ac i fyned i ystafell wely y gwr a'r wraig, ar ol trefnu'r ystafell ar eu cyfer. Nid oedd neb i fyned i mewn i'r ystafell bellach rhag cyffroi y tegyddion, hyd nes elai'r gwr yno. Gadewid demyn triswllt ar y gwely bob bore, a pharhaodd hynny am ysbaid led faith. Elai'r gwr bellach i Lanrwst, a phrynnai yno bynnau o wenith, peth tra amheuthyn, canys yr arfer oedd
Bara ceirch cadarn o flawd wedi rhuddo,
Ac ychydig o 'fen yn ac enwyn i ginio.
Dechreuai'r ardalwyr ryfeddu ar ol y bwystfil.' A mawr yr
ymwrwst ar hyd yr ardaloedd oherwydd y digwyddiad. Ond
wedi'r cwbl nid oedd ond twyll. Mewn cyfrinach yr oedd y gwr â
thylwyth arall, mewn cwrr arall o'r sir, oedd yn bathu arian drwg.
Gallaswn adrodd rhagor am y modd y byddai'r ystrywgar yn
twyllo'r chud a'r ofergoelus o barth y Tylwyth Teg ac
ymddanghosiad ysbrydion.
"Gynt yr oedd y gred mewn ymddanghosiad ysbrydion yn dra chyffredinol. Nid oedd braidd lwyn o goed na chil adwy na byddai rhyw ysbryd neu gilydd yn y lle. Yr oedd un hen wr yn nodedig am eu canfod. Yr oedd yn yr ardal un bwg a alwai'r ardalwyr yn 'lloicoed.' Dywedai'r hen wr am hwn mai clamp o lo braf ydoedd, a phluen wen ar ei grwper, ac yn brefu yn ddiniwed. Yr oedd hen draddodiad y byddai rhywbeth yn ymrithio ar y ffordd sy'n arwain o'r pentref i un o'r nentydd. Ryw noswaith dyma amaethwr yn cyfeirio adref heibio'r lle yn lled hwyr. Clywai swn dieithr a chynnwrf fel yr elai ymlaen, a meddiennid ef gan y fath arswyd nes ei fod yn glafoerian yn cyrraedd adref. Troes y peth allan yn ddim ond gwaith bechgyn direidus yn cymeryd mantais ar yr hen draddodiad ynghylch y lle. Yr oedd rhyw ellyll a elwid Jac y Lanter yn gwibio yn y nentydd. Dywedid y byddai'n ceisio denu rhai dros y clogwyni i dorri eu gyddfau, ac eraill i'r dwfr i foddi.
"Yr oedd pedwar ban y plwyf yn gwrando'n gyson, a byddai'r cymun yn cael ei weinyddu ar y Pasg. Ond yr oedd bucheddau'r gweinidogion yn brawf na wyddent nemor am grefydd bersonol, heblaw fod eu pregethau yn aml yn rhywbeth is nag Arminiaeth. Pan yn fachgennyn, mi glywais fy nhad yn ymddiddan â hen lan-wraig. Gofynnai fy nhad, pa un oedd ffordd cadwedigaeth, ai drwy'r cyfamod gweithredoedd ai'r cyfamod gras? Atebodd hithau mai y gweithredoedd. Gofynnodd yntau eilwaith, pa beth oedd ganddi hi wedi ei wneuthur? Atebodd hithau na wnaethai ddrwg erioed, na bu'n lladrata nac yn puteinio, a'i bod wedi myned i'r llan bob Sul tra gallodd, a phaham na chawsai fyned i'r nefoedd? Yr oedd yr hen wraig yn gynllun teg o'r plwyfolion. Deddf gweithredoedd ac nid deddf ffydd oedd ganddynt. Gallwn feddwl wrth yr hyn a welais ac a glywais mai hynod ddifoes oedd y gwrandawyr [yn y llan] yn aml. Rhof un ffaith i brofi hyn. Yr oedd gwr yn byw yn ymyl Pont Aberglaslyn, yn llanwr selog. Bob Saboth cyn myned i mewn i'r llan, ymwelai â'r tair tafarn yn y pentref. Galwai am beint o gwrw, yfai bob un ar ei dalcen. Yn y llan, gostyngai ei ben i lawr ar ei liniau am gyntun. Un Saboth ymaflodd un o'r amaethwyr yn ei ymyl yn ei berwig, ac wedi ei lapio yn glap yn ei law, hitiodd yr offeiriad â hi yn ei dalcen. Cydiodd yntau yn y berwig, ond gan barhau i ddarllen, a throi cil ei lygad yn awr ac eilwaith at y man y daeth ohono. Ar amrantiad dyna'r berwig yn ol at dalcen y neb a'i taflodd, a dyna hi'n ha! ha! drwy'r holl gynulleidfa."
Ceir y nodiad yma gan Carneddog: "Yr oedd y bobl gyffredin yn credu y medrai rhai neilltuol, gyda rhyw nôd du ar eu cyrff, witsio. Yn wir, cadarnheir gan ddynion geirwir y medrent wneud pethau rhyfedd. Yr olaf a ystyrrid fel witsrag oedd Sian Nog. Byddai plant gwaethaf y pentref ofn pasio bedd Sian, druan, ac elent ar flaenau eu traed heibio. Y mae ei bedd digofnod yn ymyl y llidiart. Erbyn hyn y mae ofn tylwyth y gyfriniaeth ddu wedi llwyr gilio o'r ardal. Wedi dadgorfforiad y mynachlogydd, ac yn eu mysg Priordy y Santes Fair yn Eryri, fe adawyd y lle yn hanner adfeiliedig. Nid oed waddol i gadw offeiriad yma, a bu'r plwyf heb yr un gwr eglwysig yn trigiannu o'i fewn am gyfnod o ddau can mlynedd a mwy. Nid yw ficeriaeth Beddgelert yn hen, oblegid hyd tua 1801, ni chynhelid ond un gwasanaeth yn yr eglwys, a hwnw ar fore Sul, o dan nawdd person Llandecwyn. Yr oedd toreth y bobl yn anwybodus ac ofergoelus iawn. Yr oedd mab i un o ffermydd mwyaf y plwyf wedi cael ei wahodd i'r llan un bore Sul yn dad bedydd i blentyn cymydog. Pan ofynnodd y person iddo, a oedd efe yn credu yn Nuw Dad, Duw Fab, a Duw yr Ysbryd Glan? fe edrychodd yn syn, ac a atebodd, 'Na, yr wyf yn ymwrthod â hwy oll.' Un bore Sul braf o haf, yr oedd dau hen ffermwr yn myned adref o'r eglwys, pryd y cyfarfu gwr lled wybodus â hwy, a gofynnodd iddynt a oeddynt wedi cael pregeth go dda y bore hwnnw? 'Wel, do, am wn i, wir,' meddai un o honynt. Am beth yr oedd y person yn trin heddyw?' 'Am ryw Ioan Fedyddiwr.' 'Wel, gwarchod ni,' meddai'r llall ohonynt, 'rhyw greadur cyn- ddeiriog oedd hwnnw, 'roedd o'n medru byta locustiaid a mel gwyllt,' meddai Mr. Jones [sef y person]. 'Mi ddeydodd, hefyd, fod rhyw gnawas o hogan wedi deyd wrth i mam fod yn rhaid torri i ben o. Gwarchod ni! 'roedd o'n deyd rhyw straeon rhyfadd ofnadwy heiddiw.' Yna hwy aethant ymlaen gan son am y fuwch yma a'r ddafad acw, a chodi cerryg oddiar y ffordd. Yr oedd y Beibl yn ddieithr i'r werin. Tystia'r cofnodlyfr priodasau na fedrai un o bob cant o'r merched sgrifennu eu henwau. Ni roddent ond croes. Medrai ychydig o'r dynion wneud prif lythrennau eu henw. Ni fedrai ond plant y boneddigion a'r prif ffermydd sgrifennu eu henwau yn llawn. Yn 1740 cawn fod un o gangen-ysgolion Griffith Jones Llanddowror yn y llan. Nodir fod rhif yr ysgolorion yn 62. Ni hysbysir pwy oedd yr athro. Yn 1764, ac yn ddilynol, yr oedd Robert Jones Rhoslan yn cadw ysgol yn yr un lle.'
Fe deifl sylwadau Mr. David Pritchard ar yr hen drigolion oleu ar eu nodwedd, ac a'n cynorthwyant i synio yn gywir am y dyn naturiol a'r dyn ysbrydol yn eu mysg. Fel yma y dywed (gan grynhoi): "Hoff bleser Wil y Tancia oedd adrodd barddoniaeth, a gwneud ambell i rigwm ei hun:
Eis i Feillionnen i chwilio am fawnen,
Ac eis i Dancia i geisio ei thoncio;
Fe roddodd Sali y pridd i'w losgi,
Ac aeth yn lludw fel y marw.
Arferai Sali bysgota gyda chawell yn y llyn yn afon Colwyn, a elwir ar ei henw hi, sef Llyn Sara. Yn yr haf hi a arferai wisgo'i hun mewn pais a betgwn a het silc, a gwerthai hosanau a darnau grisial i'r ymwelwyr. Yr oedd Modryb Catrin Prys yn byw ym Mryn melyn yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Yr oedd hon yn ddefosiynol yn null yr oes honno. Hi ddarllennai lawer ar lyfrau proffwydi'r Hen Destament. Wrth agor Eseciel neu Ddaniel, hi ddywedai, megys wrthi ei hun, "Wel, gad glywed, fab dyn, be' sy genti i'w ddweyd.' Wrth agor ar y bumed o Eseciel, lle darllennir, 'Tithau, fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio,' hi ddywedai, 'Wel, fab dyn, be' wyti am neud hefo nhw?' Adroddai'r pader a chredo'r Apostolion wrth fyned i'w gwely, ac, yn aml y rhigymau yma:
Pedwar post sydd gan fy ngwely,
Pedwar angel Duw o'm deutu;
A pheth bynnag ddaw i'm blino,
Duw, Mab Mair, ddelo i'm gwylio.
Mi rof fy mhen i lawr i gysgu,
Mi rof fy enaid i Grist Iesu;
A lle bynnag bydd fy niwedd,
Duw ddwg f'enaid i dangnefedd.
Ei hen forwyn, Sioned Prys, oedd yn hynod iawn yn amser y
diwygiad mawr. Ar ol bod yn canmol y drefn i faddeu pechodau
unwaith, gan neidio a gorfoleddu, ebe Catrin ei meistres wrthi,
'Dos i dy wely, a dywed dy bader, ac mi fydd yn haws iti gael i
madda' nhw, ddyliwn i.' Yn amser Hugh Dafydd yn Gwastad
Annes [Agnes], daeth dau o frodyr y wraig yma o Gae'r llwynog,
Cwm Croesor, sef E. William a W. William. Hen lanc oedd.
William William, a llawer a boenid arno o'r herwydd. Yr hyn a
ddywedai yn ol fyddai, na phriodai efe mo neb byth, os na byddai
ryw ffigiwr arni. Ymhen amser, fe gafas un a chlamp o ffigiwr
arni, fel y tybiai efe. Ond dywedai Hugh Dafydd mai'r ffigiwr
9 ydoedd, wedi torri ei goes. Bu Dafydd Gruffydd, hen lanc eto,
yn aneddu yn Gwastad Annes. Nid ae hwn i lan na chapel. Yr
oedd teimlad dwys yn rhan y cyfryw yn amser y diwygiad mawr.
Aeth John Jones Glan Gwynant ato. 'Wel, Dafydd Gruffydd,
a ydych ddim yn meddwl y dylech fynd i foddion crefyddol, rhag
ofn i'ch amser gwerthfawr fynd heibio?' 'Be' wyti'n feddwl,
Sion,' gofynnai yntau, 'dywed yn blaen imi.' 'A fyddwchi ddim
yn meddwl am farw weithiau, Dafydd Gruffydd?' 'Meddwl
am farw, yn wir', ebe yntau, 'meddwl am fyw dy egni, y ffwl
gwirion; mi fyddi'n siwr o farw yn ddigon buan wedyn, mi dyffeia'i
di!' Ac ofer y troes y cais i'w ddarbwyllo. Mi glywais mai tri
oedd yma yn amser y diwygiad mawr na welwyd monynt yn wylo
yn hidl, yr hen lencyn hwn yn un o'r tri. Bu yma hen deiliwr
a'i wraig yn nechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a arferent
dramgwyddo'n fynych wrth ei gilydd, a llawer gwaith yr ail-briodwyd hwy gan y cwnstabliaid. Yr oedd marchog y nodwydd
yn bur ddefosiynol ei arferion, ac arferai ddweyd ei bader wrth
fyned i'w orffwysfan. Tybiai'r wraig, druan, na wnelai hynny ond i
flino ei meddwl hi. Un noswaith aeth yn ffrae wyllt wibwm rhwng
y ddau ynghylch y pader, a'r canlyniad fu i'r pwythwr pert hel ei
arfau ynghyd a chymeryd y goes, a'i gadael am byth. Edifarhaodd yn y man. Ymgymerwyd â cheisio eu cymodi, a deuwyd
ymlaen i Fwlch derw. Y cymodwr a aeth i mewn yn gyntaf i
wyneb y ddrycin. Ar ol hir ymdrafod, ol a blaen, cyrchwyd y
nodwyddwr i mewn. Ei gyfarchiad cyntaf oedd, Wel, Begw!
wyti'n foddlon imi gael deyd fy mhader bellach?' 'Ydechi'n
gweld!' llefai hithau, 'dyma fo'n dechre arni hi ar unwaith eto.
Ni threiai ddim byw hefo fo, waeth i chwi heb gyboli!' Er y cwbl,
cymodi a wnawd, a dywedir y bu gwell heddwch rhagllaw, a chafodd y gwr lonydd i ddweyd ei bader. Mab Sygun bach oedd William
Dafydd, a ddaeth i gyfaneddu i Dŷ Glan y llyn. Pan fu farw
Gruffydd Jones Hafodydd, daethpwyd a hen dderw caled at William
Dafydd i'w lifio at wneud arch. Wedi bod ohono ef a'i fab Robert
yn llifio'n ddiwyd am gryn ennyd, heb wneud fawr o'u hol ar yr
hen goedyn, meddai William Dafydd,—Wysti be', Bob, rhaid iti
fynd i'r 'Fodydd i ddweyd wrthyn nhw am halltu'r hen wr yna,
achos mi fydd wedi hen ddrewi cyn y llifiwn i'r hen goeden yma!'
Pan ddigwyddws William Dafydd fod yn y Tŷ uchaf, Beddgelert,
un tro, dyma Hugh Evans Meillionnen i mewn. Ar y ffordd yr
ydoedd i weled yr anifeiliaid oedd ganddo'n pori yn Llanfrothen.
Ac mewn cyfeiriad at hynny, ebe William Dafydd, mewn dull
chwareus, ' Pe buasai sir Gaernarvon yma i gyd gan Hugh Evans,
fe fuasai arno eisieu cae i'r dyniewaid yn sir Fon wedyn.' Holodd
John Jones Talsarn William Dafydd unwaith ynghylch iechyd
John Jones Glan Gwynant. Gwael iawn ydio'n wir,' ebe yntau.
Mynegai John Jones ei bryder rhag mai colli'r dydd a wnae.
'Dwn i ddim, wir,' ebai William Dafydd. 'Mi rydwi'n barnu y rhaid cael
rhyw Angeu heblaw'r un sydd y ffordd acw, ne ni chyll o mo'r dydd,
mi dyffeia'i ol' Chwarddai John Jones wrth adrodd y sylw.
Meddai William Dafydd ar lais mwyn, treiddgar. Yn absen John
Jones Ty'n llwyn, efe a arweiniai'r canu ym Methania. Ond yr
oedd gogwydd ei feddwl yn fwy at yr ysgafn a'r gwamal. Ar ol
symud ohono i'r pentref, fe ganodd lawer i ddilyn tannau'r delyn
yn y Goat Inn. Efe oedd y pencampwr ar yfed y chwart mawr.
Gresyn oedd i William Dafydd gamddefnyddio'i dalent."
Cymerer eto rai o'r cymeriadau a ddisgrifir yn y Drych, gan ysgrifennydd a fagwyd yn Rhyd-ddu. Dyna Sion Emwnt Glanrafon. Eglwyswr oedd Sion, ond rhoir yr awgrym y byddai yn myned i'r capel ar dro weithiau. Eithr y person a'r boneddigion ydoedd y rhai y tyngai wrthynt, serch hynny. Rhaid fod Sion yn Rhyd—ddu fel aderyn brith ymhlith yr adar, gan y dywedir yr elai'r holl ardal ynghyd i gapel Rhyd-ddu. Dywedir fod lliaws ohonynt heb broffesu, er yn hynod o selog ymhob cyfarfod ond yr un eglwysig. O ran ei agwedd allanol, gwr tal, esgyrniog a chryf y dywedir fod Sion. Gwyllt fel blaidd ar y funud, debygid, ydoedd, ac yn gallu rhoi dyrnod fel duryn eliffant; ond pan nad oedd yr helynt yn un bwysig, ac heb fod egwyddor yn cael ei haberthu, yn swatio y funud nesaf ac yn myned fel oen llyweth, gan gymeryd yn ganiataol fod popeth o'r goreu rhyngddo a'i wrthwynebydd o hynny'n mlaen. Ac felly yn gyffredin y digwyddai. Heliwr cadarn ydoedd, a'i gampau helwriaethol yn adnabyddus drwy'r fro. Drwy'r cwbl, yr ydoedd yn ddyn syml, diddichell, difrad, gonest, geirwir, cymwynasgar. Cas gan ei enaid ydoedd pob dyn celwyddog, anonest. Yn y tŷ a aneddai yr oedd bwydo teithwyr yn ddeddf ers degau o flynyddoedd cyn i Sion fyned yno, eithr fe gariodd yntau'r arfer ymlaen. Er galw o bryd i bryd yn ei dŷ, ni welodd yr ysgrifennydd mono gymaint ag unwaith â'i drwyn mewn llyfr, megys y mae arfer rhai. Er hynny, fe wyddid fod ganddo'r parch dyfnaf i Dduw a threfn rhagluniaeth, a dywedir, pe o'r ddeddf y buasai bywyd, yna y buasai rhagolygon Sion yn ddisglair iawn. Gresyn, er hynny, na chafodd Sion mo'r weledigaeth, ac iddo "fethu torri trwy." Ond ni wyddis mo ffordd y Brenin yn gyfangwbl. (Gorffennaf 3 a 24).
Sonir hefyd am hen lanciau Clogwyn y gwin. Dywedir fod llawer wedi ei ysgrifennu am danynt, a llawer o hynny yn anwiredd. Fe ddichon, er hynny, fod yr hyn oedd yn anwiredd mewn ffaith, yn wir mewn idea, neu ynte pa fodd y mae llyfr fel Hunangofiant Rhys Lewis yn wir ar ei hyd, fel y gŵyr pawb ei fod. Y mae chwedlau gwlad yn rhyw fath o ymylwaith ar y gwir gymeriad, ac yn addurn arno yn aml, os nad oes pobl faleisus yn trigiannu y ffordd honno. Pa ddelw bynnag, ni gyfyngwn ein hunain yma i'r gwir noeth. Dynion hynod am eu nerth a'u grymuster, ac mor hynod a hynny am eu geirwiredd a'u huniondeb oedd hen lanciau Clogwyn y gwin. Eithr fel y mae gwrthddywediad yn hanfod gwirionedd, felly yr oedd hen lanciau Clogwyn y gwin yn llawn direidi a chastiau drwg. Nid diogel iawn fyddai neb—nid am ei hoedl, y mae'n wir—ond eto am iechyd llawn ei gorff, a gymerai fantais anheg ar y gwan, neu a gyflawnai weithredoedd llechwraidd. Clywodd yr ysgrifennydd ei dad yn adrodd am un tro digrif. Ar brynhawngwaith tesog, a hithau yn ddiwmod cneifio yn Nrws y coed, yr oedd gwr dierth o'r Deheudir i bregethu yn Rhyd-ddu. Yn ol trefn a defod gorfod oedd ar rywun o bob tŷ fyned i'r cneifio, ac felly yr aeth un o'r brodyr yno. Codi'n fore, dechre cneifio yn gynnar, gweithio'n galed, er mwyn bod yn yr oedfa yn brydlon, os gellid. Ond dyma Robin o'r diwedd wedi gorffen ei lwdn olaf, ac ymaith âg ef, gyda'r gwellaif a'r pastwn a'r cnuf gwlan dan ei gesail, a phump neu chwech o gwn bugail yn ei ddilyn. Ffrystio i'r capel filltir o ffordd, ac i mewn yn llewys ei grys gyda'r cwn, y cnuf gwlan, y gwellaif a'r pastwn a'r cwbl. Y chwys yn pistyllio dros ei wyneb. Yntau'n cymeryd y cnuf gwlan i'w sychu, nes fod y gwlan yn glynu yn ei farf arw, a golwg ddigrif arno, er yn gwbl ddifrif a diniwed. Ac yn y drych hwnnw yr arhosodd drwy'r oedfa, yn wrthrych difyrrwch i rai yn y gynulleidfa, ac yn wrthrych synedigaeth yn ddiau i'r gwr dierth o'r Deheudir. Er yn cymeryd arnynt gospi eraill ar brydiau, gwnelent hynny gydag amcan i wella'r drwgweithredwr. Yr oeddynt yn gydnabyddus â hanes ac achyddiaeth yr holl ardal. Perthynai iddynt graffter i adnabod dynion, ac am hynny yr oedd gweinyddiaeth cosp oddiwrthynt yn ddifeth. Meibion natur oeddynt, ac yn perthyn i oruchwyliaeth a aeth yn hen ac a ddiflannodd, gan roi lle i'r hyn y mae'r ysgrifennydd braidd yn ameu sy'n well. Erthygl fawr eu credo, mai Duw yw Pen-rheolwr y byd, a bod drwg anesgorol ym mhob anwiredd a thwyll. (Gorffennaf 24).
Yr oedd Elis a Neli Jones yn frawd a chwaer, yn byw gyda'i gilydd, a'r ddau yn ddibriod, ac yn byw dan yr unto a'u chwaer Mari, sef gwraig William Jones Llwyn y forwyn, un o flaenoriaid Rhyd-ddu. Pedwar hen bererin cywir. Er hynny, nid oedd Elis Jones yn proffesu crefydd. Tebyg mai byw dan lywodraeth ac yn rhwymedigaeth ofn yr oedd lliaws o'r dosbarth yma y pryd hwnnw, ofn sydd bellach wedi cilio ymaith yn rhy lwyr. Gelwir ef yn gristion cywir gan yr ysgrifennydd, ac yr oedd yn ddiddichell fel maban. Darllennai bennod gyfan ar ei hyd bob dydd wrth ddyledswydd, beth bynnag fyddai'r hyd neu beth bynnag fyddai'r pwnc. Aeth i Lundain ar dro fel tyst yn achos anghydwelediad ynglyn â chwarel Bwlch Cwmllan. Gan ddirnad pwys ei dystiolaeth yn ddiau, ceisiodd cyfreithiwr y blaid wrthwynebol atal ei dystiolaeth ar y tir ei fod yn ddyn rhy anwybodus i roi pwys ar ddim a ddywedid ganddo. Ac yr oedd yr olwg syml a gwledig oedd arno yn rhoi grym yn y ddadl, neu fe ddisgwylid hynny. Yr oedd y barnwr ar y fainc yn rhy hirben, pa fodd bynnag, i adael i'r penogyn coch yma gael ei dynnu ar draws y trywydd. Gofynnodd y barnwr drwy'r cyfieithydd, A wyddochi beth yw'r llyfr yna?" "Gwn o'r gore," ebe yntau. "A ddarfu i chwi ei ddarllen erioed?" "Do." "Pa bryd ?" "Bore ddoe cyn cychwyn yma." "A fyddwchi yn ei ddarllen yn aml?" "Byddaf, yn darllen pennod ohono bob dydd ers yn agos i drigian mlynedd." Yna fe droes y barnwr i gyfarch y cyfreithwyr: "Mae'r hynafgwr yma o fryniau Cymru yn peri i ni gywilyddio, a byddai bron yn anichonadwy i wr fel efe ddweyd celwydd yn fwriadol." Yna fe archodd gymeryd ei dystiolaeth; a rhoes tystiolaeth Elis Jones derfyn ar yr ymrafael. Yr oedd y boneddigion yn y llys yn mynnu ysgwyd llaw âg ef ar y diwedd. (Medi 11). A disgleiriach nag yntau ei chwiorydd a'i frawd yng nghyfraith, fel y ceir crybwyll am danynt hwy yng nghorff yr hanes.
Fe ganfyddir mai amcan yr enghreifftiau amrywiol a rowd ydyw dangos rhyw waelod o gymeriad a berthynai i bobl yr ardal yn yr amser gynt. Tybir, hefyd, fod rhyw linell ysgafn o wahaniaethiad nodweddiad perthynol i'r rhanbarth yma yn dod i'r golwg ynddynt, a'u bod, gan hynny, yn rhyw help i roi gerbron bortread cymeriad ysbrydol yr ardal, neu ryw amlinelliad ysgafn ohono. Fe geisir rhoi'r prydwedd yn amlycach eto.
Dyma nodiad Carneddog ar Ddirwest yn yr ardal: "Ystyrrid plwyf Beddgelert yn un o'r lleoedd meddwaf yn y Gogledd cyn toriad allan y diwygiad mawr. Prif orchest y llymeitwyr oedd yfed cynnwys y chwart mawr' ar un traflynciad, ac yna ceid ef yn rhad. Yr oedd yn y pentref bedair o dafarnau,—tair yn rhai pur fawrion, ond gwr y dafarn leiaf a wnaeth ei ffortiwn, a chododd dŷ helaeth, a elwid ar lafar yn Blas Gabriel. Yn 1833 daeth Dirwest i fri. Anrhegwyd fi yn ddiweddar â medal ddirwestol y cyfnod hwnnw. Caed yr hen dlws yn yr afon ym Mlaen Nantmor yng Ngorffennaf, 1902. Y mae'n lled fawr o faint gyda thwll ynddo. O amgylch un tu iddo, fe geir mewn llythrennau breision,—'Ardystiad Dirwestol. Sefydlwyd 1833.' Wrth y twll ceir arlun o 'law mewn llaw.' Ar ei ganol, rhwng dwy gangen glymedig ceir,—'Yr ydym yn ymrwymo i ymwrthod â diodydd meddwawl, ond yn Feddygol.' O dan hyn ceir darlun o'r Delyn Gymreig. Ar yr ochr arall, ceir darlun o deulu sobr, dedwydd a llon. Sefydlodd Gruffydd Prisiart Gymdeithas Cymedroldeb Beddgelert' ar Ebrill 10, 1834. Gwnaeth ddaioni dirfawr, er nad oedd rhifedi yr aelodau eto yn lluosog. Tachwedd, 26, 1836, cawn i Gymdeithas Lwyrymataliol gael ei sefydlu ym Meddgelert. Ymdaenodd y don ddirwestol dros 'oror yr Eryri' o ben i ben. Ardystiodd rhai o feddwon pennaf y plwyf. Cynhelid cyrddau yn y pentref, a deuai pobl y nentydd yno yn lluoedd brwdfrydig. Er mwyn cael troi allan i orymdeithio, gan fod hynny mewn bri mawr, penderfynwyd prynnu y 'Faner Fawr,' fel ei gelwid. Y mae'r faner ardderchog hon ar gael eto, ac mewn cadwraeth dda. Y mae ei lliwiau, ei harwyddeiriau a'i lluniau yn berffaith eglur, ac yn hollol Gymreig. Dyma'r hyn sydd arni, at i fyny: 'Meddwdod o'r Byd. Cymdeithas Ddirwestol Beddgelert. Sefydlwyd Tachwedd 26, 1836. Ar y llaw aswy, gwelir lluniau'r glwth a'r meddw, a delw o Angeu a'i bladur yn ei law. Gwelir meddwyn ar lawr, a'i wraig yn wylo, a photel o wirod yn ymyl. O dan hynny y geiriau, Y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi. Ar y llaw ddehau, gwelir tad a mam yn eistedd yn eu parlwr clyd, gyda'r Beibl yn eu llaw. Arwyddion llawnder yn gymysg â blodau. Y geiriau odditanodd, Tyred gyda ni, a ni a wnawn i ti ddaioni. O dan y cwbl y ceid y geiriau,-Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Bu llawer o orymdeithio gyda'r faner hon. Yr olwg ar y faner ar y blaen a gariai ddylanwad mawr ar y fyddin ddirwestol, ac ar feddwon yr ardaloedd. Cerid hi ar bolion gan feddwon diwygiedig. Gorymdeithiwyd i lawr i Dremadoc un tro, a phan welodd dirwestwyr ardal Nantmor a Phont Aberglaslyn y fyddin yn dod i lawr y Gymwynas, a'r Faner Fawr ar y blaen, methodd llawer o'r rhai mwyaf selog a dal heb waeddi a wylo. Yr oedd yr olygfa yn syfrdanol. Daliodd llawer eu hardystiad hyd eu bedd. Chwyldrowyd cyflwr moesol yr ardaloedd."
Dyma adroddiad yr ymwelydd â'r ysgolion adeg y Canmlwyddiant (1885): "Ni chedwir rhestr bersonol o bresenoldeb yr ysgolheigion yn yr un o'r pum ysgol. Y prif gatecismau, yr Hyfforddwr, Rhodd Tad, Rhodd Mam. Dim paratoad arbennig i athrawon na dosbarthiadau. Saith o athrawon heb fod yn aelodau eglwysig. Defnyddir y catecismau yn y dosbarthiadau isaf yn unig. Ar y cyfan, y rhan yma o'r gwaith yn gymeradwy. Dygir y gwaith ar gyfer y Cyfarfodydd Chwarterol a Blynyddol i'r ysgol, a cheir y cynllun yn ateb yn eithaf da. Nid oes gan yr un o'r ysgolion stafelloedd gwahaniaethol i'r plant, ac am hynny defnyddir llyfrau ac nid cardiau. Dim Safonau. Y nifer ar gyfartaledd ym mhob dosbarth (plant), o saith i wyth. Ym Mheniel yn unig yr arholir y plant yn flynyddol, gan eu dyrchafu o'r naill ddosbarth i'r llall. Siaredir yn erbyn drwg arferion yn niwedd yr ysgol. Tua chant o aelodau eglwysig heb ddilyn yr ysgol. Siaredir â hwy yn gyhoeddus a chyfrinachol. Rhai heb fod yn aelodau eglwysig mor ffyddlon i'r ysgol a'r rhai sydd. Dim rheolau argraffedig yn yr un o'r ysgolion. George Thomas."
Yr oedd yma briordŷ er yn fore, y tybir oddiwrth y sylfeini y daethpwyd o hyd iddynt ei fod yn adeilad górwych. Chwalwyd yr eglwys yn 1830, un o'r hen eglwysi cywreiniaf yn y sir. Yr oedd gan yr Anibynwyr bregethu yn achlysurol yn y pentref yn gynnar yn y ganrif o'r blaen. Gosodwyd carreg sylfaen capel, heb fod moddion cyson yma o'r blaen, Gorffennaf 27, 1852. (Hanes Eglwysi Anibynnol, III. 226). Daeth y Wesleyaid yma yn gynnar yn yr un ganrif. "Ar y cyntaf llwyddasant yn anghyffredin. Torrodd diwygiad grymus yn eu plith, gorfoledd mawr, cyrchu anghyffredin i'w gwrando, fel y tybiesid ar y cyntaf y buasai yn ysgubo popeth o'i flaen. Y prif leoedd y cynelid y moddion oedd y Tŷ mawr yn Nantmor a Chwm cloch yn Nant y colwyn. Megys ar darawiad ymunodd lliaws ,yn wŷr a gwragedd, a'u Cyfundeb, gan ei ddilyn bant a bryn yn llawn sel, ac ymhlith y lliaws yr oedd amryw o rai meddwaf y plwyf. Cododd o'u plith dri o bregethwyr, yn llawn sel, ond ni buont o nemor wasanaeth yma oherwydd eu symudiad buan i leoedd eraill i wasanaethu. Yr oeddynt yn llawn sel, ond yn brin mewn gwybodaeth. Pallodd un o'r tri yn fuan. Gofynnodd un iddo pam y pregethai gwymp oddiwrth ras. Dywedai yntau y pregethai hi tra byddai chwythad ynddo. Bu cystal a'i air, oherwydd fe gwympodd ei hun yn fuan, a phregethodd yr athrawiaeth yn ei ymarweddiad tra fu'n chwythu, chwedl yntau. Yr oedd llawer o bethau lled ddigrif mewn cysylltiad â hwy, na waeth heb sôn am danynt, a bu'r cyfryw bethau yn achlysur i'r ieuenctid gasglu i'r moddion, ac aethant o'r diwedd yn hyf ac afreolus. Dechreuwyd oeri, dychwelodd amryw at eu chwydiad yn ol, pallodd y pregethwyr ddod yma o radd i radd, nes o'r diwedd pallu yn gwbl. A gellir dweyd am y diwygiad hwn mai mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu." (Ysgrif Gruffydd Prisiart). Oddeutu'r un blynyddoedd, daeth y Moraviaid i Ddrws y coed. Ymunodd William Gruffydd a'i deulu â hwy (edrycher Rhyd-ddu); ond nid arhosodd ef yn y gymdogaeth yn hir, a darfu'r blaid yn y man.
Dengys y tabl canlynol berthynas yr eglwysi, fel eglwysi, âg eglwys y Pentref, ac amser eu sefydlu:
Amseriad sefydliad cyntaf yr eglwys, mor agos ag y gellir dyfalu, yw 1784. Un eglwys ydoedd, nes ymganghennu ohoni ar yr amseriadau a ddangosir. Eithaf tebyg y bu yma fath ar gyfeillach eglwysig pan fu Robert Jones Rhoslan yn cadw ysgol yn y llan oddeutu 1764, ond na pharhaodd nemor neu ddim yn hwy na'i arosiad ef yma, yr hyn nad ydoedd ond ystod o ryw ychydig fisoedd. Yn ol y Methodistiaeth, tua 40 oedd rhif yr eglwys o'i symudiad i'r pentref hyd y diwygiad, sef dros ystod 1790-1817. Yr oedd rhif y pedair eglwys yn niwedd 1900 yn 555.
Nodiadau
golygu- ↑ Ysgrif Gruffydd Prisiart. Traethawd ar y Wyddfa (llawysgrif), gan Gruffydd Prisiart. Erthyglau yn y Drych am 1890 ar Blwyf y Bedd, gan E. E. Owen, Los Angeles, California. The Journey to Snowdon, 1781,Pennant. Observations on the Snowdon Mountains, 1802, W. Williams Llandegai. Wild Wales, George Borrow. Ysgrif Carneddog ar Aberglaslyn (Cymru xvi. 69). Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Nodiadau gan Carneddog.