Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Catherine—St. Petersburg—Cymeryd Narva

Yn Dychwelyd Adref—Gwrthryfel yn Moscow—Narva Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Brwydr Pultowa

CATHERINE—ST. PETERSBURG—CYMERYD NARVA

Nid ein bwriad yw croniclo y brwydrau a'r gwarchaeadau yn ystod y flwyddyn nesaf a'r un ganlynol, ond bydd i ni nodi un o honynt yn fanwl, am iddi fod yn achlysur i ddwyn i sylw Pedr berson a gymerodd ran fawr yn ei holl helyntion dyfodol. Marienberg, tref fechan ar gyffiniau Ingria a Livonia, a warchaeid gan fyddin Pedr, ac a roddwyd i fyny yn anamodol. Naill ai trwy ddamwain neu yn fwriadol, y Swediaid a'i hamddiffynent a osodasant dân yn yr ystorfa bylor, yr hyn a gythruddodd y Rwasiaid i'r fath raddau fel y dinystriasant y dref, gan gludo ymaith y trigolion. Yn mysg y. carcharorion yr oedd geneth ieuangc oddeutu un ar bymtheg oed, Livoniad o enedigaeth, yr hon a ddygid i fyny o elusen yn nhŷ gweinidog Lutheraidd. Nid oes un lle i feddwl ei bod erioed wedi byw mewn uwch sefyllfa nag fel morwyn yn y teulu; ond dywedir ei bod wedi ymbriodi a milwr Swedaidd, yr hwn â laddwyd yn y gwarchae. Dygwyd y weddw amddifaid i wersyll un o'r cadfridogion Rwssiaidd. Pa bryd yn fanwl y gwelodd Pedr hi gyntaf, nis gellir byth ei wybod; ond yr hanes tebycaf ydyw, ei bod yn cario o amgylch ffrwythau sych a gwirodydd yn mhabell y Tywysog Menzikoff, ac mai yno y darfu i'r gaethes Livonaidd; yr hon a adnabyddid wrth yr enw Martha, dyny sylw yr ymerawdwr y tro cyntaf. Yn ei ddull arferol, pan fyddai wedi ei foddhau gan foesau a gwynebpryd rhywun, efe a ymddiddanodd â hi, a chafodd allan ei bod yn feddiannol ar ddealltwriaeth uwchlaw y cyffredin. At hyn hefyd yr oedd yn meddu tymher fywiog a siriol, calon garedig, a thymher addfwyn. Diameu fod Pedr wedi gweled mai hi oedd y ddynes a wnelai y tro iddo, yn un a allai gydymdeimlo ag ef yn ei gynlluniau—yn fyr, i fod yn wraig iddo. Nid oedd iselder ei genedigaeth yn un rhwystr iddo ef; yr oedd ganddo awdurdod i'w chodi i'r safle uwchaf yn yr ymerodraeth; ac felly, wrth yr enw Catherine, yr hwn a fabwysiadodd yn awr, efe a'i priododd, yn gyntaf yn ddirgelaidd, ond yn mhen ychydig flynyddau gyda rhwysg a mawredd ymerodrol. Fel hyn y dewisodd ei gydymaith ar yr orsedd, a'i olynydd ynddi ar ei ol.

Yn fuan ar ol y pethau hyn-1700—bu i farwolaeth y "patriarch," neu ben yr Eglwys Roeg, roddi iddo gyfleustra i ddechreu rhai diwygiadau iachus yn y sefydliad hwnw. Yn gyntaf, efe a ddiddymodd swydd y patriarch, ac a osododd ei hun ei le, heb unrhyw ragbarotoad, am y tybiai nad oedd dim a allai yr offeiriaid ddysgu iddo ag oedd arno eisiau ei wybod. A diau nad oedd dosparth o ddynion a ddysgent fod sancteiddrwydd yn hanfodi mewn barf, a'r rhai a arferent roddi llythyrau cymeradwyol at eu sant achlesol yn nwylaw pobl wedi meirw pan yn gorwedd yn eu heirch, yn debyg o gael llawer o barch gan ddiwygiwr mor enwog a Phedr I.

Yr argraffwasg, yr hon a ddygasid gan Pedr i Rwssia, a fwriai allan bob cableddau arno; a galwai yr offeiriaid ef yn Anghrist. Ond yr oedd ychydig yn ei amddiffyn ef rhag y cyhuddiad hwn, eithr yn unig am nad oedd y rhif 666 yn ei enw, ac nad oedd ganddo nod y bwystfil !

Oddeutu yr amser yma cafodd yr ymerawdwr gyfleustra rhagorol i ddangos fod arferion newydd yn gyffredinol yn well na hen rai. Ar yr achlysur o briodas un o'i chwiorydd, efe a wahoddodd brif foneddigion a boneddigesau Moscow i ddyfod iddi, a gorchymynodd iddynt ymwisgo mewn dillad henafol. Gweinyddid y ciniaw yn ôl у dull yr unfed ganrif ar bymtheg: Yn ol hen ofergoeledd, gwaherddid cyneu tân ar ddiwrnod priodas; felly, er ei bod yn auaf, ni oleuwyd tân. Gynt ni byddai y Rwssiaid yn yfed gwin, ac felly, ni ddarparwyd dim; a phan oedd y gwahoddedigion yn grwgnach oherwydd y trefniadau anarferol, Pedr a ddywedodd wrthynt, "Dyma ddefodau eich hynafiaid, ac yr ydych yn dyweyd mai hen ddefodau yw y goreu" gwers ag oedd yn fwy grymus iddynt nag unrhyw ymresymiad mewn geiriau.

Wedi cael y taleithiau oedd arno eisiau, dechreuodd Pedr adeiladu Petersburg; yn nghyflawniad yr hwn orchwyl efe a orchfygodd anhawsderau a fuasent yn ddigon i ddigaloni unrhyw ddyn arall. Y llecyn a ddewisodd ydoedd morfa truenus, y naill haner ohono o dan ddwfr, heb goed, clai, na cherig, nac unrhyw ddefnyddiau adeiladu; yr oedd у tir yn ddiffrwyth, a'r hinsawdd braidd mor oer a phegwn y gogledd. Y mae y penderfyniad i adeiladu dinas mewn lle fel hyn wedi cael son am dano bob amser fel gweithred dra annoeth; oblegyd, yn ychwanegol at yr anfanteision ereill, yr oedd yn agored i gael ei orlifo gan ddyfroedd y forgaingc, os chwythai y gwynt yn hir o'r de-orllewin, yn enwedig os dygwyddai chwythu felly pan fyddai rhew yr afon Neva yn cael ei doddi gan wres yr haf.

Pa un a oedd Pedr yn hysbys o'r anfanteision hyn ai peidio nid yw yn gwbl hysbys. Y peth sydd sicr ydyw, er gwaethaf pobpeth, ei fod wedi parhau i adeiladu St. Petersburg, yr hon, o dan ei egnïon rhyfeddol, a ddaeth yn fuan yn ddinas ysblenydd, ac yn gyfaddas i wneyd masnach a'r holl fyd. Yr hyn a ddechreuwyd ganddo ef a gwblhawyd gan ei olynwyr; ac y mae St. Petersburg erbyn heddyw yn alluog i gystadlu mewn ardderchogrwydd gydag un ddinas yn Ewrop. Er na chafodd erioed lawer o niwaid trwy orlifiadau, fel yr ofnid, y mae ar amryw achlysuron wedi cael ei gosod mewn perygl mawr, a'r trigolion mewn perygl hefyd.

Prif wrthymgeisydd Pedr oedd Siarl XII. o Sweden, un o filwyr mwyaf galluog yr oes hono. Y mae yn amlwg nad oedd gan Siarl ddim mwy, uchel yn ei natur nag a berthynai i ymladdwr pen ffordd. Yr oedd yn byw fel pe buasai dynion wedi dyfod i'r byd i ryfela, a dim arall. Nid oedd ganddo un meddylddrych am y fath beth a heddwch. Chwarddai am ben pob cysylltiadau cymdeithasol a theuluaidd, a gwnai wawd o dreialon mwyaf cyfyng y teimladau dynol. Pedr, ar y llaw arall, ni chefnogai ryfel, ond yn unig er dwyn yn mlaen ryw amcan mawr arall. Tra yn ymladd brwydrau, yr oedd ar yr un pryd yn cynllunio dinasoedd, yn sefydlu ysbyttai ac ysgolion, yn ffurfio camlesydd, yn adeiladu pontydd, ac yn trafaelio o gwmpas i arolygu pobpeth ei hunan, dan bob amgylchiadau, ac yn mhob hinsawdd; a thrwy hyny efe â ddinystriodd ei gyfansoddiad, gan hau hadau yr afiechyd a'i cariodd ef ymaith yn mlodau ei ddyddiau.

Tra yr oedd Siarl yn brysur mewn lleoedd ereill, cymerodd Pedr y cyfle i ail ymosod ar Narva. Gwarchaoodd hi trwy y môr ac ar y tir, er fod lluaws mawr o'i. filwyr yn Poland, ereill yn amddiffyn y gweithiau yn St. Petersburg, ac adran arall o flaen Derpt. Ond ar ol lluaws o ymosodiadau ar un tu, a gwrthwynebiad penderfynol ar y tu arall, Narva o'r diwedd a gymerwyd, ac yr oedd yr ymerawdwr yn mhlith y rhai blaenaf a aethant i mewn i'r ddinas, a'i gleddyf yn ei law. Rhaid fod. ei ymddygiad ar yr achlysur hwn wedi enill iddo barch, ac hyd yn nod serch ei ddeiliaid newydd. Yr oedd y gwarchaewyr wedi gwthio eu ffordd i'r ddinas, lle yr oeddynt yn lladrata ac yn ymarfer pob rhysedd ag y mae milwyr cynddeiriog yn alluogo hono. Rhedai Pedr o heol i heol, achubodd amrwy ferched o ddwylaw y milwyr creulon, a thrwy bob moddion ymdrechodd roddi pen ar drais a lladdedigaeth, gan ladd, a'i law ei hun, ddau o'r mileiniaid a wrthodasent ufuddhau i'w orchymynion. Aeth i mewn i neuadd y dref, lle yr oedd y dinaswyr wedi ffoi yn dyrfaoedd am ddyogelwch, ac wedi gosod ei gleddyf gwaedlyd ar y bwrdd, efe a waeddodd, "Nid yw y cleddyf hwn wedi ei ystaenio â gwaed eich cyd-ddinaswyr, ond â gwaed fy milwyr fy hun, yr hwn a dywelltais er mwyn achub eich bywydau chwi!"