Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Croesywaen
← Ceunant | Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr gan William Hobley |
Tanycoed → |
CROESYWAEN.[1]
Pan nad oedd ond un capel yn ardal y Waenfawr, elai lliaws yno drwy lwybrau go anhygyrch weithiau, a thros bellter o ffordd, cymaint a dwy filltir neu ragor mewn rhai enghreifftiau. Dyma'r achos am y galw am gapel arall oddeutu 1863, y cyfeiriwyd ato yn hanes y Waenfawr. Er mai plaid yr un capel a orfu, eto yr oedd y teimlad o angen capel arall yn aros o hyd. Daeth y mater i ben yn Ebrill, 1878, pan y penodwyd pedwar o frodyr i wrando llais ardal Croesywaen ynghylch capel newydd. Fe gafodd y mater ei drafod mewn amryw gyfarfodydd go derfysglyd.
Yn Nhachwedd 1880, ar waith yr eglwyswyr yn rhoi eu gwasanaeth yno i fyny, a myned i'r Eglwys newydd, cymerwyd yr Hen Ysgoldy Genhedlaethol ar ardreth, a chychwynnwyd ysgol Sul yno. Cychwynnwyd y 14 o'r mis, pryd yr oedd 82 yn bresennol, T. Jones, ysgolfeistr, yn arolygwr. Traddodwyd y bregeth gyntaf yn y prynhawn gan Mr. Francis Jones, Chwefror 6, 1881. Cafwyd amryw bregethau yn ystod y flwyddyn, ac wedi hynny trefnwyd pregeth yn rheolaidd unwaith yn y mis. Cychwynnwyd casgl misol at dreuliau yr ysgol ym Medi, 1881, a pharhawyd gydag ef hys nes y trowyd ef yn gasgl at y capel newydd.
Yn Nhachwedd, 1882, impiwyd ysgol fechan Plas Glanrafon i ysgol Croesywaen, ac anfonwyd y Mri. Benjamin Williams a Robert Williams Brynbeddau, yno i gynorthwyo. Ar ol hynny bu'r Mri. Morgan Jones Pant a William Parry Warwick yn myned yno. Gwŷr fu'n ffyddlon a blaenllaw am ysbaid maith gyda'r ysgol hon oedd W. Williams (Sardis) a Mr. R. H. Parry Glanrafon. Yn nechre Ebrill, 1883, gwnawd cais gan ysgol Croesywaen ar eglwys y Waen am gapel. Cyfarfodydd cynhyrfus. Teimladau yn llareiddio mymryn, a chydnabod rhesymoldeb y pwnc, ond fod masnach yn isel.
Ar waith eglwys y Waen yn rhoi galwad i W. Ryle Davies, fe gytunwyd drwy benderfyniadau ar godi eapel a sefydlu eglwys, ynghyda rhoi gofal y ddwy eglwys ar y bugail newydd. Oedi son am gapel wnawd, pa ddelw bynnag, hyd nes symbylwyd y meddwl am gapel newydd gan gymun-rodd William Jones Penrhiw i'r amcan, sef £400, ar yr amod fod y capel yn rhywle ar y ffordd fawr o Ysgoldy Croesywaen hyd Benbryn caeglas, a'i fod i gael cychwyn ei adeiladu o fewn chwe mis. Y Waen yn erbyn capel yng Nghroesywaen, ac eisieu iddo fod yn Nhŷ'n cae. Ystyrrid Croesywaen yn rhy agos i'r hen gapel, sef pen arall y pentref, ac ychydig gyda hanner milltir yn nes i Gaernarvon. Penodwyd gan y Cyfarfod Misol i ystyried y mater, y Parchn. Evan Jones, William Rowlands, John Owen Jones a'r Dr. Roberts Penygroes. Cyfarfu'r brodyr hyn frodyr o'r lle, Awst 10, 1885. Dyfarnwyd o blaid Croesywaen. Y fam-eglwys yn ffromi ac yn gwrthod cynysgaeth i'r ferch.
Penderfynu gweithio ymlaen. Cynlluniodd R. Lloyd Jones ei gapel cyntaf. Prynwyd y tir, sef 30 llath wrth 29 am £88 19s. 6ch. Ymgymerwyd â'r gwaith gan y Mri. Lewis a Williams (Llangaffo, Môn), am £1140. Arwyddo'r cytundeb, Hydref 5. Dodi'r sylfaen i lawr, Hydref 7. Er dod i fyny â thelerau'r llythyr-cymun, llwyddwyd i'w dorri drwy gyfraith. Brwdfrydedd yn ennyn fwy nag erioed. Cwblhau'r gwaith cyn diwedd 1886. Lle yn y capel i 400. Arwyddo'r weithred, Tachwedd 1886. Yr ymddiriedolwyr: T. Jones, Morgan Jones, John Roberts, William Jones, W. Williams, T. Hughes, (Dr.) Hughes. Yr holl draul, gan gynnwys y tir a dodrefnu'r capel, £1380.
Ffarwelio â'r fam-eglwys, nos Iau, Rhagfyr 2, 1886. Agor y capel, Rhagfyr 12, pryd y pregethodd W. Ryle Davies, y bore oddiar II. Cronicl v. 6, a Nehemia iv. 19, 20, a'r hwyr oddiar Hosea xiv. 5. Nos Iau, Rhagfyr 16, sefydlu'r eglwys. Cenhadon y Cyfarfod Misol, y Parchn. Evan Roberts Engedi a T. Gwynedd Roberts, ac Owen Roberts (Engedi). Rhif yr aelodau yn bresennol ar y pryd, 110. Daeth 122 o aelodau y Waen yma. Rhif erbyn diwedd y flwyddyn, 130. Y ddyled erbyn diwedd y flwyddyn £1175. Yn ddilog, 498. Daeth dau o flaenoriaid y Waen yma i gymeryd gofal yr eglwys, sef Morgan Jones Pant a T. Jones yr ysgolfeistr. Fe fu'r achos dan eu harweiniad hwy hyd Chwefror 1887, pryd y dewiswyd atynt, Dr. Hughes a Richard Griffith Bodhyfryd.
W. Phillip Williams yn derbyn galwad yr eglwys, 1890, ac yn ymsefydlu yma, Gorffennaf 8. Daeth yma o Dywyn, Abergele.
Dewis Hugh Jones Frongoediog yn flaenor, Ebrill, 1895. A Thachwedd, 1897, dewis William Morgan Ty newydd a John Thomas Coed gwydryn.
Mawrth 6, 1898, y cyrhaeddodd bugail yr eglwys, William Phillip Williams, ei derfyn, yn 42 oed, ac wedi gwasanaethu'r eglwys am yn agos i wyth mlynedd. Brodor o'r Carneddi. O ochr ei fam yn hanu o deulu Gwaengwiail, teulu yn cynnwys amryw o ddynion o feddyliau cryf a diwylliedig. Dechreuodd bregethu yn 20 oed yn y Carneddi. Ordeiniwyd yn 1889. Fe fu'n fugail yn Nhywyn, Abergele, am flwyddyn, cyn derbyn yr alwad i Groesywaen. Ymagorodd yn raddol. Osgo fymryn yn ddihidio arno, gyda gwên go agored. Tywyniad go berliog yn y llygaid. Siarad mewn dull dipyn yn ddirodres, fel un yn mynny rhoi'r pwys ar y pethau yn hytrach nag ar y ffordd o'u cyfleu. Yn araf-deg y deuid i'w werthfawrogi. O ran ffurf ei feddwl yn perthyn yn o amlwg i'r dosbarth dihidio am dano'i hun o chwarelwr, ac nid i'r dosbarth go falchaidd mwy lliosog. Fymryn yn ymwybodol o hynny, ond yn ymgryfhau yn araf yn seiliau ei gymeriad. Ei nodwedd hwn ddaeth rhyngddo âg ennill sylw am gryn ysbaid; ond wedi dechre craffu arno, dechreuid priodoli iddo ragoriaeth go uchel, ac yn enwedig gwreiddioldeb meddwl. Llwybr iddo'i hun wrth weithio'i bwnc allan. Meddwl llawn mwy arno'i hun na darllen. Darllen ychydig lyfrau gwydn, megys Butler, Jonathan Edwards, Lewis Edwards, a rhyw gymaint ar Shakspere a Milton. Go araf i dderbyn barn arall, fel y chwarelwr pan heb fod dan ddylanwad chwiw y chwarel. Ymwthiodd i serch yr eglwys. Cyfaill pur. Bu llwyddiant ar ei ymdrechion gyda'r bobl ieuainc. Gweddïai yn uchel yn ei ystafell, a chyda gafael gref, yn ystod y tridiau olaf y bu fyw, a hynny am baratoad i'r cyfnewidiad o'i flaen, a thros ei deulu a'r eglwys. (Goleuad, 1898, Mawrth 30, t. 2, gan y Parch. R. Pryse Ellis).
Tachwedd 6, 1898, cymeryd llais yr eglwys ar Mr. James Jones, fel bugail. Yntau yn dod yma, Ionawr, 1899.
Chwarelwr wrth ei alwedigaeth ydoedd Richard Griffith, a droes yn fasnachwr, ac a gasglodd gyfoeth. Gwasanaethgar gyda phethau allanol yr achos yn y capel mawr. Bu'n flaenor yma am dros 12 mlynedd. Cyson yn y moddion. Addawodd dir yn rhad i'r adeiladau a fwriedid eu codi ynglyn â'r capel. Cwblhawyd ei addewid gan ei feibion ar ei ol. Bu farw Rhagfyr 1, 1898.
Ystyrrid Morgan Jones yn ddyn o allu. Efrydodd y Dr. Lewis Edwards o'i ieuenctid, yn arbennig Athrawiaeth yr Iawn. Darllenai Thomas Charles Edwards a D. Charles Davies. Meddai ar synnwyr da, a barn, ac yr oedd yn gynghorwr. Cerddor da. Yn ddyn o ysbryd crefyddol. Blaenor yn y Waen ers 1875, ac yn arwain yr eglwys yma gyda Mr. Thomas Jones hyd 1887, pan y galwyd hwy, gydag eraill, yn ffurfiol i'r swydd. Fe fu'n codi canu ynghyd ag eraill yn y Waen, ac yn drysorydd yno am 25 mlynedd, megys yr oedd yma hefyd hyd ddiwedd ei oes. Y golofn amlwg yma o'r dechre. Yn wyllt o dymer, ond yn cael gras ataliol. Naws ieuenctid arno. Yn wr tyner ei deimlad, yn egwyddorol ac yn hunan-aberthol. Cynneddf naturiol a diwylliant wedi eu mantoli yn ddymunol. Ei farwolaeth yn ergyd drom i'r achos, yr hyn a ddigwyddodd Hydref 21, 1899, pan yn 77 oed.
Y ddyled erbyn 1899 o dan £200. Yr holl draul o'r dechre ynglyn â'r adeiladau hyd at 1899, £1573. Traul o £1565 am yr adeiladau newyddion, sef tŷ i'r gweinidog, tŷ capel, ysgoldy i gynnwys 300, ystafell fechan ar gyfer dosbarthiadau darllen, a chegin. Y gwaith wedi ei orffen erbyn diwedd 1900. Swm y treuliau ar yr adeiladau o'r dechre, £3137.
Y mae'r cyfarfod gweddi bore Sul am 9 ar y gloch wedi bod yn un bendithiol, yn enwedig i ddynion ieuainc. Cynhaliwyd y cyfarfod pregethu cyntaf yma, Hydref 6, 1895, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. G. Roberts Carneddi ac Abraham Oliver Talsarnau. Ar ol hynny, cynhaliwyd y cyfarfod ym mis Medi. Sefydlwyd yma Gymdeithas Lenyddol lewyrchus. Y mae gwedd lewyrchus wedi bod, hefyd, ar ganiadaeth yma. Mr. G. G. Jones Ty'ntwll yw'r arweinydd.
Y mae gan Mr. Thomas Jones sylwadau ar rai personau heb fod yn swyddogion. Un a weithiodd yn egniol yn y winllan ar hyd ei oes oedd Humphrey Owen Pant y cerryg. Yn flaenllaw yn y seiat, ac yn cymeryd lle blaenor yno yn fynych. Yn wr duwiol a'i gynghorion yn cyrraedd adref. Wrth gynghori i gyfrannu, adroddai am Guto Dafydd yn rhoi ei hanner coron diweddaf at yr achos. Trannoeth fe welai dwmpath gwâdd yn codi i'r golwg, ac, er ei fawr syndod, hanner coron yn disgleirio allan ohono. "Wel- wchi, fel y mae'r Arglwydd yn talu!" ebe yntau. Ni fu fy Hanes fy Hun, neu, fel arall, Evan Owen Ty'n twll, yma ond am ysbaid ferr; ond bu o wir gynorthwy yn yr ysbaid honno. T. J. Thomas Coed gwydryn a feddai ragoriaethau uchel er yn blentyn. Yn y cyfarfod llenyddol blynyddol, yr oedd ar y blaen ym mhob cystadleuaeth y cymerai ran ynddi, a safai ymhlith yr uchaf yn yr arholiadau sirol. Yr oedd iddo gymeriad gloew. A disgwylid bethau gwych oddiwrtho. Dechreuodd ei iechyd ballu ym misoedd cyntaf ei brawf fel pregethwr, ac yntau wedi myned i goleg Aberystwyth. Bu farw mewn hyder mabaidd, Mawrth 1, 1895, yn 21 oed.
Ceisir crynhoi yma rai o sylwadau Mr. Benjamin Williams ar rai o'r cymeriadau y sylwir amynt ganddo ef. Henwr ffyddlon, brwdfrydig gyda'r capel newydd oedd Dafydd Roberts Ty'n y clwt (m. Ebrill 22, 1887, yn 75 oed). Distaw yn yr eglwys oedd Sarah Anne (priod y Dr. W. Hughes), ond rhyfeddol fyw gyda phethau allanol yr eglwys. Merch Mr. Evan Evans, ac yn dwyn ei nodweddion (m. Awst 31, 1890, yn 32 oed). Jane Jones Vronoleu, mam Mr. T. Jones yr ysgolfeistr, oedd un o'r ffyddlonaf o'r merched, os nad y fwyaf felly. Yn brydlon ac yn gyson yn mhob cyfarfod, rhag disgyn o'r Ysbryd pan na byddai hi yno (m. Tachwedd 3, 1890, yn 76 oed). Gydag Ellen Jones Llys Elen yr oedd llety'r pregethwyr y blynyddoedd cyntaf. Gwraig ddeallus, siriol, selog, ddiwyd, rinweddol, ofalus (m. Mehefin 1, 1891, yn 50 oed). Robert Griffiths Llys Meredydd, mab Dafydd Roberts Ty'n y clwt, oedd un o'r colofnau. Yn fyw gyda'r gwaith o gychwyn yr achos. O feddwl eang ac yn weledydd gweledigaethau. Efe a gynhyrfodd gyntaf am weinidog (m. Mehefin 1, 1892, yn 46 oed). William Hughes Bodlondeb, tad y Dr. Hughes, oedd yntau yn golofn yn y moddion cyhoeddus (m. Hydref 12, 1893, yn 83 oed). Humphrey Owen Pant y cerryg a ymdrechodd lawer am gael capel yn y pen yma i'r ardal mor bell yn ol ag 1863, ac yr ydoedd yr un mor selog gyda'r ymdrech ddiweddarach. Yn wr dawnus, yn ysgrythyrwr a diwinydd, yn athro llwyddiannus, yn weddïwr cyhoeddus grymus (m. Mai 15, 1895, yn 82 oed). Thomas Jones Llys Elen (priod yr Ellen Jones a grybwyllwyd am dani) oedd wr y byddid yn well wedi bod yn ei gwmni. Darllenai lawer, a gwnae yr hyn a ddarllenai yn feddiant iddo'i hun. Yn un o'r athrawon goreu, ac yn gerddor gwych. Brawd i Mr. J. W. Thomas Bryn Melyn (m. Mawrth 5, 1897, yn 65 oed).
Rhif yr eglwys yn 1900, 199. Swm y ddyled, £135 7s. 9½c.
Nodiadau
golygu- ↑ Ysgrif Mr. Thomas Jones ysgolfeistr. Ysgrif Mr. Benjamin Williams ar Gymeriadau Eglwys Croesywaen.