Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Sefydliad Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth

Yr Ysgol Sabbothol 2 Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Gwyl y Can'mlwyddiant, 1885
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Ysgol Sul
ar Wicipedia

SEFYDLIAD CYFARFODYDD YSGOLION Y DOSBARTH.

Y mae hanes eu sefydliad wedi ei gadw mewn llythyr maith a anfonodd Lewis William at rai o frodyr Penllyn, yn y pen arall i'r sir, copi o'r hwn a gadwodd ef ymysg ei ysgrifau. Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi yr hanes yn ei eiriau ef ei hun.

"DOLGELLAU,
Mai 12fed, 1818.

"Fy Anwyl Frodyr a Thadau yn yr Arglwydd yn ardaloedd y Bala,—

Yr ydwyf, oddiar ddeisyfiad rhai o honoch, yn anfon atoch am sefydliad a threfn Cyfarfod Daufisol ardaloedd Dolgellau. Y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ydoedd yn Llanfachreth, Mai 25ain, 1817. Y modd y cadwyd y cyfarfod hwn; society nos Sadwrn gyda'r gangen eglwys yno, trwy fwrw golwg ar achos yr Ysgol Sabbothol yn eu plith, a pha beth oedd eu golygiadau a'u barn am yr ysgol, ynghyd â rhoddi anogaethau neillduol i'r eglwys i ymegnio o blaid yr achos, ac i bob un wneyd a allo, yn ol ei ddawn a'i allu, er ei llwyddo. Cynhaliwyd cyfarfod drachefn am naw o'r gloch boreu Sul, trwy adrodd rhan o'r gair, mawl, a gweddi; yna pregethu, a chyfarfod athrawon ar ol hyny. Ac am ddau o'r gloch, cyfarfod egwyddori; y mater dan sylw yn yr odfa hon oedd, "Am y Bod o Dduw." Felly dibenwyd y cyfarfod hwn yn y modd hyn. D.S. Penderfynwyd ar y pethau canlynol yn y Cyfarfod Athrawon:—

1. Fod cyfarfod i gael ei gadw bob dau fis yn gyfarfod cylchynol perthynol i Ysgolion Sabbothol ardaloedd Dolgellau.

2. Ei amser, y Sul olaf o bob dau fis,

3. Ei drefn :—(1) Ei fod i'w ddechreu nos Sadwrn, a bod i un neu ychwaneg a fyddo wedi cael eu galw i'w gynal dd'od yno i gadw society gyda'r gangen eglwys lle bo y cyfarfod, ac anogaeth i gyfeillion o leoedd eraill dd'od iddi, i'r diben o fod yn gynorthwy i'r gwaith. Mater y cyfarfod hwn ydyw, bwrw golwg ar Ysgol Sabbothol y lle, a gofyn am ymddygiadau y cyfeillion a'r cyfeillesau tuag at y rhan hon o waith yr Arglwydd, a'u barn am y gwaith, ynghyd a'u hanog i fod yn ffyddlon o'i blaid yn ol eu sefyllfa a'u dawn. (2) Bod yr ail odfa neu gynulliad i ddechreu am naw o'r gloch boren Sul. Mater y cynulliad hwn yw, gwrando ar adroddiad rhan neu ranau o'r Gair, canu mawl, gweddio, pregethu, a chyfarfod athrawon ar ol y bregeth, i fwrw golwg ar ysgolheigion y cylch yn gyffredinol, ac i dderbyn cyfrifon o nifer yr ysgolheigion a'r athrawon; eu graddau mewn dysgeidiaeth, a'u llafur yn dysgu'r Gair, &c. (3) Cynulliad am ddau o'r gloch, i wrando ar adroddiad rhanau o'r Gair, canu mawl, gweddio, ac egwyddori ar y mater a fyddo wedi ei roddi er y cyfarfod blaenorol.

4. Maintioli cylch y cyfarfod: 1, Dolgellau; 2, Rhiwspardyn; 3, Llanfachreth; 4, Llanelltyd; 5, Bontddu; ac fe ganiatawyd, OS byddai y Bermo, Dyffryn, a'r Gwynfryn yn dewis, y caent ddod o fewn i'r cylch, ond gwrthod y maent hyd yn hyn, oherwydd eu bod yn cadw cyfarfodydd mewn modd arall.

5. Bod y cyfarfod athrawon yn cynwys, neu yn galw am fod athrawon ac athrawesau y lle y byddo, i gyd fod ynddo; ac un neu ychwaneg o bob un o ysgolion y cylch, yn ol fel y gallo yr ysgolion eu hebgor, heb fod yn niwed i'r gwaith yn eu plith eu hunain gartref.

6. Bod ysgrifenydd i gael ei benodi a chynorthwywr iddo, i ofalu am gadw pob peth yn weddus ac mewn trefn. A'n bod yn neillduo un ymhob cyfarfod i fod yn gymedrolwr, er mwyn hwylusdod i'r gwaith.

7. Fod penod o'r Hyfforddwr i gael ei hadrodd yn gyhoeddus ymhob ysgol sydd yn perthyn i'r cylch, yn y mis cyntaf, a'r mater yr ail fis.

8. Fod i bawb ddysgu moesau da i'r ysgolheigion, a cheryddu y rhai afreolus.

9. Fod i bob ysgol ddefnyddio pob moddion yn ei gallu i gael yr holl ardal yn ddeiliaid o'r Ysgol Sul. Hyn oddiwrth eich cyd-lafurwr a'ch ufudd wasanaethwr, ond yr annheilyngaf o bawb—LEWIS WILLIAMS.

D.S. Os medraf, mi a anfonaf i chwi reolau cyfarfod ardaloedd Towyn."

Dyddordeb y llythyr uchod ydyw, ei fod yn cynwys hanes sefydliad cyntaf Cyfarfodydd Ysgolion y dosbarth. Cymerodd hyn le ymhen tua dwy flynedd a haner ar ol marw Mr. Charles. Paham yr oedd L. W. yn ei anfon at y brodyr yn ardaloedd y Bala, nid ydyw yn hysbys, yn mhellach na'r dymuniad oedd wedi dyfod oddiyno am dano. Ond y mae y llythyr yn llefaru drosto ei hun. Wrth rheolau y cyfeirir atynt, y golygir rhyw 30 o ofyniadau y gelwid am danynt o bob ysgol ymhob Cyfarfod Ysgol, megis, nifer yr ysgolheigion, y llafur ymhob adran, pa ysgol yn y cylch a ddysgodd fwyaf, a pha berson unigol a ddysgodd fwyaf, &c. Arferid yn y dechreu anfon oddiwrth y Cyfarfod Ysgolion gyfarchiad o ddiolch- garwch at yr ysgol a fyddai wedi dysgu allan fwyaf o fewn y cylch, ac, hefyd, at y person unigol a fyddai wedi dysgu fwyaf. Llawer o fanylwch a gofalon o'r fath a welir yn eu trefniadau gyda gwaith yr ysgol yn y blynyddoedd cyntaf. Amlwg ydyw mai Lewis William oedd sylfaenydd y Cyfarfod Ysgolion. Richard Roberts oedd yr ysgrifenydd, ac yntau yn gynorthwy-ydd iddo.

o 1838 I 1859.

Ar ol y wybodaeth a gafwyd gan L. W. am sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion, yr hanes cyntaf a gawn am danynt wed'yn ydyw ymhen ugain mlynedd union. Gorphenaf laf, 1838, cynhaliwyd cyfarfod yn Llanfachreth, yn hanes yr hwn y ceir y sylw, "Fod y Cyfarfodydd Daufisol wedi syrthio i ddirywiad a gwaeledd mawr ragor y gwelwyd hwynt." Yn yr un cyfarfod, penderfynwyd, "fod ysgrifenydd sefydlog i gael ei benodi i'r dosbarth, fel y gallo gofnodi mewn llyfr y pethau yr ymdrinir â hwynt." A'r penderfyniad nesaf ydyw, "i William Williams, Dolgellau, fod yn ysgrifenydd." Mr. Williams, Ivy House, oedd y gŵr hwn. Bu ef yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am saith mlynedd, yn eu dilyn yn gyson, ac yn ysgrifenu cofnodion manwl o honynt. Ychwanega hyn at glod yr hen foneddwr hybarch, yr hwn a ddaeth o hyny allan i lenwi cynifer o swyddi pwysig mewn gwahanol gylchoedd. Rhagfyr 13eg, 1844, darllenir yn llyfr y cofnodion, "Gan fod Mr. Williams yn rhoi ei swydd i fyny fel ysgrifenydd y Cyfarfod Daufisol, penderfynwyd fod R. O. Rees i gymeryd ei le." Y cyfnod hwn, un o flaenoriaid y cylch, fel rheol, a osodid yn gymedrolwr y cyfarfod am y tro, a byddai dau neu dri o bregethwyr yn bresenol, fel y digwyddai yn ddamweiniol. Ond ceir mewn un cyfarfod, "fod i Griffith Roberts ofyn cenad y Cyfarfod Misol, i Lewis William i ofalu am fod ymhob Cyfarfod Ysgol yn y dosbarth." Dyma rai o bender- fyniadau y cyfarfodydd y cyfnod hwn: Fod dau genhadwr, o leiaf, i gael eu hanfon o bob ysgol i'r Cyfarfod Daufisol, ac un o honynt i fod yn flaenor y lle." "Rhoddwyd caniatad i newid arolygwyr mewn ysgolion os byddai amgylchiadau yn gofyn, a bod hyny i gael ei wneyd trwy ganiatad a chymorth yr eglwys yn y lle hwnw." "Fod Thos. Jones, Llanelltyd,.. J. Thos. Jones, Dolgellau, Griffith Davies, Ellis Williams, Wm. Griffith, a Richard Roberts, i fyned i gadw cyfarfodydd athrawon i Rhiwspardyn." Llefara y penderfyniadau drostynt eu hunain. Hydref 9fed, 1842, cynhaliwyd Cymanfa y Plant, perthynol i'r cylch, yn Nolgellau, pryd y cymerwyd rhan gyhoeddus gan y Parchn. Robert Owen, Nefyn; Robert Evans, Llanidloes; Robert Williams, Aberdyfi; a Thos. Evans, Sir Fynwy.

Bu y Parch. John Williams, Dolgellau, wedi hyny o'r America, yn dilyn y cyfarfodydd fel holwyddorwr; ond yn 1844, yr ydym yn ei gael yn rhoi y swydd i fyny, a'r Parch. Richard Roberts yn cymeryd ei le. O'r flwyddyn hon hyd 1859, nid oes cofnodion wedi eu cadw, ac felly, y mae bwlch o 15 mlynedd heb ddim gwybodaeth sicr o hanes yr ysgol yn y cylch. Y Parch. Thos. Williams, Dyffryn, oedd yr holwyddorwr am ran fawr o'r bwlch hwn. Yr oedd ef yn ŵr hynod o gymwys at y cyfryw orchwyl. Yn nghyfarfod blynyddol y Dosbarth, a gynhaliwyd yn Nolgellau, Ebrill 26ain, 1857, "cydnabyddwyd y diolchgarwch gwresocaf i Mr. Thomas Williams, Dyffryn, ar ei ymadawiad o'i swydd fel pregethwr y Dosbarth." Etholwyd yn ei le y Parch. W. Davies, Llanelltyd, yr hwn, ni a dybiwn, a barhaodd yn y swydd hyd nes iddo. ymadael i Lanegryn. Yn yr un cyfarfod, dewiswyd David Jones, Dolgellau, yn ysgrifenydd. Bu ef o wasanaeth mawr i ysgolion y cylch—yn llenwi y swydd o ysgrifenydd a llywydd, ac yn ymweled â'r ysgolion lawer gwaith. Griffith Roberts, Tyntwll, Griffith Davies, a Thomas Jones, Dolgellau, a fuont amlwg gyda gwaith yr ysgol. Bu Mr. Edward Griffith, Springfield, yn ymweled â'r ysgolion bedair gwaith, a llu o leygwyr da eraill na chawsom eu henwau.

MR. R. O. REES A'R YSGOL SUL.

Da y gŵyr yr oes hon am wasanaeth y gwr llafurus hwn i'r Ysgol Sabbothol. Yn y flwyddyn 1859[1], dechreuwyd cadw cofnodion rheolaidd o weithrediadau Cyfarfodydd Ysgolion y Dosbarth, mewn llyfr trwchus, wedi ei rwymo yn gryf. Eisoes y mae y cofnod-lyfr hwn yn dra gwerthfawr, a daw yn fwy felly eto. Yn yr amser a ddaw, ceir yn hwn doraeth o wybodaeth am waith yr Ysgol Sul yn y rhan hon o'r sir. I ysbryd aiddgar Mr. R. O. Rees, yn ddiau, y mae y drychfeddwl am y llyfr i'w briodoli. Dechreua y cofnodion yn ei lawysgrif ef ei hun, gydag adroddiad o "Hanes yr ymweliad ag ysgolion y dosbarth, yn Haf 1859." Amser a fu, yr oedd yr ymweliad yn rhan bwysig o waith yr ysgol yn y cylch hwn. Nodid dau, neu dri, neu bedwar, i ymweled â'r ysgolion bob blwyddyn, ac yn nghyfarfod blynyddol yr ysgolion, adroddiad o'r ymweliad fyddai un o'r pethau dynai fwyaf o sylw. Yn amser ysgrifenyddiaeth Mr. Williams, Ivy House, penodid personau i ymweled a'r ysgolion yn fynych bob dau fis. Ond y mae yr ymweliad y cyfeirir ato, yn meddu dyddordeb arbenig; gadawodd gymaint o argraff ar y dosbarth, fel y mae yn aml yn cael son am dano yn awr, ymhen yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Tra bo y tô presenol o bobl mewn oedran yn aros, bydd adgofion hyfryd yn para am ymweliad 1859. Y flwyddyn hon, fef y cofir, yr ymwelwyd â Chymru gan un o'r diwygiadau mwyaf grymus, ac un o ddibenion arbenig yr ymweliad oedd, ymholi ynghylch ei effeithiau, a cheisio cael allan i ba raddau yr oedd yr Arglwydd yn dwyn oddiamgylch amcanion ei deyrnas trwy yr Ysgol Sul. I Mr. Rees ei hun yr ymddiriedwyd trefnu a dwyn ymlaen yr ymweliad, a phenodwyd Mr. Robert Owen, gôf, Llanfachreth, yn gydymaith iddo. Ymddengys i Mr. Rees gymell Lewis Williams, Llanfachreth, oedd y pryd hwnw wedi cyraedd oedran patriarchaidd, a Mr. Joseph Roberts, Dolgellau, i'w ganlyn fel cynorthwywyr; ond i'r blaenaf o'r ddau ddioddef cymaint oddiwrthi lafur y Sabbath cyntaf, fel nad anturiodd yn mhellach ar y daith. Yr oedd cynllun a gwaith yr ymweliad yn dra nodweddiadol o'r cynlluniwr; dangosai ddyn o annibyniaeth meddwl i dori llwybr iddo ei hun, gwahanol hollol i'r un a deithir gan ddynion yn gyffredin. Gyda'r amcan o gael allan wir sefyllfa y sefydliad, a'r lle oedd iddo ynglyn â'r diwygiad, yr oedd ganddo restr lled faith o gwestiynau i'w gofyn ymhob ysgol. Digon tebyg y buasai ambell un yn petruso gofyn y cwestiynau, ond yr oedd yr ymroddiad a'r zel a daflai Mr. Rees i'w waith yn gwneyd yr oll yn briodol iddo ef.

Y flwyddyn y gwnaed yr ymweliad hwn, perthynai i'r dosbarth 16 o ysgolion, ac 1368 o ysgolheigion, gan gynwys yr athrawon. Yr oedd 93 o aelodau eglwysig heb broffesu eu hunain yn aelodau o'r Ysgol Sul. Nodir amryw ffeithiau dyddorol, er dangos yr effaith oedd y diwygiad wedi gael ar y wlad.

Allan o'r 921 oeddynt yn bresenol yn y gwahanol ysgolion ar Sabbothau yr ymweliad, wedi tynu allan y plant nas gallent ddarllen, yr oedd 650 yn tystio iddynt wneyd ymarferiad, i raddau mwy neu lai, o ddarllen y Beibl iddynt eu hunain yn ystod yr wythnos. Yr oedd yn agos i 800 o'r 921 yn proffesu llwyrymwrthodiad â phob diodydd meddwol. Yr oedd y dystiolaeth i ddylanwad y diwygiad ar foesau yr ardaloedd yn uchel, yr ymhyfrydiad mewn gwagedd a phechod am y pryd wedi darfod, y Sabbath yn cael ei gadw gyda manylwch a gofal, a darllen a dysgu y Beibl wedi dyfod yn hoffder. Allan o 243 a ychwanegasid at yr eglwysi yn y Dosbarth o ddechreu y flwyddyn hyd yr ymweliad, yr oedd 208 yn ddeiliaid yr Ysgol Sul, a dim ond 35 heb fod. Mor gynil," ebe Mr. Rees, "y bu Ysbryd yr Arglwydd o fyned allan o gylch yr Ysgol Sabbothol i alw rhai i'w eglwys." Darllenwyd yr adroddiad hwn mewn Cyfarfod Ysgolion a gynhaliwyd yn Nolgellau, Medi 18fed, 1859; ac yn y cyfarfod dilynol, Hydref 9fed, rhoddwyd cymaint o bwys arno, fel y penderfynwyd ar ymweliad arall i wasgu ei wersi at ystyriaeth yr ysgolion. Mr. Rees oedd un o'r rhai a benodwyd i fyned allan i'r ymweliad hwn hefyd, a rhoddwyd yn genadwri at yr ysgolion, "I droi rhyw gyfran o amser yr ysgol yn achlysurol i ymholi pa fodd y mae rhwng meddyliau yr ysgolheigion a chrefydd bersonol; i gynal cyfarfodydd athrawon i gydweddio yn achos yr ysgol," &c.

Mr. R. O. Rees, fel y gwelir, oedd bywyd yr ymweliadau hyn. Amgylchiad arall hefyd a gymerodd le ugain mlynedd yn ddiweddarach a ddengys angerddoldeb ei zel gyda'r Ysgol Sul. Ni byddai hanes y sefydliad yn y cylch yn gyflawn heb roddi adroddiad byr am hwn. Yn haf y flwyddyn 1879, penodwyd ef unwaith eto—ar gais amryw o'r ysgolion—i wneyd yr ymweliad blynyddol, a dewisodd yntau Mr. Richard Jones, o ysgol Sion, fel ei gydymaith. Ei brif nod yn yr ymweliad hwn oedd, "Anog i lafurio am wybodaeth a phrofiad helaethach o egwyddorion ac athrawiaethau sylfaenol Llyfr Duw." A chynygiodd Cysondeb y Pedair Efengyl yn wobr i bob un ymhob ysgol yn y Dosbarth a ddysgai allan yr oll o'r Hyfforddwr erbyn y Gymanfa Ysgolion ddilynol. Talodd ymweliad â phob ysgol, i geisio deffroi yr ysgolion i zel gyda'r gwaith o ddysgu allan. Nid anghofir gan y to presenol o ddeiliaid yr ysgolion am yr ymroddiad â pha un yr ymdaflodd i'r gwaith hwn. Y canlyniad oedd i 201 o ddeiliaid ysgolion y Dosbarth ddysgu yr Hyfforddwr i'w côf erbyn Cymanfa Mehefin, 1880, a rhoddwyd i bob un y wobr addawedig, sef Cysondeb y Pedair Efengyl, yn llwyr a chyfan ar draul Mr. Rees ei hun. Golygai hyn, yn ol pris y llyfr yn y farchnad, 62p. 10s. Dechreuodd drachefn ysgrifenu adroddiad manwl am yr ymweliad hwn, ond galwyd ef ei hun at ei wobr cyn iddo lwyr orphen. Yr hyn a ysgrifenwyd, pa fodd bynag, fe'i hargraffwyd ar draul y ddiweddar Mrs. Williams, Ivy House, ac fe'i rhanwyd yn rhad rhwng y gwahanol ysgolion. Yn ymadawiad Mr. Rees, collwyd un o'r cyfeillion ffyddlonaf a feddai yr Ysgol Sabbothol, ac un y bydd ei goffadwriaeth yn fyw wedi i'r rhai a gydoesent âg ef oll gilio o'r golwg.

TEYRNGED O BARCH I LEWIS WILLIAM.

Yn nghoflyfr y Dosbarth, ceir crybwyllion mynych am yr hen batriarch L. William, Llanfachreth, tad Ysgolion Sabbothol y rhan hon o'r wlad. Yn hen wr egwan, parhaodd i ddilyn y Cyfarfodydd Ysgolion, ac i hyrwyddo y gwaith ymlaen a'i anogaethau syml a gwresog, nes pallodd ei nerth. Dyddorol iawn ydyw gwybod beth oedd syniad pobl ei wlad am dano pan fu farw. Mewn cynulliad yn Llanfachreth, Ebrill 27ain, 1862, yr ydym yn cael y cofnodiad a ganlyn— "Anfonodd yr hen frawd Lewis William ei gofion cynhesaf at yr ysgolion, a dymunai ar fod eu deiliaid yn meddu ysbryd Caleb a Josuah, i fod yn benderfynol i fyned ymlaen. Dymunodd y cyfarfod ddangos ei gydymdeimlad dwysaf â'r hen frawd trwy law Mr. Richard Williams." Dyma y crybwylliad olaf a geir am dano yn fyw. Yn nghyfarfod y 9fed o Fedi, yr un flwyddyn, gwnaethpwyd sylw coffadwriaethol am dano, "fel sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn y cylch," ac yn yr un cyfarfod, cynygiwyd gwobr am farwnad iddo, a phenderfynwyd cael cofgolofn ar ei fedd. Yn hanes cyfarfod blynyddol yr ysgolion, gynhaliwyd yn Nolgellau, Mai 17eg, 1863, yr ydym yn cael y cofnodiad canlynol: "Dylem eich coffhau am farwolaeth yr hen dad hybarch, Lewis William, Llanfachreth. Mae yn debyg nad oes yma neb yn cofio y Cyfarfodydd Ysgolion heb ei fod ef yn dwyn cysylltiad agos â hwynt. Ni bu efe yn fwy ffyddlon gyda dim na chyda'r Ysgol Sabbothol. Efe sylfaenodd amryw o'r ysgolion. Efe oedd tad Ysgol Sabbothol Dolgellau. Dilynodd y Cyfarfodydd Ysgolion hyd y gallai. Os ydym yn cofio yn iawn, yn Abergeirw y bu ddiweddaf, pan yn wael iawn ei iechyd, ac heb weled nemawr, ond trwy help brawd o Lanfachreth, ymlusgodd yno, er ei bod yn dywydd gwlyb dros ben, fel yr oedd amryw o'r cenhadon yn gorfod troi yn eu hol. Ond dywedai Lewis William na fynai ef er dim droi yn ol. Un felly ydoedd, ymlaen, ymlaen oedd ei arwyddair gyda phob rhan o waith yr Arglwydd. Cafodd ysgol Dolgellau y fraint o wneyd tysteb iddo yn ei fywyd. Pan oedd yr ysgol yn cyraedd ei 50 oed, blwyddyn ei jiwbili, gwahoddwyd yr hen frawd i'r dref, a chyfarfod a hir gofir oedd y noson hono i bawb oedd yno. Cyflwynwyd iddo Feibl hardd a gwerthfawr fel cydnabyddiaeth am y llafur a'r ymröad calon a gymerodd i sefydlu Ysgol Sabbothol yn y dref hon, yn ngwyneb llawer iawn o wrthwynebiadau. Derbyniodd yr hen frawd anwyl yr anrheg, ac yr oedd ar y pryd yn wylo cariad pur.'"

Y GYMANFA YSGOLION.

Mae y Gymanfa Flynyddol wedi dyfod yn nodwedd o arbenigrwydd mawr yn hanes yr Ysgol Sul yn y dosbarth hwn. Nid oes amser maith er pan ei sefydlwyd. Nid yw y gyfres bresenol o Gymanfaoedd, mewn gwirionedd, yn dyddio yn bellach yn ol na'r flwyddyn 1871. Yn flaenorol, am ryw nifer o flynyddoedd, cynhelid ambell gyfarfod blynyddol, weithiau i ganu, ac weithiau i gystadlu; ac yn flaenorol i hyny, neillduid un o'r Cyfarfodydd Ysgolion rheolaidd ar y Sabbath i fod yn gyfarfod blynyddol, i drefnu gwaith yr ysgolion am y flwyddyn. Ond yn 1871, sefydlwyd Cymanfa, a pherthynas uniongyrchol rhyngddi â gwaith beunyddiol yr ysgolion. Cynhaliwyd ynddi y flwyddyn uchod ddau gyfarfod —y prydnhawn a'r hwyr. Y llywyddion oeddynt, y Parchn. D. Evans, M.A., yn awr o'r Abermaw, a J. Davies, Bontddu. Yr holwyr yn y Gymanfa gyntaf hon oeddynt, y ddau a enwyd, a'r Parchn. J. Evans (I. D. Ffraid), O. Roberts, Llanfachreth, ac E. Peters, Bala. Cyffelyb, o ran trefn, oedd y Cymanfaoedd am y ddwy flynedd ddilynol. Ond yn 1874, newidiwyd a gwellhawyd y dull o'u cynal, trwy wneyd tri chyfarfod; y boreu a'r prydnhawn i holi, a'r cyfarfod hwyrol i gyd—ganu y tonau y byddis wedi ymarfer â hwy. Mae y drefn hon wedi ei dilyn hyd yn bresenol, a cheir ei bod yn ateb y diben yn rhagorol. Mae Cymanfa Ysgolion Dosbarth Dolgellau wedi parhau i enill mewn nerth ac effeithiolrwydd, ac er's blynyddoedd bellach, yn cael ei hystyried yn un o'r Cymanfaoedd goreu a geir mewn unrhyw ran o'r wlad, ac hyd yn nod yn esiampl i'w hefelychu. I'r dosbarth ei hun—i Fethodistiaid y dosbarth, o leiaf, y mae wedi dyfod yn brif ddigwyddiad y flwyddyn, gan nad beth arall a gymer le, ac y mae yn sicr nas gellir mesur ei gwerth fel symbyliad i lafur trwy yr holl ysgolion. Ar y cyntaf, tueddid i roddi gormod o le ynddi i fan gystadleuon mewn darllen, adrodd, a chanu. Ond y mae hyn wedi ei roddi heibio yn llwyr, a'r unig beth yn meddu dim tuedd gystadleuol ynglyn a'r Gymanfa yn awr yw yr arholiadau ysgrifenedig a gynhelir ar ei chyfer yn y materion y byddis yn holi ynddynt. Heb leihau gwir ddyddordeb y cyfarfodydd, y mae cau y mân gystadleuon allan o honynt wedi bod yn help i roddi iddynt urddas a dwysder cyfarfodydd crefyddol.

Heblaw yr holi a'r canu, defnyddir y Gymanfa fel mantais i wobrwyo y rhai fyddant wedi dysgu allan yn ystod y flwyddyn. Fel y crybwyllwyd, y mae wedi bod yn arferiad i roddi Cysondeb y Pedair Efengyl yn wobr am ddysgu yr Hyfforddwr er's amryw flynyddau; ac er's blynyddau yn gynt na hyny, arferid rhoddi y Llyfr Hymnau yn wobr am ddysgu y Rhodd Mam. Ac y mae hyn wedi peri fod mwy o'r Llyfr Hymnau i'w weled yn nwylaw ieuenctyd y cynulleidfaoedd, a mwy o'r Cysondeb y Pedair Efengyl yn y teuluoedd, yn y dosbarth hwn, nag odid nemawr ran o'r wlad. Ynglyn â hyn, byddai yn briodol crybwyll ffaith arall deilwng o'i chofnodi. Er's rhai blynyddau, ychwanegir at y gwobrau a roddir ddydd y Cymanfa gan gyflwyniad ugeiniau o lyfrau buddiol i'r rhai ieuengaf am ffyddlondeb yn dilyn yr ysgol. Rhoddir y gwobrwyon hyn yn gwbl gan Mr. R. Jones, Shop Newydd, Dolgellau, yr hwn a wasanaethodd y dosbarth fel llywydd y Cyfarfod Ysgolion o'r flwyddyn 1875 hyd ddiwedd 1887. Oddiwrtho ef y tarddodd y cynllun, ac efe yn gwbl sydd yn ei weithio allan ar ei draul ei hun. Yn mhellach, hefyd, gellir dweyd ei fod ef trwy ei haelioni a'i weithgarwch gyda'r Ysgol Sul yn esiampl i'w efelychu. Am y tair blynedd ar ddeg olynol yr etholwyd ef i fod yn llywydd y Cyfarfod Ysgolion, gwasanaethodd ei swydd gydag ymroddiad digymar, ac nid arbedodd unrhyw lafur i wneyd y gwaith a ymddiriedwyd iddo yn effeithiol. Y ffrwyth a welir trwy y gwobrwyon hyn a rydd efe yn flynyddol i'r rhai fyddo wedi bod yn bresenol gyda chysondeb am y flwyddyn, ydyw cynydd sefydlog yn nghyfartaledd presenoldeb ymhlith y dosbarth ieuanc o ddeiliaid yr ysgolion.

Mae y gwaith a wneir ddydd y Gymanfa wedi cynyddu cymaint y blynyddau diweddaf, fel yr ydys o dan angenrheidrwydd i gynal dau gyfarfod yr un adeg, foreu a phrydnhawn, y naill yn Salem a'r llall yn Bethel. Y fath ydyw poblogrwydd y Gymanfa hefyd, erbyn hyn, fel y byddai y mwyaf o'r ddau gapel yn rhy fychan i gynal y cyfarfodydd fel cynt. Arferid cael brodyr o'r tuallan i'r cylch i holi yn y Gymanfa y blynyddoedd cyntaf, ond er's llawer o amser yn awr, dibynir yn gwbl ar weinidogion y Dosbarth yn unig. Yr un modd gyda'r canu, arferai y diweddar Ieuan Gwyllt wasanaethu fel arweinydd am amryw flynyddau wedi sefydlu y Gymanfa, ond er's amser bellach, gwneir y gwaith hwn gan Mr. O. O. Roberts, ysgolfeistr, gyda llwyddiant a chymeradwyaeth mawr. mae y cyfarfod hwyrol, a dreulir yn unig i ganu, y mwyaf poblogaidd o unrhyw fath a gynhelir yn Nolgellau yn ystod y flwyddyn. Mae canu y Gymanfa, meddir, wedi gwella a pherffeithio cymaint flwyddyn ar ol blwyddyn, nes erbyn hyn y deil gymhariaeth a'r goreu a geir mewn unrhyw le yn Ngogledd Cymru.

Mae y Gymanfa wedi cario dylanwad daionus ar y Cyfarfodydd Daufisol, ac ar yr ysgolion yn gyffredinol, er peri mwy o weithgarwch ymhob cylch. Cedwir hi yn y golwg fel prif ddigwyddiad y flwyddyn, ac fel amser nodedig i ddangos ffrwyth llafur y flwyddyn. Rhoddodd yr hen bererin Lewis William, Llanfachreth, urddas ar ffyddlondeb i'r Ysgol Sul yn y rhanbarth hwn o'r wlad. Ac mewn canlyniad i'r yni a dderbynir oddiwrth y Gymanfa, mae y Cyfarfod Ysgolion mewn blynyddoedd diweddar wedi gwella llawer yn ei drefn, ac wedi adenill i raddau y poblogrwydd y tueddai amser a fu i'w golli. Ychwanegwyd at y Dosbarth, ysgol Sion yn 1846, ac ysgol Llwyngwril yn 1886. Y ffigyrau canlynol a ddangos- ant sefyllfa yr Ysgol Sul am y tri ugain mlynedd diweddaf :-

Nifer yr ysgolion Athrawon Deiliaid
1826 9 123 793
1860 14 162 1298
1887 18 200 1490

SWYDDOGION CYFARFOD YSGOLION Y CYLCH.

Er y flwyddyn 1859, pryd y dechreuwyd cadw cyfrifon rheolaidd, mae y personau canlynol wedi gwasanaethu fel llyw- yddion y Cyfarfod Ysgolion:—Mri. David Evans, Rehoboth; Evan Ellis, Hendre; Elias Williams, Llanelltyd; John Parry, Bontddu; Ellis Jones, Sion; David Jones, Dolgellau; Richard Mills, Dolgellau; Richard Jones, Dolgellau. Ysgrifenyddenyddion yn ystod yr un cyfnod:—Mri. Joseph Roberts, Dolgellau; Humphrey Jones, Tanybryn, Dolgellau, yr hwn a fu yn y swydd am wyth neu naw mlynedd, ac a fu yn un o'r prif offerynau i wella y trefniadau; E. J. Evans (yn awr y Parch. E. J. Evans, Walton); David Thomas, Llanfachreth; Evan Roberts, Saron; William Williams, Swyddfa'r Goleuad, o 1876 i 1887. Y pregethwyr fel holwyddorwyr yn yr un cyfnod:— Parchn. D. Jones, yn awr o Garegddu; D. Evans, M.A., yn awr o'r Abermaw; O. Roberts, Llanfachreth; J. Davies, Bontddu; H. Roberts, Silo; O. T. Williams; R. Roberts, Dolgellau. Y trysorydd o 1866 hyd 1887, Mr. Robert Roberts, Glanwnion. Y swyddogion presenol, a etholwyd yn nechreu 1888—Llywydd, Mr. W. O. Williams, Dolgellau; ysgrifenydd, Mr. R. C. Evans, Dolgellau; trysorydd, Mr. M. Jones, U.H., Plasucha; pregethwr, Parch. Richard Rowlands, Llwyngwril.[2]

Nodiadau

golygu
  1. Mr. W. Williams, Swyddfa'r Goleuad, yr hwn a fu yn ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion am dymor maith y blynyddoedd diweddaf, yn garedig a anfonodd yr hanes o'r flwyddyn 1859 hyd y Can'mlwyddiant.
  2. Rhoddwyd enwau yr oll y cafwyd sicrwydd am danynt yn flaenorol i 1859; ond aeth amryw ar goll, am na chadwyd cofnodion rheolaidd.