Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia/Prawf a Farwolaeth Alexis

Brwydr Pultowa Hanes Pedr Fawr, Ymerawdwr Rwssia

gan Hugh Humphreys, Caernarfon

Marwolaeth Pedr Fawr

PRAWF A FARWOLAETH ALEXIS

Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfran dywyll ac aneglur yn mywyd Pedr Fawr. Ymddengys fod Alexis, mab Pedr o'i wraig ysgaredig, yn meddu yn naturiol ar ddealltwriaeth egwan, yn gysylltiedig â'r math hwnw o gyfrwysdra isel ag sydd yn ei ddylyn yn fynych, heb fod unrhyw ragoriaethau moesol i wrthbwyso y cyfryw ddiffygion; ac yn anffortunus nid oedd ei addysg wyrgam ond wedi ei gadarnhau yn ei ddrygedd a'i folineb. Crybwyllwyd yn barod fod Pedr, ar ddiddymiad y briodas, wedi gadael i'w fab aros dan ofal ei fam. Y canlyniad fu iddo, er yn ieuangc, gael ei osod dan ddylanwad yr offeiriaid, y rhai nid yn unig, a lanwasant ei feddwl â syniadau coelgrefyddol, ond dysgasant ef fod y cyfnewidiadau yn y llywodraeth ac arferion y bobl, y rhai a wnaethid gan yr ymerawdwr, yn weithrediadau croes i feddwl Duw. Y mae yn amhosibl peidio cydymdeimlo a Phedr yn y siomedigaeth a raid ei fod wedi ei deimlo wrth gael ei unig fab yn greadur dwl, drygionus, ac ofer, oblegyd yr oedd yr unig fab a anesid iddo o Catherine wedi marw pan yn faban.

Pan oedd Alexis oddeutu ugain mlwydd oed, sef tua'r amser y darganfu Pedr y drwg a wnaethai, efe a ymdrechodd ei ddiwygio, trwy osod mathau ereill o bobl o'i amgylch, a'i anfon i drafaelio. Pan ddychwelodd yn ol, efo a'i priododd â thywysoges brydferth a deallus o deulu Brunswick, yr hon a fu farw cyn pen pedair blynedd, o doriad calon, oherwydd creulondeb, esgeulusdod, a meddwdod ei gŵr. Ar ol ei marwolaeth, Pedr a ysgrifenodd lythyr at ei fab, yr hwn a derfynai yn y geiriau hyn :—"Mi a arosaf ychydig amser eto, i edrych a fydd i chwi ymddiwygio; ac os na wnewch, gwybyddwch y bydd i mi eich tori o'r olyniaeth, fel y byddwn yn tori ymaith aelod diles. Na ddychymygwch nad wyf yn meddwl ond eich dychrynu; na phwyswch ar y ffaith mai chwi yw fy unig fab; canys os na arbedaf fy mywyd fy hun dros fy ngwlad a’m pobl, pa fodd yr arbedaf chwi? Byddai yn well genyf adael fy nheyrnas i dramoriad a'i teilyngai, nag i fy mab fy hun, yr hwn sydd yn gwneyd ei hunan yn annheilwng o honi." Ac mewn llythyr ar ol hyny Pedr a ddywedai, Cymerwch eich dewis; naill ai gwneyd eich hun yn deilwng o'r orsedd, neu ynte ymgymeryd â bywyd mynach."

Ymddengys nad oedd Alexis yn foddlawn i wneyd y naill beth na'r llall, er yn ymddangos yn edifeiriol ar adegau. Pan oedd yr ymerawdwr ar gychwyn i'w daith trwy Germani a Ffraingc, efe a ymwelodd a'i fab, yr hwn oedd ar y pryd ar wely cystudd. Y pryd hyn addawodd Alexis droi yn fynach, os adferid ei iechyd; ond mor gynted ag yr oedd ei dad allan o Rwssia, daeth yn berffaith iach, ac aeth yn mlaen yn ei hen fuchedd o derfysg ac ysbleddach. Cyrhaeddodd rhyw air am hyn at y tad. yr hwn a ysgrifenodd ato, gan ei orchymyn yn bendant naill ai iddo ymgymeryd â bywyd mynach, neu ynte ei gyfarfod ef yn Copenhagen. Alexis a benderfynodd fyned i Copenhagen, a chafodd arian gan Mensikoff i dalu ei draul. Ond i Vienna yr aeth, a thrwy iddo beri cryn drwbl i ymerawdwr Germani, gorfu arno ymadael oddi yno am Naples. Ymddengys mai ei amcan ydoedd myned mor bell ag y gallai oddiwrth ei dad; ond nid oedd Pedr Fawr yn ddyn a gymerai ei drin fel hyn,—felly anfonwyd cenadon i'w gyrchu adref i Moscow. Wedi cyrhaedd yno, cynaliwyd cynghor ar y mater, yn Chwefror 1718, a dietifeddwyd ef yn gyhoeddus; profwyd ef ar y cyhuddiad o fod wedi bradwriaethu yn erbyn ei dad a'r deyrngadair gan nifer o seneddwyr a swyddogion milwrol. Wedi prawf hirfaith, efe o'r diwedd a gafwyd. yn euog, a thraddodwyd dedfryd marwolaeth arno; ond y fath fu ei ddychryn pan y clywodd hyny, fel y syrthiodd i lewygfeydd, o'r rhai ni lwyr ymddadebrodd, a bu farw yn druenus yn y carchar ar y 7fed o fis Gorphenaf.