Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd/Trem ar Gorris
← Sylwadau Rhagarweiniol | Hanes Methodistiaeth Corris a'r Amgylchoedd gan Griffith Ellis, Bootle |
Cychwyniad Methodistiaeth Yn Nghorris → |
PENOD I
—————♦—————
TREM AR AGWEDD CORRIS A’R AMGYLCHOEDD
TUA DIWEDD Y GANRIF O’R BLAEN.
YN 1801 nid oedd poblogaeth plwyf Talyllyn ond 633; ac yn 1811 yr oedd wedi gostwng i 596. Mewn ‘Adgofion’ a ysgrifenwyd ganddo, dywed Rowland Evans, o’r Felin, Aberllefenni, nad oedd yn nhref-ddegwm Corris, a thref-ddegwm Ceiswyn, yn 1810, ond 69 o dai, sef 39 o amaethdai, a 30 o fwthynod cyffredin, y rhai a breswylid gan weithwyr tlodion. Yr adeg hono, gan hyny, nis gallai poblogaeth Corris ac Aberllefenni fod uwchlaw 350.
Caled a thlodaidd oedd bywyd yr amaethwyr, a hynod syml oedd eu hymborth a’u gwisgoedd. Nid oedd y tir yn fras o gwbl; a thra chyntefig oedd nodwedd eu hamaethyddiaeth. Syml iawn oedd yr offer amaethyddol. I’r Hengae y daeth y bedrolfen (waggon) gyntaf erioed yn y plwyf, a mawr fu yr helynt i wneyd unrhyw ddefnydd o honi. Am lwyth o galch i Gulyn Pimwern yr anfonwyd hi y siwrnai gyntaf, a chyda hi dri o ddynion cryfion i gymeryd ei gofal. Wedi cyraedd pen y daith, nid oedd ganddynt un ffordd i’w throi yn ôl ond trwy roddi eu hysgwyddau o dan y naill ben, a’i gario o gwmpas, nes bod y pen arall a’i gyfeiriad tua chartref. Wedi ei llwytho, deuwyd yn weddol lwyddianus nes cyraedd y drofa gerllaw Abercorris, pryd yr aeth un o’r olwynion yn erbyn ei hochr, ac y methwyd myned ymlaen gam yn mhellach. Penderfynwyd ei gollwng gan hyny ychydig yn ôl, ond y canlyniad fu i ysbryd cyfeiliorni gael y llaw uchaf arni, ac iddi yn anffodus droi ei gwyneb eilwaith tua Chulyn Pimwern. Erbyn hyn yr oedd y mater wedi myned mor ddifrifol fel nad oedd dim i'w 'wneyd ond myned i erfyn ar Mr. Owen, Braichgoch, — oracl y gymydogaeth, ddyfod i estyn cyfarwyddyd. A thrwy nerth y gweision oedd wrth ei alwad, yn hytrach na thrwy unrhyw ddoethineb neillduol o’i eiddo yntau, y llwyddwyd, wedi llawer o chwysu a baeddu, i droi gwyneb y bedrolfen gyfeiliornus unwaith yn ychwaneg tua’r Hengae. Yr oedd cert eisoes mewn ychydig o’r ffermydd mwyaf, ond y ffordd gyffredin gan y man ffermwyr i gludo nwyddau oedd, ar ysgwydd dyn, neu gefn ceffyl. Codid rhyw gymaint o geirch ymhob fferm. Yr oedd "codi clwydaid o geirch" yn ymadrodd cyffredin ymysg y trigolion. Dyrnid ef bob amser cyn yr adeg i droi yr anifeiliaid i mewn dros y gauaf; a chan y prif amaethwyr cymerid ef i'r Felin yn y gert, ond gan y man amaethwyr benthycid ceffylau y cymydogion, ac wedi gosod pwn ar gefn pob un, hebryngid hwy yn rhes faith tua’r Felin. Byddai yn gyffredin hogyn neu ddau gyda phob ceffyl, er mwyn y pleser o gael eu cario adref; ac arolygid yr orymdaith bob amser gan yr amaethwr ei hun. Diwrnod pwysig oedd y dydd y byddai "clwydaid o geirch" ar ei ffordd i’r Felin; ac nid oedd cyffelyb iddo ar hyd y flwyddyn ond y dydd y cyrchid y "glwydaid" yn ol.
Un adeg ar oes Hugh Humphrey, o Lwydiarth, nid oedd ceir llusg i gludo gwair amser cynhauaf yn bethau cyffredin; a lled anhwylus a thrafferthus fyddai gyda hwynt yn fynych yn y manau lle byddent. Yn y Fronfraith, ryw dro, yr oedd helynt anghyffredin. Pallodd amynedd Hugh Humphrey, a gorchymynodd iddynt ddadfachu y ceffylau, a chodi y car a’r llwyth ar ei ysgwyddau ef. Yr oedd yn ei ddyddiau goreu yn gawr mewn nerth; a buan iawn y rhoddodd y baich hwn i lawr ar ben y bryn. Oddiwrth y ffeithiau hyn, gwelir mai tra chyntefig oedd amaethyddiaeth y dyddiau hyny o angenrheidrwydd yn ei holl ranau.
Yr oedd dillad yr amaethwyr bob amser o wneuthuriad cartrefol. Ni byddent byth yn gwerthu y gwlan, ond yn ei gribo, ei nyddu, a’i wau gartref, er gwneuthur o hono wahanol ddilladau at angenion y teuluoedd. Yn y gauaf dyma fyddent y gorchwylion cyffredin; a rhaid oedd i bob gorchwyl arall a phob ymddiddan fyned ymlaen yn sŵn chwyrlïad y troellau.
Trwy lafur caled a chyson y llwyddai yr holl amaethwyr i ddiwallu eu hangenion eu hunain a’u teuluoedd; ac ychydig a brynid ganddynt o ddefnyddiau ymborth na dillad. Ar gynyrchion eu tiroedd yr oeddynt yn ymborthi ac yn ymwisgo ond yr oedd yr ymborth yn iachus, a’r dillad hefyd yn gynes a gweddus. Ac yr oedd eu bywyd, er bod yn galed, yn un gweddol foddlawn.
Ar y llafurwyr yr oedd yn fwyaf prin. Anfynych y gallai yr amaethwyr roddi gwaith iddynt, oddieithr pan fyddai angen codi clawdd cerig o gwmpas darn o ffridd neu fynydd; a gorfodid hwy gan hyny i fyned i ardaloedd eraill yn fynych i ymofyn am dano. Cyflogent weithiau wrth y flwyddyn neu yr wythnos, a phrydiau eraill gweithient wrth y darn; ond bob amser bychan fyddai y cyflog. O drugaredd yr oedd llaeth a phytatws yn weddol helaeth a rhad; a mawn o’r mynyddoedd fyddai y tanwydd cyffredin, y rhai a geid mewn cyflawnder am ddim, ond y drafferth o’u tori a’u cynhauafa. Yr oedd gan eu gwragedd a’u plant gynlluniau, a ymddangosant erbyn hyn yn lled ddieithr, i enill ychydig geiniogau. Un cynllun ydoedd crafu y cèn .[1] (lichen) oddiar y cerig llwydion yn y cymoedd a'r carlegoedd. Defnyddid hwn at liwio; a chesglid ef y pryd hwnw gan y tlodion mewn rhanau o Loegr ac Ucheldiroedd Scotland yn gystal ag yn Nghymru. A byddai gan yr amaethwyr gynllun arall. Yn yr hâf casglent a llosgent lawer o redyn gleision er mwyn gwerthu eu lludw, yr hwn a ddefnyddid weithiau i wneuthur sebon, a phryd arall i wneuthur math o wydr.[2] Yn ei lyfr dyddorol ar NANWS Ach RHOBERT, dywed Elis o'r Nant ddarfod i Nanws y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Dolyddelen (1782) wneuthur naw punt oddiwrth ludw rhedyn, cyfran o ba rai a gysegrodd at y draul. Dywed iddi adeg arall wneuthur saith swllt oddiwrth y cèn a gasglasai, a rhoddi pedwar o honynt at adeiladu y capel cyntaf yn Ffestiniog. Gwerthai y lludw am chwe'swllt yr hôb, a'r cèn am geiniog a dimai y pwys. Ond nid ymddengys fod trigolion Corris wedi enill unrhyw hynodrwydd gyda'r fasnach, na sicrhau iddynt eu hunain oddiwrthi y manteision a enillwyd mewn rhanau eraill o’r deyrnas.
Ymhell wedi dechreu y ganrif bresenol nid oedd yn Nghorris un math o fasnachdy. Nis gellid cael cymaint ag wns o dê yn nes na Machynlleth; ac nid oedd tafarn ychwaith yn nes na Minffordd hyd agoriad y chwarelau, ryw driugain mlynedd yn ol. Nid oedd, yn wir, yn nechreu y ganrif ond dau dŷ rhwng yr hen dŷ a elwid y Pentref (nid oes dim o’i olion i’w cael er’s blynyddoedd bellach) gerllaw y bont yn ngwaelod y pentref presenol, ac Abercorris (sydd yntau wedi myned tan gyfnewidiad), sef y ddau dŷ y bu y brodyr John a Harri Rowland yn byw ynddynt am gynifer o flynyddoedd. Y pryd hwnw gelwid y naill yn "dŷ Edward Rowland” (tad y brodyr uchod), a’r llal yn "dŷ Marged Miles." Yn achlysurol byddai gŵr o’r enw Edward Jones, Erw lepa, yn gwerthu ychydig geirch; ond ar adegau o brinder (y rhai nad oeddynt anaml) gorfodid y tlodion i gyrchu defnydd eu lluniaeth o bellder mawr. Adroddir am John Richard, un o’r hen bererinion y crybwyllir am dano mewn penod ddilynol, yn gorfod myned i le yn agos i’r Abermaw ar adeg felly i geisio ychydig o rûg,—pellder o bymtheg neu ddeunaw milldir.
Tua’r adeg uchod isel iawn hefyd oedd agwedd foesol a chrefyddol yr ardalwyr. Nid oedd meddwdod yn bechod cyffredin yn eu mysg: yr oeddynt yn rhy dlodion i fod yn feddwon. Ond yr oedd eu hanwybodaeth yn gaddugawl, eu hiaith yn isel, llwon a rhegfeydd yn gyffredin yn eu phth, a’u caledwch a’u hanystyriaeth yn eithafol. hawdd fyddai i ni yn yr oes hon osod allan bechodau y dyddiau gynt yn dduach o lawer nag oeddynt; ac wrth siarad am danynt priodol fyddai i ni gofio anfanteision yr amseroedd. Llawer iawn o chwareu oedd ymysg yr hen drigolion, a’r chwareuon weithiau yn ddiniwed, ond ar brydiau eraill yn farbaraidd. Dydd i segura a chwareu oedd dydd yr Arglwydd yn eu mysg i fesur mawr. Yr oedd cryn bellder i Eglwys y plwyf; a byddai y chwareu yno yn cymeryd llawn cymaint o’r amser a’r "gwasanaeth." Chwareu y byddai pawb, — y plant, y bobl ieuainc, a’r bobl mewn oed; yn unig y byddai chwareuon y gwahanol ddosbarthiadau yn amrywio. Taflu maen, codi pwysau trymion, ymaflyd codwm, cicio y bêl .droed, ac ymladd ceiliogod oeddynt y rhai mwyaf cyffredin; ac mewn cysylltiad â’r rhai hyn byddai llawer o hapchwareu am symiau bychain; a therfynent weithiau mewn meddwdod ac ymladdau.
Cyn dyfodiad y Methodistiaid i’r fro, yr unig wasanaeth crefyddol, fel y crybwyllwyd, oedd yr hwn a gynhelid yn Eglwys y plwyf. A chan fod Eglwys Llanfihangel dan ofal yr un clerigwr, ni chynhelid ond un gwasanaetb yn y dydd yn y naill a’r llall; ac nid llawer a wyddai y clerigwr ei hun am grefydd. Nid oedd yn beth anghyffredin iddo orfod ymneillduo am ychydig ar ganol y gwasanaeth, er mwyn bod yn alluog i’w orphen gyda mwy o rwyddineb a gweddeidd-dra. Ymhell ar ol yr adeg uchod, nid ystyriai y clerigwr yr oedd gofal ysbrydol y ddau blwyf arno, ei fod o gwbl yn "weinidog yr efengyl," er yr edrychai ar ei safle fel "gwas y frenhines" yn un anrhydeddus. Ychydig oedd nifer y gweinidogion yn yr Eglwys Sefydledig yn haner olaf y ganrif ddiweddaf a ofalent ddim am grefydd ysbrydol; ac yr oedd llawer o honynt yn byw mewn anfoesoldeb cyhoeddus.
Tua’r adeg uchod yr oedd ychydig o breswylwyr Corris ac Aberllefenni yn arfer mynychu gwasanaeth yr Eglwys. Merch .Mr. a Mrs. Owen, y Ddolgoed, oedd gwraig y clerigwr oedd yno ar un adeg; a byddai ei rhieni yn lled gyson yn y llan. Dau eraill a elent yno yn fynychach na’r cyffredin oeddynt Meredydd Evan, a Richard Evan,—y cyntaf yn enwedig,—er nad oedd y naill na'r llall yn gwybod rhyw lawer am grefydd. A haedda yr hen foneddiges, Mrs. Anwyl, o’r Hengae, grybwylliad parchus. Gwraig dra defosiynol oedd hi bob amser; a pharhaodd i fynychu y gwasanaeth gyda chysondeb, trwy wendid a llesgedd mawr, hyd ddiwedd ei hoes. Ar gefn hen gaseg ddu o’r enw Gipsy yr arferai fyned: ond yn ei blynyddoedd olaf, gan nas gallai ymgynal ar y cyfrwy, yr oedd ganddi fath o gadair, wedi ei gorchuddio â brethyn gwyrdd, i eistedd arni, gyda hogyn o was y tu ol, i estyn iddi unrhyw gymorth angenrheidiol. Yr oedd yr hogyn hwn yn hynafgwr yn nyddiau ein mebyd ni; ac y mae wedi marw bellach er’s mwy nag ugain mlynedd. Yn araf iawn y symudai Gipsy; ac anmhosibl ydyw peidio teimlo parch i’r hen foneddiges a elai fel hyn bellder o chwech neu saith milldir i wasanaeth yr Eglwys ar y Sabbathau. Ar y Sadwrn o flaen Sul y cymun, arferai anfon ymborth i’r Tymawr, er mwyn i’r gweision a elent i’r llan gael eu ciniaw yno.
Gyda’r lliaws, pa fodd bynag, nid oedd rhoddi eu presenoldeb yn yr addoliad yn beth cyffredin; a thra bydol oedd amcanion ambell un a wnai hyny. Wrth Efail y Gôf, yn Nghorris, un tro, gofynai bugail Aberllefenni i gyfaill, "A ydych chwi yn myned i’r llan y Sul nesa’" "Na," meddai yntau, "dydw’ i ddim yn gwybod am ddim neillduol yn galw y Sul nesa’." "Byddai yn dda iawn gen’ i," meddai y bugail, "wybod am rywun yn myn’d, oblegid y mae yn y Tyrau Hirion lwdn yn perthyn i Rywogo’; ac y mae arna’ i ofn garw iddo fyn’d oddi-yno cyn iddyn’ nhw glywed am dano fo." "O, wel," meddai ei gyfaill defosiynol a charedig, "os oes rhyw achos fel yna yn galw, mi a’ i yno, a chroesaw." Ac nid ymddengys y teimlai neb fod neges o’r fath mewn un modd yn anghyson âg amcan y gwasanaeth, nac â sanctciddrwydd y dydd; canys yr oedd yn arferiad cyson yno i gyhoeddi arwerthiadau ac i wneuthur hysbysiadau amaethyddol ar y fynwent ar ol y gwasanaeth, cyn i’r gynulleidfa ymwasgaru. Dywedir mai Richard Anthony, yr hwn y daw ei enw gerbron fel un o Fethodistiaid boreuaf Corris, ac a wasanaethai ar y pryd fel clochydd yr Eglwys, a roddodd derfyn bythol ar yr arferiad.
Brysiog iawn yw y drem uchod ar sefyllfa yr ardaloedd hyn cyn cyfodiad Methodistiaeth; a thra anhawdd i ni yn awr ydyw ei sylweddoli yn briodol. Gan’ mlynedd yn ol nid oedd na newyddiadur na chyfnodolyn wedi bod erioed o fewn y plwyf. Ychydig iawn o’r preswylwyr a fedrent lythyren ar lyfr: canys nid oes hanes am ysgol o un math yno am flynyddoedd wedi hyny. Ac ychydig iawn o lyfrau o fath yn y byd ocdd yn meddiant neb o’r plwyfolion. Nid oes neb heb wybod am "Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl," o Lanfihangel,—y plwyf agosaf i Dalyllyn, yr hon y bu ei hymweliad â Mr. Charles o’r Bala yn achlysur sefydliad y Feibl Gymdeithas. Yn 1785. yr ymunodd Mr. Charles â’r Methodistiaid; a thrwy ei lafur ef y dygwyd yr Ysgol Sabbothol i fodolaeth yn Nghymru. Ni ddymunem ddibrisio unrhyw wasanaeth i grefydd a wnaed gan yr Eglwys Sefydledig yn ein plwyf genedigol; ond credwn y byddai yn anhawdd dangos fod ei sefyllfa bresenol yn ddyledus i ddim a wnaed ganddi yno cyn cyfodiad Methodistiaeth. Nid ymdrechion ei hoffeiriaid hi a newidiodd arferion ac a ddyrchafodd foesau y preswylwyr; na, gwnaed hyn, a dweyd y lleiaf, heb eu cymorth os nad er eu gwaethaf hwy.
Cafodd y Methodistiaid, meddir, ganiatad unwaith, ar eu dyfodiad i'r plwyf, neu ynte ymhen ysbaid ar ol hyny, i gynal Ysgol Sabbothol yn yr Eglwys; ond anfonwyd cwyn at yr Esgob fod gŵr di-urddau yn gweddio yn yr adeilad cysegredig, a rhoddwyd terfyn buan ar yr afreoleiddra. Ac nid hawdd ydy’w anghofio y ffeithiau hyn pan wahoddir ni gan glerigwyr y dyddiau presenol i ddychwelyd eilwaith i fynwes yr Eglwys. Mangre eithaf tywyll a fu Eglwys Talyllyn am lawer o flynyddoedd wedi i oleuni yr efengyl ddyfod i dywynu gyda nerth mewn lleoedd eraill. Gellir dyddio pob gwelliant yn agwedd foesol a chrefyddol y boblogaeth o gyfodiad Methodistiaeth yn y plwyf.
Nodiadau
golygu- ↑ Derbyniasom y nodiad canlynol oddiwrth y Parchedig John Jones, Tue Brook, Liverpool:— "Bum yn ymddiddan â rhai fu yn casglu y cèn, ac yn ei ddefnyddio. Yn ystod rhyfel Ffrainc yr oedd galw mawr am dano i liwio dillad y milwyr. Yr oedd trigolion Dolgellau yn enwog am eu diwydrwydd a’u llwyddiant gyda’r fasnach hon; a dywedir fod amgylchiadau trigolion y lle yn fwy clyd na’r cyffredin hyd heddyw oherwydd yr elw a wnaethant hwy a’u hynafiaid trwy gasglu y cèn. Mae hyn mewn arferiad hyd heddyw mewn ardaloedd gwledig.
- ↑ Yr ydym yn diyledus i'r Proffeswr Powel, o Gaerdydd, am y nodiadau canlynol, allan o Notes and Queries, ar y defnydd a wneid o'r lludw a'r cèn yn yr amser gynt:-"The fern referred to is no doubt the common brake (Pteris aquilina), the fronds of which are collected and burned in considerable quantities, for the sake of the ashes, not only in Wales, but in other parts of the country; these ashes contain a large quantity of alkali, and are made into cakes and balls, which form an article of trade, and are used as soap for washing, as well as by glass-makers. The lichen spoken of as being collected from the stones and boulders is in all probability Lecanora Tartarea, which is common species growing on boulders and rocks. Of this species we read in Lindsay's Popular History of British Lichens, that When Cudbear [dye)-making flourished in Glasgow and Leith, the Cud-bear lichen, so called, was largely collected in the Western Highlands and Islands by the poor peasantry, who were thus able to earn in 1807, according to Hooker, fourteen shillings a week. In Derbyshire and the rocky parts of Cumberland and Westmoreland it was also at one time collected by the peasantry, probably for the London market; they sold it to the manufacturer at a penny a pound, and were able usually to gather 20 or 301bs. a day."
"The lichen was most probably used for dyeing. It used to be employed for that purpose in the Highlands, and produces a dirty yellow."
"It may be well to note that Sir Thomas More knew that fern ashes were used in the making of glass. He says, 'Who wold wene it possible yt.glasse were made of fern rotys' (The Works of Sir Thomas More, Knight, 1557, fol. p. 125)."