Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/Sylwadau Arweiniol

Cynwysiad Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Agwedd Foesol a Chrefyddol y Wlad cyn y Flwyddyn 1785

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

RHAN I

—————————————

DOSBARTH RHWNG Y DDWY-AFON

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

PENOD I.

—————————————

SYLWADAU ARWEINIOL

CYNWYSIAD.—Byr ddarluniad o'r rhan hon o'r Sir—Lleoedd hynod—Hanesion boreuol.

 LAIN o wlad ydyw yr hyn a elwir 'Rhwng y Ddwy Afon,' ar gwr De-Orllewinol Sir Feirionydd, oddentu deuddeng milldir o led, a deunaw neu ugain milldir o hyd, rhwng dwy afon, sef yr Afon Mawddach ac Afon Dyfi. Ymestyna o ran ei hyd o Lwyngwril i gwr uchaf Aberllyfeni, a'i lled o Arthog i Bennal. Amgylchynir y rhandir o du y Gorllewin gan ran o'r môr a elwir Cardigan Bay; o du y Dwyrain, gan Gadair Idris, a Llyn Tal-y-llyn; o du y Gogledd, gan yr Afon Mawddach, neu Afon yr Abermaw; o du y De, gan Afon Dyfi. Ac o'r tu arall i Afon Dyfi y mae siroedd Trefaldwyn ac Aberteifi. Oddiwrth y ffaith fod y rhandir yn gorwedd rhwng dwy afon, y Mawddach a'r Dyfi, y tardd yr enw Rhwng y Ddwy Afon." Y mae yn perthyn i arwynebedd y wlad wastadedd a bryniau; mynydd a môr; "dyffrynoedd, glynoedd, a glanau;" tir toreithiog a thir ysgythrog. Yn ddaearyddol saif, fel Mesopotamia, o'r bron ar ei phen ei hun, yn wahanedig oddiwrth y tir oddiamgylch, gyda Chader Idris, brenin mynyddoedd y sir, ar un cŵr, y môr ar y cŵr cyferbyniol, a'r ddwy afon yn rhedeg yn gyfochrog, o bob tu.

Afon arall y gellir ei galw yn drydedd afon, ond sydd yn llai o faintioli, ac yn meddu llai o enwogrwydd, ydyw yr Afon Dysyni. Y mae rhediad hon drachefn yn gyfochrog â'r ddwy arall, ac ymestyna ar ei thaith tua'r môr, gan ranu y parth hwn o'r wlad, o'r bron yn y canol. Bêr yw ei hyd o'i chym haru â'r ddwy arall. Dechreua ei thaith yn Llyn Tal-y-llyn, a rhed yn hamddenol heibio Abergynolwyn, a Chraig y Deryn, ac yna yn fwy arafaidd fyth, cydrhwng pentrefydd Bryncrug a Llanegryn, heibio i balasdai prydferth Peniarth ac Ynysmaengwyn, gan ymarllwys yn ymyl Tonfanau, ac yn ngolwg tref Towyn, i'r Cardigan Bay.

Yn ol hen raniadau y wlad, cymer i mewn y rhan helaethaf o ddau gwmwd, Ystumaner a Thalybont. Y ddau gwmwd gyda'u gilydd ydynt Cantref Meirionydd. Cynwysa chwech o blwyfi, Towyn, Celynin, Llanegryn, Llanfihangel-y-Penant, Tal-y-Llyn, a Pennal. Er's llai nag ugain mlynedd yn ol, cynhelid llysoedd barn gan yr ustusiaid heddwch yn Towyn, Pennal, ac Aberdyfi bob yn ail. Wedi hyny, cynhelid hwy yn Towyn ac Aberdyfi bob yn ail fis; yn awr cynhelir hwy yn Towyn yn unig. Er pan basiwyd Deddf Addysg 1870, y mae pedwar o Fyrddau Ysgol wedi eu ffurfio, Bwrdd Ysgol Celynin, Bwrdd Ysgol Towyn a Phennal, Bwrdd Ysgol Tal-y- Llyn, Bwrdd Ysgol Llanfihangel-y-Penant. Mewn ystyr grefyddol, ymhlith y Methodistiaid Calfinaidd, mae y rhan yma o'r wlad yn gwneyd i fyny un o bedwar dosbarth Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd.

Yn yr amseroedd pell yn ol, yr oedd y ffyrdd i drafaelio, ond eu bod yn dra chyffredin eu cynllun, ac o wneuthuriad cyntefig, yn arwain drwy agos bob dyffryn, a thros agos bob bryn. Ond mewn amseroedd diweddarach, wedi i'r hen ddull cyntefig o deithio ar draed ac ar feirch fyned heibio, a chyn amser y cerbydau tân, yr oedd y brif ffordd i deithio yn arwain o amgylch ogylch i'r rhanbarth hwn, gan adael canol y wlad i'r teithydd i ymlwybro fel cynt. Yn y fl. 1827 y gwnaed y ffordd fawr, y turnpike road o Fachynlleth, trwy Bennal, i lawr i Aberdyfi ac ymlaen i Towyn. Wedi gwneuthur hon, yr oedd ffordd y goach fawr yn arwain i lawr gydag ochr Ogleddol Afon Dyfi, ar hyd glan y môr, ac yna i fyny gydag ochr ddeheuol yr Afon Mawddach i Ddolgellau. Heblaw hyn, yr oedd ffordd gyffelyb yn cydio Machynlleth a Dolgellau a'u gilydd, gan arwain trwy Gorris, igam ogam, o benelin i benelin, i fyny ac i lawr, i lawr ac i fyny. Y lle y rhoddwyd yr ager-beiriant i redeg gyntaf yn Sir Feirionydd, ni debygwn, ydoedd rhwng Aberdyfi a Towyn. Cymerodd hyn le yn 1863 neu 1864. Er y flwyddyn 1867, mae rheilffordd glanau Cymru yn rhedeg ar draws y pen agosaf i'r môr o'r sir, ac yn cysylltu De a Gogledd Cymru a'u gilydd. Pe cymerai dieithr-ddyn ei eisteddle yn ngherbyd y rheilffordd, yn ngorsaf Machynlleth, a myned ymlaen trwy Aberdyfi, Towyn, a Llwyngwril i Barmouth Junction, ac i fyny drachefn i Ddolgellau, byddai wedi amgylchynu llain o wlad ar lun pedol, ond ei bod hi yn bedol o faintioli mwy na phedol ceffyl. Tyned linyn drachefn dros y lle gwag i'r bedol, gan uno y ddau ben a'u gilydd, dyna y rhan o'r wlad sydd yn myned wrth yr enw 'Rhwng y Ddwy Afon.'

Mae arwynebedd y wlad, a golygfeydd swynol natur yn dra amrywiol a phrydferth, a dyma lle mae "Bryniau Meirionydd i'w gweled harddaf o un rhan o'r sir. Mae copäau y bryniau gan mwyaf yn foelion a llymion, a gwaelodion y gwastadedd yn gynyrchiog, cnydiog, a chynharol. Yn debyg iawn i Mesopotamia, gwlad meibion y dwyrain, y mae Mesopotamia Sir Feirionydd, yn wastadedd yn un pen, ac yn myned yn fwy mynyddig fel yr eir tua'r Gogledd Ddwyrain.

Ar y cwr pellaf oddiwrth y môr, a thu cefn i'r dyffrynoedd a'r bryniau rhwng y Ddwy Afon, y mae CADER IDRIS. Y mynydd hwn, yr hwn sydd 2914 o droedfeddi uwchlaw y môr, a arferid ei ystyried yn uwchaf yn Sir Feirionydd, a'r ail mewn uwchder yn Nghymru. Ond y mae mewn gwirionedd un arall yn uwch na'r Gader, sef Aran Fowddwy, yr hwn sydd yn 2955 o droedfeddi o uchder. Mae Cader Idris wedi cael ei enw oddiwrth Idris Gawr, ser-ddewin nerthol a chyfrwys. Ar grib uwchaf y mynydd yr eisteddai y cawr, "i efrydu cylchdeithiau y llu wybrenol, a dysgu ganddynt dynged a damwain dyn," am ba achos y gelwir y mynydd wrth ei enw—Cader Idris. Yr oedd crediniaeth yn bod am oesau, y byddai i bwy bynag a eisteddai am noswaith yn y gadair ar ben y mynydd gael ei drawsffurfio erbyn y boreu yn fardd, yn gelain farw, neu yn ysbrydoledig! Y mae mwy o berthynas hanesyddol rhwng y mynydd hwn â Dolgellau, am mai oddiyno yn fwyaf cyffredin y cymerir taith i'w ben. Y mae llawer o gyrchu, oes ar ol oes, i ben Cader Idris gan ddieithriaid o bob cwr o'r byd, tra y mae ugeiniau yn treulio eu hoes o gwmpas ei odrau heb fod erioed ar ei ben.

Wrth odreu Cader Idris y mae Llyn Tal-y-llyn yn gorwedd yn dawel yn ei wely hirgrwn, cydrhwng mynyddoedd uchel. Ei faintioli ydyw oddeutu milldir a chwarter o hyd, haner milldir o led, a thair milldir o amgylchedd. Mae cymydogaeth y llyn yn ystod misoedd yr haf yn gyrchfa llawer o ddieithriaid. Cafodd plwyf Tal-y-llyn ei enw oddiwrth y ffaith fod llan neu eglwys y plwyf wrth dalcen y llyn.

Islaw y Llyn a'r Cader, rhyngddynt a'r môr, ar waelod gwastadedd Llanfihangel, y mae "Craig y Deryn," yr hon a elwir felly, yn ddiameu, oddiwrth y nifer mawr o adar, môrfrain, cudylliaid, cyhyrod, ac adar ysglyfaethus eraill, a heigiant o'i hamgylch. Y mae yn y graig ugeiniau o dyllau ac ystafelloedd, lle y nytha yr adar, ac y magant eu cywion. Ac ar adegai o'r flwyddyn, bydd eu sŵn yn fyddarol. Ymddyrchafa y graig yn syth ar i fyny, amryw ganoedd o droedfeddi o uchder, a'r rhan uchaf o honi yn ogwyddedig dros ei throed, nes peri arswyd ar y teithiwr a elo heibio rhag i ddarn o honi gwympo i lawr ar ei ben. Y mae bum' milldir o bellder o Dowyn, ac yn yr haf ymwelir â'r lle gan liaws o ymwelwyr, i gael golwg ar aruthredd y graig, ac ar y llu asgellog. Ar gyffiniau y rhan yma o'r wlad, ar waelod dyffryn Towyn, rhwng y dref hon â'r môr yr oedd Cantref y Gwaelod. Os ydym i gredu traddodiad, fe gollwyd gwastadedd eang, brâs, toreithiog, trwy orlifiad y môr, rhyw bedwar cant ar ddeg o flynyddoedd yn ol. Fel hyn y dywed y Trioedd am yr hanes hwn: "Seithinyn feddw ab Seithinyn Saidi, brenin Dyfed, a ollyngwys yn ei ddiod y môr dros Cantref y Gwaelod, oni chollwyd o dai a daiar y maint ag oedd yno, lle cyn hyny y caed un dinas-dref ar bymtheg, yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru." Cymerodd y trychineb hwn le, fel y dywedir, oddeutu y flwyddyn 500. Y profion cadarnaf dros gredu fod lle mor fawr, sydd yn awr oll dan ddwfr, unwaith yn wlad eang, yn cael ei phreswylio gan ddynion, ydyw y Sarnau, neu y muriau mawrion sydd yn weledig yn y mor ar ddwfr bas. Ond a chaniatau fod Cantref y Gwaelod wedi bod unwaith yn wlad yn cael ei phreswylio fel y rhanau sydd yn awr ar lan y môr, mae y traddodiad mai trwy esgeulusdra dyn meddw y cymerodd y trychineb le yn anhawdd iawn ei gredu. Mwy tebygol ydyw mai trwy ryw ffordd arall, ac feallai yn raddol, y cymerodd y gorlifiad le.

Amaethyddiaeth ydyw cynyrch a chyfoeth penaf y wlad. Proffwydodd Azariah Zadrach, hen weinidog ffyddlon gyda'r Annibynwyr, fod cyfoeth lawer yn nghrombil bryniau a mynyddoedd y bröydd hyn. Cyfansoddodd gân yn y fl. 1836, yn yr hon y dywed:—

"Y mae yn mynyddau Meirion
Lawer o drysorau mawrion,
Ac fe'u cludir lawr i Dyfi
Yn dunelli dirifedi.

Mae'r mynyddau sy'n dra anial,
'Nawr uwchlaw i bentref Pennal,
Yn llawn trysor maes o'r golwg:
Cyn bo hir fe ddaw i'r golwg.

Fe fydd trefydd ac eglwysi
Cyn b'o hir ar lanau Dyfi,
A hwy fyddant yn fwy hynod
Na hen drefydd Cantref-gwaelod.

Gwneir pont ha'rn dros afon Dyfi,
A bydd miloedd yn ei thramwy,
Wrth dd'od i lawr o Gader Idris.
I'r dref hardd fydd ar Foelynys.


Fe fydd Dyfi yn rhagori
Ymhell ar holl borthladdoedd Cymru;
Bydd ei masnach yn rhyfeddod
Yn yr oesoedd maith i ddyfod."

Y mae haner can' mlynedd er pan y canodd y proffwyd, ond nid oes eto ryw lawer o'r cyfoeth wedi dod i'r golwg. Er hyny ceir arwyddion fod rhai o'i broffwydoliaethau eisoes wedi eu cyflawni. Y mae Chwarelau Llechau wedi troi allan yn llwyddianus mewn dwy ardal. Chwarelau Llechau Corris ac Aberllyfeni ydyw y rhai agosaf o ran maint a phwysigrwydd yn Sir Feirionydd i Chwarelau Ffestiniog, a Chwarel Abergynolwyn, neu Bryneglwys, ydyw y drydedd o ran pwysigrwydd; cyfoeth yr olaf wedi ei dtladblygu o fewn y 30ain mlynedd diweddaf, a'r rhai cyntaf o fewn y 60ain mlynedd diweddaf. Heblaw yn y ddwy ardal hyn, nid oes dim cyfoeth o bwys wedi ei gael o'r ddaear, ond yr hyn a geir ar ei gwyneb. O'r chwe' phlwy sy'n gwneyd i fyny y rhanbarth, plwy' Towyn ydyw y pwysicaf a'r cyfoethocaf. O fewn y plwy' hwn, y mae Aberdyfi, porthladd ac ymdrochle o gryn bwysigrwydd: a phentref tawel Bryncrug ar lan yr afon Dysyni. Poblogaeth y plwy' yn 1871 ydoedd 3307. Yr agosaf ato mewn pwysigrwydd ydyw plwy' Tal-y-llyn. Poblogaeth yn 1807, 633; ac yn 1861, 1284. Y mae Corris ac Abergynolwyn wedi cynyddu llawer mewn poblogaeth yr haner can' mlynedd diweddaf, ar gyfrif y llech-chwarelau sydd ynddynt; a Thowyn ac Aberdyfi wedi cynyddu, ar gyfrif agoriad Rheilffordd Glanau Cymru. Nid oes cynydd o bwys wedi bod yn un rhan arall o'r wlad; yn hytrach lleihau y mae y rhanau amaethyddol yn barhaus.

Gyda golwg ar hynafiaethau, ac olion brwydrau a rhyfeloedd canrifoedd a aethant heibio, mae y wlad yn gyfoethog mewn dyddordeb. Ond amcan y sylwadau hyn yn unig ydyw rhoddi ychydig grybwyllion cyffredinol. Y mae eglwys y plwyf, Towyn, yn dra hynafol. Tebyg ydyw ddarfod i'r adeiliad presenol gael ei adeiladu yn y ddeuddegfed ganrif, gan ei bod ar yr arddull Normanaidd o adeiladaeth. Ei sefydlydd a'i noddwr ydoedd Sant Cadfan, yr hwn a ddaeth drosodd o Lydaw i Gymru yn nechreuad y chweched ganrif. Sefydlodd hefyd eglwys Llangadfan, yn Sir Drefaldwyn. Yr oedd Sant Cadfan yn Abad yn mynachlog Ynys Enlli, ac fel yr hysbysir yn "Bonedd y Saint," yr oedd ganddo Beriglor o'r enw Hywyn. Y mae un awdwr Cymreig yn tybio y gallai fod enw y dref wedi tarddu oddiwrth enw y periglor Hywyn, a thrwy dreigliad amser fod y gair wedi llygru i "Nhywyn," ac yna i "Tywyn, ac yn olaf i "Towyn."[1] Eraill a ddywedant mai ystyr y gair Towyn ydyw, lle ar fin y môr. Yr enw ar y bryn sydd wrth ymyl tref Towyn, ar yr ochr ddeheuol ydyw, "Bryn y Paderau," oddiwrth y ffaith y byddai yr hen seintiau a fynychent yr eglwys yn syrthio ar eu gliniau ar ben y bryn i ddweyd eu pader; gan mai ar gyrhaeddiad i ben y bryn y cai y rhai a ddeuent o gyfeiriad Aberdyfi a Maethlon yr olwg gyntaf ar yr eglwys, ac yr oedd eu parch yn gymaint iddi fel yr elent ar eu gliniau pan y caent yr olwg gyntaf arni. Yn y flwyddyn 1215, blwyddyn y Freinlen Fawr (Magna Charta), cynhaliwyd cyfarfod mawr o Dywysogion Cymru yn Aberdyfi, i'r diben o hawlio eu rhyddid yn y tiroedd a ddygasid oddiarnynt gan yr arglwyddi. "Yn yr amser hwn, ymddangosodd ymhlith y Cymry dueddiad nodedig a chanmoladwy i gydgymodi er cynal undeb a heddwch rhyngddynt a'u gilydd; ac i'r diben o hyfforddi eu bwriadau, cynhaliwyd cyngor yn Aberdyfi, lle y daeth Llewelyn ap Iorwerth, a holl Dywysogion Cymru, ynghyd â holl ddoethion Gwynedd; a cher bron y Tywysog y gwnaethpwyd rhaniad tiriogaethau rhwng yr ymgeisyddion yn y Deheubarth."—Carnhuanawc.

Yn mhlwyf Llanegryn, y mae ffermdy o'r enw Talybont, yr hwn y tybir a fu unwaith yn breswylfa Tywysogion Gwynedd, yn gymaint ag i'r Tywysog Llewelyn ddyddio un o'i freinleni yno. Ac yn mhlwyf Llanfihangel-y-Penant, y mae gweddillion hen gastell, yr hwn a clwid Castell Teberri, nen Castell y Beri, ac fel y gelwir ef yn awr Castell Caerberllan. Tybia Pennant, yr hanesydd, mai hwn ydoedd Castell Bere, ac mai efe ydoedd amddiffynfa "Llywelyn ein llyw olaf." Y mae ffermdy, neu Plâs Aberllyfeni hefyd yn lle o urddas hynafol, ac ar ei furiau luniau ac arf-beisiau hen wroniaid Cymreig. Dywedir i Counsellor Flutton, awdwr History of Pembrokeshire, fod yn byw ynddo yn hir. Cydrhwng Llanegryn a Llwyngwril, ar ben uchaf y bryn, y mae "Gwastad Meirionydd." Hynodrwydd penaf y lle hwn yn awr ydyw fod yno ysbotyn o le yn cynwys ychydig iawn o amgylchedd, pan yn sefyll ynddo, nis gellir gweled na mynydd na môr o hono, er fod y naill a'r llall yn ymyl. Yn agos i Lanegryn, hefyd, y mae Peniarth Uchaf. Yn y llyfr, Rhyfeddodau y Byd Mawr, a gyhoeddwyd yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1827, gwneir y crybwylliad canlynol am y lle hwn: "Y pwys cyntaf o dê a ddaeth i Gymru, am a wyddis, ydoedd anrheg a anfonodd pendefiges o Gaerludd i wraig fonheddig oedd yn byw yn Peniarth Uchaf, Swydd Meirion, yn y flwyddyn 1700."

Gwelir olion amryw helyntion yr oesoedd gynt yn ardal Pennal. Yn agos i'r pentref, y mae amaethdy Cefncaer, yr hwn oedd wersyllfa gadarn gan y Rhufeiniaid yn amser yr Ymerawdwr Honorius. Dywed traddodiad fod ffordd yn arwain oddiyma o tan y ddaear, ac o tan afon Dyfi i dy Owain Glyndwr, yn Machynlleth. Y mae swn gwagder i'w glywed wrth gerdded ar wyneb y ddaear yn agos i'r lle, ac yr oedd hen bobl yn byw yn yr ardal ychydig ddegau o flynyddoedd yn ol, a dystient eu bod wedi gweled pen y ffordd. Credir hefyd, medd haneswyr, fod ffordd Rufeinig yn arwain o Conovium, ger Conway, i Lucarum, ger Abertawe, gan basio heibio Ddolgellau, a thros fraich Cader Idris, heibio i Bennal, ac yna trwodd i'r Garreg, yn Sir Aberteifi. Ymladdwyd brwydr yma rhwng pleidwyr tŷ Lancaster â phleidwyr tŷ Caerefrog, a thybir fod y Domen—las sydd ar dir Talgarth wedi ei chyfodi ar fedd y milwyr a syrthiasant yn y rhyfel hwn, a thybir yn mhellach fod Wtre y Parsel, sef y ffordd fawr rhwng Pennal a phentref y Cwrt, yn llawn o feddau hen filwyr. Y mae llythyr ar gael oddiwrth Owain Glyndwr at frenin Ffrainc, wedi ei ddyddio yn Mhennal. Yn y Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd, gan Ieuan Dyfi, ceir yr hanes canlynol am ddigwyddiad a gymerodd le yma yn 1402—

"Yn y pentref hwn (Pennal), unwaith y trigai yr hawddgaraf a'r decaf o holl wyryfon Gwynedd, Lucy Llwyd. Nis gall ei marwolaeth anhygoel a phruddglwyfus, er yn dra ffafriol i'w theimladau, lai na chynyrchu cydymdeimlad a thosturi. Yr oedd mewn carwriaeth â Llewelyn Goch ap Meurig o Namnau, bardd. Ond ei thad, mewn awr nwydus, ac yn anfoddlawn ir briodas, a gymerodd fantais oddiwrth absenoldeb ei chariad yn Nehendir Cymru, ac a geisiodd dori yr ymlyniad, a chyda'r diben hwn, dywedodd wrthi fod Llewelyn wedi ei gadael hi a phriodi un arall. Yr oedd yr ergyd yn fwy nag a allai gynal; syrthiodd i lawr a bu farw yn y fan, Llewelyn wrth ddychwelyd, ddiwrnod neu ddau wedi hyn, a frysiodd at anwylyd ei galon; ond y syndod disymwth o'i gweled wedi ei rhoddi yn ei harch, a effeithiodd gymaint ar ei synwyr, fel y syrthiodd yn farw ar y llawr. Pa fodd bynag, adfywiodd drachefn, a chyfansoddodd alargan, ymha un y darlunir gyda theimladau dyn wedi cael cam, â meddwl trallodedig, gymeriad y ragoraf ymhlith merched, ymha un y dywed fel y canlyn—

"Llyma hâf llwm i hoew fardd,
Llyma hâf llwm i fardd;
Nid oes yn Ngwynedd heddiw
Na lloer, na lewyrch, na lliw;
Er pan rodded trwydded trwch
Dan lawr dygn, dyn loer degweh.'"


Nodiadau

golygu
  1. Darlundraeth o Fachynlleth a'i Hamgylchoedd, gan Evan Jones (Ieuan Dyfi), yn awr y Parch. Evan Jones, Caernarfon.