Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Eglwys Saesneg, Dolgellau

Bethel, Dolgellau Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Yr Ysgol Sabbothol
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dolgellau
ar Wicipedia

CAPEL SAESNEG, DOLGELLAU.

Yn y flwyddyn 1877 yr adeiladwyd y capel hwn, ac y ffurfiwyd achos rheolaidd ynddo. Ond dechreuwyd pregethu yn yr iaith Saesneg yma y Sabbath cyntaf yn Gorphenaf, 1869. Cynhelid y moddion y ddwy flynedd gyntaf yn nghapel Salem, rhwng y moddion Cymraeg. Yn 1871, cafwyd y Public Rooms am £7 yn y flwyddyn, ac yma y buwyd hyd 1877 pryd yr adeiladwyd y capel. Am y blynyddoedd cyntaf, Mr. Edward Griffith, Springfield, trwy benodiad, oedd yn gofalu am y moddion Saesneg, hyd yr amser y dewiswyd Dr. Edward Jones yn swyddog. Bu Mr. W. Jones, Bryn House, hefyd, am rai blynyddoedd yn gweithredu fel trysorydd. Yn ystod misoedd yr haf yn unig y cynhelid y moddion, er cyfarfod â dyfodiad dieithriaid i'r dref. Ond canfyddwyd ymhen ychydig fod y llafur a'r draul yn myned i raddau yn ofer wrth roddi y gwasanaeth heibio am y misoedd eraill, a chan fod amryw deuluoedd Seisnig yn byw yn y dref, ac yn dilyn y gwasanaeth, penderfynwyd cario'r achos ymlaen yn gyson trwy'r flwyddyn. Esgorodd y bwriad hwn yn fuan ar y penderfyniad o gael capel. Dr. Edward Jones, U.H., yr hwn oedd er's ychydig, fel y erybwyllwyd, wedi ei ddewis yn ddiacon yn y fam eglwys, Salem, a'r unig ddiacon mewn cysylltiad a'r moddion Saesneg ar y pryd, a brynodd dir am £121, ac aeth y personau canlynol yn gyfrifol am y swm:—Parch. R. Roberts, Dr. Jones, Mri. E. Griffith, U.H., a Morris Jones, U.H. Yn agos i ddechreu 1877, ceir a ganlyn ymhlith penderfyniadau cyfeisteddfod yr Achosion Saesneg perthynol i'r rhan hon o'r sir, "Ein bod yn llawenhau wrth ddeall am sefyllfa yr achos Saesneg yn Nolgellau, ac yn dymuno yn galonog eu cefnogi i fyned ymlaen yn y dyfodol, a chynal moddion gras yn yr iaith Saesneg yn gyson ar hyd y flwyddyn." Ac yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Croesor, Mai 7fed a'r 8fed, 1877, y mae y penderfyniad canlynol:"Rhoddwyd caniatad i adeiladu capel Saesneg yn Nolgellau, cymeradwywyd y cynlluniau a ddangoswyd, a phenodwyd nifer o bersonau yn ymddiriedolwyr." Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu ar unwaith, a gosodwyd y contract am £620. Y cynllunydd ydoedd Mr. Humphrey Jones, Tanybryn, Dolgellau. Gwnaed y gweithredoedd yn rhad ac am ddim gan Messrs. William Griffith & Sons, cyfreithwyr, Dolgellau, y rhai ar amryw achlysuron a ddangosasant garedigrwydd tuag at y Cyfundeb.

Yn y Public Rooms y ffurfiwyd yr eglwys, Medi 23ain, 1877. Yr oedd yn bresenol dros y Cyfarfod Misol, y Parchn. R. Roberts, a R. H. Morgan, M.A., a'r blaenoriaid canlynol o Salem Mri. Griffith Davies, Hugh Jones, E. Griffith, J. M. Jones, Richard Mills, Humphrey Jones, a John Williams. Ymunodd a'r eglwys o gyflawn aelodau 42. Nifer yr eglwys yn awr ydyw 60. Tua'r un adeg y sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol. Y nifer a ymunodd â hi oedd 25. Yr oedd ei nifer yr ail Sabbath of Mehefin y flwyddyn hon (1888) yn 85. Nid yw cynydd yr aelodau eglwysig yn ymddangos yn'fawr, oherwydd fod yr achos wedi bod yn agored i lawer o gyfnewidiadau. Er ei sefydliad, collwyd lliaws trwy symudiadau, gan fod teuluoedd Seisnig yn myned a dyfod gryn lawer. Agorwyd y capel Hydref 2il a'r 3ydd, 1877. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Joseph Jones, Menai Bridge, ysgrifenydd yr Achosion Saesneg, ac Owen Edwards, B.A, Llanelli. Gwnaethpwyd ymdrechion canmoladwy o dro i dro i dalu dyled y capel, ac eto, yn ol yr ystadegau diweddaf, y mae £325 o'r ddyled yn aros. Mae y capel wedi ei gofrestru i weinyddu priodasau ynddo, ac hefyd wedi ei yswirio yn Nghymdeithas Yswiriol y Cyfundeb. Rhoddwyd anrhegion gwerthfawr at wasanaeth y capel hwn o bryd i bryd. Chwefror, 1878, anrhegwyd yr eglwys â llestri cymundeb hardd (best electro plated) gan yr henadur parchus, Mr. Griffith Davies; hefyd ag electro plated christening basin, gan Mrs. Jones, Plasucha, ar yr achlysur o fedyddio merch fechan, Medi 26ain, 1878. Y cyntaf a fedyddiwyd yn y capel oedd baban Mr. a Mrs. Davies, grocer —anrhegwyd y rhieni â Beibl hardd er cof am yr amgylchiad. Cymerodd y dewisiad cyntaf o flaenoriaid yr eglwys le Ionawr 29ain, 1878. Yr oedd yn bresenol dros y Cyfarfod Misol, y Parch. J. Davies, Bontddu, a Mr. Ed. Griffith, U.H., Springfield. Dewiswyd yn rheolaidd, Mri. Owen Rees, Morris. Jones, U.H., Plasucha'; Wm. Williams, Swyddfa'r Goleuad, ac O. O. Roberts, Board School. Y tri olaf, a Dr. Jones, ydynt y blaenoriaid presenol. Ebrill y 12fed, yr un flwyddyn, rhoddodd yr eglwys alwad unfrydol i'r Parch. O. T. Williams, Croesor. Bu ef yn weinidog ar yr eglwys am bum' mlynedd. Ar ol ei ymadawiad, rhoddwyd galwad unfrydol drachefn i'r Parch. T. J. Thomas, o'r Twrgwyn, Sir Aberteifi, yr hwn oedd ar y pryd yn Athrofa Trefecca. Cymerwyd llais yr eglwys dros y Cyfarfod Misol, Chwefror 14eg, 1884, gan y Parch. J. Davies, Bontddu, a Mr. H. Jones, Tanybryn. Y mae Mr. Thomas yn aros yn weinidog llwyddianus yr eglwys hyd heddyw. Y cyntaf a gollwyd o'r eglwys trwy farwolaeth oedd John Penaluna, yn 1878. Tachwedd 28ain, 1880, bu farw Mrs. Jones, priod Mr. Morris Jones, U.H., Plasucha, yn 25 oed. Yr oedd hi yn ferch i'r diweddar Mr. Hugh Jones, un o ddiaconiaid parchus Salem, ac yn wraig rinweddol a ffyddlon i achos crefydd. Mae yr organ yn y capel hwn yr hon sydd yn werth oddeutu 200p.—yn rhodd gan ei phriod, er serchus gof am dani.

Owen Rees a gymerwyd oddiwrth ei waith at ei wobr, Mehefin 9fed, 1887. Efe oedd y swyddog eglwysig cyntaf a gollwyd o'r capel Saesneg. Teimlir colled ar ei ol yn y dref yn gystal â'r eglwys. Byddai bob amser yn barod ac ewyllysgar i roddi cynorthwy lle byddai eisiau y cyfryw. Er mai byr y parhaodd ei gystudd olaf, eto dioddefodd lawer yn ystod blynyddau diweddaf ei oes, a bu raid iddo farw cyn cael credit gan ei gydnabod ei fod wedi dioddef cymaint. Meddai ar lawer o gymhwysder i fod yn swyddog mewn eglwys Saesneg; ei gydnabyddiaeth helaeth o'r iaith, a'i gydymdeimlad trwyadl â'r Achosion Saesneg, oeddynt gymwysderau arbenig ynddo. Er hyny, parhai ei serch yn fawr at yr achosion a'r eglwysi Cymreig. Ceid ef bob amser yn glymedig iawn wrth bawb a phob achos er llesoli ei gydgenedl. Yr oedd yn dra hyddysg yn holl hanes ei dref enedigol, ac ysgrifenodd lawer ar wahanol bethau. Meddai allu i ddyfod fwy o amlygrwydd nag y daeth. Bu farw yn gymharol ieuanc, dim ond 59.

Nodiadau golygu