Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Abermaw
← Harlech | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Dyffryn → |
ABERMAW
Yr hanes credadwy am ddechreuad crefydd yn Abermaw a roddwyd trwy enau yr Hybarch John Evans, o'r Bala, wrth yr enwog Charles o'r Bala, ac a ymddangosodd yn y Drysorfa Ysbrydol, Rhagfyr, 1810. Y mae fel y canlyn:—"Hysbysais i chwi am hanes dechreuad crefydd yn Nolgellau o'r blaen; rhoddaf yn awr ychydig o hanes am Abermaw. Ynghylch y flwyddyn A. D. 1767, daeth un Henry Richard, gwr o Sir Benfro, i gadw Ysgol Rad Mrs. Bevan, fel y galwent hi, i blwyf Llanaber; ond ni chafodd aros yno ond ychydig o amser oherwydd ei grefydd, ac y bernid ef yn tueddu at Fethodistiaeth. Y rhai cyntaf yr ymwelodd yr Arglwydd â'u meddwl yn Abermaw oedd teulu Robert Griffith. Yn gyntaf â'i wraig, wedi hyny â'u mab-Hugh Griffith, ac â'i dad Robert Griffith, hwn oedd ŵr siriol, tirion, ac i bob tebygolrwydd yn wr duwiol cyn ei farw, yr hyn a ddigwyddodd A. D. 1775. Yr oedd iddynt ferch fechan hefyd, â rhyw arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddi yn ei mabandod; bu farw yn naw oed (A. D. 1781) a'i meddwl yn gysurus gan lawenhau yn yr Arglwydd. Eu mab Hugh a fu yn yr ysgol gyda Henry Richard dros yr ychydig amser y goddefwyd ef yno, a glynodd ei gynghorion dwys a'r addysgiadau addas a gafodd, yn hynod yn ei feddwl, ac ymddangosodd arwyddion neillduol o dduwioldeb ynddo tra y bu byw. Er mai bachgenyn ieuanc oedd, eto yn ei symlrwydd, ei ddeall, ei brofiad, a'i ofal am achos yr efengyl, yr oedd yn hynafgwr. Yr oedd yn llafurus iawn. am gael pregethu yr efengyl i'r lle; teithiai yn aml lawer o filldiroedd, i Langeitho neu ryw le arall, i gymell pregethwyr i ddyfod yno. Yr oedd ei holl ymddygiad yn syml ac yn sobr, a'i ymddiddanion yn ddifrifol, ac am bethau ysbrydol. Byddai yn cadw cyfarfodydd i weddio gyda'r ychydig fyddai yno yn caru y cyfryw waith, yn ymddiddan â hwynt am achos eu heneidiau, ac yn eu cynghori yn ddwys ac yn ddifrifol, yn ol y doniau bychain oedd ganddo. Ei ffyddlondeb a'i ddifrifwch oedd fawr, ac yn esiampl hynod i eraill i'w dilyn. * * Achos yr Arglwydd oedd gofal penaf y bachgenyn hwn yn ei holl fywyd; felly yr oedd hefyd ar ei wely angau. Yr oedd yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam, pa fodd oedd oreu i ddwyn yr achos ymlaen, a gadawodd yr hyn oedd ganddo o arian (yr oedd ganddo ychydig bunau) ag ewyllys arnynt, tuag at adeiladu capel yn y dref; yr hyn a wnaed ychydig flynyddoedd wedi iddo farw. Bu farw A. D. 1776, yn y bymthegfed flwyddyn o'i oed. Fel hyn, yr oedd y dechreuad yno, fel yn llawer man arall, yn fychan iawn, a'r offerynau yn wael, a'r gwrthwynebiadau yn fawrion; eto yr achos, er y pethau hyn oll, yn llwyddo.
SCRUTATOR (Mr. Charles): A fu llawer o wrthwynebiad i bregethu yr efengyl yn Abermaw?
SENEX (John Evans): Do; bu yno gryn wrthwynebiad, ond dim llawer o erlid. Cafodd un llefarwr ei rwystro i bregethu, yr wyf yn meddwl, trwy derfysg a chythrwfl.
SCRUTATOR (Mr. Charles): Pwy fu yno yn pregethu gyntaf, os gwyddoch?
SENEX (John Evans): Nid wyf yn cofio yn neillduol o fanwl am hyny. Byddai brodyr Mrs. Griffith, tri o offeiriaid duwiol, yn dyfod yno ar amserau; tra yr arosent, byddai gweddi deuluaidd yn cael ei chadw hwyr a boreu; a byddai amryw o'r cymydogion yn dyfod yno i wrando y gair yn cael ei ddarllen, a'i eglurhau, ac i ymuno mewn gweddi. Am eu bod yn wyr eglwysig, ac o ddygiad rheolaidd i fyny, hawsach fyddai gan bawb ddyfod i wrando arnynt hwy nag ar y gwŷr diurddau. Byddai Mr. Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yn dyfod i bregethu yn lled agos i'r dref yn aml yn y dyddiau hyny. Byddai brodyr crefyddol o Sir Gaernarfon, ar eu teithiau, yn l'etya yno weithiau, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai lle y byddent yn cysgu. Bu hyny yn foddion bendithiol, ac ydynt yn anogaethol i bawb ddilyn yr un esiampl lle bynag y byddont yn digwydd bod. William Evans, o'r Fedw Arian; Mr. John Harries, o'r Deheudir; John Pierce, a Robert Jones, o Roslan, y pryd hwnw oeddynt gyda y rhai cyntaf a fu ynpregethu yno. Hyd ag yr wyf yn cofio, bu William Evans a Robert Jones mor ffyddlawn a llafurus a neb yn eu hymdrechion i bregethu mewn lleoedd tywyll annuwiol ymhen uchaf y sir hon. Gwyr oeddynt wedi eu cynysgaeddu â doniau derbyniol gan y wlad i'w gwrando, a thra defnyddiol er lleshad i eneidiau dynion tywyll ac anystyriol. Fel hyn, o fesur ychydig ac ychydig, yr aeth y gwaith rhagddo yn raddol, heb ddim tywalltiadau neillduol-fel gwynt nerthol yn rhuthro-nac yn Nolgellau na'r Abermaw."
Cafwyd yr hanes uchod o'r ffynhonell oreu, oddiwrth y ddau ŵr mwyaf hyddysg yn hanes crefydd Sir Feirionydd hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, a'r dong mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol. Ac mae pobpeth a ddiferodd dros wefusau Mr. Charles, a John Evans, o': Bala, mewn ystyr hanesyddol, yn werth ei groniclo. Mor fychan oedd y dechreuad yn Abermaw! Ac eto perthynai yr un a fu yn foddion yn llaw rhagluniaeth i ddechreu yr achos Methodistaidd yma i gysylltiadau enwog. Tad oedd yr Henry Richard a fu, dros dymor byr, yn cadw ysgol rad Mrs. Bevan, i'r Parchn. Ebenezer a Thomas Richards, a thaid i'r apostol heddwch, y diweddar Henry Richard, A.S. Ysgolfeistr gwir grefyddol oedd hwn, fel llawer un arall yn yr oes hono. Dywedir y byddai y fath dywalltiadau weithiau gyda'i weddiau yn yr ysgol dros y plant, "nes y byddai pob un o honynt yn gwaeddi, ac yn wylo fel cawodydd o wlaw." Amlwg ydyw i ddyfodiad y gŵr hwn i blwyf Llanaber ateb diben rhagorol, gan i'r had a syrthiodd i'r ddaear mewn canlyniad i'w lafur ddwyn ffrwyth toreithiog. Y teulu y dywedir i grefydd gyffwrdd â'u meddwl gyntaf ydoedd teulu un Robert Griffith: ei wraig a enillwyd gyntaf, wedi hyny eu mab Hugh Griffith, a thrachefn Robert Griffith ei hun. Glynodd y cynghorion a gafodd y mab, tra yn yr ysgol gyda Henry Richard, gymaint yn ei feddwl nes bod yn foddion i ddwyn pethau rhyfedd oddiamgylch. Nid oedd ond bachgen bychan chwech oed ar y pryd, ac ni fu byw ond naw mlynedd ar ol hyn; ond yn yr ysbaid hwn o amser ymddangosodd arwyddion amlwg o dduwioldeb ynddo. Gwisgodd ei dduwioldeb ffurf o weithgarwch anghyffredin ; elai cyn belled a Llangeitho i chwilio am bregethwr i ddyfod i Abermaw; cynlluniai gyda'i fam i ddwyn yr achos ymlaen; gadawodd arian yn ei ewyllys i adeiladu capel. Ac eto yr oedd yn marw yn bymtheg oed! Buasai yr hanes yn anghredadwy onibai mai John Evans, o'r Bala, a'i hadroddodd, yr hwn yn ddiameu oedd yn ei adnabod yn bersonol yn dda, ac yn gwybod yr holl hanes cysylltiedig âg ef.
Crybwyllir yn yr hanes hwn a ddyry John Evans, o'r Bala, i Mr. Charles, y byddai y Parch. Benjamin Evans, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanuwchllyn, yn dyfod yn aml i bregethu yn agos i'r Abermaw y dyddiau hyny. Yn ol pob hanes a geir, y gŵr hwn oedd yr Ymneillduwr cyntaf a bregethodd, o leiaf gyda dim cysondeb, yn mhlwyf Llanaber. Fe gofia y rhai a ddarllenodd y gyfrol gyntaf o'r hanes hwn, ddarfod iddo ef drwyddedu Cegin Maesafallen i bregethu yr efengyl ynddi. Mae yr amser y bu ef yn dal y drwydded hon yn ateb yn hollol i'r adeg y bu Henry Richard yn cadw ysgol yn y rhan arall o'r plwyf, sef rhwng 1770 a 1777: Gŵr o Sir Benfro hefyd oedd Cadben Dedwydd, preswylydd a pherchenog Maesafallen, yntau yn Ymneillduwr, ac o dueddiad crefyddol. Diau i ddyfodiad yr efengyl i'r ffermdy neillduedig hwn fod yn foddion i enyn rhyw gymaint ar y tân yn Abermaw. Cadarnheir hefyd, trwy grybwylliad byr, yn yr hanes a ddyfynwyd, un ffaith hanesyddol arall, sef y byddai brodyr crefyddol o Sir Gaernarfon ar eu teithiau yn lletya yn y dref weithiau, ac yn arfer darllen a gweddio yn y tai lle y byddent yn cysgu. Brodyr crefyddol ar eu teithiau yn ol a blaen i Langeitho oedd y. rhai y cyfeirir atynt. Ychydig sydd o hanes y cyfryw finteioedd yn tramwy trwy y parthau hyn heblaw y crybwylliad uchod, ynghyd a'r hanes dyddorol a ddyry Robert Jones, Rhoslan, am y fintai o 45 yn myned trwodd yn y flwyddyn 1774, pryd yr aeth y tŷ y rhwystrwyd iddynt gael llety ynddo ar dân [Cyf. I., tudal. 39]. Trwy ysgolfeistr ac un o'i ysgolheigion, fel y gwelir, y dechreuodd crefydd gyda'r Methodistiaid yn Abermaw, ac yn raddol, trwy gasglu marworyn at farworyn, aeth yr achos yn ei flaen. Cafodd y crefyddwyr cyntaf lawer o rwystrau; ond ni bu yma erlid mor ffyrnig ag a fu yn Nolgellau, na thywalltiadau grymus nerthol megis ag yn y Bala, a manau eraill.
Un hanesyn yn unig o natur gyffrous am erledigaeth, a gymerodd le yn y dref hon, sydd wedi cyraedd i lawr i'n hamser ni. Trwy gyfrwysdra a doethineb, modd bynag, aeth yr erlid heibio heb wneuthur nemawr niwed y tro hwnw. Yr oedd pregethwr, a thybir mai Mr. Benjamin Evans ydoedd, wedi addaw pregethu wrth oleuni dydd, ar y gareg-farch (horse-block), yn ymyl drws y Shopfawr, ac yr oedd son am y bregeth wedi ymdaenu ar led, a'r teulu erledigaethus wedi parotoi i wneuthur ymosodiad penderfynol ar y pregethwr. Ofnid gan y crefyddwyr y byddai i'r moddion gael eu dyrysu, ac y cai y pregethwr ei niweidio. Ond cyn i amser yr odfa ddyfod, galwodd Mrs. Griffiths, gwraig y Siop, ar un o'r meddwon a'r ymladdwyr penaf yn y dref, a gwnaeth gytundeb âg ef i gadw chwareu teg i'r pregethwr. Addawodd ddiod iddo cyn dechreu ac ar ol y cyfarfod os gwnai hyn, ac i eraill hefyd o gyffelyb nerth corfforol. Derbyniwyd y telerau yn union gan yr ymladdwyr cryfion. Diwrnod yr odfa a ddaeth, ond erbyn i'r pregethwr ddyfod allan o'r tŷ, daeth Cadben Dedwydd, preswylydd a pherchenog Maesafallen allan, ac â llais clir, nerthol, gwaeddodd, "Gosteg, fy anwyl gymydogion, diwrnod pwysig iawn yw hwn yn y Bermo, fe fydd trin a chyfrif am bobpeth yma heddyw yn y farn fawr, pan fyddo'r meirw yn dyfod allan yn fyw o'u beddau, a'r ddaear yn wenfflam bob modfedd o honi, ac yn awr y mae gwas yr Arglwydd yn myned i ddweyd wrthym ni pa fodd i fod yn ddiogel yn y diwrnod ofnadwy hwnw.[1] Trwy y moddion hyn o eiddo Mrs. Griffith a'r Cadben Dedwydd, cafodd y pregethwr lonydd i fyned yn ei flaen.
Mae y darllenydd wedi sylwi mai blaenffrwyth yr eglwys hon oedd teulu y Siop fawr-Robert Griffith, ei wraig, a'u mab. Bu y tad farw yn y flwyddyn 1775, a'r mab y flwyddyn ganlynol, a chan y dywedir fod y mab "yn ei ddyddiau diweddaf yn trefnu gyda'i fam pa fodd oedd oreu i ddwyn yr achos ymlaen," gallwn gasglu fod yr achos mewn rhyw ffurf wedi dechreu y flwyddyn uchod. Disgynodd y baich o ddwyn yr achos ymlaen bellach ar ysgwyddau Mrs. Griffith, yr hon oedd yn weddw, a mawr y nodded a fu hi i achos y Cyfryngwr yn y dref. Yr oedd hi yn meddu crefydd o radd uchel, ac yr oedd yn wraig ddoeth a haelionus. Yr oedd hefyd wedi troi mewn awyrgylch grefyddol-ei gŵr, a'i mab, a'i merch, yn grefyddol y pryd hwn, ac yr oedd iddi dri o frodyr duwiol yn weinidogion yn yr Eglwys Sefydledig, y rhai a arferent pan yn ymweled â hi gadw y weddi deuluaidd hwyr a boreu. Ymunai y cymydogion hefyd yn y ddyledswydd deuluaidd. Y symudiad nesaf a gawn yn yr hanes ydyw adeiladu capel. Pa bryd y gwnaed hyn? Effeithiodd cynlluniau rhyfedd y bachgen ieuanc yn ddwys ar feddwl ei fam, a phenderfynodd hi roddi ei ddymuniad mewn gweithrediad. Bu ef farw 1776, a dywedir i'r capel gael ei adeiladu ymhen ychydig flynyddoedd wedi hyny. Adeiladwyd capel Abermaw felly o gylch 1780, ac efe oedd yr ail gapel yn Ngorllewin Meirionydd. Adeiladwyd ef ar dir oedd yn eiddo i Mrs. Griffith, Siop fawr, a'i wyneb tua'r môr, ar fin y lle y mae y rheilffordd yn awr yn myned trwyddo. Mr. Robert Evans, o Drefriw, yr hwn oedd yn byw ar y pryd heb fod nepell o'r Abermaw, mewn nodiadau a ysgrifenwyd ganddo, ac a anfonwyd i'w cyhoeddi yn Methodistiaeth Cymru, a ddywed fel y canlyn am yr amgylchiad, "Pan ddaeth yr amser i adeiladu y capel, daeth y bwriad i glustiau Mr. Wynne, Maesneuadd (gŵr bonheddig yn byw yn y gymydogaeth), a theimlodd yn dramgwyddedig iawn; dywedai wrth Mrs. Griffith os elid ymlaen a'r capel, y collai hi holl gwsmeriaeth Maesneuadd. Yr oedd hyn yn brofedigaeth chwerw i'r wraig weddw, am fod yr hyn oll â äi at wasanaeth y tŷ yn cael ei brynu yn ei siop hi. Ond yr oedd wedi eistedd i lawr a bwrw y draul, a hi a'i hatebodd yn bwyllog ac arafaidd, trwy ddiolch iddo yn fawr am yr holl sirioldeb a gawsai oddiar law y teulu, a dweyd mor ddrwg oedd ganddi golli ei gwsmeriaeth; eto fod yn well ganddi golli hyd yn nod hyny, na cholli ei henaid; ac mai myned ymlaen fyddai raid i'r capel. Ond gofalodd rhagluniaeth am y wraig gydwybodol hon, fel na chollodd hi ddim trwy y tro. Parhaodd y teulu i ddelio â hi yr un fath wedi adeiladu y capel ag o'r blaen. Byddai rhai o'r boneddigesau yno yn dra mynych, ac os digwyddai iddynt ddyfod oddeutu amser y weddi deuluaidd, ni wnai Mrs. Griffith ddim gwahaniaeth, ond elai ymlaen fel arferol. Yr oedd yn olwg tra nodedig gweled y boneddigesau yn foesgar benlinio gyda'r teulu, i wrando ar y wraig dduwiol yn gweddio." Gwraig rinweddol y Siop fawr fu a'r llaw benaf mewn adeiladu capel cyntaf Abermaw. Ar ei thir hi y cyfodwyd ef; ei harian hi, ynghyd ag arian a adawyd trwy ewyllys ei mab ieuanc oedd y rhai cyntaf a fwriwyd i'r Drysorfa tuag at ddwyn y draul. O ba le y caed y gweddill nid yw hysbys. Cyfranwyd y symiau canlynol gan y Gymdeithasfa,—"Cymdeithasfa y Bala, Mehefin, 1785, talwyd i Abermaw 10p." "Cymdeithasfa Llanrwst, Ebrill 1786, talwyd i Abermaw 10p." "Cymdeithasfa y Bala, Mehefin 17, 1789, talwyd i glirio capel yr Abermaw 13p. 13s." Dichon i ychwaneg o symiau gael eu cyfranu o ryw ffynhonellau eraill, y tuallan i'r dref; modd bynag, cliriwyd y capel y flwyddyn grybwyll edig, ac hyd yma y cyrhaedda ei hanes.
PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.
Yr oedd ef yn oesi yn agos i ddechreuad yr achos yn y dref, gan hyny daw crybwyllion am dano yn fwy rheolaidd yn awr. Ganwyd ef yn mhlwyf Ysbytty, a chafodd ei ddwyn i fyny yn mhentref Capel Garmon, mewn tlodi, oferedd a llygredigaeth, heb neb yn gofalu am dano o ran mater ei enaid, mwy na phe buasai heb un enaid. Pan o gylch deuddeg oed cafodd ychydig ysgol. Wedi hyny dechreuodd ddysgu erefft cylchwr (cooper), a gorphenodd ei dysgu yn Llanrwst. Trwy wrando yno ar un Robert Evans yn pregethu, effeithiodd y bregeth arno nes ei dueddu i fyned i wrando yr efengyl drachefn. Symudodd oddiyno i Ffestiniog i weithio, a bu yn y lle hwn yn dilyn pob oferedd, gan roddi rhaff i'w nwydau pechadurus. Aeth i wrando yr efengyl gydag un o'i gydweithwyr, ac ymwelodd yr Arglwydd âg ef drachefn mewn modd neillduol, trwy ei sobri a'i ddifrifoli yn fawr. Mewn canlyniad i hyn ymddygodd ei dad yn ddigllawn tuag ato. Oherwydd creulondeb ac ymddygiad chwerw ei dad, gadawodd Ffestiniog heb wybod i ba le yr elai. Arweiniwyd ef gan ragluniaeth i Lanbrynmair, lle yr arhosodd dros saith mlynedd yn gweithio ei grefft fel cylchwr. Ymhen y mis wedi cyraedd yno ymunodd â chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd yr amser hwn mewn trallod mawr ynghylch mater ei enaid, ac wrth wrando ar Mr. Richard Tibbot y llewyrchodd goleuni dwyfol ar ei feddwl, ac y cafodd dawelwch i'w gydwybod. Bu ei arosiad yn Llanbrynmair, mewn ystyr grefyddol, yn fendithiol iawn iddo. Yr oedd crefydd wedi hen wreiddio yn yr ardal hon, a chafodd yntau, am yr ysbaid o saith mlynedd yn nechreu ei oes, y fraint anrhaethol fawr o droi mewn awyrgylch grefyddol. Tra yn aros yma, priododd ferch ieuanc grefyddol oedd yn aelod o'r un eglwys âg ef. Symudodd o Lanbrynmair i Lanrwst drachefn, ac oddiyno yn ol i Ffestiniog. Ac wedi cyfarfod, medd yr hanes, â rhagluniaethau cyfyng, anogwyd ef i fyned i gadw yr ysgol rad deithiol o dan arolygiaeth Mr. Charles, o'r Bala. "Bu peth petrusder ynghylch ei gyflogi i hyny, oherwydd ei ddieithrwch i'r gwaith, a'i anfedrusrwydd oherwydd hyny i'r fath orchwyl. Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi, gan obeithio y cai gymorth yn y gwaith, a'i addysgu ei hun tra y byddai yn llafurio i addysgu eraill. Felly y bu. Yr oedd yn ŵr o dymer dirion, serchiog, ac enillgar; yn trin y plant yn dirion, ac yn eu henill trwy gariad." Troes John Ellis allan yn un o ysgolfeistriaid mwyaf llwyddianus Mr. Charles. Yr oedd yn meddu ar y tri pheth hanfodol yr amcenid eu cael yn yr ysgolfeistriaid a gyflogid at y cyfryw orchwyl-duwioldeb, gallu i ddysgu, a chymeriad disglaer i adael argraff dda ar yr ardaloedd lle cynhelid yr ysgol. Y mae lle i feddwl iddo ef fod o fendith fawr yn y gorchwyl hwn, trwy enill ieuenctyd a llawer eraill at grefydd, a chafwyd y bu ei goffadwriaeth yn anwyl dros hir amser mewn llawer ardal y yn aros ynddi. "Nid hir y bu, wedi dechreu cadw yr ysgol, heb gael ei gymell gan y brodyr crefyddol i arfer ei ddawn i gynghori ychydig yn gyhoeddus; ac fel yr oedd ei ddawn yn cynyddu, a'r Arglwydd yn gwneyd arddeliad o hono, rhoddwyd galwad mwy iddo, nes gwedi bod wrth yr ysgol, a symud o le i le yn mharthau uchaf Swydd Meirion dros ddeng mlynedd, ac ar yr un pryd yn pregethu yn aml, rhoddodd heibio yr ysgol yn llwyr, ac ymroddodd i lafurio yn y gair, gan bregethu yn ddyfal trwy holl barthau Deheudir a Gwynedd, hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn ŵr goleu yn yr Ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras yn ei hamrywiol ganghenau; yn ŵr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad."
Pa beth a'i harweiniodd i wneyd ei gartref yn Abermaw, nis gwyddom. Ond daeth yno rywbryd rhwng 1785 a 1787, a dechreuodd bregethu oddeutu yr un adeg. Oddeutu pum mlynedd ar hugain y parhaodd ei oes fel pregethwr; gwnaeth argraff dda ar y wlad yn yr amser hwnw, ac y mae coffa da am dano yn Sir Feirionydd yn awr, ymhen can' mlynedd ar ol ei farw. Dywediad Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, am dano ydoedd, "Yr oedd John Ellis, y Bermo, yn HYPER-Calvin mewn athrawiaeth, ac yn moral agent yn ei fuchedd a'i rodiad yn y byd." Oddiwrth amryw o'i lythyrau a'i gynghorion i'w deulu ac i'r eglwys yn ei ddyddiau diweddaf, gwelir yn amlwg ei fod yn meddu crefydd uwch na'r cyffredin o ddynion. Dygodd ei deulu i fyny yn grefyddol; y mae wyr iddo yn flaenor ffyddlawn gyda'r Methodistiaid hyd heddyw, sef Mr. John Timothy, Einion House, Vriog. Bu farw yn Awst, 1810, yn 52 mlwydd oed. Ymddangosodd byr gofiant iddo yn y Drysorfa Ysbrydol, ddwy flynedd cyn marw Mr. Charles. Cafodd John Ellis ei ran o erledigaeth yr oes yr oedd yn byw ynddi, a gorfu iddo gael amddiffyn y gyfraith i'w gadw rhag yr erlidwyr. Mae y drwydded wreiddiol a gafodd, ar gael gan ei deulu yn awr, wedi ei hysgrifenu ar groen, ac wedi ei harwyddo gan y swyddog gwladol yn Llys Sirol y Bala, yn mis Gorphenaf, 1795, blwyddyn fythgofiadwy yr erledigaeth fawr yn Sir Feirionydd. Wele gopi o honi,—
"Thomas A Beckett Sessions.
Merioneth
To wit.:
This is to certify that John Ellis of Barmouth, in the County of Merioneth, hath this seventeenth day of July, One thousand seven hundred and ninty five, in open Court at the General Quarter Sessions of the Peace held at Bala in and for the said County, before Rice Anwyl and Thomas Davies Clerks, being Justices assigned to keep the peace in and for the said County, taken the usual oath and subscribed the Declaration to qualify himself as a Protestant Dissenting Preacher and Teacher according to the Act of Parliament in that case made and provided———
EDWARD ANWYL
Dpt. Clk. of the Peace."
Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol y flwyddyn uchod, bu y drwydded hon o wasanaeth mawr i John Ellis, pan y dygwyd ef gan y swyddogion gwladol o flaen maer Croesoswallt. Yr oedd hen chwaer grefyddol a hynod o'r enw Susan yn byw yn Nghroesoswallt. Gwahoddodd hon John Ellis i ddyfod yno i bregethu. Yntau a ufuddhaodd; a phan ddaeth y diwrnod yr oedd canoedd o ddynion, y rhai oeddynt ddyhirwyr cyhoeddus y dref, wedi ymgasglu i wneyd ymosodiad ar y pregethwr. Yn fuan, pa fodd bynag, wedi i'r moddion ddechreu, dyma ddyn yn dyfod i mewn, ac yn myned yn syth at y pregethwr, gan crchymyn iddo yn awdurdodol i ddyfod i lawr, a dyfod gydag ef o flaen maer y dref. Dangosai y pregethwr ar y cyntaf radd o anfoddlonrwydd i ufuddhau i'r cais; ond ar waith y swyddog yn bygwth 'tori ei ben' â'i ffon, oni ddeuai yn y fan, efe a aeth. Ar ei ymddangosiad yn yr heol dan ddwylaw yr heddgeidwad, fel pe buasai leidr neu lofrudd wedi ei ddal, dyma'r floedd fawr o fuddugoliaeth oddiwrth yr haid gynhyrfus ag oeddynt yn disgwyl am dano, a churo padelli ffrio, a phob offer trystfawr o'r fath, i'r diben o roddi hyny o flinder a sarhad ag a allent ar y crefyddwyr.
O flaen y maer yr aed, ac yno y bu yr arholiad a ganlyn:—
'Paham y dygasoch y gŵr yma ataf fi?' gofynai y maer.
'Ni a'i cawsom ef yn pregethu mewn tŷ anedd yn y dref," ebe'r swyddog.
Ar hyn galwyd Susan ymlaen, gan mai yn ei thŷ hi y bu y peth anferth hwn, a gofynwyd iddi,-
Ai yn eich tŷ chwi yr oedd y gŵr hwn yn pregethu?'
'Ie, Syr,' ebe Susan.
A ydyw eich tŷ chwi wedi ei gofrestru i hyny yn ol y gyfraith?'
'Ydyw, Syr.'
A oes gan y pregethwr drwydded i bregethu?'
'Oes, Syr.'
Ar hyn dangoswyd y drwydded i'r maer, a chafwyd boddlonrwydd fod pobpeth wedi ei wneyd yn ol y gyfraith. Yna, gyda gradd o awdurdod a llymder, gorchymynodd i'r swyddog arwain y pregethwr i'r tŷ yn ei ol, a gofalu am ei roddi yn y man y cawsai ef."[2] Y drwydded uchod, fel y gwelir hi heddyw wedi ei hysgrifenu ar groen, a estynwyd o law y pregethwr i law maer y draf, yn ei lys cyfreithiol, yn agos i gan' mlynedd yn ol. Ychwanegir yn yr hanes hefyd, mai hon oedd yr odfa gyntaf erioed gan y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn nhref Croesoswallt."
BLAENORIAID YR EGLWYS Y CYFNOD CYNTAF.
JOHN GRIFFITH, SIOP FAWR.
Dygwyd ef i fyny mewn teulu crefyddol, yr hwn hefyd, fel y gwelwyd, oedd y prif deulu i gychwyn yr achos yn Abermaw. Yr oedd yn gadwen rhwng y crefyddwyr cyntaf a'r cyfnod llwyddianus a ddilynodd hanes yr eglwys. Fel masnachwr llwyddianus, safai yn y lle parchusaf yn y dref; gadawodd gyfoeth lawer i'w blant, y rhai a fu am flynyddoedd ar ei ol yn haelionus at wahanol achosion. Neillduwyd ef yn flaenor yr eglwys pan yn lled ieuanc, ac efe, yn ol pob tebyg, oedd ei blaenor cyntaf. Bu y Siop fawr yn enwog yn y cyfnod cyntaf fel llety i bregethwyr De a Gogledd Cymru. Yno, fel yr hysbysir, y byddai Mr. Charles yn lletya bob amser ar ei ymweliadau â'r Abermaw. Yr oedd efe fel Cornelius yn gymeradwy iawn gan holl Fethodistiaid y dref a'r wlad, ac yn fawr ei barch ymysg ei gyd-drefwyr oll. Bu farw Hydref 22, 1833.
WILLIAM ROBERTS.
Crydd wrth ei alwedigaeth. Dygwyd ef at grefydd yn mlodeu ei ddyddiau. Cafodd ei argyhoeddi trwy weinidogaeth y Parch. John Ellis. Bu taranau Sinai yn ei frawychu ar y cyntaf, ond cafodd olwg ar ddigon yn Aberth Calfaria. Ceir ei enw yntau yn agos i flaen rhestr aelodau yr eglwys, a neill-duwyd ef yn flaenor yn ŵr canol oed. Dyn dirodres a di-dderbynwyneb ydoedd; dywedai am y bygythion sydd yn aros uwchben yr anedifeiriol, serch iddo fod yn yr eglwys, os heb gredu yn Nghrist. Cyfrifwyd ef ymysg gweithwyr cyntaf yr eglwys. Yr oedd yn dad i'r Parch. Evan Roberts, y pregethwr. Yn ol llyfr yr eglwys, bu farw Mai 1829.
JOHN ELLIS.
Gŵr a berchid yn fawr fel swyddog eglwysig, yn arbenig ar gyfrif ei dduwioldeb amlwg. Yr oedd wedi cyraedd mesur helaethach na'r cyffredin o'i sefyllfa mewn gwybodaeth; ond mewn duwioldeb dwfn a dwys, gwnaeth argraff annileadwy ar Ar gyfrif ei dduwiolfrydedd, rhoddai anrhydedd ar y fan y byddai ynddo yn ngolwg byd ac eglwys. Byddai yn ei oes. cael ymweliadau grymus iawn ar amserau trwy air o'r Beibl. Yr oedd wedi cychwyn unwaith am dro yn hwyr y dydd, a daeth y gair hwnw i'w feddwl, "Os gwasanaetha neb fi, y Tad a'i hanrhydedda ef," ac efe a aeth am filldiroedd o ffordd, gan fyfyrio ar yr adnod, heb ystyried i ba le yr oedd wedi myned. Ni chawsom wybod byd yr amser y bu yn gwasanaethu swydd blaenor, na pha bryd y bu farw.
CADBEN WILLIAM GRIFFITH, Y CEI.
Yr oedd Rhagluniaeth wedi ei godi ef yn uchel o ran cyfoeth a da y byd hwn. Gadawodd y môr tua chanol oed, a bu o wasanaeth mawr i grefydd, nid yn Abermaw yn unig, ond trwy yr oll o gylch Cyfarfod Misol Sir Feirionydd. Bu gofal casgliadau a phethau eraill o bwys mewn cysylltiad â chapeli y sir arno ef am dymor hir. Yr oedd ei gysylltiadau yn fwy adnabyddus na llawer, gan mai merch iddo ef oedd priod gyntaf y Parch. Richard Humphreys, o'r Dyffryn. Yr oedd ynddo gymhwysderau arbenig i'r swydd o flaenor; meddai raddau helaeth o synwyr naturiol fel dyn, ac yr oedd yn un mawr mewn gras a duwioldeb. Byddai yn llawn llygad gyda holl waith yr eglwys; yn gofalu am arian yr eglwys a'r gynulleidfa; yn cadw agoriad y capel, ac yn ofalus am amser dechreu a diweddu; yn cynllunio i roddi pobl ieuainc newydd gael eu derbyn mewn gwaith. Oherwydd ei bwyll a'i ddoethineb, a'i weithgarwch gyda'r holl waith, meddai ddylanwad anghyffredin. Nid oedd ganddo ddawn mawr, ond beth bynag a ddywedai a fyddai yn sicr o fod i'r pwrpas. Ar ddiwedd seiat unwaith gofynai i un Dafydd Evan ddiweddu trwy fyned i weddi. 66 Dydi o ddim wedi ei dderbyn," ebe blaenor arall o natur dipyn yn ddreng. "Fedrwch chwi weddio Dafydd Evan?" ebe Cadben Griffith. "Medraf," ebe Dafydd Evan. "Wel, gweddiwch chwithau yrwan." Mewn ffordd ddigwmpas fel yna gwnelai ei waith yn ddidrwst ac yn ddilol. Yr oedd y Cei yn un o dri neu bedwar o dai a fu yn enwog yn Abermaw fel llety fforddolion. Ychydig dros ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yno y cyfarfyddai gweinidogion y gair â'r cartref mwyaf cysurus. Bu Mrs. Griffith yn cadw y tŷ yn agored ar ol dydd ei phriod hyd ddiwedd ei hoes hithau. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol Hydref, 1847, ceir y sylw canlynol:—"Crybwyllwyd am farwolaeth Cadben William Griffith, yr hwn oedd yn flaenor parchus yn Abermaw, a dywedwyd mai mab tangnefedd' ydoedd."
EDWARD EDWARDS.
Genedigol oedd ef o Lanegryn, ond symudodd i fyw i'r Abermaw. Ei hynodrwydd oedd ei ofal a'i ffyddlondeb gyda chrefydd yn ei holl ranau. Cafodd ei ddal gan gystudd am hir amser, a bu farw yn orfoleddus, yn llawn o ddiddanwch yr iachawdwriaeth.
MOSES ELLIS.
Mab ydoedd ef i John Ellis, y pregethwr. Cydgyfarfyddai llawer o'r rhinweddau sydd yn angenrheidiol i lenwi swydd blaenor ynddo. Yr oedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. Bu yn Deptford, yn Nockyard y Llywodraeth, pan yn ddyn ieuanc, tra yr oedd y Parch. James Hughes yno, a bu cymdeithas y gweinidog parchedig yn fantais fawr iddo. Daeth adref i'r Abermaw, a chyn hir dewiswyd ef yn flaenor, yr hon swydd a lanwodd gydag anrhydedd. Manteisiodd yr eglwys yn fawr trwy gael dyn o'i fath ef i'w blaenori: yr oedd yn ymresymwr cryf, yn ŵr llariaidd, yn un y gellid ymddiried iddo gyfrinach, a mawr ei hunan-ymwadiad. Byddai ôl bod gyda Duw arno yn y cyfarfod eglwysig, a'r moddion cyhoeddus. Cafodd ei daflu i bair cystudd, ac fel ei dad duwiol, bu yntau farw yn orfoleddus, Mai 4, 1810. Gorphenwyd talu am y capel cyntaf, fel y gwelwyd, yn 1789. Adeiladwyd yr ail gapel heb fod yn neppell oddiwrth y cyntaf, ond yn nes i'r afon, ac fe gofia y rhai a arferai addoli yn hwnw y byddent yn gorfod myned iddo yn aml trwy domenydd o dywod fel trwy luwchfeydd o eira. Dyddiad y weithred am y capel hwn ydyw Tachwedd 1af, 1824. Dywed rhai er hyny ei fod wedi ei adeiladu gryn lawer yn gynt na hyn. Eisteddai ynddo 300, ac yr oedd arian yr eisteddleoedd yn y flwyddyn 1850 yn 17p. 4s. 8c. Nid oes hanes am ei ddyled yn cael ei chasglu na'i thalu. Yn 1845 yr oedd yn gwbl ddiddyled, a'r flwyddyn hono fe ddarfu y brodyr yn y Cyfarfod Misol osod 100p. ar gapel Abermaw, er mwyn cael arian i glirio rhyw gymaint o'r ddyled drom oedd ar gapeli Dosbarth Ffestiniog. Ymhen deng mlynedd wedi hyn, sef yn 1855, prynwyd tir yn Llanaber i adeiladu capel y Parcel arno, am yr hwn y talwyd 10p. Yr oll o'r draul i'w adeiladu oedd oddeutu 100p., ac yn ol cyfrifon yr eglwys talwyd y rhai hyn y flwyddyn ddyfodol. Pregethwyd y bregeth gyntaf ynddo am ddau o'r gloch Sabbath, Mehefin 1af, 1856, gan y Parch. Francis Jones, yn awr o Abergele. Yr oedd moddion yn cael eu cynal yma, sef Ysgol Sul, a chyfarfod gweddi, ac ambell odfa, er's llawer o flynyddoedd cyn adeiladu y capel, yn hen lofft Hendrecoed, a manau eraill. Cangen ydyw y capel hwn, lle cynhelir ysgol boreu Sabbath, pregeth am ddau, a chyfarfod gweddi yn achlysurol ganol yr wythnos. Y trydydd capel, sef yr un presenol, a adeiladwyd yn 1866, ac yr oedd Cyfarfod Misol Mawrth y flwyddyn hono yn gyfarfod ei agoriad. Gall eistedd ynddo 600. Talwyd am y tir i adeiladu 380p. Yr oll o draul yr adeiladaeth oddeutu 2,300p. Trwy offerynoliaeth Mr. Williams, Ivy House, Dolgellau, talodd y Cambrian Railway Company 850p. am yr hen gapel—cytundeb a ddygwyd i derfyniad yn Chwefror, 1870.
Y mae eglwys Abermaw yn un o'r rhai hynaf sydd yn perthyn i gylch y Cyfarfod Misol. Ystyrid hi hefyd yn yr amser gynt yn eglwys barchus, bur, a dylanwadol. Yr oedd yn barchus am y perthynai iddi amryw bobl uwch eu sefyllfa na'r cyffredin; yr oedd yn bur, am y cadwai ddisgyblaeth i fyny, ac "nis gallai oddef y rhai drwg;" yr oedd yn ddylanwadol, am fod ei harswyd hi yn fawr ar y byd annuwiol. Tystiolaethir gan bobl hynaf y wlad fod yno grefyddwyr da, yn wyr ac yn wragedd, yn nechreu y ganrif hon. Er ei bod hi wedi ei ffurfio yn fuan wedi bod Henry Richard, yr ysgolfeistr o Sir Benfro, yn cadw ysgol yn Llanaber, yr amser y ceir rhestr o'r aelodau gyntaf ydyw yn nechreu y flwyddyn 1810. Nifer yr aelodau eglwysig y flwyddyn hono oedd, Meibion, 22, Merched, 50; cyfan, 72. Mae y rhif yn 1820 yn 95; ac yn 1840 yn 116. Araf oedd y cynydd yma fel ymhob man arall y blynyddoedd hyny. Yn y flwyddyn a nodwyd gyntaf, dechreuwyd cadw cof-restr o'r aelodau mewn llyfr pwrpasol, yr hwn a gedwir o hyny hyd yn awr. Yn y llyfr hwn am y blynyddoedd cyntaf, ceir rhai pethau o natur ddigrifol, megis, "I Lewis Morris tuag at bedoli ceffyl 2s. 6c." "William Roberts for mending boots, 5s. 6c." Pan y byddai aelod ieuanc wedi newid ei sefyllfa, ysgrifenid ar gyfer ei enw yn llyfr yr eglwys,-"priodi yn anrhydeddus." Byddai casgliad, yr hwn a elwid yn gasgliad bach, yn cael ei wneuthur ymysg y merched i gynorthwyo pregethwyr a ddelai heibio a fyddent mewn angen. Gwnelid hwn o law i law ymysg gwragedd parchusaf y dref, a llawer dilledyn a roddwyd ar ei bwys i'r llefarwyr y gwelid fod eu gwisg yn llwydach na'r cyffredin. I Moses Ellis y rhoddid y fraint i fyned o gwmpas i hel y casgliad hwn. Ar ol iddo ddychwelyd o'i daith gasglyddol un tro, cymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddo â Mr. Griffith, Siop fawr:—
"Sut lwyddiant a gawsoch chwi?" ebe Mr. Griffith.
"Llwyddiant da, ond ambell i eithriad," oedd yr ateb.
"Fuoch chwi gyda Mrs. Meredith?"
"Do." "Fuoch chwi gyda hon a hon?"
"Do."
Ac yr oedd yr hen flaenor wedi llwyddo gyda phob un o'r gwragedd a enwyd. Eto yr oedd un eithriad.
"Fuoch chwi gyda hon a hon (gwraig pur gyfoethog?" "Do."
"Be ddeudodd hi?"
"Dweyd nad allai hi roi dim."
"Dear me, ddeudodd hi felly?"
"Do."
"Sut y deudodd hi?" gofynai Mr. Griffith bedair gwaith.
"Dweyd nad allai hi roi dim."
"Dear me, mae y brenin cybydd-dod wedi myned yn bell iawn i'w chalon hi."
Yr oedd cymeriadau hynod yn perthyn i'r eglwys, a chymerodd digwyddiadau le yma, a ystyrid yn awr yn rhyfedd, mewn cysylltiad â dygiad ymlaen yr achos, yn enwedig mewn blynyddoedd pell yn ol. Un o'r chwiorydd a enillasid i garu Iesu Grist yn dra ieuanc wrth wrando ar Mr. Charles yn pregethu-yr hon oedd yn nodedig am ei duwioldeb-a adroddai ei phrofiad wrth un o'r blaenoriaid yn y cyfarfod eglwysig, ymhen amser maith wedi iddi ddyfod at grefydd. Yn yr heol lle y preswyliai, yr oedd gwragedd wedi bod yn cweryla yn arw; ond rhedodd y chwaer hon i'w thŷ, a chlodd y drws, ac felly aeth yr ystorom drosodd heb ddim niwed iddi hi. Y noson ganlynol, yn y seiat, gofynai y blaenor iddi am air o brofiad. Ebai hithau, "Yr adnod hono ddaeth i'm meddwl gyda chryn nerth heddyw, 'Er gorwedd o honoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomenod, wedi eu gwisgo âg arian, a'u hadenydd fel aur melyn.'" "Beth oeddych yn gael yn yr adnod?" ebe y blaenor. "Gweled fod y crochanau hyn yn rhai noble iawn, rhagor y crochanau duon sydd o fy nghwmpas i acw." "Yr wyf yn deall hyny," ebai yntau, "ond a ddarfu i chwi allu cadw yn glir heb daro wrthynt, a phardduo eich gwisg?" "Do, cefais fy nghadw yn rhyfedd; aethum i'm tŷ, a rhoddais glo ar y drws, nes aeth yr ystorom heibio; wedi hyny aethum i edrych fy hun yn 'hen ddrych y cysegr,' yr hwn oedd ar y ford yn y tŷ, ac edrychais fy hun o'm coryn i'm sawdl, a round about, ac ni ellais weled yr un ysmotyn wedi ei splasio o'r helynt fu acw ddoe. Er fy mod, fel mae'r gwaethaf, wedi bod yn rhy agos i grochanau duon lawer gwaith yn fy ngyrfa grefyddol trwy'r byd, yr wyf yn disgwyl gweled boreu pryd na bydd arna i 'na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw.'" Ebai yr hen flaenor, "Ni feddaf ddim i ddweyd wrthych, ond gwyn eich byd."
John Griffith, y gof, a William Griffith, y gwŷdd, oeddynt ddau frawd yn byw yn ardal y Parcel. Ystyrid y ddau yn grefyddol, ac o'r iawn stamp. Ond gan fod y ffordd yn bell, a'r gwaith gôf yn gofyn cadw ato yn gyson, esgeulusai John Griffith y cyfarfod eglwysig ganol yr wythnos. Ac yn ei ddyddiau ef yr oedd yn rheol i ddisgyblu os byddai aelod wedi colli tri thro. Nos Sul yn unig y ceid gafael ynddo. Pan y caed cyfle felly unwaith, cyfodai un o'r hen flaenoriaid i fyny, a dywedai, "Mae John Griffith yma heno; oes genych chwi rywbeth i'w ddweyd, John Griffith, dros eich bod yn esgeuluso y seiat?" "Hawdd iawn i chwi siarad, y rhai sydd yn byw yn y fan yma yn ymyl y capel," ebai yntau. "Yr ydw i yn y fan acw gyda fy ngwaith, a'r bobol yn dyfod a'u ceffylau acw i'w pedoli," &c. Ar ol hyny cyfodai blaenor arall, ac ymosodai yn drwm arno oherwydd esgeuluso y moddion. Yntau a gymerai y drinfa mor dawel ag un o'r ceffylau a arferai bedoli. Yna ar y diwedd denai un o'r blaenoriaid ymlaen a dywedai, "John Griffith i ddibenu." Cyfododd yntau i fyny, a rhoddodd y penill canlynol-yr hwn y methasom a chael ei ddiwedd-allan,-
"Daw gwyr y mulod mân
A'r elor-feirch ymlaen
I Seion fryn," &c.,
ac aeth i weddi mewn llawn hwyl, nes toddi pawb yn y lle. Yr oedd yn y capel sêt bwrpasol i rai fyned iddi os byddent am ddweyd eu profiad, a gelwid hi sêt profiad. Ar ol marw Mr. Griffith, Shop fawr, John Ellis oedd y blaenor hynaf, ac efe wrth ei swydd a arferai ofyn y cwestiwn, "Oes yma neb a ddywed air o barodrwydd meddwl."
Rhoddid disgyblaeth mewn grym i'r graddau manylaf yn yr eglwys hon. Nid yw yn hawdd penderfynu, weithiau, pa un i ryfeddu ato fwyaf, llymder y blaenoriaid yn disgyblu, ynte dioddefgarwch yr aelodau yn cymeryd eu disgyblu mor ddidramgwydd. Nid oedd y radd leiaf o drugaredd i'w chael am ieuo yn anghydmarus. Torid allan ar unwaith os ceid fod aelod yn cyfeillachu gydag un o'r byd; ni roddid amser i weled pa un a fyddai i'r pleidiau droi yn ol cyn myned i'r stât briodasol ai peidio.
Cyn rhoddi rhestr o'r blaenoriaid a'r pregethwyr fuont feirw, y mae nifer o aelodau eraill yr eglwys yn deilwng o goffadwriaeth. Mrs. Meredith oedd wraig a berchid yn fawr yn y dref am flynyddoedd lawer. Yr oedd hi o sefyllfa dda yn y byd; ar gyfer ei henw yn llyfr yr eglwys yn 1810 ceir 28. 6c. yn y mis at y weinidogaeth, sef y swm uchaf ar y rhestr. Yr oedd ei thŷ hi yn un o'r ychydig oedd yma yn enwog am letya pregethwyr. Heblaw bod yn un o'r ffyddloniaid, yr oedd ynddi ysbryd gwrol, a chymerai ran gyhoeddus gyda dygiad ymlaen yr achos. Wele engraifft o hyny.-Yr oedd brawd ieuanc, o dueddiadau uchelfrydig, yn yr eglwys eisiau cael myned i bregethu. Dygwyd ei achos ymlaen yn y cyfarfod eglwysig. "Feallai y gwnewch chwi ddweyd," ebai y blaenor, "beth sydd wedi bod yn eich cymell i feddwl am bregethu." "Wel," ebai y gŵr ieuanc uchelgeisiol, "ofn oedd arnaf rhag cuddio fy nhalent yn y ddaear." Cyfodai Mrs. Meredith ar ei thraed, a dywedai, "Wil, rhaid i ti yn gyntaf ddangos dy fod yn meddu ar dalent." Bu Mrs. Meredith farw Mehefin 23, 1832. Gwen Jones, mam y Parch. Rees Jones, oedd wraig nodedig o grefyddol, a chyfodai ar ei thraed i siarad yn y seiat. Yr oedd y pregethwr unwaith yn pwyso yn lled drwm arni, yn drymach nag y dymunai rhai, am sicrwydd ei chrefydd. Wedi bod yn ddistaw am enyd dywedai, "Yr wyf wedi cael digon o sicrwydd ar y daith na ddemnir mohonof." Gadawodd ei dywediad argraff anarferol ar y seiat. Mary, Betty, Jane, Barbara, a Miriam Ellis, chwiorydd i Moses Ellis, a merched i John Ellis y pregethwr, oeddynt oll tuhwnt i'r cyffredin o grefyddol. Mrs. Griffith, y Cei, gweddw y Cadben Griffith, a fu yn nodedig o ffyddlon mewn lletya pregethwyr. Yr oedd wedi bod yn gwasanaethu pan yn ieuanc mewn lle y lletyai pregethwyr, ac fe'i gwnaeth yn fater gweddi i ofyn i'r Arglwydd am i'w choelbren ddisgyn lle byddent hwy yn aros, a chafodd ei dymuniad. Margaret Lloyd, y Mangle; Ellin Griffith, Margaret Edwards, Jane Morris, Gellfechan; a Mrs. Dedwydd, oeddynt wragedd crefyddol yr eglwys. Thomas Bywater fu yn ŵr defnyddiol i'r achos yma. Genedigol oedd ef o Gaersws, ac ysgolfeistr wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn y Dyffryn yn 1806. Symudodd i'r Abermaw, ac efe a barotodd lyfr Cofnodion cyntaf yr eglwys yn 1810. Dywedir mai efe a ddygodd achos crefydd i drefn gyntaf yn nosbarth y Dyffryn yn nechreu y ganrif. Ymadawodd oddiyma oddeutu 1827 i Ffestiniog neu Drawsfynydd. Sydney Davies oedd yn ddyn nefolaidd ei ysbryd. Cafodd dröedigaeth hynod rymus, yr hyn a'i gwnaeth yn grefyddwr gafaelgar. Cadben Lewis Dedwydd, yn gystal a'i briod, oedd ymysg ffyddloniaid yr eglwys. Thomas Martin, Harbour Master, a gyfrifid yn ŵr parchus yn y dref. Cafodd dröedigaeth amlwg yn niwedd ei ddyddiau, wrth wrando Cadwaladr Owen yn pregethu. Cyflwynodd ei hun i'r eglwys y noswaith yr argyhoeddwyd ef, a dywedai yn gyhoeddus, "Dyma fi yn rhoi fy hun fel yr wyf; mi glywais rywbeth yn dweyd wrthyf, Tyr'd, Thomas Martin, fel yr wyt ti.'" Dywedai cyn ymadael â'r byd, mai pedair oed ydoedd, am mai pedair blynedd a fu yn proffesu crefydd. Yn fwy diweddar, un a fu yn flaenllaw gyda'r achos am flynyddoedd lawer oedd Evan Richards. Mewn cadw cyfrifon, gofalu am yr achos yn allanol, a lletya pregethwyr, gwnaeth lawer o wasanaeth yn ei ddydd. Humphrey Jones, y crydd, er nad oedd yn flaenor, a fu yn flaenllaw gyda'r achos. Efe am flynyddoedd lawer fyddai yn cyhoeddi yn y moddion cyhoeddus. Bu farw Medi 26, 1868, yn 78 oed. John Richards, Hendre-mynach, a gafodd dröedigaeth hynod. Un rough yn ei ffordd ydoedd, ond nodedig o selog, a pharhaodd felly hyd y diwedd. Griffith Edwards, hefyd, oedd un a ddygai fawr sel gyda'r achos, ynghyd a llu mawr eraill o bererinion na chafwyd eu henwau.
Digwyddodd anghydwelediad rhwng y blaenoriaid yma ychydig cyn Diwygiad 1859-60, yr hyn am dymor a filwriodd yn erbyn llwyddiant crefydd yr eglwys. Anfonwyd cenhadon o'r Cyfarfod Misol amryw weithiau i geisio gwastadhau yr anghydfod. Wedi i chwech o frodyr fod yno dros y frawdoliaeth yn gwneuthur y cais olaf at ymheddychu, yn Nghyfarfod Misol Pennal, Chwefror 1858, rhoddodd y brodyr hyn adroddiad o'u hymweliad, yr hyn a gynhwysai eu bod yn cael allan fod pob gonestrwydd wedi ei arfer ymhob amgylchiad mewn dwyn yr achos yn ei flaen. Y penderfyniad y daethpwyd iddo, ac a gadarnhawyd yn y Cyfarfod Misol hwn, oedd, "Mai y prif achos o'r anghydfod presenol oedd pellder y swyddogion oddiwrth eu gilydd, a'r duedd oedd yn y naill i gario pethau ymlaen heb ymgynghori â'i frodyr, ac yr oedd hyn i'w ganfod nid mewn un o honynt, ond ynddynt oll. Yr oeddynt wedi cydfarnu [sef y pwyllgor] mai eu doethineb oedd cynghori y swyddogion i ystyried eu hunain, am dymor o'r hyn lleiaf, ond fel aelodau cyffredin yn unig; a ffurfiwyd pwyllgor gweinyddol, yn cynwys y blaenoriaid ac wyth o bersonau eraill, i arolygu yn y cyfamser holl amgylchiadau yr achos." Bu yr eglwys yn y stat yma, heb neb yn flaenoriaid ffurfiol arni, am dair blynedd.[3]
Y mae un yn awr yn fyw a fu yn blaenori, ac yn weithgar gyda'r achos yma dros dymor hir, sef Mr. John Timothy, blaenor eglwys y Friog. Dewiswyd ef i'r swydd yn Abermaw yn y flwyddyn 1853. Yma y dechreuodd y Parch. H. Barrow Williams, Llandudno, bregethu. Ymddiddanwyd ag ef gyntaf yn Nghyfarfod Misol Chwefror, 1867. Yn haf y flwyddyn 1864, symudodd y Parch. D. Davies yma o Gorwen, ar ei ymsefydliad fel gweinidog rheolaidd yr eglwys. Ac yn mis Mawrth 1874, rhoddodd ei gysylltiad â'r eglwys i fyny. Bu y Parch. R. H. Morgan, M.A., yn weinidog yma o 1875 i 1887, pryd y rhoddodd yntau ei gysylltiad â'r eglwys i fyny. Y Parch. J. Gwynoro Davies yw y gweinidog yn awr er 1887. Y blaenoriaid yn bresenol ydynt, Mri. Owen Griffith, David Williams, William Williams, Lewis Lewis, E. R. Jones, John Jones.
Nifer y gwrandawyr, 650; cymunwyr, 383; Ysgol Sul, 556.
Y BLAENORIAID AR OL Y CYFNOD CYNTAF.
CADBEN EDWARD HUMPHREYS.
"Daeth ef i arddel yr Iesu a'i achos yn hoewder ei ddyddiau." Ei gymeriad oedd, "dyn ymroddgar, prydlawn, a phenderfynol gyda phobpeth yr oedd a wnelai âg ef, pa un bynag ai gwladol ai crefyddol." Yr oedd yn awyddus i wneuthur daioni i'w gyd-ddynion, tra yr oedd ei orchwylion ar y môr. Fe'i neillduwyd yn flaenor i ofalu am y morwyr; gwnaeth yntau hyny gyda ffyddlondeb yn y porthladdoedd a manau eraill y caffai gyfleusdra. Oddeutu 1839, gadawodd y môr, ac arhosodd gartref gyda'i deulu, a bu o wasanaeth i grefydd hyd ddiwedd ei oes. Bu yn gwasanaethu ei gydforwyr yn y Cambrian Union yn Llundain yn ei dro am flynyddoedd. Cynghorai y morwyr ar eu mynediad allan i'r môr am iddynt wneyd eu cartref yn nghysgod yr Hollalluog, ac yna y byddent ddiangol, doed colli llong, doed boddi, ac fel cymhelliad iddynt dywedai yn aml, i Ragluniaeth fawr y nef ei gysgodi ef am y deugain mlynedd y bu yn ymladd â geirwon donau y môr. Mynych yr adroddai am waredigaethau hynod a gafodd yn ei fordeithiau. Yr oedd yn un o ddirwestwyr goreu Cymru. Bu yn llywydd y gymdeithas ddirwestol yn Abermaw hyd ddiwedd ei oes. Bu farw Mehefin 10, 1858, yn 79 mlwydd oed.
GRIFFITH DAVIES.
Yr ydoedd yn wyr i'r hen bregethwr ffyddlawn, Gruffydd Sion, Ynys y Pandy, yn Sir Gaernarfon, wedi hyny o'r Sarnau, Sir Feirionydd, ac yn fab i Sydney Davies, dduwiol, un o aelodau cyntaf eglwys y Methodistiaid yma. Cafodd ei ddwyn i fyny felly mewn teulu crefyddol, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn un ar bymtheg oed. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn athraw da yn yr Ysgol Sul, ac efe am dymor mawr oedd arweinydd y canu. Gŵr tyner a llednais ei ysbryd, yn meddu duwioldeb diamheuol, yn amlwg mewn gweddi, ac ymroddgar gyda holl ranau y gwaith. Dewiswyd ef yn flaenor pan yn lled ieuanc, yr hon swydd a wasanaethodd yn ofalus, hyd ei symudiad tua'r flwyddyn 1858, i'r Felinheli, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar fel swyddog eglwysig; a'r un modd pan symudodd oddiyno i Fangor Uchaf, gwasanaethodd yr un swydd yn nghapel Twrgwyn hyd derfyn ei oes. Bu farw Tachwedd 30, 1874, yn ei 80fed flwyddyn, a chladdwyd ef yn nghladdfa y teulu yn Llanaber.
EDWARD WILLIAMS, LLWYNGLODDAETH,
a dderbyniwyd yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor, Ionawr 1842. Ceir yn llyfr y cofnodau wrth ei dderbyn, "Er nad oedd y brawd a'i brofiad yn hynod lewyrchus, dewiswyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a dangoswyd mai peth mawr iawn i flaenor yw cysondeb gyda phethau crefydd." Tueddu y byddai ef at yr ochr dyner yn gyffredin. Yr oedd yn cario gydag ef gryn nifer o farciau yr oes o'i flaen.
RICHARD MORRIS, EXICEMAN.
Gŵr fu yn ddefnyddiol iawn gyda'r achos yma am lawer o amser. Meddai ar natur dda, a dawn hwylus i siarad yn gyhoeddus. Bu arno awydd myned i bregethu, ond cyd- olygwyd ei fod wedi myned i oedran lled fawr; ac oherwydd hyny mai gwell oedd iddo wasanaethu crefydd mewn ffordd arall. Ymhen amser, symudodd i Fachynlleth, a bu yn barchus iawn yno hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd yn flaenor yn y ddau le, ac yn un o'r dynion mwyaf defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd, yn allanol ac ysbrydol.
OWEN WILLIAMS, GWASTADANAS.
Daeth yma yn flaenor o Sir Gaernarfon, a neillduwyd ef yn swyddog drwy godiad llaw. Yr oedd yn ddyn duwiol, ac yn bur ei gymeriad. Cadwai yn gyson at ddechreu a diweddu y moddion, ond tueddai dipyn at ei ffordd ei hun, ac ar amserau rhoddai atebion heb fod yn llariaidd. Bu farw Tachwedd 6, 1860, yn 64 mlwydd oed, wedi bod yn aelod dros ddeugain mlynedd, ac yn ddiacon am ddeng mlynedd ar hugain.
RICHARD JONES.
Neillduwyd ef i'r swydd o flaenor yn 1861, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn mis Ebrill y flwyddyn hono. Yr oedd ef o gymeriad difrycheulyd, a thynodd ei gwys i'r pen yn uniawn. Gwnaed sylwadau er coffadwriaeth am dano yn Nghyfarfod Misol Mehefin, 1880.
HUGH WILLIAMS, CAMBRIAN HOUSE.
Byr iawn fu ei dymor ef yn y swydd o flaenor. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Mai 4, 1885, ac yn mis Medi yr un flwyddyn yr oeddis yn gwneuthur sylwadau coffadwriaethol am dano. Yr oedd yn weithgar iawn gyda chrefydd rai blynyddoedd cyn ei ddewis yn flaenor. Yr oedd yn wr o farn ac yn ŵr o gyngor, yn gyfaill serchog a llawen, ac yn Gristion disglaer. Pe yr estynesid ei oes, yn ol pob tebyg, buasai yn ddyn tra defnyddiol i'r achos. Yn ei dy ef y blynyddoedd diweddaf y lletyai y pregethwyr, y rhai fyddent, yn ddieithriad, yn hoff o'i gymdeithas.
MORRIS JONES.
Genedigol o'r Dyffryn ydoedd Morris Jones; mab i'r hen flaenor adnabyddus Sion Evan, Caetani. Magwyd ef ar aelwyd grefyddol, a thyfodd i fyny yn ŵr ieuanc dichlynaidd a hardd ei rodiad. Tynai sylw y pryd hwnw fel un tebygol o wneuthur dyn defnyddiol. Bu am flynyddoedd yn arwain y canu cynulleidfaol yn y Dyffryn. Ar gychwyniad yr achos dirwestol daeth allan yn gryf o blaid y symudiad; bu ar daith, oddeutu 1810, gyda'r Hybarch Mr. Humphreys, trwy ranau o'r Deheudir, yn areithio ar ddirwest. Dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys y Dyffryn, yn ol ei gyfrifiad ef ei hun, yn y flwyddyn 1838, yn un o chwech a neillduwyd gan yr eglwys hono yr un adeg. Gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlawn hyd nes y symudodd o'r ardal i fyw. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf o'i oes yn agos i'r Abermaw, ac yr oedd yn flaenor cymeradwy yno i'r diwedd. Yr oedd yn ŵr heddychlon, tyner, llednais, a hoffus gan bawb. Tynodd ei gwys i'r pen yn uniawn, heb genfigenu wrth neb, ac heb dynu gwg neb yn ei erbyn ei hun. Cymerwyd ef i'r orphwysfa nefol yn mis Chwefror, 1890, pan o gylch 79 oed, a dygwyd y rhan farwol o hono i'r beddrod yn y Dyffryn, ar y 25ain o'r un mis.
Y PARCH. EVAN ROBERTS.
Mab oedd ef i un o flaenoriaid yr eglwys hon. Yma y dygwyd ef i fyny, ac y dechreuodd bregethu; ac wrth yr enw Evan Roberts, y Bermo, yr adwaenid ef bob amser. Symudodd oddiyno i Arthog tua'r flwyddyn 1835; a symudodd o Arthog drachefn i Sir Drefaldwyn yn 1854, ac yno y bu farw.
Y PARCH. REES JONES, FELIN HELI.
Hysbys ydyw mai brodor oedd ef o'r Abermaw. Sonir llawer hyd heddyw am ei fam, Gwen Jones, fel un o wragedd parchusaf a mwyaf crefyddol yr eglwys. Dyn crefyddol a difrifol yr ystyrid yntau er yn ieuanc. Bu am dymor yn yr Amwythig; ac ar ol dychwelyd adref i'r Abermaw, adroddai bregeth o eiddo y Parch. Henry Rees yn y seiat gyda dwysder anghyffredin, a dyma y pryd, ebai un o frodyr hynaf yr eglwys, y daeth i sylw gyntaf. Nid ydym yn sicr pa bryd y dechreuodd bregethu, ond yr oedd yn rhywle o 1835 i 1840. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1844, a bu yn pregethu yn agos i haner can mlynedd. Symudodd i'r Felin Heli, yn Sir Gaernarfon, yn nechreu 1847. Yn Nghofnodion Cyfarfod Misol y Dyffryn, Chwefror 4ydd y flwyddyn hono, ceir y sylw canlynol,-" Coffhawyd am ymadawiad y brawd Rees Jones, o'r Abermaw, i Sir Gaernarfon i fyw-a dangoswyd ein bod yn mawr deimlo yn herwydd hyny." Colled fawr i'r sir hon oedd ei golli, oblegid yr oedd yn ŵr o ddylanwad, a gwnaeth wasanaeth mawr i grefydd o fewn y cylch y troai ynddo, yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Parhaodd ar hyd ei oes i lenwi lle pwysig ymhlith y Methodistiaid. "Er nad oedd ei draddodiad o'i bregethau yn cael eu nodweddu gan rwyddineb, eto yn lled fynych, ac yn fwy mynych yn ystod y deng mlynedd diweddaf, byddai ei weinidogaeth mewn nerth mawr. Yr oedd ef yn un o'r colofnau yn ei Gyfarfod Misol. Ymgynghorid ag ef ymhob achos dyrus. Ac nid yn y Cyfarfod Misol y perthynai iddo yn unig yr oedd ei allu a'i werth yn cael ei gydnabod, yr oedd felly yn y Cymanfaoedd." Bu farw mewn modd anghyffredin o sydyn, tra yn y weithred o gyfarch y frawdoliaeth yn Nghyfarfod Misol y Gatehouse, Tachwedd 18, 1885.
Y PARCH. DAVID DAVIES.
Bu y Parch. David Davies yn preswylio yn Abermaw o gylch tair blynedd ar hugain. Llafuriodd yn egniol gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, ac mae ei enw wedi bod yn hysbys fel gweinidog cymeradwy trwy holl gylchoedd y Methodistiaid; oherwydd y naill a'r llall o'r pethau hyn, teilynga goffhad ymysg enwogion crefydd yn y sir. Ganwyd ef yn Mhenmachno, yn y flwyddyn 1815, ac mae ei enw mewn rhai cylchoedd yn fwy cysylitiedig â'r lle hwnw hyd heddyw. Yr oedd ei dad yn ŵr o ddoniau llithrig, a chyrhaeddodd yr oedran teg o 89. Cafodd fam grefyddol, yr hon a gysegrodd ei bachgen yn foreu i'r Arglwydd. Arferai yntau weddio yn dra ieuanc, a thynai ei lais peraidd a soniarus wrth weddio a chanu sylw neillduol er ieuenged vedd. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod yn dra ieuanc, a dywedir iddo deimlo argraffiadau crefyddol dwysion ar ei feddwl y pryd hwnw. Dechreuodd bregethu yn 1834, y flwyddyn y bu farw y Parch. John Roberts, Llangwm, a chwe' blynedd cyn rhanu y sir yn ddau Gyfarfod Misol, ac efe eto ond 19eg oed. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1849. Bu yn bregethwr poblogaidd am 53 mlynedd. Y tebyg ydyw nad oedd yr un dyn mwy cyhoeddus nag ef yn yr oll o Sir Feirionydd am yr holl amser yna, ac nid oedd nemawr neb yn fwy adnabyddus trwy Ogledd a Deheudir Cymru.
Un adeg ar ei oes, bu ganddo ofalon bydol lawer. Cadwai siop yn Mhenmachno, triniai fferm fawr, sef y Bennar, a llanwai hefyd y swydd o steward coed, ac yr oedd y byd yn dyfod gydag ef fel lli yr afon. Eto meddienid ef yn llwyr gan ysbryd pregethu yn nghanol ei drafferthion; pregethwr ydoedd yn y siop, yn y fferm, ac yn y coed. Ond credai bob amser fod gwaith gweinidog yr efengyl yn rhy bwysig iddo i ymrwystro gyda mân orchwylion a negeseuau y bywyd hwn. Felly, er fod ganddo deulu lliosog i ymddibynu arno, yn 1861, rhoddodd yr oll o'i gysylltiadau bydol i fyny er mwyn yr efengyl yn unig, a symudodd i Gorwen, i gymeryd gofal yr achos yno. Ni edifarhaodd am hyn, ac ni edrychodd o'i ol o gwbl, eithr teimlai fel aderyn wedi ei ollwng i ehedeg yn yr awyr, yn berffaith yn ei elfen wrth wasanaethu crefydd a dim ond hyny. Yn 1864, symudodd drachefn o Gorwen, gan ymsefydlu yn Abermaw, a dyma yr adeg y mae yn dyfod gyntaf i gysylltiad uniongyrchol â Chyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Yn Nghyfarfod Misol Aberllefeni, Gorphenaf y flwyddyn hono, y darllenwyd llythyr cyflwyniad iddo o'r rhan Ddwyreiniol i'r rhan Orllewinol o'r sir, yr hwn sydd fel y canlyn':—
"Anwyl Frodyr,
Yr ydym yn ystyried mai peth rheolaidd, er nad mor angenrheidiol, ydyw rhoddi llythyr o gyflwyniad i'r brawd anwyl, y Parch. David Davies, ar ei ymadawiad â ni fel Cyfarfod Misol, a'i ymsefydliad yn eich plith chwi. Y mae colli Mr. Davies yn golled y teimlir yn ddwys o'i herwydd genym ni fel Cyfarfod Misol, ac yn arbenig gan yr eglwysi yr oedd ef yn dwyn cysylltiad mwy neillduol â hwy. Nid oes genym ond ymdawelu, a goddef y brofedigaeth, gan geisio credu ei fod dan arweiniad oddiuchod yn y symudiad, a gweddio am ei gysur ef a'i deulu yn eu trigfa newydd, a'i lwyddiant yn ngwaith yr Arglwydd yn eich plith.
O hyny allan, llafuriodd Mr. Davies yn benaf, yn y rhan Orllewinol o'r sir. Bu yn weinidog rheolaidd yr eglwys yn Abermaw hyd 1874, pryd y rhoddodd ei le i fyny, oherwydd llesgedd a deimlai mewn canlyniad i ddamwain a gyfarfyddodd pan ar daith i bregethu yn Lleyn. Er iddo ymneillduo o fod mewn cysylltiad uniongyrchol â'r eglwys, ni pheidiodd a gweithio gyda gwaith yr Arglwydd, ac nis gallai beidio, oblegid fod gweithio yn reddf gynhenid yn ei natur. Gwnaeth a allai i gynorthwyo y Parch. R. H. Morgan, M.A., ei olynydd fel gweinidog yr eglwys. Teimlai fwy o ryddid bellach i wasanaethu y Cyfarfod Misol a'r eglwysi yn gyffredinol o fewn y cylch, a bu ei wasanaeth o fawr werth yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Parhaodd i breswylio yn Abermaw hyd o fewn tair wythnos i'w farwolaeth, pryd y symudodd y drydedd waith i Benrhyndeudraeth. Cymerodd ei symudiad yma le, yn fwyaf neillduol, oherwydd cyfleusdra i fyw, gan ei fod ar y pryd yn newid ei breswylfod yn Abermaw. Ymddangosai yn ystod y tair wythnos hyn yn llawn o sel ac awyddfryd i weithio gyda phob rhan o deyrnas y Cyfryngwr. Ymaflodd ar unwaith ymhob gwaith, fel dyn ieuanc yn hoewder ei nerth, ac fel pe buasai am ail ddechreu ei oes drosodd drachefn. Yr oedd yn ei gynefin iechyd, ac ar y dydd Mercher y bu farw ymddangosai yn fwy siriol a chryf nag arfer. Gwasanaethai yn y prydnhawn mewn angladd, ac ar ol hyny aeth ef a Mrs. Davies i dŷ cymydog i dê. Wrth ddychwelyd adref cymerwyd ef yn glaf, a chydag anhawsder y cyrhaeddodd i'w dŷ ei hun. Ymhen tua thri chwarter awr wedi cyraedd adref, ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes. Parodd yr amgylchiad deimlad dwys trwy holl gylch ei adnabyddiaeth. Teimlid fod ei symudiad, o ran sydynrwydd, yn debyg i symudiad Enoc neu Elias. Yn nghanol bywyd, a hoewder, a nerth yr oedd ei gyfeillion wedi ei weled bob amser hyd y diwedd, ac felly y cawsant yr olwg olaf arno. Tarawodd ei symudiad bawb gyda'r fath syndod, fel mai peth anhawdd oedd credu na chaent weled ei wyneb ef mwy, a mawr fu y chwithdod am dano o'r dydd hwnw hyd yn awr.
Cyrhaeddodd Mr. Davies sefyllfa uchel ymhlith y Methodistiaid fel gweinidog poblogaidd a chymeradwy. Dechreuodd ei weinidogaeth pan oedd goruchwyliaeth y teithio mewn bri, a gellir, gyda phriodoldeb, edrych arno fel dolen gydiol rhwng yr oes aeth heibio o bregethwyr â'r oes bresenol. Yr oedd ei weinidogaeth ar y cychwyn cyntaf yn wresog a thanbaid, ac ar brydiau byddai yn nerthol iawn. Meddai lais peraidd a soniarus, a dawn mor ddihysbydd a'r môr, a gwroldeb i sefyll i fyny yn gryf dros yr hyn a gredai oedd iawn. Derbyniodd yn dra helaeth o ysbryd y Diwygiad 1859-60. Bu yn foddion y pryd hwnw i droi llawer i gyfiawnder. Cofir yn hir am aml un o'i bregethau miniog ac argyhoeddiadol. Yr oedd ei ddawn yn gymwys iawn i'r pulpud; medrai ef gyraedd sylw a dirnadaeth lliaws y bobl gyffredin yn well na'r rhan fwyaf o'i frodyr. Parhaodd ar hyd ei oes yn un o wyr cyhoeddus mwyaf ymarferol a defnyddiol a feddai Cymru.
Heblaw bod yn bregethwr effeithiol, perthynai iddo lawer o ragoriaethau mewn cylchoedd eraill, yn arbenig yn y cyfarfodydd eglwysig. Mynych y cynhyrchai fywyd a gwres yn nghyfarfodydd yr eglwys, megis ar darawiad. Yr oedd gwresogrwydd ei natur ef ei hun, ei ddawn parod, a'i hyddysgrwydd yn yr Ysgrythyrau, yn ei wneuthur yn nodedig o gymwys i arwain yn nghynulliadau y saint. Byddai, mae'n wir, ar adegau yn cael ei gario yn rhy bell gan ei deimladau. Y rhai a'i hadwaenent oreu hefyd a wyddent y byddai yn rhy barod i newid ei gynlluniau, ac na byddai bob amser yn ddoeth. Ond hysbys ydyw, pan y gwnai gamgymeriadau mewn byrbwylldra, y byddai yn edifarhau, a chan gynted ag y gallai yn dychwelyd yn ol i'r ffordd iawn. Er hyn i gyd, gŵr ymroddedig iawn ydoedd gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, a'i gyrhaeddiadau a'i amlygrwydd ymhell ar y blaen ymhlith ei gydoeswyr. Cerddodd ymlaen trwy ei fywyd gyda holl symudiadau y Cyfundeb. Byddai yn wastad yn cynllunio gyda rhywbeth neu gilydd, eto mewn taro ar ben yr hoel, a sicrhau yr hoelion y byddai yn fwyaf llwyddianus. Yr oedd yn un o feistriaid y gynulleidfa. Safai yn y ffrynt yn ei oes o ran sel a gwresogrwydd a difrifwch gyda gwaith y weinidogaeth, ac yr oedd yn un o'r gwylwyr mwyaf effro ar furiau Seion. Cymerodd ei farwolaeth le ar y 9fed dydd o Chwefror, 1887, pan ydoedd yn 72 oed.
Nodiadau
golygu- ↑ Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, I., 470.
- ↑ Methodistiaeth Cymru, I., 375
- ↑ Y mae yr eglwys wedi bod yn ffyddlawn gyda holl achosion y Cyfundeb, ac yn enwedig i gynal Cyfarfodydd Misol y sir. Bu yma un Gymdeithasfa Chwarterol, yr hon a gynhaliwyd Ebrill, 1877.