Hanes Niwbwrch/At y Darllenydd
← Hanes Niwbwrch | Hanes Niwbwrch gan Owen Williamson |
Cynhwysiad → |
AT Y DARLLENYDD.
ER mai gyda llawer o betrusder a phryder mawr yr anfonir y llyfryn bychan hwn i blith cynhyrchion cyhoeddedig llenorion Cymreig, eto hyderir y bydd i'r nodion, y sylwadau, a'r casgliadau ddifyrru, dyddori, a goleuo y dosbarth hwnnw o ddarllenwyr ag sy'n caru ymbleseru ychydig yn nyffrynoedd hynafiaeth, yn gweled gwerth yn y pethau bychain, ac yn chwenychu cadw i fyny goffadwriaeth y tadau y rhai a osodasant i lawr sylfeini y cysuron presennol, ac a hauasant hadau dyrchafiad cymdeithasol yn Niwbwrch.
Ymdrechwyd portreadu y gwahanol gyfnewidiadau yr aeth yr hen faenor drwyddynt o'r canoloesoedd tywyll i'n dyddiau ni; ceisiwyd dangos Niwbwrch yn ei pherthynas a'r symudiadau cymdeithasol a gwleidyddol a gynhyrfent Môn o ddyddiau Harri VIII. i deyrnasiad Sior II.; ac eglurwyd achosion y dyrchafiad mawr diweddar ag sydd wedi hynodi yr hen dreflan mewn mwy nag un ystyr,
Os y digwydd i'r darllenydd gael gronyn bychan o'r pleser mawr a gafodd casglydd y nodion wrth loffa yn y gwahanol feusydd, ni fydd yr anturiaeth yn ddi-fudd.
Treuliwyd llawer o flynyddoedd i gasglu y crynswth defnyddiau y rhai fuont gynorthwyon i gyfansoddi y llyfr. Darllenwyd llawer o lyfrau; gwnaed amrywiol ymchwiliadau ; ac ymdrechwyd ffurfio dolennau i gysylltu y gwasgaredig, a phontydd i groesi y rhwystrau, fel ag i wneud y cyfan yn rhyw fath o hanes helyntion Niwbwrch yn yr oesau diweddar.
Mae fy nghynorthwywyr o bob gradd a dosbarth yn rhy liosog i'w henwi yma, am hynny yr wyf ar unwaith yn cydnabod fy rhwymedigaethau iddynt oll,—i'r rhai a'm cynothwyasant â defnyddiau, ac yn enwedig i'r rhai a roisant gynghorion gwerthfawr i mi ac a estynasant gymorth sylweddol fel tanysgrifwyr, ymhell uwchlaw fy nisgwyliadau.