Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Rhagymadrodd

Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd

gan Griffith Ellis, Bootle

Sylwadau Rhagarweiniol

RHAGYMADRODD.

Ein bwriad ar y cyntaf oedd dwyn allan Gofiant byr i'r ddau hen flaenor parchus, Humphrey Davies, Abercorris, a Rowland Evans, Aberllefenni. Ond wrth gasglu ein defnyddiau ynghyd, gwelsom yn fuan fod Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd yn ymgylymu yn gwbl naturiol wrth eu hanes hwy. Dafydd Humphrey, tad Humphrey Davies, ydoedd cychwynydd yr achos yn Nghorris; ac nid yw yr eglwysi yn yr Ystradgwyn, Aberllefenni, Esgairgeiliog, a Bethania, ond canghenau o'r pren a blanwyd yn yr Hen Gastell, a draws-blanwyd wedi hyny i Rehoboth, ac y gofalwyd am dano mor ffyddlawn am gynifer o flynyddoedd gan yr hen batriarch hwnw. Ac nid oes neb wedi bod mewn unrhyw gysylltiad â'r achos yn yr ardaloedd hyn hyd o fewn y deng mlynedd diweddaf nad oeddynt yn gydlafurwyr â Dafydd Humphrey, Humphrey Davies, neu Rowland Evans. Penderfynasom gan hyny ysgrifenu mor llawn ag y gallem Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd o'r cychwyniad hyd yn bresenol.


Dygwyd i mewn grybwyllion am lawer o gymeriadau nad oeddynt yn adnabyddus o gwbl y tuallan i'w cymydogaeth eu hunain; ond nid ydym heb obeithio y ceir yn y gyfrol er hyny ryw bethau a'i gwna yn ddyddorol i gylch eangach o ddarllenwyr.


Er pob gofal dichonadwy, y mae rhai gwallau wedi dianc heb eu cywiro. Maent i ni ein hunain yn ddolur llygaid, ac yn rhwym o fod felly i eraill. Cywirir nifer o'r rhai mwyaf pwysig ar tudalen viii, tra y gadewir eraill llai eu pwys i'w cywiro gan y darllenydd.

Derbyniasom gymorth gwerthfawr yn ein gwaith oddiwrth lawer o gyfeillion, y rhai nas gallwn gymaint a dodi i lawr eu henwau. Ond y mae yn eu plith ryw nifer na byddai yn anrhydeddus ynom beidio cydnabod yn gyhoeddus eu caredigrwydd. Mae un o'r cyfryw, a estynodd i ni gymorth parod, wedi myned yn rhy bell i'n cydnabyddiaeth ei gyraedd, sef y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, Bethesda. Mae ein dyled yn fawr i'r Parchedigion William Davies, Llanegryn; Robert Owen, M.A., Pennal; William Williams, Corris; ac Evan Davies, Trefriw; ynghyd â'r Meistri David Ivor Jones ac Owen Roberts, Corris. Ond y mae dau frawd ag yr ydym dan rwymedigaeth fwy neillduol iddynt, sef y Parchedig John Owen, Aberllefenni, a Mr. John Jones, Galltyrhiw. Cymerodd y cyntaf drafferth ddiderfyn i'n cynorthwyo, a bu y diweddaf yn fath o "oracl" i ni i ymgynghori âg ef ymhob anhawsder. Tra ffortunus i ni hefyd ydoedd ymweliad y Parchedig John Roberts, Khassia, â Chymru, pan oeddym yn ysgrifenu; a bu o fantais fawr i ni gael ei gymorth gyda gwahanol ranau yr hanes. A gweddus yw cydnabod ddarfod i ni dderbyn pob cymorth dichonadwy yn y modd mwyaf siriol oddiwrth berthynasau a chyfeillion y gwahanol gymeriadau y gwneir crybwylliad am danynt. Gwnaethom ddefnydd helaeth hefyd o'r crybwyllion yn "Methodistiaeth Cymru," ac amrywiol ysgrifau yn "Y Drysorfa."

Yr ydym wedi derbyn amryw ychwanegiadau dyddorol ar ôl i'r gwahanol sheets fyned trwy ddwylaw yr argraffwyr, ychydig o ba rai a ddodwn i mewn yn y lle hwn. Hysbyswyd ni mai merch David ac Elisabeth Roberts, Gwynfynydd, Ganllwyd, ger Dolgellau, oedd Jane Roberts, y Rugog, y gyntaf o'r Methodistiaid yn Nghorris. Cafodd ddygiad i fyny da ac addysg well o lawer na'r cyffredin yn yr oes hono. Mae traddodiad ddarfod iddi gael ei gwysio i weled y boneddwr o Ynys Maengwyn, ac iddo yntau gael ei synu a'i foddhau gan ei hymddygiad boneddigaidd. Bu iddi, mae'n ymddangos, ddau wr. Y cyntaf ydoedd Owen Pugh, mab Hugh Owen, Faner, Llanelltyd; ac wedi priodi symudodd at ei gwr i fyw yn y lle hwnw. Bu iddynt o leiaf dri o blant, sef Dafydd, Jane, ac Elisabeth. Dywedwyd wrthym y bu iddynt ychwaneg; ond dyma yr unig rai y cawsom eu henwau. Bu Dafydd yn byw yn y Faner am lawer blwyddyn; a bu iddo ef a'i wraig, Lowri Griffith, bedwar o blant. Mae un o'r rhai hyn, Owen Owen, yn byw yn awr yn Nolgellau. Un arall oedd Griffith Owen, diweddar o'r Faner, gweddw a phlant yr hwn sydd yn awr yn byw yn Derwas, ger Dolgellau. Margaret a John oedd y ddau eraill. Daeth Margaret yn wraig i William Bebb, Rhiwgriafol, Darowen, a bu hi a'i phriod yn bobl hynod grefyddol a chyfrifol. Ymfudodd y teulu i'r America. Bu John yn byw am dymor yn Maesygarnedd, ac ymfudodd yntau i'r America. Mae y brawd a'r chwaer wedi meirw bellach er's blynyddoedd.

Yr ail o blant Owen Pugh a Jane Roberts oedd Jane, yr hon a ddaeth yn wraig i wr o'r enw Robert Cadwaladr; a bu iddynt dri o blant. Un o honynt oedd y ddiweddar Jane Roberts, o Gae'rbeudy, Llanelltyd; yr ail oedd John, yr hwn a fu farw yn ieuanc; a'r trydydd oedd Owen, yr hwn a ymfudodd i'r America. Efe yn unig sydd yn awr yn fyw. Elisabeth, ail ferch Owen Pugh a Jane Roberts, a ddaeth yn wraig i Dafydd Humphrey, Abercorris. Ac Elisabeth Owen y parhawyd i'w galw ar hyd ei hoes.

Wedi marw Owen Pugh ymbriododd yr ail waith ag un John Griffith (nid John Roberts, fel y dywedir yn "Methodistiaeth Cymru,") yr hwn y dywedir oedd yn hwsmon ar y pryd yn mhalas y Nannau. Ymddengys fod ei thad a'i mam wedi ymadael erbyn hyn o'r Gwynfynydd, a dyfod i fyw i'r Nannau. Ac yma hefyd y bu John Griffith a Jane Roberts am beth amser. Clywsom mai i Gwmeiddew y daethant gyntaf i ardal Corris, ac iddynt fod yno am ddwy flynedd cyn symud i'r Rugog. Clywsom hefyd mai yno yr oeddynt pan y priododd Elisabeth fab y ffarm agosaf, sef Dafydd Humphrey, Ty'ny- ceunant.

Cawsom enwau chwech o blant John Griffith a Jane Roberts, sef, Griffith, John, Lowri, Dorothy, Ellin, ac Ann. Bu Griffith farw yn ddibriod yn y Llwyn, yn ardal yr Ystradgwyn. Os hysbyswyd ni yn gywir, yr ail fab, John, oedd yr un y bu Humphrey Davies, Abercorris, yn dysgu galwedigaeth lledrwr gydag ef yn Mhenygarreg, Corris, ac wedi hyny yn Nhremadog. John Jones y gelwid ef, a bu yn dilyn ei alwedigaeth yn y lle diweddaf am lawer o flynyddoedd. Bu Ellin yn wraig Cwmllowi, gerllaw Abergwidol, yn Mhenegoes, am amser maith. Thomas Jones, Tynyberth, oedd gwr Ann; ac y mae un mab iddynt, o'r enw Evan Jones, yn byw yn awr yn Cwmllowi. Bu un arall o'r enw Griffith Jones farw yn ddiweddar. Gallwn ein hunain gofio Dorothy,—Doli Jones, o’r Werglodd Ddu, yn ardal yr Ystradgwyn, a mam Mrs. Anne Morgans, yr hon sydd yn awr yn byw yn Nghorris.

Ar tudalen 61 cyfeirir at y Parchedig Rowland Hill ar daith trwy ranau o Feirion gyda'r Parchedig Thomas Charles, o'r Bala. Digwyddodd i ni yn ddiweddar alw gyda Mrs. Jones, Machynlleth; a dangoswyd i ni yno lythyr wedi ei ysgrifenu gan Mr. Charles, o Hoxton, cartref Arglwydd Hill, o'r hwn le yr oedd Mr. Hill ac yntau i gychwyn ar eu taith. Yn y llythyr hwn ceir dyddiad y daith uchod, sef Medi, 1806. Bwriadent fod yn Nghorris un boreu, a myned ymlaen i Fachynlleth at yr hwyr. Yn Llanidloes y bwriadent dreulio y Sabbath canlynol; a digon tebyg i'r bwriad gael ei gario allan.

Cawsom sicrwydd i'r Parchedig Ebenezer Morris hefyd dalu ymweliad unwaith a Chorris. Yr oedd y diweddar Mr. Thomas Jones, Parliament Terrace, Liverpool, yno yn gwrando arno, a derbyniasom y dystiolaeth ganddo ef ei hun. Yr oedd ar y pryd yn egwyddorwas gyda Mrs. Foulkes, yn Machynlleth. Yr oedd mab i Mr. Morris yno yr un adeg, ac aeth y ddau ynghyd i Gorris i wrando ar y gwr parchedig yn pregethu.

Nid ydym yn sicr fod yr hyn a ddywedir ar tudalen 42 yn gywir :-"Adeiladodd (Humphrey Davies) factory i drin gwlan." Dywedwyd wrthym fod yr hen factory wedi ei hadeiladu cyn ei ddyddiau ef; ond gan bwy ni dderbyniasom hysbysrwydd. Ac nid ydyw erbyn hyn o nemawr bwys.

Derbyniasom rai newyddion ychwanegol gyda golwg ar symudiadau Samuel Williams, Rugog. Yn 1825, y daeth gyntaf i Gorris. Bu am chwe' mis wedi hyny yn yr Ysgol yn Kerry, Swydd Drefaldwyn. Dan bregeth o eiddo Edward Rees, oddiwrth Luc xiv. 24, y cafodd dröedigaeth, yr hwn a bregethai y tro hwnw yn Ystabl y Fronfelen. Preswyliai S. W., ar y pryd yn Caecenaw; ac ymddengys mai i'r Felin yr aeth gyntaf i'r society. Yn eglwys Corris y dewiswyd ef yn flaenor, yr un adeg a William Jones, Tan’rallt ; ond yn Aberllefenni, ni a gredwn, y llafuriodd yn benaf o'r cychwyn. Wrth gyfeirio at Mr. Evan D. Humphreys, ar tudalen 166, dylasem ychwanegu ei fod yn aelod o Ddeddfwrfa Talaeth Vermont,—sefyllfa wir anrhydeddus. Edrychir i fyny ato fel gwr o ddylanwad yn y dalaeth.

Wrth gyflwyno ffrwyth ein llafur i'r cyhoedd, nid oes genym ond gobeithio y bydd, er pob anmherffeithrwydd, yn meddu rhyw gymaint o werth i bawb a deimlant unrhyw ddyddordeb yn yr ardaloedd hyn, yn gystal ag i lawer eraill a gymerant ddyddordeb yn hanes Methodistiaeth. Pe buasai y gorchwyl wedi ei gyflawni ddeugain mlynedd yn ol, buasid wedi diogelu llawer o bethau dyddorol sydd wedi myned erbyn hyn ar goll; ond y mae yn aros eto yn ddiau mewn gwahanol fanau lawer o ffeithiau nad ydynt yn ein meddiant. Teimlwn yn dra diolchgar i bwy bynag a anfono i ni ryw hanesion a daflant unrhyw oleuni ar unrhyw gyfran o hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd. Hoffem gasglu ynghyd "y briwfwyd gweddill ” sydd yn wasgaredig ymhlith y brodorion yn ngwahanol ardaloedd Cymru, yn America ac Awstralia, yn gystal ag ymysg y preswylwyr presenol, "fel na choller dim."

GRIFFITH ELLIS.

Bootle, Medi 21, 1885.

——————♦——————

GWELLIANT GWALLAU

——————♦——————

tud 3, llin, 17, yn lle 'poblogaidd,' darllener poblog.
tud 28, llin, 5, gadawer allan 'Blaenau.'
tud 21, llin, yn lle wasanaeth,' darllener wasanaethgar,
tud 48, llin, ar derfyn y llinell olaf gadawer allan 'ac,'
tud 57, llin, 4, gadawer allan iddo.
tud 12, yn lle 'lletya,' darllener letya.
tud 66, llin, 18, ar ol y gair 'bellach,' darllener oddieithr y diweddaf-
tud 67, llin, 5, yn lle (Elizabeth,' darllener Elinor.
tud 88, llin, 20, yn lle'dani,' darllener yr Eglwys.
tud 92, llin, 6, yn lie 1854,' darllener 1860.
tud 98, llin, 24, darllener pregethu yn Nghapel Seion, Llanwrin.'
tud 99, llin, 21, yn lle na plum 'mlynedd,' darllener na phedair blynedd.
tud 114, llin, 23, yn lle 'ar yr Hebreaid,' darllener ar Lyfr Job.