Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II/Tabernacl
← Rhiwbryfdir | Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II gan Robert Owen, Pennal |
Garegddu → |
TABERNACL.
Y Tabernacl ydyw un o'r capelau mwyaf a berthyn i Orllewin Meirionydd, ac ynddo yr ymgynillai y gynulleidfa fwyaf, a'r eglwys liosocaf, yn ystod yr ugain mlynedd o 1870- i 1890. Ac eto mae yn briodol hysbysu ar y dechreu mai Chwefror 14, 1864, yr agorwyd y capel ac y ffurfiwyd achos ynddo gyntaf. Bethesda oedd yn gofalu am grefydd yr oll o'r ochr hon o ardal Ffestiniog yn flaenorol i'r adeg yma... Sefydlwyd Ysgol Sul gan y rhai mwyaf blaenllaw a berthynent i'r achos yn Bethesda, mewn lle a elwid Cloddfa Lord, yn y flwyddyn 1850, ac i hon yr olrheinir dechreuad yr achos yn y Tabernacl.
Mae hanes symudiadau a gweithrediadau yr ysgol hon wedi ei ysgrifenu yn fanwl gan y diweddar John Jones, diacon. ffyddlawn yn eglwys y Tabernacl, ac wedi ei gyhoeddi gan Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth am y flwyddyn 1875. Yr oll ellir wneyd yma ydyw crybwyll y prif ffeithiau yn yr hanes, er dangos y modd y daeth y cnewyllyn bychan bob yn ychydig yn eglwys gref a lliosog. Rhif yr ysgol pan yn Lord oedd o 50 i 60, ac yr oedd pawb o drigolion y gymydogaeth yn perthyn iddi oddigerth un neu ddau. Anfonid brodyr o Bethesda i gynorthwyo i'w dwyn ymlaen. Ac nid oes odid yr un o ddynion mwyaf blaenllaw y gymydogaeth yn y cyfnod hwnw na bu ganddo ryw law yn ei hadeiladu. Ond yr un fu ffyddlonaf iddi, y tu allan i gyffiniau uniongyrchol y gymydogaeth, ydoedd John Jones y crybwyllwyd am dano, sef ysgrifenydd hanes yr ysgol. Cynhelid cyfarfodydd gweddio hefyd yn yr un lle ar nos Sul a nosweithiau ganol yr wythnos, a chyfarfodydd eglwysig ar eu hol, a chafodd y bobl flas arnynt, fel y daeth holl ddeiliaid yr ysgol, oddieithr un neu ddau, yn aelodau eglwysig. "Ac yn un o'r cyfarfodydd hyn, yn Plasyndre, y torodd y diwygiad yn y flwyddyn 1859 allan gyntaf yn yr ochr hon i'r gymydogaeth." Gwna John Jones, yn ei ysgrif ar hanes Ysgol Lord, y sylw canlynol:—"Yn yr ysgol hon y cafodd y Parch. R. Owen, M.A., Penal, y cyfle cyntaf neu yr ail i ymarfer ei ddawn fel pregethwr." [Mae y tŷ lle cynhelid y moddion y Sabbath hwnw er's blynyddoedd wedi ei gladdu o dan domenydd y chwarel]. Symudwyd yr ysgol, oherwydd afiechyd yn y tŷ lle y cedwid hi, o Lord i'r Uncorn, yn agos i Fourcrosses. Ac yn yr Uncorn, mewn dau dy o dan yr un tô, sef tŷ Humphrey Jones a thŷ Griffith Jones, y bu yr ysgol hyd nes y symudwyd hi i'r Tabernacl yn 1864.
Y crybwylliad cyntaf o berthynas i fodolaeth y Tabernacl ydoedd mewn ymddiddan a gymerodd le rhwng hyrwyddwyr yr ysgol, pan yn dyfod i lawr o Lord y Sabbath diweddaf y cynhaliwyd hi yno. Meddyliodd y brodyr i ddechreu am gael ysgoldy, naill ai rhwng Trefeini a Chloddfa Lord, neu yn Fourcrosses. O'r diwedd, syrthiodd eu meddwl ar y lle diweddaf. Anfonwyd dau frawd oddiwrth yr eglwys yn Bethesda John Hughes, Tanygraig House, a Robert Evans, Cae Du-yn ddirprwyaeth at oruchwyliwr Arglwydd Newborough, i ofyn am le i adeiladu, ond aflwyddianus fu eu cais. Anfonwyd cais yr ail waith at yr uwch-oruchwyliwr, Mr. Elias, o'r Abbey, ger Llanrwst, yr hwn yn serchog iawn a roddodd bob cefnogaeth i'r symudiad, ac anogodd y cyfeillion i wneyd cais, nid am ysgoldy, ond am gapel ar unwaith, gan yn sicr y byddai ei eisiau, a hyny yn fuan. Wedi disgwyl, pa fodd bynag, yn bryderus am amser, "derbyniwyd atebiad i'r perwyl fod Arglwydd Newborough yn gwrthod y cais." Credid mai teimlad sectaidd oedd wrth wraidd y gwrthodiad. Dyma yr eglurhad paham na buasai y capel wedi ei adeiladu yn Fourcrosses, lle yr oedd llawer yn credu y pryd hwnw mai y fan hono yr oedd ei le. Gwnaed cais y drydedd waith, trwy Mr. John Vaughan, Tanymanod, i gael lle i adeiladu yn y fan agosaf a ellid i Fourcrosses. Aeth y cais hwn drachefn yn fethiant. "Wel," ebe Mr. Vaughan, " yr oll yn ychwaneg a allaf ei wneyd ar eich rhan yw cynyg yr eiddof fi fy hun i chwi yn y cyfeiriad yna." Y canlyniad a fu, derbyn y cynygiad hwn, a sicrhawyd y tir trwy bryniad. Penderfynwyd i'r capel fod yn 63 troedfedd wrth 51 oddifewn. Dewiswyd Mr. Ellis Williams, Porthmadog, yn gynllunydd, a derbyniodd ei gynlluniau gymeradadwyaeth y pwyllgor, a'r Cyfarfod Misol hefyd a gynhaliwyd yn Nhrawsfynydd, Medi, 1861. Wedi cael rhai siomedigaethau ynglyn â'r adeiladu, dygwyd y gwaith i ben, ac megis yn yr anialwch gynt "Codwyd y Tabernacl."
Sabbath, Chwefror 14, 1864, y cynhaliwyd gwasanaeth crefyddol ynddo gyntaf, a'r ysgol am ddau o'r gloch. Dechreuwyd y gwasanaeth gan Mr. Richard Williams, Hafodlas (gynt o Lwynygell). Am chwech yn yr hwyr, daeth cynulleidfa Bethesda oll yma, a phregethwyd gan y Parch. Thomas Gray. Y Sabbath canlynol, pregethwyd ynddo gan y gweinidog, y Parch. Owen Jones, B.A., a'r Parch. Evan Roberts, yn awr o'r Dyffryn. Chwefror 28, cynhaliwyd cyfarfod i agor y capel, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Hughes, Caernarfon, E. Morgan, Dyffryn, a Dr. Parry, Bala. O hyny hyd yn awr, y mae wedi bod yn daith gyda Bethesda, a dau bregethwr yn gwasanaethu bob Sabbath. Ymadawodd o aelodau o Bethesda i'r Tabernacl 170. Ar ddiwedd y flwyddyn 1864, yr oedd eu rhif yn 213; yr Ysgol Sul yn 315; y gwrandawyr yn 420. Bu cynydd cyson ar yr achos hyd 1877, pryd yr ymadawodd rhan o'r gynulleidfa o'r eglwys i Garregddu. Cyn yr ymraniad hwn, rhifai y cymunwyr 560; Ysgol Sul 825; gwrandawyr 1100. Bu Bethesda yn dra charedig wrth eglwys y Tabernacl ar ei chychwyniad. Yr oeddis wedi casglu yr yr Ysgol Sul yno, a chan gyfeillion eraill, uwchlaw 500p., yr hyn a gyflwynwyd i'r Tabernacl tuag at ddechreu byw. Rhoddodd Bethesda, hefyd, yr oll oedd yn y Gymdeithas Arianol i'r frawdoliaeth pan yn ymadael, ac yr oedd ynddi, ar y pryd, o 1300p. i 1500p., fel nad oedd raid iddynt dalu dim llog ar y ddyled oedd ar y capel.
Er cael golwg ar haelioni a gweithgarwch yr eglwys, mae y ffeithiau canlynol wedi eu casglu ynghyd, y rhai ydynt yn dra dyddorol. Costiodd y tir, a'r capel, a'r tai, dros 3700p. Gwariwyd hyn y blynyddoedd cyntaf. Yn 1869, rhoddwyd gallery ar y capel, trwy draul o 550p. Yn 1876, gwariwyd 150p. i wneyd gwelliantau ar y ffordd sydd yn arwain at y capel o gyfeiriad Fourcrosses. Ymhen ychydig wedi hyn, prynwyd darn o dir yn dal cysylltiad â'r ffordd hon gan Gwmni Chwarel y Diphwys, am y swm o 120p. Gan mai eglwys y Tabernacl oedd yn cymeryd y cyfrifoldeb o adeiladu y Garegddu, ac i nifer mawr o'r aelodau symud yno, caniatawyd rhodd arianol iddynt o 300p., yr hyn a dalwyd yn y flwyddyn 1877. Ac ar eu symudiad yno y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd 10p. iddynt at y weinidogaeth, a swm cyffelyb i'r eglwys Saesneg yn y Blaenau, oddeutu yr un adeg. Yn y flwyddyn 1881, adeiladwyd ysgoldy at wasanaeth yr Ysgol Sul yn Nhrefeini, a thŷ ynglyn âg ef, ar brydles, ac am ardreth o 1p. 10s. yn y flwyddyn. Y draul gyda hyn, 575p. 17s. 4c. Wedi rhoddi y symiau uchod at eu gilydd, ceir fod dros 5400p. wedi ei wario mewn cysylltiad â'r adeiladu yn y Tabernacl. I gyfarfod â'r ddyled, bu y Gymdeithas Arianol yn fanteisiol iawn i'r achos yma. Nid yn unig arbedwyd talu Hogau drwyddi, "ond caed digon i ffurfio trysorfa wrth gefn, yr hon oedd yn cynyrchu llog er gostwng y ddyled." Y mae clod yn ddyledus i drysorydd y gymdeithas, y diweddar Edward Evans, Fourcrosses, ffyddlondeb a sel yr hwn oedd yn ddiarhebol. Ffordd arall i dalu y ddyled ydoedd gwneuthur casgliad bob Sabbath yn yr Ysgol Sul. Casglwyd, yn y dull hwn, erbyn diwedd 1875, swm yn cyraedd dros 1900p. Mae yr hyn a wnaethpwyd bob blwyddyn i'w weled yn Adroddiad argraffedig Ysgolion Sul y dosbarth am y flwyddyn hono. Mewn canlyniad i'r ymdrechion hyn, ni bu swm y ddyled ond bychan y pymtheng mlynedd diweddaf. Y flwyddyn hon (1890), mae ysgoldy ynglyn â'r capel, ynghyd ag ystafelloedd eraill, yn cael eu hadeiladu, a bernir y bydd y draul oddeutu 1200p. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog oddeutu yr un amser a'r capel-Bethesda a'r Tabernacl yn gyd-gyfranog i ddwyn y draul. Fel y canlyn y mae rhestr y swyddogion. Ymysg y rhai a symudasant o Bethesda i'r Tabernacl yr oedd dau swyddog, sef John Hughes, Tanygraig House, a David W. Owen, Glandwyryd. Ymadawodd yr olaf, ymhen amser, i Liverpool. Y blaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys oedd John Jones, y Tabernacl, ymhen tua blwyddyn ar ol sefydliad yr eglwys, sef yn 1865. Yn 1873, neillduwyd Mri. Owen S. Jones, John Parry Jones, Llanberis, a Hugh Jones, y Bank. Oherwydd rhyw resymau, gwrthododd y diweddaf weithredu fel swyddog. Ceir crybwylliad am enw Mr. J. Parry Jones mewn cysylltiad âg ysgol y Garegddu. Ni bu ond ychydig flynyddau yn swyddog yn y Tabernacl, gan iddo symud i Lanberis, ac wedi hyny i'r America. Mae Mr. O. S. Jones yn aros eto gyda'r achos. Yn nechreu 1877, dewiswyd Mri. David Jones a J. Parry Jones, U.H., y Bank. Y cyntaf yn aros eto, a'r olaf wedi symud gyda'r eglwys i Garegddu. Trachefn, yn 1883, dewiswyd Mri. Edward Edwards, Gelli, a Kichard Williams, Penybryn Terrace; a hwy, gyda Mr. O. S. Jones, a Mr. D. Jones, ydyw blaenoriaid yr eglwys yn bresenol.[1]
Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. Robert Hughes, yn awr o'r Lodge, Sir Fflint, a'r Parch. Edward Joseph, yn awr o Williamsburgh, Iowa, America, bregethu. Daeth y Parch. Owen Jones, B.A., yn weinidog ar eglwysi Bethesda a'r Tabernacl yn Ionawr, 1864, mis cyn agoriad y Tabernacl. Ymadawodd i Liverpool Mehefin, 1872. Dechreuodd y Parch. T. J. Wheldon, B.A., ar ei waith fel gweinidog y ddwy eglwys y Sabbath cyntaf yn Ionawr, 1874, ac y mae yn parhau yn yr un cysylltiad mewn llafur a gweithgarwch mawr hyd yn bresenol.
SYLWADAU COFFADWRIAETHOL.
JOHN JONES.
Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol fel blaenor yn y Tabernacl, Tachwedd 5, 1865; bu farw Mawath 29, 1888. Cyfeiriwyd ato eisoes fel un o'r rhai blaenaf gyda'r Ysgol Sul a fu yn gychwyniad i'r achos yn y lle hwn. Parhaodd a'i ysgwyddau yn dyn o dan yr arch, ac yn swyddog defnyddiol hyd ei farwolaeth. Yr ydoedd yn wr deallus a phwyllog, a mawr ei ofal am yr achos yn ei holl ranau; yn ddarllenwr cyson, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Byddai yn barod bob amser gydag adnod o'r Beibl ar bob amgylchiad. Ei hoff waith fyddai ceisio dadrys cwestiynau dyrus, a chwilio i wirioneddau mawrion y prynedigaeth. Ymadawodd â gwlad y cystudd mawr ag arwyddion amlwg arno ei fod yn myned i'r orphwysfa dragwyddol.
JOHN HUGHES
Daeth ef yma yn swyddog gyda'r eglwys ar ei chychwyniad; bu farw Rhagfyr 7, 1889. Yr oedd yn fab i un o hen gymeriadau mwyaf gwreiddiol a duwiol y gymydogaeth, sef Samuel Jones, Tanygraig. Wedi ei fagu yn un o'r brodorion, ac yn ngeiriau y ffydd, daeth bob yn dipyn yn un o'r colofnau gyda chrefydd. Gwnaeth ymdrech neillduol tra yn ieuanc i gyraedd gwybodaeth. Bu am dymor yn Athrofa y Bala, a chymhwysodd ei hun i fod yn ysgolfeistr. Gwasanaethodd swydd athraw yr Ysgol Frytanaidd yn Ffestiniog ac yn Sir Fon. Wedi hyny ymsefydlodd fel masnachwr yn ei ardal enedigol. Yr oedd yn wr boneddigaidd ei ysbryd, a chadwai ymhell rhag rhoddi tramgwydd i neb. Eto pan gynhyrfid ei ysbryd, byddai yn eiddigus iawn dros achos yr Arglwydd, ac yn hallt yn erbyn pob arferion drwg. Yn ei gystudd diweddaf cafwyd arwyddion amlwg ei fod yn addfedu i'r wlad well, a gadawodd argraff ar feddwl pawb ei fod yn wir Gristion, ac y mae ei goffadwriaeth yn berarogl yn yr eglwys lle yr oedd yn swyddog.
Nodiadau
golygu- ↑ "Galwyd Mr. J. Morgan Jones yn swyddog, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Gorphenaf, 1890.