Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr/Rhagair
← Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr | Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr gan William Hobley |
Cynnwys → |
RHAGAIR.
——————
FE ddanfonwyd ar gyfer yr hanes hwn ryw gymaint o hanes oddiwrth bob eglwys. Nid yw'r hanes a ddanfonwyd oddiwrth eglwysi y Cyfarfod Misol yn gyffredinol ond byrr a bylchog yn fynych. Gwelwyd, hefyd, nad oedd yr amseriadau, pan roid hwy,—yr hyn a wneid weithiau a weithiau ddim—mewn un modd i ymddiried ynddynt. Yn wyneb hynny, fe deimlwyd fod yn rhaid ceisio defnyddiau chwanegol. Fe welir oddiwrth waelod y ddalen gyntaf yn hanes pob lle, i ba raddau y llwyddwyd yn hynny.
Fe gafwyd, yn y dull hwnnw, ddefnyddiau helaeth anarferol ynglŷn â'r eglwysi yn y gyfrol neilltuol hon. Er hynny, yn araf iawn y deuent i law. Ar ddamwain, megys, y byddwn yn clywed am ysgrif neu'ysgrifau ym meddiant hwn ac arall. Oherwydd bod yr ysgrifau hynny yn hwyr yn dod i law, bu raid i mi ysgrifennu rhai pethau ddwywaith, ac hyd yn oed deirgwaith drosodd, a hynny cyn derbyn ohonof y nodiadau gan gyfeillion fu yn edrych dros fy ysgrif. Heblaw hynny, byddaf mewn penbleth weithiau uwchben anghysonderau yn y gwahanol ysgrifau, y bydd ysgrif chwanegol, hwyrach, yn eu hegluro. Mantais fawr i mi, gan hynny, fyddai cael y defnyddiau i gyd o flaen fy llygaid ar unwaith. Mi fyddaf rwymedig am hysbysrwydd ynghylch unrhyw ysgrifau a all fod ym meddiant rhywrai a deifl oleuni ar yr hanes.
Mi gredaf fod lliaws o ysgrifau felly ar gael, sef ysgrifau, dyweder, ar godiad a chynnydd yr ysgol Sul, ar hen gymeriadau mewn ardal, neu gofnodion o seiadau, neu hunan-gofiannau, neu ddyddlyfrau yn cynnwys cyfeiriadau at yr achos crefyddol, neu gyfrifon eglwysig yn myned ymhellach yn ol nag 1830. Mi ymgymerwn â pheidio danfon am y pethau hynny nes byddai eu heisieu, a pheidio eu cadw yn hir ar ol eu cael."
Mae taflenni y Cyfarfod Misol yn ystod 1854—73 ar wyneb un ddalen go faintiolus. Methu gennyf a tharo wrth dafleni 1855, 1857, 1859, 1861, 1863—4—5, 1867, 1872. Mi fyddwn rwymedig am hysbysrwydd ynghylch un neu ragor o honynt. A'r un modd am hen weithredoedd capeli ym meddiant personau neilltuol. Y mae llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol a gedwid gan John Robert Jones (Bangor) ar goll. Bu ef farw yn 1845. Fe gyfrifir hwn yn llyfr gwerthfawr. Mi fuaswn yn rhwymedig am hysbysrwydd yn ei gylch.
Fe gyfleir ar ddiwedd ambell i adran yn yr hanes hwn gyfeiriad at fan mewn cylchgrawn neu bapur wythnosol, neu gofiant neu lyfr hanes. Weithiau y mae'r adran yn grynhöad o'r fan a grybwyllir; weithiau y mae rhyw gyffyrddiadau wedi eu dodi i mewn o ffynonellau eraill; weithiau fe geir y rhan fwyaf neu agos y cwbl wedi ei dynnu o'r ffynonellau eraill hynny, sef yn bennaf y rhai y cyfeirir atynt ar waelod y ddalen gyntaf yn hanes pob lle. Mi fyddwn rwymedig am fy nghyfeirio at hen gofiaduron da, fel y gallwn eu gweled neu ohebu â hwy. Ceir llawer o bethau gwerthfawr weithiau gan y cyfryw.
Croesawir unrhyw hysbysiad pellach am bersonau neu bethau y buwyd yn rhy fyrr gyda hwy, er mwyn eu dodi i mewn ar ddiwedd yr hanes. Byddaf ddiolchgar, hefyd, am gywiriadau mewn amseriadau neu bethau eraill. Ynglyn â'r amseriad noder sail y cywiriad.
Y mae'r lliaws ysgrifau y dyfynnir ohonynt yma wedi eu crynhoi a'u cwtogi fwy neu lai. Y mae rhai ysgrifau meithion wedi eu corffori yn y gyfrol hon; ond er gadael llawer allan, fe ddiogelwyd popeth y tybid ei fod o unrhyw werth neilltuol i amcan yr hanes hwn.
Trefnwyd drwy benderfyniad y Cyfarfod Misol ar fod yr hanes i ddibennu gyda diwedd y flwyddyn 1900. Rhaid peidio edrych yma, gan hynny, am grynhoad ar hanes neb a fu farw yn ddiweddarach na hynny. Ni olrheinir hanes neb, chwaith, ar ol symud ohono i Gyfarfod Misol arall, er marw ohono o fewn cyfnod yr hanes hwn, gan y gellir disgwyl i'w hanes ymddangos yn hanes y Cyfarfod Misol hwnnw.