Hanes Niwbwrch/Lleoedd hynod yn y Plwyf

Moddion Addysg Hanes Niwbwrch

gan Owen Williamson

Rhestr Morwyr a enillasant drwyddedau

18.—LLEOEDD HYNOD YN Y PLWYF

Abermenai: Penrhyn bychan tywodlyd gyferbyn a'r Belan. Yr oedd gynt yn Borth mewn cymundeb â Chaernarfon. Ysgraff y borth yma a gariai lawer o gynhyrchion amaethyddol Môn i'r farchnad yn y dref honno. Ar y 5ed. o Ragfyr, 1785, dydd Ffair y Gauaf, suddodd yr ysgraff a boddodd yn holl deithwyr (54) ond un,—Hugh Williams, Ty'n Llwyden, ger Aberffraw, yr hwn a rwymodd ei hun ar rwyf a hwylbren ac a gyrhaeddodd y lan yn fyw ar oror Tal y Foel. Ymhlith yr anffodusion yr oedd y deunaw a enwir o Niwbwrch:—William Jones, Gwning-gaer, a Mary ei ferch; Griffith Griffith, Neuadd wen; Robert Thomas, porthwas; Thomas Williams, porthwas, Pendref; Y Parch. M. Pughe, curad, ac Anne ei wraig; Mary Evans, morwyn Abermenai; Margaret. merch Hugh W. Jones; Elizabeth, gwraig William Dafydd, Ty'n Rallt; Jane Owen, gwraig Thomas Prichard; Jane Abram, Ty Lawr; Richard Isaac, Sign Fawr; Margaret Hughes, gweddw; Richard a Mary, mab a merch William Thomas, Plâs; Mary, gwraig Owen Shôn Dafydd; John, mab Thomas Shôn Morgan; Mary Williams, morwyn Pendref.

Cyfyngwyd yr enw Abermenai i'r hen dŷ a'r Borth y cyfeiriwyd ati, ond y mae 'n debyg fod yr hen Abermenai oesoedd yn ol yn golygu yr holl gulfor rhwng Tal y Foel a Chaernarfon a'r Belan. Cyn i'r tywod ffurfio traeth Abermenai a'r banciau gyferbyn a Thal y Foel, yr oedd yma angorfa fawr a chyfleus i lyngesoedd o longau ac ysgraffau. Fel hyn y dywedir yn "Hanes Gruffydd ap Cynan": "Ac yna ydd (yr) oedd Gruffudd yn Abermenai nid amgen y porthloedd (porthleoedd) a ddywedpwyd uchod."

Etto:—"Ac wrth hyn ynteu a ymchoelws (ymchoelodd) parth ac wlat gan rwyaw (rwygaw) dyfnforoedd a deg llong ar hugeint llawn o wyddyl a gwyr Denmarc, ac yn Abermenei y disgynent." Ac etto:-"Yno hefyd ydd oedd Angharat frenhines ei wreic briawt ynteu ac iddi hi y rhoddes ynteu hanner ei dda a dwy randir, a phorthloedd (porthleoedd) Abermenei."

Gwelir fod Abermenai yr hynafiaid yn cynnwys mwy nag un borth. Abermenai ddiweddar oedd un, a'r lleill efallai oeddynt Gaerynarfon a Thal y Foel. Yr oedd yn rhaid cael angorfa eang i gynnwys "deg llong ar hugeint," (30 vessels).

Bryniau: Amaethdŷ ar gopa craig ddifyr i'r gogledd o'r pentref. Cynhwysai'r etifeddiaeth gynt amryw dyddynod,—megis Tan Lan, Cerrig Mawr, Cefn Mawruchaf, Caeaugwynion. Mae côf-lêch yn yr Eglwys ac arni yn gerfiedig enwau tri o offeiriaid,-Y Parchn. Rowland Lloyd, Lewis Hughes, a Rowland Hughes y rhai oeddynt berchenogion olynol etifeddiaeth y Bryniau. Lewis Hughes oedd y perchennog yn amser Rowlands yr hynafiaethydd. Dywedodd Richard Jones, Tyddyn pwrpas, wrthyf mai Huwsiaid y Brwynog y gelwid y perchenogion yn amser ei nain ef. Clywais mai yn Llanllibio y mae Brwynog. Gwerthwyd Bryniau a'r tyddynod eraill i wahanol bersonau rai blynyddoedd yn ol.

Cefn Bychan: "Margaret Wynn o Gefn Bychan, plwyf Niwbwrch, a adawodd ddeng-erw-ar-hugain o dir, gan drefnu i'w ardreth gael ei ranu rhwng dwy ddynes oedranus, un i fod o blwyf Llangwyfan, a'r llall o blwyf Llanbedr-goch."

Cefn Mawr isaf: Amaethdŷ hardd ar derfyn y plwyf ar ochr y ffordd ynghyfeiriad Llangaffo. Y perchennog ydyw Mr. Richard Hughes, cyn-Gynghorydd Sirol dros ddosbarth Llangeinwen.

Frondeg: Saif y lle hwn ar yr ochr arall i'r ffordd ac ychydig nes i Langaffo. Dywedir i'r hen blâs oedd yma hyd yn ddiweddar gael ei adeiladu yn nheyrnasiad Harri VIII. Yma y trigai Lewis Owen, Frondeg, mab i Owen Meuric, Bodowen neu Bodorgan. (Yr oedd y ddau le yma yn yr hen amser yn perthyn i un teulu.) Lewis Owen oedd cynrychiolydd y Sir yn seneddau 1553, a 1572. Y gwr hwn, meddir, a brynodd y Rhandir o Glan Morfa i Grochon Caffo. Yr oedd William Owen, Frondeg, yn siryf yn 1633. Yn fuan ar ol marwolaeth William Owen, yr etifeddes Ellen Owen a ddyroddodd yr etifeddiaeth drwy ewyllys i Syr Arthur Owen, Barwnig, pennaeth y teulu, a pherchennog etifeddiaethau mawrion yn Siroedd Môn a Phenfro. Prynwyd yr etifeddiaeth yn Môn gan y Parch E. Hughes, tad Arglwydd Dinorben, etifedd yr hwn a'i gwerthodd tua chwarter canrif yn ol Prynwyd Frondeg a thiroedd eraill gan Mr. Owen, Plas Penrhyn.

Ar dir Frondeg fel cilbost lidiart gyferbyn a Lôn Dugoed, yr oedd hen garreg fawr arw, ac arni lythyrenau o arddull a cherfiad tra henafol. Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif bu Lewis Morris (Llewelyn ddu o Fôn) tra ar ymweliad yn Frondeg, yn ceisio deongli yr argraff sydd arni. Dywedir mai math o Gymraeg Lladinaidd yw'r iaith, ac fod y nodiad yn disgrifio rhyw oresgyniad ddigwyddodd lawer o ganrifoedd yn ol. Os bydd rhywun yn awyddus i ddattod cwlwm dyrys a deongli ysgrifen ddieithr, eled i Festri Eglwys Llangaffo a darllened. Symudwyd y garreg o'i hen le, gyda chaniatâd y perchennog, gan y diweddar Barch. W. Wynn Williams, Menaifron, a gosodwyd hi ymhared y Festri.

Gorphwysfa a'r House: Mae'r tai hyn yn nesaf at eu gilydd, ac yn sefyll yn Heol Malltraeth. Tai diweddar yw'r adeiladau presennol wedi eu codi ar sylfannau tai henach. Efallai fod yr hen dai wedi eu hadeiladu yn amser yr adfywiad pan adeiladwyd y plâsau. Hwyrach i'r House gael ei fwriadu fel neuadd newydd neu dŷ y Gynghorfa, ac i Gorphwysfa gael ei adeiladu i fod yn dŷ y Maer pan ymwelai a'r dref. Hyd yn ddiweddar yr oedd regalias a chofnodion y dref yn cael eu cadw yn yr House.

Llanddwyn: Yr oedd Llanddwyn, cynwysedig o'r penrhyn a elwir felly yn awr, a'r Gwning-gaer Fawr, yn blwyf pwysig gynt ac yn brebendariaeth yn Esgobaeth Bangor, cyn iddo gael ei ddiffeithio gan drwch mawr o dywod. Byddaf fi yn meddwl mai enwau hen amaethdai plwyf Llanddwyn (ond yn awr yn bonciau tywod) ydyw Y Fuches, Cerrig Gwladus, Bryn-Llwyd, Bryn Ysgawen, Penrhos, a Cherrig Duon neu Deon. Ar un adeg Deon Bangor oedd Prebendari Llanddwyn. Gwr enwog oedd y Deon Du, sef Risiart Cyffin, yr hwn a gymerodd ran amlwg a blaenllaw yn nyrchafiad Harri VII, i'r orsedd yn 1485.

Yr oedd Ffynnon Dwynwen Santes yn enwog fel cysegr-fan cariadau y rhai a offryment roddion yma er mwyn cael rhwyddineb yn y llwybrau dyrys a dieithr hynny y mae ieuengctid yn eu troedio cyn priodi. Yr wyf yn casglu y byddai y partion dyweddiedig yn torri prif lythyrenau eu henwau yn y dywarchen lâs a orchuddiai ochrau a chopa Craig Esyth, lle y saif y Goleudŷ arno yn awr.

Ar ol dadgorphoriad y priordai yn nheyrnasiad Harri VIII., daeth y plwyf i feddiant teulu Bodowen; ac yn ddilynol i orchuddiad Llanddwyn gan dywod gwnaed y plwyf yn Gwning-gaer Fawr,(rabbit warren).

Ty yn gysylltiol â'r etifeddiaeth yma, fel yr wyf yn casglu, oedd y Plas Newydd yn Heol Pendref, oherwydd dywed Rowlands fod Gibbon Owen, brawd i Lewis Owen, Frondeg, yn byw yn Niwbwrch. Daeth etifeddiaethau Bodowen i feddiant Arglwydd Dinorben yr hwn a arferai osod y Gwning-gaer Fawr i'w ddeiliad (tenant) fyddai yu byw yn Plas Newydd ac yn dal Brynhowydd.

Pan werthwyd yr etifeddiaeth gan yr Anrh. R. Hughes, Kinmel, Arglwydd Raglaw Sir Fflint, etifedd Arglwydd Dinorben, prynwyd y Gwning-gaer Fawr gan y Parch. H. Prichard, Dinam Hall, Llangaffo. Mae'r penrhyn, ynys, neu orynys, a adnabyddir yn awr wrth yr enw Llanddwyn, yn aros o hyd ym meddiant Mr. Hughes, Kinmel. Mae rhannau o furiau yr hen eglwys yno yn aros fel tyst i dduwioldeb yr hynafiaid.

Canodd Lewis Glyn Cothi fel hyn,

"Ynys Von yw fy ennaint,
Ynys yw hiliawn o saint;
Ynys Colchos wrth Rossyr,
Ynys Roeg yn sirio gwyr."


Mae'n debyg y cyfeirir yma at Ynys Llanddwyn fel yr oedd yn lle cysegredig gynt. Byddai y penrhyn lle y mae gweddillion yr hen eglwys i'w gweled, weithiau yn ynys ac weithiau yn orynys yn ol mympwy y gwynt, y môr, a'r tywod. Gwnaed argae yn ddiweddar i gysylltu 'r lle a'r Gwning-gaer Fawr, fel y mae yno "Wddw" sefydlog fel tramwyfa. Deiliaid y lle ydynt ymddiriedolwyr Porthladd Caernarfon, y rhai a gadwant bedwar o ddynion yma fel gwylwyr y Goleudŷ, ac fel rhan o ddwylaw y bywydfad. Cyn sefydlu y darpariaethau hyn byddai llong-ddrylliadau lawer ar y gororau hyn yn flynyddol. Tua phum mlynedd a deugain yn ol cipiwyd W. Owen, Gallt y Rhedyn, o'r bywyd-fad tra yr oeddys yn ceisio cyrraedd llong mewn perygl ar un o'r banciau. Yn 1863 collodd Evan Prichard, Cerrig y beitio ger Dwyran, a'i fab John eu bywydau wrth geisio myned i'r Ynys mewn trol pan oedd y llanw yn rhyferthwy gorwyllt yn ysgubo trwy'r Gwddw ac yn torri y cymundeb rhwng yr Ynys a'r lan. A thua deunaw mlynedd yn ol suddodd cwch y gwylwyr a boddodd tri o honynt, ynghyda dau fachgen bychan, ar unwaith. Robert Robers, Dywades, John Jones, Cerrig Mawr' a'i fabmaeth, oedd tri o honynt. Gwyliwr nad ydwyf yn gwybod ei enw, a'i fachgen oedd y ddau arall.

Ymwelir a Llanddwyn bob Haf gan lawer a bleserwyr. Nis gellir mwynhau difyrrwch, awyr iach, a golygfeydd prydferth, yn well mewn un man nag yn yr Ynys dawel hon. Yr wyf yn cofio rhai o'r hen wylwyr megis John Jones, a'i fab William Jones, Griffith Griffiths, a Hugh Jones. Y gwylwyr presennol ydynt Thomas Williams, llywydd y bywydfäd, Richard Hughes, William Jones, a Henry Jones. Y maent yn ddynion parod i bob dyledswydd, a rhai ewyllysgar i groesawu ymwelwyr.

Melin y Ffrwd: Sonir mewn hen lyfrau am ddwy felin oedd gynt yn Niwbwrch, sef Melin Rhosyr a'r Felin Newydd. Mae annedd-dŷ a elwir Bryn y Felin wedi ei adeiladu ar y lle y safai y felin wynt arno. Mae yn y plwyf amaethdŷ bychan a elwir Melin Ffrwd. Dywed rhai fod olion llyn yn ymyl y tŷ yma. Efallai mai yn agos i'r lle y cyfeirir ato yr oedd yr ail felin.

Plas Uchaf: Yr wyf wedi methu cael allan pwy adeiladodd yr hen blâs hwn ac nis gwn i bwy y perthynai cyn i Samuel Roberts (yr hen Samol y Plâs) ei brynu yn gynar yn y Ganrif. Amaethwr o Benmynydd oedd hen wr hwnnw.

Mae ar dalcen y gegin groes, ac yn gwynebu'r ffordd fawr, arfbais rhyw deulu uchel. Bum yn ceisio deall yr argraff a'r arwyddluniau, ond methais oherwydd fod y tywydd a'r gwyngalchiad wedi eu gwneud yn aneglur. Gellir darllen tri o rifnodau y flwyddyn (16(?)1), ac mae'r bar ar draws yr arfbais yn eglur, ond y mae yn anhawdd os nad amhosibl deongli'r lluniau. Mae gwar yr hen blas wedi crymu llawer. Os dymchwelir rhan o hono, y mae arnaf ofn y bydd ei holl gyflwr yn anfeddyginiaethol. Wrth syllu arno llanwyd fi gan fil o adgofion; a thra yn sefyll ar ben uchaf y gefnen a goronir gan y Plas Uchaf pwysai hiraeth yn drwm arnaf. Bum am ddiwrnodiau lawer yn ddilynol yn methu tynnu fy myfyrdod oddiar ddigwyddiadau cysylltiol a mi a hen gyfoedion yn yr amser gynt ynghymydogaeth y Plâs. Gellir ysgrifenu uwchben gorweddfa lliaws o'r cymdeithion hyny ysgrif gyffelyb i'r gwpled a gerfiodd Bardd Du Mon ar fedd hen berchennog y Plas

"Yn noeth Samol wnaeth symud
I isder bedd o stwr byd."

Plasau eraill: Plas Newydd a berthynai gynt i Oweniaid Bodowen. Yn ddiweddarach yr oedd yn eiddo i'r Parch Edward Hughes, yna i'w fab, Arglwydd Dinorben; ac wedi hynny i nai y diweddaf, sef Mr. Hughes, Kinmel. Pan werthwyd yr etifeddiaeth prynwyd Plas Newydd gan Cadben Roberts, Tal Praich. Plas Pydewau a berthyn i Wynniaid Glynllifon. Tynwyd yr hen blas i lawr ac adeiladodd John Rowland bedwar o dai yn ei le yn Heol yr Eglwys. Hen Blas sydd yn gysylltiol ag etifeddiaethau Llanidan a Llugwy. Arglwydd Boston yw'r perchennog. Sign Fawr (os nad wyf yn camgymeryd) oedd plas teulu Bod Ednyfed. Yr oedd Hendŷ (etifeddiaeth R. Roberts, tad Canon Roberts, Colwyn Bay,) Llain Nest, a Waen Sign yn perthyn i'r un teulu. Adeiladwyd Tal Braich ar Waen Sign.

Tyddyn: Hen dŷ lled fawr yn rhandir Hendre Rhosyr. Nid ydwyf yn gwybod pwy oedd yr hen etifeddion. Mae'r tŷ a'r tyddyn yn awr ym meddiant Owen Jeffreys Jones, ŵyr i John Jones y Tyddyn.

Tyddyn Pwrpas: Neu yn hytrach Tyddyn Bwrdais oedd efallai rywfodd yn gysylltiol a swydd y Maer, neu Y Bwrdais sef yr aelod seneddol. Yr oedd yn y dreflan hefyd Lain y Beiliaid. Ar y llain honno yr adeiladwyd y Rhenc Newydd, sef tai i'r tlodion. ddiweddar gwerthwyd y Rhenc ac adeiladwyd Soar Terrace yn ei lle. Ar ben Llain y Beiliaid, sef y lle y saif Capel Soar (A) arno, yr oedd adeilad dwbl. Gelwid un ran yn "Ysgoldy" a'r llall yn "Heinws," (Lockup). Yr oedd drws yr olaf fel drws carchar yn orchuddiedig â hoelion; ac ymhen uchaf y drws yr oedd twll crwn trwy yr hwn, meddid, y cai carcharor ei damaid bwyd.

Y Llys: Nid oes yma Lys yn awr, ond y mae'r cae lle safai gynt yn dwyn yr enw hyd heddyw. Y mae'r cae hwnnw yn agos i'r Eglwys, yn y cyfeiriad de-orllewinol o honi. Yr oedd y Llys wedi ei dynnu i lawr cyn amser Rowlands, ond canfu yr hynafiaethydd ddigon o olion i'w alluogi i ddweyd mai adeilad petryal oedd yr hen le. Clywais Robert T. Jones, Caeau Brychion, yn dweyd ddarfod i Charles Thomas, Ty'n Rallt, gloddio meini ynghwrr gorllewinol y cae, y rhai a ymddangosent fel sylfeini adeilad henafol. Gwnaed y darganfyddiad ychydig dros ugain mlynedd yn ol. Safai y Llys yn Hendre Rhosyr. Ar ol i'r Llys ddadfeilio cysylltwyd y tir â Thy'n Rallt. Yr etifedd yn amser Rowlands oedd William Griffith, un o ddisgynyddion yr hen rydd-ddeiliaid gynt.

Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at Lys Rhosyr yn ei gariad-gerddi, neu ei nofel brydyddol. Morfudd o'r Llys oedd ei gariad neu ei arwres.

Mae hen amaethdŷ Ty'n Rallt, lle y preswyliai y deiliaid diweddar, yn sefyll ar ben yr allt ynghwr Niwbwrch ac ynghyfeiriad yr Eglwys. Mae'r etifeddiaeth wedi ei thorri i fyny, a'i gwerthu i wahanol brynwyr. Fel y sylwais mewn pennod o'r blaen cymerodd Shôn Dafydd Ty'n Rallt a'i deulu ran flaenllaw iawn yn nechreuad yr adfywiad Methodistaidd yn Niwbwrch. Wyr i Shôn Dafydd oedd y Parch D. Jones, Dwyran. Y mae llawer o deuluoedd yn y parthau hyn yn disgyn o hono trwy un o'i dri mab, enwau y rhai oedd Shôn Shôn Dafydd, William Shôn Dafydd, ac Owen Shôn Dafydd.

Nodiadau

golygu