Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Minffordd

Pant Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II

gan Robert Owen, Pennal

Gorphwysfa
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Minffordd (Penrhyndeudraeth)
ar Wicipedia

MINFFORDD.

Mis Mawrth, 1870, y rhoddwyd cymeradwyaeth gan y Cyfarfod Misol i adeiladu capel yn Minffordd, a'r flwyddyn ganlynol y sefydlwyd eglwys ynddo. Y symudiadau gyda'r Ysgol Sul ydyw hanes crefyddol yr ardal yn flaenorol i'r dyddiad hwn. Sefydlwyd Ysgol Sabbothol yn y parth hwn o'r Penrhyn yn y flwyddyn 1843, mewn tŷ anedd o'r enw Tŷ'n-y-ffordd-fawr. Ymhen tair blynedd, symudwyd hi i'r Workhouse, a bu yn cyfaneddu yno am 25 mlynedd cyn adeiladu y capel. Ymhlith eraill, enwir tri brawd a fuont yn flaenllaw gyda hi yn ei dechreuad yn y lleoedd hyn,—David Angel, Cadben Simeon Roberts, Glandon, Thomas Roberts, Plas-yn-Penrhyn. Ceir hanes yr ysgol am y cyfnod hwn yn gyflawn yn yr Adroddiad argraffedig am y flwyddyn 1877, gan Mr. Griffith Williams, Bryntirion. Bu ymdrafodaeth dros rai blynyddoedd i gael ysgoldy i gynal yr ysgol, a rhoddwyd anogaeth ddwywaith gan y Cyfarfod Misol yn niwedd 1865, i anturio ymlaen gyda hyny. Ond yr oedd Mr. Morgan, Dyffryn, gyda'i graffder a'i ffydd arferol, yn eu hanog i'w wneuthur yn gapel ar unwaith. Am ychydig amser yr adeg yma, bu y Parch. John Owen, gynt o Dy'nllwyn, yn preswylio yn y

gymydogaeth. Yr oedd yntau hefyd yn gryf dros wneuthur capel, a hwnw yn gapel da. Achosid yr oediad oherwydd y methid a chydweled am y lle goreu i adeiladu. O'r diwedd, cafwyd tir gan G. A. Huddart, Ysw., Brynkir, ar brydles o 99 mlynedd, gydag ardreth o 5s.

Gadawodd Thomas Roberts, hen arolygwr yr ysgol, trwy ffydd wrth farw, 5p. yn ei ewyllys tuag at adeiladu ysgoldy, yr hyn a fu yn symbyliad i'r ysgol yn y Workhouse ddechreu casglu. Yr oedd ganddynt erbyn amser adeiladu 50p. wedi eu casglu. Costiodd y capel rhwng pobpeth tua 750p. Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad Sul a Llun y Pasg, 1871. Mai 11eg, yr un flwyddyn, bu y Parchn. Robert Parry, a Griffith Williams, dros y Cyfarfod Misol, yma yn sefydlu yr eglwys. Nifer y cyflawn aelodau a symudasant o Nazareth oedd 69. Yn eu plith yr oedd tri o flaenoriaid, Evan Lloyd, Plasnewydd, Cadben Thomas Jones, Penygraig, a Robert Williams, Bryntirion, y ddau gyntaf wedi bod yn y swydd am dros ugain mlynedd, a'r olaf am bump. Yr oedd y lle ar y cyntaf yn daith Sabbath gyda'r Pant—dwy bregeth bob yn ail Sul yn y naill a'r llall. Ond yn 1874, aeth pob un yn daith ar ei ben ei hun. Yn niwedd 1873, cyfarfyddodd yr eglwys â phrofedigaeth fawr, trwy golli, oblegid rhyw amgylchiadau, un o'i phrif arweinwyr, sef Evan Lloyd, Plasnewydd.

Y PARCH, THOMAS WILLIAMS.

Yn y cyfnod hwn ar yr eglwys, gofynwyd i'r Parch. Thomas Williams, yr hwn oedd wedi symud yn ddiweddar i'r Penrhyn o Hwlffordd, i ddilyn ei alwedigaeth fel druggist, i ddyfod i Minffordd i gadw seiat bob wythnos, am yr hyn yr addawyd iddo 3p. yn y flwyddyn. Bu yntau yn hynod o ddiwyd i gyflawni ei ymrwymiad; ni adawai ddim i'w rwystro i ddyfod i'r cyfarfod eglwysig. Ond er gofid i'r eglwys, bu farw yn dra sydyn, Mawrth 24, 1875. Bu y cysylltiad hwn yn hapus a dedwydd pawb yn meddwl yn dda am dano ef, ac yntau yn meddwl nad oedd neb tebyg yn unman i bobl Minffordd. Daeth y parch oedd iddo i'r golwg yn amlwg foreu ei gladdedigaeth, yn y nifer mawr a ymgasglodd ar awr blygeiniol, i'w hebrwng i'r orsaf, pryd y dygwyd ef i'w hen gartref i'w gladdu.

GRIFFITH SOLOMON JONES.

Symudodd i'r gymydogaeth i fyw yn mis Tachwedd, 1873, a bu yn aelod gwerthfawr iawn o'r eglwys. Lletyai nifer mawr o bregethwyr yn wastad yn ei dŷ. Gwnaeth lawer o wasanaeth i'r achos y tymor y bu yma. Bu farw Ionawr 8, 1878.

ROBERT WILLIAMS, BRYNTIRION.

Bu farw Mawrth 23, 1878, yn 42 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am ddeuddeng mlynedd, pump o honynt yn Nazareth a saith yn Minffordd. Yr oedd ef yn hynod am ei ffyddlondeb gyda'r gwaith; byddai achos y capel yn cael llawer mwy o'i sylw na'i amgylchiadau ei hun. Nid oedd dim gormod o drafferth ganddo i'w gymeryd mewn trefnu o gwmpas y capel, heb dâl na diolch gan neb ar y ddaear. Yn Rhagfyr 1877 y cynhaliwyd y Cyfarfod Misol cyntaf yn y capel, am yr hwn yr oedd ei bryder yn fawr, er ei fod yn wael iawn ei iechyd ar y pryd. Ac er ei fod wedi ei gaethiwo i'w dŷ am y tri mis dilynol, byddai yn trefnu pobpeth perthynol i'r achos. Yr wythnos olaf y bu fyw, trefnai yn ei wely i'r ordinhad o Swper yr Arglwydd gael ei gweinyddu y Sabbath dilynol. Ond tra yr oedd yr eglwys yn gwneuthur coffa am angau y Gwaredwr, cymerwyd ef i'w weled wyneb yn wyneb, ac i dderbyn cyfarchiad ei Arglwydd, "Da was, da a ffyddlawn; buost ffyddlawn ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."

Ar ol ei farwolaeth ef, gan nad oedd ond un blaenor ar yr eglwys, anfonwyd am genhadon o'r Cyfarfod Misol i gymeryd llais yr eglwys mewn galw ychwaneg o swyddogion, ac Ebrill 16, 1878, gwnaed y dewisiad cyntaf yn Minffordd, pryd yr etholwyd David Williams, Cae-Ednyfed, W. Solomon Jones, Caecanol, a W. Williams, Llwyncelyn.

HELAETHU Y CAPEL.

Ymhen chwech neu saith mlynedd ar ol adeiladu y capel yr oedd yn llenwi yn brysur, a dechreuwyd parotoi at ei helaethu. Mewn cyfarfod o'r brodyr, pasiwyd y byddai raid i'r helaethiad gynwys lle i 200 yn ychwaneg i eistedd. Bu cryn lawer o wahanol farnau o barth yr helaethiad, rhai yn dadleu dros y cynllun hwn, eraill yn dadleu dros y cynllun arall. Yn y diwedd, penderfynwyd yn unfrydol tynu ei ben i lawr a'i godi yn uwch, estyn pedair llath yn ei hyd, a rhoi oriel arno. Ac mewn cyfarfod brodyr, wrth weled y fath unfrydedd, cynygiodd John Williams, Ystentyr, fod i'r penill hwnw gael ei ganu, yn y fan a'r lle,—

"Wele, fod brodyr yn byw 'nghyd,
Mor dda, mor hyfryd ydoedd !"

A chanwyd ef gyda blas ar ganol y cynllunio gyda helaethu y capel. Mr. O. M. Roberts oedd y cynllunydd, a Mr. John Parry Jones, Penrhyn, y contractor. Aeth yr holl draul y waith hon yn 818p. Yn ystod yr amser y buwyd yn adeiladu, yr oedd y gynulleidfa yn addoli mewn pabell a gyfodwyd ar y draul o 1p. 12s. 6c., am yr hon yr oeddis yn ddyledus i dri o'r brodyr yn neillduol, Solomon Owen, Boston Lodge; Griffith Williams, Bryntirion; ac M. E. Morris. Mae y capel yn awr yn un o'r rhai harddaf a mwyaf cyfleus. Cynhaliwyd cyfarfod yr ail-agoriad Hydref 21ain, 1879, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Dr. Parry, Aberystwyth; Dr. Hughes, Liverpool; a J. Wyndham Lewis, Caerfyrddin. Gwnaethpwyd casgliad neillduol flwyddyn yr adeiladu, yr hwn a gyrhaeddodd, yn annibynol ar gasgliad rheolaidd yr Ysgol Sul, y swm o 193p. 19s. 4c. Derbyniwyd yr un flwyddyn yn y Gymdeithas Arianol, o arian dilôg, 605p. 19s.

CADBEN THOMAS JONES, PENYGRAIG.

Bu farw Mawrth 4ydd, 1879, yn 75 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am dros 30 mlynedd. Un o'r dynion mwyaf siriol, Cristion cywir, swyddog heddychol. Teimlid colled fawr ar ei ol; byddai yn wastad yn y capel, a hyny yn brydlon, a bu congl y sêt fawr yn ymddangos yn wag yn hir ar ei ol.

DAVID WILLIAMS, CAE-EDNYFED.

Bu farw Awst 29ain, 1882, er galar cyffredinol i'r eglwys. Bu yn gwasanaethu swydd blaenor am bedair blynedd, ac yn drysorydd dyled y capel o'r dechreu. Dangosodd ffyddlondeb mawr gyda'r capel, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf haelionus i dalu ei ddyled. Yr oedd yn anhawdd cael neb mwy diymhongar. Profedigaeth fawr iddo oedd cael ei alw i'r swydd o flaenor, nid am nad oedd yn caru y gwaith, ond oblegid ei feddwl bychan o hono ei hun. Byddai ei brofiad yn y cyfarfod eglwysig yn felus, ac amlwg ydoedd ei fod yn cael ei addfedu i'r wlad well. Ei ddiwedd oedd dangnefeddus. Tachwedd 13eg, 1882, galwyd yr eglwys yr ail waith i ddewis blaenoriaid; a'r waith hon neillduwyd tri, John Williams, Ystentyr; M. E. Morris; a Griffith Williams, Bryntirion. A Rhagfyr 26ain, 1889, y bu y neillduad diweddaf. pryd y dewiswyd Charles Beardsell, a David Davies, Rhos.

Y LLYFRGELL.

Yn y flwyddyn 1883, sefydlwyd Llyfrgell mewn cysylltiad a'r capel. Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol ei sefydliad oedd, ymweliad boneddwr o Sais â'r gymydogaeth, o'r enw Mr. Spark Evans, o Bristol. Talodd ymweliad â'r Ysgol Sabbothol, ac mewn anerchiad a gafwyd ganddo, dywedai, mai dau beth oedd yn ei weled ar ol yn y lle, sef yagoldy i gynal yr ysgol, a llyfrgell. Cymerwyd y syniad o gael llyfrgell i fyny ar unwaith. Addawodd y boneddwr 2p. ar y pryd at yr amcan, a rhoddodd yr un swm drachefn. Traddododd y Parch. W. Jones, y gweinidog, ddarlith, oddiwrth yr hon y cafwyd elw da i gychwyn y symudiad. Cafwyd symiau gan foneddwyr eraill, a nifer o lyfrau o bell ac agos. Ac yn ddiweddaf oll, cafwyd 7p. 10s. oddiwrth ewyllys y diweddar Mr. David Jones, Liverpool, trwy ei gymun-weinyddwyr. Y mae ynddi yn bresenol dros 700 o gyfrolau. Mr. M. E. Morris ydyw y llyfrgellydd o'r dechreu.

TALU DYLED Y CAPEL.

Yn 1887 gwnaed ymdrechion neillduol i dynu i lawr ddyled y capel. Wedi gweled hysbysiad fod y diweddar Mr. David Jones, Liverpool, wedi gadael arian yn ei ewyllys at dalu dyled capelau, apeliwyd ar unwaith at y cymun-weinyddwyr am ran o honynt, ac yn rhwydd caniatasant y cais. Derbyniwyd ganddynt 25p., yr hyn a'u galluogodd i dalu y flwyddyn hono 119p. 4s. Y ddyled ar ddechreu y flwyddyn hon (1890) oedd 364p. 13s. 5c.

JOHN WILLIAMS, YSTENTYR.

Bu farw Tachwedd 27ain, 1889, wedi bod yn flaenor yr eglwys am saith mlynedd, ac wedi bod a llaw bwysig gyda'r achos o'r dechreuad. Efe, ar adeg ei farwolaeth, oedd yr unig un oedd yn aros o sylfaenwyr yr Ysgol Sabbothol yn y gymydogaeth, gyda'r hon y gweithiai yn egniol hyd y diwedd, er wedi myned yn hen mewn dyddiau. Symudai ymlaen gyda'r oes, a byddai yn selog o blaid pob symudiad newydd, er llwyddiant yr achos. Ni bu neb yn fwy cefnogol i'r weinidogaeth a bugeiliaeth eglwysig. Credai yn sicr fod yr Ysbryd Glan yn arwain yr eglwysi gyda'r mater hwn. Teimlir chwithdod ar ei ol yn hir gan y rhai mwyaf adnabyddus o hono.

Yn y flwyddyn 1881, dechreuodd Mr. M. E. Morris bregethu; pregethodd ei bregeth gyntaf Mai 11eg. Ymhen amser, aed a'r achos i'r cyfarfod dosbarth, ac oddiyno i'r Cyfarfod Misol, lle y derbyniwyd ef fel pregethwr. Yn hâf y flwyddyn 1875, cydunodd yr eglwys gyda Nazareth i alw gweinidog; a Mehefin 21ain, dewiswyd yn unfrydol y Parch. William Jones (y pryd hwnw o Benmachno). Yn niwedd 1885, torwyd y cysylltiad hwn—"cysylltiad," yn ol tystiolaeth y swyddogion, "a fu yn un o'r rhai hapusaf o'r naill ochr a'r llall," trwy symudiad Mr. Jones i Liverpool. Hydref 18fed, 1888, cymerwyd llais yr eglwys drachefn, pryd y galwyd yn unfrydol y Parch. Robert Roberts, Tyldesley, i fod yn weinidog rhwng yma a Gorphwysfa, a dechreuodd yntau ar ei waith yn nechreu 1889.

Mae yr eglwys erbyn hyn (Mai 1890) yn yr ugeinfed flwyddyn o'i hoedran. Mae y prif arweinwyr oedd ynddi yn y dechreuad oll wedi myned. O'r 69 oedd yn ffurfio yr eglwys ar y cyntaf, nid oes yn aros yn awr ond 26: mae 28 wedi meirw, a'r gweddill wedi symud i leoedd eraill. Rhif y cyflawn aelodau ddechreu y flwyddyn hon (1890) oedd 156, y gwrandawyr 256, Ysgol Sul 183.

Y blaenoriaid yn awr,—Mri. William Williams, Griffith Williams, Charles Beardsell, David Davies.

Nodiadau

golygu