Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I/William James, Maethlon

Hugh Owen, Maethlon Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I

gan Robert Owen, Pennal

Byr Hanesion Ychwanegol


William James, Maethlon.

Ganwyd ef yn y flwyddyn 1806, yn ardal Ponterwyd, Sir Aberteifi. Bugeilio defaid oedd ei waith yn nechreu ei oes; a thra wrth y gwaith hwnw ar y mynydd, pan yn llanc 18 oed, yr argyhoeddwyd ef. Wedi ymsefydlu yn y byd, a dechreu cadw teulu, symudodd i fyw i ardal y Graig, yn agos i Glandyfi. Yno y dechreuodd ei grefydd ddyfod i'r golwg mewn gweithgarwch digyffelyb, yr hwn a barhaodd yn ddiflino hyd derfyn ei oes. Cymeriad gloew ydoedd, yn dal yn loew o ba cyfeiriad bynag yr edrychid arno, a rhagorai mewn llawer o bethau, mewn gwybodaeth drwyadl o'r Ysgrythyrau, mewn duwioldeb personol, mewn haelioni crefyddol, mewn gweithgarwch gyda holl wasanaeth crefydd. Gwnaeth y goreu o'r

ddau fyd, a llwyddodd, i fesur helaeth, gyda y naill a'r llall. Yr oedd y byd yn llwyddo a chrefydd yn llwyddo gyda'u gilydd iddo ef. Yr oedd ganddo fferm fawr, gwasanaethyddion lawer, trafferthion fwy na mwy, dwy filldir o ffordd i'r capel, a hyny yn orifyny a goriwared, ac eto ni fyddai moddion crefyddol yn y capel trwy y flwyddyn round na fyddai ef ynddynt, os byddai gartref ac yn iach; ac ni fyddai yno neb mor barod ei feddwl i gydio mewn pethau crefydd. Yr oedd yn ei elfen yn darllen ac yn holi ynghylch pynciau. Y fath syndod oedd hyny, ac yntau yn ngafael â'r byd trwy gydol ei oes, ac yn dwyn teulu mawr i fyny. Ei brif lyfrau oeddynt, James Hughes, y Geiriadur, Gurnal, a Dr. Owen. Tybir nad oedd ond un lleygwr yn y sir wedi meistroli yr epistolau cystal âg ef. Arferai ddweyd mai yr hyn a barodd iddo ddechreu astudio yr epistolau oedd y dadleuon Calfinaidd ac Arminaidd a ffynent yn y wlad pan oedd ef yn ddyn ieuanc.

Bu yn flaenor eglwysig am yn agos i haner can' mlynedd—am bedair blynedd ar ddeg, neu rywle o gwmpas hyny, yn y Graig, Sir Aberteifi; am bedair blynedd ar ddeg yn Mhennal, ac am un mlynedd ar hugain yn Maethlon. Ymhlith blaenoriaid Gorllewin Meirionydd, yr oedd efe yn dywysog ac yn ŵr mawr. Nid oedd mor gyhoeddus ac amlwg yn y Cyfarfod Misol, a chyda threfniadau allanol yr achos, a llawer, ond fel blaenor eglwysig yn y cylchoedd cartrefol, yr ydoedd mor gymwys a blaenllaw a neb. Credai yn gryf mewn gwaith, ac awyddfryd ei enaid fyddai myned ymlaen, ac nid aros yn yr unfan. Pan yr oedd yn preswylio yn Mhennal, yr oedd y Parch. Richard Humphreys yn byw yno yn mlynyddoedd olaf ei oes y ddau o gyffelyb ysbryd, ac yn gyfeillion mawr. Adroddir rhai hanesion dyddorol am danynt. Yr oedd gweinidog yn y daith un Sabbath, ac wedi galw i edrych am Mr. Humphreys yn ei waeledd, yr hwn a ofynai i'r gweinidog, "Ymha le yr oeddych yn lletya neithiwr?" "Yn yr Ynys," ebe yntau, "gyda Mr. James, teulu caredig iawn ydynt hwy." "O ie," atebai Mr. Humphreys, "hynod iawn—they are made to be civil." Yr oeddynt ill dau wedi bod yn y Cyfarfod Misol, ac y mae yr hanes canlynol am danynt wedi cyraedd adref i Bennal i'w weled yn Nghofiant Mr. Humphreys—"Yr oedd ef ac un o flaenoriaid eglwys Pennal wedi bod yn Nghyfarfod Misol Dolgellau, a bu ymdriniaeth helaeth yn y cyfarfod hwnw ar y fugeiliaeth a chynhaliaeth y weinidogaeth; teimlodd blaenor yn ddwys, ac aeth adref a'i galon yn llosgi o zel dros y fugeiliaeth, ac yn y cyfarfod eglwysig dechreuodd roddi adroddiad, ac wrth ei glywed mor zelog ofnai Mr. Humphreys i'w zel wneyd niwaid i'r achos, gan y gwyddai nad oedd pawb yn yr eglwys yr un deimlad â hwy eu dau; a phan y clywai Mr. E., y blaenor, yn poethi wrth roddi ei adroddiad, dywedai yn ei ddull tawel ei hun, 'Gently William, gently'. Yna, arafai Mr. James am fynyd; ond ail dwymnai ei ysbryd drachefn, a dechreuai lefaru yn arw. Gwaeddai Mr. Humphreys eilwaith, 'Gently, gently, William;' a dyna lle y bu y ddau—y blaenor yn gyru, ac Humphreys yn dal rhag iddo fyned ar draws y rhai oedd yn methu symud yn ddigon buan o'r ffordd." Mewn canlyniad i'r drafodaeth hon, cyfododd W. James yn swm ei daliad misol at y weinidogaeth, ac ni thynodd byth yn ol, ond yn hytrach elai ymlaen beunydd yn ei gyfraniadau. A'r flwyddyn y cyfododd yn ei gyfraniad at y weinidogaeth, llwyddodd yn annisgwyliadwy yn ei amgylchiadau tymhorol, a phriodolai ef ei hun y llwyddiant hwnw i ofal rhagluniaeth am dano mewn canlyniad iddo ymhelaethu yn y casgliad misol.

Yr oedd W. James yn ddyn o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion, byth er adeg ei argyhoeddiad, a bu hyny yn gymhwysder mawr ynddo i fod yn flaenor eglwysig. Gweinidog yr eglwys a'i clywsai rai gweithiau yn cyfeirio at eiriau o'r Beibl a ddylanwadodd yn fawr arno yn ei dröedigaeth. Yn ystod ei gystudd olaf, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng y gweinidog ac yntau foddion eich tröedigaeth?" "Pa un oedd yr adnod a fu yn "Yr adnod hono yn Matt. x. 29, "Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch genyf, canys addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau." "A ydych yn cofio pwy oedd yn pregethu arni?" "O, nid oedd neb yn pregethu arni, dyfod i fy meddwl ar y mynydd a wnaeth." "Pa beth oedd eich oed y pryd hwnw?" "Llefnyn o fachgen tuag ugain oed, a'r ysgogyn balchaf a droediodd y ddaear erioed." Pawb a adwaenent W. James a wyddant nad oedd neb yn yr holl wlad yn fwy gwylaidd a gostyngedig nag ef am weddill ei oes, beth bynag oedd cyn ei argyhoeddiad. Dichon fod a fyno yr olwg a gafodd y pryd hwn ar y Ceidwad â pheri iddo ymgydnabyddu â'r hanes am dano yn y gair dwyfol. Anfynych y ceid neb yn yr un o siroedd Cymru yn fwy cadarn yn yr Ysgrythyrau. Pryd bynag y cyfarfyddai â gweinidog, neu bregethwr, neu flaenor, neu unrhyw ddyn crefyddol, byddai ganddo adnod eisiau cael esboniad arni, neu bwnc eisiau cael ychwaneg o oleuni arno; nid am nad oedd ganddo farn ei hun, ond am mai dyna lle yr oedd ei feddwl a'i fyfyrdod parhaus. Pan ddeuai y pregethwr i dŷ y capel, byddai ganddo gowlaid o gwestiynau i'w gofyn iddo. Yn y Cyfarfodydd Ysgolion gorfodid rhoddi y brake arno yn aml, onidê ni chai gweddill yr ysgol gyfle i ateb.

Yr oedd yn un o'r blaenoriaid goreu i gynghori yn yr eglwys ac i drin profiadau y saint. Ond nid oedd neb cadarnach ei feddwl mai gwaith gweinidog ydyw arwain mewn pethau ysbrydol; a'r hyn a allodd ef i beri fod gweinidogion ar yr holl eglwysi fe'i gwnaeth. Rhoddid y cyfle iddo bob amser i agor y seiat; gwnai yntau hyny mewn ychydig sylwadau byr ac at y pwrpas; ac ar y diwedd drachefn, nid araeth fyddai ganddo, ond sylw yn unig, a thrwy y sylw, tarawai yr hoel ar ei phen. Er ei fod yn hen mewn dyddiau, yr oedd mor ieuanc ei ysbryd fel y gallai gydfyned â phob symudiad o eiddo y Cyfundeb gyda'r parodrwydd mwyaf. Rhoddai bob parch i weinidogion yr efengyl, y lleiaf fel y goreu o honynt, a hyny oblegid eu swydd a'u gwaith. Mawr fyddai ei ofal trwy y blynyddoedd am iddynt gael chwareu teg, trwy eu cludo yn ol a blaen yn y daith y Sabbath; a mawr oedd ei bryder amser agor y capel newydd, y dydd cyntaf o'r flwyddyn 1885-ac efe ei hun yn ei wely-am fod y gweinidogion yn cael eu cludo a'u cydnabod am eu gwasanaeth. Un o'i ragoriaethau neillduol fel blaenor bob amser oedd, y byddai yn rhag-ofalu am bob peth a berthynai i'r achos. Meddyliai a chynlluniai yn barhaus am rywbeth i'w wneyd—disgyblu pan y byddai galw am hyny, ac adgyweirio pan y byddai eisiau adgyweirio. Ac ni chai casgliad byth fod ar ol heb ei wneuthur, a'i wneuthur yn ei amser. Tuag at roddi grym yn ei waith ac- yn ei swydd o flaenor, yr oedd ganddo gymeriad o'r tu cefn. Safai yn uchel yn ngolwg pawb, fel amaethwr a chymydog, ac- yr oedd teimlad anrhydeddus ynddo gyda golwg ar wneuthur tegwch rhwng gŵr a gŵr mewn masnach. Yr oedd fel Abram, yn esiampl i bawb yn y wlad am hyfforddi ei blant a thylwyth ei dŷ, a gorchymyn iddynt rodio yn ffordd yr Arglwydd. Bydd y dylanwad da a adawodd ar yr ardal lle yr oedd yn byw yn parhau yn ddiameu am hir amser. Yr oedd yn hollol hyderus am ei gyflwr yn ei gystudd olaf, Ond fel hyn y dywedai wrth un oedd yn ymweled âg ef wythnos cyn y diwedd: "Nid wyf yn mwynhau rhyw lawer ar hyn o bryd o ran hyny; pan yr oeddwn yn iach ac yn gallu gwneyd tipyn gyda chrefydd, y pryd hwnw y byddwn yn mwynhau pethau crefydd." Dyna yn hollol ddisgrifiad o'i holl fywyd-crefydd yn ei gwaith oedd ei grefydd ef. Bu farw Chwefror 16eg, 1885, yn 79 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn ymyl capel Maethlon.

Nodiadau

golygu