Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Gwynfryn

Dyffryn Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Nancol
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llanbedr
ar Wicipedia



GWYNFRYN.

Er fod y Gwynfryn yn hen achos, nid oes ond y nesaf peth i ddim i'w gael yn argraffedig am dano yn unman. Dwy ffaith yn unig, hyd y gwelsom, a goffheir yn Methodistiaeth Cymru am yr ardal, sef am y bregeth a bregethwyd yn Mhenrhiw-newydd, ac un arall a bregethwyd yn agos i'r Gwynfryn. Dywedir mai y bregeth gyntaf a bregethwyd gan yr Ymneillduwyr yn y gymydogaeth oedd gan Mr. Richard Tibbot, yn Mhenrhiw-newydd, ond nid yw yr amser yn cael ei nodi. Yr hanes am yr odfa arall yw yr hyn a ganlyn:—"Sonir llawer am odfa hynod a ddigwyddodd yn agos i'r Gwynfryn, pryd yr oedd Robert Roberts, Clynog, yn pregethu. Mae yn yr ardal le mewn craig, yr hwn a elwir Pulpud Ffoulk,' am mai gŵr o'r enw hwnw a'i gwnaeth. Yn y lle hwn y safai y pregethwr, ac o'i flaen ef yr oedd torf fawr o wrandawyr. Ar ganol y bregeth, daeth yn wynt a gwlaw anarferol, fel nad oedd modd i neb sefyll allan. Gyda bod y dymhestl yn dechreu, cododd Robert Roberts ei ddwylaw a'i wyneb tua'r nef, a gweddiodd, 'O! fy Nuw, pâr hamdden dros enyd i lefaru a gwrando am dy Fab.' A chyn pen pum' mynyd yr oedd y gwynt wedi llonyddu a'r awyr wedi clirio. Disgynodd syndod aruthrol ar bawb, torodd yn orfoledd ar rai dan y bregeth, a pharodd argraff ddofn ar bawb ag oedd yn y lle mai 'bys Duw oedd hyn.'"

Feallai fod eisiau crybwyll, er mwyn rhywrai, fod y Gwynfryn yn sefyll oddeuta milldir oddiwrth Lanbedr, yn nghyfeiriad Uwch Artro, neu Ddrws Ardudwy, yn ngwaelod cymydogaeth brydferth, ac ar lan yr afon Artro. Yn 1816, yr oedd yn daith Sabbath gyda Harlech a Thalsarnau. Fe fu am flynyddau lawer wedi hyny yn daith gyda'r Dyffryn, cyn bod achos wedi ei sefydlu yn Llanbedr, ond yn nechreu 1854, ymryddhaodd oddiwrth y Dyffryn, ac aeth yn daith gyda Chwm Nancol. Wedi adeiladu capel Llanbedr, cysylltwyd ef fel taith a'r Gwynfryn. Yn 1873 drachefn, aeth y ddau le hyn yn ddwy daith ar eu penau eu hunain, ac felly yr arhosant hyd yn awr.

I wneyd i fyny am mor ychydig o hanes crefydd yn y Gwynfryn oedd yn wybyddus yn flaenorol, gwneir defnydd helaeth o Draethawd a ysgrifenwyd ryw bump neu chwe' blynedd yn ol gan Miss Ellen Davies, Hafodycoed, ar "Hanes yr Achos Methodistaidd yn y Gwynfryn a'r Amgylchoedd." Yr oedd y traethawd hwn yn fuddugol mewn Cyfarfod Cystadleuol a gynhaliwyd yn yr ardal. Casglwyd yr hanes o enau amryw o'r hen bobl hynaf. Gan fod Miss Davies yn ysgrifenu mor ddigwmpas, ac mewn iaith ac arddull mor briodol, rhoddir llawer o hono yma fel yr ysgrifenodd hi ef.

Dechreuodd y Methodistiaid gynal moddion rheolaidd mewn tŷ anedd, o'r enw Rhwng-y-ddwy-bont. Ac yn yr un man, wedi hyny, y dechreuodd y brodyr y Wesleyaid a'r Bedyddwyr gynal moddion. Yr oedd yr hen dŷ yn sefyll hyd yn ddiweddar fel yr ydoedd y pryd hwnw. Yno, hefyd, y cynhaliwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn y gymydogaeth. Yr oedd hyn oddeutu y flwyddyn 1800, neu feallai beth yn gynt. Ychydig o enwau y proffeswyr cyntaf yn Rhwng-y-ddwy-bont sydd ar gael, ond mae yr ychydig sydd yn werth eu cadw mewn coffadwriaeth, John Jones, neu fel y gelwid ef, Sion Jones, a'i wraig Sian Dafydd, a'i chwaer hithau, Betti Dafydd. Sion Gruffydd, Tanygraig, a Betti ac Ann Rhobert, Penrhiw-newydd. Yr oedd yr hen chwiorydd hyn yn dduwiol ddiniwed, ac yn caru achos Iesu Grist yn fawr iawn. Byddai Betti Dafydd, ar ol iddi fyned yn hen, a chael ei gosod mewn teulu arall, am gael ei thê heb ddim siwgr ynddo, er mwyn, fel y dywedai, gael ceiniog i'w rhoddi at yr achos goreu erioed." Nid yw yn wybyddus pa bryd y ffurfiwyd yr eglwys yma, ond y brodyr a'r chwiorydd uchod, cyn belled ag y cafwyd yr hanes, oedd y prif rai o aelodau yr eglwys. Yr oedd achos rheolaidd wedi ei sefydlu yn yr ardaloedd o'r ddwy ochr i'r Gwynfryn, sef Harlech a'r Dyffryn, er yn foreu, a diameu mai i'r naill neu y llall o'r eglwysi hyn yr elai hyny o grefyddwyr a breswylient yn yr ardal hon ar y cyntaf. Hyd y gellir cyraedd sicrwydd, oddeutu dechreu y ganrif bresenol y dechreuwyd yr achos yma yn ffurfiol a rheolaidd.

Yn y flwyddyn 1810 yr adeiladwyd y capel cyntaf, yn nghanol pentref y Gwynfryn, ar brydles o driugain mlynedd. Tachwedd y flwyddyn hono y dyddiwyd y weithred, a thelid pum swllt yn flynyddol am y lle. Adeilad bychan diaddurn iawn ydoedd, dim ond un sêt o'i cwmpas, a meinciau ar llawr, a gallery ar y talcen pellaf, gyda grisiau cerig i fyned iddi. Cafodd ei helaethu wedi hyny, a byddai eisteddleoedd newyddion yn cael eu hychwanegu fel y byddai yr angen, Yn 1850, y nifer a allai eistedd ynddynt oedd 120, a gosodid yr oll, am y rhai y talwyd y flwyddyn hono 9p. 17s, 8c. Yr un flwyddyn nid oedd dimai o ddyled arno; a John Lewis a Rees Jones a ofalent am arian yr eisteddleoedd. Cyn i'r capel hwn gyraedd terfyn ei oes, yr oedd golwg mor henafol a dilewyrch arno, fel yr oedd yn ddywediad gan Mr. Morgan, o'r Dyffryn, mai un o'r profion fod yr efengyl yn ddwyfol oedd, ei bod wedi gallu byw cyhyd yn hen gapel y Gwynfryn. Dyddiad y weithred am y capel newydd, sef yr un presenol, ydyw Ionawr, 1861; prydles 999 mlynedd, ardreth deg swllt. Y nifer all eistedd yn hwn yw 200. Adeiladwyd ef pan oedd y diwygiad crefyddol wedi cyraedd llawn llanw, ac efe oedd un o gapeli newyddion cyntaf y wlad y blynyddoedd hyny. Aed i'r hen gapel am ychydig y boreu Sul olaf y buwyd ynddo, a chadwyd cyfarfod gweddi am ychydig amser. Wedi hyny aed yn orymdaith i'r capel newydd. Darllenodd a gweddiodd yr hen flaenor William Evan yn gyntaf ynddo. Y nos, pregethodd y Parchn. E. Morgan, Dyffryn, a T. Phillips, Henffordd.

Cyn rhoddi rhestr o'r blaenoriaid, gwneir crybwylliad am frodyr a chwiorydd eraill, ynghyd a'u dywediadau a'u gweithredoedd, sef y cyfryw rai ag a roddant ddangosiad i fesur mawr o'r hyn oedd crefydd a chrefyddwyr yr oes o'r blaen. Ac yn y Gwynfryn, fel mewn lleoedd ereill, yr oedd y chwiorydd ymysg y rhai blaenaf o ddilynwyr yr Arglwydd Iesu. Margaret Jones, Factory, oedd wraig grefyddol iawn, ac yn rhagori llawer mewn galluoedd naturiol ar y cyffredin. Y hi fyddai yn gofalu am y gweinidogion a fyddent yn y daith, ac yr oedd yn flaenllaw gyda dygiad yr achos ymlaen yn ei holl ranau. Yr oedd merch ieuanc a berthynai i'r eglwys wedi priodi dyn hollol ddigrefydd; ymhen amser daeth yn ol i'r society, ac wedi i'r brodyr siarad llawer â hi, cododd Mrs. Jones ar ei thraed, a dywedodd, "Yr ydwyf yn gobeithio, fy ngeneth i, fod yr Arglwydd wedi maddeu i ti, ond os oes rhywbeth a wnelo Efe a thi, faddeui di byth i ti dy hun am y tro wnest ti." Fe'i dywedodd yn rymus ac effeithiol iawn. Os ydyw y wraig hono ar dir y byw, digon tebyg nad yw eto wedi anghofio y geiriau a ddywedwyd wrthi yn y cyfarfod eglwysig hwnw. Sarah Morris, Dinas, oedd wraig nodedig mewn crefydd. Bu yn cynal yr achos yn ffyddlawn am flynyddau lawer, cyfranai yn haelionus, a meddai ewyllys'a chalon i wneyd hyny. Dioddefasai lawer oddiwrth ei phriod yn nechreuad ei phroffes: y noswaith gyntaf y bu yn y society, clôdd ef y drws arni allan, ac yn y beudy y bu y noswaith hono; ond fe liniarodd bob yn ychydig. Adroddir am un amgylchiad a fu yn foddion i'w dyneru. Gwahoddai Sarah Morris y Parch. Daniel Evans i'r Ddinas i letya un nos Sadwrn. "Pa fodd y bydd gyda John Llwyd?" gofynai Daniel Evans. "Gadewch chwi rhyngof fi a John Llwyd," atebai hithau. Nos Sadwrn aeth Daniel Evans i'r Dinas, eisteddai yn bur agos i'r drws; ni ddeuai ymlaen, ac ni roddai ei het o'i law ar un cyfrif. Ymhen amser daeth John Llwyd i'r tŷ; cododd Daniel Evans a dywedodd, "Fe ddaethum i yma heno, John Llwyd, i edrych a gawn lety genych." "Gwell i chwi gael, debyg gen i," atebai John Llwyd. Aeth yntau ymlaen wedi hyny at y tân. Boreu Sul dywedai John Llwyd y buasai yn well iddo gymeryd y gaseg dano i Dalsarnau (yr oedd Talsarnau y pryd hwnw gyda'r Gwynfryn). Diolchodd Daniel Evans iddo yn fawr am ei garedigrwydd. Wedi i Daniel Evans gychwyn, aeth John Llwyd i ben bryn yn agos i'r tŷ, a llech-orweddai yno yn nghysgod careg, er mwyn gweled a fyddai D. Evans yn gyru y gaseg. Ond nid oedd yn gwneyd iddi roddi un cam yn gynt na'i gilydd. Pan y dychwelodd at yr hwyr, aeth J. Llwyd i'r ystabl i edrych a oedd chwys ar y gaseg. Ond nid oedd dim. Cododd hyny Daniel Evans, a chododd Fethodistiaeth hefyd yn ngolwg John Llwyd. Byddai addoliad teuluaidd yn cael ei gynal yn gyson yn y Dinas,—canu, darllen, a gweddio; ac os na byddai neb yn proffesu yn bresenol, byddai Sarah Morris yn gweinyddu ei hun. Bu yr Ysgol Sul yn cael ei chynal yno am flynyddoedd.

Gwen William, Cwmbychan, oedd wraig dra chrefyddol. Daeth hithau at grefydd flynyddau o flaen ei phriod, a dioddefodd lawer o sarugrwydd oddiwrtho. Ond daeth yntau i wrando yn gyson, ac ymunodd â chrefydd flynyddau cyn diwedd ei oes. Byddai y teulu oll yn y capel yn brydlon erbyn dechreu pob moddion. Pan y byddai gweision y ffermydd yn myned i chwareu ac i hel cnau ar foreu Sul, byddai arnynt fwy o ofn Gwen William na neb arall. Mae rhai o honynt yn byw yn yr ardal eto, ac yn tystio hyny. Byddai Gwen William yn cadw addoliad yn y teulu, ac ar ol i'w gŵr ddyfod i'r society, ceisiai ganddo ef wneyd. Ufuddhaodd yntau, ond ber iawn fyddai y weddi, ac un tro, methodd yn lan a myned ymlaen. "Gwna di," meddai wrth ei wraig, ac felly fu, y hi orphenodd y weddi. Ond er mor syml ydoedd, nid oedd neb yn ameu ei grefydd. Efe oedd wr cywir a pharchus iawn.

Byddai y Parchn. Daniel Evans a Richard Humphreys yn myned i bregethu ar hyd ffermdai Uwch Artro. Un tro yr oedd Mr. Humphreys yn pregethu yn Cwm mawr, a chedwid society ar ol. Yr oedd y wraig, Gaenor Llwyd, yn wraig grefyddol a deallus. Ar ol ymddiddan â hi, aeth Mr. Humphreys i ofyn gair i Sion Llwyd. Ceisiai yn yr ymddiddan arwain ychydig ymlaen. Dywedai "Mae Duw wedi gwneyd y naill beth ar gyfer y llall; lle y mae anfantais mae yno fantais ar gyfer hyny." "Oes yn siwr," atebai Sion Llwyd, "felly y mae hi yma, mae y dŵr yn agos iawn a'r mawn yn bell ryfeddol." "Ie," meddai Mr. Humphreys, "mae yn gynhesach arnom ni i lawr acw, mae genych chwithau gyflawnder o ddefnyddiau tân." "Oes yn siwr," dywedai Sion Llwyd drachefn, "mae yma gyflawnder o fawn eleni, a chynhauaf rhagorol arnynt." Gadawodd Mr. Humphreys ef yn y fan yna, methodd ei godi yn uwch na'r mawn. Hen gymeriad digrif oedd Sion Llwyd. Un tro dywedai wrth gyfaill yn nrws y capel, "Pregeth dda ragorol, onide S———; wyt ti yn myned i'r ffair yfory, dywed?" Yr oedd Methodistiaeth yn uwch o lawer yn Uwch Artro y pryd hyny nag yn awr. Yr oedd llawer o'r penau teuluoedd yn Fethodistiaid da, a phob un yn gymeriad ar ei ben ei hun. Y rhai a enwyd, ynghyd ag Evan Parry, Dolwreiddiog, Ellis William, Cwm bychan, ac Ellis Thomas, Cae-bwlch-wrach, oeddynt y rhai mwyaf blaenllaw. Y mae hen athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sul yn deilwng o goffhad. Griffith Sion, Llwynionfychan, a fu yn ffyddlawn yn dysgu plant yn nghongl y sêt fawr am haner can' mlynedd. Nid oedd llawer o ragoriaeth yn yr hen wr, ond perthynai iddo y rhagoriaeth a esyd y Gwaredwr yn uchaf oll, sef ffyddlondeb. Dywedir i William Richard, Tyddyn-y-pandy, hefyd fod yn athraw plant ffyddlon, er na fedrai ddarllen ei hun. William Dafydd, yr Efail, oedd un o'r athrawon ffyddlonaf. Coffheir am un amgylchiad mewn cysylltiad â William Dafydd gwerth ei gadw. Fel y crybwyllwyd, byddai eisteddleoedd newyddion yn cael eu gwneuthur yn yr hen gapel, gwnaed un yn y fan yr arferai William Dafydd eistedd. Digiodd yntau yn aruthr, a bu am ddwy flynedd heb ddyfod i'r capel, ond deuai i'r ysgol yn gyson at ei ddosbarth. O'r diwedd, galwyd cyfarfod brodyr i geisio dwyn yr achos i derfyniad. Ond safai W. D. at ei farn benderfynol ei hun. Dywedai ei fod yn cael gwedd wyneb yr Arglwydd, a bod yn gas ganddo bobl y capel. "Na, yn siwr," dywedai Rees Jones, "nid ydyw hyny ddim yn bod, cael gwedd wyneb Duw, a bod heb garu y brodyr, mae hyny yn armhosibl." Pa fodd bynag, ildiai W. D. ddim. "Wel," ebai Rees Jones, nid yw o un diben i ni fod yma yn ffraeo â'n gilydd," a galwodd ar Sion Griffith, Tanygraig, i ddibenu y cyfarfod. Cododd yr hen ŵr ar ei draed, a rhoddodd y penill canlynol i'w ganu;—

"Yr hwn sydd isel yn ei fryd
Yn caru ei gyd Grist'nogion;
Yr hwn sy'n ofni'r Arglwydd Dduw,
Ac sydd yn byw yn ffyddlon."

Dechreuwyd canu, a chanu y buwyd am amser maith, a chyn y diwedd, yr oedd y dagrau yn treiglo ar hyd gruddiau W. D., ac ni chlywyd byth air o son am yr ymrafael.

Richard Hughes, Tŷ'nyfawnog, oedd athraw y prif ddosbarth. Dywedir nad ydoedd yn rhagori ar y cyffredin mewn gwybodaeth, ond yr oedd yn meddu cymhwysderau athraw. Cadwai ei hun o'r golwg, a rhoddai y dosbarth ar lawn waith; byddai yn hynod fywiog ac effro, ond y dosbarth fyddai yn penderfynu pobpeth. Yr oedd Richard Hughes yn hynod mewn gweddi. Byddai yn dda gan bawb ei weled yn d'od ymlaen i arfer y moddion. Dywedai un chwaer am dano, "Y mae Richard Hughes mor debyg o fyn'd i'r nefoedd pan fydd yn gweddio; bydd arnaf flys a'i ladd ar ei liniau, iddo fod yn sicr o gyraedd y nefoedd yr amser hwnw."

Anne Lewis, Tymawr, merch yr hen flaenor John Jones, a'i chwaer Bridget Ellis, y Felin, a fuont yn athrawesau ffyddlon. Yr oedd Mrs. Lewis yn dra ffyddlon mewn cylchoedd eraill hefyd. Bu ei thŷ yn llety eysurus i'r pregethwyr yn y Gwynfryn, ac wedi hyny yn Tymawr am flynyddoedd lawer, a chyfranai yn haelionus a chyson at yr achos hyd ddiwedd ei hoes faith. Gallem feddwl ei bod yn dwyn llawer o ddelw ei thad; ychydig a ddywedai, ond byddai yr hyn a ddywedai bob amser yn gyflawn o synwyr. Gofynai gweinidog yr eglwys iddi unwaith a fyddai yn gweddio llawer dros yr achos. Atebai hithau, "Ni bydd genyf lawer i'w ddweyd, byddaf yn dweyd 'deled dy deyrnas,' ac yn rhoi fy Amen ar ol hyny." Ni byddai byth bron yn beio ar y bregeth. Un boreu Sabbath, pa fodd bynag, yr oedd wedi bod yn gwrando pregeth ar y geiriau, "Gwthia i'r dwfn," &c. Ar ol myned adref, adroddai y testyn, ac ychwanegai, "Yr oeddwn inau yn dweyd ynof fy hun, wel gwthia dithau i'r dwfn, yn lle laitchio o gwmpas y lan o hyd." Ond anfynych y dywedai ddim fel yna, canmol y byddai fel rheol, ac ni oddefai i neb arall feio. Hi oedd y ddiweddaf oedd yn fyw o'r rhai oedd yn yr Ysgol Sul gyntaf a gynhaliwyd yn Rhwng-y-ddwy-bont.

Tri wyr eraill ffyddlon gyda'r achos oeddynt, Robert Jones, y Coed; Richard Ellis, Penarth; a Robert Wynne, Tyddyn bach. Un o'r athrawon goreu, ac un o'r rhai adawodd fwyaf o'i ol o neb ar Ysgol Sul y Gwynfryn oedd Robert Jones. Dywedir ei fod o dymer naturiol lled bigog, eto meddai galon lawn o gariad, ac yr oedd yn gyfaill y gellid ymddiried ynddo. Yr oedd aelodau ei ddosbarth yn ymlyngar wrtho, a'u parch bron yn ddiderfyn tuag ato. Llewyrchai crefydd hefyd yn ddisglaer yn ei deulu. Coffheir am un cyfarfod nodedig a gynhaliwyd yn y Coed, pryd yr oedd rhyw amhariaeth ar aelod Robert Jones, ac yntau yn methu myn'd i'r capel. Ar ei ddymuniad i gael cyfarfod gweddi, ymgasglodd llon'd y tŷ o bobl. Ymddangosai rhywbeth pur hynod yn y cyfarfod o'r dechreu. Galwyd ar Evan Parry i weddio yn olaf, yr hwn ar ol y brodyr eraill a ofynodd am iddo gael gwella y pryd hwnw "Yrwan, yrwan," dywedai. Yr adeg hono sylwai un o'r brodyr ar Robert Jones yn ceisio codi i edrych a oedd yn gwella; ac y mae yn ffaith ei fod wedi gwella o'r fynyd hono allan. Ar ol terfynu y cyfarfod, dywedai Robert Jones wrth yr ychydig a arhosasant ar ol, a'r dagrau ar ei ruddiau, "Wel, frodyr bach, yr wyf yn gobeithio mai i'r nefoedd yr ewch bob un, lle bynag yr ewch chwi yr âf finau." Byddai yn anhawdd cael gan Richard Ellis wneyd dim yn gyhoeddus, ond pan y gwnai, teimlai pawb mai da oedd bod yn bresenol i wrando. Yn y cyfarfod eglwysig unwaith ewynai fod ei weddiau yn bethau gwaelion iawn. "Ydynt," dywedai John Jones, "y maent yn bethau gwael; dyn yn myned i gongl y cae ac yn dweyd ychydig eiriau, mae yn beth gwael; ond os ydyw Duw yn y nefoedd yn gwrando, nid ydyw hyny yn beth gwael; dyn yn myned i gongl yr ysgubor, ac yn dweyd ychydig eiriau, ac yn meddwl nad ydynt yn myned yn uwch na'i dalcen, mae yn edrych yn beth gwael; ond os ydyw Duw yn y nefoedd yn myned i ateb, nid ydyw hyny yn beth gwael." Robert Wynne Tyddynbach, oedd un hynod mewn gweddi. Cadwai ddyledswydd yn ei deulu trwy lawer o rwystrau. Byddai ei wraig yn dweyd wrtho yn y cynhauaf gwair, "Wel, Robin, darllen di ryw bwt o Salm fach, fach, a dyro bwt o weddi fer, fer, i ni gael myned allan at y gwair yna." A thra byddai ef yn gweddio, byddai hi wedi gyru yr ystôl fyddai ganddi yn eistedd i ymyl y bwrdd, er mwyn cael cydio yn ei gwaith pan ddeuai yr Amen.[1]

Gweithiodd yr eglwys hon ei ffordd heb bresenoldeb gweinidog yn byw yn yr ardal hyd yn lled ddiweddar. Bu y Parch. Daniel Evans yma yn cadw ysgol ddyddiol yn amser Mr. Charles, neu ychydig ar ol ei farw. Byddai y plant yn anarferol o hoff o hono, gan ei fod o dymer mor dyner ac addfwyn; ac yn groes i arferion yr amseroedd hyny, medrai y ffordd i'w dysgu heb eu curo. Un o'i ysgolheigion a rydd yr hanesyn canlynol i brofi hyn. Wedi eu dal ar fai un diwrnod, cymerai D. Evans arno ei fod yn ymadael o'r ardal. Y plant yn gweled hyny a ddechreuasant wylo. Ond nid oedd dim yn tycio, casglodd yr ysgolfeistr wahanol bethau ynghyd ac a'u gwnaeth yn becyn, i osod argraff ar eu meddwl hwy ei fod yn benderfynol o ymadael. Dechreuodd un oedd yno mewn oed, pa fodd bynag, eiriol dros y plant, ac addawodd fyned yn feichiau na byddent ddim yn blant drwg mwyach. Wnai hyny mo'r tro, heb gael dyn arall o'r pentref i roddi ei air drostynt; ac wedi cael dau i ymrwymo yn feichiafon na byddai y plant ddim yn blant drwg mwyach, addawodd aros. Felly, trwy gyfrwysdra a diniweidrwydd yr ysgolfeistr addfwyn, crewyd diwygiad mawr ymhlith y plant wedi hyn. Rhoddodd yr hen efengylwr heddychlon lawer o'i wasanaeth i'r Gwynfryn tra bu yn trigianu dros dymor maith fel eu cymydog yn Harlech.

Cymydog agos, ar yr ochr arall, oedd Mr. Humphreys, hysbys ydyw y gwnelai ef ei hun yn bobpeth i bawb, yn enwedig yn yr ardaloedd cyfagos. Byddai yn y Gwynfryn bob amser ar unrhyw achos o bwys. Yr oedd y Parch. Griffith Hughes, Edeyrn, ar daith trwy Sir Feirionydd rywbryd, a'r Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, gydag ef, yn ddyn ieuanc newydd ddechreu pregethu. Yr oeddynt yn Harlech y boreu, Gwynfryn y prydnhawn, a'r Dyffryn y nos. Ebai Mr. Ellis, "Pan yn myned o Harlech tua'r Gwynfryn, mewn trofa ar y brifffordd, pwy welem yn sefyll ar y ffordd draw o'n blaen ond Mr. Humphreys,-corff mawr, un o'r rhai mwyaf esgyrnog, yn tynu at fod yn afrosgo. Ei gyfarchiad cyntaf oedd, 'Wel, mi a ddaethum hyd o'r Faeldref, rhag i chwi gael dweyd na ddaeth neb i droi mo'ch trwyn.'"

Tua'r amser hwn, arferai y Parch. Lewis Jones, Bala, ddyfod yn awr ac yn y man, ar ymweliad â'r Faeldref. Deuai oddiyno weithiau i'r Gwynfryn i gadw seiat. Y Parch. E. Foulkes Jones, Glan Conwy, yn ei adgofion am y Gwynfryn, a rydd y darluniad dyddorol a ganlyn o un o'r cyfarfodydd hyn,-"Yr oedd genyf feddwl mawr am Lewis Jones fel pregethwr, ond nid oeddwn erioed wedi ei glywed yn cadw seiat. Ar ol iddo ddechreu, dywedai un o'r blaenoriaid wrtho am gymeryd y seiat yn ei law ei hun. 'Wel,' meddai, 'ni waeth i mi ddechreu yn y fan yma :' a dechreuodd ar ei law dde yn y sêt fawr, ac aeth ymlaen tua'r pen nesaf i'r afon iddi. Yn y fan hono yr oedd hen ŵr bychan yn dysgu plant bob amser, ac yr oeddwn inau wedi bod yn ddisgybl iddo. Yr oeddwn yn ofni rhag i'r hen athraw fyned yn ddim dan ddwylaw Lewis Jones. Dechreuodd ei holi, a dechreuodd yr hen wr ei ateb, a chyn hir yr oeddwn yn credu fod y ddau yn nghanol y nefoedd, nes yr oeddwn yn synu o ba le yr oedd yr hen ŵr diniwed wedi cael y fath syniadau. Yn bur fuan ar ol hyn, daeth at ŵr arall ag y byddai son am dano pan oeddwn yn fachgen, fod ar ei feddwl ddechreu pregethu. Ei brofiad ef oedd ei fod yn ofni nad oedd wedi marw i'r ddeddf, a chofiais yn y fan mai dyna fyddai ei hoff bwnc bob amser. Wel, meddwn wrthyf fy hun, Lewis Jones o bawb i drin y pwnc yna gyda chwi. Dechreuodd y gŵr parchedig ei holi yn bwyllog ar y mater, a throai o gwmpas y mater, yn ol ac ymlaen, a'r dyn trwy y cwbl yn dangos yr anwybodaeth dyfnaf, a dim i'w gael ganddo ond ei fod yn ofni nad oedd wedi marw i'r ddeddf. Ar hyn, cyfodai Lewis Jones ei olygon at y rhai oedd yn nghorff y capel, a dywedai, 'Yr oeddwn ychydig Sabbothau yn flaenorol yn un o'r teithiau agosaf i'r Bala, lle yr oedd amaethwr cyfrifol wedi aros yn y seiat ar ol yr odfa. Yr oedd yn hen wrandawr, ac wedi cael ar ei feddwl yn ddiweddar i ymuno â phobl yr Arglwydd. Anfonwyd fi ato (ebai Lewis Jones), a dechreuais ymddiddan âg ef, a dyna a ddywedai, ei fod yn ofni nad oedd wedi gwir gredu yn Nghrist. Ceisiais fy ngoreu ddangos iddo gymhwysder Crist croeshoeliedig fel gwrthddrych priodol i bechadur gredu ynddo, ond diengai y dyn o dan fy nwylaw, gyda'r esgus ei fod yn ofni nad oedd wedi gwir gredu yn Nghrist. Aethum o'i gwmpas drachefn, a heliais ef i'r gongl, i olwg Crist croeshoeliedig, ond diangodd eto gyda yr un esgus. Aethum o'i gwmpas y drydedd waith, yn arafach a mwy gofalus, rhag fod rhywbeth yn fy null yn dangos yr Arglwydd Iesu iddo yn ei ddychrynu, ac wedi ei gael megis i adwy y mynydd, fel nad oedd neb ond efe a Christ croeshoeliedig yn y golwg, diangodd eto gyda'r un esgus ei fod yn ofni nad ydoedd wedi gwir gredu yn Nghrist, nes y bu raid i mi ddweyd fy mod inau yn ofni nad ydoedd wedi gwir gredu, onide ni fuasai mor gas ganddo Grist wedi ei groeshoelio.' Ni wnaeth ddim cymhwysiad o'r chwedl at y gŵr yr oedd yn ymddiddan ag ef ar y pryd, ac nid oedd eisiau, gan fod yr ymddiddan blaenorol yn ei chymwyso yn well na dim y gallai ef ei wneyd. Nid wyf yn cofio i mi glywed dim byd mwy gafaelgar yn fy oes; yr oeddwn yn teimlo ar y pryd ei fod yn cario rhywfaint o awdurdod y Barnwr mawr y dydd diweddaf. Yn ddiweddaf oll, daeth at hen frawd oedd wedi bod mewn rhyw ddyryswch ar hyd ei oes. Achwynai yr hen frawd yn dost fod y blaenoriaid wedi gwneyd cam âg ef mewn rhyw achos. Dechreuodd Mr. Jones holi yr hen wr a'r blaenoriaid, ac er yr edrychai yr achos yn dywyll yn y dechreu, daeth yn ddigon amlwg cyn y diwedd pa fodd yr oedd pethau yn bod; dywedai y gweinidog yn ddifloesgni lle yr oedd bai y blaenoriaid a bai yr hen ŵr, a chymerodd pawb ei fai ei hun yn ddigon tawel. Yr wyf yn edrych ar hon yn un o seiadau hynotaf fy oes, un y gwelais amlygiadau digamsyniol o bresenoldeb yr Arglwydd Iesu ynddi."

Yr un gŵr hefyd a rydd hanes un arall o bregethwyr hynod yr oes o'r blaen yn talu ymweliad â'r ardal. "Yr wyf yn cofio pan yn fachgen, fod son mawr drwy yr ardal fod Dafydd Cadwaladr i bregethu yn y Gwynfryn ar foreu Sabbath. Yr oedd y capel yn orlawn o bobl, ac er fy syndod, hen wr gwladaidd, esgyrnog, mewn dillad o frethyn cartref a welwn yn y pulpud, a gwynebpryd garw ganddo. Gyda fy mod i i fewn, dechreuodd weddio, a'i ben i lawr. Nid oeddwn yn fy oes wedi clywed neb yn gweddio yr un fath, ac edrychwn yn awr ac eilwaith i ben y capel, a welwn rywun neu rywbeth yn cario y deisyfiadau rhyfedd a chynwysfawr ar eu hunion o'r nefoedd i'w ben. Yr oeddwn dan yr argraff fod yn rhaid iddynt ddyfod o'r nefoedd rywsut neu gilydd. Nid wyf yn cofio dim o'r bregeth, ond y mae argraff y weddi ddwys, ddifrifol, a'r taerineb gafaelgar a gostyngedig hwnw, yn aros hyd y dydd heddyw."

Ystyrir y Gwynfryn yn eglwys ag y mae llawer iawn o rai rhagorol y ddaear wedi bod yn perthyn iddi. Rhai felly yn arbenig oedd y set gyntaf o grefyddwyr, a magwyd yma do ar ol to o rai cyffelyb iddynt. Bu presenoldeb yr Arglwydd yn amlwg iawn ar adegau yn yr hen gapel. Coffheir am Sabbath nodedig, pan ddaeth y Parch. David Davies, Penmachno, y pryd hwnw, i'r ardal yn annisgwyliadwy. Pregethodd y nos, ar y Salm gyntaf, o dan arddeliad amlwg; daeth deunaw i'r society mewn canlyniad i'r odfa hono. Dro arall, pan oedd y Parch. R. Jones, Llanfair, yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd, dywed y rhai oedd yn bresenol na welsant ddim cyffelyb erioed; nid oedd yno gynwrf, ond teimlad dwfn, distaw; Sabbath a gofir tra byddant byw ydoedd. Cofir, hefyd, am Sabbath cymundeb, pan oedd y Parch. Rees Jones, Felinheli, yn gweinyddu. Yr oedd Mr. Jones wedi dyrysu nas gwyddai pa ffordd i fyned hyd nes yr aeth un o'r brodyr ato. Adegau oedd y rhai hyn y rhoddai yr Arglwydd ei bresenoldeb yn amlwg gyda'i bobl.

Adroddwyd yr hanes canlynol wrth y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, gan y blaenor adnabyddus William Richard, yr hwn oedd yn llygad-dyst o'r ffeithiau. Digwyddodd ryw dro fod John Elias ar daith trwy y rhan yma o Sir Feirionydd. Cyhoeddid ef i bregethu, yn ol y trefniad, yn y Dyffryn, ar nos Sabbath; yr un Sabbath, yr oedd Robert Dafydd, Brynengan, yn y Gwynfryn, am ddau o'r gloch a'r nos. Wrth gyhoeddi ar ddiwedd yr odfa prydnawn, anogai Robert Dafydd, y neb a ewyllysiai i fyned i'r Dyffryn, i glywed y gŵr enwog yn pregethu, yn hytrach nag aros yn y Gwynfryn i wrando arno ef. Aros, pa fodd bynag, yn y Gwynfryn a wnaeth llawer. A'r noswaith hono, torodd allan yn orfoledd mawr, y fath ag y bu son am dano am amser maith. Yr oedd Humphrey Evans, wedi hyny o Lanfair, a John Davies, tad y Parch. John Davies, gynt o Lanelli, yn llanciau, yn eistedd ar ymyl yr hen gallery; a thra y cynyddai y gorfoledd yn ei rym, neidiasant dros yr ymyl i'r llawr brwyn islaw, gan ymuno â'r gynulleidfa mewn neidio a molianu. Ymysg y gynulleidfa ar y llawr yr oedd priod Richard Owen, wedi hyny o Runcorn, ac yn ddiweddaf o Bennal, yn wraig ieuanc, a baban bychan yn ei breichiau. Hithau hefyd a ddechreuodd neidio a molianu, gan daflu y baban oedd ganddi yn ei breichiau i ffedog ei mam, yr hon a eisteddai yn ei hymyl. Edrychai y ddau hen flaenor o'r sêt fawr ar yr olygfa gyda mwynhad rhyfeddol; ac wrth weled y wraig ieuanc yn taflu ei baban i ffedog ei mam, ebe John Jones wrth William Richard, "Weli di, dyma y broffwydoliaeth yn cael ei chyflawni, A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fei na thosturia wrth fab ei chroth? ïe, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di.'" "

Y BLAENORIAID.

JOHN JONES.

Cydgychwynai ef â'r achos ar ei sefydliad. Efe a olygid ei brif sylfaenydd, ac yr ydoedd yn ŵr yr edrychid i fyny ato, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond yn y Cyfarfod Misol a'r Gymdeithasfa. Fel duwinydd da ac un yn meddu ar synwyr cryf, dichon mai efe oedd y blaenaf a mwyaf ei ddylanwad o holl flaenoriaid y dosbarth yn ystod y deugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol, ac hwyrach na bu ei ragorach yn yr ystyr hwn, yn y rhan yma o'r wlad, o'r cychwyn cyntaf hyd yn awr. Ni byddai yn traethu yn faith ar unrhyw fater, ond gwnai sylwadau byrion, cynwysfawr, a phob amser at y pwrpas. Arferai holi yn gyhoeddus oddiar y benod a ddarllenid mewn cyfarfodydd gweddi, ac nid ychydig oedd ei gymhwysder i hyn, gan ei fod mor hyddysg yn yr Ysgrythyr, ac mor alluog fel duwinydd. Nid oes llawer o'i gwestiynau ar gael, ond adroddai un hen chwaer ei fod yn gofyn iddi yn Ysgol Sul y Dinas, "Pa un ai Duw o naturiaeth ai Duw o hanfod ydyw Duw," yr hyn a ddengys y byddai ei gwestiynau allan o'r ffordd gyffredin. Gwr mawr oedd ef, hefyd, mewn gweddi, yn arbenig y weddi ddirgel. Daw hyn i'r golwg yn y chwedl ganlynol a adroddai ei gyfaill a'i gymydog, John Williams, y Dinas. Yr oeddynt ill dau yn cysgu gyda'u gilydd unwaith yn un o ffermdai y gymydogaeth, yn nghanol prysurdeb y cynhauaf gwair. Rywbryd wedi myned i'r gwely, gofynai John Jones i'w gyfaill John Williams, "Wyt ti yn cysgu?" "Nac ydwyf," oedd yr ateb. Gofynai yr ail waith, "Wyt ti yn cysgu?" "Nac ydwyf," ebai y llall. Nis gwyddai yn iawn beth oedd ei amcan yn gofyn y cwestiwn, ond fe benderfynodd, os gofynai drachefn, i ateb ei fod yn cysgu. Ymhen enyd, gofynwyd y cwestiwn y drydedd waith, "Wyt ti yn cysgu?" "Ydwyf," oedd yr ateb y waith hon. Gyda hyny cyfodai John Jones o'i wely, ac aeth ar ei liniau. Ei gyfaill, yr hwn oedd yn ddigon effro, a sylwai arno yn aros ar ei liniau yn hir. O'r diwedd, clywai ef yn dywedyd, "Wel, Arglwydd mawr, gan nad oes genyt ti ddim i'w ddweyd wrthyf, fe af fi i fy ngwely." Felly yr aeth. Rhoddai y tro hwn argraff ar feddwl ei gyfaill mai dyma arfer yr hen Gristion o ddal cymundeb a'r Arglwydd.

Ffaith arall tra hynod i brofi duwioldeb yr hen bererin hwn o'r Gwynfryn ydoedd, yr hyn a adroddwyd gan Griffith Pugh, un o flaenoriaid Llanfachreth. Byddai John Jones arferol a threulio rhan o'i amser gyda'i orchwyl yn nghymydogaeth Dolgellau. Un boreu, yr oedd Griffith Pugh yn cadw dyledswydd deuluaidd yn ei dŷ, yn Llanfachreth, ac yn ei theimlo yn anarferol o galed-mwy o dywyllwch nag arfer wedi meddianu ei feddwl. Ond tra yr oedd ar ganol gweddio, daeth dyn i mewn i'r tŷ, ac ymostyngodd ar ei liniau gyda'r gweddill o'r teulu, heb ddyrysu dim ar y gwasanaeth. Gydag iddo ddod i mewn, teimlai y gweddiwr lawer mwy o ryddid wrth weddio. Gallai fyned yn ei flaen mor rhwydd bellach fel mai anhawdd oedd rhoddi i fyny weddio. Pwy oedd wedi dod i'r tŷ ond John Jones. Teimlai G. Pugh ei bresenoldeb fel presenoldeb angel wedi dyfod i'r tŷ; credai yn sicr mai hyny oedd wedi rhoddi y fath rwyddineb iddo, ac adroddai yr hanes yn fynych wrth ei gyfeillion.

Rhoddwyd eisoes hanes dyddorol am dano yn cadw seiat mewn cysylltiad ag eglwys Llanelltyd. Gwnaeth ei hun yn hynod o gyhoeddus mewn amrywiol gylchoedd eraill. Aeth o'r Gwynfryn unwaith i Harlech, i Gyfarfod y Feibl Gymdeithas. Gŵr eglwysig pur uchel oedd yno ar y pryd dros y Gymdeithas. Rhoddwyd John Jones i ddechreu y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio, a galwyd arno i siarad drachefn ar ran y Gymdeithas. Siaradodd yntau mor effeithiol, nes oedd pawb wedi myned i wylo, ac nis gallai y gŵr dieithr dros y Gymdeithas wneuthur dim argraff ar ei ol. Bu son mawr am y cyfarfod hwn.

Gwnaeth hefyd araeth gofiadwy yn Nghymdeithasfa Dolgellau, pan oedd achos yr Ysgol Sul dan sylw. Yr oedd yn bresenol yn y Gymdeithasfa hono, John Elias, Ebenezer Richard, William Morris, Cilgeran, a llawer o enwogion eraill. Eisteddai John Jones ar y gallery; galwyd arno i ddweyd gair. Daeth yntau ymlaen i ymyl y gallery, a dywedai,-"Nid oes gen i fawr i'w ddweyd mewn lle fel hyn. Ond yr ydwyf yn cofio y wlad yma yn wahanol iawn i'r hyn ydyw hi yrwan. Yr ydwyf yn ei chofio heb ddim capelau, heb ddim Ysgolion Sabbothol, ac heb fawr iawn o Feiblau yn y tai. Erbyn hyn y mae ysgol a chapel bron ymhob cwm, a Beibl ymhob tŷ. Ond rhaid i mi gofio, os ydym am ddal ein tir, y rhaid i ni lafurio yn gyson. Byddaf fi yn gweled y gofaint yn y wlad yma yn cael yr haiarn adref yn fariau ac yn sheets, yn ol y maint a'r trwch fo arnynt eisiau. Ond rhaid i'r gof gadw ei dân bach ei hun, onide wnaiff o ddim bywoliaeth. Whawn ninau ddim bywoliaeth os na pharhawn ni i lafurio yn gyson gyda yr Ysgol Sul." Yr oedd enwogion y Gymdeithasfa wedi eu gorchfygu o lawenydd wrth wrando ar y sylwadau hyn. Yn ei hen ddyddiau parhai yn golofn i gynal yr achos. Petrusai y blaenoriaid eraill ynghylch derbyn nifer o rai ieuainc yn gyflawn aelodau oherwydd en bod yn wylltion. "Os ydynt yn wyllt," ebai John Jones, "ni wn i beth ellwch wneyd yn well na rhoi ffrwyn yn eu penau nhw." Bu yr hen batriarch farw yn nghanol parch ac edmygedd yr eglwys.

EDWARD JONES, HENDREWAELOD.

Efe a John Jones oeddynt y ddau flaenor cyntaf. Rhoddodd ef dir i adeiladu capel Cwm Nancol arno ar delerau rhesymol. Yr oedd yn ddyn da a deallus. Y mae rhai o'i deulu yn aros yn golofnau wrth yr achos. Oherwydd rhyw amgylchiadau, modd bynag, ymadawodd o'r Gwynfryn i'r Dyffryn, a neillduwyd ef i'r swydd yno cyn diwedd ei oes.

Rhys Sion, Tynllan (wedi hyny o Talygareg); John Owen, a William Rhisiart, Tanywenallt (Tyddynypandy wedi hyny), a ddewiswyd ar ol y ddau uchod. Symudodd John Owen i'r Dyffryn. Symudodd Rhys Sion a W. Rhisiart gyda'r eglwys ar ei sefydliad cyntaf i Lanbedr. Ceir eu hanes mewn cysylltiad a'r achos yno. William Davies, Dinas, fu yn flaenor am dymor. Ymfudodd i'r America. Griffith Williams, Glanrhaiadr, ac Evan Jones, a neillduwyd oddeutu yr un amser, a buont yn gwasanaethu y swydd yn Nancol.

WILLIAM EVAN, GWYNFRYN.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol Tachwedd, 1841. Wrth ddweyd ei brofiad ar y pryd, tystiai fod gwawr wedi tori ar ei feddwl yn ngwyneb y geiriau, "Mae hwn yn derbyn pechaduriaid." Bu ef yn ffyddlon iawn gyda'r achos. Gwnaeth y goreu o'r ddau fyd, canys yr oedd yn hynod ddiwastraff o'i amser Darllenasai y prif erthyglau yn y Geiriadur, ac yr oedd yn eu deall yn drwyadl. Parchai yn ddiledryw weinidogion yr efengyl; gwnaeth benderfyniad pan oedd ei blant yn ieuainc i beidio dweyd yr un gair bach am yr un pregethwr ar yr aelwyd gartref. Ato ef yn benaf y cyfeiriai Mr. Morgan pan y dywedai unwaith mewn Cyfarfod Misol fod blaenoriaid y Gwynfryn yn esiampl yn eu dull o wrando, ei fod ef yn gwybod eu bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwych a'r gwael, ond nas gallai neb ddeall hyny oddiwrth eu dull hwy. Gŵr llednais ydoedd, yn caru heddwch ymhlith y brodyr. Yntau hefyd a aeth i dangnefedd, wedi dioddef ei ran o brofedigaethau ei swydd. Bu farw yn niwedd 1873.

JOHN WILLIAMS, DINAS.

Oddeutu y flwyddyn 1857, dewiswyd yntau yn flaenor, ond gwrthododd ddyfod ymlaen i gael ei dderbyn am ei fod, meddai ef, yn rhy hen. Gweithiodd ei ddiwrnod, er hyny, fel un o wyr ffyddlonaf yr eglwys, ac ni byddai hanes yr eglwys mewn un modd yn gyflawn heb air am dano ef. Os byddai gwendid neu ddiffyg, byddai a'i holl egni yn cynal yr achos; ond tra yr elai pobpeth ymlaen yn rhwydd, byddai ef o'r golwg: nid oedd arno eisiau dangos ei hun. Gofalai yn neillduol am y bobl ieuainc, rhoddai waith iddynt, a thynai hwy ymlaen. Yr oedd llawer o hynodion yn perthyn iddo; dywedai ei feddwl yn ddidderbyn-wyneb, ac ni feddyliai neb am dramgwyddo wrtho. Un tro, mewn committee ar ddiwedd y flwyddyn, dywedai Rhys Sion, "Wel, frodyr, yr ydym wedi bod hyd yma gydag amgylchiadau allanol yr achos, oes gan neb yr un gair i'w ddweyd o ddim arall?" Cymhellwyd John Williams i ddweyd gair. "Wel oes, y mae gen i beth i'w ddweyd," atebai yntau, "ond rhyw bregeth ddigon digrif fydd fy mhregeth i heno; fe'i dywedaf i hi, gwnewch chwithau fel y fynoch â hi wed'yn. William Rhisiart, pan godi di i siarad, dywed yr hyn fydd genyt i'w ddweyd unwaith, a gad rhyngom ni a fo-paid a'i ddweyd o ddwywaith. A phaid a dweyd y cogyn aur hwnw o hyd. A thithau, Rhys Sion, rhaid i ti beidio bod mor hir; yr ydym ni wedi bod yn dweyd hyn wrthyt ti lawer gwaith, a dal ati hi wnawn ni nes y gwnei di altro. William Evan, paid tithau a dweyd dest yr un fath a'r neb fydd o dy flaen-dyfeisia rywbeth dy hun i'w ddweyd. A dyma finau, rhyw benbul ydw ina', does i chwi ddim i'w wneyd ond dal i guro arna i. A dyma Sam yn gymaint penbul a mina'-rhaid i ti beidio bod mor stupid Sam. Edward Davies, rhaid i chwi beidio bod mor boethlyd; hwyrach pe bae y peth fyddwch yn ei ddweyd wedi ei daflu i ganol y llawr i oeri, na byddai yn werth hen fagsen."[2] Dywedir fod y cynghorion hyn yn briodol iawn i bob un, ac er na buasai yn talu i neb arall eu dweyd, nid oedd neb yn meddwl tramgwyddo wrtho ef. Rhagorai ar y cyffredin mewn haelioni, ac yr oedd hyn wedi ei ddysgu iddo er yn blentyn gan ei fam. Pan yn fachgen byddai yn canlyn y cwch ar Lyn Penmaen, ger Dolgellau, ac yr oedd ganddo "gadw di gei" i roddi ei bres ynddo. Ceisiai ei fam ganddo roddi peth at y Feibl Gymdeithas, dywedai yntau nad oedd ganddo ddim i'w roddi; gwnaeth hithau iddo edrych faint oedd yn y box yr oedd yno saith a chwech. "Dyro goron," ebai ei fam, "hwyrach y cei di goron i'w rhoddi tra byddi byw." Gwnaeth yntau hyny, a pharhaodd i'w rhoddi tra y bu byw. Byddai yn rhoddi y goron ar ei phen ei hun, er mwyn gair ei fam, a sovereign at hyny. Ei briod hefyd, Elizabeth Williams, oedd wraig hynod am ei haelioni. Pan yn wraig weddw yn Ymwlch, byddai ei thŷ yn agored i'r holl bregethwyr a elent heibio. Hi fyddai yn gofalu am amgylchiadau allanol y Cyfarfod Misol yn Harlech, ac wedi hyny yn y Gwynfryn.

EDWARD OWEN

a fu yn flaenor yma am dymor tra fu byw yn Cefnisa', ond yn Harlech y bu yn gwasanaethu y swydd hwyaf. Bu farw yn nechreu 1878.

ELLIS EDWARDS, HAFODYCOED.

Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Medi 1878, ond yr oedd wedi gweithio llawer gyda'r achos am faith flynyddau cyn hyny. Y lle y deuai ei ragoriaethau ef i'r golwg yn fawr oedd yn yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn athraw ac yn holwyddorwr da. Bu yn llywydd cyfarfod ysgolion y dosbarth am flynyddau. Dangosodd ffyddlondeb mawr gydag amgylchiadau yr achos, yn enwedig yn ei flynyddau olaf. Yr oedd yn wr ffraeth ei ddywediadau, serchog yn ei gymdeithas, ac yn un o'r cymydogion mwyaf caredig. Yn ei ymadawiad, collodd yr eglwys un o'i phrif golofnau. Bu farw Medi 16eg, 1888.

WILLIAM LEWIS, Y PENTREF.

a fu farw yn bur ddisymwth ddechreu Rhagfyr, 1889. Bu yn wasanaethgar i'r achos yn ol ei allu, ac yr oedd ei dy er's blynyddoedd yn agored i weinidogion yr efengyl. Y mae yr eglwys ar hyn o bryd yn teimlo ei cholled yn fawr ar ei ol.

SAMUEL JONES.

Er colled fawr i'r eglwys, bu yr hen bererin Samuel Jones farw Ebrill 23ain, 1890, yn 81 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor rheolaidd er dechreu 1857. Treuliodd ran gyntaf ei oes yn ddyn ofer; ond wedi ei ddychwelyd daeth yn un o ddeiliaid ffyddlonaf y Brenin Iesu. Pan oddeutu pump ar hugain oed, ac yn fuan ar ol ei ddychwelyd at grefydd, gosodwyd ef yn ddechreuwr canu yn y Gwynfryn, a pharhaodd yn y swydd hyd ddiwedd ei oes. Owen Evans, Talygareg, oedd y dechreuwr canu o'i flaen ef; bu tymor y ddau yn y swydd, wedi eu rhoddi ynghyd, oddeutu pedwar ugain a deg o flynyddau. Tystiolaethir am S. Jones ei fod yn un o'r duwinyddion goreu, y dilynwr moddion gras goreu, y gwrandawr goreu, a'i fod yn nodedig o grefyddol ei ysbryd. Hen bererin hoff! mor nefolaidd ei lais, ac mor debyg i sant yr olwg arno! Y nos Sabbath olaf y bu yn y capel, cynghorai yr eglwys i fod yn ffyddlon i'r moddion, yn enwedig i'r Ysgol Sul, a dywedai am yr anhawsderau a gawsai ef ei hun i ddyfod i'r moddion y diwrnod hwnw. "Ond," meddai, "yr ydw i wedi gwneyd hen benderfyniad i fod yn ffyddlon hyd y medrwn, ac mi ddymunwn,—

Rodio'r llwybr cul bob cam,
A meddwl am fy nghartref."

Mr. William Lewis, Tymawr, a fu yn flaenor am dymor maith, ac a weithiodd lawer gyda'r achos yn ei holl gysylltiadau. Mr. Robert Jones, Gwerneinion, a fu yn gwasanaethu y swydd yn ffyddlon yma cyn ei symudiad yn ddiweddar i'r Dyffryn. Un arall ymhlith y chwiorydd a ddangosodd ffyddlondeb mawr i'r achos, ac a groesawodd lawer ar bregethwyr yr oes bresenol, oedd Mrs. Lewis, Pentref y Gwynfryn. Nid oedd dim yn ormod ganddi hi i'w wneyd yn y ffordd hon.

Oherwydd rhyw achos neu gilydd, bu yr eglwys am flwyddyn heb ddim swyddogion; ac am y flwyddyn hono, gosododd y Cyfarfod Misol y Parch. E. J. Evans, Llanbedr, y pryd hwnw, yn ofalwr am yr achos. Wedi ail ddewis y blaenoriaid, pasiwyd y penderfyniad canlynol yn Nghyfarfod Misol Mai, 1884, "Amlygwyd llawenydd fod yr eglwys yn y Gwynfryn wedi dyfod i'r stât y mae ynddi yn bresenol, ar ol bod mewn amgylchiadau pur ddyrys." O hyny hyd yn awr, â pob peth ymlaen yn llwyddianus.

Yn y flwyddyn 1864, galwyd y Parch. D. Jones, yn awr o Garegddu, i fod yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon a Llanbedr. Bu yn llafurus ynddynt am bymtheng mlynedd, a'i arhosiad yn fendith i'r achos. Bu y Parch. Hugh Pugh, hefyd, yn preswylio yn yr ardal, ac yn weithgar gyda'r achos, hyd ei ymsefydliad yn Lleyn yn y flwyddyn 1889. Y blaenoriaid presenol ydynt, Griffith Williams, Thomas. Lloyd, Edward Evans.

Aelodau eglwysig, 89; gwrandawyr, 225; Ysgol Sul, 174.

Nodiadau

golygu
  1. Traethawd Miss Davies.
  2. Traethawd Miss Davies.